Rhaglen, Penderfyniadau a Chofnodion.

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol

Cyswllt: Ann Holmes 

Cyfryngau

Eitemau
Rhif. Eitem

Estynnodd y Cadeirydd groeso cynnes i bawb a oedd yn bresennol yn y cyfarfod rhithwir hwn o'r Pwyllgor Gwaith. Cyfeiriodd gyda thristwch at absenoldeb Mr Fôn Roberts, y Cyfarwyddwr Dros Dro ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol oherwydd profedigaeth deuluol ac estynnodd ei chydymdeimlad hi a’r Pwyllgor Gwaith i Mr Roberts. Wrth wneud hynny mynegodd gydymdeimlad â phawb ar yr Ynys a oedd wedi colli teulu neu ffrindiau yn ystod y misoedd diwethaf.

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorydd Ieuan Williams ddiddordeb personol mewn perthynas ag eitem 10 ar y rhaglen yn rhinwedd ei swydd fel Prif Weithredwr Cwmni Cynnal.

2.

Materion Brys a Ardystiwyd gan y Prif Weithredwr neu Swyddog a Benodwyd Ganddi

Dim materion brys ar adeg anfon y rhaglen hon.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw faterion brys i adrodd arnynt

3.

Monitro'r Gyllideb Refeniw – Chwarter 3, 2020/21 pdf eicon PDF 853 KB

I gyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 yn nodi perfformiad ariannol gwasanaethau'r Cyngor ar ddiwedd Chwarter 3 blwyddyn ariannol 2020/21 i'w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith.

Adroddodd y Cynghorydd Robin Williams, yr Aelod Portffolio Cyllid fod blwyddyn ariannol 2020/21 wedi bod yn eithriadol oherwydd y pandemig Coronafeirws sydd wedi cael effaith sylweddol ar y ffordd y mae’r Cyngor yn darparu ei wasanaethau. O'r herwydd, nid yw'r perfformiad ariannol yn adlewyrchu'r hyn a fyddai'n digwydd mewn blwyddyn arferol. Y gyllideb refeniw net ar gyfer 2020/21 oedd £142.146m ac yn seiliedig ar wybodaeth ar ddiwedd Chwarter 3, rhagwelir tanwariant o £1.472m erbyn diwedd y flwyddyn. Wrth groesawu'r tanwariant a ragwelir ar gyllidebau gwasanaeth a chorfforaethol rhybuddiodd yr Aelod Portffolio y gallai'r sefyllfa newid eto yn Chwarter 4.

 

Tynnodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 sylw at newidiadau i'r adroddiad yn Atodiad B, sef y dylai Cyfanswm y Cyllid Corfforaethol o dan yr Alldro Tybiedig ar 31 Mawrth, 2021 yng ngholofn Ch3 ddarllen fel gorwariant (nid tanwariant) o £160k a dylai'r Cyfanswm ar gyfer cyllidebau gwasanaeth ar gyfer 2020/21 o dan yr un golofn ddarllen fel tanwariant o £1.906m (nid £1.746m). Cyfeiriodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth at y prif amrywiadau cyllidebol a oedd yn cynnwys y meysydd gwasanaeth hynny yr effeithiwyd arnynt yn benodol gan Covid 19, er enghraifft Addysg Ganolog lle mae cau ysgolion wedi arwain at ostyngiad yn y galw, neu ddim galw o gwbl, sydd wedi cyfrannu at y tanwariant cyffredinol. Tynnodd sylw at y risgiau a’r rhagdybiaethau cyfredol mewn perthynas â gwasanaethau unigol, sef y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd a'r Gwasanaethau Oedolion yn benodol, lle gallai’r galw, sydd yn ôl pob tebyg wedi’i ffrwyno yn y cyfnod clo, godi eto pan fydd cymdeithas yn ailagor a phan ailddechreuir darparu gwasanaethau fel arfer.

 

Bu'r gefnogaeth sylweddol  a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru o gymorth mawr i sefyllfa ariannol y Cyngor  a, heb y gefnogaeth honno rhagwelir y byddai'r Cyngor wedi gorwario'n sylweddol. Darperir manylion am y cyllid grant Covid-19 a gafwyd gan Lywodraeth Cymru hyd yma yn adran 9 yr adroddiad ac mae'n cynnwys gwariant a gafodd y Cyngor wrth ddelio â'r pandemig ac iawndal am golli incwm oherwydd cyfyngiadau'r pandemig.

