Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Cyfarfod Hybrid - yn Ystafell Bwyllgor 1, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni ac yn Rhithiol drwy ZOOM
Cyswllt: Ann Holmes
Rhif. | Eitem |
---|---|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw ddatganiadau o ddiddordeb.
|
|
Materion brys ardystiwyd gan y Prif Weithredwr neu ei Swyddog Apwyntiedig Dim materion brys ar adeg anfon y rhaglen hon.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dim materion i'w hadrodd.
|
|
Cyflwyno i’w cadarnhau, gofnodion drafft cyfarfod y Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar 30 Mai 2023. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar 25 Ebrill, 2023 i'w cymeradwyo gan y Pwyllgor Gwaith.
Penderfynwyd cadarnhau fod cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar 30 Mai, 2023 yn gywir yn amodol ar addasu’r cyfeiriad dan eitem 1 yn y fersiwn Gymraeg er mwyn nodi mai dim ond gwraig y Cynghorydd Robin Williams sy’n cael ei chyflogi gan Bwyd Da Môn, ac nid y Cynghorydd ei hun.
|
|
Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith PDF 276 KB Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Democratiaeth. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Democratiaeth sy'n cynnwys Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith ar gyfer y cyfnod rhwng mis Gorffennaf, 2023 a Chwefror 2024 i’w hystyried.
Diweddarodd y Pennaeth Democratiaeth y Pwyllgor Gwaith ynghylch newidiadau i'r Blaen Raglen Waith a nodwyd y canlynol –
Eitemau nad ydynt ar y Blaen Raglen Waith a gyhoeddwyd i'w hychwanegu at gyfarfod y Pwyllgor Gwaith ar 18 Gorffennaf, 2023 –
Penderfynwyd cadarnhau Blaen Rhaglen Waith diwygiedig y Pwyllgor Gwaith ar gyfer y cyfnod Gorffennaf 2023 – Chwefror 2024 gyda’r newidiadau a amlinellwyd yn y cyfarfod.
|
|
Cerdyn Sgorio Corfforaethol - Chwarter 4, 2022/23 PDF 829 KB Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Porffesiwn – AD a Thrawsnewid. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Proffesiwn (AD) a Thrawsnewid sy'n cynnwys y Cerdyn Sgorio Corfforaethol ar gyfer Chwarter 4 2022/23 i'w ystyried gan y Pwyllgor. Mae'r adroddiad cerdyn sgorio yn portreadu sefyllfa diwedd blwyddyn y Cyngor yn erbyn materion yn ymwneud â gwasanaeth cwsmeriaid, pobl a rheolaeth ariannol a rheoli perfformiad. Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cynghorydd Carwyn Jones, Aelod Portffolio Busnes Corfforaethol a Phrofiad Cwsmer a roddodd grynodeb o'r cynnwys gan gadarnhau bod 91% o'r dangosyddion yn perfformio’n unol â’r targed, neu o fewn 5% iddo. Yn yr adroddiad tynnwyd sylw at nifer o straeon cadarnhaol am berfformiad mewn perthynas ag atal digartrefedd, Gwasanaethau Oedolion, gwneud penderfyniadau cynllunio’n brydlon, gwelliannau i gyflwr ffyrdd, glendid strydoedd, nifer y tai gwag sy’n cael eu defnyddio eto a chodi nifer yr ymwelwyr i ganolfannau hamdden yn ôl i’r lefelau cyn y pandemig. Mae'r cyfraniad a wnaed gan staff y Cyngor i'r perfformiad cadarnhaol hwn dros y flwyddyn yn cael ei gydnabod a'i ganmol. Yn achos unrhyw faes sydd heb gyrraedd y targed o ran perfformiad, ymchwilir i’r meysydd hynny, yn benodol canran y ceisiadau Rhyddid Gwybodaeth yr ymdrinnir â nhw o fewn yr amserlen, nifer cyfartalog y diwrnodau a gymerir i gyflwyno Grant Cyfleusterau i'r Anabl a chanran yr apeliadau cynllunio