Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Ystafell Bwyllgor, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni ac yn Rhithiol drwy ZOOM
Cyswllt: Ann Holmes
| Rhif. | Eitem |
|---|---|
|
Ymddiheuriadau Dogfennau ychwanegol: |
|
|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn datganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes. Dogfennau ychwanegol: |
|
|
Materion brys ardystiwyd gan y Prif Weithredwr neu ei Swyddog Apwyntiedig Dim materion brys ar adeg anfon y rhaglen hon. Dogfennau ychwanegol: |
|
|
Cyflwyno i’w cadarnhau, gofnodion drafft y cyfarfod o’r Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar 16 Mehefin 2026. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Penderfynwyd cadarnhau cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar 16 Mehefin 2026 fel rhai cywir. |
|
|
Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Penderfynwyd cadarnhau Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith wedi’i diweddaru am y cyfnod Awst 2026 i Fawrth 2027 gyda’r newidiadau a nodwyd yn y cyfarfod. |
|
|
Alldro Cyfalaf 2025/26 Cyflwyno adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Penderfynwyd –
· Nodi’r sefyllfa alldro drafft ar gyfer rhaglen gyfalaf 2025/26, yn amodol ar archwiliad. · Cymeradwyo ychwanegu £3.704m at gyllideb 2025/26 o ganlyniad i dderbyn cyllid ychwanegol yn ystod y chwarter olaf, sy’n golygu bod y gyllideb derfynol ar gyfer 2025/26 yn £70.648m. · Cymeradwyo dwyn ymlaen £8.949m o wariant, ynghyd â’r cyllid cysylltiedig i gyllideb 2026/27. Y gyllideb ddiwygiedig ar gyfer 2026/27 yw £63.033m. |
|
|
Monitro Cyllideb y Cyfrif Refeniw Tai - Chwarter 4, 2025/26 Cyflwyno adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Penderfynwyd nodi’r canlynol –
· Y sefyllfa a nodir mewn perthynas â pherfformiad ariannol y Cyfrif Refeniw Tai (CRT) ar gyfer Chwarter 4 2025/26. · Yr alldro ar gyfer 2025/26. |
|
|
Cyfrifon Terfynol Drafft 2025/26 a Defnydd o Arian Wrth Gefn a Balansau Cyflwyno adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Penderfynwyd –
· Nodi’r datganiadau ariannol drafft sydd heb eu harchwilio ym y flwyddyn ariannol 2025/26. (Mae’r Datganiad Cyfrifon Drafft llawn 2025/26 wedi’i gyhoeddi ar https://www.ynysmon.llyw.cymru/ documents/Dogfennau-Cy/Cyllid/Datganiad-or-cyfrifon/2025-2026/datganiad-o-cyfrifon-drafft-2025-i-2026.pdf?nocache=1) · Nodi sefyllfa balansau cyffredinol y Cyngor fel ar 31 Mawrth 2026, sef £19.037m. · Nodi balans y cronfeydd wrth gefn clustnodedig o £24.434m a chymeradwyo creu £0.510m o gronfeydd wrth gefn clustnodedig newydd. · Cymeradwyo’n ffurfiol trosglwyddo £0.716m o gronfeydd wrth gefn clustnodedig yn ôl i falansau cyffredinol y Cyngor. · Nodi balans cronfeydd wrth gefn ysgolion o £4.327m. · Nodi balans cronfa’r Cyfrif Refeniw Tai (CRT) o £3.063m. · Cymeradwyo defnyddio £2.373m o falansau cyffredinol a chronfeydd wrth gefn clustnodedig at y dibenion a nodir yn Nhabl 9 yr adroddiad. |
|
|
Asesiad Perfformiad Panel (APP) - adroddiad terfynol ac ymateb y Cyngor Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Digidol, Perfformiad a Moderneiddio.
Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Penderfynwyd derbyn y Cynllun Gweithredu sy’n nodi ymateb y Cyngor i’r wyth argymhelliad, fel yr amlinellir yn Atodiad 2 yr adroddiad. |
|
|
Gwydnwch Croesi’r Fenai Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Penderfynwyd –
· Codi ymwybyddiaeth a phroffil yr adroddiad trwy ei rannu â’r holl randdeiliaid rhanbarthol (sector cyhoeddus – Heddlu Gogledd Cymru, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a.y.y.b.) a phartneriaid yn y sector preifat. · Rhannu’r adroddiad ag Ysgrifennydd Gwladol Cymru Llywodraeth y DU a Gweinidog Cabinet dros Fenter, Cysylltedd ac Ynni Llywodraeth Cymru a’r Dirprwy Weinidog Trafnidiaeth. · Trefnu cyfarfod â’r gweinidogion uchod i drafod dull cydweithredol o fynd i’r afael â problem Croesi’r Fenai, cytuno ar strwythurau llywodraethu ac amserlen arfaethedig ar gyfer y camau nesaf, a sicrhau fod cynnydd yn digwydd. |