 

Dywedodd y Cynghorydd Dafydd Roberts, Cadeirydd y Panel Sgriwtini  Cyllid fod y Panel, wrth graffu ar berfformiad y gyllideb refeniw, wedi codi pryderon ynghylch erydiad y sylfaen dreth o ganlyniad i eiddo hunanarlwyo yn symud i'r gofrestr trethi busnes a'r goblygiadau ar gyfer incwm o'r Dreth Gyngor a hefyd nifer yr eiddo cyffredin sy'n cael eu troi'i unedau hunanarlwyo a'r goblygiadau ar gyfer tai ar yr Ynys. Roedd y Panel wedi tynnu sylw ymhellach at yr angen i fonitro lefel y galw yn y Gwasanaethau Plant yn barhaus er mwyn bod yn wyliadwrus o  unrhyw gynnydd yn y galw wrth i gyfyngiadau'r  pandemig gael eu llacio.

 

Cydnabu'r Pwyllgor Gwaith y gefnogaeth  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 3.

4.

Monitro'r Gyllideb Cyfalaf – Chwarter 3, 2020/21 pdf eicon PDF 397 KB

I gyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 yn nodi perfformiad ariannol y Gyllideb Gyfalaf ar ddiwedd Chwarter 3 blwyddyn ariannol 2020/21 i'w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith.

 

Adroddodd y Cynghorydd Robin Williams, yr Aelod Portffolio Cyllid, fod pandemig Covid-19 hefyd wedi cael effaith ar y cynnydd a wnaed yn erbyn y gyllideb gyfalaf o £55.984m ar gyfer 2020/21 yn sgil oedi gyda nifer o brosiectau oherwydd y cyfyngiadau, yn enwedig yn ystod y cyfnod clo cychwynnol. Mae gweithgaredd wedi ailddechrau ers hynny a gwariwyd 93% o gyllideb broffiliedig y gronfa gyffredinol hyd ddiwedd y trydydd chwarter, ond dim ond 30% o'r gyllideb flynyddol a wariwyd hyd yma a'r prif reswm yw bod llawer o'r gwaith ar nifer o'r cynlluniau cyfalaf yn digwydd yn rhan olaf y flwyddyn ariannol. Mae'r Cyfrif Refeniw Tai wedi gwario 95% o'i gyllideb broffiliedig a 39% o'r gyllideb flynyddol. Yn yr un modd, mae'r pandemig wedi effeithio ar weithgaredd yn erbyn y CRT oherwydd yr oedi o ran gwaith dan y rhaglen gynnal a phrosiectau adeiladu newydd a phrosiectau prynu eiddo. Wrth gyfeirio at y cynlluniau grant cyfalaf, dywedodd yr Aelod Portffolio ei fod wedi cael sicrwydd na fyddai unrhyw gyllid grant yn cael ei golli o ganlyniad i lithriad ar y cynlluniau hynny y mae'r cyllid yn eu cefnogi.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 mai'r tanwariant a ragwelir ar raglen gyfalaf 2020/21 yw £22.186m, a gallai hyn lithro i raglen gyfalaf 2021/22. Cadarnhaodd y bydd y cyllid ar gyfer y llithriad hwn hefyd yn llithro i 2021/22 ac y bydd yn cael ei gymryd I ystyraeth wrth gynhyrchu'r Strategaeth a'r Rhaglen Gyfalaf ar gyfer 2021/22 a’r Strategaeth Rheoli'r Trysorlys. Rhoddodd ddiweddariad i'r Pwyllgor Gwaith ar statws rhai o'r cynlluniau a oedd yn tanwario / cynlluniau lle bu oedi, gan gynnwys safle aros dros dro i Sipsiwn a Theithwyr, a Rhaglen Ysgolion yr Unfed Ganrif ar Hugain ar gyfer ysgol newydd yn Llangefni a chadarnhaodd y bu oedi o ran derbyn y cerbydau newydd o dan y contract Casglu Gwastraff newydd. Mae'r Rhaglen Gyfalaf yn cynnwys nifer o gynlluniau grant cyfalaf ac  mae'r rhan fwyaf ohonynt wedi cychwyn ac yn symud yn eu blaenau. Rhoddir diweddariad ar y rhain yn adran 3.1 o'r adroddiad.

 

Cadarnhaodd y Cynghorydd Dafydd Roberts, Cadeirydd y Panel Sgriwtini Cyllid fod y Panel wedi craffu ar yr adroddiad a oedd yn rhoi diweddariad ar gynnydd cyllideb gyfalaf Ch3 a bod pryder am y gostyngiad yn y derbyniadau cyfalaf oherwydd bod llai o asedau'r Cyngor yn dod ar gael i'w gwerthu a bod hynny, yn ei dro, yn lleihau'r sgôp ar gyfer buddsoddiad cyfalaf y tu hwnt i'r hyn a gefnogir gan arian o du Llywodraeth Cymru. Roedd y Panel wedi nodi ymhellach bod gwariant yn digwydd yn rhan olaf y flwyddyn mewn nifer o'r cynlluniau a gofynnodd y Panel am i'r rhaglen gyfalaf gael ei hailwampio fel bod y gwariant yn digwydd yn fwy cyfartal dros gwrs y flwyddyn gyfan yn hytrach nag ar ddiwedd  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 4.