a wrthodwyd a chânt eu monitro gan y Tîm Arweinyddiaeth i sicrhau gwelliannau i'r dyfodol. Wrth symud ymlaen i flwyddyn newydd y Cyngor, mae’r un mor bwysig monitro tueddiadau a chynnydd perfformiad yn erbyn dangosyddion boed yn wyrdd neu'n felyn yn enwedig o ystyried yr heriau parhaus sy'n ymwneud â chyllid a gwariant, recriwtio staff a chapasiti. Bydd cadw llygad ar dueddiadau'n helpu i gynnal y lefel bresennol o berfformiad da ac yn cyfrannu at welliant parhaus dros amser. I orffen dywedodd y Cynghorydd Carwyn Jones ei fod yn gobeithio bod yr adroddiad yn rhoi sicrwydd bod perfformiad yn bwysig i'r Cyngor, ei fod yn cael ei reoli'n gadarn a'i fod yn cael sylw dyledus yn wleidyddol ac yn weithredol. Oherwydd problemau cysylltu gan Gadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol ar y pwynt hwn, camodd y Pennaeth Democratiaeth i'r adwy i adrodd am gyfarfod y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol ar 20 Mehefin lle cafodd Cerdyn Sgorio Corfforaethol Chwarter 4 2022/23 ei ystyried a'i drafod yn fanwl. Codwyd a thrafodwyd nifer o faterion gan gynnwys y trefniadau ar gyfer codi ymwybyddiaeth o'r perfformiad cadarnhaol, gwasanaeth cwsmeriaid mewn perthynas â monitro galwadau ffôn ac ansawdd yr ymatebion, darparu grantiau ac addasiadau Cyfleusterau i’r Anabl, rheoli plant ar y Gofrestr Amddiffyn Plant - perfformiad yn benodol yn erbyn Dangosydd 23 a sut y gellir adrodd ar hyn i roi cyfrif mwy ystyrlon o berfformiad gan gytuno bod y dangosydd yn cael ei archwilio gan Banel Sgriwtini Gwasanaethau Cymdeithasol. Ystyriwyd y tanwariant a ragwelir ar gyllideb 2022/23 o ran sut y gallai helpu'r Cyngor i fynd i'r afael â phwysau gwasanaeth ychwanegol disgwyliedig yn 2023/24. Codwyd cwestiynau hefyd ynghylch sut y caiff camau i fynd i'r afael â meysydd/dangosyddion sy'n tanberfformio eu monitro i sicrhau eu bod ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 5. |
|
Dogfen Gyflawni Flynyddol 2023/24 PDF 1 MB Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Proffesiwn, AD a Thrawsnewid. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Proffesiwn (AD) a Thrawsnewid sy'n cynnwys y Ddogfen Gyflawni Flynyddol ar gyfer 2023/24 er mwyn i'r Pwyllgor Gwaith ei ystyried a'i gymeradwyo. Cyflwynwyd y Ddogfen Gyflawni Flynyddol gan y Cynghorydd Carwyn Jones, Aelod Portffolio Busnes Corfforaethol a Phrofiad Cwsmer fel amlinelliad o raglenni gwaith blynyddol y Cyngor ar gyfer 2023/24 sydd wedi'u cynllunio i gyflawni disgwyliadau Cynllun y Cyngor. Diolchodd i'r Rheolwr Rhaglen, Cynllunio Busnes a Pherfformiad am ddogfen addysgiadol, gryno oedd wedi'i chyflwyno'n glir. Mae'r Cynllun Cyflawni yn nodi'r camau allweddol sydd i'w cymryd gan y Cyngor yn 2023/24 i’w helpu i gyflawni'r amcanion strategol yng Nghynllun y Cyngor 2023-28 ac mae'n adlewyrchu dyheadau'r Cyngor ar gyfer y flwyddyn. Datblygwyd y ddogfen mewn cydweithrediad â gwasanaethau ar draws y Cyngor ac mae'r rhaglenni gwaith y mae'n eu nodi wedi'u costio'n llawn a byddant yn cael eu cyflawni o fewn yr adnoddau a bennir fel rhan o'r gyllideb a osodwyd ar gyfer 2023/24. Bydd y gwaith yn cael ei wneud ochr yn ochr â chynnal y Cyngor o ddydd i ddydd a'i rwymedigaethau statudol. Bydd pob aelod o staff rheng flaen a staff cymorth yn chwarae rhan annatod i sicrhau bod y ddogfen yn cael ei gweithredu’n llwyddiannus.
