Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Cyfarfod Hybrid - yn Ystafell Bwyllog 1, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni ac yn Rhithiol drwy ZOOM
Cyswllt: Ann Holmes
Rhif. | Eitem |
---|---|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu i’r Cynghorydd Llinos Medi ddatgan diddordeb personol mewn perthynas ag eitem 10 ar y rhaglen gan ei bod yn cynrychioli’r Awdurdod Lleol ar gorff llywodraethu Ysgol Llanfechell.
|
|
Materion brys ardystiwyd gan y Prif Weithredwr neu ei Swyddog Apwyntiedig Dim materion brys ar adeg anfon y rhaglen hon.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dim i’w adrodd.
|
|
Cyflwyno i’w cadarnhau, gofnodion drafft cyfarfod y Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar 23 Ionawr 2024. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd, i’w cadarnhau, cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Gwaith ar gynhaliwyd ar 23 Ionawr 2024.
Penderfynwyd cadarnhau cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar 23 Ionawr 2024 fel rhai cywir.
|
|
Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith PDF 207 KB Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Democratiaeth. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Democratiaeth yn ymgorffori Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith am y cyfnod rhwng Mawrth a Hydref 2024 i’r Pwyllgor Gwaith ei gadarnhau.
Cyflwynodd y Pennaeth Democratiaeth ddiweddariad i’r Pwyllgor Gwaith ar y newidiadau i’r Flaen Raglen Waith, sy’n cael eu hadlewyrchu yn yr adroddiad a gyflwynwyd, a thynnodd sylw at eitem ychwanegol ar gyfer cyfarfod y Pwyllgor Gwaith ar 19 Mawrth 2024 nad oedd wedi’i chynnwys yn y Rhaglen Waith a gyhoeddwyd, yn ymwneud â llywodraethiant Porthladd Rhydd Ynys Môn.
Penderfynwyd cadarnhau Blaen Rhaglen Waith y Pwyllgor Gwaith wedi’i diweddaru am y cyfnod Mawrth i Hydref 2024 gyda’r newid ychwanegol a amlinellwyd yn y cyfarfod.
|
|
Adolygiad Rheoli Trysorlys Canol Blwyddyn 2023/24 PDF 407 KB Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd, i’r Pwyllgor Gwaith ei ystyried, adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 yn ymgorffori adolygiad canol blwyddyn o’r sefyllfa rheoli trysorlys ar 30 Medi 2023.
Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cynghorydd Robin Williams, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Portffolio Cyllid, a chyfeiriodd at y gofynion adrodd mewn perthynas â rheoli trysorlys o dan Ddeddf Llywodraeth Leol 2003 a Chod Darbodus CIPFA 2021, ac un o’r gofynion hynny yw llunio adolygiad canol blwyddyn o weithgareddau rheoli trysorlys. Cadarnhaodd bod y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio wedi craffu ar yr adroddiad yn ystod cyfarfod y pwyllgor hwnnw ar 8 Chwefror 2024 a’i fod wedi ei anfon ymlaen at y Pwyllgor Gwaith heb wneud unrhyw sylwadau pellach.
Dywedodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 nad oedd ymagwedd y Cyngor o ran benthyca a buddsoddi wedi newid yn ystod cyfnod yr adroddiad. Mae balansau arian parod yn parhau i gael eu defnyddio i ariannu gwariant cyfalaf er mwyn osgoi benthyca’n allanol, ac mae unrhyw falansau arian parod sy’n weddill yn cael eu buddsoddi mewn banciau diogel yn y DU ac awdurdodau lleol. Mae’r Cyngor wedi elwa ar gynnydd yn y gyfradd log yn ystod y cyfnod ac roedd yr elw ar fuddsoddiadau’n well na’r disgwyl. Parhau’n sefydlog wnaeth sefyllfa Rheoli Trysorlys y Cyngor ac roedd yr holl ddangosyddion darbodus o fewn y terfynau a’r targedau a osodwyd yn y Datganiad Strategaeth Rheoli Trysorlys 2023/24.
