Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Ystafell Bwyllgor, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni ac yn Rhithiol drwy ZOOM
Cyswllt: Ann Holmes
| Rhif. | Eitem |
|---|---|
|
Ymddiheuriadau Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd a nodwyd yr ymddiheuriadau y cyfeirir atynt uchod.
|
|
|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn datganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni dderbyniwyd yr un datganiad o ddiddordeb.
|
|
|
Materion brys ardystiwyd gan y Prif Weithredwr neu ei Swyddog Apwyntiedig Dim materion brys ar adeg anfon y rhaglen hon. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dim i adrodd arno.
|
|
|
Cyflwyno i’w cadarnhau, gofnodion drafft y cyfarfod o’r Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar 17 Gorffennaf 2025. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar 17 Gorffennaf 2025 i’w cadarnhau.
Penderfynwyd cadarnhau cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar 17 Gorffennaf 2025 yn rhai cywir. |
|
|
Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd, i’w gadarnhau, adroddiad y Pennaeth Democratiaeth yn ymgorffori blaenraglen waith y Pwyllgor Gwaith am y cyfnod rhwng misoedd Hydref 2025 a Mai 2026.
Cyflwynodd y Pennaeth Democratiaeth ddiweddariad i’r Pwyllgor Gwaith ar y newidiadau yn y flaenraglen waith, fel a ganlyn -
· Cyfarfod 21 Hydref 2025 – Adroddiad Blynyddol Cwynion a Chwythu'r Chwiban 2024/25 a Rhaglen Cysylltu â Gwaith yr Adran Gwaith a Phensiynau – Cytundeb Cydweithio. · Cyfarfod 25 Tachwedd 2025 – Sylfaen y Dreth Gyngor 2026/27 a Chyllideb Refeniw Ddrafft am 2026/27 (yn amodol ar amserlen gosod cyllideb Llywodraeth Cymru) · Cyfarfod 16 Rhagfyr 2025 – Adolygiad Canol Blwyddyn Rheoli'r Trysorlys 2025/26 a Rhenti Tai a Thaliadau Gwasanaeth 2026/27 · Cyfarfod 27 Ionawr 2026 - Strategaeth Gyfalaf, Gwasanaethau gofal cymdeithasol dibreswyl yn y gymuned - ffioedd a thaliadau, cartrefi preswyl yr Awdurdod Lleol - gosod y tâl safonol am 2026/27, ffioedd cartrefi gofal y sector annibynnol 2026/27 ac Ysgol Uwchradd Caergybi. · Cyfarfod 24 Chwefror 2026 - Datganiad Strategaeth Rheoli'r Trysorlys 2026/27, Ffïoedd a Thaliadau am 2026/27, Cynllun Ariannol Tymor Canolig a Chyllideb 2026/27 a Chyllideb Gyfalaf 2026/27. · Cyfarfod 24 Mawrth 2026 - Cynllun Busnes y Cyfrif Refeniw Tai 2026-2056.
Penderfynwyd cadarnhau Blaenraglen Waith ddiweddaraf y Pwyllgor Gwaith am y cyfnod rhwng misoedd Hydref 2025 a Mai 2026, gyda'r newidiadau a amlinellwyd yn y cyfarfod.
|
|
|
Hunanasesiad ac Adrodd Perfformiad Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd, i'w ystyried, adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor/Monitro) yn argymell gwelliant i Gyfansoddiad y Cyngor i gyfuno'r Adroddiad Hunanasesu Blynyddol a'r Adroddiad Perfformiad Blynyddol yn un ddogfen integredig. Byddai'r newid arfaethedig yn gwneud y Pwyllgor Gwaith yn gyfrifol am yr adroddiad cyfun.
Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cynghorydd Carwyn Jones, Aelod Portffolio Busnes Corfforaethol a Phrofiad Cwsmeriaid. Nododd fod cyhoeddi adroddiad Hunanasesu Blynyddol ac Adroddiad Llesiant Blynyddol yn ofyn statudol o dan Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 a Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol 2015, yn y drefn honno. Er bod y ddau adroddiad yn deillio o ddeddfwriaeth wahanol, maent yn cynnwys tir cyffredin sy'n dibynnu ar ddata a dadansoddiad tebyg i ddangos eu bod yn cydymffurfio â dwy set wahanol o ofynion statudol. Er mwyn lleihau gwaith dyblygu a sicrhau bod adnoddau'r Cyngor yn cael eu defnyddio mor effeithlon ac effeithiol â phosibl, ceid cynnig i gyfuno'r ddau adroddiad o dan y teitl Adroddiad Hunanasesu a Pherfformiad Blynyddol (Llesiant) a diwygio'r Cyfansoddiad i nodi bod yr adroddiad cyfun yn dod yn gyfrifoldeb y Pwyllgor Gwaith. Byddai'r adroddiad cyfun yn parhau i gael ei graffu gan y Pwyllgor Craffu Corfforaethol a’i oruchwylio gan y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio o dan ei gylch gorchwyl statudol.
