Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Cyfarfod Hybrid - yn Siambr y Cyngor, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni ac yn Rthithiol drwy ZOOM
Cyswllt: Ann Holmes
Rhif. | Eitem |
---|---|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau o ddiddordeb.
|
|
Materion brys ardystiwyd gan y Prif Weithredwr neu ei Swyddog Apwyntiedig Dim materion brys ar adeg anfon y rhaglen hon. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddodd y Prif Weithredwr ddiweddariad ar y sefyllfa yn sgil y bwriad i gau ffatri ddofednod 2 Sisters yn Llangefni a chadarnhaodd bod ymgynghoriad yn mynd rhagddo gyda staff y ffatri ar hyn o bryd ac nad yw’r gwaith yn debygol o gael ei gwblhau tan ddechrau mis Mawrth. Yn y cyfamser mae’r Cyngor mewn cysylltiad â’r perchnogion yn ogystal â grŵp bwyd 2 Sisters ac mae’n gweithio’n agos iawn gyda Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru ynghyd â’r Undebau Llafur. Gellid sefydlu Canolfan Waith yng Nghanolfan Fusnes y Cyngor fel bod modd i staff gael mynediad hwylus at gyngor a chymorth a bwriedir hefyd darparu llawlyfr i staff sy’n cynnwys gwybodaeth angenrheidiol a manylion cyswllt mewn perthynas â chyflogaeth a chymorth cymdeithasol a lles. Hefyd, cynhaliodd y Cyngor sesiwn galw heibio yn y dderbynfa’r wythnos ddiwethaf yn ei rôl fel cyflogwr mawr yn lleol. Er ei bod hi’n anodd gwneud unrhyw gynlluniau pendant hyd nes y bydd y cwmni’n cadarnhau'r hyn y mae’n bwriadu’i wneud gyda’r ffatri, mae’n galonogol adrodd bod rhai o’r gweithwyr wedi llwyddo i gael gwaith gyda chwmnïau eraill o fewn yr isranbarth sy’n dyst i werth y sgiliau y maent wedi eu datblygu ar y safle yn Llangefni. Dywedodd y Prif Weithredwr y bydd y sefyllfa’n dod yn gliriach unwaith y bydd yr ymgynghoriad gyda’r staff wedi dod i ben. |
|
Cyflwyno i’w cadarnhau, gofnodion drafft cyfarfod y Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar 24 Ionawr 2023. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar 24 Ionawr, 2023 i’w cadarnhau.
Penderfynwyd cadarnhau fod cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar 24 Ionawr, 2023 yn gywir.
|
|
Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith PDF 517 KB Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Democratiaeth. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Democratiaeth, a oedd yn cynnwys Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith am y cyfnod Mawrth i Ebrill, 2023, i gael ei ystyried.
Rhoddodd y Pennaeth Democratiaeth ddiweddariad i’r Pwyllgor Gwaith mewn perthynas â’r eitemau newydd ar y Rhaglen Waith sef eitem 6 (Newidiadau i’r Polisi Darpariaeth Isafswm Refeniw) ac eitem 13 (Cynllun y Cyngor 2023-28) a fydd yn cael eu hystyried yng nghyfarfod y Pwyllgor Gwaith ar 2 Mawrth, 2023 ac eitem 18 (Moderneiddio Ysgolion - Symud dyddiad gweithredu’r rhybudd statudol ar gyfer Ysgol y Graig ac Ysgol Talwrn) a fydd yn cael ei ystyried yng nghyfarfod y Pwyllgor Gwaith ar 21 Mawrth, 2023.
Penderfynwyd cadarnhau Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith wedi ei diweddaru am y cyfnod Mawrth 2023 i Hydref 2023 gyda’r newidiadau a amlinellwyd yn y cyfarfod.
|
|
Cyfrifon ac Adroddiad Blynyddol yr Ymddiriedolaeth Addysg Bellach 2021/22 PDF 679 KB Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151, a oedd yn cynnwys Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon Ystâd Elusennol David Hughes ac Ymddiriedolaeth Addysg Bellach Ynys Môn 2021/22, i’w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith. Roedd yr adroddiad yn rhoi trosolwg o gefndir Ymddiriedolaeth Addysg Bellach Ynys Môn ynghyd â chrynodeb o berfformiad ariannol yr Ymddiriedolaeth yn 2021/22. Roedd yr adroddiad hefyd yn cynnwys diweddariad ar y cynnydd o ran dosbarthu mwy o gyllid yr Ymddiriedolaeth i gyflawni dibenion elusennol yr Ymddiriedolaeth.
Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cynghorydd Robin Williams, Aelod Portffolio Cyllid, Busnes Corfforaethol a Phrofiad Cwsmer a dywedodd bod Gwaddol David Hughes yn dyddio’n ôl i 1608 a’i fod yn cynnwys nifer o blotiau o dir mân-ddaliadau a bythynnod a buddsoddiadau eraill. Mae’r gronfa hon yn casglu rhenti o’r eiddo y mae’n buddsoddi ynddynt a difidendau a llog ar fuddsoddiadau’r Gronfa Fuddsoddi. Caiff costau rheoli, ariannol a gweinyddol y stad eu tynnu o’r rhenti a geir er mwyn penderfynu ar yr incwm net y gellir ei rannu yn ystod y flwyddyn fel yr amlinellir yn yr adroddiad. Yn 2019, cymeradwyodd y Pwyllgor Gwaith raglen waith a fyddai’n galluogi’r Ymddiriedolaeth i ddosbarthu cyllid yr Ymddiriedolaeth yn fwy effeithiol i i fwy o fuddiolwyr mewn ysgolion uwchradd neu addysg bellach/uwch ar Ynys Môn. Aeth y Cynghorydd Robin Williams ymlaen i ddweud bod angen cwblhau gwaith pellach i hyrwyddo cyllid yr Ymddiriedolaeth ymysg ysgolion Ynys Môn a bydd y mater hwn yn cael ei godi mewn cyfarfod rhwng yr ysgolion, y Swyddog Adran 151 a’r Aelodau Portffolio Cyllid ac Addysg. Hefyd, roedd o’r farn bod angen adolygu’r Ymddiriedolaeth gyda’r nod o’i diweddaru a’i gwneud yn fwy perthnasol i’r amodau a gofynion addysgol presennol. Mae cynllun gweithredu a dogfennau’r Ymddiriedolaeth wedi’u geirio’n hen ffasiwn ac mae angen eu diwygio a’u diweddaru. Ni allai warantu y byddai newidiadau yn cael eu gwneud achos fod hynny yn dibynnu ar y cyngor cyfreithiol a dderbynnir ond roedd o’r farn bod angen cynnal adolygiad a’i fod yn amserol gwneud hynny. Cynigodd felly bod y bwriad hwnnw’n cael ei ffurfioli drwy benderfyniad gan y Pwyllgor Gwaith.
Roedd y Cynghorydd Gary Pritchard, Aelod Portffolio Plant (Gwasanaethau Ieuenctid a Gwasanaethau Ieuenctid yn croesawu’r adolygiad yn enwedig petai hynny’n golygu y gallai mwy o bobl ifanc sydd mewn addysg ar Ynys Môn elwa ohono a hynny mewn cyfnod anodd sydd yn debygol o bara am beth amser eto.
Penderfynwyd –
• Cymeradwyo Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon Drafft Ymddiriedolaeth Addysg Bellach Ynys Môn ar gyfer y flwyddyn 2021/22. • Dirprwyo i'r Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 yr awdurdod i lofnodi'r Adroddiad Blynyddol a'r Cyfrifon Terfynol a'u ffeilio gyda'r Comisiwn Elusennau ar ôl cwblhau'r archwiliad yn foddhaol. • Awdurdodi cynnal adolygiad o Ymddiriedolaeth Addysg Ynys Môn gyda’r nod o ddiweddaru a moderneiddio’r Ymddiriedolaeth er mwyn sicrhau’r buddion addysgol gorau posibl ohono ar gyfer pobl ifanc Ynys Môn.
|
|
Ffioedd Cartrefi Gofal y Sector Annibynnol 2023/24 PDF 467 KB Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion a oedd yn ceisio cymeradwyaeth y Pwyllgor Gwaith ar bennu ffioedd cartrefi gofal y sector annibynnol ar gyfer 2023/24 yn unol â’r polisi cenedlaethol.
Cadarnhaodd y Cynghorydd Alun Roberts, Aelod Portffolio Gwasanaethau Oedolion y bydd yr Awdurdod yn parhau i ddefnyddio’r Fethodoleg Ffioedd Rhanbarthol ar gyfer ffioedd Preswylio a Nyrsio Sylfaenol ond bwriedir defnyddio cyfraddau ffioedd uwch ar gyfer darpariaeth EMI Preswyl a Nyrsio. Efallai y bydd rhaid i’r Awdurdod ystyried ceisiadau unigol gan ddarparwyr ynghylch y ffioedd hyn ac os gellir dangos nad yw'r ffi a osodwyd yn ddigonol mewn unrhyw achos unigol, bydd angen i'r Awdurdod ystyried eithriadau i'r cyfraddau ffioedd n unol â’r prosesau a gynigir yn yr adroddiad.
