Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Ystafell Bwyllgor, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni ac yn Rhithiol drwy ZOOM
Cyswllt: Ann Holmes
| Rhif. | Eitem |
|---|---|
|
Ymddiheuriadau Dogfennau ychwanegol: |
|
|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn datganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes. Dogfennau ychwanegol: |
|
|
Materion brys ardystiwyd gan y Prif Weithredwr neu ei Swyddog Apwyntiedig Dim materion brys ar adeg anfon y rhaglen hon. Dogfennau ychwanegol: |
|
|
Cyflwyno i’w cadarnhau, gofnodion drafft y cyfarfod o’r Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar 21 Hydref 2025. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: |
|
|
Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: |
|
|
Diwygio'r Cyfansoddiad - Rhoi Cymeradwyaeth Derfynol i Gyfrifon Blynyddol y Cyngor Cyflwyno adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: |
|
|
Monitro'r Cerdyn Sgorio – Chwarter 2, 2025/26 Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Proffesiwn – AD a Thrawsnewid. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Penderfynwyd derbyn adroddiad monitro’r cerdyn sgorio ar gyfer Chwarter 2 2025/26 a nodi’r meysydd y mae’r Tîm Arweinyddiaeth a’r gwasanaeth perthnasol yn eu harchwilio er mwyn eu rheoli a sicrhau gwelliannau pellach yn y dyfodol. Roedd y meysydd hyn yn ymwneud â Thai (ail-osod eiddo gwag a gwireddu Grantiau Cyfleusterau i’r Anabl), yr Economi (nifer y contractau angori blynyddol ac archwilio busnesau risg uchel i sicrhau eu bod yn cydymffurfio â deddfwriaeth hylendid bwyd), Newid Hinsawdd (ailgylchu gwastraff o’r cartref) ac Iechyd Cyngor Cyfan (ymateb i geisiadau Rhyddid Gwybodaeth yn unol â’r amserlen).
|
|
|
Adroddiad Hunanasesiad, Perfformiad a Llesiant 2024/25 Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Proffesiwn – AD a Thrawsnewid. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: |
|
|
Monitro Cyllideb Refeniw - Chwarter 2, 2025/26 Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adain 151. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad:
· Nodi’r sefyllfa a nodir yn Atodiadau A, B ac C yr adroddiad mewn perthynas â pherfformiad ariannol yr Awdurdod hyd yma a’r alldro a ragwelir ar gyfer 2025/26. · Nodi’r crynodeb o gyllidebau wrth gefn ar gyfer 2025/26, y manylir arnynt yn Atodiad CH. · Nodi’r modd y caiff costau asiantaeth ac ymgynghorwyr eu monitro ar gyfer 2025/26 yn Atodiadau D a DD.
|
|
|
Monitro Cyllideb Gyfalaf - Chwarter 2, 2025/26 Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adain 151. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Penderfynwyd -
· Nodi cynnydd y gwariant a’r derbyniadau yn erbyn cyllideb gyfalaf 2025/26 yn ystod chwarter 2. · Cymeradwyo’r cynlluniau ychwanegol gwerth £3.483m a ychwanegwyd i’r rhaglen gyfalaf, a newidiadau mewn cyllid, yn unol ag Atodiad C, fydd yn rhoi cyllideb gyfalaf ddiwygiedig o £59.669m ar gyfer 2025/26.
|
|
|
Monitro Cyllideb y Cyfrif Refeniw Tai - Chwarter 2, 2025/26 Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adain 151. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Penderfynwyd nodi’r canlynol -
· Y sefyllfa a nodir mewn perthynas â pherfformiad ariannol y Cyfrif Refeniw Tai (CRT) ar gyfer Chwarter 2 2025/26. · Yr alldro a ragwelir ar gyfer 2025/26.
|
|
|
Sylfaen y Dreth Gyngor ar gyfer 2026/27 Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adain 151. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Penderfynwyd -
· Nodi cyfrifiad Sylfaen y Dreth Gyngor gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151, fydd yn cael ei ddefnyddio gan Lywodraeth Cymru ar gyfer cyfrifo’r Grant Cynnal Refeniw i Gyngor Sir Ynys Môn am y flwyddyn ariannol 2026/27, sef 31,705.67 (Rhan E6 - Atodiad A i’r adroddiad). · Cymeradwyo’r cyfrifiad at ddiben pennu Sylfaen y Dreth Gyngor gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 am y cyfan o'r ardal ac am rannau ohoni am y flwyddyn 2026/27 (Rhan E5 - Atodiad A i’r adroddiad) · Yn unol â Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 a Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyfrifo Sylfaen y Dreth Gyngor) (Cymru) 1995 (SI19956/2561) fel y cawsant eu diwygio gan SI1999/2935 a Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyfrifo Sylfaen y Dreth Gyngor) a’r Dreth Gyngor (Dosbarthiadau Rhagnodedig o Anheddau) (Cymru) (Diwygiad) 2004 a Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyfrifo Sylfaen y Dreth Gyngor) (Cymru) (Diwygiad) 2016, y rhain yw'r cyfansymiau y mae Cyngor Sir Ynys Môn wedi eu cyfrif fel Sylfaen y Dreth am 2026/27, sef 33,887.44, ac am y rhannau hynny o'r ardal mae fel a restrir yn yr adroddiad o dan argymhelliad 3.
|
|
|
Rhaglen Cysylltu â Gwaith 2025-2030 Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Penderfynwyd -
· Nodi cynnydd hyd yma o ran datblygu cynllun cyflawni rhanbarthol Gogledd Cymru ar gyfer y Rhaglen Cysylltu â Gwaith 2025-2030. · Cytuno i wneud Cytundeb Cydweithio gyda Chyngor Sir Ddinbych sy’n gweithredu fel corff arweiniol ar gyfer Gogledd Cymru. · Cytuno i gyflwyno rhan Ynys Môn o Gynllun Cyflawni Gogledd Cymru i Gyngor Sir Ddinbych er mwyn ei gyflwyno wedyn i’r Adran Gwaith a Phensiynau. · Dirprwyo hawl i’r Pennaeth Gwasanaeth a’r Swyddog Adran 151 dderbyn y cytundeb cyllido Cysylltu â Gwaith. · Gwneud cytundeb grant gyda Môn CF Ltd i wireddu’r Rhaglen Cysylltu â Gwaith ar ran yr Awdurdod.
|
|
|
Derbyniad o Gynigion Grant Cyllid Uchelgais Gogledd Cymru Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Dirprwyo awdurdod i'r Prif Weithredwr, mewn ymgynghoriad â'r Arweinydd a’r Deilydd Portffolio Datblygu Economaidd, y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro a’r Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Adran 151, dderbyn y cynnig o £10.474m o arian grant gan Uchelgais Gogledd Cymru.
|
|
|
Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: |