Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Ystafell Bwyllgor, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni ac yn rhithiol drwy Zoom
Cyswllt: Ann Holmes
| Rhif. | Eitem |
|---|---|
|
Ymddiheuriadau Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni dderbyniwyd unrhyw ymddiheuriadau
|
|
|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o ddiddordeb.
|
|
|
Materion brys ardystiwyd gan y Prif Weithredwr neu ei Swyddog Apwyntiedig Dim materion brys ar adeg anfon y rhaglen hon. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dim i’w hadrodd.
|
|
|
Cyflwyno i’w cadarnhau, gofnodion drafft cyfarfod y Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar 21 Ionawr 2025. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar 21 Ionawr, 2025, am gadarnhad.
Penderfynwyd cadarnhau cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar 21 Ionawr, 2025.
|
|
|
Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Democratiaeth. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Democrataidd, oedd yn ymgorffori Blaen Rhaglen Waith y Pwyllgor Gwaith ar gyfer y cyfnod rhwng Mawrth a Hydref 2025, am gadarnhad.
Darparodd y Pennaeth Democrataidd ddiweddariad i’r Pwyllgor Gwaith ar eitemau oedd wedi’u hychwanegu i’r Blaen Rhaglen Waith.
Penderfynwyd cadarnhau Blaen Raglen Waith ddiwygiedig y Pwyllgor Gwaith ar gyfer y cyfnod Mawrth - Hydref 2025 gyda’r newidiadau ychwanegol a nodwyd yn y cyfarfod.
|
|
|
Monitro Cyllideb Refeniw - Chwarter 3, 2024/25 Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151, oedd yn amlinellu perfformiad ariannol cyllideb refeniw’r Cyngor ar ddiwedd Chwarter 3, blwyddyn ariannol 2024/2025, i’w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith.
Dywedodd bod y Gwasanaethau Oedolion wedi bod yn tanwario a bod y ddarpariaeth wedi gwella yn y tymor byr er gwaethaf wynebu heriau o orwariant yn y blynyddoedd diwethaf. Dywedodd fod gwaith yn mynd rhagddo i gasglu dyledion Treth Gyngor.
Dywedodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 fod cyllideb refeniw’r Cyngor ar gyfer 20254/2025 yn gadarnhaol. Dywedodd fod cyllideb y Gwasanaethau Oedolion dal yn anweddol gan fod y gwasanaeth wedi clirio ôl-groniad o asesiadau ariannol oedd wedi creu incwm ychwanegol yn y trydydd chwarter, oedd wedi cyfrannu at wella’r sefyllfa ariannol ar gyfer y gwasanaeth. Dywedodd fod pryderon yn bodoli mewn perthynas â’r Gwasanaethau Plant yn gorwario dros £2 filiwn, gan fod mwy o blant yn dod i ofal a chostau cynyddol cysylltiedig â lleoli plant y tu allan i’r sir. Dywedodd fod adnoddau ychwanegol wedi’u hadlewyrchu yng nghyllideb 2025/2026 ar gyfer y Gwasanaethau Plant. Cyfeiriodd at Dabl 5 o fewn yr adroddiad a’i fod yn amlygu’r newid mewn galw am wasanaethau o fewn y Cyngor; nododd, oherwydd swyddi gwag o fewn yr Awdurdod, mae wedi bod yn anodd recriwtio ac mae hyn wedi creu arbedion untro yn ystod 2024/25. Aeth ymlaen i ddweud fod y ffioedd incwm wedi cynyddu o fewn y Gwasanaethau Priffyrdd a Hamdden. Yn ogystal, mae sawl eiddo wedi trosglwyddo’n ôl i brif premiwm y Dreth Gyngor yn dilyn newidiadau a wnaed gan Lywodraeth Cymru ym mis Ebrill 2023, i feini prawf llety gwyliau sy’n gymwys ar gyfer cyfraddau busnesu; gan nad yw’r eiddo hyn yn brif annedd y perchnogion, mae’n eiddo yn destun ffi 200% o’r dreth gyngor, wedi’i ôl-ddyddio i fis Ebrill 2023. Disgwylir y bydd apeliadau’n cael eu cyflwyno, a bydd rhai eiddo yn trosglwyddo’n ôl i gyfraddau busnes, ar ôl gosod yr eiddo am y 182 diwrnod gofynnol. Mae oddeutu hanner yn incwm ychwanegol sydd wedi’i greu wedi’i roi mewn cronfa wrth gefn sydd wedi’i chlustnodi, ac a fydd yn cael ei defnyddio i ariannu unrhyw ad-daliadau yn ystod 2025/26.