Cynghorodd y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion, oherwydd natur y galw am welyau EMI ar yr ynys ac er mwyn annog darpariaeth bellach, bod y gwasanaeth yn argymell y dylai ffioedd yr EMI aros yn uwch na chyfradd Methodoleg Gogledd Cymru. Cynhaliodd yr Awdurdod adolygiad canol blwyddyn o ffioedd ym mis Gorffennaf 2022 ac yn ystod yr adolygiad hwn cynyddwyd y ffioedd diwygiedig ar gyfer EMI Preswyl a Nyrsio ar gyfer 2022/23 ymhellach a chynigir bod y newidiadau hynny’n cael eu cadw.
Penderfynwyd –
· Cydnabod Methodoleg Ffioedd Gogledd Cymru fel y'i gweithredwyd hyd yn hyn gan Awdurdodau Gogledd Cymru fel sail i osod ffioedd yn Ynys Môn yn ystod 2023/24 (Tabl 1 yn yr adroddiad); · Cymeradwyo’r argymhelliad i godi lefel y ffioedd fel a ganlyn:-
· Gofal Preswyl (Oedolion) – £711.83
· Preswyl (EMI) - £795.46
· Gofal Nyrsio (Elfen Gofal Cymdeithasol) - £774.54 + elfen FNC yr Awdurdod Lleol (I’w gadarnhau)
· Nyrsio (EMI) (Elfen Gofal Cymdeithasol) - £915.37 + elfen FNC yr Awdurdod Lleol (I’w gadarnhau)
· Awdurdodi’r Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Gwasanaethau Cyllid i ymateb i unrhyw geisiadau gan gartrefi unigol i archwilio eu cyfrifon penodol a defnyddio'r ymarfer fel sail i ystyried unrhyw eithriadau i'r ffioedd y cytunwyd arnynt. Unrhyw eithriadau i'w cytuno gyda'r Aelod Portffolio, y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 a'r Pennaeth Oedolion o'r cyllidebau presennol.
|
|
Sefydlu Pwyllgor Polisi Cynllunio newydd ar gyfer Cyngor Sir Ynys Môn PDF 388 KB Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd, a oedd yn nodi’r trefniadau llywodraethu arfaethedig ar gyfer gwaith polisi cynllunio Cyngor Sir Ynys Môn, i’w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith.
Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cynghorydd Nicola Roberts, Aelod Portffolio Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Newid Hinsawdd a ddywedodd bod y penderfyniad gan Gyngor Sir Ynys Môn a Chyngor Gwynedd i ddod â’r cytundeb cydweithio ar faterion polisi cynllunio i ben ar 31 Mawrth 2023 yn golygu y bydd rhaid diddymu’r Pwyllgor Polisi Cynllunio ar y Cyd. Bydd rhaid i’r awdurdodau unigol roi trefniadau newydd ar waith er mwyn cyfrannu at y gwaith o greu Cynllun Datblygu Lleol newydd a gwaith polisi cynllunio cysylltiedig. Mae’r adroddiad felly’n cynnig creu Pwyllgor Polisi Cynllunio newydd ar gyfer Cyngor Sir Ynys Môn ac mae’n nodi swyddogaethau’r pwyllgor a’r trefniadau ar gyfer ei lywodraethu.
Amlygodd y Cadeirydd bod y penderfyniad i ddod â’r cytundeb cydweithio rhwng y ddau gyngor i ben wedi’i wneud ym mis Gorffennaf 2022 a bod y sail resymegol dros y penderfyniad hwnnw wedi’i egluro ar yr adeg honno; mae’r adroddiad yn rhan o’r broses o ddatgysylltu a sefydlu polisi cynllunio ar wahân ar gyfer Ynys Môn. Fodd bynnag, bydd y berthynas waith sy’n bodoli rhwng y ddau gyngor o ran rhannu gwybodaeth a monitro’r Cynllun Datblygu ar y Cyd cyfredol yn parhau.
Penderfynwyd argymell i’r Cyngor Llawn –
· I sefydlu Pwyllgor Polisi Cynllunio newydd ar gyfer Cyngor Sir Ynys Môn. · I ddiwygio’r Cyfansoddiad er mwyn diddymu’r Pwyllgor Polisi Cynllunio ar y Cyd a sefydlu Pwyllgor Polisi Cynllunio newydd ac i ddirprwyo i’r Swyddog Monitro yr hawl i weithredu’r newidiadau hyn.
|