Rhaglen, Penderfyniadau a Chofnodion.

Cyfarfod Hybrid - yn Siambr y Cyngor, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni ac yn Rhithiol drwy ZOOM, Pwyllgor Gwaith - Dydd Mawrth, 21ain Mawrth, 2023 10.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Cyfarfod Hybrid - yn Siambr y Cyngor, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni ac yn Rhithiol drwy ZOOM

Cyswllt: Ann Holmes 

Cyfryngau

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ddaeth yr un datganiad o ddiddordeb i law.

 

2.

Materion brys ardystiwyd gan y Prif Weithredwr neu ei Swyddog Apwyntiedig

Dim materion brys ar adeg anfon y rhaglen hon.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim i’w adrodd.

3.

Cofnodion pdf eicon PDF 331 KB

Cyflwyno i’w cadarnhau, gofnodion drafft cyfarfod y Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar 2 Mawrth 2023.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd, i’w cadarnhau, gofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd 2 Mawrth, 2023.

 

Penderfynwyd cadarnhau cofnodion drafft cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar 2 Mawrth, 2023 fel rhai cywir.

 

4.

Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith pdf eicon PDF 247 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Democratiaeth.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd, i’w gadarnhau, adroddiad y Pennaeth Democratiaeth yn ymgorffori Blaenraglen Waith y Pwyllgor Gwaith am y cyfnod o Ebrill i Dachwedd, 2023.

 

Rhoddodd y Pennaeth Democratiaeth wybod i’r Pwyllgor Gwaith am y sefyllfa bresennol ynghylch newidiadau i’r Blaenraglen Waith a nodwyd yr isod

 

  • Eitem 5 (Prynu Gorfodol Posibl ar Dir Eco Belenni yn Llangefni) ac Eitem 6 (Strategaeth Eiddo Corfforaethol a Rheoli Asedau’r Cyngor) yn eitemau newydd a drefnwyd ar gyfer cyfarfod 25 Ebrill, 2023
  • Eitemau 26 i 29 (Monitro Perfformiad Ch2 a'r Gyllideb) yn eitemau newydd a drefnwyd ar gyfer cyfarfod mis Tachwedd, 2023
  • Eitemau 3 a 4 (Cynllun Rheoli Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol a Chynllun Rheoli Cyrchfan yn y drefn honno) i'w cyflwyno i gyfarfod 25 Ebrill yn gynlluniau drafft ar gyfer ymgynghori ac i'w hailgyflwyno dan eitemau 16 a 17 i gyfarfod Gorffennaf, 2023 yn ddrafftiau terfynol.
  • Manylion portffolio i'w diwygio i adlewyrchu newidiadau diweddar i'r Pwyllgor Gwaith cyn y diweddariad misol ar wefan y Cyngor.

 

Penderfynwyd cadarnhau Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith wedi’i diweddaru am y cyfnod Ebrill i Dachwedd, 2023 gyda’r newidiadau a amlinellwyd yn y cyfarfod.

 

5.

Monitro’r Cerdyn Sgorio – Chwarter 3, 2022/23 pdf eicon PDF 544 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Proffesiwn - AD a Thrawsnewid.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd, i sylw’r Pwyllgor Gwaith, adroddiad y Pennaeth Proffesiwn (Adnoddau Dynol) a Thrawsnewid yn cynnwys y Cerdyn Sgorio Corfforaethol ac yn nodi sefyllfa’r Cyngor yn erbyn ei amcanion gweithredol ar ddiwedd Chwarter 3 2022/23.

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cadeirydd yn adlewyrchiad hynod gadarnhaol o berfformiad y Cyngor ar ddiwedd Chwarter 3, gan ei wneud y trydydd chwarter a berfformiodd orau yn erbyn targedau’r adran rheoli perfformiad ers creu’r adroddiad cerdyn sgorio. Cyfeiriodd at y dangosyddion perfformiad oedd yn cyd-fynd â thri amcan llesiant presennol y Cyngor a thynnodd sylw at rai perfformiadau amlwg o ran Tai, Gwasanaethau Oedolion, Gwasanaethau Digartrefedd a rheoli gwastraff. Er gwaethaf yr enghreifftiau o berfformiad da iawn ynghyd â'r meysydd i'w gwella, roedd yr adroddiad hefyd yn nodi meysydd lle methwyd targedau a byddid yn canolbwyntio’n barhaus ar y rhain er mwyn gwella'r perfformiad. At ei gilydd, fodd bynnag, roedd yr adroddiad yn dangos ymrwymiad clodwiw a chyflawniad staff ar draws y Cyngor wrth gynnal lefelau perfformiad mewn amgylchiadau anodd ar adegau ac roedd y Pwyllgor Gwaith yn eu gwerthfawrogi ac yn diolch iddynt am eu hymdrechion.