Dywedodd yr Aelod Portffolio ar gyfer Plant, Pobl Ifanc a Theuluoedd fod y gorwariant o fewn y Gwasanaethau Plant yn bryderus gan fod mwy o blant yn dod i ofal a’r costau cynyddol o roi plant mewn lleoliadau y tu allan i’r sir. Cyfeiriodd at lwyddiant darpariaeth Cartrefi Clyd ar yr Ynys, a’r angen i gynyddu’r ddarpariaeth wrth brynu mwy o eiddo er mwyn gallu lleoli plant ar Ynys Môn. Cytunodd Arweinydd y Cyngor fod darpariaeth Cartrefi Clyd wedi bod yn llwyddiant o ran galluogi plant i fyw yn eu cymunedau Cymreig sydd hefyd yn arwain at arbed adnoddau mewn perthynas â lleoliadau y tu allan i’r sir.
Gofynnodd yr Aelod Portffolio Corfforaethol a Phrofiad Cwsmer a fydd yr amrywiad o 10% o fewn Datblygu Economaidd a Thechnoleg Gwybodaeth yn cario drosodd i Chwarter 4. Ymatebodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 fod ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 6. |
|
|
Monitro Cyllideb Gyfalaf - Chwarter 3, 2024/25 Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 i sylw’r Pwyllgor Gwaith yn nodi perfformiad ariannol y Gyllideb Gyfalaf ar ddiwedd Chwarter 3, blwyddyn ariannol 2024/2025.
Dywedodd y Cynghorydd Robin Williams, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Portffolio ar gyfer Cyllid a Gwasanaethau Tai fod cyllideb gyfalaf flynyddol ar gyfer 2024/2025 wedi'i gosod ar £75.173m. Y gwariant gwirioneddol hyd at chwarter 3 yw £38,603m, gyda gwariant ymrwymedig o £2.613m sef cyfanswm o £41.216m sydd wedi'i ariannu gan grantiau cyfalaf. Rhagwelir y bydd tanwariant o fewn y gyllideb gyfalaf. Nododd y bydd unrhyw brosiectau sydd wedi llithro o eleni ymlaen yn cael eu trosglwyddo i'r flwyddyn ariannol nesaf.
Dywedodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 fod cyllid grant yn hanfodol i ariannu prosiectau cyfalaf o fewn y Cyngor gyda chyfanswm o £46m allan o'r gyllideb gyfalaf flynyddol o £75m. Nododd y rhagwelir tanwariant o £8.171m, yn benodol ar brosiectau Ffyniant Bro Llywodraeth y DU yng Nghaergybi o £3.4m fydd yn cael ei drosglwyddo i’r flwyddyn ariannol nesaf. Mae’r Cyfrif Refeniw Tai hefyd yn tanwario £1.7m a £0.5m o fewn prosiectau’r ysgol oherwydd cyllid grant a dderbyniwyd gan Lywodraeth Cymru. Rhagwelir hefyd y bydd cynlluniau Lliniaru Llifogydd yn tanwario yn erbyn y gyllideb, er y byddant yn llithro i'r flwyddyn ariannol nesaf. Mae prosiectau ynni Carbon Isel hefyd yn tanwario oherwydd eu bod yn aros am ymateb gan Lywodraeth Cymru i lithro'r prosiectau i'r flwyddyn ariannol nesaf. Dywedodd fod prosiect Hwb Cymunedol Glanhwfa hefyd yn tanwario ar hyn o bryd.