Croesawodd y Pwyllgor Gwaith y cynnig fel cam ymarferol a chadarnhaol sy'n gymorth i ddefnyddio adnoddau’n effeithlon wrth gynnal gwaith craffu ac atebolrwydd. Nododd fod y canllawiau statudol sy'n cyd-fynd â Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 a Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol 2015 yn annog gwaith adrodd integredig lle bo modd.
Penderfynwyd argymell fel a ganlyn i’r Cyngor Llawn –
· Cymeradwyo'r newidiadau cyfansoddiadol gofynnol i nodi cyfuno'r Adroddiad ar yr Hunanasesiad Blynyddol a'r Adroddiad ar y Perfformiad (Llesiant) Blynyddol yn un ddogfen integredig o'r enw'r Adroddiad ar yr Hunanasesiad a’r Perfformiad (Llesiant) Blynyddol. · Cymeradwyo newidiadau i'r Cyfansoddiad i nodi mai cyfrifoldeb y Pwyllgor Gwaith fydd yr adroddiad cyfun y cyfeirir ato uchod. · Awdurdodi’r Swyddog Monitro i wneud y newidiadau cyfansoddiadol gofynnol i weithredu paragraffau 1 a 2 uchod.
|
|
|
Hunanasesiad Drafft 2024/25 Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Professiwn - AD a Thrawsnewid. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd, i’r Pwyllgor Gwaith ei ystyried, adroddiad Pennaeth y Proffesiwn (Adnoddau Dynol) a Thrawsnewid yn ymgorffori'r Hunanasesiad drafft am 2024/25. Mae'r hunanasesiad yn ymarfer blynyddol statudol sy'n gwerthuso pa mor dda y mae'r Cyngor wedi perfformio, y modd y mae’n defnyddio adnoddau a'i drefniadau llywodraethu.
Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cynghorydd Carwyn Jones, Aelod Portffolio Busnes Corfforaethol a Phrofiad Cwsmeriaid, yn uchafbwynt sawl mis o waith. Tynnodd ar sail dystiolaeth eang i asesu pa mor effeithiol y mae'r Cyngor yn darparu gwasanaethau, yn defnyddio ei adnoddau ac yn cynnal llywodraethu cadarn. Yn ystod 2024, adolygodd a mireiniodd y Cyngor ei ddull hunanasesu i symleiddio a chryfhau'r broses ymhellach. Gan weithio ar y cyd ar draws gwasanaethau, diwygiwyd y templed i ganolbwyntio ar bedwar maes allweddol sy'n cyd-fynd â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol – Cynllunio a Pherfformiad Gwasanaethau, Cynllunio'r Gweithlu, Cynllunio a Llywodraethu Ariannol gan gynnwys Risg, Archwilio, Caffael a Rheoli Contractau. Gofynnwyd i bob gwasanaeth werthuso ei berfformiad yn erbyn meini prawf oedd wedi'u diweddaru ac yna cafodd ei herio ar ei ganfyddiadau trwy gyfarfodydd adolygu gwasanaethau. Roedd yr hunanasesiad a ddeilliai o hyn yn crynhoi perfformiad cyffredinol y Cyngor am 2024/25 ac yn tynnu sylw at gryfderau a meysydd a nodwyd yn gyfleoedd i wella.
Pwysleisiodd y Cadeirydd fod hunanasesiad yn broses barhaus yn y Cyngor gydag aelodau portffolio yn mynd ati’n ddygn yn eu meysydd priodol. Roedd asesiad statudol o’r Panel Perfformiad, sy'n ofynnol unwaith ym mhob cylch etholiad, wedi'i drefnu am ddiwedd y flwyddyn, gyda'r hunanasesiad yn rhan sylweddol o'r adolygiad hwnnw. Nododd fod y broses herio o fewn yr hunanasesiad wedi bod yn fanwl a thrylwyr ac y câi ei defnyddio'n adeiladol i ysgogi gwelliant.
Nodwyd, hefyd, fod adborth allanol gan bartneriaid, rhanddeiliaid a rheoleiddwyr, megis adroddiadau Arolygiaeth Gofal Cymru ar wasanaethau cymdeithasol, yn elfen bwysig o'r hunanasesiad, wrth gyflwyno tystiolaeth glir a chadarn i gefnogi'r canfyddiadau.
