Rhaglen, Penderfyniadau a Chofnodion.

Cyfarfod Hybrid - yn Ystafell Bwyllgor 1, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni ac yn Rhithiol drwy ZOOM, Pwyllgor Gwaith - Dydd Mawrth, 28ain Tachwedd, 2023 10.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Cyfarfod Hybrid - yn Siambr y Cyngor, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni ac yn Rhithiol drwy ZOOM

Cyswllt: Ann Holmes 

Cyfryngau

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o ddiddordeb.

 

2.

Materion brys ardystiwyd gan y Prif Weithredwr neu ei Swyddog Apwyntiedig

Dim materion brys ar adeg anfon y rhaglen hon.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim i'w adrodd.

 

3.

Cofnodion pdf eicon PDF 174 KB

Cyflwyno i’w cadarnhau, gofnodion drafft cyfarfod y Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar 24 Hydref 2023.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar 24 Hydref, 2023 i'w cadarnhau.

 

Penderfynwyd cadarnhau fod cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar 24 Hydref 2023 yn gywir.

 

4.

Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith pdf eicon PDF 229 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Democratiaeth.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Democratiaeth a oedd yn cynnwys Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith ar gyfer y cyfnod rhwng mis Rhagfyr 2023 a mis Gorffennaf 2024 i'w chadarnhau.

 

Diweddarodd y Pennaeth Democratiaeth y Pwyllgor Gwaith ynghylch newidiadau i'r Blaen Raglen Waith a nodwyd y canlynol –

 

  • Eitemau 3 (Gwahardd Anifeiliaid fel Gwobrau) a 4 (Achos Busnes Amlinellol a Strategol – Tai Gofal Ychwanegol Aethwy) fel eitemau newydd ar gyfer cyfarfod 12 Rhagfyr 2023 y Pwyllgor Gwaith.
  • Aildrefnwyd Eitem 5 (Rhenti Tai y CRT a Thaliadau Gwasanaeth Tai 2024/5) i gyfarfod 12 Rhagfyr 2023 o'r Pwyllgor Gwaith.
  • Eitem 20 (Adroddiad Cydraddoldeb Blynyddol 2022/23 a Chynllun Cydraddoldeb Strategol 2024-2028) fel eitem newydd ar gyfer cyfarfod 20 Chwefror 2024 y Pwyllgor Gwaith.
  • Aildrefnwyd Eitem 29 (Asesiad o'r Farchnad Tai Lleol) i gyfarfod 19 Mawrth 2024 o'r Pwyllgor Gwaith.
  • Eitem 32 (Adroddiad Blynyddol Safonau'r Gymraeg 2023/24) fel eitem newydd ar gyfer penderfyniad dirprwyedig gan yr Aelod Portffolio ym mis Mehefin 2024.
  • Eitem 34 (Cerdyn Sgorio Corfforaethol Chwarter 4 2023/24) fel eitem newydd ar gyfer cyfarfod y Pwyllgor Gwaith ym mis Mehefin 2024.
  • Eitemau 35 i 37 (adroddiadau monitro’r gyllideb) fel eitemau newydd ar gyfer cyfarfod y Pwyllgor Gwaith ym mis Mehefin 2024.

 

Penderfynwyd cadarnhau Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith wedi’i diweddaru am y cyfnod Rhagfyr 2023 – Gorffennaf 2024 gyda’r newidiadau a amlinellwyd yn y cyfarfod.

 

5.

Monitro'r Cerdyn Sgorio - Chwarter 2, 2023/24 pdf eicon PDF 374 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Proffesiwn – AD a Thrawsnewid.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Proffesiwn (AD) a Thrawsnewid a oedd yn cynnwys Cerdyn Sgorio Corfforaethol Chwarter 2 2023/24 i'w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith.

