Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Ystafell Bwyllgor, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni ac yn Rhithiol drwy ZOOM
Cyswllt: Ann Holmes
| Rhif. | Eitem |
|---|---|
|
Ymddiheuriadau Dogfennau ychwanegol: Cofnodion:
Cyflwynwyd a nodwyd yr ymddiheuriadau y cyfeirir atynt uchod.
|
|
|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni dderbyniwyd yr un datganiad o ddiddordeb.
|
|
|
Materion brys ardystiwyd gan y Prif Weithredwr neu ei Swyddog Apwyntiedig Dim materion brys ar adeg anfon y rhaglen hon. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dim i’w adrodd.
|
|
|
Cyflwyno i’w cadarnhau, gofnodion drafft cyfarfodydd y Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar y dyddiadau canlynol: -
· 18 Chwefror 2025 · 27 Chwefror 2025 (Cyllideb) Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd, i’w cadarnhau, cofnodion cyfarfodydd blaenorol y Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar y dyddiadau canlynol:-
Penderfynwyd cadarnhau cofnodion cyfarfodydd blaenorol y Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar y dyddiadau canlynol fel rhai cywir -
· 18 Chwefror 2025 · 27 Chwefror 2025
|
|
|
Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Democratiaeth. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd i’w gadarnhau, adroddiad y Pennaeth Democratiaeth, yn ymgorffori Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith ar gyfer y cyfnod rhwng Ebrill a Thachwedd 2025.
Cyflwynodd y Pennaeth Democratiaeth ddiweddariad i’r Pwyllgor Gwaith ynglŷn â newidiadau i’r Flaen Raglen Waith, gan gynnwys symud Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon yr Ymddiriedolaeth Addysg Bellach 2023/24 o’r cyfarfod ym mis Mawrth 2025 i’r cyfarfod ym mis Ebrill 2025, cynnwys eitem newydd ar Borthladd Rhydd Ynys Môn ar gyfer cyfarfod mis Ebrill 2025 ac ychwanegu eitemau monitro perfformiad a’r gyllideb i’r cyfarfod ym mis Tachwedd 2025.
Penderfynwyd cadarnhau Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith wedi’i diweddaru am y cyfnod Ebrill i Dachwedd 2025 gyda’r newidiadau a amlinellwyd yn y cyfarfod.
|
|
|
Monitro'r Cerdyn Sgorio - Chwarter 3, 2024/25 Cyflwyno adroddiad gan y Pennath Proffesiwn, AD a Thrawsnewid. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Proffesiwn (AD) a Thrawsnewid, yn ymgorffori’r Cerdyn Sgorio ar gyfer Chwarter 3 2024/25, i’r Pwyllgor Gwaith ei ystyried.
Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cynghorydd Carwyn Jones, Aelod Portffolio ar gyfer Busnes Corfforaethol a Phrofiad y Cwsmer, a chadarnhaodd fod y rhan fwyaf (87%) o’r dangosyddion a gafodd eu monitro yn ystod y chwarter wedi perfformio’n dda a’u bod yn Wyrdd neu’n Felyn yn erbyn eu targedau, gan ddangos fod y perfformiad cyffredinol yn gadarn. Cyfeiriodd at y chwe dangosydd sydd yn tanberfformio ac sy’n Goch neu’n Ambr yn erbyn eu targedau ar hyn o bryd. Mae rhai ohonynt yn tanberfformio o chwarter i chwarter, ac awgrymodd efallai bod angen ail-arfarnu targedau er mwyn sicrhau eu bod yn cyd-fynd â’r adnoddau a’r amgylchiadau. Nododd y Cynghorydd Jones fod y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol wedi adolygu’r adroddiad cerdyn sgorio Ch3 2024/25 yn fanwl ar 11 Mawrth 2025, gan drafod gosod targedau ac eglurder y dangosyddion perfformiad allweddol (DPA), ac awgrymwyd bod angen ailddiffinio DPA 07 Addysg - Môn Actif (nifer y plant ar gyfartaledd sy’n cael gwersi nofio drwy gydol y flwyddyn) er mwyn cyfeirio at wersi Swim Time. Awgrymodd y Cynghorydd Carwyn Jones hefyd y dylid archwilio’r dangosyddion sy’n perfformio’n dda yn gyson er mwyn deall yn well y ffactorau sy’n cyfrannu at y perfformiad cryf a nodi unrhyw arferion y gellir eu trosglwyddo i feysydd eraill o fewn y Cyngor. Diolchodd y Cynghorydd Carwyn Jones i’r Rheolwr Cynllunio, Perfformiad a Rhaglen Corfforaethol am dynnu holl elfennau’r cerdyn sgorio ynghyd bob chwarter, yn ogystal â phawb arall a gyfrannodd at y gwaith.