Dywedodd y Rheolwr Rhaglen, Cynllunio Busnes a Pherfformiad y bydd diweddariadau chwarterol ar gynnydd gweithgarwch yn cael eu darparu i sicrhau bod y Cyngor yn bodloni ei ddisgwyliadau ar gyfer y flwyddyn.
Rhoddodd y Cynghorydd Douglas Fowlie, Cadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol adborth o gyfarfod 20 Mehefin y Pwyllgor lle craffwyd ar Ddogfen Gyflawni 2023/24. Adroddodd fod y materion a godwyd gan y Pwyllgor yn cynnwys yr heriau a'r risgiau wrth geisio gwireddu'r blaenoriaethau a osodwyd ar gyfer 2023/24, y trefniadau a roddwyd ar waith i fonitro'r cynnydd o ran darparu'r rhaglenni gwaith fel yr amlinellwyd, i ba raddau y mae'r Cynllun yn cydymffurfio â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 a sicrhau bod staff yn cymryd rhan lawn yn y gwaith o’i chyflawni. Ar ôl trafod y materion hyn ac ar ôl ystyried yr ymateb a ddarparwyd, penderfynodd y pwyllgor argymell y Ddogfen Gyflawni Flynyddol ar gyfer 2023/24 i'r Pwyllgor Gwaith. Cydnabu aelodau'r Pwyllgor Gwaith y weledigaeth oedd yn y Ddogfen ac roeddent yn edrych ymlaen at weithredu'r camau ar gyfer y portffolios yr oeddent yn gyfrifol amdanynt. Dywedodd y Cadeirydd, er bod y chwe amcan strategol yn benodol, fod y rhaglenni gwaith o dan bob un wedi'u cydblethu e.e. mae datblygu tai newydd nid yn unig yn darparu cartrefi i bobl ond yn helpu i gefnogi'r diwydiant adeiladu ac yn dod â budd economaidd. Mae cyflwyno'r Ddogfen Gyflawni Flynyddol ar gyfer 2023/24 hefyd yn cyd-fynd â lansio Cynllun y Cyngor 2023-28 yn gyhoeddus ac yn dangos o'r cychwyn bod y Cyngor wedi ymrwymo i gyflawni ei uchelgeisiau ar gyfer y cynllun pum mlynedd. Penderfynwyd mabwysiadu’r Ddogfen Gyflawni Flynyddol ar gyfer ei chyflawni yn ystod 2023/24.
|
|
Monitro Cyllideb Refeniw - Alldro 2022/23 PDF 462 KB Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 yn nodi perfformiad ariannol gwasanaethau'r Cyngor ar ddiwedd Chwarter 4, 31 Mawrth 2023 i'w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith.
