Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Ystafell Bwyllgor, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni ac yn Rhithiol drwy ZOOM
Cyswllt: Ann Holmes
| Rhif. | Eitem |
|---|---|
|
Ymddiheuriadau Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd ymddiheuriadau am absenoldeb ac fe'u nodwyd fel uchod.
|
|
|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn datganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog mewn pertynas ag unrhyw eitem o fusnes. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o fuddiant.
|
|
|
Materion brys ardystiwyd gan y Prif Weithredwr neu ei Swyddog Apwyntiedig Dim materion brys ar adeg anfon y rhaglen hon. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dim i'w adrodd.
|
|
|
Cyflwyno i’w cadarnhau, gofnodion drafft y cyfarfod o’r Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar 24 Mehefin 2025. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar 24 Mehefin 2025 i'w cadarnhau.
Penderfynwyd cadarnhau cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar 24 Mehefin 2025 fel rhai cywir.
|
|
|
Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Democratiaeth. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Democratiaeth a oedd yn cynnwys Blaenraglen Waith y Pwyllgor Gwaith ar gyfer y cyfnod rhwng Awst 2025 a Mawrth, 2026 i'w gadarnhau.
Diweddarodd y Pennaeth Democratiaeth y Pwyllgor Gwaith ar y newidiadau i'r Blaenraglen Waith fel a ganlyn –
· Mae'r eitem Hunanasesu ac Adrodd Perfformiad yn ychwanegiad at gyfarfod 23 Medi. Mae'r adroddiad yn ceisio diwygio'r Cyfansoddiad i gyfuno hunanasesu ac adrodd perfformiad â'r Adroddiad Perfformiad Blynyddol ac i ddirprwyo'r cyfrifoldeb i'r Pwyllgor Gwaith. Bydd yr adroddiad yn cael ei gyflwyno i'r Cyngor Llawn wedyn. · Mae'r Cynllun Ariannol Tymor Canolig a Phrynu hen Safle Peboc, Llangefni hefyd wedi'u hychwanegu at gyfarfod 23 Medi. · Mae'r Adroddiad Hunanasesu, Perfformiad a Lles 2024/25 yn eitem newydd ar gyfer cyfarfod 25 Tachwedd. Mae'r Cynllun Strategol Addysg Ddigidol hefyd wedi'i aildrefnu i fis Tachwedd o fis Hydref 2025. · Ychwanegiad at gyfarfod Mawrth 2026 yw Cerdyn Sgorio Corfforaethol Chwarter 3 2025/26.
Penderfynwyd cadarnhau Blaen RagIen Waith y Pwyllgor Gwaith wedi’i diweddaru am y cyfnod Awst 2025 i Mawrth 2026 gyda’r newidiadau a nodwyd yn y cyfarfod.
|
|
|
Alldro Cyfalaf 2024/25 Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 oedd yn nodi sefyllfa alldro cyfalaf ar gyfer 2024/25 i'w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith. Roedd Atodiad B i'r adroddiad yn darparu dadansoddiad manwl o gynnydd prosiectau unigol o fewn y rhaglen gyfalaf. Nodwyd bod y ffigurau yn yr adroddiad yn destun archwiliad a gallent gael eu haddasu wrth i gyfrifon 2024/25 gael eu cwblhau.
Cyflwynodd y Cynghorydd Robin Williams, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Portffolio Cyllid a Thai, yr adroddiad gan nodi bod y Cyngor wedi cymeradwyo rhaglen gyfalaf gychwynnol o £43.838m ym mis Mawrth 2024. Ym mis Gorffennaf, cymeradwyodd y Pwyllgor Gwaith y llithriad o £15.499m ymlaen o 2023/24, gan arwain at gyllideb ddiwygiedig o £59.337m. Yn ystod y flwyddyn, ymgorfforwyd cynlluniau ychwanegol yn y rhaglen gyfalaf i adlewyrchu newidiadau mewn cyllid a’r grantiau newydd a dderbyniwyd. Ychwanegwyd cyfanswm o £18.910m at y rhaglen gyfalaf gan gynnwys £3.074m yn y chwarter olaf. Gofynnir i'r Pwyllgor Gwaith gymeradwyo'r ychwanegiadau a wnaed yn y chwarter olaf. Dangosir manylion yr holl gynlluniau a ychwanegwyd yn ystod y flwyddyn a'u ffynonellau cyllido yn Atodiad C i'r adroddiad. Dangosir cynlluniau a ychwanegwyd yn y chwarter olaf yn Atodiad CH. Daw cyfanswm y rhaglen gyfalaf i £78.247m, wedi'i ariannu fel yr amlinellir yn Nhabl 1 o'r adroddiad. Cyfanswm y gwariant ar gyfer 2024/25 oedd £64.726m, sy'n cynrychioli 83% o'r gyllideb.
