Rhaglen, Penderfyniadau a Chofnodion.

Pwyllgor Gwaith, Ystafell Bwyllgor, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni ac yn Rhithiol drwy ZOOM, Pwyllgor Gwaith - Dydd Mawrth, 24ain Mawrth, 2026 10.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni ac yn Rhithiol drwy ZOOM

Cyswllt: Ann Holmes 

Cyfryngau

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Ymddiheuriadau

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nodwyd yr ymddiheuriadau am absenoldeb.

 

2.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn datganiad o ddiddordeb gan Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gwnaed datganiadau o fuddiant o dan eitem 7 isod.

 

3.

Materion Brys Ardystiwyd gan y Prif Weithredwr neu ei Swyddog Apwyntiedig

Dim materion brys ar adeg anfon y rhaglen hon.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim i'w adrodd.

 

4.

Cofnodion pdf eicon PDF 253 KB

Cyflwyno i’w cadarnhau, gofnodion drafft y cyfarfod o’r Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar 24 Chwefror 2026.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar 24 Chwefror 2026 i'w cadarnhau.

 

Penderfynwyd cadarnhau cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar 24 Chwefror 2026 fel rhai cywir.

 

5.

Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith pdf eicon PDF 301 KB

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd  a oedd yn cynnwys  Blaenraglen Waith y Pwyllgor Gwaith ar gyfer y cyfnod rhwng Ebrill a Thachwedd, 2026 i'w gadarnhau.

 

Rhoddodd y Pennaeth Democratiaeth y wybodaeth ddiweddaraf i’r Pwyllgor Gwaith am y newidiadau canlynol i'r Blaenraglen Waith –

 

·      Mae Dogfen Gyflawni Flynyddol 2026/27 wedi'i threfnu fel eitem newydd ar gyfer cyfarfod mis Mai 2026

·      Mae'r Adroddiad Hunanasesiad a Pherfformiad (Llesiant) Blynyddol drafft 2025/26 yn eitem newydd ar gyfer cyfarfod Medi 2026.

·      Mae'r Adroddiad Hunanasesiad a Pherfformiad (Llesiant) Blynyddol terfynol 2025/26 yn eitem newydd ar gyfer cyfarfod Tachwedd 2026

·      Mae cyfarfod Ebrill 2026 o'r Pwyllgor Gwaith wedi'i ganslo gan ei fod o fewn y cyfnod cyn-etholiadol.

 

Penderfynwyd cadarnhau Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith wedi’i diweddaru am y cyfnod Ebrill i Dachwedd 2026 gyda’r newidiadau a nodwyd yn y cyfarfod.

 

6.

Monitro’r Cerdyn Sgorio – Chwarter 3, 2025/26 pdf eicon PDF 766 KB

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Adnoddau Dynol, Cyfathrebu a Phrofiad y Cwsmer.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Digidol, Perfformiad a Moderneiddio a oedd yn cynnwys y Cerdyn Sgorio Corfforaethol ar gyfer Chwarter 3 2025/26 i'w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith. Mae'r adroddiad yn cyflwyno perfformiad y Cyngor yn erbyn amcanion allweddol Cynllun y Cyngor 2023-28 ar ddiwedd y trydydd chwarter.

 

Cyflwynodd y Cynghorydd Robin Williams, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Portffolio Cyllid, Busnes Corfforaethol a Phrofiad Cwsmeriaid yr adroddiad a ddangosodd fod 86% o'r dangosyddion oedd â thargedau a gafodd eu monitro yn ystod y chwarter wedi perfformio'n dda ac wedi cael sgôr Gwyrdd neu Felyn. Ar hyn o bryd mae wyth dangosydd yn Goch neu Ambr. Mae'r rhain yn ymwneud â'r meysydd canlynol –

 

·      Gofal Cymdeithasol a Llesiant - mae ail-atgyfeirio plant o fewn 12 mis yn uwch na'r targed oherwydd amgylchiadau nad oes modd eu rhagweld yn hytrach na methiannau proses

·      Tai – mae'r amseroedd ailosod ar gyfer eiddo gwag yn parhau i fod yn uwch na'r targed, er bod perfformiad yn gwella. Mae cyflwyno Grantiau Cyfleusterau i’r Anabl wedi cael ei ohirio oherwydd oedi o ran cymeradwyo, prinder contractwyr ac ôl-groniad.

