Rhaglen a Phenderfyniadau

Pwyllgor Gwaith, Ystafell Bwyllgor, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni ac yn Rhithiol drwy ZOOM, Pwyllgor Gwaith - Dydd Mawrth, 24ain Chwefror, 2026 10.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni ac yn Rhithiol drwy ZOOM

Cyswllt: Ann Holmes 

Cyfryngau

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Ymddiheuriadau

Dogfennau ychwanegol:

2.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn datganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes.

Dogfennau ychwanegol:

3.

Materion brys ardystiwyd gan y Prif Weithredwr neu ei Swyddog Apwyntiedig

Dim materion brys ar adeg anfon y rhaglen hon.

Dogfennau ychwanegol:

4.

Cofnodion pdf eicon PDF 153 KB

Cyflwyno i’w cadarnhau, gofnodion drafft y cyfarfod o’r Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar 27 Ionawr 2026.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Penderfynwyd cadarnhau cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar 27 Ionawr, 2026 fel rhai cywir.

5.

Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith pdf eicon PDF 262 KB

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Penderfynwyd cadarnhau Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith wedi’i diweddaru ar gyfer y cyfnod rhwng Mawrth a Hydref 2026, gyda’r newidiadau y cyfeiriwyd atynt yn y cyfarfod.

 

6.

Monitro Cyllideb Refeniw 2025/26, Ch3 pdf eicon PDF 888 KB

Cyflwyno adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.  

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Penderfynwyd -

 

·      Nodi’r sefyllfa a nodir yn Atodiadau A, B ac C yr adroddiad mewn perthynas â pherfformiad ariannol yr Awdurdod hyd yma a’r alldro a ragwelir ar gyfer 2025/26.

·      Nodi’r crynodeb o gyllidebau wrth gefn ar gyfer 2025/26, y manylir arnynt yn Atodiad CH.

·      Nodi’r modd y caiff costau asiantaeth ac ymgynghorwyr eu monitro ar gyfer 2025/26 yn Atodiadau D a DD.

 

7.

Monitro'r Gyllideb Gyfalaf - Chwarter 3, 2025/26 pdf eicon PDF 650 KB

Cyflwyno adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Penderfynwyd -

 

·      Nodi cynnydd y gwariant a’r derbyniadau yn erbyn cyllideb gyfalaf 2025/26 yn ystod Chwarter 3.

·      Cymeradwyo’r cynlluniau ychwanegol gwerth £7.276m i’r rhaglen gyfalaf a newidiadau mewn cyllid, yn unol ag Atodiad C, fydd yn rhoi cyllideb gyfalaf ddiwygiedig o £66.945m ar gyfer 2025/26.

8.

Monitro Cyllideb y Cyfrif Refeniw Tai - Chwarter 3, 2025/26 pdf eicon PDF 325 KB

Cyflwyno adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Penderfynwyd nodi’r canlynol -

 

·      Y sefyllfa a nodir mewn perthynas â pherfformiad ariannol y Cyfrif Refeniw Tai (CRT) ar gyfer Chwarter 3 2025/26.

·      Yr alldro a ragwelir ar gyfer 2025/26.

 

9.

Datganiad Strategaeth Rheoli'r Trysorlys 2026/27 pdf eicon PDF 1 MB

Cyflwyno adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Penderfynwyd nodi’r Datganiad Strategaeth Rheoli Trysorlys 2026/2027 ac i drosglwyddo’r datganiad i’r Cyngor Llawn heb unrhyw sylw pellach.

 

10.

Ffioedd Cartrefi Gofal y Sector Annibynnol ar gyfer 2026/27 pdf eicon PDF 154 KB

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Penderfynwyd -

 

·      Cymeradwyo’r argymhelliad i gynyddu lefel y ffioedd fel a ganlyn:-

 

·         Gofal Preswyl (Pobl Hŷn) - £874.18 yr wythnos

·         Preswyl (Dementia) - £976.89 yr wythnos

·         Gofal Nyrsio (Elfen Gofal Cymdeithasol) - £952.07 yr wythnos (heb gynnwys gofal nyrsio di-dâl gan yr awdurdod lleol a’r bwrdd iechyd)

·         Nyrsio (Dementia) (Elfen Gofal Cymdeithasol) - £1,125.03 yr wythnos (heb gynnwys gofal nyrsio di-dâl gan yr awdurdod lleol a’r bwrdd iechyd).

