Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau
Cyswllt: Ann Holmes
Rhif. | Eitem |
---|---|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn datganiadau o ddiddordeb gan Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni chafwyd yr un datganiad o ddiddordeb. |
|
Materion brys a Ardystiwyd gan y Prif Weithredwr neu ei Swyddog Apwyntiedig Dim materion brys ar adeg anfon allan y rhaglen hon. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dim. |
|
Cofnodion - Panel Rhiant Corfforaethol PDF 271 KB Cyflwyno i’w mabwysiadu, gofnodion drafft y Panel Rhiant Corfforaethol a gynhaliwyd ar 9 Rhagfyr 2019. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion drafft cyfarfod y Panel Rhiant Corfforaethol a gynhaliwyd ar 9 Rhagfyr, 2019 i'w mabwysiadu.
Penderfynwyd mabwysiadu cofnodion drafft cyfarfod y Panel Rhiantu Corfforaethol a gynhaliwyd ar 9 Rhagfyr, 2019. |
|
Cofnodion - Pwyllgor Cyswllt y Sector Gwirfoddol PDF 227 KB Cyflwyno er gwybodaeth, gofnodion drafft y cyfarfod o Bwyllgor Cyswllt y Sector Gwirfoddol a gynhaliwyd ar 20 Tachwedd 2019.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion drafft cyfarfod Pwyllgor Cyswllt y Sector Gwirfoddol a gynhaliwyd ar 20 Tachwedd, 2019 er gwybodaeth.
Penderfynwyd nodi confnodion drafft cyfarfod Pwyllgor Cyswllt y Sector Gwirfoddol a gynhaliwyd ar 20 Tachwedd, 2019. |
|
Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith PDF 803 KB Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd i’w ystyried, adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd yn ymgorffori Blaenraglen Waith y Pwyllgor Gwaith am y cyfnod rhwng mis Chwefror a mis Medi, 2020, a nodwyd y newidiadau canlynol -
• Eitemau Newydd
• Eitem 20 – Cynllun Datblygu Darpariaeth Hamdden ar gyfer Cenedlaethau'r Dyfodol (ar gyfer cyfarfod 2 Mawrth, 2020) • Eitem 33 - Cerdyn Sgorio Corfforaethol Chwarter 1 2020/21 (ar gyfer cyfarfod Medi, 2020) • Eitemau 34, 35 a 36 - Adroddiadau monitro perfformiad Cyllideb Refeniw, Cyllideb Gyfalaf a Chyfrif Refeniw Tai 2020/21 (ar gyfer cyfarfod Medi, 2020)
• Eitemau a Aildrefnwyd
• Eitem 3 - Rhenti Tai a Thaliadau Gwasanaethau Tai 2020/21 (a ddygwyd ymlaen o'r cyfarfod ar 2 Mawrth i’r cyfarfod ar 17 Chwefror, 2020) • Eitem 8 - Polisi Rhyddhad Dewisol Adrethi Busnes (yn amodol ar gadarnhad, eitem i'w ddwyn ymlaen o'r cyfarfod ar 2 Mawrth i’r cyfarfod ar 17 Chwefror, 2020)
• Newidiadau Eraill
• Yn amodol ar gadarnhad, eitem newydd - Polisi Gwirio Ar Sail Risg – eitem i'w chyflwyno yn y cyfarfod ar 17 Chwefror, 2020 • Tynnu eitem - Ymgynghoriad ar Ostwng yr Oed Derbyn yn Ysgol Llandegfan (a drefnwyd yn wreiddiol ar gyfer cyfarfodydd 17 Chwefror a 27 Ebrill, 2020) - hyd nes y cadarnheir y dyddiadau a aildrefnwyd.
Penderfynwyd cadarnhau Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith wedi’i diweddaru am y cyfnod o Chwefror i Fedi, 2020 gyda’r newidiadau a amlinellwyd yn y cyfarfod.
|
|
Anableddau Dysgu - Trawsnewid Cyfleon Dydd PDF 6 MB Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd i'w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith, adroddiad y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol a oedd yn ymgorffori Papur Cynnig ar ddyfodol Cyfleoedd Dydd yn y maes Anabledd Dysgu yn Ynys Môn. ‘Roedd yr adroddiad yn gofyn am ganiatâd gan y Pwyllgor Gwaith i ymgynghori’n ffurfiol ar y cynnig i “ddatblygu mwy o gyfleoedd yn y gymuned i bobl ag anabledd dysgu, ymestyn y ddarpariaeth yn Gors Felen a chau’r gwasanaethau ym Morswyn, Blaen y Coed a Gerddi Heulfre.”