Cyflwynodd y Cynghorydd Carwyn Jones, Aelod Portffolio Busnes Corfforaethol a Phrofiad Cwsmer yr adroddiad gan dynnu sylw at y ffaith bod 91% o'r dangosyddion perfformiad yn perfformio uwchlaw neu o fewn 5% o oddefgarwch i'w targedau, sy'n galonogol ar ddiwedd Chwarter 2. Mae rhai o'r straeon cadarnhaol yn cynnwys dangosyddion y Cynllun Atgyfeirio Ymarfer Corff Cenedlaethol (NERS), nifer y tai gwag sy'n cael eu defnyddio unwaith eto, dangosyddion Gwasanaethau Oedolion a Theuluoedd, dangosyddion Gwasanaethau Plant a Theuluoedd, dangosyddion digartrefedd, rheoli gwastraff a dangosyddion priffyrdd. Er nad oedd dadansoddiad llawn o'r dangosyddion perfformiad iechyd corfforaethol ar gyfer y chwarter wedi bod yn bosibl, mae mwyafrif (67%) y dangosyddion lle mae data ar gael yn erbyn targedau sy'n cael eu monitro yn yr adran hon yn perfformio'n dda ac maent yn Wyrdd neu’n Felyn. Ar ddiwedd Chwarter 2 mae'r perfformiad yn erbyn y targed yn Goch mewn perthynas â dyddiau a gollwyd i absenoldeb am bob gweithiwr cyfwerth ag amser llawn (FTE) ond dylid nodi bod salwch tymor hir yn ffactor dylanwadol ac yn cyfateb i 62% o'r cyfraddau absenoldeb ar gyfer y cyfnod.  Mae'r meysydd sy'n cael eu monitro gan y Tîm Arweinyddiaeth i sicrhau gwelliannau i'r dyfodol yn cynnwys y diwrnodau cyfartalog a gymerir i ddarparu grant Cyfleusterau i'r Anabl a’r amser a gymerir i ddarparu unedau llety y gellir eu gosod yn y Gwasanaethau Tai, canran yr apeliadau cynllunio a wrthodwyd a nifer y ceisiadau Rhyddid Gwybodaeth yr ymatebwyd iddynt o fewn yr amserlen oherwydd y diffyg data sydd ar gael ar gyfer yr ail chwarter ar gyfer y gweithgaredd hwn. Er bod y rhagolygon ar gyfer sefyllfa ariannol y Cyngor wedi gwella o'r hyn a adroddwyd ar ddiwedd Chwarter 1, rhagwelir y bydd gorwariant o hyd ar ddiwedd y flwyddyn gyda chyllidebau rhai gwasanaethau o dan bwysau. Craffir ar wariant er mwyn cyfyngu ar y gorwariant.

Rhoddodd y Cynghorydd Douglas Fowlie, Cadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol adroddiad o gyfarfod 21 Tachwedd 2023 y Pwyllgor lle craffwyd ar adroddiad Cerdyn Sgorio Chwarter 2. Cadarnhaodd fod y Pwyllgor wedi bod yn falch o nodi bod 91% o'r dangosyddion yn perfformio'n dda a'u bod wedi gofyn am sicrwydd y byddai'r tri dangosydd sy'n tanberfformio yn gwella. Nodwyd y gorwariant a ragwelir a gofynnwyd sut mae pwysau cyllidebol yn cael eu rheoli a'u lliniaru. Gofynnodd yr Aelodau gwestiynau hefyd am y camau sy'n cael eu dilyn mewn ymateb i'r cynnydd yn y dyddiau cyfartalog a gollwyd i absenoldeb am bob gweithiwr cyfwerth ag amser llawn. Nodwyd nifer yr apeliadau cynllunio a wrthodwyd a chodwyd cwestiynau ynghylch effaith y mesurau lliniaru a gyflwynwyd. Trafodwyd y ddau ddangosydd sy’n tanberfformio yn adran gwasanaethau tai sy'n ymwneud â'r dyddiau cyfartalog a gymerwyd i ddarparu grant Cyfleusterau i'r Anabl a’r amser a gymerir i ddarparu unedau llety y gellir eu gosod (Dangosyddion 28 a 29 yn y drefn honno) a gofynnwyd am  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 5.

6.

Monitro'r Gyllideb Refeniw - Chwarter 2, 2023/24 pdf eicon PDF 355 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 a oedd yn nodi perfformiad ariannol gwasanaethau'r Cyngor ar ddiwedd Chwarter 2, 2023/24 i'w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith.

 

