Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau
Cyswllt: Ann Holmes
Rhif. | Eitem |
---|---|
Cyn ystyried busnes y cyfarfod, diolchodd y Cadeirydd i holl staff y Cyngor a fu'n ymateb i'r tywydd garw dros y ddau benwythnos blaenorol, a chydymdeimlodd â’r holl ddeiliaid tai a busnesau a ddioddefodd ddifrod gan y llifogydd o ganlyniad i'r stormydd diweddar. |
|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn datganiadau o ddiddordeb gan Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o ddiddordeb. |
|
Materion brys ardystiwyd gan y Prif Weithredwr neu ei Swyddog Apwyntiedig Dim materion brys ar adeg anfon allan y rhaglen hon. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dim i'w adrodd. |
|
Cyflwyno i’w cadarnhau, gofnodion drafft y cyfarfod o’r Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar y dyddiadau canlynol:-
• 13 Ionawr 2020 (Cyllideb) • 20 Ionawr 2020 (Arbennig) • 27 Ionawr 2020 Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar 13, 20 a 27 Ionawr, 2020 i'w cadarnhau.
Penderfynwyd cadarnhau fel rhai cywir gofnodion cyfarfodydd blaenorol y Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar y dyddiadau canlynol –
• 13 Ionawr, 2020 • 20 Ionawr, 2020 • 27 Ionawr, 2020 |
|
Blaenraglen Waith y Pwyllgor Gwaith PDF 796 KB Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd i’w ystyried, adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd yn cynnwys Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith am y cyfnod rhwng mis Chwefror a mis Medi, 2020, a nodwyd y newidiadau canlynol -
• Eitem newydd
• Eitem 18 – y Protocol Siarad Cyhoeddus ar gyfer y Pwyllgorau Sgriwtini (ar gyfer cyfarfod 23 Mawrth, 2020)
• Eitemau newydd i'w cynnwys yn y Flaen Raglen Waith
• Arferion Rheoli'r Trysorlys (ar gyfer cyfarfod 2 Mawrth, 2020) • Gorchymyn Prynu Gorfodol Clwb Chwaraeon a Chymdeithasol Biwmares (ar gyfer cyfarfod 23 Mawrth, 2020) • Cyllidebau ar y cyd Gwasanaethau Anabledd Dysgu
Penderfynwyd cadarnhau Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith wedi’i diweddaru am y cyfnod Mawrth hyd at Hydref, 2020 gyda’r newidiadau ychwanegol a amlinellwyd yn y cyfarfod. |
|
Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2020-2024 PDF 2 MB Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad Pennaeth Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/ Swyddog Monitro sy'n cynnwys y Cynllun Cydraddoldeb Strategol ar gyfer y cyfnod 2020-2024 i'r Pwyllgor Gwaith ei ystyried a gwneud sylwadau arno.
Adroddodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol fel Swyddog Arweiniol ei bod yn statudol ofynnol i bob awdurdod lleol gyhoeddi Cynllun Cydraddoldeb Strategol sy'n cynnwys amcanion cydraddoldeb ar gyfer pob un o'r nodweddion gwarchodedig – oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, rhyw, beichiogrwydd a mamolaeth, cyfeiriadedd rhywiol, hil, crefydd/cred, priodas a phartneriaethau sifil. Rhaid adolygu'r Cynllun a'i amcanion o leiaf bob pedair blynedd. Mae cynllun cyfredol yr Awdurdod sy'n cwmpasu'r cyfnod o 2016 i 2020 yn dod i ben ar 31 Mawrth, 2020 ac erbyn hynny mae'n rhaid cyhoeddi cynllun newydd ar gyfer y cyfnod 2020-2024. Diben y Cynllun yw nodi'r camau y mae'r Cyngor yn eu cymryd i gyflawni ei ddyletswyddau cydraddoldeb penodol.