Penderfynwyd mabwysiadu'r ddogfen a gyflwynwyd yn "ddrafft gweithredol" a gwahodd y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio i roi rhagor o ystyriaeth iddi yn ei gyfarfod ar 30 Medi 2025.
|
|
|
Monitro’r Cerdyn Sgorio – Chwarter 1, 2025/26 Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Proffesiwn, AD a Thrawsnewid. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd, i'r Pwyllgor Gwaith ei ystyried, adroddiad Pennaeth y Proffesiwn (Adnoddau Dynol) a Thrawsnewid yn ymgorffori adroddiad y Cerdyn Sgorio Corfforaethol am Chwarter 1 2025/26.
Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cynghorydd Carwyn Jones, Aelod Portffolio Busnes Corfforaethol a Phrofiad Cwsmeriaid. Dangosodd fod 90% o'r dangosyddion, oedd â thargedau a fonitrwyd yn ystod y chwarter, wedi perfformio'n dda yn erbyn y targedau hynny ac wedi'u graddio'n Wyrdd neu'n Felyn. Roedd y cerdyn sgorio wedi'i adolygu am 2025/26, gydag addasiadau wedi'u gwneud, yn cynnwys cyflwyno dangosyddion perfformiad allweddol newydd. Tynnodd sylw at y ffaith bod Dangosydd Tai 03 - nifer cyfartalog y dyddiau a gymerir i ailosod unedau llety (ac eithrio DTL) - wedi'i ddiwygio i eithrio eiddo newydd, fel ei bod yn cyd-fynd ag arfer darparwyr tai rhanbarthol eraill. Roedd y targed wedi'i addasu i 51 diwrnod i sicrhau ei fod yn parhau i fod yn realistig ond yn dal yn heriol. Cyfeiriodd y Cynghorydd Carwyn Jones at gyfarfod y Pwyllgor Craffu Corfforaethol ar 17 Medi, lle trafodwyd adroddiad y cerdyn sgorio’n helaeth a herio dangosyddion tanberfformio.
Adroddodd y Cynghorydd Jeff Evans, Cadeirydd y Pwyllgor Craffu Corfforaethol yn ôl o gyfarfod y pwyllgor ar 17 Medi, gan gadarnhau bod y pwyllgor wedi croesawu'r perfformiad cryf cyffredinol ar ddiwedd y chwarter cyntaf. Roedd y pwyllgor wedi ceisio sicrwydd ynghylch y pum dangosydd tanberfformio oedd yn ymwneud â thai, ailgylchu gwastraff domestig a phrydlondeb ymatebion Rhyddid Gwybodaeth. Gofynnwyd am fwy o eglurhad ynghylch cyflawni gwelliannau yn y meysydd hyn. Rhoddwyd sylw arbennig i'r tanberfformio parhaus wrth ailosod eiddo gwag a thrafodwyd cyflwyno grantiau cyfleusterau i'r anabl a phresenoldeb disgyblion yn y sectorau cynradd ac uwchradd. Yn dilyn sicrwydd, roedd y pwyllgor wedi penderfynu nodi'r adroddiad ar y Cerdyn Sgorio Corfforaethol am Chwarter 1 2025/26, yn cynnwys y meysydd yr oedd y Tîm Arweinyddiaeth yn eu harchwilio ac yn ymchwilio iddynt i reoli a sicrhau rhagor o welliannau i'r dyfodol, a’u hargymell i’r Pwyllgor Gwaith, ynghyd â'r mesurau lliniaru arfaethedig.
Diolchodd y Cadeirydd i'r Cynghorydd Jeff Evans am adborth ac adolygiad cynhwysfawr y pwyllgor craffu. Cadarnhaodd fod y Pwyllgor Gwaith yn ymwybodol o'r heriau wrth ailosod eiddo gwag a bod grŵp tasg a gorffen wedi'i gomisiynu i archwilio'r mater. Er bod y duedd yn gwella, câi ymdrechion parhaus eu gwneud i gyrraedd y targed. Nododd, hefyd, gyfarfod oedd ar y gweill gyda Dirprwy Brif Weinidog Llywodraeth Cymru ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd i drafod materion a thargedau ailgylchu, gan nodi mai ychydig o awdurdodau yng Nghymru oedd wedi cyrraedd nod ailgylchu 70% Llywodraeth Cymru. Cafodd pob aelod ei annog i roi gwybod i'r Dirprwy Arweinydd a'r Aelod Portffolio dros Dai am unrhyw wybodaeth yn ymwneud ag eiddo gwag yn eu hardal er mwyn ymchwilio a gweithredu ar unwaith.