Cadarnhaodd y Rheolwr Cynllunio, Perfformiad a Rhaglen Corfforaethol fod y dasg o adolygu’r Cerdyn Sgorio Corfforaethol ar gyfer 2025/26 wedi dechrau’n barod.
Gan fod y Cynghorydd Douglas Fowlie, Cadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol, yn absennol am gyfnod, rhannodd y Pennaeth Democratiaeth adborth ynglŷn â thrafodaeth y pwyllgor ar adroddiad monitro’r cerdyn sgorio Ch3 yn y cyfarfod a gynhaliwyd ar 11 Mawrth 2025. Roedd y prif faterion a godwyd yn cynnwys targedau y bu i’r Cyngor fethu â’u cyflawni a gweithredoedd er mwyn gwella perfformiad yn erbyn y dangosyddion perfformiad allweddol perthnasol. Cadarnhaodd y Cynghorydd Douglas Fowlie wedyn fod y Pwyllgor, ar ôl derbyn sicrwydd gan Aelodau Portffolio a Swyddogion ynglŷn â’r materion a godwyd, wedi penderfynu nodi adroddiad monitro’r cerdyn sgorio ar gyfer Ch3 2024/25, ynghyd â’r meysydd y byddai’r Tîm Arweinyddiaeth yn eu harchwilio er mwyn eu rheoli a sicrhau gwelliannau yn y dyfodol, ac argymell yr adroddiad a’r mesurau lliniaru a amlinellwyd i’r Pwyllgor Gwaith.
Roedd aelodau’r Pwyllgor Gwaith yn cytuno bod rhaid i dargedau barhau i fod yn realistig a pherthnasol, bod angen iddynt addasu i amgylchiadau sy’n esblygu a dylid eu seilio ar ddata cyfredol sy’n adlewyrchu newid yn y galw am wasanaethau a chyfyngiadau o ran adnoddau. Awgrymwyd efallai bod angen ailasesu dau ddangosydd perfformiad yn y cyd-destun hwn, sef DPA 07 Addysg - Môn Actif (Nifer y plant ar gyfartaledd sy’n cael gwersi nofio drwy gydol y ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 6. |
|
|
Cynyddu’r Cynnig Craidd i Ofalwyr Maeth Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol ynglŷn â chynyddu’r cynnig i ofalwyr maeth er mwyn i’r Pwyllgor Gwaith ei ystyried a’i gymeradwyo.
Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cynghorydd Nicola Roberts, Aelod Portffolio Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Newid Hinsawdd, ar ran y Cynghorydd Dyfed Wyn Jones, Aelod Portffolio Plant, Pobl Ifanc a Theuluoedd, gan nad oedd yn bresennol yn y cyfarfod oherwydd bod rhaid iddo fynychu cyfarfod arall. Esboniodd bod y cynigion yn cynnwys cynyddu lwfansau maethu ar gyfer 2025/26 yn unol ag argymhellion Llywodraeth Cymru ar gyfer cynyddu’r Isafswm Lwfans Cenedlaethol (mae cynnydd ar gyfer chwyddiant o 5% wedi’i fodelu a’i gynnwys yn y gyllideb ar gyfer 2025/26 gan nad yw Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau’r Isafswm Lwfans Cenedlaethol eto), ailstrwythuro’r taliadau sgiliau maethu o 5 haen i 3 a chynyddu’r gostyngiad Treth Gyngor o 50% i 100%. Roedd yr adroddiad yn nodi tueddiadau yn y lwfansau maethu a sgiliau yn ystod y pedair blynedd ddiwethaf, yn ogystal â’r lwfansau sgiliau a chostau newydd. Mae’r gost ychwanegol yn seiliedig ar drosglwyddo saith lleoliad maeth annibynnol i’r Cyngor, ffigwr y gellir ei gyflawni ym marn y Cyngor. Nododd y Cynghorydd Nicola Roberts mai Ynys Môn yw’r ail awdurdod lleol yn unig i gynnig gostyngiad treth gyngor o 100% i ofalwyr maeth, a dyma’r awdurdod lleol cyntaf i gynnig pecyn o fuddion i ofalwyr maeth a bernir bod cymhellion fel hyn, sydd yn boblogaidd iawn, yn hanfodol er mwyn recriwtio a chadw gofalwyr maeth a dangos fod eu hymdrechion yn cael eu gwerthfawrogi.
Dywedodd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol fod y cynnig yn cyd-fynd â deddfwriaeth Llywodraeth Cymru i ddileu elw o ofal plant, gan gynnwys maethu, cyn pen dwy flynedd. Wedi hynny, ni fydd gofal ond yn cael ei ddarparu gan sefydliadau nid er elw, gan gynnwys awdurdodau lleol. Er mwyn paratoi ar gyfer y newid, mae angen i’r Cyngor gynyddu ei dîm mewnol o ofalwyr maeth ac os caiff y cynnig hwn ei gymeradwyo bydd yn helpu i ddiwallu’r angen hwn. Mae cynlluniau ar waith i hysbysebu am ofalwyr maeth newydd a gofalwyr maeth sy’n trosglwyddo o’r sector preifat, yn ogystal â sicrhau fod ceisiadau’n cael eu hasesu’n brydlon.
Roedd y Pwyllgor Gwaith yn cydnabod cyfraniad pwysig gofalwyr maeth Ynys Môn o ran cynnig gofal a chefnogaeth i blant yn ystod cyfnodau heriol yn eu bywydau, ond nododd hefyd fod y cynnig wedi’i ddylunio fel cynllun buddsoddi i arbed ac mae’n ceisio sicrhau defnydd cost-effeithlon o arian yn y tymor hir a defnydd effeithiol o adnoddau.
Penderfynwyd cymeradwyo cynyddu’r Cynnig Craidd i Ofalwyr Maeth fel yr amlinellir i gynnwys cynnydd ar gyfer chwyddiant mewn lwfansau maethu yn unol â’r cynnydd a argymhellir gan Lywodraeth Cymru i’r isafswm lwfans cenedlaethol sydd i’w gadarnhau (wedi’i fodelu ar 5%), ailstrwythuro’r taliadau sgiliau maethu i gynnwys 3 haen yn hytrach na 5 a chynyddu’r disgownt yn y Dreth Gyngor o 50% i 100%.
|
|
|
Cynllun Strategol Drafft Perygl Llifogydd Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Priffyrdd, Gwatraff ac Eiddo. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo, yn ymgorffori’r Cynllun Strategol ar gyfer Rheoli Perygl Llifogydd, i’r Pwyllgor Gwaith ei ystyried a’i gymeradwyo. Mae’r Cynllun yn nodi uchelgais y Cyngor o ran rheoli perygl Llifogydd ar Ynys Môn dros gyfnod o chwe blynedd.
Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cynghorydd Dafydd Rhys Thomas, Aelod Portffolio Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo, a thynnodd sylw at bwysigrwydd y Cynllun i Ynys Môn, a phwysigrwydd cydweithio gydag Awdurdodau Rheoli Perygl er mwyn mynd i’r afael â’r heriau y mae llifogydd yn eu creu a lleihau perygl Llifogydd. Mae gofyn statudol ar y Cyngor i baratoi cynllun lleol i reoli perygl Llifogydd ac mae manylion yr ymgynghoriad cyhoeddus a gynhaliwyd ynghlwm. Cynhaliwyd gweithdy gydag aelodau etholedig hefyd er mwyn rhoi cyfle iddynt gyfrannu at y cynllun strategol drafft. Mae’r cynllun hefyd wedi cael ei graffu’n fanwl gan y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol pan gyfarfu ar 11 Mawrth 2025.
Cadarnhaodd y Pennaeth Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo y byddai cynllun gweithredu blynyddol yn cael ei ddatblygu ar gyfer bob un o’r chwe blwyddyn ariannol fel rhan o’r Cynllun Strategol, er mwyn rhoi sylw i dasgau refeniw a chyfalaf.
Rhannodd y Cynghorydd Douglas Fowlie, Cadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol, safbwynt Sgriwtini ar y Cynllun Strategol Rheoli Llifogydd yn dilyn cyfarfod y Pwyllgor hwnnw ar 11 Mawrth 2025. Roedd yr aelodau wedi codi materion yn ymwneud ag ymateb y cyhoedd i’r ymgynghoriad, aliniad y Cynllun â Chynllun y Cyngor a chynnydd cynlluniau a gwaith yn ardaloedd Dwyran a Phorthaethwy. Ar ôl adolygu cwmpas a chynnwys y Cynllun Strategol Rheoli Llifogydd, roedd y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol wedi penderfynu argymell y Cynllun i’r Pwyllgor Gwaith er mwyn iddo gael ei gymeradwyo a’i fabwysiadu, a nododd bod angen cynnwys atodiadau’n dangos rhestr o waith cynnal a chadw a gynlluniwyd a’r cynllun cyfalaf ar gyfer 2025/26, gan gynnwys gwariant a gynlluniwyd ar gynlluniau lliniaru llifogydd yn ystod y flwyddyn ariannol nesaf.
Mynegodd y Pwyllgor Gwaith ei gefnogaeth lawn i’r Cynllun Strategol Rheoli Perygl Llifogydd Lleol ac roedd yn canmol y tîm a’r gwasanaeth am eu hymdrechion. Pwysleisiodd aelodau’r Pwyllgor Gwaith werth y cynlluniau lliniaru llifogydd a gwblhawyd yn eu hardaloedd a gymaint y mae’r cymunedau dan sylw’n eu gwerthfawrogi, oherwydd yr effaith ddinistriol y gall llifogydd ei gael ar bobl, cartrefi a busnesau. Amlygwyd hefyd bwysigrwydd gwybodaeth leol er mwyn tynnu sylw at amodau lleol ac ardaloedd bregus, ynghyd â chydweithio ag asiantaethau partner. Gofynnwyd cwestiynau am ariannu cynlluniau lliniaru llifogydd yn gyffredinol yn y dyfodol, yn ogystal ag argaeledd arian i wneud gwaith mewn ardaloedd lle mae isadeiledd ffyrdd, yn hytrach nag eiddo, mewn perygl, er enghraifft, mewn rhai ardaloedd ym Miwmares. Gofynnwyd hefyd a oes arian ar gael i gynorthwyo tirfeddianwyr preifat i gynnal cyrsiau dŵr ac a fyddai’n bosib dwyn pwysau ar Lywodraeth Cymru i wneud mwy yn y cyswllt hwn.
Esboniodd y Pennaeth Gwasanaeth Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo bod y gyllideb atal llifogydd yn blaenoriaethu cartrefi sydd mewn perygl o lifogydd, ond er hynny, gellir cyflwyno ceisiadau i Gronfa ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 8. |
|
|
Cynllun Busnes y Cyfrif Refeniw Tai 2025-2055 Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Tai. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Tai, yn ymgorffori Cynllun Busnes y CRT 2025 - 2055, i’r Pwyllgor Gwaith ei ystyried a’i gymeradwyo.