Tynnodd y Cynghorydd Robin Williams sylw at y ffaith bod y prif brosiectau sydd wedi tanwario’r gyllideb a gymeradwywyd ar eu cyfer wedi'u rhestru yn Nhabl 3. Mae'r rhain yn cynnwys dau brosiect lle mae'r Cyngor yn dal y cyllid ond yn dibynnu ar gyrff allanol i dalu'r rhan fwyaf o'r gwariant. Pan fydd y ddau gynllun hyn wedi'u heithrio, mae'r gyllideb gyffredinol a ddefnyddir yn cynyddu i 88%. O ran sefyllfa’r llithriad o £2.529m, pwysleisiodd y Cynghorydd Robin Willams fod yr holl gyllid allanol cysylltiedig wedi'i sicrhau a bydd ar gael i gefnogi'r llithriad a ddygwyd ymlaen yn 2025/26.
Nododd y Pwyllgor Gwaith fod lefel y tanwariant yn welliant ar sefyllfa 2023/24 pan wariwyd dim ond 75% o'r cyllid oedd ar gael. Cydnabuwyd ymhellach nad yw tanwariant ar y rhaglen gyfalaf yn annisgwyl wrth ddelio â nifer fawr o brosiectau cymhleth, a bod rhesymau dilys dros yr amrywiadau wedi'u nodi yn yr adroddiad.
Penderfynwyd –
· Nodi’r sefyllfa alldro drafft ar gyfer rhaglen gyfalaf 2024/25 (yn amodol ar archwiliad). · Cymeradwyo ychwanegu £3.074m i gyllideb 2024/25 o ganlyniad i gyllideb ychwanegol a dderbyniwyd yn ystod y chwarter terfynol, sy’n dod â chyllideb derfynol 2024/25 i £78.247m. · Cymeradwyo dwyn ymlaen £2.529m o wariant a’r cyllid cysylltiedig i gyllideb 2025/26. Y gyllideb ddiwygiedig ar gyfer 2025/26 yw £46.823m.
|
|
|
Alldro y Cyfrif Refeniw Tai 2024/25 Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 a oedd yn nodi perfformiad ariannol y Cyfrif Refeniw Tai ar gyfer 2024/25 i'w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith.
Cyflwynodd y Cynghorydd Robin Williams, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Portffolio Cyllid a Thai yr adroddiad gan nodi bod y gyllideb refeniw wedi'i gosod gyda gwarged a gynlluniwyd o £8,369k. Cyfanswm y gyllideb gyfalaf gros ar gyfer 2024/25 oedd £29,573k, a thrwy £10,578 o gyllid grant a £509k o gronfa wrth gefn a glustnodwyd bu modd gostwng y gyllideb net i £18,485k. Rhoddodd y cyfuniad o'r gyllideb refeniw a'r gyllideb gyfalaf wedi'i haddasu ddiffyg arfaethedig o £10,116k, yr oedd £7,011k ohono i gael ei ariannu o gronfa wrth gefn y CRT, gyda'r gweddill o £3,105k i'w ariannu gan fenthyciadau allanol.
