Rhaglen, Penderfyniadau a Chofnodion.

Pwyllgor Gwaith, Ystafell Bwyllgor, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni ac yn Rhithiol drwy ZOOM, Pwyllgor Gwaith - Dydd Mawrth, 21ain Hydref, 2025 10.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni ac yn Rhithiol drwy ZOOM

Cyswllt: Ann Holmes 

Cyfryngau

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Ymddiheuriadau

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Fel y nodir uchod.

2.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn datganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd yr un datganiad o ddiddordeb.

3.

Materion brys ardystiwyd gan y Prif Weithredwr neu ei Swyddog Apwyntiedig

Dim materion brys ar aadeg anfon y rhaglen hon.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim i’w adrodd.

4.

Cofnodion pdf eicon PDF 254 KB

Cyflwyno i’w cadarnhau, gofnodion drafft cyfarfodydd y Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar y dyddiadau canlynol: -

 

  23 Medi 2025

  2 Hydref 2025 (Arbennig)

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfodydd blaenorol y Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar 23 Medi 2025, a’r cyfarfod arbennig a gynhaliwyd ar 2 Hydref 2025, am gadarnhad.

 

PENDERFYNWYD cadarnhau bod cofnodion cyfarfodydd blaenorol y Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar y dyddiadau isod yn gywir -

 

  Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 23 Medi, 2025;

  Cofnodion y cyfarfod arbennig a gynhaliwyd ar 2 Hydref, 2025.

 

5.

Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Democratiaeth, oedd yn ymgorffori Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith ar gyfer y cyfnod rhwng Tachwedd 2025 a Mehefin 2026, i’w gymeradwyo.

 

Cyflwynodd y Pennaeth Democratiaeth ddiweddariad i’r Pwyllgor Gwaith ar ychwanegiadau yn y Flaen Rhaglen Waith, fel a ganlyn:-

 

  Cyfarfod 25 Tachwedd 2025 - Cylch Gorchwyl y Pwyllgor Llywodraethu ac

   Archwilio / Cymeradwyo’r Cyfrifon Terfynol.

  Cyfarfod 25 Tachwedd 2025 - Rhaglen Cysylltu â Gwaith yr Adran Gwaith a

   Phensiynau - Cytundeb Cydweithio (symud eitem i gyfarfod mis Hydref).

  Cyfarfod 25 Tachwedd 2025 - cynigion grant Uchelgais Gogledd Cymru

  Cyfarfod Mehefin 2026 - Adroddiadau Perfformiad Chwarterol ac

   adroddiadau cyllideb Chwarter 1, 2026/2027.

 

Penderfynwyd cadarnhau Blaen Raglen Waith ddiwygiedig y Pwyllgor Gwaith ar gyfer y cyfnod Tachwedd 2025 i Fehefin 2026.

6.

Cwynion a Chwythu'r Chwiban - 04/2024 - 03/2025 pdf eicon PDF 942 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro, oedd yn ymgorffori gwybodaeth am gwynion gwasanaeth ar gyfer y cyfnod rhwng 1 Ebrill 2024 a 31 Mawrth 2025, i’w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith.

 