Cyflwynodd y Cynghorydd Robin Williams, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Portffolio Cyllid yr adroddiad gan ddweud, yn seiliedig ar y data hyd at ddiwedd Chwarter 2, bod y sefyllfa ariannol gyffredinol a ragwelir ar gyfer 2023/24 gan gynnwys Cyllid Corfforaethol a chronfa’r Dreth Gyngor yn dangos gorwariant o £0.364m sy'n cynrychioli 0.21% o gyllideb net y Cyngor ar gyfer 2023/24. Er bod y sefyllfa hon yn well na'r hyn a adroddwyd ar ddiwedd Chwarter 1 ac yn berfformiad cadarn o ystyried yr heriau, mae rhai gwasanaethau, yn benodol Gofal Cymdeithasol - Oedolion a Phlant yn parhau dan bwysau sylweddol fel yr adlewyrchir gan Dabl 1 yn yr adroddiad ac mae’r gorwario gan y gwasanaethau hynny’n cael ei wrthbwyso gan danwariant mewn gwasanaethau eraill o fewn y Cyngor. Cyfeiriodd Aelod Portffolio Cyllid at Ddatganiad yr Hydref Llywodraeth y DU yr wythnos diwethaf. Nid oedd yn sôn am gyllid ychwanegol ar gyfer llywodraeth leol naill ai yng Nghymru na Lloegr. Roedd hyn yn peri pryder yn enwedig o ystyried cyflwr enbydus rhai cynghorau o safbwynt cyllid. Mae’n annhebygol y bydd swm ychwanegol o £305m i Gymru (sy'n golygu cynnydd mewn gwariant yn Lloegr) hyd yn oed yn talu’r cynnydd yng nghostau cyflogau yng Nghymru cyn i'r pwysau sy'n deillio o gostau pensiwn Athrawon uwch hefyd gael eu hystyried. Mae sefyllfa ariannol awdurdodau lleol Cymru felly yn peri pryder. 

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151, er bod y ffigurau, sy’n seiliedig ar chwe mis o wariant gwirioneddol yn gadarnach, gall cyfnod y gaeaf sydd o’n blaenau fod yn heriol yn enwedig ar gyfer Gofal Cymdeithasol Oedolion a Phriffyrdd. Nid yw'r argyfwng costau byw wedi dod i ben ac mae'n debygol o arwain at gynnydd yn y galw am nifer o wasanaethau'r Cyngor. Er bod y dyfarniad cyflog ar gyfer staff nad ydynt yn addysgu ar gyfer 2023/24 wedi'i setlo a'r costau’n cael eu talu o'r ddarpariaeth bresennol, mae'r setliad yr un fath â'r swm a gynigiwyd gan y Cyflogwyr yn ôl ym mis Mawrth 2023, ac nid oes unrhyw arwydd y bydd Llywodraeth Cymru yn darparu cyllid grant ychwanegol i dalu cost y codiad cyflog i Athrawon o fis Medi 2023, fel y gwnaeth yn 2022. Mae'r prif amrywiadau yn y gyllideb yn yr adroddiad yn ymwneud â gwasanaethau Oedolion a Phlant. Mae sefyllfa gwasanaethau Oedolion wedi gwella tra bod gwasanaethau Plant wedi dirywio, yn bennaf oherwydd costau ychwanegol o ganlyniad i newidiadau i'r lleoliadau presennol. Mae incwm Y Dreth Gyngor yn agos at y gyllideb ac mae cyfraddau casglu’r Dreth Gyngor wedi dychwelyd i'r lefelau cyn Covid. Mae ad-daliad o £1.2m ar y cyfraddau sy'n daladwy ar Oriel Ynys Môn wedi'i sicrhau yn dilyn apêl a bydd yn cael ei ychwanegu at falansau'r Cyngor.

 

Ystyriodd aelodau'r Pwyllgor Gwaith yr adroddiad ac ymysg y materion a godwyd oedd y posibilrwydd y bydd Llywodraeth  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 6.

7.

Monitro Cyllideb Gyfalaf - Chwarter 2, 2023/24 pdf eicon PDF 354 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 a oedd yn nodi perfformiad ariannol cyllideb gyfalaf y Cyngor ar ddiwedd Chwarter 2, 2023/24 i'w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith.

 

Cyflwynodd y Cynghorydd Robin Williams, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Portffolio Cyllid yr adroddiad gan gadarnhau bod cyfanswm y gyllideb gyfalaf ar gyfer 2023/24 yn £60.018m sy'n cynnwys y CRT, llithriad o 2022/23, a ariannwyd gan grant, cynlluniau ychwanegol a ychwanegwyd at y rhaglen ynghyd â gwelliannau ers i'r gyllideb wreiddiol gael ei gosod fel y dangosir yn y tabl ym mharagraff 1.2 o'r adroddiad. Er bod y gwariant a broffiliwyd hyd at 30 Medi 2023 yn £19m, y gwariant gwirioneddol yw £18.704m neu £19.616m pan ystyrir gwariant a ymrwymwyd gwerth £912k. Mae'r rhan fwyaf o'r prosiectau ar y trywydd iawn i'w cwblhau o fewn y gyllideb ac er bod disgwyl i rai cynlluniau danwario ar hyn o bryd, mae'r cyllidebau wedi'u hymrwymo ac mae gofyn amdanynt, a gofynnir i'r cynlluniau hyn lithro i 2024/25 er mwyn eu cwblhau yn y flwyddyn ariannol nesaf.