Croesawodd y Pwyllgor Gwaith yr adroddiad a'r perfformiad cyffredinol cadarnhaol. Wrth nodi bod Dangosydd Perfformiad Allweddol 11 o dan Ofal Cymdeithasol a Llesiant, oedd yn ymwneud ag ymweliadau â Chanolfannau Hamdden, ychydig yn is na'r targed, o bosibl oherwydd tywydd da ar y ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 8. |
|
|
Monitro'r Gyllideb Refeniw - Chwarter 1, 2025/26 Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd, i’r Pwyllgor Gwaith rhoi sylw iddo, adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151, oedd yn nodi perfformiad ariannol gwasanaethau'r Cyngor ar ddiwedd Chwarter 1 hyd at 30 Mehefin 2025.
Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cynghorydd Robin Williams, y Dirprwy Arweinydd ac Aelod Portffolio Tai a Chyllid. Yn yr adroddiad, rhagwelwyd tanwariant diwedd blwyddyn ar y gyllideb refeniw o £1,551k (0.79%). Rhybuddiodd y Cynghorydd Robin Williams ei bod yn anodd rhagweld canlyniad diwedd blwyddyn mor gynnar gan y gallai’r sefyllfa newid yn sylweddol wrth i'r flwyddyn fynd yn ei blaen. Ffactorau oedd yn gyfrifol am hyn oedd y galw am wasanaethau, yn enwedig lleoliadau gofal plant, cyllid grant ychwanegol, gwariant untro annisgwyl, swyddi gwag, dyfarniadau cyflog a chyllido costau cyfraniadau Yswiriant Gwladol cynyddol.
Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 fod dyfarniadau cyflog ar gyfer staff addysgu a staff nad oeddynt yn addysgu bellach yn hysbys ac y caent eu hadlewyrchu yn ffigurau Chwarter 2. Roedd Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau cyllid grant rhannol i gefnogi costau cynyddol cyflog athrawon a gâi eu cynnwys yn setliad y flwyddyn nesaf. Tynnodd sylw at y ffaith fod gorwario mewn gwasanaethau Plant yn parhau i fod yn bryder ac yn her ar draws awdurdodau lleol ar hyn o bryd, er gwaethaf cynnydd o £2 filiwn yn y gyllideb flynyddol. O ran incwm, roedd ffioedd o geisiadau cynllunio a rheoliadau adeiladu wedi gostwng ond caent eu gwrthbwyso gan lefelau incwm uwch na'r disgwyl yn y gwasanaethau Hamdden a Phriffyrdd. Rhagwelid y byddai incwm craidd y Dreth Gyngor yn fwy na'r gyllideb o £514k, er y gallai hyn newid yn ystod y flwyddyn wrth i eithriadau gael eu gosod. Roedd disgwyl i gyllideb premiwm Treth y Cyngor gynhyrchu gwarged o £333k yn dilyn newidiadau i reolau defnyddio trethi busnes ar gyfer llety hunanarlwyo. Roedd hyn wedi peri i nifer o eiddo orfod talu Treth y Cyngor a dod yn atebol am y premiwm ail gartrefi. Rhagwelid apeliadau yn erbyn yr ailddosbarthiad hwn. Roedd y rhagolygon ariannol cynnar yn gadarnhaol ac os gwireddid y tanwariant a ragwelid, byddai’n cryfhau balansau'r Cyngor ac yn rhoi mwy o opsiynau wrth gynllunio at gyllideb 2026/27.
Nododd y Cadeirydd fod y Pwyllgor Gwaith yn ymwybodol o'r ffactorau a allai gael effaith ar y sefyllfa ddiwedd y flwyddyn. Er enghraifft, roedd cronfa wedi'i chlustnodi i liniaru risg ad-daliadau Treth y Cyngor oherwydd apeliadau llwyddiannus. Er bod costau cynyddol mewn lleoliadau gofal plant y tu hwnt i reolaeth y Cyngor, roedd rhaglen Cartrefi Clyd yn parhau i ehangu. Roedd yn fodd i blant gael gofal yn eu cymunedau eu hunain, gan gefnogi eu haddysg a'u lles wrth gynnig dewis arall mwy cost-effeithiol yn lle lleoliadau y tu allan i'r sir.
Penderfynwyd –
· Nodi'r sefyllfa a nodir yn Atodiadau A, B ac C yr adroddiad mewn perthynas â pherfformiad ariannol yr Awdurdod hyd yma a'r alldro disgwyliedig am 2025/26. · Nodi crynodeb o gyllidebau wrth gefn am 2025/26 a nodir yn Atodiad CH. · Nodi gwaith monitro costau asiantaeth ac ymgynghori am 2025/26 yn Atodiadau D ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 9. |
|
|
Monitro'r Gyllideb Cyfalaf - Chwarter 1, 2025/26 Cyflwyno adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd, i’r Pwyllgor Gwaith ei ystyried, adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151, oedd yn nodi perfformiad ariannol y gyllideb gyfalaf ar ddiwedd Chwarter 1, blwyddyn ariannol 2025/26.
Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cynghorydd Robin Williams, y Dirprwy Arweinydd ac Aelod Portffolio Tai a Chyllid. Nododd fod y Cyngor, ym mis Mawrth 2025, wedi cymeradwyo rhaglen gyfalaf o £23.7m ar gyfer gwasanaethau nad ydynt yn dai a £20.594m ar gyfer y Cyfrif Refeniw Tai am flwyddyn ariannol 2025/26. Ym mis Gorffennaf 2025, cymeradwyodd y Pwyllgor Gwaith £2.529m o lithriad cyfalaf, i'w ddwyn ymlaen o 2024/25, gan ddod â'r rhaglen gyfalaf ar gyfer gwasanaethau nad ydynt yn dai i £25.929m a £20.894m ar gyfer y Cyfrif Refeniw Tai. Ers cynnal y broses gosod y gyllideb, roedd cynlluniau ychwanegol, wedi'u hariannu gan grantiau yn bennaf, wedi'u hychwanegu at y rhaglen, ynghyd ag addasiadau i gyllid, oedd yn gyfanswm o £9.363m. Deuai hyn â'r gyllideb gyfalaf gyffredinol am 2025/26 i £56.186m. Ar 30 Mehefin 2025, dywedodd y Cynghorydd Robin Williams, fod £7.168m o'r gyllideb wedi'i wario gyda £723k pellach wedi'i ymrwymo, cyfanswm o £7.891m (14%). Fel arfer, roedd Chwarter 1 yn dawel, gyda nifer o gynlluniau cyfalaf wedi'u pwysoli tuag at ran olaf y flwyddyn ariannol.
Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 fod y prosiectau oedd wedi'u tanwario yn cael eu hariannu gan y Cyngor, gan sicrhau nad oedd unrhyw berygl o golli cyllid.
Penderfynwyd –
· Nodi cynnydd gwariant a derbyniadau yn erbyn cyllideb gyfalaf 2025/26 yn Chwarter 1. · Cymeradwyo'r cynlluniau ychwanegol, £9.363m, i'r rhaglen gyfalaf a gwelliannau i gyllid yn unol ag Atodiad C yr adroddiad. Byddai hyn yn arwain at gyllideb gyfalaf ddiwygiedig o £56.186m a 2025/26.
|
|
|
Monitro Cyllideb y Cyfrif Refeniw Tai - Chwarter 1, 2025/26 Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd, i'r Pwyllgor Gwaith ei ystyried, adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 oedd yn nodi perfformiad ariannol y Cyfrif Refeniw Tai am y cyfnod o 1 Ebrill i 30 Mehefin 2025.
Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cynghorydd Robin Williams, y Dirprwy Arweinydd ac Aelod Portffolio Tai a Chyllid a nododd bod y gyllideb refeniw wedi'i gosod gyda gwarged cyllidebol o £6,291k. £23,029k oedd y gyllideb gyfalaf gros am 2025/26. Roedd cyllid grant o £6,990k yn lleihau'r gyllideb net i £16,038k. Roedd cyfuniad y gyllideb refeniw a'r gyllideb gyfalaf addasedig yn creu diffyg cyllidebol cynlluniedig o £9,747k, y câi £6,820k ohono ei ariannu o gronfa wrth gefn y Cyfrif Refeniw Tai. Câi'r £2,927k oedd yn weddill ei ariannu trwy fenthyciad allanol. Roedd cyllideb refeniw'r Cyfrif Refeniw Tai ar ddiwedd y chwarter cyntaf wedi tangyflawni o £177k, o'i gymharu â'r gyllideb broffiliedig. Rhagwelwyd y byddai gwariant cyfalaf, yn ogystal ag incwm grantiau, o fewn y gyllideb ar ddiwedd y flwyddyn. Roedd y diffyg a ragwelwyd, oedd yn cyfuno refeniw a chyfalaf, bellach yn £9,558k, sef £189k yn llai na'r gyllideb.
Tynnodd y Cynghorydd Alun Roberts, Aelod Portffolio Gwasanaethau Oedolion a Diogelwch Cymunedol, sylw at gydymdrechion Tai a’r Gwasanaethau Cymdeithasol wrth ddatblygu llety ar gyfer unigolion bregus, yn enwedig oedolion ag anghenion arbennig/dysgu. Roedd y fenter hon yn rhan o'r strategaeth ehangach i foderneiddio gwasanaethau ar gyfer oedolion ag anableddau dysgu a hyrwyddo cyfleoedd i'w galluogi i fyw bywydau llawn, annibynnol yn eu cymunedau eu hunain.