Cyflwynodd y Cynghorydd Robin Williams, Aelod Portffolio Cyllid yr adroddiad a rhoddodd rywfaint o gyd-destun gan ddweud bod y Cyngor wedi gosod cyllideb net ar gyfer 2022/23 gyda gwariant net ar sail gwasanaeth o £158.365m i'w ariannu o incwm Treth y Cyngor, NDR a grantiau cyffredinol. Roedd hyn yn cynnwys cyfanswm ar gyfer argyfyngau cyffredinol ac eraill oedd yn dod i gyfanswm o £3.110m. Cafodd y gyllideb ar gyfer y Premiwm Treth Cyngor ei chynyddu £0.436m i £1.950m. Gosodwyd cyllideb gytbwys gyda chynnydd y cytunwyd arno yn Nhreth y Cyngor o 2%. O ran y flwyddyn flaenorol, nid oedd yn ofynnol i wasanaethau wneud arbedion. Roedd y cynnydd o 9.2% mewn cyllid gan Lywodraeth Cymru yn gynnydd i'w groesawu ond roedd yn ofynnol i'r Cyngor ymrwymo i gynnydd yn y gyllideb mewn nifer o feysydd gan gynnwys gofal cymdeithasol a digartrefedd. Daeth cefnogaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer gwariant cysylltiedig â Covid i ben hefyd. Mae'r sefyllfa ariannol gyffredinol ar gyfer 2022/23 gan gynnwys Cyllid Corfforaethol a Chronfa Treth y Cyngor yn danwariant o £1.212m a ragwelir sef 0.76% o gyllideb net y Cyngor ar gyfer 2022/23.
Dywedodd y Cynghorydd Robin Williams, er bod y canlyniad ar ddiwedd y flwyddyn yn gadarnhaol ac yn gwella sefyllfa ariannol y Cyngor, mae nifer o eitemau untro sydd wedi cyfrannu at y tanwariant wedi helpu hynny. Mae'r rhain yn cynnwys grantiau anghylchol gan Lywodraeth Cymru, gwell lefelau incwm nag y cyfrifwyd ar eu cyfer, defnyddio cronfeydd wrth gefn a glustnodwyd a lefel uchel o swyddi gwag staff - byddai'r sefyllfa wedi bod yn wahanol iawn hebddynt gyda gorwariant o £2.867m yn cael ei adrodd a fyddai wedi creu bwlch sylweddol yn y gyllideb wrth wynebu 2023/24. Ni fydd y rhan fwyaf o'r manteision ariannol sydd wedi cryfhau sefyllfa ariannol y Cyngor ar ddiwedd 2022/23 yn digwydd eto i'r un graddau yn 2023/24 sy'n golygu y bydd y Cyngor yn dal i wynebu pwysau ariannol yn 2023/24 a thu hwnt. Ailadroddodd y Cynghorydd Williams, fel Aelod Portffolio Cyllid ei fod bob amser wedi cymryd agwedd ddarbodus tuag at y gyllideb gan edrych ar y sefyllfa yn y tymor hir, cynnal cronfeydd wrth gefn, a pheidio â rhuthro i wneud penderfyniadau yn wyneb galwadau i beidio â chodi Treth y Cyngor. Pwysleisiodd fod Ynys Môn yn parhau i fod yn un o'r awdurdodau sy’n codi’r tâl isaf yng Nghymru ar gyfer Treth y Cyngor ac Ynys Môn yw’r isaf yng Ngogledd Cymru. Pwrpas y cynnydd yn Nhreth y Cyngor yw cydbwyso'r gyllideb o’r naill flwyddyn i'r llall ac nid ei gynyddu heb fod angen.
Cyfeiriodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 at ansicrwydd parhaus mewn perthynas â blynyddoedd ariannol 2023/24 a 2024/25. Er bod y tanwariant yn golygu bod sefyllfa balansau'r Cyngor ar £10.2m wrth symud ymlaen, £1.4m yn uwch na'r isafswm gwerth a argymhellir sef 5% o'r gyllideb ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 7. |
|
Alldro Cyfalaf, 2022/23 PDF 282 KB Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 yn nodi perfformiad ariannol y gyllideb gyfalaf ar gyfer blwyddyn ariannol 2022/23 (yn amodol ar archwiliad) i'r Pwyllgor Gwaith.