5.

Monitro'r Cyfrif Refeniw Tai – Chwarter 3, 2020/21 pdf eicon PDF 493 KB

I gyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 yn nodi perfformiad ariannol Cyllideb y Cyfrif Refeniw Tai (CRT) ar gyfer Chwarter 3 2020/21 i'w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith.

 

Adroddodd y Cynghorydd Robin Williams, Aelod Portffolio Cyllid fod y Cyngor, ym mis Mawrth, 2020, wedi cytuno ar gyllideb refeniw ar gyfer 2020/21 a oedd yn dangos gwarged cynlluniedig o £7.8m. Y gyllideb gyfalaf ar gyfer 2020/21 oedd £19.1m gan gynnwys lwfans ar gyfer gwariant na chafodd ei gwblhau o gyllideb gyfalaf 2019/20. Roedd cyfuniad o'r gyllideb refeniw a'r gyllideb gyfalaf wedi'i haddasu yn arwain at ddiffyg cynlluniedig o £7.1m a fyddai'n cael ei ariannu o gronfeydd wrth gefn y CRT. Mae'r CRT wedi'i glustnodi i ddibenion penodol ac ni ellir trosglwyddo arian ohono i'r Gronfa Gyffredinol, ac ni ellir defnyddio arian o'r Gronfa Gyffredinol i ariannu'r CRT.

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio Cyllid ei bod yn bwysig nodi bod y Cyngor, sydd wedi cadw ei stoc dai, wedi cynnal rhaglen o waith gwella ac adnewyddu yn y blynyddoedd ers hynny a hefyd wedi ceisio ychwanegu at y stoc bresennol trwy brynu hen dai Cyngor yn ôl a thrwy ddarparu tai cyngor newydd ar yr Ynys gyda'r bwriad o barhau i sicrhau cyflenwad cynaliadwy o dai i bobl a theuluoedd yn Ynys Môn i’r dyfodol.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 fod y CRT yn cynnwys refeniw a chyfalaf a bod y gwarged a gynhyrchir gan y gyllideb refeniw yn cael ei ddefnyddio ar gyfer gwariant cyfalaf i uwchraddio'r stoc dai i gwrdd â Safonau Ansawdd Tai Cymru, i ddatblygu unedau tai newydd a / neu i brynu hen dai Cyngor yn ôl. Ar ddiwedd Chwarter 3 mae'r sefyllfa ariannol refeniw yn dangos tanwariant o £238k (o'i gymharu â £324k ar ddiwedd Chwarter2). Mae'r incwm a ragwelir £150k yn is na'r gyllideb wreiddiol. Mae gwariant cyfalaf £360k yn is na'r gyllideb broffiliedig (£1.250k yn Chwarter 2). Mae'r gwariant a ragwelir £8,022k yn is na'r gyllideb. Mae'r diffyg a ragwelir, gan gynnwys refeniw a chyfalaf, £8,053k yn is na'r gyllideb o'i gymharu â diffyg a ragwelwyd o £6,256k yn is na'r gyllideb ar ddiwedd Chwarter 2, yn bennaf o ganlyniad i wariant cyfalaf is na'r disgwyl. Mae hyn yn golygu y rhagwelir gwarged o £965k ar gyfer y flwyddyn, gan adael cronfa wrth gefn o £9,562k yn y CRT  i ariannu prosiectau cyfalaf y CRT yn y dyfodol. Y strategaeth hirdymor ar gyfer y CRT yw gostwng balans cronfa wrth gefn y  CRT i £1m - £1.5m a ystyrir yn ddigonol i gwrdd ag unrhyw risgiau ar y cyfrif; rhagwelir y bydd y broses hon yn dechrau cael effaith y flwyddyn nesaf wrth i'r cynllun cyfalaf a'r cynllun datblygu tai symud ymlaen ac ennill momentwm.

 

Penderfynwyd nodi’r canlynol

 

·        Y sefyllfa a amlinellir mewn perthynas â pherfformiad ariannol y Cyfrif Refeniw Tai (CRT) ar gyfer chwarter  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 5.

6.

Datganiad ar Strategaeth Rheoli Trysorlys 2021/22 pdf eicon PDF 1 MB

I gyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 yn ymgorffori'r Datganiad ar y Strategaeth Rheoli Trysorlys ar gyfer 2021/22 i'w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith.