PENDERFYNWYD:-
· Nodi cynnydd y gwariant a derbyniadau yn erbyn cyllideb gyfalaf 2024/2025 yn chwarter 3; · Cymeradwyo’r cynlluniau ychwanegol o fewn chwarter 3, sydd â chyfanswm o £2.696m, i’r rhaglen gyfalaf ac addasiadau i gyllid, fel y nodir yn Atodiad C, fydd yn arwain at gyllideb gyfalaf ddiwygiedig o £75.173m ar gyfer 2024/2025; · Cymeradwyo’r gwaith o gario tanwariant posibl ymlaen, fel y nodir yn Adran 4.2 yr adroddiad.
|
|
|
Monitro Cyllideb y Cyfrif Refeniw Tai - Chwarter 3, 2024/25 Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 i sylw’r Pwyllgor Gwaith, yn nodi perfformiad ariannol Cyllideb y Cyfrif Refeniw Tai (CRT) ar gyfer Chwarter 3 2024/2025.
Cyflwynodd y Cynghorydd Robin Williams, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Portffolio Cyllid a Gwasanaethau Tai yr adroddiad sy’n nodi perfformiad ariannol y Cyfrif Refeniw Tai (CRT) ar gyfer y cyfnod rhwng 1 Ebrill, 2024 i 31 Mawrth, 2025 yn cynnwys y gwariant refeniw a chyfalaf. Tynnodd sylw at y ffaith bod y CRT wedi’i ‘neilltuo’, ac na ellir defnyddio ei gronfeydd wrth gefn at ddibenion heblaw ariannu costau sy’n ymwneud â stoc tai’r Cyngor gan gynnwys datblygu tai newydd. Gosodwyd y gyllideb refeniw gyda gwarged yn y gyllideb o £8,369k. Y gyllideb gyfalaf gros ar gyfer 2024/2025 yw £29,573k. Mae cyllideb cyllid grant o £10,578k a £509k o falansau wrth gefn a glustnodwyd yn gostwng y gyllideb net i £18,485k. Roedd y cyfuniad o'r gyllideb refeniw a'r gyllideb gyfalaf wedi'i haddasu yn rhoi diffyg yn y gyllideb wedi'i chynllunio o £10,116k, gyda £7,011k ohono i'w ariannu o gronfa wrth gefn y CRT, gyda'r balans o £3,104k i'w ariannu gan fenthyca allanol.
Dywedodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 fod y gwariant refeniw yn dangos gorwariant o £38k gan fod yr incwm rhent yn is na'r hyn a nodir yn y gyllideb gan y rhagwelwyd y byddai datblygiadau newydd ar gael yn gynt o fewn y flwyddyn ariannol. Mae elfen cynnal a chadw'r CRT hefyd yn dibynnu ar y galw am y gwasanaeth. Nododd y bu tanwariant o £2.9m o ran cadw'r stoc tai presennol i safonau SATC. Mae datblygu tai newydd a phrynu tai cymdeithasol blaenorol wedi gweld gorwariant o £1.1m, gan fod rhai prosiectau wedi cychwyn yn gynt na'r disgwyl.
PENDERFYNWYD:-
· Nodi’r sefyllfa a amlinellir mewn perthynas â pherfformiad ariannol y Cyfrif Refeniw Tai ar gyfer chwarter 3, 2024/2025; · Nodi’r alldro a ragwelir ar gyfer 2024/2025.
|
|
|
Adolygiad Canol Blwyddyn ar Reoli’r Trysorlys 2024/25 Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 i sylw’r Pwyllgor Gwaith, yn cynnwys adolygiad canol blwyddyn o’r sefyllfa rheoli trysorlys ar 30 Medi 2024.