Penderfynwyd nodi adroddiad Adolygiad Canol Blwyddyn Rheoli’r Trysorlys a’i anfon ymlaen i’r Cyngor Llawn heb sylw pellach.
|
|
Datganiad Strategaeth Rheoli’r Trysorlys 2024/25 PDF 688 KB Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 yn ymgorffori’r Datganiad Strategaeth Rheoli Trysorlys ar gyfer 2024/25 i’r Pwyllgor Gwaith ei ystyried.
Cyflwynodd y Cynghorydd Robin Williams, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Portffolio Cyllid, yr adroddiad a dywedodd ei fod yn amlinellu strategaeth y Cyngor ar gyfer rheoli benthyca a buddsoddi yn ystod blwyddyn ariannol 2024/25, ynghyd â’r dangosyddion darbodus a thrysorlys a nodir yn Atodiad 11 yn yr adroddiad. Mae’r Datganiad Strategaeth Rheoli Trysorlys yn nodi faint o arian fydd angen ei fenthyca i ariannu’r rhaglen gyfalaf, yn ogystal â’r meini prawf ar gyfer buddsoddi arian y Cyngor. Craffodd y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio arno yn ei gyfarfod ar 8 Chwefror 2023/24 a phenderfynodd ei anfon ymlaen at y Pwyllgor Gwaith heb wneud unrhyw sylwadau pellach.
Dywedodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 bod disgwyl i’r agwedd tuag at fenthyca newid yn ystod cyfnod y strategaeth Rheoli Trysorlys ar gyfer 2024/25. Gan fod arian wrth gefn y Cyngor yn cael ei ddefnyddio fel cyfraniad i gydbwyso’r gyllideb a chronfa’r CRT yn cael ei defnyddio i ariannu gwariant cyfalaf, bydd cyfanswm y balansau arian parod yn disgyn yn sylweddol ac, oherwydd hynny, bydd llai o arian ar gael i’w fuddsoddi a bydd lefel y benthyca mewnol y gellir ei gefnogi yn gostwng. Rhagwelir felly y bydd angen mwy o fenthyca allanol i ariannu gofynion rhaglen gyfalaf y Cyngor. Dywedodd y Swyddog Adran 151 y caiff unrhyw fenthyca ariannol ei amseru er mwyn cadw’r cyfraddau benthyg cyn ised â phosib, a thrwy hynny leihau’r gost i’r gyllideb refeniw.
Penderfynwyd nodi’r Datganiad ar Strategaeth Rheoli’r Trysorlys am 2024/25 a’i anfon ymlaen i’r Cyngor Llawn heb sylw pellach.
|
|
Ffioedd a Thaliadau 2024/25 PDF 729 KB Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd, i’r Pwyllgor Gwaith ei ystyried, adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 yn ymgorffori rhestr o ffioedd a thaliadau arfaethedig ar gyfer 2024/25.
Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cynghorydd Robin Williams, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Portffolio Cyllid, a dywedodd fod y Pwyllgor Gwaith wedi gosod targed o gynyddu’r holl ffioedd a thaliadau anstatudol gan 5% ar gyfartaledd ar draws pob gwasanaeth unigol. Mae hyn yn galluogi Penaethiaid Gwasanaeth i gynyddu ffioedd unigol gan fwy neu lai na 5% os yw’r cynnydd cyffredinol ar draws y gwasanaeth yn cyfateb i 5%. Mae’r holl ffioedd statudol wedi eu cynyddu yn ôl y swm a osodir gan y corff cymeradwyo, lle mae’r cynnydd wedi’i gyhoeddi. Lle nad yw’r taliad diwygiedig yn hysbys dangosir y ffi fel ‘i’w gadarnhau’ a bydd yn cael ei diweddaru unwaith y bydd gwybodaeth am y ffi newydd yn cael ei dderbyn. Cyflwynir adroddiad ar wahân i’r Pwyllgor Gwaith ar y cynnydd mewn ffioedd Gofal Cymdeithasol.
Penderfynwyd cymeradwyo’r ffioedd a thaliadau am 2024/25 fel y’u hamlinellir yn y llyfryn ynghlwm wrth yr adroddiad.
|
|
Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2024-2028 PDF 1 MB Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro yn ymgorffori’r Cynllun Cydraddoldeb Strategol ar gyfer 2024-28 i’r Pwyllgor Gwaith ei ystyried.