Ymhelaethodd y Rheolwr Polisi a Strategaeth ar amcanion y Cynllun sy'n seiliedig ar adroddiad y Comisiwn Cydraddoldeb a hawliau dynol A yw Cymru’n Decach? 2018. Mae'r adroddiad hwn yn cydnabod yr heriau y mae angen mynd i'r afael â nhw ar sail Cymru gyfan ac yn diffinio'r uchelgais hirdymor y bydd y Cyngor yn gweithio tuag at ei gyflawni. Yn ystod 2011/12, datblygodd Rhwydwaith Cydraddoldeb Sector Cyhoeddus Gogledd Cymru gyfres o amcanion rhanbarthol a rennir a adolygwyd i gyd-fynd â’r gwaith o baratoi Cynlluniau Cydraddoldeb Strategol ar gyfer 2016-20; mae'r gwaith o gyflawni'r amcanion hyn yn parhau. Hefyd, datblygwyd amcanion lleol gyda chefnogaeth Rhwydwaith Ymgysylltu Lles Medrwn Môn. Er bod nifer o amcanion, maent yn seiliedig ar anghenion a nodwyd ac maent wedi'u rhannu i wasanaethau mewn ffordd gytbwys sy'n golygu bod gan bawb, gan gynnwys Aelodau Etholedig, gyfraniad i'w wneud i sicrhau eu bod yn cael eu gwireddu. Y nod yn y pen draw yw sicrhau bod cydraddoldeb yn cael ei brif ffrydio i waith y Cyngor o ddydd i ddydd ac nad yw'n cael ei weld fel rhywbeth ar wahân gan sicrhau hefyd bod y Cyngor yn cydymffurfio â'i ddyletswydd i beidio â gwahaniaethu. Bydd adroddiad blynyddol ar y cynnydd o ran bodloni'r blaenoriaethau/amcanion yn cael ei baratoi gyda golwg ar y Pwyllgor Sgriwtini perthnasol yn craffu arno.
Adroddodd y Cynghorydd G. O. Jones, Cadeirydd y Pwyllgor Craffu Partneriaeth ac Adfywio o gyfarfod y Pwyllgor ar 4 Chwefror, 2020, y cyflwynwyd y Cynllun Cydraddoldeb Strategol iddo. Wrth ystyried yr adroddiad, roedd y Pwyllgor wedi nodi'r disgwyliadau statudol ar y Cyngor o ran cyhoeddi amcanion cydraddoldeb a sut y cynigiwyd y byddent yn cael eu bodloni yn y Cynllun Strategol 4 blynedd nesaf. Cafodd y Pwyllgor wybod am y tair elfen y seiliwyd y Cynllun arnynt – sef yr adroddiad "A yw Cymru'n decach?"; cyfres o amcanion rhanbarthol, ac amcanion lleol, a bod y blaenoriaethau drafft wedi’u nodi o dan bob amcan yn seiliedig ar anghenion ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 5. |
|
Polisi Cymorth Dewisol Trethi Busnes PDF 435 KB Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 ynghylch mabwysiadu Fframwaith Rhyddhad Dewisol Ardrethi Busnes ar gyfer elusennau a sefydliadau dielw ar gyfer y blynyddoedd ariannol hyd at 31 Mawrth, 2026 i'r Pwyllgor Gwaith eu hystyried.