Cyflwynodd y Cynghorydd Robin Williams, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Portffolio Cyllid a Gwasanaethau Tai yr adroddiad a chyfeiriodd at y gofynion adrodd ar gyfer rheoli trysorlys dan Ddeddf Llywodraeth Leol 2003 a Chod Darbodus CIPFA 2021 sy’n cynnwys paratoi adolygiad canol blwyddyn o weithgareddau rheoli’r trysorlys. Cadarnhaodd fod y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio wedi craffu ar yr adroddiad yn ei gyfarfod ar 11 Chwefror, 2025 a'i fod wedi'i anfon ymlaen i'r Pwyllgor Gwaith heb unrhyw sylwadau pellach.
Dywedodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 na fu unrhyw newid yn null benthyca a buddsoddi’r Cyngor yn y cyfnod adrodd. Defnyddiwyd balansau arian parod i ariannu gwariant cyfalaf er mwyn osgoi benthyca allanol ar gyfraddau llog uwch. Rhagwelir y bydd cyfraddau llog yn gostwng yn ystod y flwyddyn a bydd yn rhaid benthyca yn ystod y flwyddyn ariannol nesaf dros gyfnod benthyca tymor byr. Nododd fod balansau’r Cynghorau i’w buddsoddi yn llai na £30m o gymharu â £53m yn Ebrill 2022 sy’n golygu bod llog y buddsoddiad dipyn yn is sydd wedyn yn dylanwadu ar y gyllideb refeniw. Mae sefyllfa Rheoli Trysorlys y Cyngor wedi aros yn sefydlog, ac mae’r holl ddangosyddion darbodus wedi aros o fewn y ffiniau a’r targedau a osodwyd yn y Datganiad Strategaeth Rheoli’r Trysorlys. Nododd ymhellach fod yr Ymgynghorwyr Rheoli'r Trysorlys wedi newid yn ddiweddar i MUFG, sef Link Asset Services gynt.
PENDERFYNWYD nodi adroddiad Adolygiad Canol Blwyddyn ar Reoli’r Drysorlys ar gyfer 2024/2025, ac i’w gyflwyno i’r Cyngor Llawn heb unrhyw sylwadau pellach.
|
|
|
Ffioedd a Thaliadau 2025/26 Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151, oedd yn ymgorffori atodlen o ffioedd a thaliadau arfaethedig ar gyfer 2025/26, i’w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith.
Dywedodd y Cynghorydd Robin Williams, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Portffolio Cyllid a Gwasanaethau Tai, fod y Pwyllgor Gwaith wedi gosod amcan bod yr holl ffioedd a thaliadau anstatudol yn cynyddu 3% ar draws pob gwasanaeth unigol. Mae hyn wedi galluogi Penaethiaid Gwasanaeth i gynyddu ffioedd unigol yn fwy neu lai na 3%, sydd wedi arwain at 3% o gynnydd cyffredinol ar draws gwasanaethau. Mae’r holl ffioedd statudol wedi cynyddu yn ôl y swm a osodwyd gan y corff cymeradwyo, lle cyhoeddwyd y cynnydd. Os nad yw’r ffi ddiwygiedig yn hysbys, cymerir bod y ffi wedi’i gadarnhau a bydd yn cael ei ddiweddaru unwaith fydd y newyddion wedi’i dderbyn. Mae cynnydd mewn ffioedd Gwasanaethau Cymdeithasol yn cael eu hadrodd ar wahân i’r Pwyllgor Gwaith.
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r atodlen Ffioedd a Thaliadau ar gyfer 2025/2026 fel yr amlinellir yn y llyfryn sydd wedi’i atodi i’r adroddiad.
|
|
|
Ffioedd Cartrefi Gofal y Sector Annibynnol ar gyfer 2025/26 Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaeth Oedoilion. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad Pennaeth y Gwasanaethau Oedolion oedd yn ceisio cymeradwyaeth y Pwyllgor Gwaith i osod y gyfradd ar gyfer ffioedd cartrefi gofal y sector preifat ar gyfer 2025/2026, yn unol â gofynion Deddf Gofal Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.