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio Cyllid fod yr adroddiad yn cael ei gyflwyno i sicrhau bod y Cyngor yn gweithredu arferion gorau o ran ei weithgareddau rheoli trysorlys yn unol â Chod Ymarfer CIPFA ar gyfer Rheoli Trysorlys.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 fod Côd Rheoli Trysorlys CIPFA a'r Strategaeth RhT yn gosod y paramedrau ar gyfer penderfyniadau a gweithgareddau benthyca a buddsoddi'r Cyngor i sicrhau eu bod, yn achos y cyntaf, yn fforddiadwy ac yn achos yr ail, yn ddarbodus. Craffwyd ar y Datganiad gan y Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu yn ei gyfarfod ar 9 Chwefror, 2021 a derbyniwyd ef heb wneud sylw ychwanegol. O ran diweddariadau i'r Datganiad, ni chynigir unrhyw ddiwygiadau  i egwyddorion a pholisïau craidd Datganiad 2020/21.

 

Mae’r datganiad yn nodi sefyllfa a strategaeth fenthyca'r Cyngor ac yn Nhabl 4 mae'n dangos effaith cynlluniau gwariant y Cyngor a'r tâl Darpariaeth Isafswm Refeniw ar y Gofyniad Cyllido Cyfalaf (GCC) a lefel y benthyca allanol a mewnol. Ar hyn o bryd mae'r Cyngor yn cynnal sefyllfa tanfenthyca sy'n golygu nad yw'r angen benthyca cyfalaf (GCC) wedi'i ariannu'n llawn gyda dyled benthyciadau gan fod arian parod sy'n cefnogi cronfeydd wrth gefn, balansau a llif arian y Cyngor wedi'i ddefnyddio fel cam dros dro. Er bod y dull hwn o weithredu yn ddarbodus gan fod enillion ar fuddsoddiadau'n isel ac oherwydd bod risg gwrthbartïon yn fater y mae'n rhaid parhau i'w gymryd i ystyriaeth, fel rhan o'r strategaeth mae'r gallu i fenthyca'n allanol yn bwysig er mwyn medru ad-dalu'r cronfeydd wrth gefn a'r balansau os oes angen. Mae angen dull hyblyg o ran dewis rhwng benthyca mewnol ac allanol. Ni fydd y Cyngor yn benthyca cyn bod angen dim ond i  elwa o fuddsoddi'r symiau ychwanegol a fenthycwyd; bydd unrhyw benderfyniad i fenthyca ymlaen llaw o fewn amcangyfrifon y GCC a chaiff ei ystyried yn ofalus gan ystyried y ffactorau a amlinellir yn adran 6.4 o'r Datganiad. Mae'n debygol mai prin fydd y cyfleoedd ar gyfer aildrefnu dyledion gan fod gwahaniaeth mawr o hyd rhwng cyfraddau ad-dalu cynnar a chyfraddau benthyca newydd.

 

Blaenoriaethau buddsoddi'r Cyngor fydd diogelwch ei fuddsoddiadau yn gyntaf, hylifedd yn ail ac elw o fuddsoddiadau'n drydydd, gan olygu na fydd y Cyngor ond yn buddsoddi gyda gwrthbartïon sy'n hynod o deilwng i gael credyd yn seiliedig ar wybodaeth am eu statws credyd a ddarperir gan Link Asset Services, ymgynghorwyr trysorlys y Cyngor sy'n defnyddio amrywiaeth eang o wybodaeth yn eu gwasanaethau teilyngdod credyd. Bydd y Cyngor, yn ei bolisi buddsoddi, yn rhoi sylw i ganllawiau CIPFA a Llywodraeth Cymru ar reoli risg.

 

Nodir y trefniadau llywodraethu ar gyfer rheoli trysorlys yn adran 8 yr adroddiad ac maent yn cynnwys rolau  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 6.

7.

Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol Dibreswyl yn y Gymuned – Ffioedd a Thaliadau 2021/22 pdf eicon PDF 311 KB

I gyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion dros dro.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd i'w ystyried, adroddiad y Pennaeth Dros Dro ar gyfer Gwasanaethau Oedolion a oedd yn gofyn i'r Pwyllgor Gwaith gymeradwyo  ffioedd a thaliadau arfaethedig am wasanaethau gofal cymdeithasol dibreswyl yn y gymuned ar gyfer 2021/22.

 

Dywedodd y Cadeirydd a’r Aelod Portffolio dros Wasanaethau Cymdeithasol ei bod yn arferol adolygu’r taliadau mewn perthynas â gwasanaethau cartref yn flynyddol i gyd-ddigwydd ag adolygiad y Llywodraeth Ganolog o lefelau budd-daliadau a phensiynau. Mae'r adroddiad yn nodi ffioedd a thaliadau gofal cymdeithasol dibreswyl cymunedol ar gyfer 2021/22 yn unol â Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r canlynol

 

          Taliadau am wasanaethau Teleofal fel y nodir yn Nhabl A yr adroddiad

Haen 1 bydd pawb yn talu £49.41.