Penderfynwyd nodi’r isod –
· Y sefyllfa a nodir mewn perthynas â pherfformiad ariannol y Cyfrif Refeniw Tai am Chwarter 1 2025/26. · Y rhagolwg am 2025/26.
|
|
|
Cynllun Ariannol Tymor Canolig 2026/27 - 2028/29 Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd, i’r Pwyllgor Gwaith ei ystyried, adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 yn ymgorffori'r Cynllun Ariannol Tymor Canolig ar gyfer 2026/27 i 2028/29. Nodai’r Cynllun strategaeth gyllidebol y Cyngor dros y tair blynedd nesaf, gan gynnwys y rhagdybiaethau a gâi eu dwyn ymlaen i'r broses flynyddol o osod cyllideb.
Cyflwynwyd y cynllun gan y Cynghorydd Robin Williams, y Dirprwy Arweinydd ac Aelod Portffolio Tai a Chyllid. Ynddo nodwyd gofynion adnoddau tebygol y Cyngor am y tair blynedd ariannol nesaf ac amlinellwyd sut oedd y Cyngor yn bwriadu cydbwyso'r gofynion adnoddau â'r cyllid oedd ar gael. Roedd y Cynllun Ariannol yn ystyried yr holl newidiadau hysbys yr oedd angen eu cynnwys yn y gyllideb sylfaenol am 2026/27 ac yn gwneud rhagdybiaethau ar y prif ffactorau a gâi effaith ar gyllideb refeniw'r Cyngor – costau cyflogau, pensiynau, chwyddiant cyffredinol, cyllid Llywodraeth Cymru, pwysau demograffig a galw.
Rhoddodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 gyd-destun ar ragolygon economaidd ehangach y DU gan nodi mai llywodraeth y DU oedd yn rhoi holl gyllid Llywodraeth Cymru iddi, er bod cyllid canolog y Cyngor yn dod o Lywodraeth Cymru. O ganlyniad, roedd cyflwr economi'r DU a phenderfyniadau cyllidebol yn cael effaith uniongyrchol ar gyllid Llywodraeth Cymru a llywodraeth leol. Roedd amseriad etholiadau'r Senedd, hefyd, yn cael effaith ar setliad llywodraeth leol. Roedd Ysgrifennydd Cabinet Llywodraeth Cymru dros Gyllid wedi cyhoeddi y byddai cyllideb 2026/27 yn seiliedig ar ddyraniad 2025/26, wedi'i addasu ar gyfer chwyddiant a amcangyfrifir ar oddeutu 2%. Câi cronfa wrth gefn o £400m ei chadw yn ôl i'w dyrannu gan y Llywodraeth newydd. Fodd bynnag, gallai’r cyllid gwirioneddol y byddai’r Cyngor yn ei dderbyn yn y pen draw fod yn is, gan ddibynnu ar y fformiwla ddosbarthu.
Ymhelaethodd y Swyddog Adran 151 ar y pwysau cyllidebol cenedlaethol a lleol oedd yn wynebu'r Cyngor dros gyfnod y Cynllun, fel y manylir yn adran 5 o'r adroddiad. Drwy ystyried yr holl faterion hyn, ochr yn ochr â rhagolygon incwm y Cyngor (adran 6) a chymhwyso'r rhagdybiaethau a nodir yn atodiad 2 yr adroddiad, roedd yn bosibl amcangyfrif y gyllideb refeniw am y tair blynedd hyd at 2028/29 (cyfeirir at hyn yn Nhabl 8). Roedd y gyllideb refeniw net amcangyfrifedig yn adlewyrchu cynnydd o 11.2% dros y cyfnod hwn. O dan y senario mwyaf tebygol, byddai angen £12.63m ychwanegol yn 2026/27 i fynd i'r afael â phwysau chwyddiant darparu'r gwasanaeth presennol a bodloni pwysau galw. Gan dybio cynnydd o 2% yn yr AEF o £4.98m a chynnydd o 5% yn y Dreth Gyngor (2.853m), roedd bwlch cyllidebol o £4.796m yn parhau. Wrth ystyried y £2.46m o gronfeydd wrth gefn a ddefnyddiwyd i gydbwyso cyllideb y flwyddyn flaenorol, roedd y diffyg yn cynyddu i £7.256m. Roedd gwasanaethau'n adolygu eu cyllidebau i nodi arbedion posibl ac roedd pwysau gwleidyddol yn cael ei roi ar Lywodraeth Cymru drwy Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i ailystyried ei chynnydd cyllido arfaethedig o 2% yn unig.
Roedd y Cyngor yn cadw'r opsiwn i ddefnyddio balansau cyffredinol a chronfeydd wrth gefn i helpu i ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 12. |
|
|
Cais am Arolwg Cymunedol o Gyngor Cymuned Pentraeth Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd, i’r Pwyllgor Gwaith ei ystyried, adroddiad y Pennaeth Democratiaeth mewn ymateb i gais trwy ddeiseb am adolygiad cymunedol o Gyngor Cymuned Pentraeth.
Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cynghorydd Carwyn Jones, Aelod Portffolio Busnes Corfforaethol a Phrofiad Cwsmeriaid. Nododd fod rhai o etholwyr cymuned Pentraeth wedi cyflwyno deiseb ddilys, ar 28 Gorffennaf 2025, yn galw ar y Cyngor i gychwyn adolygiad llywodraethu cymunedol adran 31 o'u cyngor cymuned. Cyfeiriodd y ddeiseb at y ffaith nad oedd hyder yn y cyngor oherwydd y cafwyd methiannau parhaus honedig, penderfyniadau gwael ac nad oedd tryloywder mewn llywodraethu a chynrychiolaeth leol. Galwodd y ddeiseb, hefyd, am atal unrhyw waith cyfethol neu benodiadau etholiadol i'r cyngor cymuned hyd oni byddai’r adolygiad wedi’i gynnal. Mewn ymateb, ysgrifennodd Swyddogion yn ôl at drefnydd y ddeiseb i egluro bod gweithdrefnau etholiadol a chyfethol wedi'u dilyn yn briodol ac nad oedd gan y Cyngor Sir unrhyw awdurdod cyfreithiol i ymyrryd yn y mater. Er gwaethaf dau gyfle diweddar i alw am etholiad, ni dderbyniwyd unrhyw geisiadau ac, felly, roedd pedair swydd wag wedi'u prosesu trwy gyfethol a byddai tair swydd wag arall, hefyd, yn cael eu prosesu fel hyn.
Esboniodd y Cynghorydd Carwyn Jones mai pwrpas adolygiad cymunedol oedd asesu a oedd ffiniau wardiau cymunedol presennol yn parhau i fod yn addas yng ngoleuni newidiadau poblogaeth neu unrhyw ddatblygiadau eraill. Yn ddelfrydol, dylai adolygiad o'r fath gael ei gynnal cyn i Gomisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru gynnal adolygiad etholiadol. Cynhelid adolygiad o'r fath gan y Comisiwn yn Ynys Môn rhwng Medi 2027 a Gorffennaf 2028. Roedd y Cyngor yn bwriadu cynnal adolygiad cymunedol adran 31 ar draws yr ynys cyn yr etholiadau llywodraeth leol nesaf ym mis Mai 2027, gan ddechrau'r broses erbyn diwedd 2025. Er mwyn sicrhau defnydd effeithlon o arian cyhoeddus ac adnoddau staffio, yr argymhelliad oedd cynnal adolygiad Pentraeth fel rhan o'r adolygiad o’r ynys ehangach.
Mewn ymateb i gais gan y Pwyllgor Gwaith, eglurodd y Pennaeth Democratiaeth fod adolygiad cymunedol adran 31 yn ystyried y trefniadau ar gyfer cynrychiolaeth ar gynghorau cymuned gan gynnwys nifer aelodau'r cyngor. Gallai’r adolygiad, hefyd, archwilio sut roedd wardiau wedi'u trefnu, gan gynnwys nifer y wardiau a'u ffiniau. Cynhelid yr adolygiadau hyn i sicrhau bod trefniadau etholiadol yn parhau i fod yn briodol cyn etholiad llywodraeth leol ac ystyried unrhyw newidiadau eraill yn y gymuned. O ran yr amserlen, eglurodd y Pennaeth Democratiaeth fod y broses yn cynnwys pedwar prif gam – cyhoeddusrwydd cychwynnol, ymchwiliadau cychwynnol ac ymgynghori, cynigion drafft ac ymgynghori ar y cynigion hynny ac argymhellion terfynol. Trefnwyd cynnal y ddau gam cyntaf rhwng mis Rhagfyr 2025 ac Ebrill 2026, gyda'r camau sy'n weddill wedi'u cynllunio ar gyfer rhwng mis Mehefin 2026 a mis Rhagfyr 2026. Byddid yn oedi’r broses ar gyfer etholiadau'r Senedd ym mis Mai 2026. Byddid, hefyd, yn ceisio mewnbwn gan y Comisiwn Ffiniau.
