Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Committee Room, Council Offices, Llangefni
Cyswllt: Ann Holmes
| Rhif. | Eitem |
|---|---|
|
Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod, chan mai hwn oedd cyfarfod ffurfiol cyntaf y Pwyllgor Gwaith yn y flwyddyn newydd, manteisiodd ar y cyfle i ddiolch i holl staff y Cyngor am eu hymdrechion i gynnal gwasanaethau yn ystod y tywydd anodd a brofwyd yn ddiweddar. Diolchodd yn arbennig i staff yr Adran Briffyrdd a fu’n gweithio’n ddiflino er mwyn sicrhau fod trigolion yr ynys yn gallu teithio’n ddiogel.
|
|
|
Ymddiheuriadau Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd a nodwyd yr ymddiheuriadau a dderbyniwyd gan yr aelodau a’r swyddogion oedd yn absennol.
|
|
|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn datganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni dderbyniwyd yr un datganiad o ddiddordeb.
|
|
|
Materion brys ardystiwyd gan y Prif Weithredwr neu ei Swyddog Apwyntiedig Dim materion brys ar adeg anfon y rhaglen hon. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dim i’w adrodd.
|
|
|
Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd, i’r Pwyllgor Gwaith ei ystyried, adroddiad y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc ynghyd â’r adroddiad gwrthwynebu ar ganlyniad yr ymgynghoriad statudol ar y cynnig i adleoli dysgwyr Ysgol Uwchradd Caergybi i adeilad ysgol newydd ar gyfer disgyblion 11-18 oed.
Cyflwynodd y Cynghorydd Dafydd Roberts, Aelod Portffolio Addysg a’r Gymraeg, yr adroddiad ac amlinellodd y cefndir. Mabwysiadodd y Cyngor ei Strategaeth Moderneiddio Cymunedau Dysgu a’r Gymraeg ym mis Gorffennaf 2023 ac, ym mis Mawrth 2024, paratowyd Cynllun Strategol Amlinellol oedd yn blaenoriaethu adeilad newydd ar gyfer Ysgol Uwchradd Caergybi oherwydd bod problemau yn gysylltiedig â choncrid RAAC yn yr ysgol. Ar 22 Mai 2025, cytunodd y Pwyllgor Gwaith i gynnal ymgynghoriad statudol ar y cynnig i adleoli dysgwyr Ysgol Uwchradd Caergybi i adeilad ysgol newydd ar gyfer disgyblion 11-18 oed. Cynhaliwyd yr ymgynghoriad rhwng 5 Mehefin ac 17 Gorffennaf 2025 a chyflwynwyd adroddiad ar y canlyniad i’r Pwyllgor Gwaith ar 21 Hydref 2025. Cymeradwyodd y Pwyllgor Gwaith y cynnig, yn ogystal ag awdurdodi swyddogion i gyhoeddi hysbysiad statudol. Cyhoeddwyd yr hysbysiad statudol ar 6 Tachwedd 2025 ac, yn dilyn hynny, roedd cyfnod statudol o 28 diwrnod ar gyfer gwrthwynebu’r cynnig. Mae canlyniadau’r ymgynghoriad wedi’u cynnwys yn yr adroddiad.
Esboniodd yr Arweinydd Strategol (Sector Uwchradd) bod rhaid i’r Cyngor, sef y cynigydd, gyhoeddi crynodeb o’r holl wrthwynebiadau statudol a dderbyniwyd, ynghyd â’i ymateb iddynt, a hynny er mwyn cydymffurfio ag adran 49 o Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013. Derbyniwyd dau wrthwynebiad dilys i’r cynnig, gyda’r ddau’n codi mwy nag un mater, a barnwyd bod y gwrthwynebiad arall a dderbyniwyd yn annilys. Mae’r gwrthwynebiadau hyn, ynghyd ag ymateb y Cyngor, wedi’u crynhoi yn adrannau 3 a 4 yn yr adroddiad. Yn unol ag adran 5.2 o’r Cod Trefniadaeth Ysgolion, gan fod y cynnig yn effeithio ar addysg chweched dosbarth, bydd angen i Weinidogion Cymru gymeradwyo’r cynnig ac mae’n rhaid eu hysbysu cyn pen 35 diwrnod i ddiwedd y cyfnod gwrthwynebu, sef 23:59 ar 7 Ionawr 2026. Mae disgwyl penderfyniad gan y gweinidogion erbyn diwedd Mawrth 2026.
Roedd aelodau’r Pwyllgor Gwaith yn cytuno fod ymateb y Cyngor i’r gwrthwynebiadau a dderbyniwyd yn ddilys a thrylwyr ac roeddent yn fodlon â chasgliadau’r swyddogion. Roeddent yn pwysleisio mai’r prif reswm dros y cynnig oedd cyflwr gwael adeilad presennol Ysgol Uwchradd Caergybi, a’r concrid RAAC sydd yn bresennol yn yr adeilad yn arbennig, ac oherwydd hynny adeilad newydd ar y safle arfaethedig yw’r ateb mwyaf ymarferol. Nododd yr aelodau hefyd y gwelwyd ymgysylltu cryf yn ystod yr ymgynghoriad statudol, yn enwedig gan ddysgwyr a disgyblion, ac roeddent o’r farn fod hynny’n galonogol.
Penderfynwyd –
· Ar ôl ystyried yr Adroddiad Gwrthwynebu, i barhau gyda’r cynnig i “adleoli dysgwyr Ysgol Uwchradd Caergybi i adeilad newydd ar gyfer disgyblion 11-18 oed.” · Cymeradwyo cyflwyno’r Adroddiad Gwrthwynebu i Weinidogion Cymru am y penderfyniad terfynol ar y cynnig i “adleoli dysgwyr Ysgol Uwchradd Caergybi i adeilad newydd ar gyfer disgyblion 11-18 oed.” · Awdurdodi swyddogion i roi rhybudd o’r penderfyniad terfynol ar ffurf llythyr penderfyniad (yn unol â’r Côd Trefniadaeth ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 4. |