Dywedodd y Cadeirydd a'r Aelod Portffolio ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol bod angen ail-lunio a moderneiddio'r gwasanaethau cyfleoedd dydd er mwyn -
• datblygu cyfleoedd cynaliadwy i unigolion; • gwella’r ddarpariaeth gwasanaeth ymhellach yn y ffordd fwyaf cost-effeithiol; • ymateb i atborth gan ddefnyddwyr gwasanaeth a'u teuluoedd ynghylch sut fath o gyfleoedd dydd yr hoffent eu cael yn y dyfodol; • diwallu anghenion y bobl y mae'r Awdurdod yn eu cefnogi ar hyn o bryd ac i’r dyfodol; • cwrdd â gofynion Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014
Amlygodd mai'r bobl bwysicaf mewn ymgynghoriad yw'r rheini sy’n cael eu heffeithio ganddo, ynghyd â’u teuluoedd a'u gofalwyr a phwysleisiodd, pe bai'r Pwyllgor Gwaith yn penderfynu bwrw ymlaen ag ymgynghoriad, ei bod hi'n awyddus iddo fod ar sail y gyrwyr canlynol –
• ffocws ar ddull sy'n seiliedig ar ganlyniadau h.y. symud i ffwrdd o dalu am weithgareddau rhagnodedig o fewn amserlen benodol i dalu am ganlyniadau neu ddeilliannau sy'n cynyddu sgiliau, lles a hyder yr unigolyn; • sicrhau'r un safonau darparu gwasanaeth ar draws yr holl wasanaethau, gyda'r gwasanaethau mewnol ac allanol fel ei gilydd yn canolbwyntio ar sicrhau cynnydd yr unigolyn a chyflawni canlyniadau i ddefnyddwyr gwasanaeth unigol; • sicrhau bod adnoddau'n cael eu dyrannu'n deg gyda'r un meini prawf asesu a mynediad ar gyfer gwasanaethau mewnol ac allanol; • sicrhau bod prisiau teg am wasanaethau sy'n adlewyrchu anghenion gwahanol yr unigolion sy'n mynychu e.e. gall fod yn briodol talu cyfradd premiwm i gefnogi unigolyn ag anableddau dysgu mwy dwys neu luosog neu anghenion cymorth cymhleth; • bydd gan ddarparwyr fwy o ryddid a hyblygrwydd i weithio gyda'r bobl y maent yn eu cefnogi i ddylunio a chydgynhyrchu’r gweithgareddau a fydd yn cyflawni'r canlyniadau hynny. Gellir cyflwyno rhai o'r gweithgareddau hyn mewn partneriaeth â grwpiau a sefydliadau cymunedol eraill; • annog darparwyr gwasanaeth, mewnol ac yn allanol, i ddatblygu, addasu a newid mewn ymateb i'r ffordd newydd hon o weithio; • annog grwpiau yn y gymuned i gynnig lleoliadau â chymorth yn rheolaidd a all ychwanegu at sgiliau unigolyn a sicrhau cynnydd yr unigolyn.
Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol fod yr achos dros newid yn seiliedig ar y gred bod angen diwygio natur y ddarpariaeth ar gyfer pobl ag anableddau dysgu er mwyn darparu gwell canlyniadau i'r unigolion hynny yn eu cymunedau lleol ac i sicrhau bod y gwasanaethau hynny'n parhau i fod yn gynaliadwy ac yn effeithiol i'r dyfodol. Ar hyn o bryd mae gan y Cyngor nifer o gyfleoedd dydd gwahanol ar gael i bobl ag anableddau dysgu. Mae rhai ohonynt ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 6. |
|
Cau Allan y Wasg a'r Cyhoedd PDF 314 KB Ystyried mabwysiadu’r canlynol:-
“O dan Adran 100 (A) (4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a'r cyhoedd o'r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol ar y sail y gallai olygu datgelu gwybodaeth eithriedig fel y'i diffinnir yn Atodlen 12A y Ddeddf a’r Prawf Budd y Cyhoedd fel y cyflwynwyd nhw.” Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Penderfynwyd –
“O dan Adran 100 (A) (4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn oherwydd y tebygolrwydd y caiff gwybodaeth ei rhyddhau a honno’n wybodaeth y gwneir eithriad ohoni yn Atodlen 12A y Ddeddf honno ac yn y Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.” |
|
Contract Gwastraff Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151. Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 a’r Pennaeth Priffyrdd, Eiddo a Gwastraff mewn perthynas â'r Contract Gwasanaeth Casglu Gwastraff a Glanhau. ‘Roedd yr adroddiad yn gofyn i’r Pwyllgor Gwaith gymeradwyo opsiynau gwasanaeth at ddibenion cyflwyno tendr terfynol.
Atgrynhodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 amserlen y broses gaffael o dan ddull tendro tri Cham y Broses Deialog Gystadleuol, sef y dull a fabwysiadwyd ar gyfer y broses dendro am y contract Gwasanaeth Casglu Gwastraff a Glanhau, a chadarnhaodd bod Cam 1 wedi ei gwblhau, sef cyflwyno cynigion drafft cychwynnol wedi'u prisio yn seiliedig ar yr opsiynau gwasanaeth cychwynnol a gymeradwywyd gan y Pwyllgor Gwaith yn ei gyfarfod ar 17 Mehefin, 2019. Bellach mae gofyn i’r Pwyllgor Gwaith ddod i benderfyniad ynghylch yr opsiynau gwasanaeth y mae'n dymuno eu hystyried yn ystod Cam 2 (proses ddeialog ffurfiol) a Cham 3 (cyflwyno tendrau terfynol) er mwyn cael gwared ar opsiynau diangen a rhoi eglurder llwyr i gynigwyr ar gyfluniad y gwasanaeth y dylent fod yn tendro amdano yn eu cynigion terfynol. Ar ôl gwerthuso’r tendrau terfynol hynny bydd y contract yn cael ei ddyfarnu a bydd yn dod i rym ar 1 Ebrill, 2021.
Cyfeiriodd y Swyddog at yr ystod gychwynnol o gostau, arbedion a risgiau posib a nodwyd yng Ngham 1 mewn perthynas â'r gwahanol gyfluniadau gwasanaeth ar gyfer y Contract Casglu Gwastraff a Glanhau newydd fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad. Yn seiliedig ar yr atborth o Gam 1, mae Swyddogion wedi gwneud argymhellion ynghylch pa gyfluniad gwasanaeth y dylid ei ystyried ar gyfer Cam 2 a Cham 3 y broses gaffael - ymhelaethodd y Swyddog ar yr opsiynau gwasanaeth hynny a'r rheswm dros y bwriad i’w cynnwys.
Adroddodd y Cynghorydd G O Jones, Cadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio o gyfarfod y Pwyllgor ar 21 Ionawr, 2020 lle craffwyd ar yr adroddiad a chadarnhaodd bod y Pwyllgor, yn dilyn trafodaeth ac ar ôl ystyried yr eglurhad a ddarparwyd gan yr Aelod Portffolio a’r Swyddog yn y cyfarfod, wedi argymell mabwysiadu'r opsiynau gwasanaeth a gynigiwyd yn yr adroddiad.
Rhoddodd y Pwyllgor Gwaith sylw i’r adroddiad a cheisiodd eglurder a sicrwydd ar sawl pwynt yn codi o ganfyddiadau Cam 1 y broses. Ar ôl trafod y mater, ac yng ngoleuni cyngor a gafwyd gan Swyddogion a barn y Pwyllgor Sgriwtini, cytunodd y Pwyllgor Gwaith i gefnogi‘r opsiynau gwasanaeth hynny a argymhellwyd yn yr adroddiad.
Penderfynwyd cymeradwyo argymhellion yr adroddiad ynglyn â’r cyfluniad gwasanaeth ar gyfer y tendrau terfynol am y Gontract Casglu Gwastraff a Glanhau ac awdurdodi’r Swyddogion perthnasol i weithredu yn unol â hynny. |