Cyflwynodd y Cynghorydd Alun Roberts, Aelod Portffolio Gwasanaethau Oedolion, Diogelu’r Gymuned a Chydraddoldeb, yr adroddiad oedd yn gosod y lefelau ffi arfaethedig ar gyfer Gofal Preswyl, Preswyl Henoed Bregus eu Meddwl, Nyrsio a Nyrsio Henoed Bregus eu Meddwl ar gyfer blwyddyn ariannol 2025/26. Gofynnir i’r Awdurdod Lleol adolygu ffioedd cartrefi gofal y sector annibynnol yn flynyddol er mwyn cyd-fynd â newidiadau’r Llywodraeth Ganolog i lefelau budd-daliadau a phensiynau. Mae’r cynnig i gynyddu ffioedd o 7%.
Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Oedolion, wrth osod lefelau’r ffi ar gyfer cartrefi gofal annibynnol, fod rhaid i’r Cyngor ddangos ei fod wedi ystyried cost y ddarpariaeth yn llawn wrth bennu ei ffioedd gofal sylfaenol. Mae’r cynnydd yn sgil pwysau ariannol mae’r darparwyr yn eu hwynebu oherwydd cynnydd mewn cyfraniadau yswiriant gwladol a chynnydd yn y cyflog byw gwirioneddol. Wrth adolygu lefel ffioedd, dylid ystyried amgylchiadau lleol, galw ac argaeledd darpariaeth, yn ogystal â’r fformiwla ranbarthol. Gellir trafod ffioedd unigol gyda darparwyr pan fydd amgylchiadau eithriadol yn codi.
Gofynnodd aelodau’r Pwyllgor Gwaith a yw’r Llywodraeth yn ystyried y cyfrifiad a’R newid mewn poblogaeth henoed ym mhob awdurdod lleol. Gofynnwyd cwestiynau pellach ynghylch y trothwy lle gall pobl fforddio talu am eu gofal, ac a yw Gofal Nyrsio Henoed Bregus eu Meddwl wedi cynyddu. Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Oedolion fod lefel y ffioedd yn cael ei gosod yn ôl y cyfraniad ariannol mae’r Awdurdod yn ei dderbyn. Dywedodd, pan fydd incwm unigolyn yn disgyn dan y trothwy £50k, bydd yr Awdurdod yn cyfrannu at y gofal. Dywedodd fod Gofal Nyrsio Henoed Bregus eu Meddwl yn parhau i gynyddu, a bod y ddarpariaeth yn gyfyngedig ar draws y sector. Mae’r Awdurdod wedi parhau i addasu’r ddarpariaeth gyda Chartrefi Gofal yr Awdurdod drwy gynnig lleoedd ychwanegol ond gan mai dim ond gofal preswyl mae’r Awdurdod yn ei ddarparu, bydd rhaid i’r sector annibynnol fodloni gofynion Gofal Nyrsio Henoed Bregus eu Meddwl.
PENDERFYNWYD:-
Gofal Preswyl (Oedolion) - £832.56 yr wythnos Preswyl (Henoed Bregus eu Meddwl) - £930.37 yr wythnos Gofal Nyrsio (Elfen Gofal Cymdeithasol) - £906.70 yr wythnos Gofal Nyrsio (Henoed Bregus eu Meddwl) (Elfen Gofal Cymdeithasol) - £1,071.41 yr wythnos
· Rhoi awdurdod i’r Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Gwasanaeth Cyllid ymateb i unrhyw geisiadau gan gartrefi unigol i edrych ar eu cyfrifon penodol a defnyddio’r ymarferiad fel sylfaen er mwyn ystyried unrhyw eithriadau i’r ffioedd y cytunwyd arnynt. Bydd rhaid cael cytundeb yr Aelod Portffolio Gwasanaethau Oedolion, y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 a Phennaeth y Gwasanaethau Oedolion ar gyfer unrhyw eithriadau o fewn cyllidebau cyfredol.
