Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Ystafell Bwyllgor, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni ac yn rhithiol drwy ZOOM
Cyswllt: Ann Holmes
Rhif. | Eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Fel y nodwyd.
|
|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni dderbyniwyd yr un datganiad o fuddiant.
|
|
Materion brys ardystiwyd gan y Prif Weithredwr neu ei Swyddog Apwyntiedig Dim materion brys ar adeg anfon y rhaglen hon. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dim i’w hadrodd.
|
|
Cyflwyno i’w cadarnhau, gofnodion drafft cyfarfod y Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar 24 Medi 2024. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafodd cofnodion y cyfarfod blaenorol o’r Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar 24 Medi 2024 eu cyflwyno i’w cadarnhau.
PENDERFYNWYD cadarnhau cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar 24 Medi, 2024 fel cofnod cywir.
|
|
Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith PDF 238 KB Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Democratiaeth. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Democratiaeth, a oedd yn cynnwys Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith ar gyfer y cyfnod Tachwedd 2024 i Fehefin 2025, i’w gadarnhau.
Rhoddodd y Pennaeth Democratiaeth ddiweddariad i’r Pwyllgor Gwaith ar yr eitemau newydd ar y Blaen Raglen Waith.
Dywedodd y Cadeirydd bod angen diwygio’r eitem ar yr Asesiad o’r Farchnad Dai Leol o dan y rhestr o eitemau sydd wedi’u rhaglennu ar gyfer mis Tachwedd 2024 gan mai’r Cynghorydd Robin Williams yw’r Aelod Portffolio erbyn hyn.
PENDERFYNWYD cadarnhau Blaen Raglen Waith ddiwygiedig y Pwyllgor Gwaith ar gyfer y cyfnod Tachwedd 2024 i Fehefin 2025 gyda’r newidiadau ychwanegol a nodwyd yn y cyfarfod.
|
|
Adolygiad Rheoli’r Trysorlys Blynyddol ar gyfer 2023/24 PDF 177 KB Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151, a oedd y cynnwys yr Adolygiad Rheoli Trysorlys Blynyddol ar gyfer 2023/2024, i’w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith.
Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cynghorydd Robin Williams, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Portffolio Cyllid a Thai. Yn unol â rheoliadau a gyhoeddwyd o dan Ddeddf Llywodraeth Leol 2003 mae’n ofynnol i’r Cyngor lunio adolygiad rheoli’r trysorlys blynyddol o’i weithgareddau a’r dangosyddion darbodus a thrysorlys gwirioneddol ar gyfer 2023/24. Mae’r adroddiad hwn yn bodloni gofynion Cod Ymarfer CIPFA ar Reoli Trysorlys (y Cod) a Chod Darbodus CIPFA ar gyfer Cyllid Cyfalaf mewn Awdurdodau Lleol (y Cod Darbodus). Yn unol â’r Cynllun Dirprwyo, mae’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio wedi craffu ar yr adroddiad yn i gyfarfod ar 19 Medi 2024. Bydd yr adroddiad yn cael ei gyflwyno i’r Cyngor llawn unwaith y bydd wedi cael ei dderbyn gan y Pwyllgor hwn. Mae’r adroddiad yn darparu manylion am y sefyllfa alldro ar gyfer gweithgareddau trysorlys a buddsoddiadau a benthyciadau.
Adroddodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 bod yr archwiliad o gyfrifon ar gyfer 2023/2024 yn parhau, ond nad oes disgwyl i unrhyw faterion effeithio ar yr Adolygiad Rheoli Trysorlys Blynyddol. Nododd mai’r strategaeth ariannol ers nifer o flynyddoedd yw cyfyngu benthyciadau a defnyddio balansau arian parod y Cyngor i ariannu gwariant cyfalaf. Mae hyn yn golygu ei fod yn osgoi costau benthyca ychwanegol pa fo cyfraddau llog yn uchel. Caiff unrhyw arian dros ben ei fuddsoddi yn y sector bancio neu ei fenthyca i awdurdodau lleol eraill (sy’n arfer cyffredin rhwng awdurdodau lleol). Mae balansau arian parod y Cyngor wedi gostwng yn ystod y flwyddyn gan fod y Cyngor ac ysgolion wedi defnyddio cronfeydd wrth gefn i gydbwyso cyllidebau refeniw a defnyddio balansau arian parod i ariannu gwariant cyfalaf yn hytrach na chymryd benthyciadau allanol. Rhagwelir y bydd angen benthyca cyn diwedd y flwyddyn ariannol a hyderwn y bydd cyfraddau llog wedi gostwng erbyn hynny gan leihau costau benthyca.
PENDERFYNWYD: -
|
|
Cynllun Strategol Rheoli Risg Llifogydd Lleol PDF 3 MB Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo, a oedd yn cynnwys y Cynllun Strategol Risg Llifogydd drafft, i’w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith.
Dywedodd yr Aelod Portffolio Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo bod y Cynllun Risg Llifogydd yn darparu crynodeb o’r Strategaeth Leol ar gyfer Rheoli Perygl Llifogydd. Nododd bod y ddwy ddogfen yn nodi cynlluniau’r Cyngor ar gyfer rheoli perygl llifogydd yn Ynys Môn am gyfnod o chwe blynedd ac y byddant yn cael eu hadolygu’n flynyddol. Mae datblygiad y Cynllun Strategol Rheoli Llifogydd wedi’i ariannu drwy gyllidebau refeniw presennol a dyraniad rheoli perygl llifogydd blynyddol gan Lywodraeth Cymru. Mae enghreifftiau da o waith a gwblhawyd i liniaru llifogydd yn ardal Biwmares, y Fali, Dwyran a Phentraeth.
Adroddodd y Pennaeth Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo bod gan yr Awdurdod ddyletswydd statudol i ddelio â llifogydd a pherygl llifogydd. Bydd newid hinsawdd yn achosi mwy o law a stormydd. Mae gwaith yn cael ei gwblhau â sefydliadau partner a chymunedau lleol i godi ymwybyddiaeth o berygl llifogydd, fodd bynnag bydd gallu’r Cyngor i gyflawni amcanion y Cynllun yn ddibynnol ar adnoddau ariannol ynghyd â chyllid grant gan Lywodraeth Cymru. Aeth ymlaen i ddweud bod y gwaith ymgysylltu pellach a chodi ymwybyddiaeth o berygl llifogydd yn hollbwysig, ond y bydd cyflawni’r amcanion hynny’n ddibynnol ar adnoddau staffio.
Dywedodd y Cadeirydd bod erydu arfordirol hefyd yn ffactor, a nododd ei bod hi’n hanfodol gweithio mewn partneriaeth i liniaru llifogydd. Cyfeiriodd ar y gwaith sy’n cael ei gyflawni gan y Wardeiniaid Llifogydd mewn cymunedau lleol, a bod y gwaith hwnnw’n ddibynnol ar gyllid grant gan Lywodraeth Cymru. Fe wnaeth y Cadeirydd ddiolch i’r staff am eu gwaith.