Cyflwynodd y Cynghorydd Llinos Medi, Arweinydd y Cyngor ac Aelod Portffolio Datblygu Economaidd, y Cynllun a dywedodd ei fod yn nodi sut fydd y Cyngor yn cyflawni’r ddyletswydd a osodir ar gyrff cyhoeddus o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a Rheoliadau Deddf Cydraddoldeb 2010 (Dyletswyddau Statudol) (Cymru) 2011 i roi sylw dyledus i ddileu gwahaniaethu, aflonyddu ac erledigaeth anghyfreithlon, hyrwyddo cyfle cyfartal a meithrin perthynas dda rhwng gwahanol grwpiau ym mhob agwedd o’i waith. Mae’r Cynllun yn un uchelgeisiol a’i amcan yw sicrhau fod cydraddoldeb yn cael ei ymgorffori ym mhob agwedd o waith y Cyngor.
Cyfeiriodd y Pennaeth Democratiaeth at yr wyth amcan hirdymor yn y cynllun ar gyfer cryfhau a hyrwyddo cydraddoldeb ar Ynys Môn ac o fewn y Cyngor ac maent yn seiliedig, yn fras, ar ‘feysydd bywyd’ y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol ar gyfer monitro cydraddoldeb. Mae’r Cynllun hefyd yn cynnwys trefniadau ar gyfer monitro cynnydd y Cyngor tuag at gyflawni ei amcanion cydraddoldeb, ac, yn ogystal â hynny, mae’n cyfrannu at weledigaeth ehangach Cynllun y Cyngor, sef creu Ynys Môn iach a llewyrchus lle gall pobl ffynnu.
Cadarnhaodd y Rheolwr Polisi a’r Gymraeg fod ymgysylltu uniongyrchol gyda rhai grwpiau gwarchodedig, gan gynnwys y Fforwm Ieuenctid, Mencap Môn a defnyddwyr darpariaeth gofal dydd, wedi dylanwadu ar y Cynllun. Un o’r prif ddatblygiadau sy’n deillio o weithredu’r Cynllun yw’r pwyslais ar sut mae’r Cyngor fel cyflogwr yn defnyddio ei ddylanwad i hyrwyddo cydraddoldeb ym mhob rhan o’r sefydliad. Bydd strwythurau mewnol y Cyngor yn cael eu hadolygu er mwyn cryfhau’r gallu hwn a bydd grŵp cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant newydd, gyda chynrychiolwyr o bob gwasanaeth, yn cael ei sefydlu.
Cafwyd adborth gan y Cynghorydd Dylan Rees, Cadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio o gyfarfod y Pwyllgor ar 18 Ionawr 2024 pan graffwyd ar y Cynllun Cydraddoldeb Strategol ar gyfer 2024-28. Cyfeiriodd at y materion a drafodwyd yn y cyfarfod hwnnw a chadarnhaodd fod y Pwyllgor wedi argymell y Cynllun i’r Pwyllgor Gwaith, gyda chais iddo hefyd ystyried addasu teitl Amcan Cydraddoldeb 2 (Gwaith) er mwyn egluro rôl y Cyngor fel cyflogwr.
Cadarnhaodd y Rheolwr Polisi a’r Gymraeg fod Amcan Cydraddoldeb 2 wedi cael ei addasu i gyfeirio at y “Gweithle”.