·      Economi – mae nifer y contractau angori yn parhau i fod yn is na'r targed oherwydd gostyngiad yn y galw a mwy o gystadleuaeth gan farinas. Mae oedi o ran arolygiadau hylendid bwyd (busnesau risg uchel) wedi'u hachosi gan flaenoriaethu'r cynllun trwyddedu gweithdrefnau arbennig newydd.

·      Newid Hinsawdd – mae cyfraddau ailgylchu domestig yn is na'r targed, gyda thywydd sychach yn cyfrannu at ostyngiad o ran casglu gwastraff gwyrdd

·      Iechyd y Cyngor Cyfan – y Ceisiadau Rhyddid Gwybodaeth (FOI) yn parhau i fod yn is na'r targed o 90%, er bod disgwyl gwelliannau yn sgil cyflwyno system CRM newydd.

 

Tynnodd y Cynghorydd Robin Williams sylw hefyd at enghreifftiau o berfformiad cryf yn ystod y chwarter, fel yr amlinellir yn adran 2.3 o'r adroddiad. Mae'r rhain yn cynnwys mwy o ddefnydd o Daliadau Uniongyrchol, cyfranogiad uchel yng ngweithgareddau Môn Actif, penderfynu ar 96% o'r ceisiadau cynllunio ar amser, dangosyddion cyflwr ffyrdd yn perfformio'n dda, 100% o blant yn yr Uned Gymraeg yn bodloni’r disgwyliadau trochi a dargedwyd, a gostyngiad mewn ôl-ddyledion rhent.

 

Rhoddodd y Cynghorydd Jeff Evans, Cadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol adroddiad ar gyfarfod y pwyllgor ar 18 Mawrth 2026, lle ystyriwyd adroddiad cerdyn sgorio Ch3. Nododd y pwyllgor y perfformiad cryf dros y cyfnod, gydag 86% o Ddangosyddion Perfformiad yn perfformio'n dda yn erbyn eu targedau. Canolbwyntiodd yr Aelodau yn benodol ar y meysydd tanberfformiad a bu iddynt geisio sicrwydd bod y rhain yn cael eu rheoli’n ofalus a bod disgwyl iddynt wella. Ar ôl derbyn sicrwydd ynghylch nifer o bwyntiau, penderfynodd y pwyllgor argymell yr adroddiad a'r mesurau lliniaru a amlinellir ynddo, i’r Pwyllgor Gwaith.

 

Cydnabu aelodau’r Pwyllgor Gwaith y perfformiad cryf cyson yn y trydydd chwarter a nododd y meysydd perfformiad rhagorol, gan ddiolch i'r staff am eu gwaith a'u hymrwymiad parhaus. Nodwyd hefyd fod adroddiad y cerdyn sgorio yn darparu ciplun a gymerwyd cyn gosod cyllideb 2026/27, lle dyrannwyd buddsoddiad wedi'i dargedu i feysydd sy'n tanberfformio e.e.  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 6.

7.

Fframwaith ar gyfer Rhyddhad Trethi Busnes Dewisol - Elusennau a Sefydliadau Dielw pdf eicon PDF 668 KB

Cyflwyno adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 a oedd yn gofyn am gymeradwyaeth y Pwyllgor Gwaith i ymestyn y Polisi Rhyddhad Trethi Busnes Dewisol ar gyfer elusennau a sefydliadau dielw am flwyddyn hyd at 31 Mawrth 2027 i'w ystyried

 

Ar y pwynt hwn, bu i’r Cynghorwyr Neville Evans, Gary Pritchard ac Ieuan Williams ddatgan buddiant personol yn unig fel aelodau/ymddiriedolwyr elusennau a/neu sefydliadau dielw.