Dywedodd yr Aelod Portffolio dros Gyllid fod y Fframwaith Rhyddhad Dewisol Ardrethi Busnes wedi'i gyflwyno i'w gymeradwyo gan y Pwyllgor Gwaith bob blwyddyn ac fel y dywed y ddogfen, rhaid i Awdurdodau Lleol yng Nghymru roi rhyddhad ardrethi gorfodol i elusennau y darperir ar eu cyfer o fewn Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1998 (LGFA88) fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf Llywodraeth Leol 2003. O dan y LGFA88, gall awdurdodau lleol hefyd roi rhyddhad dewisol neu ddileu ardrethi o hyd at 100% o'r ardrethi sy'n daladwy am eiddo a feddiennir gan elusennau (swm ychwanegol o 20% yn ogystal â rhyddhad gorfodol o 80%) a sefydliadau eraill nad ydynt yn gwneud elw. Ar 18 Chwefror, 2019 penderfynodd y Pwyllgor Gwaith ymestyn ei Fframwaith Rhyddhad Dewisol Ardrethi Busnes – Elusennau a Sefydliadau Nad ydynt yn Gwneud Elw ar gyfer y flwyddyn ariannol 2019/20 ac i gynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar y fframwaith gyda'r bwriad o weithredu fframwaith diwygiedig (os yw'n berthnasol) ar 1 Ebrill, 2020. Cynhaliwyd ymgynghoriad 3 haen o dan Gynllun Ymgynghori ac Ymgysylltu'r Cyngor yn ystod Chwarter 1 a ddaeth i ben ar 31 Awst, 2019 a chysylltwyd â phob trethdalwr a oedd yn gymwys i gael rhyddhad dewisol o dan y polisi cyfredol. Er bod yr ymateb yn siomedig (dim ond 4 ymatebwr gyda 2 o'r rheini'n gwneud hynny'n ddienw) mae'r diffyg ymateb yn awgrymu bod y polisi presennol yn cael ei dderbyn yn gyffredinol ac nad oes unrhyw agweddau’n cael eu herio'n ddifrifol. Gan ystyried yr ymateb cyfyngedig a gafwyd, cynigir felly nad yw'r polisi presennol yn cael ei newid ond bod yr arfer o ymestyn y polisi'n flynyddol yn cael ei ddisodli gan gyfnod penodol sy’n cyd-fynd â'r cylch ailbrisio pum mlynedd. (Er y bydd ailbrisio ardrethi annomestig yng Nghymru yn digwydd nesaf yn 2021, y cynnig yw cadw at y polisi presennol tan yr ailbrisiad dilynol yn 2026). Gall Aelodau ddewis diwygio'r fframwaith yn ystod y cyfnod hwn ond mae'n rhaid rhoi rhybudd o o leiaf un flwyddyn ariannol lawn i drethdalwyr. Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 mai cost bresennol y cynllun i'r Cyngor yw £64,338 y telir amdano gan ddarpariaeth o £70k yn y gyllideb ddrafft ar gyfer 2020/21.
Penderfynwyd –
• Mabwysiadu Fframwaith ar gyfer Rhyddhad Trethi Busnes Dewisol – Elusennau a Sefydliadau Dielw fel y manylir arni yn Atodiad C yr adroddiad. • Bydd y Fframwaith ar gyfer Rhyddhad Trethi Busnes Dewisol mewn grym ar gyfer y blynyddoedd ariannol hyd at 31 Mawrth, 2026. • Rhoi cyfarwyddiadau i’r Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/ Swyddog Adran 151 sicrhau y rhoddir gwybod cyn 31 Mawrth, 2020 i elusennau perthnasol a sefydliadau dielw ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 6. |
|
Rhenti’r CRT a Thaliadau’r Gwasanaeth Tai 2020/21 PDF 813 KB Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Tai. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad Pennaeth Gwasanaethau Tai a oedd yn ceisio cymeradwyaeth y Pwyllgor Gwaith i gynyddu'r rhent a'r taliadau gwasanaeth ar gyfer 2020/21 i'w hystyried.