Roedd aelodau’r Pwyllgor Gwaith yn croesawu’r Cynllun Strategol drafft fel un amserol o ystyried y tensiynau cymdeithasol sy’n bodoli ar hyn o bryd a’i fod hefyd yn greiddiol i bopeth a wna’r Cyngor, gan gynnwys ei wasanaethau a’i arferion cyflogi. Wrth gydnabod bod llwyddo i gyflawni’r wyth amcan cydraddoldeb yn yr hinsawdd economaidd sydd ohoni yn bryder i’r Pwyllgor Sgriwtini, nododd y Pwyllgor Gwaith mai gweledigaeth y Cyngor a gyflëir yng Nghynllun y Cyngor yw creu Ynys Môn sy’n iach a llewyrchus lle gall pobl ffynnu a phwysleisiwyd na all pobl a chymunedau ffynnu oni bai bod cyfle cyfartal yn cael ei sicrhau i bawb a bod anghenion yr holl grwpiau mewn ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 8. |
|
Cartrefi'r Awdurdod Lleol i Bobl Hyn - Pennu'r Ffi Safonol 2024/25 PDF 147 KB Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion a oedd yn gofyn am gymeradwyaeth y Pwyllgor Gwaith i bennu’r ffi safonol ar gyfer cartrefi gofal y Cyngor.
Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cynghorydd Alun Roberts, Aelod Portffolio Gwasanaethau Oedolion, a dywedodd fod hyn yn ofyn blynyddol o dan Adran 22 Deddf Cymorth Gwladol 1948.
Cyfeiriodd y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion at yr ystyriaethau a ddefnyddiwyd i gyfrifo’r ffi safonol ar gyfer cartrefi gofal y Cyngor, fel y’u nodir yn yr adroddiad, a dywedodd mai’r argymhelliad yw codi am gost lawn y gwasanaeth yn 2024/25, sef £927.77 yr wythnos.
Penderfynwyd gosod ffi safonol o £927.77 yr wythnos sef cost llawn y gwasanaeth.
|
|
Cynnig i Drosglwyddo Disgyblion Ysgol Carreglefn i Ysgol Llanfechell a cau Ysgol Carreglefn PDF 1 MB Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ei ystyried, adroddiad y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc yn amlinellu cynnig i drosglwyddo disgyblion o Ysgol Carreglefn i Ysgol Llanfechell a chau Ysgol Carreglefn. Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cynghorydd Dafydd Roberts, Aelod Portffolio Addysg a’r Gymraeg, ac roedd yn gofyn i’r Pwyllgor Gwaith gymeradwyo’r cynnig i drosglwyddo disgyblion o Ysgol Carreglefn i Ysgol Llanfechell a chau Ysgol Carreglefn, yn ogystal â chyhoeddi rhybudd statudol i’r perwyl hwnnw. Ysgrifennwyd y papur cynnig unol â disgwyliadau’r cod diwygiedig, sef Cod Trefniadaeth Ysgolion 2018.
Cyfeiriodd y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc at y rhesymau dros y cynnig i gau Ysgol Carreglefn, gan gynnwys y gost fesul disgybl, sef £17,200, a’r uchaf o blith yr holl ysgolion cynradd yng Nghymru, mae nifer y lleoedd gwag yn 80% ac mae disgwyl i nifer y disgyblion ostwng o 9 disgybl eleni i 5 disgybl o fis Medi 2024; costau cynnal a chadw (presennol a dyfodol) o £317,350, yn ogystal â’r her o addysgu dosbarth oedran cymysg gan fod yr holl ddisgyblion yn cael eu haddysgu mewn un dosbarth. Disgrifiodd y gweithdrefnau a ddilynwyd wrth ystyried dyfodol Ysgol Carreglefn a llunio’r cynnig i gau’r ysgol hon, sydd yn ysgol wledig ddynodedig, a chyfeiriodd at yr opsiynau amgen rhesymol a ystyriwyd ac y cyfeirir atynt yn adran 6 yn y papur cynnig. Os yw’r cynnig yn cael ei gymeradwyo yna bydd Ysgol Carreglefn yn cau ym mis Awst 2024 a’r disgyblion yn trosglwyddo i Ysgol Llanfechell ym mis Medi 2024. Gan fod llai na 10 disgybl wedi’u cofrestr yn yr ysgol pan gynhaliwyd y cyfrifiad ym mis Ionawr 2024, mae’r Cod Trefniadaeth Ysgolion yn caniatáu i’r awdurdod ddilyn proses symlach i gau’r ysgol yn swyddogol. Os bydd yr ysgol yn cau, mae’r Awdurdod wedi ymrwymo i weithio gyda chymuned Carreglefn i geisio sicrhau dyfodol hirdymor adeilad yr ysgol bresennol fel adnodd i’r gymuned, yn ogystal â darparu cludiant am ddim i ddisgyblion cymwys o Garreglefn i Ysgol Llanfechell, yn unol â pholisi trafnidiaeth ysgolion y Cyngor, gan fod y ffordd rhwng y ddau bentref yn rhy beryglus i ddysgwyr oedran cynradd gerdded arni i’r ysgol ac yn ôl.