 

Cyflwynodd y Cynghorydd Robin Williams, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Portffolio Cyllid, Busnes Corfforaethol a Phrofiad Cwsmeriaid yr adroddiad gan nodi y bydd ailbrisio ardrethi annomestig yn dod i rym o 1 Ebrill 2026 ochr yn ochr â newidiadau i gynlluniau rhyddhad eraill a threfniadau trosiannol. Yng ngoleuni hyn, ystyriwyd y byddai cyflwyno newid ychwanegol i'r polisi rhyddhad trethi ar hyn o bryd yn amhriodol ac y gallai effeithio ymhellach ar sefydliadau a allai gael eu heffeithio gan y newidiadau arfaethedig.

 

Mae'r polisi presennol yn darparu swm sylweddol o gymorth ariannol i nifer fawr o elusennau a sefydliadau dielw ac mae'n parhau i fod yn fforddiadwy, er y bydd newidiadau i brisiadau eiddo a lefel y lluosydd yn newid y gost gyffredinol o ddarparu'r rhyddhad. Drwy ohirio gweithredu’r polisi newydd, bydd hefyd yn galluogi’r Cyngor i bennu cost y polisi yn 2026/27, a all ddylanwadu ar y polisi o fis Ebrill 2027 ymlaen. Cynigir hefyd fod y Cyngor yn ymgynghori â sefydliadau sy'n derbyn rhyddhad ar hyn o bryd drwy'r polisi i helpu i bennu'r polisi o 2027 ymlaen.

 

Penderfynwyd –

 

·      Cymeradwyo ymestyn y polisi cyfredol am gyfnod o flwyddyn, hyd at 31 Mawrth 2027.

·      Bod y Cyngor yn ymgynghori gyda’r sefydliadau hynny sy’n derbyn rhyddhad drwy’r polisi ar hyn o bryd i benderfynu ar y polisi o fis Ebrill 2027 ymlaen.

 

 

8.

Cynllun Busnes y Cyfrif Refeniw Tai 2026-2056 pdf eicon PDF 1 MB

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Tai.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Tai  a oedd yn cynnwys Cynllun Busnes Refeniw Tai (CRT) ar gyfer 2026 i 2056 i'w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith.

 

Cyflwynodd y Cynghorydd Carwyn Jones, Aelod Portffolio Tai a Diogelwch Cymunedol yr adroddiad gan nodi bod Cynllun Busnes y CRT yn nodi strategaeth 30 mlynedd y Cyngor ar gyfer rheoli, cynnal a buddsoddi yn ei stoc dai gan sicrhau cynaliadwyedd ariannol hirdymor. Mae'r cynllun yn ofyniad statudol i sicrhau Lwfans Atgyweiriadau Mawr Llywodraeth Cymru o oddeutu £2.7m ar gyfer 2026/27. Mae'n amlinellu sut y bydd y Cyngor yn bodloni Safonau Ansawdd Tai Cymru 2023, yn bwrw ymlaen â datgarboneiddio ac yn darparu cartrefi fforddiadwy newydd i fodloni’r galw lleol cynyddol am dai, gyda dros 950 o bobl ar y rhestr dai ar hyn o bryd. Mae'r cynllun yn cynnwys rhaglen gyfalaf gwerth £16m ar gyfer 2026/27 sy'n cynnwys gwaith SATC, diogelwch tân, addasiadau, uwchraddio cynlluniau effeithlonrwydd ynni, a £4m ar gyfer gosod paneli solar a batris. Mae hefyd yn darparu £15.5m ar gyfer datblygiadau newydd gan gynnwys cyfleuster Gofal Ychwanegol ym Mhorthaethwy, tai cyngor newydd a phrynu tai cyngor yn ôl.