Wrth ymateb i gais am sicrwydd y câi adolygiad cymunedol ei ystyried yn ddigwyddiad arferol ac, oherwydd y cais penodol, y byddid yn rhoi blaenoriaeth i adolygiad o Gyngor Pentraeth ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 13. |
|
|
Cau Allan y Wasg a'r Cyhoedd Ystyried mabwysiadau’r canlynol –
“Dan Adran 100 (A)(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, mae modd cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol, oherwydd y posibilrwydd y caiff gwybodaeth ei rhyddhau a honno’n wybodaeth y gwna Atodlen 12A y Ddeddf a’r Prawf Budd y Cyhoedd eithriad ohoni.” Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: O dan Adran 100 (A) (4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, penderfynwyd cau allan y Wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol ar y sail y golygai ddatgelu gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir yn Atodlen 12A y Ddeddf honno ac yn y Prawf Budd y Cyhoedd a gyflwynwyd.
|
|
|
Pryniant hen safle Peboc, Llangefni Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd. Cofnodion: Cyflwynwyd, i’r Pwyllgor Gwaith ei ystyried, adroddiad y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd a nodai'r ffactorau allweddol mewn perthynas â’r bwriad i brynu hen safle Peboc yn Llangefni. Manylai'r adroddiad ar y rhesymeg dros y bwriad i’w brynu, y dull o’i brynu a'r goblygiadau cost a chyllido.
Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cynghorydd Gary Pritchard, yr Arweinydd a’r Aelod Portffolio dros Ddatblygu Economaidd, gan nodi mai'r cynnig oedd bod y Cyngor yn defnyddio cyllid cyfalaf a gyflwynir gan Borthladd Rhydd Ynys Môn i brynu hen safle Peboc a chlirio’r safle, ei baratoi a sicrhau mynediad iddo. Trwy wneud y gwaith cyn-ddatblygu hwn, ynghyd â chymhellion Treth Porthladd Rhydd, y nod oedd denu buddsoddiad y sector preifat.
Adroddodd y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd fod polisi lleol, rhanbarthol a chenedlaethol yn gyson, bod angen hwyluso lle busnes o ansawdd uchel i feithrin twf, cynorthwyo arloesedd a darparu swyddi o ansawdd uchel. Roedd angen swyddi a buddsoddiad ar Ynys Môn a Llangefni yn benodol. Roedd Peboc wedi'i ddynodi'n safle cyflogaeth wedi'i ddiogelu ac wedi'i gydnabod gan Lywodraeth Cymru yn Barth Menter. Polisi'r Cyngor oedd ailddefnyddio tir llwyd i berwyl economaidd. Roedd ailddatblygu Peboc yn unol â pholisi ac, felly, nid oedd angen i'r Cyngor ryddhau tir glas ar gyfer datblygu. Roedd Peboc, hefyd, yn rhan o safle Treth Canol Ynys Môn oedd yn golygu ei fod yn elwa ar gyllid cyfalaf cychwynnol a chymhellion Treth Porthladd Rhydd oedd yn gwella hyfywedd y safle i'r sector preifat. Roedd rhesymeg glir dros ei brynu i fynd i'r afael â phroblemau’r safle, denu buddsoddiad mewn ardal oedd mewn angen a diwallu angen tystiolaethol a chynyddol am arwynebedd llawr busnes i ategu cyfleoedd datblygu economaidd sylweddol oedd ar y gweill. Roedd yr adroddiad yn amlinellu'r gwaith a wnaed hyd yn hyn i hwyluso gwaith datblygu’r safle, gan gynnwys caniatâd cynllunio, y strategaeth ar gyfer prynu’r safle, yn amodol ar gymeradwyaeth y Pwyllgor Gwaith, a'r ystyriaethau dan sylw.
Dangosodd y Pwyllgor Gwaith gefnogaeth i'r cynnig. Roedd yn cydnabod ei fod yn gyfle gwerthfawr i ailddefnyddio safle a fu’n segur ers amser maith a sicrhau cyflogaeth yr oedd dirfawr ei hangen yn y rhan hon o Ynys Môn. Nodwyd bod y cynnig yn cyd-fynd ag un o brif amcanion strategol y Cyngor - ysgogi adfywio economaidd a chymunedol a chefnogi'r economi a busnesau lleol i dyfu a ffynnu.
Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 fod adroddiad wedi dod i law yswirwyr y Cyngor a rhoddodd grynodeb i'r aelodau o'i brif ganfyddiadau.
Penderfynwyd –
· Cymeradwyo’r egwyddor o brynu hen safle Peboc gan ddefnyddio cyllid cyfalaf cychwynnol Porthladd Rhydd Ynys Môn. · Dirprwyo'r awdurdod i'r Prif Weithredwr, ochr yn ochr â'r Swyddog Adran 151, brynu safle Peboc unwaith y byddai’r trafodaethau’n dod i ben. (Roedd y perchnogion presennol wedi derbyn cynnig dros dro).
· Dirprwyo'r awdurdod i'r Prif Weithredwr, ochr yn ochr â'r Swyddog Adran 151, drafod y taliadau iawndal a’u talu i’r defnyddwyr presennol.
|