Rhoddodd y Cynghorydd Robin Williams, Aelod Portffolio Cyllid drosolwg o'r Gyllideb Gyfalaf ar gyfer 2022/23 a gwariant fel y'i crynhoir yn y tabl ym mharagraff 1.2 o'r adroddiad. Ar ôl ystyried y llithriad o 2021/22, cynlluniau ychwanegol ers gosod y gyllideb ac addasiadau i'r Gyllideb Cyfrif Refeniw Tai, cyfanswm y gyllideb gyfalaf ar gyfer 2023/24 oedd £54.564m. Cyfanswm y gwariant ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth, 2023 oedd £40.690m gan adael tanwariant o £13.874m. Mae'r rhan fwyaf o'r tanwariant yn ymwneud â phrosiectau mawr (Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu, seilwaith a phrosiectau cynllun llifogydd yn ogystal â gwariant CRT) y gall nifer o ffactorau ddylanwadu arnynt. Ym mhob achos, mae'r cyllid ar gyfer y prosiectau wedi'i sicrhau a bydd yn cael ei ddwyn ymlaen i 2023/24 heb golli adnoddau i'r Cyngor.
Cyfeiriodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 at bwysigrwydd cyllid grant yn rhaglen gyfalaf y Cyngor gyda 40% o'r gyllideb a 56% o'r gwariant gwirioneddol yn cael ei ariannu drwy grantiau cyfalaf. O'r £11.110m o gynlluniau ychwanegol a ychwanegwyd at y rhaglen gyfalaf ers gosod y gyllideb wreiddiol, mae £9.9m yn cael ei ariannu drwy gyllid grant, (mae Atodiad C yn cyfeirio atynt). Er bod y Cyngor yn derbyn rhai grantiau fel rhan o ddyraniad Cymru gyfan, dim ond ar ôl proses gystadleuol y mae llawer yn eu dyfarnu, gyda staff y Cyngor yn gorfod gwneud cais am grantiau. Er bod y pwysau ar wariant refeniw y Cyngor wedi'i danlinellu, mae'r gyllideb gyfalaf hefyd yn dod yn fwyfwy tynn gyda'r cyllid cyfalaf y mae'r Cyngor yn ei dderbyn gan Lywodraeth Cymru ar ffurf y Grant Cyfalaf Cyffredinol a benthyca â chymorth wedi aros yr un fath i raddau helaeth yn ystod y blynyddoedd diwethaf a bellach prin yn talu costau cynnal asedau presennol. Felly, mae prosiectau buddsoddi newydd yn dibynnu fwyfwy ar gyllid grant i'w cyflawni.
Er bod Aelodau'r Pwyllgor Gwaith yn cydnabod pwysigrwydd cyllid grant ar gyfer cyflwyno rhaglen gyfalaf y Cyngor, a oedd i’w groesawu, tynnwyd sylw at yr anawsterau sy’n codi pan na chadarnheir dyfarniadau grant mewn pryd i gynllunio ar eu cyfer a'u cynnwys yn y rhaglen gyfalaf flynyddol ar ddechrau'r flwyddyn gyda rhai grantiau yn cael eu dyfarnu'n hwyr yn y flwyddyn ariannol ar gyfer cynlluniau nad ydynt efallai'n flaenoriaeth leol i'r Cyngor.
Dywedodd y Prif Weithredwr fod gan y Cyngor hanes da o ddenu cyllid grant a chyflwyno cynlluniau o fewn y gyllideb a'r amserlen. Fodd bynnag, mae’r gwaith o amcangyfrif costau cyfalaf wedi dod yn fwyfwy heriol ac felly’n creu mwy o risg i'r Cyngor ac er ei bod yn bwysig bod y Cyngor yn parhau i gystadlu am gyllid grant, mae angen iddo wneud hynny heb ddod yn rhy agored i risgiau ychwanegol. Y broblem gyda grantiau sy'n cael eu cyhoeddi yn ystod neu'n hwyr yn y flwyddyn yw ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 8. |
|
Alldro y Cyfrif Refeniw Tai 2022/23 PDF 999 KB Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 yn nodi perfformiad ariannol y Cyfrif Refeniw Tai am y flwyddyn rhwng mis Ebrill, 2022 a mis Mawrth, 2023 i'w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith.