Ar ddiwedd Chwarter 4, dangosodd cyfrif refeniw y CRT danwariant o £543k o'i gymharu â'r gyllideb. Roedd y gwariant cyfalaf £2,105k yn is na'r gyllideb ar ddiwedd y flwyddyn. Roedd incwm grant £6,623k yn uwch na’r disgwyl ac roedd derbyniadau cyfalaf £632k yn uwch na'r gyllideb. Y diffyg ar ddiwedd y flwyddyn yn sgil cyfuno refeniw a chyfalaf oedd £214k, sef £9,902k yn llai na'r hyn y cyllidebwyd ar ei gyfer. Gostyngiad yn y diffyg cyfalaf sydd i gyfri yn bennaf am hyn, fel yr esbonnir yn Adran 9 isod.
Roedd balans agoriadol cronfa y CRT yn £8.189k. Roedd y gyllideb yn darparu ar gyfer defnyddio £7,011k o’r balans hwn, gan adael yr isafswm balans o £1,177k yn unol â Chynllun Busnes y CRT. Fodd bynnag, dim ond £214k oedd ei angen i ariannu'r diffyg refeniw a chyfalaf cyfunol yn y flwyddyn, oedd yn golygu bod balans cronfa wrth gefn y CRT yn £7,975k ar ddiwedd y flwyddyn ariannol.
Tynnodd y Cynghorydd Robin Williams sylw at y ffaith bod y CRT wedi'i neilltuo sy'n golygu na ellir trosglwyddo ei gronfeydd wrth gefn i'r Gronfa Gyffredinol na defnyddio cronfeydd wrth gefn y Gronfa Gyffredinol i ariannu'r CRT.
Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 mai'r bwriad gwreiddiol oedd lleihau cronfa wrth gefn y CRT i lefel sy'n cyfateb i 5% o'r gyllideb incwm, sef tua £1.6m. Oherwydd tanwariant ac yn fwy arwyddocaol, cyllid grant ychwanegol a oedd i gyfri am gyfran fawr o wariant cyfalaf, mae balans wrth gefn y CRT yn parhau i fod yn sylweddol uwch na'r disgwyl ar ddechrau'r flwyddyn ariannol. Bydd yn cael ei ddefnyddio i ariannu gwariant cyfalaf yn 2025/26, a thrwy hynny, lleihau'r balans wrth gefn ac osgoi benthyca allanol a'r costau cysylltiedig. Cyfeiriodd Swyddog Adran 151 at Atodiad C o'r adroddiad a oedd yn manylu ar y gyllideb datblygu tai ar gyfer 2024/25 a'r cynlluniau yr oedd wedi’u cefnogi. Roedd rhai o'r cynlluniau hyn bellach wedi'u cwblhau a thenantiaid yn byw ynddynt.
Roedd y Pwyllgor Gwaith yn cydnabod y buddsoddiad mewn datblygiadau newydd a'r tai mawr eu hangen a ddarparwyd ganddynt, gan gydnabod hefyd yr heriau sydd o'n blaenau, yn enwedig i fodloni gofynion Safonau Ansawdd Tai newydd Cymru 2023 a'r costau y byddai hyn yn ei olygu. ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 7. |
|
|
Adolygiad Blynyddol Rheoli'r Trysorlys ar gyfer 2024/25 Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 a oedd yn cynnwys adolygiad blynyddol Rheoli’r Trysorlys ar gyfer 2024/25 i'w ystyried. Mae'r adroddiad yn rhoi diweddariad economaidd, yn amlinellu’r sefyllfa bresennol ynglŷn â benthyca, yn adolygu perfformiad buddsoddi ac yn mesur sefyllfa bresennol y Cyngor yn erbyn y dangosyddion perfformiad sydd yn y Strategaeth Rheoli’r Trysorlys flynyddol.
Cyflwynodd y Cynghorydd Robin Williams, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Portffolio Cyllid a Thai, yr adroddiad fel sy'n ofynnol gan God Ymarfer CIPFA ar Reoli’r Trysorlys a Chod Darbodus CIPFA ar gyfer Cyllid Cyfalaf mewn Awdurdodau Lleol a nododd fod y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio wedi adolygu'r adroddiad ar 16 Gorffennaf ac y byddai'n cael ei gyflwyno i'r Cyngor Llawn ar 25 Medi, 2025. Roedd ffurf symlach yr adroddiad yn cael ei groesawu gan y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio.
Amlinellodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 brif elfennau’r adroddiad sef trosolwg o'r ffactorau economaidd sy'n effeithio ar benderfyniadau rheoli trysorlys y Cyngor, gwariant cyfalaf y Cyngor a'i effaith ar waith rheoli trysorlys a sefyllfa fenthyca'r Cyngor. Dywedodd fod strategaeth y Cyngor wedi parhau i osgoi benthyca allanol oherwydd cyfraddau llog uchel yn hytrach defnyddio cronfeydd wrth gefn mewnol y Cyngor i ariannu gwariant cyfalaf fel y dangosir yn Nhabl 5 o'r adroddiad. Efallai y bydd angen ystyried benthyciad allanol tua diwedd y flwyddyn ariannol gyfredol er mwyn cynnal llif arian digonol. Os bydd angen benthyca allanol, bydd ar sail tymor byr a rhagwelir ail-ariannu hyn yn 2026/27 pan fydd disgwyl i gyfraddau llog ostwng. O ran buddsoddiad, arweiniodd balansau uwch ym mis Ebrill yn sgil cyllid Llywodraeth Cymru, grantiau a derbyniadau'r Dreth Gyngor at gynnydd o ran buddsoddi. Wrth i falansau arian parod gael eu defnyddio a lleihau yn ystod y flwyddyn, mae'r gallu i fuddsoddi yn gostwng. Fodd bynnag, mae’r ffaith bod cyfraddau llôg yn dal yn dda ac incwm grant ychwanegol wedi arwain at ddychweliadau uwch nag y cyllidebwyd ar eu cyfer, gan roi hwb i gyllid y Cyngor.
Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 fod y Cyngor wedi cydymffurfio'n llawn â'r dangosyddion perfformiad a'r terfynau awdurdodedig a nodir yn Strategaeth Rheoli Trysorlys 2024/25 (gweler Tabl 7). Mae'r adroddiad yn gadarnhaol ac yn dangos rheolaeth ariannol ddarbodus a chyfrifol.
Croesawodd y Pwyllgor Gwaith yr adroddiad a chymeradwyodd ddull synhwyrol y Cyngor o reoli’r trysorlys a defnyddio arian cyhoeddus.
Cododd y Cynghorydd Dafydd Roberts gwestiwn ynglŷn â'r cynnydd sydyn mewn ad-daliadau benthyciadau yn 2052/53 (Atodiad 1 - Cyfanswm y Benthyciadau sy'n ddyledus ar 31 Mawrth 2025 yn ôl blwyddyn ad-dalu) a sut mae hyn yn cyd-fynd â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol. Esboniodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 fod rhai o'r benthyciadau ar yr atodlen yn hanesyddol sy'n dyddio'n ôl nifer o flynyddoedd, ac mai'r nod wrth fenthyca yw lledaenu'r ad-daliadau yn gyfartal dros nifer o flynyddoedd. O ran 2052/53, bydd angen cynllunio yn nes at yr amser naill ai i gymryd benthyciad newydd i ad-dalu rhywfaint neu'r holl ddyled neu drwy ail-ariannu mewn modd amserol pan fo ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 8. |
|
|
Cyfrifon Terfynol Drafft 2024/25 a defnydd o Gronfeydd Wrth Gefn a Balansau Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 a oedd yn cynnwys y Datganiad Incwm a Gwariant Cynhwysfawr (CIES) drafft ar gyfer 2024/25 a'r Fantolen ddrafft ar 31 Mawrth 2025 i'w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith.