Cyflwynodd y Cynghorydd Carwyn Jones, y cyn Aelod Portffolio Busnes Corfforaethol a Phrofiad Cwsmer, yr adroddiad oedd yn dangos y data am gwynion a chwythu’r chwiban ar gyfer 2024/2025.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro fod yr Adroddiad Blynyddol Chwythu’r Chwiban a Chwynion yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio a’i fod yn cynnwys Llythyr Blynyddol yr Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus.  Mae gwasanaethau’r Cyngor wedi dilysu’r data yn yr adroddiad, ac wedi cytuno ar y dadansoddiad ar y cwynion.  Dywedodd bod y Swyddogion Cwynion wedi derbyn hyfforddiant yn ystod y flwyddyn, a bod y polisi wedi’i ddiweddaru i adlewyrchu cyflwyno cwynion cam 1 a 2, ac mae cysyniad cwynion wedi’i dynnu fel y nodir ym mharagraff 3.2 yr adroddiad. Mae 3.5 yr adroddiad yn cynnig manylion ar y gwasanaethau sydd wedi derbyn cwynion yn ystod cyfnod 2024/2025, fel y dangosir yn Atodiad 2.  Mae Priffyrdd ac Eiddo yn tanberfformio oherwydd cynnydd yn nifer y cwynion, o 19 yn y flwyddyn flaenorol i 49 yn 2024/2025. Gwelwyd hefyd ddiffyg adrodd yn Ch1 a Ch2 yn ystod 2024/2025. Aeth ymlaen i ddweud bod cwynion i’r Gwasanaeth Tai wedi gwella o 139 yn y flwyddyn ganlynol i 47 yn ystod 2024/2025, a nododd bod problemau cynt yn deillio o feddalwedd a gyflwynwyd.  Fodd bynnag, er bod gwelliant wedi bod yn nifer y cwynion a dderbynnir, roedd lefel y cwynion hynny a gafodd eu cadarnhau’n uchel ac mae’n amlwg fod diffyg adrodd yn ystod Ch1 a Ch2 yn y flwyddyn gyfredol. Cafodd 93% o gwynion a dderbyniodd y Gwasanaeth Hamdden eu cadarnhau, ac awgrymwyd bod angen hyfforddiant i staff wrth gofnodi cwynion hytrach na chofnodi ceisiadau am wasanaeth.   Mae lefel dda o berfformiad wedi bod yn y Gwasanaeth Cynllunio a’r Gwasanaeth Gwastraff, a ni chodwyd unrhyw bryderon mewn perthynas ag ymatebion hwyr. 

 

Ymhelaethodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro ar Lythyr Blynyddol yr Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus, a nododd fod nifer y cwynion wedi gostwng o 38 yn y flwyddyn flaenorol i 22 yn 2024/2025.  Nododd mai’r prif neges o Lythyr yr Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus yw bod 24% o’r cwynion yn y flwyddyn flaenorol yn ymwneud â phroses y Cyngor o ran delio gyda chwynion.  Gwnaeth hyn arwain at 10 ymyrraeth gan yr Ombwdsmon yn y flwyddyn flaenorol, fod bynnag yn 2024/2025 gwelwyd gostyngiad o 5% gyda dim ond un ymyrraeth.  Mae manylion ychwanegol wedi’u cynnwys yn Rhan 4 yr adroddiad.  

 

Dywedodd fod Polisi Cwynion y Cyngor yn pwysleisio ar ddysgu o gamgymeriadau a defnyddio’r wybodaeth honno i wella gwasanaethau.  Mae angen rheolaeth well o fewn y Gwasanaethau Priffyrdd ac Eiddo a’r Gwasanaeth Tai, ynghyd â hyfforddiant pellach ar  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 6.

7.

Canlyniadau'r ymgynghoriad ar y cynnig i adleoli dysgwyr Ysgol Uwchradd Caergybi i adeilad ysgol newydd ar gyfer dysgwyr 11-18 oed pdf eicon PDF 484 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc, oedd yn ymgorffori canlyniad yr ymgynghoriad statudol ar y cynnig i adleoli dysgwyr Ysgol Uwchradd Caergybi i adeilad ysgol newydd ar gyfer disgyblion 11-18 oed, i’w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith.

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio Addysg a’r Iaith Gymraeg fod yr adroddiad a gyflwynwyd yn canolbwyntio ar ganlyniad y broses ymgynghori ar y cynnig i adleoli Ysgol Uwchradd Caergybi i adeilad ysgol newydd. Mae gan y Cyngor ddyletswydd dan y Cod Trefniadaeth Ysgolion i ymgynghori â rhanddeiliaid wrth ystyried cynigion ad-drefnu ysgolion. Cynhaliwyd proses ymgynghori rhwng 5 Mehefin, 2025 a 17 Gorffennaf, 2025 i adleoli Ysgol Uwchradd Caergybi i safle newydd. Cynhaliwyd ymgynghoriad â phlant a phobl ifanc, rhieni ac Estyn ynghylch y cynnig i adleoli'r ysgol i safle newydd. 