Cyflwynodd y Cynghorydd Robin Williams, Aelod Portffolio Cyllid yr adroddiad gan roi trosolwg o sefyllfa diwedd blwyddyn y CRT. Mae'r adroddiad yn dangos y gyllideb refeniw gyda gwarged a gynlluniwyd o £6,218k. Y gyllideb gyfalaf ar gyfer 2022/23 oedd £15,024k ac roedd disgwyl iddi gael ei hariannu'n rhannol drwy grantiau (£2,688k) i ddechrau. Roedd cyfuniad o’r gyllideb refeniw a’r gyllideb gyfalaf wedi’i haddasu’n rhoi diffyg a gynlluniwyd o £6,128k, a fyddai’n cael ei gyllido o gronfa wrth gefn y CRT. Mae’r CRT wedi’i glustnodi i’w ddefnyddio ar gyfer dibenion penodol ac ni ellir trosglwyddo ei gronfeydd wrth gefn i’r Gronfa Gyffredinol ac ni ellir defnyddio’r Gronfa Gyffredinol i gyllido’r CRT. Roedd diffyg o £225k ar alldro (gan gyfuno refeniw a chyfalaf), ac mae hyn yn cymharu â diffyg o £2,187k a ragwelwyd yn Chwarter 3. Mae’r rhesymau am y newid wedi’u nodi yn adran 4 o’r adroddiad.
Eglurodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 fod adnoddau CRT yn deillio o incwm rhentu, cyllid grant a chronfeydd wrth gefn CRT. Balans agoriadol y CRT oedd £12,333k. Roedd y gyllideb ddiwygiedig yn caniatáu defnyddio £6,128k o'r balans hwn. Fodd bynnag, mae'r sefyllfa alldro yn dangos mai dim ond £225k fydd ei angen o gronfa wrth gefn y CRT yn 2022/23 gan adael balans wrth gefn o £12,108k sydd ar gael i ariannu gwariant CRT yn y dyfodol yn unig. Bydd y balans yn cael ei ddefnyddio yn ystod 2023/24 i ariannu gwariant cyfalaf gan gynnwys parhau i ddatblygu eiddo newydd. Bydd y balans CRT yn cael ei leihau i oddeutu £1 miliwn, sef y lefel isaf a nodir yng Nghynllun Busnes CRT. Unwaith y cyrhaeddir y lefel isaf, bydd buddsoddiad pellach yn cael ei ariannu o'r gwarged refeniw a gynhyrchir a thrwy fenthyca allanol gydag incwm y Cyfrif Refeniw yn talu'r gost ohono. Mae Atodiad C yn darparu rhestr o ddatblygiadau newydd ar y gweill yn 2022/2023 yn ogystal â chynlluniau nad oedd gwariant wedi'i gynllunio ar eu cyfer yn 2022/23 a fydd yn cael eu gweithredu yn 2023/24 sy'n cynnwys dros 100 o unedau newydd.
Pwysleisiodd Aelodau'r Pwyllgor Gwaith fod y datblygiadau tai newydd a restrir yn Atodiad C yn rhan o gyflawni gweledigaeth Cynllun y Cyngor y dylai "pawb gael rhywle i'w alw'n gartref" ac yn cyd-fynd â'r buddsoddiad parhaus pwysig yn stoc tai presennol y Cyngor.
