Rhaglen a Phenderfyniadau

Pwyllgor Gwaith, Ystafell Bwyllgor, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni ac yn Rhithiol drwy ZOOM, Pwyllgor Gwaith - Dydd Mawrth, 16eg Rhagfyr, 2025 10.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni ac yn Rhithiol drwy ZOOM

Cyswllt: Ann Holmes 

Cyfryngau

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Ymddiheuriadau

Dogfennau ychwanegol:

2.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn datganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes.

 

Dogfennau ychwanegol:

3.

Materion brys ardystiwyd gan y Prif Weithredwr neu ei Swyddog Apwyntiedig

Dim materion brys ar adeg anfon y rhaglen hon.

Dogfennau ychwanegol:

4.

Cofnodion pdf eicon PDF 189 KB

Cyflwyno i’w cadarnhau, gofnodion drafft y cyfarfod o’r Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar 25 Tachwedd 2025.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Penderfynwyd cadarnhau cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar 25 Tachwedd 2025, fel rhai cywir.

5.

Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith pdf eicon PDF 270 KB

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Penderfynwyd cadarnhau Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith wedi’i diweddaru am y cyfnod Ionawr i Awst 2026 gyda’r newidiadau y cyfeiriwyd atynt yn y cyfarfod.

6.

Rheoli'r Trysorlys - Adolygiad Canol Blwyddyn 2025/26 pdf eicon PDF 553 KB

Cyflwyno adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Penderfynwyd nodi cynnwys yr Adroddiad Adolygiad Canol Blwyddyn ar Reoli’r Trysorlys ar gyfer 2025/26.

7.

Cynllun Strategol Digidol Addysg 2026-2031 pdf eicon PDF 961 KB

Cyflwyno adroddiad y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Penderfynwyd mabwysiadu’r Cynllun Strategol Digidol Addysg newydd (2025-2031).

8.

Ymgynghoriad Casglu ac Ailgylchu Gwastraff pdf eicon PDF 402 KB

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Penderfynwyd

 

·      Cymeradwyo cynnal proses ymgynghori ar sut y gall y gwasanaeth ailgylchu/casglu gwastraff newid yn y dyfodol i helpu gyrraedd targedau ailgylchu statudol o 70%.

·      Cymeradwyo’r cwestiynau i’w gofyn fel rhan o’r broses ymgynghori fel y nodir yn Atodiad 1 yr adroddiad.

·      Cymeradwyo’r amserlen ar gyfer yr ymgynghoriad cyhoeddus i gychwyn ar 7 Ionawr 2026 a phara am chwe wythnos.

9.

Rhenti a Thaliadau Gwasanaethau Tai 2026/27 pdf eicon PDF 335 KB

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Tai.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Penderfynwyd cymeradwyo’r canlynol

 

·      Cynnydd o 4.3% ar draws yr holl unedau rhent cyffredinol sy’n unol â pholisi rhent Llywodraeth Cymru wrth gasglu dros 51 wythnos.

·      Cynnydd o £1.10 yr wythnos ar gyfer rhenti pob garej.

·      Bod y taliadau gwasanaeth a nodir yn adran 6.3 yr adroddiad yn cael eu codi ar bob tenant sy’n derbyn y gwasanaethau perthnasol.

·      Gweinyddu’r Cynllun Cymorth Rhent sy’n gynllun lleol i gefnogi tenantiaid sy’n hunan dalu rhent ac mewn anhawster ariannol.

10.

Cau Allan y Wasg a'r Cyhoedd pdf eicon PDF 120 KB

Ystyried mabwysiadau’r canlynol

 

“Dan Adran 100 (A)(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, mae modd cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol, oherwydd y posibilrwydd y caiff gwybodaeth ei rhyddhau a honno’n wybodaeth y gwna Atodlen 12A y Ddeddf a’r Prawf Budd y Cyhoedd eithriad ohoni.”

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Penderfynwyd o dan Adran 100 (A) (4) Deddf Llywodraeth Leol 1972 i gau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol ar y sail y golygai ddatgelu gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym mharagraffau 12, 13 a 14 o Atodlen 12A o’r Ddeddf honno ac yn y Prawf Budd y Cyhoedd a gyflwynwyd.

11.

Ymateb i’r Her Tai Lleol - Datblygiad tai dros 10 uned: Plas Penlan, Llangefni

Cyflwyno adoddiad y Pennaeth Gwasanaethau Tai.

Penderfyniad:

Penderfynwyd cymeradwyo symud ymlaen i ddatblygu cynllun o 12 tai newydd ym Mhlas Penlan, Llangefni* fydd ar gael i drigolion lleol fel cartrefi fforddiadwy i’w rhentu mewn ymateb i’r her tai lleol.

 

*Mae gwireddu’r cynllun yn amodol ar dderbyn caniatâd cynllunio iddo.