 

Pwysleisiodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 nifer y cynlluniau cyfalaf sydd bellach yn cael eu cefnogi gan gyllid grant gyda chyllid cyfalaf craidd wedi gostwng mewn termau real dros y blynyddoedd diwethaf. Cyfeiriodd hefyd at y mater o ddelio â darganfod concrit RAAC mewn dwy o ysgolion yr Ynys a oedd yn golygu bod llai o gapasiti ar gyfer gweithgareddau eraill yn ystod y misoedd diwethaf wrth i’r Gwasanaeth Eiddo roi sylw i’r broblem.

 

Cydnabu aelodau'r Pwyllgor Gwaith natur fregus y gyllideb gyfalaf a’r diffyg buddsoddiad go iawn mewn cyllid cyfalaf dros nifer o flynyddoedd. Roedd yr aelodau hefyd yn gwerthfawrogi ymdrechion y Gwasanaeth Eiddo wrth ymateb gyda chydweithwyr yn y Gwasanaeth Dysgu a'r ddwy ysgol i fynd i'r afael â phroblem concrit RAAC.

 

Penderfynwyd –

·           Nodi cynnydd y gwariant a’r derbyniadau yn erbyn y gyllideb gyfalaf ar gyfer 2023/24 yn Chwarter 2.

·           Cymeradwyo’r cynlluniau ychwanegol gwerth £7.319m a ychwanegwyd i’r rhaglen gyfalaf a’r cyllid diwygiedig, yn unol ag Atodiad C yr adroddiad, a fydd yn rhoi cyllideb gyfalaf o £60.018m ar gyfer 2023/24.

 

 

8.

Monitro Cyllideb y Cyfrif Refeniw Tai - Chwarter 2, 2023/24 pdf eicon PDF 758 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 a oedd yn nodi perfformiad ariannol y Cyfrif Refeniw Tai ar gyfer Chwarter 2 2023/24 i'w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith.

 

Cyflwynodd y Cynghorydd Robin Williams, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Portffolio Cyllid yr adroddiad a oedd yn amlinellu perfformiad refeniw a chyllideb gyfalaf y Cyfrif Refeniw Tai am y cyfnod a'r alldro a ragwelir ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2024. Yn ôl yr adroddiad mae’r gyllideb refeniw gyda gwarged a gynlluniwyd o £8,044k. Y gyllideb gyfalaf gros ar gyfer 2023/24 yw £19,988k. Mae grantiau a chyllid arall gwerth £6,898k yn gostwng y gyllideb net i £13,090k. Roedd cyfuniad o’r gyllideb refeniw a’r gyllideb gyfalaf wedi’i haddasu yn rhoi diffyg a gynlluniwyd o £5,046k, a fyddai’n cael ei gyllido o gronfa wrth gefn y CRT. Mae cyllideb refeniw y CRT yn dangos tanwariant ar ddiwedd yr ail chwarter o £600k o'i gymharu â'r gyllideb a broffiliwyd fel y nodir yn Atodiad A i'r adroddiad. Mae gwariant cyfalaf £940k yn uwch na'r gyllideb a broffiliwyd ar ddiwedd y chwarter. Mae'r gwariant a ragwelir £1,890k yn uwch na’r gyllideb ar ddiwedd y flwyddyn fel y manylir yn Atodiad B i'r adroddiad.  Y diffyg a ragwelir gan gyfuno refeniw a chyfalaf bellach yw £4,702k, £343k yn llai na'r gyllideb.

 

Roedd balans agoriadol y CRT yn £12,107k. Roedd y gyllideb ddiwygiedig yn caniatáu ar

gyfer defnyddio £5,046k o’r balans hwn. Fodd bynnag, bydd y rhagolygon diwygiedig a nodir

uchod yn defnyddio £4,702k yn unig. Mae hyn yn rhoi balans o £7,405k erbyn diwedd y

flwyddyn ariannol. Mae’r balans hwn wedi’i glustnodi ar gyfer dibenion penodol, felly, mae

ond ar gael i gyllido gwariant y CRT yn y dyfodol.