Dywedodd yr Aelod Portffolio ar gyfer Tai a Chefnogi Cymunedau fod Llywodraeth Cymru ar 18 Rhagfyr, 2019 wedi cadarnhau ei bod wedi cytuno ar bolisi Llywodraeth Cymru ar Renti Tai Cymdeithasol ar gyfer 2020/21. Mae'r Adolygiad o'r Cyflenwad Tai Fforddiadwy wedi argymell y dylid gweithredu polisi rhenti 5 mlynedd er mwyn rhoi sefydlogrwydd a sicrwydd i denantiaid ac argymhellir hefyd y dylai landlordiaid ystyried gwerth am arian yn ogystal â fforddiadwyedd. Bydd y fformiwla ar gyfer y cynnydd mewn rhent blynyddol yn cael ei osod ar y mynegai prisiau defnyddwyr (CPI) o 1.7% fel oedd y gwerth ym mis Medi, 2019 ynghyd ag 1%. Oherwydd bod lefelau rhent cyfredol y Cyngor yn sylweddol is na'r rhenti targed yn y polisi, bydd angen cynnydd wythnosol o hyd at £2 uwchben y cynnydd chwyddiant canrannol (yn achos y rhenti sy’n is na’r rhent targed) er mwyn sicrhau eu bod yn gyson gyda rhent darparwyr tai cymdeithasol eraill.
Tynnodd yr Aelod Portffolio ar gyfer Tai a Chefnogi Cymunedau sylw at y ffaith ei bod yn ofynnol i bob awdurdod lleol, yn unol â chyfarwyddyd Llywodraeth Cymru, weithredu'r Polisi Rhent – byddai gwrthod y polisi hwn yn y pen draw yn golygu y byddai’r Awdurdod yn colli incwm ac y byddai hynny’n anochel yn effeithio ar y gwasanethau a ddarperir. Byddai hyn hefyd yn tanseilio’r Cynllun Busnes CRT ac o bosib yn ein gadael yn agored i ymyrraeth gan Lywodraeth Cymru. Gallai gwrthod y polisi hwn hefyd beryglu’r Lwfans Atgyweiriadau Mawr blynyddol o dros £2.66 miliwn a dderbynnir gan Lywodraeth Cymru oherwydd gellid ystyried nad ydym yn gwneud y mwyaf o’n cyfleoedd i greu incwm.
Mewn ymateb i gwestiynau am fforddiadwyedd ac effaith bosibl ar allu tenantiaid i dalu, dywedwyd wrth y Pwyllgor Gwaith fod y cynnydd arfaethedig yn is nag mewn blynyddoedd blaenorol. Hefyd, mae gan y Gwasanaethau Tai dri o Swyddogion Cynhwysiant Ariannol sydd ar gael i ddarparu gwybodaeth, cyngor a chymorth i denantiaid am faterion cynhwysiant ariannol sy’n canolbwyntio’n gryf ar gynyddu sgiliau gallu ariannol a chyllidebu er mwyn i bobl allu rheoli eu harian a chael mynediad i wasanaethau ariannol prif lif. Datblygwyd cysylltiadau hefyd i wella arferion gwaith ar lefel strategol a gweithredol gyda phartneriaid mewnol ac allanol fel sefydliadau cymorth a chyngor, elusennau a chyfleustodau.
Penderfynwyd –
• Cymeradwyo’r cynnydd mewn rhent yn unol â rhent targed Llywodraeth Cymru yn seiliedig ar gasgliad dros 51 wythnos. • Cymeradwyo cynnydd o 2.7% yn yr holl renti sydd rhwng £0.41 - £4.47 yn is na’r targed yn ogystal â swm hyd at yr uchafswm o £2.00 yr wythnos i gyrraedd y rhent targed. • Cymeradwyo cynnydd o 2.7% yn yr holl renti sydd rhwng £3.87 - £5.01 yn is nar targed a £2.00 ychwanegol ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 7. |
|
Cau Allan y Wasg a'r Cyhoedd PDF 294 KB Ystyried mabwysiadu’r canlynol:-
“O dan Adran 100 (A) (4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a'r cyhoedd o'r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol ar y sail y gallai olygu datgelu gwybodaeth eithriedig fel y'i diffinnir yn Atodlen 12A y Ddeddf a’r Prawf Budd y Cyhoedd fel y cyflwynwyd nhw.” Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Penderfynwyd –
O dan Adran 100 (A) (4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a'r cyhoedd o'r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol ar y sail y golygai ddatgelu gwybodaeth eithriedig fel y'i diffinnir yn Atodlen 12A y Ddeddf ac yn y Prawf Budd y Cyhoedd fel y cyflwynwyd ef. |
|
Polisi Gwirio ar Sail Risg - Budd Dal Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151. Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 yn gofyn am gefnogaeth y Pwyllgor Gwaith i gyflwyno proses ddilysu yn seiliedig ar risg ar gyfer gweinyddu Budd-daliadau Tai a Lleihau Treth y Cyngor.