Cyflwynodd y Cynghorydd Dyfed Wyn Jones, Is-gadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol, adborth o gyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 13 Chwefror 2024 pan ystyriwyd y cynnig i drosglwyddo disgyblion o Ysgol Carreglefn i Ysgol Llanfechell a chau Ysgol Carreglefn. Roedd y Pwyllgor wedi trafod nifer o faterion, a cheisiodd sicrwydd ynglŷn â’r ffactorau a oedd yn gyrru’r cynnig, yr opsiynau amgen a ystyriwyd, y goblygiadau ariannol, darparu cludiant, yr effaith ar ddisgyblion, staff a’r gymuned a’r gefnogaeth fyddai ar gael iddynt, yn ogystal â dyfodol adeilad yr ysgol. Wrth ystyried dyfodol adeilad yr ysgol, pwysleisiodd y Pwyllgor ei bod yn bwysig gweithio gyda’r gymuned i ganfod ffordd o gadw adeilad yr ysgol er defnydd y gymuned os yw’r ysgol yn cau. Ar ôl ystyried yr holl wybodaeth a gyflwynwyd yn yr adroddiad ac ar lafar yn y cyfarfod, penderfynodd y Pwyllgor ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 10. |
|
Cynllun Strategol Digidol Cyngor Sir Ynys Môn PDF 2 MB Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Proffesiwn – AD a Thrawsnewid. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Proffesiwn (AD) a Thrawsnewid yn ymgorffori Cynllun Strategol Digidol Cyngor Sir Ynys Môn ar gyfer 2025-29 i’r Pwyllgor Gwaith ei ystyried a’i gymeradwyo.
Cyflwynwyd y Strategaeth gan y Cynghorydd Carwyn Jones, Aelod Portffolio Busnes Corfforaethol a Phrofiad y Cwsmer, a dywedodd ei bod yn gosod cyfeiriad a gweledigaeth glir ar gyfer gwasanaethau TG corfforaethol, a hynny’n seiliedig ar egwyddorion cyffredinol y Cyngor a’r meysydd blaenoriaeth ar gyfer darparu gwasanaethau TGCh. Mae’n olynu’r Strategaeth Ynys Ddigidol flaenorol gan fod angen adolygu a diweddaru’r strategaeth honno yn dilyn mabwysiadu Cynllun y Cyngor ar gyfer 2023-28. Bydd cynlluniau gwasanaeth yn eistedd o dan y Strategaeth yn ôl yr angen a bydd is-strategaethau’n cael eu datblygu ar gyfer ffrydiau gwaith a rhaglenni sylweddol. Y bwriad yw llunio cynllun gweithredu blynyddol i sicrhau fod y Cynllun Strategol yn cael ei roi ar waith, ei fonitro a’i adolygu os bydd angen. Dywedodd y Cynghorydd Carwyn Jones fod TG a darpariaeth ddigidol yn greiddiol i brosesau mewnol y Cyngor yn ogystal â phrofiad ei gwsmeriaid, a dyna pam fod y Cynllun mor allweddol i siwrne’r Cyngor wrth gyflawni disgwyliadau ei drigolion. Er bod y Cynllun yn nodi uchelgais y Cyngor i ddatblygu, gwella, moderneiddio a symleiddio prosesau gan ddefnyddio technoleg, mae’n cydnabod hefyd nad oes gan bawb yr un mynediad i’r byd digidol ac mae’n ceisio sicrhau fod gan drigolion Ynys Môn, ac ymwelwyr, fynediad i wasanaethau o ansawdd uchel trwy gyfrwng amrywiaeth o sianelau digidol a thraddodiadol.