Haen 2 a 3 bydd pawb yn talu £98.42

 

          Taliadau am wasanaethau Teleofal fel y nodir yn Nhabl B yr adroddiad

Gwasanaeth a Chynnal a Chadw £117.54

Gwasanaeth yn Unig £75.97

Costau Gosod Untro £47.00

 

           Cyfradd taliadau uniongyrchol ar £11.89 yr awr

 

          Parhau i godi tâl o £10 am weinyddu ceisiadau Bathodyn Glas ac am fathodynnau newydd fel yr amlinellir yn yr adroddiad.

 

          Cynyddu’r ffi am brynu gwasanaethau gofal dydd i mewn gan gartrefi annibynnol 3% i £35.21

8.

Cartrefi'r Awdurdod Lleol ar gyfer Pobl Hyn - Pennu'r Ffi Safonol pdf eicon PDF 318 KB

I gyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion dros dro. 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd i’w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith, adroddiad y Pennaeth Dros Dro ar gyfer Gwasanaethau Oedolion mewn perthynas â phennu lefel Tâl Safonol yr Awdurdod ar gyfer cartrefi gofal yr awdurdod lleol am y flwyddyn Ebrill, 2020 i Fawrth, 2021.

 

Dywedodd y Cadeirydd a'r Aelod Portffolio Gwasanaethau Cymdeithasol ei bod yn ofynnol i Awdurdodau Lleol, o dan Adran 22 o Ddeddf Cymorth Cenedlaethol 1948, bennu’r Tâl Safonol ar gyfer eu cartrefi. Cyfeiriodd at y sail ar gyfer cyfrifo'r Tâl Safonol fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad ac amlygodd, yn seiliedig ar y tabl ynddo, mai'r amcangyfrif o’r gost wythnosol am y flwyddyn hyd at 31 Mawrth, 2022 yw £786.50. Roedd y Pwyllgor Gwaith  wedi gwneud penderfyniad eisoes i gynyddu'r ffioedd yn raddol i adlewyrchu gwir gost y ddarpariaeth, ac i wneud hynny   dros gyfnod o 3 blynedd, gyda 2021/22 yn flwyddyn olaf y cynllun. Gosodwyd y ffi ar gyfer 2020/21 ar £722.21 yr wythnos. Argymhelliad yr adroddiad yw, o ystyried mai 2021/22 yw blwyddyn olaf y cynllun 3 blynedd, y dylid pennu’r ffioedd ar lefel sy’n adlewyrchu cost lawn y gwasanaeth h.y. £786.50 yr wythnos.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 mai'r ffi safonol yw'r un y mae'n ofynnol i'r Awdurdod ei chodi ar y preswylwyr hynny sydd â'r modd ariannol i dalu cost lawn eu gofal preswyl. Mae'r costau rhedeg ar gyfer 2021/22 wedi cynyddu 1.033%, ond oherwydd lefelau defnydd is, mae'r tâl safonol yn cynyddu 3% neu £26.12 o £760.38 ar gyfer 2020/21 i £786.50 ar gyfer 2021/22. Mae'r Pwyllgor Gwaith wedi ceisio sicrhau, dros gyfnod o dair blynedd, fod y ffioedd a godir ar gleientiaid hunanariannu yn adlewyrchu cost y ddarpariaeth ac i gyflawni hynny yn 2021/22. Fodd bynnag, byddai hynny'n golygu codiad sylweddol yn lefel y ffioedd o £722.21 yr wythnos i £786.50 yr wythnos. Bydd angen i'r Pwyllgor Gwaith ystyried a yw'n dymuno cadw at y polisi 3 blynedd a gweithredu'r cynnydd yn llawn er mwyn sicrhau cydraddoldeb rhwng ffioedd a chostau yn 2021/22 ynteu a yw'n dymuno ymestyn yr amserlen ar gyfer cyflawni hynny ac os felly, am ba hyd.

Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 mewn ymateb i'r Cadeirydd a'r Aelod Portffolio Gwasanaethau Cymdeithasol, fod Llywodraeth Cymru wedi codi'r trothwy cynilon ar gyfer talu ffioedd cartrefi gofal gan olygu bod llai o bobl yn cael eu heffeithio; felly byddai'r penderfyniad yn berthnasol i oddeutu 25 neu 30 o unigolion. Eglurodd y Swyddog ymhellach na fyddai ymestyn y cynllun 3 blynedd am flwyddyn ychwanegol fel yr oedd y Cadeirydd a'r Aelod Portffolio Gwasanaethau Cymdeithasol yn bwriadu ei gynnig fel cam rhesymol o dan yr amgylchiadau, yn cael fawr o effaith ar y Gyllideb ac incwm y gwasanaeth oherwydd y niferoedd a effeithir ac nad yw'n risg ariannol.

 

Felly cynigiodd y Cadeirydd a'r Aelod Portffolio Gwasanaethau Cymdeithasol y dylid ymestyn  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 8.

9.

Ffioedd a Thaliadau 2021/22 pdf eicon PDF 1 MB

I gyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 yn gofyn i'r Pwyllgor Gwaith gymeradwyo'r  rhestr a gynigiwyd o ffioedd a thaliadau ar gyfer 2021/22 fel yr atodwyd.