Cyflwynodd y Cynghorydd Robin Williams, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Portffolio Cyllid a Thai, yr adroddiad yn amlinellu'r prif ddatganiadau ariannol drafft ar gyfer blwyddyn ariannol 2024/25. Roedd yr adroddiad yn cynnwys crynodeb o falansau cyffredinol y Cyngor, y cronfeydd wrth gefn a glustnodwyd, balansau ysgolion a chronfa wrth gefn y CRT a'u defnydd arfaethedig yn 2025/26 a'r blynyddoedd dilynol. Mae'r adroddiad hefyd yn nodi barn Swyddog Adran 151 y Cyngor ar ddigonolrwydd y cronfeydd wrth gefn ac a ydynt yn cynnig digon o wydnwch ariannol a darpariaeth ar gyfer y risgiau sy'n wynebu'r Cyngor. Gan fod risgiau’n gallu newid, bydd lefel y balansau cyffredinol a'r cronfeydd wrth gefn a glustnodwyd yn cael eu hadolygu dros y misoedd nesaf. Nododd y Cynghorydd Robin Williams nad yw'r ffigurau wedi'u harchwilio ac y gallant newid yn dilyn y broses archwilio. Bydd adroddiad ar y Datganiad terfynol o'r Cyfrifon yn cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio a'r Cyngor Llawn ar ôl cwblhau'r archwiliad.
Esboniodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 fod y Datganiad o'r Cyfrifon yn ddogfen dechnegol gymhleth sy'n cael ei pharatoi yn unol â safonau a rheoliadau cyfrifyddu. Er efallai nad dyma'r ffynhonnell wybodaeth fwyaf hygyrch i drethdalwyr ynghylch sut mae'r Cyngor yn rheoli arian cyhoeddus, gall rhai adrannau, fel y nodiadau, fod yn ddefnyddiol. O ran yr amserlen, cyhoeddodd y Cyngor ei Ddatganiad drafft ddiwedd mis Mehefin, erbyn y dyddiad cau diwygiedig o 30 Mehefin yn lle’r dyddiad cau gwreiddiol ar 31 Mai sydd bellach yn cael ei ystyried yn anymarferol. Mae'r cyfrifon drafft wedi'u cyflwyno i'w harchwilio gyda'r nod o gael eu llofnodi erbyn diwedd mis Hydref, 2025. Mynegodd Swyddog Adran 151 werthfawrogiad i staff y Gwasanaeth Cyfrifyddu a’i gwnaeth yn bosibl cydymffurfio â'r amserlen.
Er bod y CIES yn dangos bod gan y Cyngor warged o £45m ar gost gwasanaethau, mae hyn yn adlewyrchu'r gost gyfrifyddu yn hytrach na'r swm a ariennir gan grantiau a threthiant a phan fydd yr addasiadau angenrheidiol wedi'u gwneud mae'r gwir warged yn cael ei ostwng i £3.74m. Mae wedi'i ychwanegu at y Balansau Cyffredinol. Mae Tabl 2 o'r adroddiad yn crynhoi'r gwahanol gronfeydd wrth gefn a’r balansau sydd gan y Cyngor gan gynnwys symudiadau i mewn ac allan o'r cronfeydd wrth gefn hynny - manylir yn llawnach arnynt yn Atodiad 4. Crynhoir cronfeydd wrth gefn a glustnodwyd yn Nhabl 5 gyda manylion pellach yn Atodiad 5. Mae cronfeydd wrth gefn newydd a glustnodwyd ac y gofynnwyd amdanynt, a'u diben, wedi'u rhestru yn Nhabl 4 o'r adroddiad. Cyfeiriodd Swyddog Adran 151 at y gostyngiad ym malansau ysgolion ar gyfer 2024/25 ond cadarnhaodd fod y sector ysgolion yn parhau i fod yn ariannol sefydlog yn gyffredinol ac yn cymharu'n dda ag ysgolion mewn awdurdodau lleol eraill. Dim ond pedair ysgol gynradd sydd mewn sefyllfa o ddiffyg, ac ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 9. |
|
|
Asesiad Panel Perfformiad Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Proffesiwn, AD a Thrawsnewid. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Proffesiwn (AD) a Thrawsnewid a oedd yn nodi'r themâu arfaethedig ar gyfer Asesiad Perfformiad Panel (PPA) i'w ystyried a'i gymeradwyo gan y Pwyllgor Gwaith.