Roedd aelodau’r Pwyllgor Gwaith yn cydnabod fod dibyniaeth ar dechnoleg yn cynyddu a bod cyfranogiad digidol yn bwysig mewn bywyd o ddydd i ddydd ac roeddent yn falch o nodi nad yw’r Cynllun Strategol Digidol, sy’n ceisio gwella a datblygu cynnig digidol presennol y Cyngor, yn atal trigolion nad oes ganddynt fynediad at dechnoleg ddigidol neu’r hyder i’w ddefnyddio rhag parhau i gysylltu â’r Cyngor trwy ddulliau traddodiadol. Roeddent o’r farn fod hyn yn hanfodol i sicrhau fod y Cyngor yn parhau’n gynhwysol ac yn agored i bawb. Ceisiodd y Pwyllgor Gwaith sicrwydd hefyd y byddai’n bosib addasu’r Cynllun Strategol er mwyn ymateb i ddatblygiadau mewn technoleg yn ystod cyfnod y Cynllun.
Dywedodd y Rheolwr Tîm TG fod prif ffocws y Cynllun ar egwyddorion yn caniatáu hyblygrwydd i ymateb i newid a gellir cyhoeddi fersiwn ddiwygiedig os bydd angen i adlewyrchu unrhyw ddatblygiadau o bwys ym maes technoleg gwybodaeth. Er hynny, mae’r diffiniad o dechnoleg a digidol yn y Strategaeth yn ddigon eang i ymgorffori elfennau ychwanegol, er enghraifft, os yw’r Cyngor yn dymuno ehangu’r defnydd o ddeallusrwydd artiffisial. Byddai newidiadau o’r fath yn cael eu gwneud mewn ymgynghoriad â’r un rhanddeiliaid a fu’n ymwneud â datblygu’r Cynllun a byddai’n cael ei gymeradwyo trwy’r un sianelau.
Dywedodd y Prif Weithredwr fod y Cynllun Strategol Digidol yn berthnasol i bawb sy’n ymwneud â’r Cyngor, boed yn weithwyr neu drigolion, a’i bod yn bwysig sicrhau ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o’r Cynllun a’r hyn y mae’n ei olygu ar bob lefel o’r Cyngor, yn ogystal â darparu cyfleoedd i ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 11. |
|
Cynllun Strategol Cyfranogiad Tenantiaid 2024-29 PDF 954 KB Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Tai. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd, i’r Pwyllgor Gwaith ei ystyried a’i gymeradwyo, adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Tai yn ymgorffori’r Cynllun Strategol Cyfranogiad Tenantiaid ar gyfer 2024-29.
Cyflwynwyd yr adroddiad a’r Cynllun gan y Cynghorydd Gary Pritchard, Aelod Portffolio Gwasanaethau Plant, Ieuenctid a Thai. Datblygwyd y Cynllun i sicrhau fod Gwasanaethau Tai y Cyngor yn gweithio mewn partneriaeth â thenantiaid i ddatblygu a darparu gwasanaethau tai o’r radd flaenaf i drigolion Ynys Môn. Cyfrannodd staff y gwasanaeth Tai a thenantiaid at y gwaith o ddatblygu’r Cynllun trwy gynnal gweithdai a chyfarfodydd gyda Gwasanaeth Ymgynghorol Cyfranogiad Tenantiaid Cymru (TPAS) Cymru. O dan Ddeddf Tai Cymru (2014), mae’n rhaid i bob landlord cymdeithasol yng Nghymru roi strategaeth cyfranogiad tenantiaid ar waith gyda’r nod hirdymor o sicrhau gwelliant parhaus ym mherfformiad y landlord o ran cefnogi a galluogi tenantiaid i gyfranogi. Mae’r cynllun yn ddogfen fyw a bydd yn llywio cysylltiadau ac ymwneud y Gwasanaeth Tai gyda’i denantiaid. Un o’r prif heriau yw cynyddu cyfranogiad tenantiaid a sicrhau fod lleisiau cymaint â phosib o denantiaid yn cael eu clywed, gan gynnwys y grwpiau hynny sy’n cael eu tangynrychioli o safbwynt cynnwys cymunedol.
Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaeth Tai Cymunedol drosolwg o’r Cynllun Strategol, a soniodd fwy am y pedwar maes blaenoriaeth allweddol. Dywedodd y bydd gan ymgysylltu â thenantiaid rôl sylweddol hefyd o ran gweithio tuag at gyflawni Safonau Ansawdd Tai Cymru 2023 a’r penderfyniadau sydd ynghlwm â’r broses honno. Bydd Cynllun Gweithredu deuddeg mis yn cael ei ddatblygu ar y cyd a’i fonitro gan y grŵp monitro Cyfranogiad Tenantiaid a bydd yr Uwch Dîm Rheoli Tai yn paratoi adroddiad cynnydd blynyddol.
Cyflwynodd y Cynghorydd Dyfed Wyn Jones, Is-gadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol, grynodeb o’r materion a drafodwyd gan y Pwyllgor wrth graffu ar y Cynllun Strategol yn y cyfarfod a gynhaliwyd ar 16 Ionawr 2024 a chadarnhaodd fod y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol wedi penderfynu, ar ôl iddo ystyried y dogfennau a gyflwynwyd a gwrando ar y sicrwydd a ddarparwyd gan y Swyddogion a’r Aelod Portffolio ynglŷn â’r pwyntiau a godwyd, argymell y Cynllun i’r Pwyllgor Gwaith ei gymeradwyo.
Penderfynwyd cymeradwyo’r Cynllun Strategol Cyfranogiad Tenantiaid 2024-29.
|
|
Cynllun Strategol Rheoli Asedau 2024-29 PDF 938 KB Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Tai. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Tai yn ymgorffori’r Cynllun Strategol Rheoli Asedau Tai 2024-29 i’r Pwyllgor Gwaith ei ystyried a’i gymeradwyo.
Cyflwynwyd yr adroddiad a’r Cynllun gan y Cynghorydd Gary Pritchard, Aelod Portffolio Gwasanaethau Plant, Ieuenctid a Thai, a dywedodd ei fod yn caniatáu i’r Cyngor ddeall ei stoc dai a safon ei eiddo yng nghyd-destun Safonau Ansawdd Tai Cymru 2023 a’i fod, oherwydd hynny, yn sicrhau fod y Cyngor yn gwneud penderfyniadau gwybodus ynglŷn â buddsoddi i wella ei eiddo.
Dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Tai fod y Cynllun wedi’i ddatblygu i adlewyrchu newidiadau allweddol mewn polisïau cenedlaethol, ynghyd â’r heriau allweddol o gyflawni SATC 2023 a datgarboneiddio. Cwblhawyd arolwg o gyflwr y stoc dai yn 2022/23 a defnyddir y wybodaeth a gasglwyd i fuddsoddi mewn cydrannau allweddol a bydd gwaith gwella effeithlonrwydd ynni’n cael ei wneud hefyd. Bydd cost cyflawni SATC 2023 yn cael ei gynnwys yng Nghynllun Busnes y CRT wrth iddynt ddod yn hysbys. Mae’r Gwasanaeth Tai wedi ymrwymo hefyd i wella’r gwasanaeth trwsio ymatebol a ddarperir i denantiaid y Cyngor yn ystod oes y cynllun.
Amlinellodd y Cynghorydd Dyfed Wyn Jones, Is-gadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol, y materion a godwyd pan gyflwynwyd y Cynllun Strategol Asedau Tai i’r Pwyllgor yn y cyfarfod a gynhaliwyd ar 16 Ionawr 2024. Ar ôl ystyried y Cynllun ac ymatebion y Swyddogion a’r Aelod Portffolio i’r pwyntiau a godwyd yn ystod y cyfarfod, penderfynodd y Pwyllgor argymell y Cynllun i’r Pwyllgor Gwaith ei gymeradwyo. Wrth nodi fod argaeledd contractwyr yn her o safbwynt gwireddu’r Cynllun, roedd y Pwyllgor wedi gofyn i’r Gwasanaeth Tai ystyried ymarferoldeb sefydlu tîm neu dimau mewnol i gyflawni rhaglenni gwaith a gynlluniwyd yn ystod y pum mlynedd nesaf.