 

Pwysleisiodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 statws y Cyfrif Refeniw Tai ar wahân i Gronfa Gyffredinol y Cyngor gyda'i hincwm yn deillio o renti’r stoc dai ac nid o grant Llywodraeth Cymru. Mae unrhyw incwm dros ben yn cael ei ail-fuddsoddi i uwchraddio a chynnal y stoc bresennol i Safonau Ansawdd Tai Cymru a defnyddir balansau o gronfa wrth gefn y CRT sydd wedi cronni dros nifer o flynyddoedd i ariannu gwariant cyfalaf. Gall y CRT hefyd fenthyca i fuddsoddi mewn datblygu tai cyngor newydd. Mae'r Cyfrif Refeniw Tai mewn sefyllfa gadarn ac mae'n cynhyrchu incwm dros ben a thrwy hynny mae modd iddo ail-fuddsoddi arian a defnyddio pwerau benthyca i helpu i ddatblygu rhagor o dai yn unol â'r strategaeth sydd wedi'i chynnwys yng Nghynllun Busnes y CRT.  Mae Atodiad C i'r adroddiad yn manylu ar yr unedau tai sydd wedi'u cynllunio a/neu'n cael eu datblygu a'r gyllideb datblygiadau ar gyfer 2023/24.  

 

Penderfynwyd nodi’r canlynol –

·      Y sefyllfa a nodir mewn perthynas â pherfformiad ariannol y Cyfrif Refeniw Tai (CRT) ar gyfer Chwarter 2 2023/24.

·      Yr alldro a ragwelir ar gyfer 2023/24.

 

9.

Sylfaen y Dreth Gyngor 2024/25 pdf eicon PDF 171 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 i bwrpas gosod sylfaen dreth y Cyngor ar gyfer 2024/25 i'w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith.

 

Cyflwynodd y Cynghorydd Robin Williams, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Portffolio Cyllid yr adroddiad gan ddweud bod gofyn i'r Cyngor, fel yr awdurdod bilio, gyfrifo Sylfaen y  Dreth Gyngor ar gyfer ei ardal, a gwahanol rannau o'i ardal, a bod yn rhaid rhoi gwybod beth yw’r symiau hyn i'r cyrff sy’n codi praeseptau ac ardollau erbyn 31 Rhagfyr 2023. Eleni, mae Llywodraeth Cymru wedi gofyn am y wybodaeth i bwrpas gosod y Grant Cynnal Refeniw erbyn 14 Tachwedd 2023, ac i bwrpas pennu’r dreth (wedi cadarnhad gan y Pwyllgor Gwaith) erbyn 5 Ionawr 2024. Y ffigwr a gyfrifwyd ar gyfer sylfaen y Dreth Gyngor i'w ddefnyddio gan Lywodraeth Cymru i osod y Grant Cynnal Refeniw ar gyfer y Cyngor ar gyfer 2024/25 yw 31, 241.64, gostyngiad o 0.10% ar y flwyddyn flaenorol. Nid yw’r ffigur hwn yn cynnwys addasiadau ar gyfer premiymau a’r disgowntiau a roddir gan rhai awdurdodau ar

gyfer eiddo Dosbarthiadau A, B a C (nid yw hyn yn effeithio ar Ynys Môn gan na roddir disgowntiau o’r fath). Y ffigwr ar gyfer y Sylfaen Dreth i bwrpas gosod trethi sy'n cynnwys addasiadau ar gyfer premiymau yw 33,170.03, cynnydd o 1.07% o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol.

 

Eglurodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 y broses o gyfrifo Sylfaen y Dreth Gyngor er mwyn i Lywodraeth Cymru bennu lefel y Grant Cynnal Refeniw a hefyd er mwyn pennu trethi lleol a'r ffactorau dan sylw, gan gynnwys yn achos yr olaf y cynnydd yn y premiwm ail gartrefi o 75% i 100% y disgwylir iddo gael ei gadarnhau gan y Cyngor Llawn wrth osod y gyllideb ym mis Mawrth, 2024 ac sy'n cyfrif am y cynnydd yn y sylfaen dreth.  Cyfeiriodd at newidiadau yn y sylfaen dreth o gymharu â’r flwyddyn flaenorol ar gyfer y Dreth Gyngor safonol, tai gwag, ac ail gartrefi gan nodi, er bod nifer yr eiddo sy'n destun y premiwm ail gartrefi wedi gostwng, mae'r cynnydd arfaethedig yn y gyfradd premiwm o 75% i 100% wedi cael effaith sylweddol ar yr elfen hon o'r sylfaen dreth. Bydd y newidiadau yn y sylfaen dreth yn effeithio ar fan cychwyn y Cyngor ar gyfer y gyllideb refeniw ar gyfer 2024/25.