Cyflwynodd y Cynghorydd Carwyn Jones, Aelod Portffolio Busnes Corfforaethol a Phrofiad Cwsmeriaid yr adroddiad ar y trefniadau ar gyfer Asesiad Perfformiad Panel sy'n ofynnol yn ôl Deddf Etholiadau Llywodraeth Leol (Cymru) 2015. Rhaid i bob cyngor drefnu PPA unwaith yn ystod pob cylch etholiad 5 mlynedd. Nid archwiliad nac arolygiad yw'r PPA ond yn hytrach adolygiad allanol annibynnol o ba mor dda y mae'r Cyngor yn bodloni ei ofynion o ran perfformiad. Mae'n cyfuno dadansoddiad oddi ar y safle ag asesiad ar y safle a gynhelir dros bedwar diwrnod ac sydd wedi'i drefnu ar gyfer 10 i 13 Tachwedd 2025. Bydd y Prif Weithredwr a'r Pwyllgor Gwaith yn cytuno ar ei aelodau ymlaen llaw mewn cydweithrediad â Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru sydd wedi penodi dau swyddog i gefnogi gwaith y Panel. Ar ôl ystyried yr heriau sy'n wynebu'r Cyngor, cynigir mai'r ddau faes a amlinellir yn adran 2 o'r adroddiad - sy'n gysylltiedig ag amcanion strategol y Cyngor a'i ymagwedd at weithio gyda phartneriaid a chymunedau i gyflawni'r amcanion hynny - fydd ffocws yr asesiad. Mae'r amserlen ar gyfer pob cam o'r PPA wedi'i nodi yn adran 7. Ar ôl asesu, bydd y Panel yn cyhoeddi adroddiad i'r Cyngor yn manylu ar ei gasgliadau a'r camau gweithredu a argymhellir.
Cadarnhaodd y Rheolwr Cynllunio, Perfformiad a Rhaglenni Corfforaethol fod CLlLC yn gyfrifol am gydlynu gwaith y Panel a bod y Cyngor yn parhau i weithio'n agos gyda CLlLC. Sicrhaodd y Pwyllgor Gwaith fod y trefniadau ar gyfer y PPA yn mynd rhagddo.
Dywedodd y Prif Weithredwr fod y Cyngor yn awyddus i ddysgu o'r broses a thynnodd sylw at ymgysylltu â chynghorau sydd eisoes wedi cynnal PPA i nodi arferion effeithiol i sicrhau proses mor rhwydd â phosibl ac i wneud y mwyaf o fanteision yr asesiad er mwyn cyfrannu at gynlluniau gwella'r Cyngor.
Croesawodd y Pwyllgor Gwaith y cyfle i gael persbectif allanol annibynnol ar berfformiad trwy'r PPA, yn enwedig ei ymgynghoriad â phartneriaid a'r cyfle i fynegi'r hyn y mae'r Cyngor yn ei wneud a'r gwaith dan sylw.
Penderfynwyd cytuno’r materion i’r Panel eu hystyried fel a nodir yn Atodiad 1 yr adroddiad, sef –
· Trefniadau cyflawni amcanion strategol Cynllun y Cyngor – a yw trefniadau’r Cyngor yn rhoi sicrwydd ei fod yn cyflawni Cynllun y Cyngor yn effeithlon, ac · A yw’r Cyngor yn cyd-weithio yn effeithiol gyda chymunedau a phartneriaid i gyflawni amcanion strategol Cynllun y Cyngor.
|
|
|
Cau Allan y Wasg a'r Cyhoedd Ystyried mabwysiadau’r canlynol –
“Dan Adran 100 (A)(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, mae modd cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol, oherwydd y posibilrwydd y caiff gwybodaeth ei rhyddhau a honno’n wybodaeth y gwna Atodlen 12A y Ddeddf a’r Prawf Budd y Cyhoedd eithriad ohoni.” Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Penderfynwyd o dan Adran (100)(A)(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, i wahardd y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol oherwydd y golygai ddatgelu gwybodaeth eithriedig fel y caiff ei diffinio yn Atodlen 12A o’r Ddeddf honno ac ym Mhrawf Budd y Cyhoedd a gyflwynwyd.
|
|
|
Cynllun Gofal Ychwanegol a Chartref Gofal Preswyl Aethwy – Achos Busnes Llawn (ABLl) Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol. Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol a oedd yn cynnwys Achos Busnes Llawn (ABLl) ar gyfer cynllun Gofal Ychwanegol a Chartref Gofal Preswyl Aethwy i'w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith.