Penderfynwyd nodi'r sefyllfa a amlinellwyd mewn perthynas â pherfformiad ariannol y Cyfrif Refeniw Tai (CRT) 2022/23.
|
|
Asesiad Digonolrwydd Gofal Plant PDF 2 MB Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion:
Cyflwynodd y Cynghorydd Gary Prichard, Aelod Portffolio Plant, Ieuenctid a Thai yr Asesiad Digonolrwydd Gofal Plant fel gofyniad statudol sy'n nodi'r amcanion allweddol a fydd yn helpu i gefnogi twf a chadw darparwyr gofal plant ar yr Ynys a thrwy hynny sicrhau sector gofal plant cynaliadwy sy'n cynnig cyfleoedd datblygu sylfaenol i blant tra cefnogir rhieni/gofalwyr i weithio. Mae Canllawiau Asesu Digonolrwydd Gofal Plant statudol 2016 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol yng Nghymru gyflwyno'r ddogfen asesu a'r Cynllun Gweithredu i Lywodraeth Cymru. Mae'r Cynllun Digonolrwydd Gofal Plant wedi'i gynnwys yng Nghyfansoddiad y Cyngor fel mater a neilltuir i'w gymeradwyo gan y Cyngor Llawn o dan y Fframwaith Polisi.
Dywedodd Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol fod y ddogfen Asesu wedi'i pharatoi ar y cyd â phartneriaid y Gwasanaeth sy'n ymwneud â darpariaeth gofal plant ar Ynys Môn. Mae'r asesiad yn gwerthuso darpariaeth gofal plant ar yr Ynys ac mae'r gwaith yn parhau gyda Dechrau'n Deg a phartneriaid eraill yn y sector i fynd i'r afael â bylchau a datblygu a sicrhau darpariaeth ddigonol.
Croesawodd Aelodau'r Pwyllgor Gwaith yr adroddiad fel gwerthusiad cynhwysfawr o'r sefyllfa a diolchodd i Reolwr y Blynyddoedd Cynnar am y wybodaeth. Gofynnwyd cwestiynau am y ddarpariaeth yng Nghaergybi a oedd yn ymddangos yn isel ar gyfer ardal boblog, sut mae'r asesiad yn cefnogi cyfleoedd ar gyfer defnyddio’r Gymraeg ac a oedd unrhyw bryderon ynghylch rhwystrau i ddarpariaeth gofal plant yn enwedig ynghylch costau o ystyried mai dyma'r rheswm a nodwyd amlaf pam nad yw rhieni/gofalwyr yn cael mynediad at gymorth gyda gofal plant.
Roedd Rheolwr y Blynyddoedd Cynnar yn cydnabod yr angen am fwy o ddarpariaeth gofal plant yng Nghaergybi yn enwedig darpariaeth ar ôl ysgol a dywedodd fod darpariaeth gofal drwy'r dydd wedi'i chynllunio ar y safle yn Ysgol Llanfawr a gobeithio y bydd ar gael erbyn mis Medi. O ran yr iaith Gymraeg, mae'r gwasanaeth yn arwain gyda rhaglen Taith i Iaith sy'n cynnwys cefnogi darparwyr i gyrraedd safon arian a/neu aur yn y Gymraeg. Bydd hyn hefyd yn berthnasol i'r ddarpariaeth yn Ysgol Llanfawr a fydd, fel ysgol sy’n derbyn grant iaith Gymraeg, yn cynnig darpariaeth Gymraeg. Mae'r ddarpariaeth Gymraeg a safon darpariaeth y blynyddoedd cynnar wedi gwella yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Mae costau gofal plant yn bryder ledled Cymru ac yn fater sydd wedi cael ei godi gyda Llywodraeth Cymru. Mae ffactorau sy'n ymwneud â chymwysterau, cynnydd a chyflog hefyd yn broblemau yn y sector.
Dywedodd y Prif Weithredwr fod teithio, tueddiadau gwaith, dewis personol, y ffaith nad oes teulu’n byw’n agos, oll yn dylanwadu ar sut a ble mae rhieni a gofalwyr yn cael mynediad at ofal plant ac yn ffactorau sy'n anodd ymateb iddynt a chynllunio ar eu cyfer. Er y gall yr Awdurdod gynllunio'r ddarpariaeth, mae mapio'r tueddiadau hyn yn fwy heriol, ond mae’n bwysig gan fod llawer o benderfyniadau o'r fath ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 10. |
|
Cau Allan y Wasg a'r Cyhoedd PDF 118 KB Ystyried mabwysiadau’r canlynol –
“Dan Adran 100 (A)(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, mae modd cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol, oherwydd y posibilrwydd y caiff gwybodaeth ei rhyddhau a honno’n wybodaeth y gwna Atodlen 12A y Ddeddf a’r Prawf Budd y Cyhoedd eithriad ohoni.”