 

Penderfynwyd –

·      Nodi cyfrifiad Sylfaen y Dreth Gyngor gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151, fydd yn cael ei ddefnyddio gan Lywodraeth Cymru ar gyfer cyfrifo’r Grant Cynnal Refeniw i Gyngor Sir Ynys Môn am y flwyddyn ariannol 2024/25, sef 31,241.64 (Rhan E6 o Atodiad A yn yr adroddiad)

·      Cymeradwyo’r cyfrifiad at ddiben pennu Sylfaen y Dreth Gyngor gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 am y cyfan o'r ardal ac am rannau ohoni am y flwyddyn 2024/25 (Rhan E6 o Atodiad A yn yr adroddiad)

·      Yn unol â Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 a Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyfrifo Sylfaen y Dreth Gyngor) (Cymru) 1995 (SI19956/2561), fel y cawsant eu diwygio  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 9.

10.

Strategaeth Tai Gwag 2023-2028 pdf eicon PDF 2 MB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Tai.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Tai a oedd yn cynnwys Cynllun Strategol Tai Gwag ar gyfer 2023 i 2028 i'w ystyried a'i gymeradwyo.

 

Cyflwynodd y Cynghorydd Gary Pritchard yr adroddiad gan ddweud bod y Cynllun yn elfen bwysig o weledigaeth y Pwyllgor Gwaith y dylai pawb gael yr hawl i alw rhywle’n gartref. Mae'r Cynllun yn ceisio sicrhau bod cyn lleied â phosibl o dai gwag ac yn annog perchnogion i ddod â thai’n ôl i ddefnydd unwaith eto. Mae 612 o dai gwag ar Ynys Môn ar hyn o bryd gyda 908 o geisiadau ar gofrestr tai cymdeithasol y Cyngor am lety addas o fis Mawrth 2023; byddai dod â’r eiddo hynny yn ôl i ddefnydd yn gwneud gwahaniaeth sylweddol ym mywydau'r rhai sy'n aros am gartref. Dywedodd y Cynghorydd Pritchard ei fod wedi gweld sawl eiddo gwag sydd wedi dod yn ôl i ddefnydd yn ei ward ei hun ac wedi dod yn gartrefi i bobl o'r ardal a fyddai fel arall yn dal i gael trafferth dod o hyd i lety neu mewn rhai achosion yn gorfod cysgu yng nghartrefi ffrindiau neu berthnasau. Mae'r gwaith a wnaed i sicrhau hyn yn haeddu canmoliaeth ac mae'n destun balchder.

 

Dywedodd Rheolwr Gwasanaeth Tai (Strategaeth, Comisiynu a Pholisi) fod y Cynllun yn esbonio pam fod mabwysiadu dull strategol o fynd i'r afael â mater tai gwag yn bwysig o ystyried y galw am dai addas a phwysau tai presennol. Mae'r Cynllun yn nodi pedwar prif amcan ac yn manylu ar sut y bydd y rheini'n cael eu cyflawni; mae'n cydnabod bod dod â thai gwag yn ôl i ddefnydd yn waith partneriaeth ac mae'n cynnwys cydweithio â gwasanaethau eraill y Cyngor ac asiantaethau allanol i ddelio â'r gwahanol agweddau ar gartrefi gwag a deddfwriaethau amrywiol.

 

Cadarnhaodd Pennaeth Gwasanaethau Tai fod y Cynllun Strategol yn crynhoi gweledigaeth y Cyngor ar gyfer dod â thai gwag yn ôl i ddefnydd yn unol â'r dull y mae wedi'i gymryd dros nifer o flynyddoedd sydd ers 2017 wedi gweld 525 o gartrefi gwag yn cael eu defnyddio unwaith eto. Mae'r Cyngor wedi sefydlu sylfaen gref ar gyfer y gwaith o fynd i'r afael â thai gwag ac mae'n cael ei ystyried ar flaen y gad o ran y gweithgaredd hwn.

 

Rhoddodd y Cynghorydd Douglas Fowlie, Cadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol adroddiad o gyfarfod 21 Medi 2023 y Pwyllgor a oedd yn ystyried y Cynllun Strategol Tai Gwag a chadarnhaodd, wrth argymell y Cynllun i'r Pwyllgor Gwaith, fod yr Aelodau wedi trafod y dull o fynd i'r afael â thai gwag hirdymor a phroblemus, y cyfraniad y mae'r Cynllun yn ei wneud tuag at gyflawni amcanion corfforaethol y Cyngor,  i ba raddau y mae'r Cynllun yn dibynnu ar fewnbwn gan bartneriaid a gwasanaethau eraill a'r heriau o ran ymgysylltu â pherchnogion tai gwag y sector preifat.