 

Ategodd y Pennaeth Proffesiwn (AD) a Thrawsnewid deimladau’r Cadeirydd gan ddweud bod yr adroddiad ar gerdyn sgorio Chwarter 3 yn galonogol iawn ac yn gosod y Cyngor mewn sefyllfa dda i osod y cynnwys a’r targedau ar gyfer cerdyn sgorio corfforaethol 2023/24. Byddai’r trefniadau ar eu cyfer yn cael eu gwneud yn hysbys yn fuan i sicrhau bod pawb yn cael cyfle i gyfrannu.

 

Rhoddodd y Cynghorydd R. Llewelyn Jones, Cadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol, adborth o gyfarfod y Pwyllgor ar 14 Mawrth, 2023 lle craffwyd a heriwyd adroddiad Cerdyn Sgorio Corfforaethol Chwarter 3. Wrth gydnabod y perfformiad a’r cynnydd cadarnhaol a gofyn am y trefniadau i gydnabod y llwyddiannau hynny, nododd y Pwyllgor, hefyd, isod, berfformiad targed mewn rhai meysydd a gofynnodd am sicrwydd ynghylch monitro'r meysydd hyn. Roedd y Pwyllgor, hefyd, wedi trafod y perfformiad yn erbyn y dangosydd presenoldeb yn y gwaith, gan gynnwys sut yr oedd yn cymharu â pherfformiad blynyddoedd blaenorol. Roedd, hefyd, wedi gofyn am eglurhad o'r trefniadau ar gyfer sicrhau bod y cerdyn sgorio corfforaethol yn cyd-fynd ag amcanion Cynllun newydd y Cyngor ar gyfer 2023-2028. Wedi cael sicrwydd ynghylch y materion hyn, roedd y Pwyllgor wedi penderfynu nodi'r meysydd i'w gwella ynghyd â'r mesurau lliniaru a amlinellwyd ac argymell hynny i'r Pwyllgor Gwaith.

 

 

Croesawodd aelodau’r Pwyllgor Gwaith gerdyn sgorio Ch3 yn dystiolaeth o barhad cynnydd cadarnhaol ar draws gwasanaethau’r Cyngor gan ddweud bod llawer i ymfalchïo ynddo yn yr adroddiad. Serch hynny, nododd yr aelodau, hefyd, duedd o ostyngiad dros amser mewn rhai dangosyddion rheoli perfformiad a gofynnwyd i Swyddogion fonitro'r dangosyddion hynny'n agos yn y misoedd i ddod. Diolchwyd i’r Pennaeth Proffesiwn (AD) a Thrawsnewid a’r Rheolwr Rhaglen, Cynllunio Busnes a Pherfformiad am eu gwaith a’u cefnogaeth ynghyd  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 5.

6.

Adroddiad Cynnydd: Gwelliannau ym maes Gwasanaethau Cymdeithasol pdf eicon PDF 509 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd, i sylw’r Pwyllgor Gwaith, adroddiad Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol oedd yn drosolwg o’r cynnydd a’r datblygiad diweddaraf yn y Gwasanaethau Cymdeithasol.

 