Cyfeiriodd y Dirprwy Arweinydd at y llifogydd yn ei ward ef ym Mhorthaethwy a Llanfairpwll yn 2017. Fodd bynnag ni ddaethpwyd o hyd i ddatrysiad i liniaru’r risg o lifogydd pellach. Dywedodd y Pennaeth Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo bod dau ddigwyddiad yn 2017, un yn ardal Penlon, Porthaethwy a’r llall yn Llanfairpwll. Dywedodd bod adroddiad Rhan 19 yn cael ei gynhyrchu wedi i eiddo ddioddef llifogydd sy’n canolbwyntio ar yr effaith ar drigolion. Wedyn, cynhelir trafodaethau â Llywodraeth Cymru i sicrhau cyllid grant i baratoi achos busnes, sy’n broses hirfaith. Dywedodd y bydd yn heriol lliniaru llifogydd yn yr ardal hon gan fod sawl eiddo ar strydoedd cul ynghyd â busnesau, sy’n ei gwneud hi’n anodd symud y problemau draenio i’r cwrs dŵr. Mae gwaith sylweddol wedi cael ei gwblhau yn yr ardal ac mae gwaith yn dal i fynd rhagddo. Ond, mae heriau yn gysylltiedig â’r cynlluniau lliniaru i sicrhau na fydd llifogydd pellach. Mae problemau hefyd yn gysylltiedig â gosod pibellau mawr drwy erddi pobl a ger waliau terfyn gan fod hyn yn peri pryder i drigolion yr ardal. Mae blaenoriaethu a rhaglennu’r cynlluniau yn heriol yn sgil costau uchel y gwaith sydd angen ei gwblhau. Mae Llywodraeth Cymru’n ysgwyddo 85% o’r holl gostau ond mae’n ofynnol i’r Cyngor ariannu’r 15% sy’n weddill, sy’n swm sylweddol o arian.
Dywedodd y Cynghorydd Dafydd Roberts ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 7. |
|
Cau Allan y Wasg a'r Cyhoedd PDF 144 KB Ystyried mabwysiadau’r canlynol –
“Dan Adran 100 (A)(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, mae modd cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol, oherwydd y posibilrwydd y caiff gwybodaeth ei rhyddhau a honno’n wybodaeth y gwna Atodlen 12A y Ddeddf a’r Prawf Budd y Cyhoedd eithriad ohoni.” Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: |
|
Diweddariad ar Gynnydd Rhaglen 'Cysylltu Gofal' - Caffael a Chyllid Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol. Cofnodion: Cyflwynwyd Adroddiad y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol, a oedd yn cynnwys Diweddariad ar Gynnydd y Rhaglen Cysylltu Gofal – Caffael a Chyllid, i’w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith.
Adroddodd y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion bod y Rhaglen Cysylltu Gofal wedi esblygu o’r angen i gynnig darpariaeth yn lle System Wybodaeth Gofal Cymunedol Cymru (WCCIS), yn dilyn adolygiad strategol ddaeth i’r casgliad nad oedd yr WCCIS bellach yn addas i’r diben. Mae’r Rhaglen Cysylltu Gofal yn cydnabod yr angen i gefnogi sefydliadau i ymgorffori a chynnal systemau gwybodaeth cleientiaid er mwyn cefnogi gofynion gweithredol a strategol yn ogystal â chynnal ymrwymiad i gyflawni targed gofal cenedlaethol ar gyfer dinasyddion Cymru. Ar hyn o bryd, mae 19 partner (16 Awdurdod Lleol a 3 Bwrdd Iechyd) yn gweithio gyda’r Rhaglen Cysylltu Gofal. Mae’r Cyngor hwn wedi bod yn gweithio ag Awdurdodau yng Ngogledd Cymru i gaffael system newydd er mwyn gwneud arbedion sylweddol a chael cefnogaeth a chyllid gan Lywodraeth Cymru ar gyfer system genedlaethol newydd. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu cymorth ariannol er mwyn darparu system newydd ond nid yw wedi nodi faint o gyllid fydd ar gael, a sut fydd yn cael ei ddyrannu. Roedd cost bresennol contract WCCIS Ynys Môn wedi’i amlinellu yn yr adroddiad. Mae angen cadarnhad ynghylch y cyllid cenedlaethol er mwyn cefnogi’r gwaith o weithredu’r system a chostau parhaus. Mae disgwyl i Lywodraeth Cymru ddarparu cyllid cenedlaethol ar gyfer y system Cysylltu Gofal, fodd bynnag nid yw hyn wedi’i gadarnhau ac mae oedi wedi bob wrth benderfynu a fyddant yn ariannu’r cynllun yn llawn neu’n rhannol. Gan na fydd hynny’n cael ei gadarnhau cyn gwerthuso a dyfarnu’r tendr, ac o gofio nad oes gan Ynys Môn ddewis ond disodli ei system WCCIS, roedd yr adroddiad yn amlygu bod angen sicrhau cyllideb fel y gall swyddogion fwrw ‘mlaen â’r cynllun.
