Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Ystafell Bwyllgor, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni ac yn Rhithiol drwy ZOOM
Cyswllt: Ann Holmes
| Rhif. | Eitem |
|---|---|
|
Ymddiheuriadau Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd ymddiheuriadau am absenoldeb ac fe'u nodwyd fel y cofnodir uchod.
|
|
|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn datganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu i’r Cynghorydd Carwyn Jones ddatgan budd personol ond nad oedd yn rhagfarnu mewn perthynas ag eitem 6 ar yr agenda oherwydd ei rôl fel darlithydd yng Ngholeg Menai. Gan mai adroddiad ymgysylltu yn unig oedd mater dan sylw a gan nad oedd yn cael unrhyw effaith ar ei swydd, budd personol yn unig ydoedd.
|
|
|
Materion brys ardystiwyd gan y Prif Weithredwr neu ei Swyddog Apwyntiedig Dim materion brys ar adeg anfon y rhaglen hon. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dim i'w adrodd.
|
|
|
Cyflwyno i’w cadarnhau, gofnodion drafft y cyfarfod o’r Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar 29 Ebrill 2025. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar 29 Ebrill 2025 i'w cadarnhau.
Penderfynwyd cadarnhau cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar 29 Ebrill 2025 fel rhai cywir.
|
|
|
Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Democratiaeth. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Democratiaeth a oedd yn cynnwys Blaenraglen Waith y Pwyllgor Gwaith ar gyfer y cyfnod rhwng Mehefin 2025 ac Ionawr 2026 i'w gadarnhau.
Diweddarodd y Pennaeth Democratiaeth y Pwyllgor Gwaith ar yr un newid i'r Blaenraglen Waith, sef ychwanegu'r Cynllun Strategol Digidol Ysgolion at agenda cyfarfod 21 Hydref 2025 y Pwyllgor Gwaith.
Penderfynwyd cadarnhau Blaen RagIen Waith y Pwyllgor Gwaith wedi’i diweddaru am y cyfnod Mehefin 2025 i Ionawr 2026 gyda’r un newid a amlinellwyd yn y cyfarfod.
|
|
|
Adroddiad Ymgysylltu – Darpariaeth Addysg ôl-16 Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc ar ganlyniad yr ymarferiad ymgysylltu â’r cyhoedd ynghylch dyfodol darpariaeth addysg ôl-16 ar Ynys Môn i'w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith.
Cyflwynodd y Cynghorydd Dafydd Roberts, Aelod Portffolio Addysg a'r Gymraeg, yr adroddiad gan esbonio bod yr adolygiad a'r posibilrwydd o ailstrwythuro'r ddarpariaeth addysg ôl-16 ar Ynys Môn wedi'i nodi fel ystyriaeth allweddol o fewn Rhaglen Amlinellol Strategol Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu y Cyngor a'r Strategaeth Moderneiddio Cymunedau Dysgu a Datblygu'r Gymraeg. Cynhaliodd y Cyngor ymarferiad ymgysylltu â'r cyhoedd ar ddyfodol darpariaeth addysg ôl-16 rhwng 20 Ionawr a 7 Mawrth 2025, ac mae manylion amdano wedi'u cynnwys yn yr adroddiad. Yn hytrach na chynnal ymgynghoriad ffurfiol ar hyn o bryd – gan nad yw’n gynnig penodol, dewisodd y Cyngor gynnal ymarferiad ymgysylltu er mwyn cynnwys mwy o randdeiliaid ac i gael sgwrs ehangach er mwyn deall gwahanol safbwyntiau a barn. Bydd yr adborth a gesglir yn cael ei ddefnyddio i lywio camau nesaf y Cyngor a'r broses o wneud penderfyniadau ynghylch darpariaeth addysg ôl-16.
Tynnodd y Cynghorydd Dafydd Roberts sylw at natur gadarnhaol y broses a ddenodd gyfanswm o 779 o ymatebion. Yn benodol, daeth 30% o'r ymatebion gan ddysgwyr a phobl ifanc rhwng 16 a 21 oed. Yr ateb a ddewiswyd oedd cadw'r ddarpariaeth ôl-16 gyda phob un o'r darparwyr presennol.
Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc fod Rhaglen Amlinellol Strategol Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu y Cyngor a'i Strategaeth Moderneiddio Cymunedau Dysgu a Datblygu'r Gymraeg yn cydnabod yr angen i adolygu'r model darpariaeth addysg ôl-16 presennol i sicrhau bod y system yn gynaliadwy, yn effeithlon ac yn ymateb i brofiadau dysgwyr. Mae'r adroddiad hefyd yn tynnu sylw at yr heriau presennol yn y sector addysg ôl-16 gan gynnwys maint dosbarthiadau, newidiadau demograffig a hyfywedd ariannol. Fel rhan o'r ymarferiad ymgysylltu cyflwynwyd nifer o opsiynau a gwahoddwyd rhanddeiliaid hefyd i gynnig atebion eraill. Cytunodd mwyafrif yr ymatebwyr fod angen adolygu'r ddarpariaeth addysg ôl-16, gyda 79% o blaid cadw’r ddarpariaeth gyda phob un o'r darparwyr presennol. O ran ymatebwyr cyffredinol, a phobl ifanc, y blaenoriaethau allweddol ar gyfer dyfodol darpariaeth ôl-16 yw argaeledd lleol, ansawdd yr addysgu a’r dewis sydd ar gael o bynciau’n lleol. O ystyried yr adborth yn sgil yr ymarferiad ymgysylltu cyhoeddus, y dull a argymhellir yw datblygu perthynas waith agosach rhwng y darparwyr presennol a bod swyddogion yn paratoi cynllun strategol i gefnogi'r cyfeiriad hwn. Bydd y cynllun hefyd yn ceisio lliniaru a mynd i'r afael â'r heriau sy'n wynebu darpariaeth addysg ôl-16 ar hyn o bryd ar Ynys Môn a chryfhau hawl a phrofiad dysgwyr ôl-16. Mae'r weledigaeth hon yn rhan o'r uchelgais ehangach i sicrhau darpariaeth addysg o'r ansawdd uchaf posibl ar yr Ynys ar gyfer cenedlaethau'r presennol a'r dyfodol.