Rhoddodd y Cynghorydd Alun Roberts, Aelod Portffolio’r Gwasanaethau Oedolion a Diogelwch Cymunedol gyd-destun i adroddiad cynnydd y Gwasanaethau Cymdeithasol sydd wedi’i gyflwyno i’r Pwyllgor Craffu a’r Pwyllgor Gwaith yn chwarterol ac yna, yn ddiweddar, ddwywaith y flwyddyn yn dilyn adroddiad beirniadol gan Arolygiaeth Gofal Cymru (yr AGC) yn 2016. Arweiniodd arolygiad yr AGC o berfformiad diweddar y Gwasanaethau Cymdeithasol a gwerthusiad o’r adran at adroddiad cadarnhaol ym mis Rhagfyr, 2022. Nododd hwn nifer o gryfderau ar draws y gwasanaethau Oedolion a Phlant a Theuluoedd, yn ogystal â meysydd i'w gwella ymhellach, y byddai gweithgor mewnol yn rhoi sylw iddynt. Er bod yr adroddiad yn adlewyrchiad o daith gadarnhaol y Gwasanaethau Cymdeithasol ym Môn ers 2016, mae nifer o heriau yn parhau, yn enwedig o ran capasiti a staffio oedd yn cael effaith ar y sector cyfan. Amlygodd yr Aelod Portffolio y ffaith fod Adran y Gwasanaethau Cymdeithasol yn parhau i weithio'n agos gyda Choleg Menai i ddenu pobl iau i'r gwasanaeth, a chyda chymorth Adnoddau Dynol, yn rhoi cynnig ar syniadau recriwtio a marchnata arloesol. O ran uchafbwyntiau, Diwrnod Agored Caergybi 50+, bu'r trydydd digwyddiad o'r fath yn boblogaidd gyda’r rhai oedd yno, gyda chynlluniau i gynnal y gyfres yn flynyddol.

 

Crynhowyd y prif ddatblygiadau yn y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd gan y Cynghorydd Gary Pritchard, Aelod Portffolio'r Gwasanaethau hyn, gan gyfeirio’n benodol at Gartref Clyd Rhosybol, y pedwerydd cyfleuster o’r fath i’w gofrestru. Mae tîm y Gwasanaethau Ieuenctid yn cael ei adolygu, gan ganolbwyntio ar ymgysylltu â rhanddeiliaid, yn enwedig y bobl ifanc oedd yn defnyddio'r gwasanaeth, yn ogystal â'r rhai nad oeddynt yn ei ddefnyddio. Mae Strategaeth Plant sy’n Derbyn Gofal a’r Rhai sy’n Gadael Gofal wedi’i datblygu a byddai’n cael ei chyflwyno i’r Panel Rhiantu Corfforaethol ym mis Mawrth, 2023.

 

Dywedodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol mai pethau ychwanegol at y gwasanaethau cymdeithasol a ddarperir o ddydd i ddydd i lawer o bobl ar yr Ynys yw mentrau a llwyddiannau penodol, er iddynt gael eu nodi yn yr adroddiad cynnydd. Roedd Diwrnod Gwaith Cymdeithasol y Byd yn disgyn ar 21 Mawrth, 2023 ac roedd yn ein hatgoffa o bwysigrwydd gwerthfawrogi gwaith cymdeithasol a gweithwyr cymdeithasol. Roedd Adran y Gwasanaethau Cymdeithasol yn falch o'i chyflawniadau dros y blynyddoedd diwethaf ond yn cydnabod bod heriau o hyd y mae'n rhaid eu hwynebu o ran cyllid, staffio a galw.

 

Cadarnhaodd Pennaeth y Gwasanaethau Oedolion fod y Gwasanaethau hyn wedi bod dan bwysau sylweddol dros fisoedd y gaeaf ond, diolch i’r gweithlu, roedd wedi ymateb yn hyblyg ac yn greadigol i lefelau’r galw. Byddai gweithgor mewnol yn rhoi sylw i adroddiad yr AGC o ran gwneud gwelliannau pellach, gan gydnabod na all y Gwasanaeth aros yn ei  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 6.

7.

Moderneiddio Ysgolion Môn – Symud dyddiad gweithredu'r rhybudd statudol ar gyfer Ysgol y Graig ac Ysgol Talwrn pdf eicon PDF 103 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd, i’w ystyried, adroddiad y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc, yn gofyn am gymeradwyaeth y Pwyllgor Gwaith i ohirio dyddiad gweithredu’r hysbysiad statudol ar gyfer Ysgol y Graig ac Ysgol Talwrn.