Dywedodd yr Aelod Portffolio Gwasanaethau Oedolion bod yr oedi o ran ymateb y Llywodraeth i’r Rhaglen Cysylltu Gofal hwn yn rhwystredig iawn.
PENDERFYNWYD:-
· Swm untro o rhwng £276,000 a £313,000 ar gyfer y gost gweithredu contract; · Swm refeniw bob blwyddyn o rhwng £108,000 a £153,000 (ar gyfer trwyddedau a chostau lletya): · Swm untro o £58,000 er mwyn ariannu swydd Graddfa 5 i gefnogi gweithrediad, hyfforddiant a chefnogaeth i’r system bresennol o Ebrill 2025 am gyfnod o flwyddyn. · Yn amodol ar gymeradwyaeth Cadeirydd y Cyngor, o ganlyniad i’r amserlen dynn a ddisgrifir yn yr Adroddiad, mae’r Pwyllgor Gwaith yn eithrio’r penderfyniad rhag gallu cael ei alw i mewn gan Sgriwtini gan y byddai’r amserlen angenrheidiol ar gyfer y broses alw i mewn yn niweidiol i fudd gorau’r Cyngor a’r cyhoedd.
|
|
Cau Allan y Wasg a'r Cyhoedd PDF 101 KB Ystyried mabwysiadau’r canlynol –
“Dan Adran 100 (A)(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, mae modd cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol, oherwydd y posibilrwydd y caiff gwybodaeth ei rhyddhau a honno’n wybodaeth y gwna Atodlen 12A y Ddeddf a’r Prawf Budd y Cyhoedd eithriad ohoni.” Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dan Adran 100 (A)(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, ystyriwyd a phenderfynwyd cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol, oherwydd y posibilrwydd y caiff gwybodaeth ei rhyddhau a honno’n wybodaeth y gwna Atodlen 12A y Ddeddf a’r Prawf Budd y Cyhoedd eithriad ohoni.
|
|
Porthladd Rhydd Ynys Môn - Cynnydd Paratoadau'r Achos Busnes Llawn
Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd. Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd, a oedd yn nodi hynt y gwaith o baratoi’r Achos Busnes Llawn ar gyfer Porthladd Rhydd Ynys Môn, i’w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith.
Dywedodd yr Arweinydd a’r Aelod Portffolio Datblygu Economaidd bod yr Achos Busnes Llawn yn cael ei ddatblygu yn unol â’r canllawiau terfynol ar gyfer Porthladdoedd Rhydd. Mae’r Cyngor a’i ymgynghorwyr yn gweithio ar y cyd â Stena a’u hymgynghorwyr i gyflwyno’r Achos Busnes Llawn erbyn diwedd mis Hydref.
Dywedodd y Prif Swyddog Datblygu Economaidd ei fod yn rhagweld y bydd oedi o hyd at 2 i 3 wythnos yn yr amserlen ar gyfer cwblhau’r Achos Busnes Llawn. .
PENDERFYNWYD dirprwyo awdurdod i’r Prif Weithredwr, mewn ymgynghoriad â’r Arweinydd a’r Aelod Portffolio Datblygu Economaidd, Cyfarwyddwyr Busnes y Cyngor/Swyddog Monitro ac Adnoddau/Adran 151, i gymeradwyo a chyflwyno’r Achos Busnes Llawn drafft i’r Llywodraeth i’w gymeradwyo gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU.
|