 

Tynnodd y Cynghorydd Carwyn Jones sylw at y ffaith bod y cynllun yn seiliedig ar nifer o ragdybiaethau, gan gynnwys cynnydd o 4.3% mewn rhent, chwyddiant o 2%, a chyfradd ddatblygu o 45 o gartrefi newydd y flwyddyn yn ystod cyfnod y cynllun, gyda chefnogaeth grantiau a benthyca. Yn gyffredinol, mae'r cynllun yn cadarnhau bod y CRT yn parhau i fod yn hyfyw, gan alluogi'r Cyngor i ymateb yn effeithiol i newid mewn poblogaeth, heriau hinsawdd a'r galw cynyddol am gartrefi addas. Mae'n ailddatgan ymrwymiad y Cyngor i ddarparu cartrefi fforddiadwy o ansawdd uchel ledled yr ynys ac i gefnogi cymunedau gwydn a ffyniannus dros y 30 mlynedd nesaf.

 

Rhoddodd y Cynghorydd Jeff Evans, Cadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol adroddiad ar gyfarfod y pwyllgor ar 18 Mawrth 2026, lle ystyriwyd Cynllun Busnes y CRT 2026-2056. Wrth adolygu'r cynllun, ceisiodd yr aelodau sicrwydd ynghylch fforddiadwyedd rhenti, cymorth ac ymgysylltu â thenantiaid, y math o unedau tai sy'n cael eu datblygu a'r rhestr aros am dai. Nododd yr Aelodau hefyd fod y cynllun yn uchelgeisiol, gyda £16m o wariant cyfalaf wedi'i gynllunio yn 2026/27, ac y bydd bodloni gofynion y cynllun a safonau Llywodraeth Cymru wrth gadw rhenti yn fforddiadwy yn heriol. Yn dilyn trafodaeth, ac ar ôl ystyried yr ymatebion a roddwyd gan swyddogion a'r Aelod Portffolio i'r materion a godwyd, penderfynodd y pwyllgor gefnogi Cynllun Busnes y CRT 2026-56 a'i argymell i'w gymeradwyo'r Pwyllgor Gwaith.

 

Nododd y Prif Weithredwr, er bod y Cynllun Busnes yn gynhwysfawr ac yn adlewyrchu llawer iawn o waith, nid yw'r incwm sy'n dod i'r system yn ddigon. Bydd parhau â rhaglen y Cyngor o ddatblygu tai newydd, cynnal eiddo presennol a datgarboneiddio'r stoc gyfan felly yn heriol. Bydd cynnal y tair blaenoriaeth allweddol yma ar yr un lefel ag yn y blynyddoedd blaenorol yn gofyn am newidiadau ar lefel genedlaethol, a bydd hyn yn fater strategol pwysig dros  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 8.

9.

Cau Allan y Wasg a'r Cyhoedd pdf eicon PDF 131 KB

Ystyried mabwysiadau’r canlynol; -

 

“Dan Adran 100 (A)(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, mae modd cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol, oherwydd y posibilrwydd y caiff gwybodaeth ei rhyddhau a honno’n wybodaeth y gwna Atodlen 12A y Ddeddf a’r Prawf Budd y Cyhoedd eithriad ohoni.”

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Penderfynwyd o dan Adran 100 (A) (4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, i wahardd y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol ar y sail y golygai ddatgelu gwybodaeth eithriedig fel y caiff ei diffinio ym mharagraffau 12, 13 a 15 o Atodlen 12A i’r Ddeddf honno ac yn y Prawf Budd y Cyhoedd a gyflwynwyd.

 

10.

Mewnoli'r Gwasanaeth ADY a Chynhwysiant ar Ynys Môn

Cyflwyno adroddiad y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc a oedd yn nodi cynigion ar gyfer Gwasanaeth Anghenion Dysgu Ychwanegol a Chynhwysiant ar Ynys Môn i'w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith.