 

Eglurwydy cefndir gan y Cynghorydd Ieuan Williams, Aelod Portffolio Addysg a’r Iaith Gymraeg, sef cyhoeddi’r hysbysiad statudol i gau Ysgol Talwrn ac i gynyddu maint Ysgol y Graig i dderbyn disgyblion o Ysgol Talwrn, gyda’r dyddiad gweithredu ar gyfer y bwriad yn 1. Medi, 2023. Cyfeiriodd at y ffactorau niferus, a restrwyd yn yr adroddiad, oedd wedi peri gohirio’r dyddiad dechrau, gan gynnwys proses prynu tir a chaniatâd cynllunio hwy na'r disgwyl; cyfyngiadau yn ystod y cyfnod cyn yr etholiad a chyflawni gwaith archeolegol ar y safle. Roedd y Pwyllgor Gwaith wedi cytuno mai dyddiad gweithredu gwreiddiol y rhybudd statudol oedd 1 Medi, 2023 ond, oherwydd y rhesymau a amlinellwyd, gofynnwyd i ymestyn y cyfnod am 12 mis i 1 Medi, 2024. Yn unol â hynny, fel cynigydd y bwriad yn y rhybudd statudol, roedd angen i Bwyllgor Gwaith Cyngor Sir Ynys Môn ohirio'r dyddiad gweithredu.

 

Penderfynwyd  -

 

·      Cymeradwyo oedi dyddiad gweithredu’r cynnig, sef i “gynyddu capasiti Ysgol Y Graig i gymryd disgyblion o Ysgol Talwrn, cau Ysgol Talwrn ac adolygu dalgylchoedd Ysgol Y Graig ac Ysgol Talwrn” i 1 Medi, 2024.

·      Yn amodol ar yr uchod, bydd Swyddogion yn hysbysu’rpartïon perthnasolo’r penderfyniad i ohirio dyddiad gweithredu’r cynnig ar gyfer Ysgol Y Graig.

 

8.

Strategaeth Moderneiddio Cymunedau Dysgu a Datblygu’r Gymraeg pdf eicon PDF 1 MB

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd, i sylw’r Pwyllgor Gwaith, adroddiad y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc yn ymgorffori fersiwn ddrafft y Strategaeth Cymunedau Dysgu a Datblygu’r Gymraeg.

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cynghorydd Ieuan Williams, Aelod Portffolio dros Addysg a’r Gymraeg, gan gyfeirio at uchelgais y Cyngor ar gyfer plant a phobl ifanc yr Ynys, beth bynnag fo’u cefndir a’u hamgylchiadau, eu bod yn cyrraedd eu llawn botensial, a bod pob dysgwr yn cael cefnogaeth i ddatblygu tuag at bedwar diben y cwricwlwm. Ers cyhoeddi’r strategaeth wreiddiol yn 2013, roedd llawer iawn o waith wedi ei wneud i foderneiddio’r stoc ysgolion ar Ynys Môn, gyda thri phrosiect wedi eu cwblhau hyd yma a dau brosiect pellach ar y gweill. Erbyn i’r ddau olaf gael eu cwblhau, byddai’r Cyngor wedi agor pump o adeiladau’r 21ain ganrif mewn pedair ardal, gan gynnwys adeilad sero net cyntaf y Cyngor, adnewyddu ac ehangu dwy ysgol arall a chau 11 o ysgolion bach. Yn ogystal, byddai tua 25% o ddysgwyr cynradd Ynys Môn yn cael eu haddysg mewn adeiladau'r 21ain ganrif erbyn hynny. Roedd y prosiectau a gyflawnwyd hyd yma wedi cael effaith gadarnhaol ar leoedd dros ben yn y sector cynradd ac wedi arwain at arbedion refeniw a dileu costau cynnal a chadw presennol a rhagamcanol. Roedd cynnydd y Cyngor o ran moderneiddio ei drefniadaeth ysgolion wedi’i gydnabod gan Estyn yn ei adroddiad ym mis Mehefin 2022.

 

Siaradodd yr Aelod Portffolio dros Addysg a’r Gymraeg am yr ymrwymiadau ariannu oedd yn gysylltiedig â moderneiddio trefniadaeth ysgolion, gan ddweud bod y Cyngor wedi gorfod cwrdd â gweddill y costau er bod Llywodraeth Cymru wedi cyfrannu 50% tuag at gost prosiectau Band A a 65% tuag at brosiectau Band B. Er bod adeiladu ysgolion newydd, felly, yn ddrud, yn enwedig ar hyn o bryd, o ganlyniad i ddigwyddiadau byd-eang, roedd yn bwysig bod y Cyngor yn manteisio ar y cyfle i ddenu cyllid allanol i wella cyflwr stad ei  adeiladau addysg. Roedd cynnydd da wedi ei wneud yn y sector cynradd ond roedd angen gwneud gwaith i fynd i'r afael â'r dirywiad yng nghyflwr adeiladau ysgolion uwchradd. O’r herwydd, roedd y strategaeth yn rhagweld y byddai angen iddo ailfodelu'r ddarpariaeth uwchradd dros y blynyddoedd nesaf wrth, hefyd, weithredu penderfyniadau anodd eraill.