|
|
|
Strategaeth Gyfalaf 2025 – 2030 Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion:
Dywedodd y Cynghorydd Robin Williams, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Portffolio Cyllid a Gwasanaethau Tai, fod Cod Materion Ariannol CIPFA (Medi 2017) yn cyflwyno’r gofyniad fod rhaid i bob awdurdod baratoi strategaeth gyfalaf. Rhaid i’r strategaeth osod y cyd-destun hirdymor lle gwneir penderfyniadau ar gyfer gwariant a buddsoddi cyfalaf. Bwriad y gofyniad yw sicrhau bod awdurdodau’n gwneud penderfyniadau ar gyfalaf a buddsoddi yn unol ag amcanion y gwasanaeth, a’u bod yn ystyried stiwardiaeth, gwerth am arian, doethineb, cynaliadwyedd a fforddiadwyedd. Mae’r strategaeth gyfalaf yn gysylltiedig â sawl cynllun a strategaeth arall. Nododd fod y strategaeth yn dibynnu ar gyllid grant, adnoddau gan Lywodraeth Cymru a’r gyllideb refeniw sydd ar gael i’w gwario ar brosiectau cyfalaf.
Dywedodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/ Swyddog Adran 151 fod y strategaeth yn grynodeb o fuddsoddiadau cyfalaf. Dywedodd fod y Strategaeth Gyfalaf yn ddogfen allweddol sy’n galluogi’r Cyngor i gyflawni ei brif amcanion a sicrhau nad yw hyfywedd hirdymor y Cyngor mewn perygl. Cyfeiriodd at y crynodeb ar wariant cyfalaf 2025-2030 fel y nodwyd ar dudalen 26 yr adroddiad. Nodwyd goblygiadau refeniw y gwariant cyfalaf ar dudalen 29 yr adroddiad, a nodwyd bod yr isafswm darpariaeth refeniw (MRP) yn cael ei gyfrifo yn seiliedig ar Bolisi MRP presennol y Cyngor. Dywedodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 fod symud o’r senario ‘Achos Sylfaenol’ i’r senario ‘Delfrydol’ ar brosiectau’n dibynnu ar sefyllfa refeniw'r Cyngor.
Dywedodd y Prif Weithredwr ei fod yn hollbwysig fod asedau’r Cyngor yn ddiogel fel bo’r cyhoedd yn gallu eu defnyddio. Mae asedau’r Awdurdod yn heneiddio, a bydd angen defnyddio’r adeiladau hyn at sawl diben gwahanol, yn ogystal â’r angen i weithio mewn partneriaeth â sefydliadau trydydd parti. Dywedodd fod denu grantiau’n hollbwysig er mwyn datblygu asedau, yn enwedig mewn trefi, er mwyn annog mwy o bobl i ddefnyddio’r mannau hyn.
Dywedodd Arweinydd y Cyngor fod strategaeth gyfalaf yn galluogi’r Cyngor i wneud penderfyniadau aeddfed o ran buddsoddi mewn prosiectau ac adeiladau ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol mewn cymunedau lleol.
PENDERFYNWYD cymeradwyo ac argymell Strategaeth Gyfalaf 2025 – 2030 i’r Cyngor Llawn.
|
|
|
Adolygu Polisi Iaith Gymraeg Cyngor Sir Ynys Môn Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro, oedd yn cynnwys adolygiad ar Bolisi Iaith Gymraeg y Cyngor, i’w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith.
Dywedodd y Cynghorydd Dafydd Roberts, Aelod Portffolio Addysg a’r Iaith Gymraeg, fod polisi iaith Gymraeg cyfredol y Cyngor wedi’i fabwysiadu yn 2016, pan ddaeth safonau iaith Gymraeg statudol i rym, ac ers hynny, mae dealltwriaeth ynghylch y safonau wedi aeddfedu ac mae arferion yr Awdurdod mewn perthynas â’r iaith wedi datblygu’n sylweddol. Mae’r polisi iaith Gymraeg yn effeithio ar y rheiny sy’n delio gyda'r Cyngor, ac mae’r polisi drafft wedi’i baratoi er mwyn bodloni gofynion statudol safonau’r iaith Gymraeg. Dywedodd fod y polisi drafft yn cyfrannu at amcanion Cynllun y Cyngor, a strategaeth hyrwyddo’r iaith Gymraeg.