 

·      Awdurdodi’r Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Gwasanaeth Cyllid i ymateb i unrhyw geisiadau gan gartrefi unigol i ymchwilio i’w cyfrifon penodol a defnyddio’r ymarfer fel sail i ystyried unrhyw eithriadau i’r ffioedd a gytunwyd. Bydd rhaid i’r Aelod Portffolio Gwasanaethau Oedolion, y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 a’r Pennaeth Gofal Cymdeithasol Oedolion gytuno ar unrhyw eithriadau o fewn y cyllidebau presennol.

 

11.

Ffioedd a Thaliadau 2026/27 pdf eicon PDF 10 MB

Cyflwyno adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.    

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Penderfynwyd cymeradwyo’r rhestr Ffioedd a Thaliadau ar gyfer 2026/27, fel a amlinellir yn y llyfryn a gyflwynwyd.

 

12.

Strategaeth Ariannol Tymor Canolig a Chyllideb 2026/27 pdf eicon PDF 317 KB

Cyflwyno adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.    

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Penderfynwyd -

 

·      Argymell bod y Cyngor Llawn yn derbyn y gyllideb refeniw ddrafft arfaethedig, a chynnydd o 5.1% yn y Dreth Gyngor ar gyfer eiddo Band D, gan olygu fod y gost yn 2026/27 yn £1,792.98, gan nodi y cyflwynir cynnig ffurfiol, fydd yn cynnwys praeseptau Heddlu Gogledd Cymru a Chynghorau Tref / Cymuned, i’r Cyngor ar 5 Mawrth 2026.

·      Nodi argymhelliad y Swyddog Adran 151 y dylai’r Cyngor gadw o leiaf £10.4m o falansau cyffredinol.

·      Nodi sylwadau’r Swyddog Adran 151 ynglŷn â chadernid yr amcangyfrifon, fel y nodir yn Adran 5 o Atodiad 1 yr adroddiad.

·      Awdurdodi’r Swyddog Adran 151 i wneud unrhyw newidiadau angenrheidiol cyn cyflwyno’r cynigion terfynol i’r Cyngor.

·      Cytuno y gellir defnyddio cyllid o’r gyllideb wrth gefn gyffredinol i gwrdd ag unrhyw bwysau annisgwyl ar gyllidebau seiliedig ar alw yn ystod y flwyddyn ariannol.

·      Gofyn i’r Cyngor awdurdodi’r Pwyllgor Gwaith i ryddhau hyd at £250k o’r balansau cyffredinol os bydd y gyllideb wrth gefn gyffredinol yn cael ei hymrwymo’n llawn yn ystod y flwyddyn.

·      Dirprwyo i’r Swyddog Adran 151 yr hawl i ryddhau cyllid o hyd at £50k o’r gyllideb wrth gefn gyffredinol ar gyfer unrhyw eitem unigol. Ni ddylid caniatáu unrhyw eitem gwerth dros £50k oni bai bod y Pwyllgor Gwaith wedi rhoi ei ganiatâd ymlaen llaw.

·      Cadarnhau bod lefel Premiwm y Dreth Gyngor ar gyfer ail gartrefi a thai gwag yn aros ar 100%.

 

13.

Cyllideb Gyfalaf 2026/27 pdf eicon PDF 333 KB

Cyflwyno adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.  

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Penderfynwyd argymell y rhaglen gyfalaf ganlynol i’r Cyngor llawn ar gyfer 2026/27:-

 

                                                                                     £’000  

 

Cynlluniau a Ddygwyd Ymlaen o 2025/26

(Cronfa Gyffredinol)                                                         8,394   

Adnewyddu Asedau / Prynu Asedau Newydd              6,937

Seilwaith Gwastraff                                                     3,806                                        

Pier a Phontynau Porthaethwy                                         225                                       

Gwaith Adnewyddu Plas Arthur Cam 2                         1,650               

Balchder Bro                                                                  1,500

Cyfrif Refeniw Tai                                                         31,572

 

Cyfanswm Rhaglen Gyfalaf a argymhellir 2026/27     54,084   

 

Ariennir Gan:

 

 

Grant Cyfalaf Cyffredinol                                              2,761

Benthyca â Chymorth Cyffredinol                               5,047

Cymunedau Dysgu

Benthyca heb Gymorth                                                  0,000

Cronfa Wrth Gefn Derbyniadau Cyfalaf                          271

Cronfeydd Wrth Gefn Clustnodedig                             3,452   

Grantiau Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru     10,044

Benthyca Digymorth

(Cronfa Gyffredinol)                                                         937

Gwarged Cyfrif Refeniw’r CRT                                                   5,418

Grantiau Allanol y CRT                                               17,291   

Benthyca heb Gymorth y CRT                                     8,863

 

Cyfanswm Cyllid Cyfalaf 2026/27                                54,084

 

14.