 

Amlinellwyd yr amcanion oedd yn sail i'r strategaeth gan yr Aelod Portffolio, fel y'u rhestrwyd yn yr adroddiad, a phwysleisiodd fod y Cyngor yn awyddus i ymgynghori ar y strategaeth cyn ei mabwysiadu, fel bod modd ystyried barn rhanddeiliaid a phartneriaid cyn gwneud penderfyniadau pellach ar sut i symud ymlaen gyda’r rhaglen.

 

Eglurwyd y broses ymgynghori arfaethedig a'r amserlen gan y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc a chadarnhaodd, yn amodol ar gymeradwyaeth y Pwyllgor Gwaith, mai'r bwriad oedd dechrau ymgynghori ar 31 Mawrth, 2023 am gyfnod o saith wythnos tan 18 Mai. Yn dilyn hynny  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 8.

9.

Cynllun Busnes y Cyfrif Refeniw Tai 2023-2053 pdf eicon PDF 2 MB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Tai.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad Pennaeth y Gwasanaethau Tai, yn ymgorffori Cynllun Busnes y Cyfrif Refeniw Tai (y CRT) 2023-53 i’r Pwyllgor Gwaith ei ystyried a’i gymeradwyo.

 

Cyflwynwyd yr adroddiad a Chynllun Busnes y CRT yn ddogfen statudol gan y Cynghorydd Gary Pritchard, Aelod Portffolio dros Wasanaethau Plant, Ieuenctid a Thai, gan ddweud bod y Cynllun Busnes yn adlewyrchu gweledigaeth y Cyngor o sicrhau bod gan bawb yr hawl i  alw rhywle yn gartref. Roedd y CRT yn ariannu holl weithrediadau’r Cyngor yn ei rôl fel landlord cymdeithasol cofrestredig ac wedi’i neilltuo i’r diben hwnnw. Roedd yn darparu cynllun ariannol hyfyw ar gyfer stoc tai’r Cyngor. Elfen bwysig o’r CRT oedd yr ymrwymiad i ehangu stoc tai’r Cyngor i gwrdd ag anghenion tai gwahanol ar draws yr Ynys. Fel y dywedodd yr Aelod Portffolio, y Cynghorydd Gary Pritchard, roedd yn falch bod Ynys Môn ymhlith yr ychydig awdurdodau oedd wedi cadw eu stoc tai ac yn mynd ati i ehangu ei stoc drwy adeiladu tai newydd a throsi eiddo gwag yn gartrefi.

 

Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Tai fod Cynllun Busnes y CRT wedi'i baratoi ar y cyd â'r Gwasanaeth Cyllid ac y byddai’n cael ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru erbyn diwedd y mis er mwyn sicrhau Lwfans Atgyweiriadau Mawr blynyddol y Cyngor o £2.688m ar gyfer 2023/ 24. Dangosai’r Cynllun Busnes sut y deuai’r Cyngor â'i stoc i Safonau Ansawdd Tai Cymru (SATC); sut oedd yn bwriadu gweithio tuag at y SATC newydd a'r buddsoddiad oedd ei angen i ariannu ei raglen newydd i ddatblygu tai cyngor. Erbyn diwedd cyfnod y Cynllun Busnes, byddai stoc tai'r Cyngor wedi cynyddu 25% i dros 5,000 o dai a fyddai’n helpu i ddiwallu'r angen lleol cynyddol am dai. Roedd dros 900 o bobl ar y rhestr aros am dai cymdeithasol ar hyn o bryd, yn cynnwys 85 o aelwydydd mewn llety dros dro ar yr Ynys.