Dywedodd y Prif Weithredwr fod argaeledd arian cyfalaf yn ystyriaeth bwysig arall, yn enwedig gan nad yw’r arian cyfalaf ar gyfer llywodraeth leol yng Nghymru wedi cynyddu’n sylweddol ers nifer o flynyddoedd ac, oherwydd hynny, mae cyflawni amcanion y Cynllun Strategol Rheoli Asedau Tai yn debygol o fod yn heriol o ystyried y sefyllfa ariannu bresennol. Er bod y Cyfrif Refeniw Tai yn gyfrif ar wahân ac mae’r arian wedi’i glustnodi ar gyfer gweithgareddau tai, bydd angen buddsoddi’n sylweddol i gwrdd â gofynion amgylcheddol a sero net. Bydd rhaid craffu ar y rhaglen honno trwy sianelau llywodraethiant a democrataidd y Cyngor i sicrhau gwerth am arian, yn ogystal â chyflawni’r canlyniadau gorau ar draws yr ystâd gyfan.
Roedd y Pwyllgor Gwaith yn cydnabod bod fforddiadwyedd yn ffactor pwysig o ran medru gwneud y buddsoddiad angenrheidiol i gwrdd â’r targedau heriol a phellgyrhaeddol a osodwyd gan Lywodraeth Cymru yn y SATC 2023, ac hefyd i gyrraedd sero net a dygwyd sylw bod angen gwell cefnogaeth ariannol cyfalaf ar gynghorau yng Nghymru.
Penderfynwyd cymeradwyo’r Cynllun Rheoli Asedau Tai 2024-29.
|
|
Adroddiad Blynyddol ar y Cynllun Bioamrywiaeth PDF 1 MB Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd, yn ymgorffori’r Adroddiad Blynyddol ar y Cynllun Bioamrywiaeth, i’r Pwyllgor Gwaith ei ystyried. Roedd yr adroddiad yn nodi’r cynnydd a wnaed gan y Cyngor wrth gyflawni’r amcanion a/neu’r gweithredoedd yn y Cynllun Bioamrywiaeth yn ystod y 12 mis diwethaf, yn unol â’r trefniadau adrodd a gytunwyd gan y Pwyllgor Gwaith pan fabwysiadwyd y Cynllun.
Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cynghorydd Nicola Roberts, Aelod Portffolio Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Newid Hinsawdd, a dywedodd fod pob gwasanaeth o fewn y Cyngor yn cyfrannu tuag at y dyletswyddau a nodir yn Neddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016. Dengys yr Adroddiad Blynyddol sut mae’r Cyngor yn cyflawni’r cyfrifoldeb sydd arno i gynnal a gwella bioamrywiaeth ac mae’n cynnwys enghreifftiau o brosiectau lleol ac astudiaethau achos yn gysylltiedig â gwella bioamrywiaeth a chynefinoedd. Mae rhai ohonynt yn gynlluniau gan y Cyngor yn unig tra bod eraill yn golygu gweithio gydag asiantaethau a phartneriaid eraill. Mae’r adroddiad yn cynnig argymhellion am weithredodd yn y dyfodol i gryfhau capasiti a dealltwriaeth o faterion yn ymwneud â bioamrywiaeth, sefydlu strwythur adrodd ffurfiol o fewn pob gwasanaeth, sefydlu grŵp traws-wasanaeth i arwain ar faterion bioamrywiaeth, hyfforddiant, archwilio ac adolygu dogfennau polisi a chydweithio.
Roedd Aelodau’r Pwyllgor Gwaith yn cydnabod y gwaith a gyflawnwyd yn ystod y deuddeg mis diwethaf, er gwaethaf rhai heriau o ran adnoddau staff, ac roeddent yn cydnabod hefyd cyfraniad gwerthfawr gwirfoddolwyr a sefydliadau partner i gynorthwyo i wireddu buddiannau bioamrywiaeth.
Penderfynwyd derbyn yr adroddiad a chefnogi’r argymhellion ynddo.
|