 

Croesawodd aelodau'r Pwyllgor Gwaith y Cynllun Strategol fel parhad o’r gwaith da a wnaed gan Wasanaethau Tai i ddelio â chartrefi gwag dros nifer o flynyddoedd a thynnwyd sylw  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 10.

11.

Porthladd Rhydd Ynys Môn – Diweddariad ar baratoi’r Achos Busnes Amlinellol pdf eicon PDF 1 MB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd a oedd yn nodi'r cynnydd o ran paratoi'r Achos Busnes Amlinellol ar gyfer Porthladd Rhydd Ynys Môn i'w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith.

 

Rhoddodd y Cadeirydd rywfaint o wybodaeth gefndirol am y cais llwyddiannus am statws Porthladd Rhydd a chymeradwyo'r Cytundeb Cydweithio Cychwynnol ym mis Gorffennaf 2023 gyda gweithredwr y porthladd Stena Line. Trwy'r Cytundeb Cydweithio Cychwynnol, sefydlwyd Corff Llywodraethu dros dro ac mae'r Cyngor ar fin cwblhau cytundeb grant gyda Llywodraeth Cymru a ddefnyddiwyd i gefnogi’r broses o ddatblygu Achos Busnes Amlinellol (OBC). Mae'r OBC yn cael ei ddatblygu yn unol â'r cyfarwyddyd drafft ar gyfer Porthladdoedd Rhydd Cymru gan na chyhoeddwyd y canllawiau terfynol tan fis Hydref 2023 ond does dim newid o'r fersiwn drafft. Mae'r adroddiad yn amlinellu'r gofynion wrth gwblhau'r OBC a'r materion dan sylw.

 

Cadarnhaodd y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd fod yr amserlen ar gyfer paratoi a chyflwyno'r OBC wedi bod yn heriol, felly hefyd y dasg o gyflawni agweddau mwy technegol gofynion y canllawiau. Mae cryn dipyn o waith wedi'i gyflawni ac mae'r Cyngor mewn sefyllfa dda o ran y wybodaeth y mae wedi'i rhoi at ei gilydd ac o ran cyflawni’r targed ar gyfer dyddiad cyflwyno’r OBC. Mae sawl ffrwd waith yn parhau yn y cefndir gan gynnwys mewn perthynas â sero net, yr iaith Gymraeg, arloesi, cadwyni cyflenwi lleol a Gwaith Teg i sicrhau bod y cynnig yn un sy'n gweithio i Ynys Môn a rhanbarth ehangach y gogledd-orllewin. Bydd yr Achos Busnes Llawn yn cael ei baratoi'r flwyddyn nesaf a disgwylir penderfyniad terfynol gan Lywodraethau'r DU a Chymru ym mis Medi 2024. Yn ogystal â hyn, trefnwyd digwyddiad cymunedol yn Neuadd y Farchnad, Caergybi ar gyfer 1 Rhagfyr 2023 i roi cyhoeddusrwydd i bobl a helpu pobl i ddeall rhaglen Porthladd Rhydd Ynys Môn yn well a'r cyfleoedd sydd ynghlwm wrth y cynnig.

 

Diolchodd aelodau'r Pwyllgor Gwaith i'r tîm Datblygu Economaidd am ei ymdrechion hyd yma gan gydnabod bod llawer iawn o waith wedi'i gwblhau o fewn amserlen dynn yn ogystal â phwysigrwydd y wybodaeth a'r ddealltwriaeth leol y mae'r tîm wedi'u cyfrannu at y gwaith hwnnw. Er ei fod yn cydnabod y manteision y mae statws Porthladd Rhydd wedi'u cynllunio i'w creu o ran adfywio, creu swyddi, buddsoddi ac arloesi, pwysleisiodd y Pwyllgor Gwaith bwysigrwydd rheoli disgwyliadau gan dynnu sylw at y ffaith na fydd Porthladd Rhydd Ynys Môn yn weithredol tan ar ôl i'r Achos Busnes Terfynol gael ei gymeradwyo tua diwedd y flwyddyn nesaf. Mewn ymateb i ymholiad ynghylch cyflawni’r dyddiad targed ar gyfer cyflwyno’r OBC, cadarnhaodd y Rheolwr Datblygu Economaidd er bod yr amserlen yn heriol a bod gwaith i'w wneud eto, fod y Cyngor mewn sefyllfa dda i gyflwyno'r OBC i'r safonau disgwyliedig yn unol â dyddiad cyflwyno’r OBC ym mis Tachwedd.