Rhoddodd y Cynghorydd Sonia Williams, Is-gadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol, ddiweddariad o gyfarfod y pwyllgor ar 21 Mai 2025 lle adolygwyd yr Adroddiad Ymgysylltu ar Ddarpariaeth Addysg Ôl-16. Roedd y pwyllgor wedi nodi bod y broses ymgysylltu a'r gwaith darpariaeth addysg ôl-16 ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 6. |
|
|
Strategaeth Moderneiddio Cymunedau Dysgu a Datblygu’r Gymraeg Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc a oedd yn ceisio cymeradwyaeth y Pwyllgor Gwaith i'r cynnig i adleoli dysgwyr Ysgol Uwchradd Caergybi i adeilad ysgol newydd ar gyfer dysgwyr 11-18 oed a chynnal ymgynghoriad statudol arno, i'w ystyried.
Cyflwynodd y Cynghorydd Dafydd Roberts, Aelod Portffolio Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc yr adroddiad ac eglurodd fod Rhaglen Amlinellol Strategol y Cyngor (Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu) sy'n gynllun treigl naw mlynedd yn amlinellu’r cynlluniau a nodwyd ar gyfer buddsoddiadau cyfalaf a chyflawni dros y cyfnod. Fodd bynnag, mae’r ffaith bod concrit RAAC drwy adeilad ysgol Ysgol Uwchradd Caergybi yn golygu bod angen mynd i'r afael â'r sefyllfa yn y tymor byr neu ganolig. Yn dilyn newidiadau yng nghanllawiau'r DU ym mis Awst 2023 ar RAAC, mae gwaith adfer helaeth wedi'i wneud i ddiogelu strwythur yr ysgol yn y tymor canolig, ond mae angen ateb hirdymor. Mae'r papur cynnig yn cyflwyno canlyniad y gwaith i ystyried nifer o opsiynau ar gyfer dyfodol Ysgol Uwchradd Caergybi ac mae wedi'i ddrafftio yn unol â disgwyliadau'r Cod Trefniadaeth Ysgolion diwygiedig (O11/2018).
Nododd y Cynghorydd Dafydd Roberts, pe bai'n cael ei gymeradwyo ar gyfer ymgynghoriad statudol, y gallai'r cynnig i adleoli dysgwyr yr ysgol i adeilad newydd fod yn gychwyn ar bennod newydd gyffrous i'r ysgol.
Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc fod y cynnig yn cydymffurfio â'r Cod Trefniadaeth Ysgolion diwygiedig ac yn cyd-fynd ag ymrwymiad y Cyngor i wella ysgolion a chreu amgylcheddau dysgu modern sy'n cefnogi cymunedau a'r Gymraeg. Mae'r cynnig yn cynnwys adleoli dysgwyr Ysgol Uwchradd Caergybi i ysgol newydd sydd wedi'i chynllunio'n benodol ar gyfer dysgwyr rhwng 11 a 18 oed gyda lle i 900 o ddisgyblion. Wrth ddatblygu'r cynnig, ystyriodd y Cyngor nifer o ffactorau fel yr amlinellir yn y papur a'r prif ffactor sy’n sbarduno’r cynnig yw cyflwr yr adeilad presennol - wedi'i ddosbarthu fel Gradd C (gweithredol ond mae angen gwaith atgyweirio mawr arno neu godi adeilad newydd yn ei le yn y tymor byr i'r tymor canolig). Mae'r costau cynnal a chadw presennol a'r rhai a ragwelir ar gyfer adeilad presennol yr ysgol yn y dyfodol yn dod i swm o bron £29m. Er bod opsiynau eraill ar gyfer dyfodol Ysgol Uwchradd Caergybi wedi'u hystyried, fel y manylir yn adran 6 o'r adroddiad, ystyrir mai adleoli dysgwyr yr ysgol i ysgol bwrpasol newydd ar gyfer plant 11-18 oed yw'r ateb mwyaf effeithiol i’r heriau sy’n wynebu’r ysgol. Mae'r goblygiadau o ran cost wedi'u nodi yn adran 7 o'r adroddiad.
Disgrifiodd y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc hwn fel cyfnod cyffrous, ac yn gyfle i sefydlu ysgol fodern sy'n ategu ac yn cefnogi arferion addysgu a dysgu cyfoes, a fydd o fudd i staff a disgyblion. Mae'r cynnig yn mynd i'r afael â'r heriau sy'n ymwneud â chyflwr adeilad yr ysgol, yn enwedig RAAC a gallai arwain at arbedion hirdymor o ran costau atgyweirio a chynnal a chadw dros y 25 mlynedd nesaf pe bai'n cael ei weithredu drwy Fodel Buddsoddi Cydfuddiannol ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 7. |