Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol
Cyswllt: Ann Holmes
Rhif. | Eitem |
---|---|
Croesawodd y Cadeirydd bawb a oedd yn bresennol i gyfarfod olaf y Pwyllgor Gwaith o dan y Weinyddiaeth bresennol. Diolchodd i’r holl Swyddogion am eu gwaith a’u cymorth yn ystod y pum mlynedd diwethaf ac, yn yr un modd, diolchodd i’r Aelodau am eu cyfraniadau. Diolchodd y Cadeirydd yn arbennig i ddau aelod o’r Pwyllgor Gwaith sydd yn ymddeol cyn yr etholiadau cyngor lleol ym mis Mai, sef y Cynghorwyr R. Meirion Jones ac R. G. Parry, OBE, FRAgs.
|
|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni dderbyniwyd yr un datganiad o ddiddordeb.
|
|
Materion Brys a Ardystiwyd gan y Prif Weithredwr neu Swyddog a Benodwyd Ganddo Dim materion brys ar adeg anfon y rhaglen hon. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dim i’w adrodd.
|
|
Cyflwyno i’w cadarnhau, cofnodion drafft cyfarfodydd y Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar y dyddiadau canlynol:-
• 9 Mawrth 2022 • 21 Mawrth 2022 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd, i’w cadarnhau, cofnodion cyfarfodydd blaenorol y Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar y dyddiadau a ganlyn –
· 9 Mawrth, 2022 (arbennig) · 21 Mawrth, 2022
Penderfynwyd cymeradwyo fel rhai cywir, cofnodion cyfarfodydd blaenorol y Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar –
9 Mawrth, 2022 (arbennig) 21 Mawrth, 2022
|
|
Panel Rhiantu Corfforaethol PDF 324 KB Cyflwyno i’w mabwysiadu, cofnodion drafft y Panel Rhiantu Corfforaethol a gynhaliwyd ar 15 Mawrth 2022. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd, i’w mabwysiadu, cofnodion drafft y Panel Rhiant Corfforaethol a gynhaliwyd ar 15 Mawrth 2022.
Penderfynwyd mabwysiadu cofnodion drafft cyfarfod y Panel Rhiant Corfforaethol a gynhaliwyd ar 15 Mawrth 2022.
|
|
Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith PDF 368 KB Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd Dros Dro. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd, i’w ystyried, adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd Dros Dro, yn ymgorffori Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith ar gyfer y cyfnod o fis Mai i fis Rhagfyr 2022, a nodwyd y newidiadau a ganlyn –
· Eitem 7 – Adroddiad Blynyddol y Cyfarwyddwr Statudol ar effeithiolrwydd y Gwasanaethau Cymdeithasol: eitem newydd ar gyfer cyfarfod y Pwyllgor Gwaith ym mis Mehefin 2022. · Eitem 16 – Adroddiad Perfformiad Blynyddol 2021/22: eitem newydd ar gyfer cyfarfod y Pwyllgor Gwaith ym mis Hydref 2022.
Penderfynwyd cadarnhau Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith wedi’i diweddaru ar gyfer y cyfnod o fis Mai i fis Rhagfyr 2022, fel y’i cyflwynwyd.
|
|
Newidiadau i'r Cyfansoddiad PDF 602 KB Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth Dros Dro (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth Dros Dro (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro ynghylch y newidiadau arfaethedig i Gyfansoddiad y Cyngor o ganlyniad i Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021. Gofynnwyd i’r Pwyllgor Gwaith argymell y newidiadau i gyfarfod o’r Cyngor Llawn a oedd i’w gynnal yn syth ar ôl cyfarfod y Pwyllgor Gwaith.
Cyflwynodd y Cynghorydd Dafydd Rhys Thomas, Aelod Portffolio ar gyfer Busnes y Cyngor, yr adroddiad gan grynhoi beth oedd y newidiadau arfaethedig yn ei olygu a phwysigrwydd y Cyfansoddiad o ran darparu fframwaith ar gyfer penderfyniadau’r Cyngor, ac argymhellodd y newidiadau i’r Pwyllgor Gwaith.
Dywedodd y Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol wrth y Pwyllgor Gwaith bod Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 yn cyflwyno newidiadau i gylch gorchwyl rhai pwyllgorau, ac yn bennaf y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio a’r Pwyllgor Safonau. Diwygiwyd y Cyfansoddiad i adlewyrchu’r newidiadau hyn ac mae’r prif newidiadau sydd yn ymwneud â’r Pwyllgor Safonau a’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio yn cael eu nodi yn Atodiadau 1 a 2 yr adroddiad.
Yn ogystal, bydd yr adolygiad ffiniau diweddar yn arwain at gynyddu nifer y cynghorwyr ar y Cyngor o 30 i 35 ar ôl yr etholiadau, gan olygu y bydd angen cynyddu maint rhai pwyllgorau. Lle ceir dewis, cynigir bod nifer y seddi ar bwyllgorau’n cael eu cynyddu yn gymesur â’r cynnydd yng nghyfanswm yr aelodau etholedig, gyda’r nifer yn ei dalgrynnu i fyny lle bo angen. Nodir y newidiadau hyn yn y tabl a gynhwysir yn yr adroddiad.
Penderfynwyd argymell i’r Cyngor -
· Ei fod yn mabwysiadu’r newidiadau i’r Cyfansoddiad a nodir yn yr adroddiad. · Ei fod yn cytuno i wneud y newidiadau a argymhellir ac yn dirprwyo pŵer i’r Swyddog Monitro wneud y newidiadau sy’n cael eu hargymell i’r Cyfansoddiad ynghyd ag unrhyw newidiadau ategol neu ganlyniadol sy’n codi.
|