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: O dan Adran 100 (A) (4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, penderfynwyd gwahardd y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol ar y sail y gall olygu datgelu gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir yn Atodlen 12A o’r Ddeddf honno ac yn y Prawf Budd y Cyhoedd |
|
Datblygiad Tai Cyngor Newydd - Stad Parc y Coed, Llangefni (Gwedd 4) Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Tai. Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad Pennaeth Gwasanaethau Tai oedd yn gofyn am gymeradwyaeth y Pwyllgor Gwaith i'r Gwasanaeth Tai symud ymlaen i brynu 10 tŷ newydd yn Stad Parc y Coed, Llangefni i'w ystyried. Byddai'r eiddo ar gael i drigolion lleol eu rhentu yn seiliedig ar delerau rhentu canolraddol y Gwasanaeth Tai fel cartrefi fforddiadwy mewn ymateb i'r her dai leol.
Rhoddodd Pennaeth Gwasanaeth Tai wybodaeth gefndirol am Ystâd Parc y Coed sy'n ddatblygiad tai preifat sy'n cynnwys dros 100 o gartrefi newydd y mae traean ohonynt eisoes wedi'u hadeiladu a'u prynu. O dan delerau'r caniatâd cynllunio ar gyfer y datblygiad, roedd amod Adran 106 yn ei gwneud yn ofynnol i ganran o'r datblygiad gynnwys tai fforddiadwy. Mae'r Cyngor eisoes wedi prynu 12 o dai fforddiadwy ar yr ystâd gyda chyfnod 4 y datblygiad i ddechrau'n fuan a fydd yn cynnwys 10 o dai fforddiadwy ychwanegol sydd wedi'u cynnig i'r Cyngor. Yn amodol ar gymeradwyaeth y Pwyllgor Gwaith, bydd angen i'r Cyngor ymrwymo i gytundeb gyda'r datblygwr i adeiladu'r 10 eiddo, y bwriad yw sicrhau eu bod ar gael i'w rhentu ar sail rhent canolradd (intermediate rent) fel tai fforddiadwy, gan fod y rhan fwyaf o dai rhent cymdeithasol yn Llangefni yn cael eu hadeiladu ar hyn o bryd gan gymdeithasau tai sy'n cynnig mathau eraill o denantiaethau i drigolion lleol. Dyma fyddai'r ffordd orau i ymateb i anghenion tai lleol. Ystyrir bod y cynllun yn hyfyw ar ôl cael ei asesu yn erbyn y model ariannol a fabwysiadwyd gan y Cyngor ar gyfer asesu hyfywedd ariannol datblygiadau tai newydd. Mae hefyd yn cydymffurfio â chanllawiau'r Cyngor ar gyfer datblygu tai newydd.
Wrth ystyried y cynnig gwnaed cais gan aelodau'r Pwyllgor Gwaith fod pob adroddiad o'r fath yn cynnwys gwybodaeth am y gymysgedd o dai fel bod yn glir pa fath o unedau sy'n cael eu prynu yn ogystal â chadarnhad y bydd y tai yn cael eu hadeiladu i safonau effeithlonrwydd carbon isel y Cyngor.
Penderfynwyd rhoi caniatâd i’r Gwasanaethau Tai fynd ymlaen i brynu 10 cartref newydd yn Stad Parc y Coed, Llangefni ar yr amodau a nodwyd o fewn yr adroddiad fydd ar gael ar gyfer trigolion lleol i’w rhentu, yn seiliedig ar delerau rhentu canolradd y Gwasanaethau Tai, fel cartrefi fforddiadwy mewn ymateb i’r her dai leol.
|