Polisi Gostyngiadau Dewisol y Dreth Gyngor pdf eicon PDF 466 KB

Cyflwyno adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Penderfynwyd gwneud yr argymhellion canlynol i’r Cyngor Llawn -

 

·      Cymeradwyo’r newid i Bolisi Gostyngiadau Dewisol at y Dreth Gyngor, er mwyn cyflwyno gostyngiad o 100% ar gyfer aelwydydd lle mae unigolyn sydd â salwch terfynol yn byw, yn unol ag Adran 13A Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992.

·      Gweithredu’r polisi o 1 Ebrill 2026, gan sicrhau bod proses ymgeisio a dogfennau ategol (gan gynnwys ardystiad SR1) ar waith.

·      Dirprwyo awdurdod i’r Rheolwr Gwasanaeth Refeniw a Budd-daliadau weinyddu’r cynllun a gwneud unrhyw fân addasiadau gweithredol fydd angen eu gwneud.

·      Monitro ac adolygu effaith y polisi ar ôl 12 mis a chyflwyno’r canfyddiadau i’r Pwyllgor Gwaith.

 

15.

Newid i'r Cyfansoddiad - Cymeradwyaeth terfynol i Ddatganiad Llywodraethiant Blynyddol y Cyngor pdf eicon PDF 189 KB

Cyflwyno adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Penderfynwyd argymell i’r Cyngor Llawn ei fod yn cymeradwyo’r newid arfaethedig i’r Cyfansoddiad er mwyn rhoi’r hawl i Bwyllgor Llywodraethu ac Archwilio’r Cyngor, yn hytrach na’r Cyngor, gymeradwyo Datganiad Llywodraethu Blynyddol y Cyngor yn derfynol.

 

16.

Dyrannu hyd at £100k o Gyllid o’r Balansau Cyffredinol pdf eicon PDF 136 KB

Cyflwyno adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Penderfynwyd -

 

·      Caniatáu i ryddhau hyd at £100k o falansau cyffredinol y Cyngor er mwyn -

 

·         Cadw’r gefnogaeth a ddarperir gan staff asiantaeth er mwyn datblygu arbenigedd dau gyfreithiwr sydd bellach wedi’u penodi.

·         Ariannu costau parhaus, ond dros dro, cefnogaeth gan staff asiantaeth ar gyfer cleientiaid, er mwyn sicrhau trosglwyddiad esmwyth a diogel yn ôl i ddarpariaeth gyfreithiol fewnol yn y meysydd gwaith arferol hynny

·         Cadw’r Swyddog Diogelu Data Dros Dro presennol i sicrhau bod y Rhaglen Adfer a Gwella Llywodraethu Gwybodaeth yn cael ei chyflawni, yn ogystal ag adolygu a diweddaru’r system CRM, a datblygu paragyfreithiwr newydd.

·      Dirprwyo unrhyw geisiadau pellach o’r fath i’r Arweinydd a’r Aelod Portffolio Cyllid, Busnes Corfforaethol a Phrofiad y Cwsmer, mewn trafodaeth â’r Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151.

 

17.

Ardoll Ymwelwyr pdf eicon PDF 2 MB

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Rheoleiddio a Datblgu Economaidd.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Penderfynwyd cefnogi’r canlynol –

 

·      Ymgymryd â phroses ymgynghori gyhoeddus mewn perthynas â’r  posibilrwydd o gyflwyno ardoll ymwelwyr ar Ynys Môn (yn unol â chanllawiau’r Cyngor a Llywodraeth Cymru).

·      Bod y broses ymgynghori yn cael ei chynllunio ar y cyd â Chynghorau Gwynedd a Chonwy, ond yn cael ei gweithredu’n annibynnol.

 

18.

Datganiad Polisi Trwyddedu 2026 - 2031 pdf eicon PDF 1 MB

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd.   

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Penderfynwyd cefnogi cyflwyno’r datganiad Polisi Trwyddedu 2026 - 2931 drafft i’r Cyngor Llawn er mwyn ei fabwysiadu.

 

19.

Maes Parcio Ger y Castell, Biwmares pdf eicon PDF 619 KB

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Penderfynwyd gwrthod y cais a gyflwynwyd mewn cynllun busnes gan Gyngor Tref Biwmares i drosglwyddo Maes Parcio’r Castell, Biwmares i’r Cyngor Tref, a chynnig prydles newydd iddynt hyd at 31 Mawrth 2026 yn seiliedig ar yr un amodau â’r brydles wreiddiol.

 

20.

Cynllun Strategol Manddaliadau 2026-2031 pdf eicon PDF 913 KB

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Penderfynwyd mabwysiadu’r Cynllun Strategol Rheoli Mân-ddaliadau 2026-2031.