 

Roedd y Cyngor wedi ymrwymo'n llwyr i gyflawni'r SATC newydd y byddai Llywodraeth Cymru’n cytuno arno’n fuan ac, i'r perwyl hwnnw, cynhaliodd arolwg o gyflwr ei holl stoc tai yn ystod 2022/23 i sefydlu gwaelodlin wrth baratoi ar gyfer cyrraedd y safonau newydd. Roedd rhaglen gyfalaf o £9.7m ar gyfer 2023/24 wedi'i chynnwys yn y Cynllun Busnes ar gyfer gwaith gwella. Roedd darpariaeth o £6.963m wedi'i chynnwys yn y gyllideb refeniw ar gyfer atgyweiriadau ymatebol ac, yn ogystal, roedd £8.749m wedi'i gyllidebu ar gyfer 2023/24 i raglen ddatblygu tai cyngor newydd a chaffael hen dai cyngor ar yr Ynys. Byddai’r Cyngor, hefyd, yn parhau â’i waith ynni a datgarboneiddio gyda £1m wedi’i glustnodi i dargedu 250 o osodiadau system Solar Ffotofoltaig ar eiddo’r Cyngor. I gyd-fynd â'r Cynllun Busnes, roedd dadansoddiad sensitifrwydd a ddangosai ei gadernid ac, at hyn, roedd y cynllun wedi cael prawf straen i ystyried y risgiau ac i sicrhau ei fod yn parhau'n hyfyw dros y cyfnod 30 mlynedd.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 9.

10.

Cau Allan y Wasg a'r Cyhoedd pdf eicon PDF 84 KB

Ystyried mabwysiadu’r isod:-

 

“O dan Adran 100 (A) (4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y Wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol ar y sail y gall olygu datgelu gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir yn Atodlen 12A o’r Ddeddf honno ac yn y Prawf Budd y Cyhoedd amgaeëdig.”

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ystyriwyd a phenderfynwyd -

 

“O dan Adran 100 (A) (4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y Wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol ar y sail y golygai ddatgelu gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir yn Atodlen 12A y Ddeddf honno ac yn y Prawf Budd y Cyhoedd amgaeëdig.”

 

11.

Cais Cymhleth am Grant Cyfleusterau i’r Anabl

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Tai.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd, i’w ystyried, adroddiad Pennaeth y Gwasanaethau Tai yn gofyn am gymeradwyaeth y Pwyllgor Gwaith i gais Grant Cyfleusterau i’r Anabl mewn achos penodol.

Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Tai fod y grant yn grant gorfodol gan y cyngor oedd yn helpu i dalu cost addasu cartref person anabl fel y gallai barhau i fyw yno mor annibynnol â phosibl. Câi'r gwaith oedd ei angen ei nodi mewn Cynllun Gofal Addasu'r Gwasanaethau Cymdeithasol a baratowyd gan Therapydd Galwedigaethol a châi pob grant Cyfleusterau i’r Anabl ei ystyried yn ôl ei rinweddau unigol.

 

Amlinellodd Pennaeth y Gwasanaethau Tai amgylchiadau ac anghenion cymhleth y cleient y yr oedd yr adroddiad yn ymwneud ag o, gan gadarnhau bod yr anghenion hynny wedi'u nodi a'u hamlinellu yn yr adroddiad Addasiadau Cymhleth. Eglurodd yr hyn oedd y gwaith oedd angen ei wneud fel bod y cleient a'r teulu yn gallu aros yn eu cartref presennol a chadarnhaodd fod opsiynau eraill wedi'u hystyried ond canfuwyd eu bod yn anymarferol. Costau’r addasiadau gofynnol yr aethpwyd allan i dendr yneu cylch oedd £122, 868. Roedd gofyn cael cymeradwyaeth grant yn ôl disgresiwn ar gyfer yr £86,868 oedd uwchlaw’r uchafswm grant gorfodol o £36,000 ac oedd, hefyd, yn uwch na’r £80,000 yr oedd gan Bennaeth Gwasanaethau Tai, mewn ymgynghoriad â’r Aelod Portffolio, yr awdurdod i’w gymeradwyo. Dyma’r rheswm y gofynnwyd am gymeradwyaeth y Pwyllgor Gwaith.

 

Penderfynwyd cymeradwyo cais am Grant Cyfleusterau i’r Anabl ar gyfer gwaith addasu angenrheidiol fydd yn costio cyfanswm o £122,868 sy’n golygu cymeradwyo grant dewisol gwerth £86,868 yn ychwanegol i’r grant gorfodol o hyd at £36,000.