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc fod heriau wedi bod o ran cyflwr adeilad presennol Ysgol Uwchradd Caergybi oherwydd RACC.  Cwblhawyd yr ymgynghoriad statudol er mwyn cydymffurfio â’r canllawiau.  Ystyriwyd opsiynau eraill hefyd ar gyfer Ysgol Uwchradd Caergybi, a daethpwyd i’r casgliad mai adleoli’r ysgol oedd yr opsiwn mwyaf addas.  Dywedodd, mewn perthynas â materion trafnidiaeth i ysgolion, fod y cynnig yn cydymffurfio gyda’r Strategaeth Moderneiddio Cymunedau sy’n Dysgu ac y bydd llwybrau teithio llesol yn cael eu hystyried. Roedd 70% o’r ymatebwyr yn cytuno gyda’r cynnig i adleoli Ysgol Uwchradd Caergybi i adeilad ysgol newydd ar gyfer disgyblion 11-18 oed.  Nododd fod 20% o'r sylwadau a dderbyniwyd gan randdeiliaid yn ystyried bod y safle arfaethedig i adleoli'r ysgol yn rhy bell o ganol y dref, y dylid diweddaru neu ailadeiladu'r adeilad presennol ar y safle presennol. Dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc y bydd adleoli Ysgol Uwchradd Caergybi i adeilad newydd yn sicrhau addysg i ddisgyblion yn nalgylch Caergybi, ac yn bodloni gofynion yn y dyfodol.  Mae’r costau cynnal a chadw ar gyfer yr adeilad presennol wedi cyrraedd £29m, a bydd codi ysgol newydd yn arwain at arbedion i’r Cyngor pan fydd yr adeilad yn cael ei drosglwyddo i’r awdurdod.  Nododd fod asesiad ar effaith wedi’i gwblhau mewn perthynas â chydraddoldeb a’r iaith Gymraeg.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Jeff Evans, Cadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol at y trafodaethau a gynhaliwyd ar yr eitem yng nghyfarfod y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol ar 15 Hydref 2025.  Dywedodd, ar ôl ystyried canlyniadau’r ymgynghoriad statudol mewn perthynas ag adleoli Ysgol Uwchradd Caergybi, bod y pwyllgor yn argymell i’r Pwyllgor Gwaith dderbyn yr argymhellion fel yr amlinellir yn yr adroddiad.

 

Dywedodd y Cadeirydd fod mwy na 1,000 o ymatebion wedi’u derbyn yn ystod y broses ymgynghori i adleoli Ysgol Uwchradd Caergybi. Mynegodd 21% o’r ymatebwyr hynny bryder ynghylch lleoliad y safle arfaethedig, fodd bynnag, mae Atodiad 1 yr adroddiad yn darparu atebion clir i’r pryderon hynny a’r rhesymau dros adleoli’r ysgol. 

 

Dywedodd y Cynghorydd Carwyn Jones fod ymatebion sylweddol wedi’u cyflwyno yn dilyn y  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 7.

8.

Cau Allan y Wasg a'r Cyhoedd pdf eicon PDF 184 KB

Ystyried mabwysiadau’r canlynol

 

“Dan Adran 100 (A)(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, mae modd cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol, oherwydd y posibilrwydd y caiff gwybodaeth ei rhyddhau a honno’n wybodaeth y gwna Atodlen 12A y Ddeddf a’r Prawf Budd y Cyhoedd eithriad ohoni.”