 

Cyflwynodd y Cynghorydd Dafydd Roberts, Aelod Portffolio Addysg a'r Gymraeg yr adroddiad, gan nodi, yn dilyn hysbysiad o fwriad Cyngor Gwynedd i ddiddymu Partneriaeth ADY a Chynhwysiant Gwynedd a Môn ym mis Mehefin 2025, bod y Cyngor wedi cymryd cyfres o gamau – a amlinellir yn yr adroddiad – i sefydlu gwasanaeth ar wahân, effeithiol, effeithlon ac addas i'r diben ar gyfer Ynys Môn. Y nod yw diwallu anghenion plant a phobl ifanc Ynys Môn a sicrhau bod y gwasanaeth yn cael ei sefydlu'n brydlon fel y gall y Cyngor gyflawni ei ddyletswyddau statudol yn unol â Deddf ADY 2021. Bu cynnydd o ran cymhlethdod a phatrwm anghenion gydag adroddiadau yn dangos bod proffil dysgwyr sy'n derbyn cymorth ADY ar Ynys Môn wedi mynd yn fwy cymhleth dros y pum mlynedd diwethaf.

 

Comisiynwyd arbenigwr allanol i gynnal adolygiad o'r gwasanaeth ar y cyd presennol ac i ddatblygu model ar gyfer gwasanaeth penodol Ynys Môn, gan nodi'r camau allweddol sydd eu hangen i greu darpariaeth gynaliadwy. Mae'r adroddiad adolygu allanol wedi'i gynnwys yn Atodiad 1. Ystyriwyd chwe opsiwn gwahanol fel y nodir yn yr arfarniad opsiynau yn Atodiad 3. Trwy'r broses hon, argymhellir Opsiwn 4 fel y dull a ffefrir am sawl rheswm - mwy o bwyslais ar ymyrraeth gynnar ac ymarfer sy'n ystyriol o drawma; ymagwedd gwaith integredig, yn cryfhau elfennau presennol o gynhwysiant; yn gwneud defnydd mwy effeithiol o adnoddau; disgwylir iddo arwain at ganlyniadau gwell; yn darparu rheolaeth lawn o'r gwasanaeth gyda hyblygrwydd i gydweithio ac yn cynnig cyfle i fewnoli gwaith data tymor hir. Mae'r adroddiad hefyd yn amlinellu'r rhagamcanion cost sy'n gysylltiedig ag Opsiwn 4 ac yn esbonio sut y bydd y costau hyn yn cael eu bodloni.

 

Rhoddodd y Cynghorydd Dylan Rees, Cadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio adroddiad ar gyfarfod y pwyllgor ar 17 Mawrth, 2026 lle ystyriwyd y cynigion. Mae'r pwyllgor yn cydnabod bod hwn yn gyfle i greu gwasanaeth newydd a gwahanol, a bod y fframwaith arfaethedig yn cynrychioli man cychwyn a fydd yn datblygu, addasu ac yn cael ei fireinio dros amser. Trafododd yr Aelodau y risgiau sy'n gysylltiedig ag ad-drefnu'r gwasanaeth a chydnabu ymrwymiad y Pwyllgor Gwaith i ddarparu buddsoddiad ychwanegol i fodloni'r gofynion. Pwysleisiodd y pwyllgor bwysigrwydd rhoi gwybod i rieni a cheisiodd sicrwydd y byddai neges gyfathrebu fer yn cael ei rhannu gyda nhw cyn i'r cyfnod cyn-etholiad ddechrau. Yn dilyn trafodaeth, penderfynodd y pwyllgor argymell y cynigion ar gyfer mewnoli'r gwasanaeth ar Ynys Môn.

 

Cydnabu’r Pwyllgor Gwaith bwysigrwydd datblygu gwasanaeth wedi'i deilwra i anghenion Ynys Môn gyda phwyslais ar empathi, integreiddio ac ymarfer sy'n ystyriol o drawma. Roedd yr Aelodau yn cydnabod bod y strwythur arfaethedig yn darparu sylfaen i adeiladu arno, ac awgrymwyd y dylid darparu adroddiadau cynnydd rheolaidd. Cytunwyd fel argymhelliad ychwanegol y dylid cyflwyno diweddariad i'r Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio ymhen  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 10.