 

Dywedodd y Cynghorydd Robin Williams, Aelod Portffolio Cyllid fod adolygiad o ffioedd a thaliadau yn rhan o'r broses flynyddol o osod y gyllideb. Mae'r Pwyllgor Gwaith wedi gosod amcan bod yr holl ffioedd a thaliadau anstatudol yn cynyddu 3% ar gyfartaledd ar draws pob gwasanaeth unigol. Mae hyn wedi caniatáu i Benaethiaid Gwasanaeth gynyddu ffioedd unigol gan fwy neu lai na 3%, ond ar y cyfan, mae'r cynnydd ar draws y gwasanaethau yn cyfateb i gynnydd o 3%. Cynyddwyd yr holl ffioedd statudol yn ôl y swm a bennwyd gan y corff cymeradwyo, lle mae'r cynnydd hwnnw wedi'i gyhoeddi. Os nad yw'r tâl diwygiedig yn hysbys, dangosir bod y ffi i'w chadarnhau (i'w gadarnhau) a bydd yn cael ei diweddaru unwaith y derbynnir yr hysbysiad o'r ffi newydd. Mae cynnydd mewn ffioedd mewn perthynas â Gofal Cymdeithasol yn destun adroddiadau ar wahân.

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r Ffioedd a Thaliadau ar gyfer 2021/22 fel yr amlinellwyd yn y llyfryn a gyflwynwyd. 

10.

Strategaeth Ariannol Tymor Canolig a Chyllideb 2021/22 pdf eicon PDF 733 KB

I gyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 yn nodi'r cynigion manwl ar gyfer y gyllideb refeniw i'w hadolygu a'u  cytuno gan y Pwyllgor Gwaith.  Gofynnwyd i'r Pwyllgor Gwaith wneud argymhellion terfynol i'r Cyngor Llawn a fyddai wedyn yn cymeradwyo cyllideb ar gyfer 2021/22 ac yn pennu lefel y Dreth Gyngor yn ei gyfarfod ar 9 Mawrth, 2021.

 

Datganodd y Cynghorydd Ieuan Williams ddiddordeb personol yn yr eitem ac ni chymerodd ran yn y bleidlais arni.

 

Dywedodd y Cynghorydd Robin Williams, Aelod Portffolio Cyllid fod y cynigion terfynol ar gyfer y gyllideb yn gam olaf y broses hir o osod y gyllideb refeniw cyn iddynt gael eu cyflwyno i'r Cyngor Llawn. Mae'r broses wedi bod yn arbennig o heriol eleni oherwydd yr amserlenni tynn o gofio na dderbyniwyd gwybodaeth am y setliad dros dro tan 21 Rhagfyr, 2020 ac na fyddai'r setliad terfynol yn cael ei gyhoeddi tan 2 Mawrth, 2021. Roedd y setliad dros dro yn well na'r disgwyl ac wedi darparu  £104.825m i'r Cyngor, sef cynnydd o 3.5% mewn termau arian parod ond 3.4% ar ôl ei addasu i lawr ar ôl cymryd i ystyriaeth y grantiau sy'n trosglwyddo i'r setliad ac effaith y newid yn sylfaen y Dreth Gyngor. Nododd y Pwyllgor Gwaith yn ei gynigion cychwynnol ym mis Ionawr y meysydd hynny yr oedd yn awyddus i fuddsoddi ynddynt ac a oedd wedi dod dan bwysau yn ystod y pandemig, gan gynnwys Gwarchod y Cyhoedd a Thechnoleg Gwybodaeth. Gwelodd hefyd angen i ddarparu ar gyfer cyflenwad sgiliau'r Cyngor yn y dyfodol a chynigiodd adfer y Rhaglen Hyfforddeion Proffesiynol. Roedd y cynnig cychwynnol ar gyfer Cyllideb 2021/22 ar 18 Ionawr yn gyllideb refeniw net o £147.531m a oedd yn rhagdybio cynnydd o 3.75% yn y Dreth Gyngor. Dangosodd yr ymatebion i'r ymgynghoriad cyhoeddus ar y cynigion fod mwyafrif yr ymatebwyr yn erbyn y cynnydd arfaethedig yn y Dreth Gyngor ac er bod y Pwyllgor Sgriwtini  Corfforaethol yn ei gyfarfod ar 16 Chwefror wedi cefnogi'r cynigion ar gyfer y gyllideb, roedd lleisiau yn y Pwyllgor a oedd yn dymuno gweld llai o gynnydd yn y Dreth Gyngor os oes modd.