Cyflwynwyd yr adroddiad gan Reolwr y Rhaglen a roddodd ddiweddariad yn cadarnhau bod y cynllun bellach wedi'i ddatblygu'n dda. Roedd dyluniad manwl wedi'i gwblhau a phrif gontractwr wedi'i benodi o dan gontract dylunio ac adeiladu dau gam. Disgwylir y bydd y gwaith tendro ar gyfer pecynnau isgontractwyr yn digwydd dros y tri mis nesaf. Mae trafodaethau wedi bod yn parhau gyda Llywodraeth Cymru i gytuno ar broses ar gyfer cyflwyno, herio a chymeradwyo'r Achos Busnes Llawn. Mae amserlen arfaethedig yn cynnwys cyflwyno'r ABLl drafft i Lywodraeth Cymru ym mis Gorffennaf yn seiliedig ar gostau amcangyfrifedig gyda diweddariad ym mis Tachwedd ar ôl derbyn y prisiau tendro. Bydd yr ABLl terfynol yn cael ei ystyried gan Banel Buddsoddi Llywodraeth Cymru ym mis Rhagfyr 2025, ac os derbynnir yr ABLl disgwylir yr anfonir llythyr yn cymeradwyo grant ym mis Ionawr 2026. Yn amodol ar y Pwyllgor Gwaith yn cymeradwyo'r argymhellion, bydd y dyddiadau'n cael eu trafod gyda Llywodraeth Cymru. Y rheswm dros gytuno ar y broses hon yw sicrhau bod cyllid grant yn cael ei sicrhau o fewn y cyfnod y mae'r pris tendro ar gael o hyd. Mae’r achos busnes yn ceisio cyllid tuag at y gost gyfunol o ddatblygu elfennau tîm adnoddau cymunedol y cynllun a’r cartref gofal preswyl. Bydd cais ar wahân yn cael ei gyflwyno am grant tai cymdeithasol/tai gyda chyllid gofal tuag at y costau gofal ychwanegol. Bydd costau sy'n weddill yn cael eu hariannu trwy fenthyciadau'r CRT.
Pwysleisiodd y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion bwysigrwydd gwneud cynnydd amserol er mwyn gwneud y mwyaf o'r cyfleoedd cyllido grant sydd ar gael.
Roedd y Pwyllgor Gwaith yn cydnabod y gwaith sylweddol a wnaed i ddatblygu'r Achos Busnes Llawn ac yn cydnabod bod y cynllun yn fuddsoddiad strategol o bwys i'r Cyngor. Yn sgil y newid mewn demograffeg a phoblogaeth sy'n heneiddio, cydnabuwyd bod y cynllun yn gam pwysig o ran darparu gofal cymdeithasol i oedolion.
Wrth ymateb i ymholiad ynglŷn ag awdurdod dirprwyedig i swyddogion ddiwygio a diweddaru'r ABLl, eglurodd y Rheolwr Rhaglen y byddai awdurdod o'r fath yn berthnasol i fân newidiadau’n unig.
Penderfynwyd -
· Cymeradwyo’r Achos Busnes Llawn (ABLl) ar gyfer cynllun Gofal Ychwanegol/Cartref Gofal Preswyl Aethwy. · Cymeradwyo cyflwyno’r ABLl i Lywodraeth Cymru. · Dirprwyo awdurdod i Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol mewn ymgynghoriad â’r Dirprwy Arweinydd a Deilydd Portffolio Cyllid a Thai, y Prif Weithredwr, Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/ Swyddog Adran 151 a’r Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro i ddiwygio a/neu ddiweddaru’r ABLl fel y bo angen – os nad yw’r newidiadau’n arwain at newidiadau o bwys (yn nhermau polisi, egwyddorion, cyfraniad ariannol [ar wahân i gyfraniad CRT – os yw’r prosiect yn elwa ar NPV cadarnhaol], risgiau, a niwed i drydydd parti. · Ymrwymo i ariannu gofyniad y Cyngor ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 12. |