Amlinellodd y Cynghorydd Gwilym O Jones, Is-gadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio, y materion a godwyd pan gyflwynwyd yr adolygiad ar bolisi iaith Gymraeg y Cyngor i’r Pwyllgor yn ei gyfarfod ar 12 Chwefror, 2025. Ar ôl ystyried yr adolygiad ar y Polisi Iaith Gymraeg ac ymatebion y Swyddog a’r Aelod Portffolio i’r pwyntiau a godwyd yn y cyfarfod, penderfynodd y Pwyllgor argymell y polisi i’w gymeradwyo gan y Pwyllgor Gwaith ac i’w fabwysiadu gan y Cyngor Llawn, gan nodi bod llythyr yn cael ei anfon at Lywodraeth Cymru yn gofyn ac yn pwysleisio ar yr angen am ddeddfwriaeth newydd i warchod enwau lleoedd hanesyddol Cymreig a gofyn i Arweinydd y Cyngor godi’r mater gyda’r CLlLC.
Roedd aelodau’r Pwyllgor Gwaith yn croesawu’r adolygiad drafft ar y polisi iaith Gymraeg, sy’n dangos ymrwymiad yr Awdurdod tuag at yr iaith.
PENDERFYNWYD:-
· Anfon llythyr at Lywodraeth Cymru yn gofyn ac yn pwysleisio ar yr angen am ddeddfwriaeth newydd i warchod enwau lleoedd hanesyddol Cymreig. · Fod Arweinydd y Cyngor yn codi’r mater gyda’r CLlLC.
|
|
|
Terfynu Cytundeb Partneriaeth GWE Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc, oedd yn cynnwys terfynu Cytundeb Partneriaeth GwE, i’w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith.
Dywedodd y Cynghorydd Dafydd Roberts, Aelod Portffolio Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc, bod disgwyliad gan Lywodraeth Cymru i symud o ffordd ranbarthol, ehangach o weithio i fodel lleol yn dilyn adolygiad ar gyfrifoldebau partneriaid addysg yng Nghymru. Sefydlwyd y Bwrdd Trawsnewid i oruchwylio’r trefniadau ar gyfer trosglwyddo gwasanaethau GwE yn ôl i awdurdod lleol gogledd Cymru. Er mwyn ffurfioli’r newid i gytundeb y bartneriaeth, rhaid i’r chwe awdurdod lleol gytuno i derfynu trefniadau cyfredol gwasanaethau GwE, yn ogystal â chael gwared ar Gydbwyllgor GwE, er mwyn dod a GwE i ben.
Dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc fod gwaith sylweddol wedi digwydd i ddod a’r trefniadau cyfredol gyda GwE i ben erbyn 1 Mehefin, 2025. Dywedodd fod cyfnod ymgynghori yn mynd rhagddo er mwyn newid strwythur a gweithio at fodel lleol o weithio.
Gofynnodd aelodau’r Pwyllgor Gwaith a ellir darparu sicrwydd na fydd ysgolion yn cael eu heffeithio wrth ddod â’r trefniadau cyfredol gyda GwE i ben yn ystod y cyfnod pontio.
Dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc y bydd GwE yn parhau i gefnogi ysgolion hyd at ddiwedd 31 Mai, 2025. Yn y cyfamser, bydd staff GwE yn trosglwyddo i’r awdurdodau lleol.
Dywedodd y Prif Weithredwr fod hwn yn newid sylweddol, ac nid yw’r costau ynghlwm â symud o ddull rhanbarthol i fodel gweithio lleol wedi’i gadarnhau hyd yma. Dywedodd fod ymrwymiad, yn ôl egwyddor, gan Lywodraeth Cymru i gyfrannu at y costau.
PENDERFYNWYD:-
|