 

Penderfynwyd –

·      Awdurdodi swyddogion i gwblhau’r Achos Busnes Amlinellol drafft.

·      Dirprwyo awdurdod i’r Prif Weithredwr, mewn ymgynghoriad â’r Arweinydd ac Aelod Portffolio Datblygu Economaidd, y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro a’r Cyfarwyddwr Swyddogaeth  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 11.

12.

Cau Allan y Wasg a'r Cyhoedd pdf eicon PDF 94 KB

Ystyried mabwysiadau’r canlynol

 

“Dan Adran 100 (A)(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, mae modd cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol, oherwydd y posibilrwydd y caiff gwybodaeth ei rhyddhau a honno’n wybodaeth y gwna Atodlen 12A y Ddeddf a’r Prawf Budd y Cyhoedd eithriad ohoni.”

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Penderfynwyd o dan Adran 100 (A)(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, gwahardd y wasg a'r cyhoedd o'r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol ar y sail ei fod yn cynnwys datgelu gwybodaeth eithriedig fel y'i diffinnir ym Mharagraff 14, Atodlen 12A o'r Ddeddf honno ac yn y Prawf Budd y Cyhoedd atodedig.

 

13.

Porthladd Rhydd - Trefniadau Llywodraethiant a Gweithredol

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd mewn perthynas â threfniadau llywodraethu a gweithredu Porthladd Rhyddid Môn i'w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith.

 

Arweiniodd y Prif Weithredwr aelodau'r Pwyllgor Gwaith drwy'r adroddiad a oedd yn nodi'r materion i'w hystyried a'u datrys wrth ddod i benderfyniad a chytundeb ar lywodraethu ac agweddau gweithredol Porthladd Rhydd Ynys Môn. Atodwyd papur yn crynhoi safbwynt y Cyngor mewn perthynas â llywodraethu (Opsiynau Llywodraethu Porthladd Rhydd Ynys Môn) fel Atodiad 1 i'r adroddiad. Cyngor Sir Ynys Môn fydd y Corff Cyfrifol ar gyfer Porthladd Rhydd Ynys Môn, mae'n ofynnol dynodi awdurdod lleol fel y corff cyfrifol fel un o amodau'r Llywodraethau. Mae Atodiad 2 yr adroddiad yn nodi rôl y Corff Cyfrifol fel y cytunwyd gan y Corff Llywodraethu Porthladd Rhydd, a sefydlwyd o dan y Cytundeb Cydweithio Dros Dro rhwng y Cyngor a Stena Line yn dilyn y cais llwyddiannus am statws Porthladd Rhydd. Roedd yr adroddiad hefyd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa o ran cyllid gweithredol a chyfalaf a safleoedd treth yng nghyd-destun paratoi'r OBC, y materion dan sylw a'r camau nesaf. Cynhwyswyd map o Safleoedd Treth fel Atodiad 3 i'r adroddiad. Nodwyd y byddai adroddiadau pellach ar y materion hyn yn cael eu cyflwyno i'r Pwyllgor Gwaith maes o law wrth i'r gwaith fynd rhagddo a datblygu.

 

Penderfynwyd -

·      Cytuno y bydd Cyngor Ynys Môn yn gweithredu fel corff cyfrifol gyda’r cyfrifoldebau a amlinellir yn yr adroddiad.

·      Dirprwyo’r awdurdod i’r Prif Weithredwr mewn ymgynghoriad â’r Arweinydd ac Aelod Portffolio Datblygu Economaidd, y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro a’r Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog 151 er mwyn symud ymlaen â’r trefniadau gyda phartneriaid eraill ar gyfer creu strwythur llywodraethu ar gyfer Porthladd Rhydd Ynys Môn a sicrhau cydymffurfiaeth lawn â gofynion llywodraethu priodol y Cyngor. 

·      Bod y Pwyllgor Gwaith yn derbyn adroddiad pellach ar y trefniadau llywodraethu a fydd yn nodi rôl y Cyngor o fewn strwythur llywodraethu Porthladd Rhydd Ynys Môn unwaith y bydd cynnydd pellach o ran y materion a amlinellir yn yr adroddiad.