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio ei fod felly’n falch o adrodd, o ganlyniad i gyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru, (manylion yn adran 9.1 o’r adroddiad) fod y cynnig ar gyfer y gyllideb derfynol am 2021/22 yn gyllideb refeniw net o £147.420m, a chynnydd is yn y Dreth Gyngor o 2.75% sef yr isaf yng Ngogledd Cymru ac ymhlith yr isaf yng Nghymru.

 

Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 yn rhinwedd ei swydd fel Swyddog Adran 151 fod y cynnig ar gyfer y gyllideb yn gyfreithlon; mae'r gyllideb yn cynnwys  nifer o ragdybiaethau ac amcangyfrifon o ran lefelau tebygol incwm a gwariant yn y dyfodol, sy'n golygu bod nifer o risgiau ariannol cynhenid yn y gyllideb arfaethedig. Amlygir y rhain yn adran 6 yr adroddiad ac maent yn cynnwys y risg y gallai chwyddiant fod yn sylweddol uwch na'r hyn y darperir ar ei gyfer  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 10.

11.

Strategaeth Gyfalaf a Rhaglen Gyfalaf 2021/22 i 2023/24 pdf eicon PDF 1 MB

I gyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 yn ymgorffori'r Strategaeth Gyfalaf a'r Rhaglen Gyfalaf ar gyfer 2021/22 i 2023/24 i'w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith.

 

Adroddodd y Cynghorydd Robin Williams, Aelod Portffolio Cyllid fod Côd Darbodus diwygiedig CIPFA, Medi 2017 yn cyflwyno’r gofyn bod yn rhaid i bob awdurdod gynhyrchu strategaeth gyfalaf sy’n nodi’r cyd-destun tymor hir y mae gwariant cyfalaf a phenderfyniadau buddsoddi yn cael eu gwneud ynddo. Nod y gofyn hwn ydi sicrhau bod awdurdodau yn gwneud penderfyniadau cyfalaf a buddsoddi yn unol ag amcanion gwasanaethau a'u bod yn cymryd i ystyriaeth  stiwardiaeth, gwerth am arian, cynaliadwyedd a fforddiadwyedd. Dangosir y rhaglen gyfalaf ddrafft ar gyfer 2021/22 a ffynonellau cyllid yn adran 7.1 o'r strategaeth ac fe'i cyflwynir i i'r Cyngor Llawn, ynghyd â'r strategaeth, i'w cymeradwyo ar 9 Mawrth, 2021. 

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 nad yw'r Strategaeth Gyfalaf wedi newid ers y llynedd ac mae'n nodi'r blaenoriaethau allweddol ar sut y dylid gwario arian cyfalaf i helpu i gyflawni Cynllun y Cyngor am y cyfnod 2017-22. Mae'n effeithio ar, ac yn cael ei heffeithio gan y Cynllun Ariannol Tymor Canol, y Strategaeth Rheoli Trysorlys, y Gyllideb Refeniw Flynyddol a'r Rhaglen Gyfalaf Flynyddol.

 

Hysbyswyd y Pwyllgor Gwaith fod lefel y cyllid cyfalaf a ddarperir gan Lywodraeth Cymru drwy’r Grant Cyfalaf Cyffredinol a benthyca â chymorth wedi aros yn gyson dros nifer o flynyddoedd a rhagwelir y bydd Llywodraeth Cymru yn cadw’r cyllid hwn ar yr un lefel neu lai yn y dyfodol. Y strategaeth felly yw canolbwyntio'r cyllid hwn ar ymestyn hyd oes asedau' heneiddiol y Cyngor a chadw i fyny ag uwchraddiadau technolegol. Fodd bynnag, mae'r Cyngor yn wynebu her gynyddol i barhau i gynnal ei asedau gyda'r cyllid cyfalaf y mae'n ei dderbyn ac mae'n dod yn fwyfwy anodd gwneud y buddsoddiadau angenrheidiol yn ei asedau i sicrhau eu bod yn parhau i fod yn ddefnyddiol. Er enghraifft, mae cynnal adeiladau ysgol y Cyngor hyd yn oed i'w safon gyfredol yn dod yn her ac mae hyn, yn ei dro, yn codi materion o ran dirywiad asedau yn y dyfodol a chostau gwaith cynnal a chadw sydd yn cronni. Dyfernir grantiau cyfalaf i'r Cyngor ar gyfer prosiectau penodol ond fel rheol mae amodau ynghlwm wrth y rhain ac oherwydd eu bod wedi ei neilltuo i brosiectau penodol yn unig, maent wedyn yn cyfyngu ar y dewis sydd gan y Cyngor o ran ei Strategaeth Gyfalaf. 

 

Wrth gymeradwyo'r Strategaeth Gyfalaf cydnabu'r Pwyllgor Gwaith y cyfyngiadau cyllido ar y Cyngor o ran gwariant cyfalaf. 

 

Penderfynwyd cadarnhau ac argymell bod y Cyngor llawn yn cymeradwyo’r Strategaeth Gyfalaf ar gyfer 2021/22 – 2023/24 fel y mae wedi’i dangos yn Atodiadau 1 a 2 o’r adroddiad.