Cyflwynodd y Cynghorydd Robin Williams, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Portffolio Cyllid a Thai, Gynllun Busnes y CRT, sef cynllun y mae’n rhaid ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru er mwyn derbyn Lwfans Atgyweirio Mawr y Cyngor sydd werth tua £2.7m yn 2025/26. Paratowyd y Cynllun Busnes gan Swyddogion yn y Gwasanaethau Tai a Chyllid, a dyma’r prif offeryn ariannol ar gyfer rheoli a darparu stoc dai’r Cyngor. Mae’n dangos sut mae’r Cyngor yn sicrhau fod ei stoc yn cydymffurfio â Safon Ansawdd Tai Cymru (SATC), sut mae’n bwriadu gweithio tuag at gyflawni SATC 2023 a’r buddsoddiad sydd angen i ariannu ei raglen ar gyfer datblygu tai cymdeithasol newydd. Nododd y Cynghorydd Robin Williams bod disgwyl twf o dros 25%, i dros 5,000 o eiddo, yn stoc dai’r Cyngor yn ystod cyfnod y Cynllun, er mwyn mynd i’r afael â’r galw cynyddol am dai cymdeithasol. Ar hyn o bryd mae dros 852 o bobl ar y rhestr aros, gan gynnwys 94 o deuluoedd sy’n byw mewn llety dros dro, ffigwr na welwyd ei debyg o’r blaen.
Dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Tai fod y Cynllun Busnes yn amlinellu’r buddsoddiad sydd ei angen i gynnal stoc dai’r Cyngor er mwyn diwallu anghenion tenantiaid a chyflawni disgwyliadau Llywodraeth Cymru mewn perthynas â sicrhau gwelliant parhaus trwy ddatgarboneiddio’r stoc dai a datblygu tai cymdeithasol newydd. Yn ogystal â’r Lwfans Atgyweiriadau Mawr gwerth £2.7m ar gyfer 2025/26, bydd y Cyngor yn derbyn swm ychwanegol o £1.1m er mwyn cefnogi ei fuddsoddiad sylweddol yn y stoc dai. Mae’r Cynllun yn cynnwys rhaglen gyfalaf o thua £13m ar gyfer 2025/26, gyda £3m ar gyfer ariannu 500 o baneli solar ynghyd â batris storio trydan. Mae swm o £3.76m wedi'i gynnwys yn y gyllideb ar gyfer 2025/26 er mwyn datblygu tai cyngor newydd a phrynu hen dai cyngor. Cyfeiriodd y Pennaeth Gwasanaethau Tai at y tensiwn sy’n bodoli ar hyn o bryd rhwng nodau tai uchelgeisiol Llywodraeth Cymru a’r cap ar renti sy’n cyfyngu’r refeniw sydd ar gael i fuddsoddi mewn tai. Methodd prawf cadernid, oedd yn ystyried y risgiau ar wahân a gyda’i gilydd er mwyn sicrhau hyfywedd y cynllun busnes trwy gydol y cyfnod 30 mlynedd, oherwydd y cyfyngiadau rhent a’r galw am wariant cyfalaf sy’n deillio o SATC 2023. Mae’r Gwasanaeth Tai’n bwriadu codi pryderon gyda Llywodraeth Cymru ynglŷn â’r gofynion anghynaladwy a osodir ar y CRT.
Cyflwynodd y Cynghorydd Douglas Fowlie, Cadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol, grynodeb o drafodaeth y pwyllgor ar Gynllun Busnes y CRT yn ei gyfarfod ar 11 Mawrth 2025. Roedd y trafodaethau wedi canolbwyntio ar aliniad y cynllun â Chynllun y Cyngor, risgiau’r rhaglen ehangu arfaethedig a’i fforddiadwyedd, a pha mor debygol yw SATC 2 2023 o gael ei gyflawni. Holodd y pwyllgor hefyd am y posibilrwydd o brydlesu eiddo preifat gan/ar ran perchnogion yr eiddo a chyfeiriwyd at Gynllun Lesio Cymru. Ar ôl ystyried y dogfennau a nodi’r ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 9. |