Dywedodd yr Aelod Portffolio dros Gyllid fod yr Adran Budd-daliadau ar hyn o bryd yn cyflawni'r un lefel o wiriad ym mhob achos, sef lefel gwirio sylfaenol fel y nodir gan yr Adran Gwaith a Phensiynau sydd bellach yn segur. Gan fod hyn yn gofyn am lawer o waith, mae'n ei gwneud yn anos rhoi ffocws ychwanegol a gallu adolygu achosion lle mae'r risg o dwyll/gwallau ar ei huchaf. Er bod yr Adran Gwaith a Phensiynau wedi caniatáu disgresiwn i awdurdodau weithredu eu prosesau gwirio seiliedig ar risg eu hunain ers 2011, nid yw'n rhywbeth y mae'r awdurdod wedi dymuno ei wneud tan nawr. Mae adolygiad diweddar o brosesau sydd wedi'i ategu gan leihad mewn achosion o Fudd-dal Tai wedi arwain at ystyried dilysu ar sail risg unwaith eto. Mae'r adain budd-daliadau hefyd wedi cynnal adolygiad i ganfod a oedd prosesau'n cael eu cynnal yn y ffordd fwyaf effeithiol. Cynhaliodd yr Adain Budd-daliadau ddadansoddiad risg o hawliadau sampl dros gyfnod a nododd gategorïau o hawlwyr lle’r oedd mwy o risg o newidiadau a arweiniodd at ordalu gwallau gan hawlwyr. Mae'r adroddiad yn Atodiad B yn nodi'r fethodoleg a ddefnyddiwyd a'r canfyddiadau a gafwyd. Hefyd cynhaliwyd Asesiad o'r Effaith ar Gydraddoldeb ac fe'i dangosir yn Atodiad C i'r adroddiad.
Cadarnhaodd Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 fod y cynnig i gyflwyno polisi dilysu seiliedig ar risg yn cael ei ystyried gan y Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu yn ei gyfarfod ym mis Rhagfyr, 2019 a bod y sylwadau a wnaed yn cael eu hadlewyrchu yn yr adroddiad, y polisi a'r fethodoleg. Eglurodd y Swyddog, wrth i Gredyd Cynhwysol gael ei weithredu a bod grant yr Adran Gwaith a Phensiynau yn lleihau, fod y Cyngor yn ceisio gwneud gwell defnydd o'r adnoddau sy'n weddill drwy ganolbwyntio sylw ar yr achosion hynny y tybir eu bod mewn perygl mawr o gynnwys twyll neu wall. Fodd bynnag, bydd yn rhaid adolygu'r polisi yn barhaus er mwyn sicrhau ei fod yn parhau i fod yn effeithiol a bod dosbarthiad y grwpiau risg yn parhau'n ddilys.
Mewn ymateb i gwestiynau gan y Pwyllgor Gwaith am arferion awdurdodau eraill, gallu systemau, hyfforddiant staff ac effaith o ran amseroedd prosesu hawliadau, eglurodd Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 fod nifer o'r awdurdodau bellach wedi mabwysiadu proses dilysu risg; Mae'r system technoleg gwybodaeth Northgate a ddefnyddir gan yr Awdurdod ar hyn o bryd yn cynnwys darpariaeth y gellir ei defnyddio at y diben hwn ac er bod staff Budd-daliadau yn dilyn hyfforddiant rheolaidd fel mater o drefn, bydd rhaglen o hyfforddiant yn cael ei chynnal i baratoi ar ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 9. |