12.

Cyllideb Gyfalaf Arfaethedig Terfynol ar gyfer 2021/22 pdf eicon PDF 704 KB

I gyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 yn ymgorffori'r gyllideb gyfalaf arfaethedig derfynol ar gyfer 2021/22 i'w ystyried a'i gymeradwyo gan y Pwyllgor Gwaith.

 

Adroddodd y Cynghorydd Robin Williams, Aelod Portffolio Cyllid, fod diffyg cyllidol wedi ei nodi pan ddatblygwyd y gyllideb gyfalaf ar gyfer 2021/22 ac y cynigir bod y diffyg yn cael ei bontio trwy ddefnyddio'r Balansau Cyffredinol oherwydd y tanwariant a ragwelwyd ar Gyllideb Refeniw 2020/21. Yn yr un modd â'r cynigion drafft ar gyfer Cyllideb Refeniw 2021/22, bu'r Rhaglen Gyfalaf ddrafft ar gyfer 2021/22 yn destun ymgynghoriad cyhoeddus a cheir crynodeb o sylwedd yr ymatebion a dderbyniwyd yn adran 2 yr adroddiad. Wrth gynnig y rhaglen gyfalaf ar gyfer 2021/22, dywedodd yr Aelod Portffolio ei fod yn ymwybodol o'r heriau i'r dyfodol o ran gwariant ac adnoddau cyfalaf.

 

Rhoddodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 wybod i'r Pwyllgor Gwaith am y newidiadau ers i'r Rhaglen Gyfalaf ddrafft gael ei chyflwyno ym mis Ionawr 2021 fel yr adlewyrchir yn adran 3 yr adroddiad, a'r prif newid oedd cyllido Chromebooks ar gyfer ysgolion trwy grant allanol yn hytrach na thrwy gronfeydd wrth gefn cyffredinol sydd wedi ei gynnwys yn fersiwn ddiweddaredig y Rhaglen Gyfalaf a gynigir ar gyfer 2021/22  ac a welir yn Nhabl 2. Yn ogystal, mae'r tanwariant a ragwelir o £22m ar Raglen Gyfalaf gyfredol 2020/21 yn seiliedig ar y sefyllfa alldro a ragwelwyd ar ddiwedd Chwarter 3. Adroddir ar y sefyllfa alldro wirioneddol ar ddiwedd Chwarter 4 i'r Pwyllgor Gwaith mewn adroddiad ar wahân ar alldro cyfalaf a bydd unrhyw lithriadau y gofynnir iddynt gael eu dwyn ymlaen i 2021/22 yn amodol ar gymeradwyaeth y Pwyllgor Gwaith bryd hynny. Efallai y ceir grantiau cyfalaf hefyd ar ôl cwblhau'r broses gosod cyllideb sy'n golygu y gellir ychwanegu cynlluniau at y rhaglen ac felly gall cyfanswm y gyllideb newid.

 

Adroddodd y Cynghorydd Aled Morris Jones, Cadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol ar drafodaethau o gyfarfod y Pwyllgor ar 16 Chwefror a chadarnhaodd fod y Pwyllgor, ar ôl trafodaeth ac ystyried y broses ymgynghori gyhoeddus, wedi cefnogi'r cynigion ar gyfer cyllideb gyfalaf 2021/22.

 

Adroddodd y Cynghorydd Dafydd Roberts, Cadeirydd y Panel Sgriwtini Cyllid fod y Panel wedi nodi bod ymatebion y cyhoedd i'r ymgynghoriad yn nodi bod llai o gefnogaeth i fuddsoddi os yw'n  arwain at Dreth Gyngor uwch. O ran y rhagolygon tymor hwy, roedd y Panel yn poeni am gyflwr adeiladau'r Cyngor yn enwedig ei ysgolion a'r rhagolygon o ran buddsoddi ynddynt.

 

Penderfynwyd argymell i’r Cyngor Llawn y rhaglen gyfalaf ganlynol ar gyfer 2021/22 –                                                                                                                                                                                        £

 

Cynlluniau a ddygwyd ymlaen o 2020/21  4.000m

Adnewyddu/Amnewid Asedau                    4.137m

Prosiectau Cyfalaf Untro (Prosiectau

Blaenoriaeth)                                                 0.780m

Prosiectau Cyfalaf Untro (Yn amodol

bod cyllid ar Gael)                                       0.325m

 

Ysgolion 21ain Ganrif                                   6.600m

Cyfrif Refeniw Tai                                          20.313m

 

Cyfanswm y Rhaglen
gyfalaf a argymhellir                                      36.155m

 

Cyllidwyd gan:

 

Grant Cyfalaf Cyffredinol                              2.163m

Benthyca â chymorth - cyffredinol              2.158m  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 12.