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD mabwysiadu’r canlynol:-

 

“Penderfynu o dan Adran 100 (A) (4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn oherwydd y tebygolrwydd y caiff gwybodaeth ei rhyddhau a honno’n wybodaeth y gwneir eithriad ohoni yn Atodlen 12A y Ddeddf honno ac yn y Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.”

9.

Achos Amlinellol Strategol – Adleoli dysgwyr Ysgol Uwchradd Caergybi i adeilad ysgol uwchradd newydd ar gyfer dysgwyr 11–18 oed

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc, oedd yn ymgorffori’r Achos Amlinellol Strategol i adleoli dysgwyr Ysgol Uwchradd Caergybi i adeilad ysgol newydd ar gyfer disgyblion 11-18 oed, i’w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith. 

 

Cyflwynodd yr Aelod Portffolio Addysg a'r Iaith Gymraeg yr adroddiad, a dweud fod yr Achos Amlinellol Strategol (SOC) yn cynnwys achos i adeiladu ysgol newydd ar gyfer Ysgol Uwchradd Caergybi i gymryd lle'r adeilad presennol erbyn mis Medi 2030.  Amlinellwyd manylion y cynigion ariannu i adeiladu ysgol newydd i'r Pwyllgor.  Gan y bydd y cynllun yn cael ei ddarparu drwy’r Model Buddsoddi Cydfuddiannol, bydd y cynnig yn arwain at arbediad yn y gyllideb cynnal a chadw ac atgyweirio canolog am y 25 mlynedd nesaf. 

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc y gall ysgol sydd wedi’u dylunio’n dda ynghyd â mannau agored gwyrdd wella iechyd corfforol a meddyliol pobl ifanc, oherwydd ar hyn o bryd, mae’r ysgol bresennol yn dibynnu ar gae chwarae Millbank at ddibenion hamdden.  Bydd adeilad ysgol newydd yn darparu adnoddau modern arbenigol.  Bydd gan yr ysgol newydd gapasiti llai na’r ysgol bresennol, felly byddai lleoedd ychwanegol yn Ysgol Uwchradd Caergybi yn gostwng.  Dywedodd ymhellach y byddai disgwyl i gael adnoddau cymunedol pwrpasol yn adeilad yr ysgol newydd, yn ogystal â chydleoli gwasanaethau eraill, yn ogystal â mynediad at gyfleusterau modern, ddenu mwy o ddefnydd cymunedol ac ymgysylltiad a chyfranogiad teuluoedd. 

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Jeff Evans, Cadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol at y trafodaethau a gynhaliwyd ar yr eitem yng nghyfarfod y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol ar 15 Hydref 2025.  Dywedodd, ar ôl ystyried canlyniadau’r ymgynghoriad statudol mewn perthynas ag adleoli Ysgol Uwchradd Caergybi, bod y pwyllgor yn argymell i’r Pwyllgor Gwaith dderbyn yr argymhellion fel yr amlinellir yn yr adroddiad.

 

Roedd y Pwyllgor Gwaith yn gwerthfawrogi'r ymatebion i'r broses ymgynghori yn enwedig y sylwadau a dderbyniwyd gan Gynghorau Ysgolion y dalgylch.

 

PENDERFYNWYD:-

 

  cymeradwyo’r Achos Amlinellol Strategol ar gyfer yr adeilad ysgol

   newydd ar gyfer Ysgol Uwchradd Caergybi;

  cymeradwyo cyflwyno’r Achos Amlinellol Strategol i Lywodraeth

   Cymru erbyn 8 Ionawr 2026 ar gyfer cyfarfod o’r Grwp Craffu ar

   Achosion Busnes a fydd yn cyfarfod bythefnos yn ddiweddarach;

  cymeradwyo clustnodi derbyniadau cyfalaf yn dilyn gwerthu safle

   presennol Ysgol Uwchradd Caergybi i ad-dalu rhan o fuddsoddiad y

   Cyngor tuag at adeiladu adeilad ysgol newydd ar gyfer Ysgol

   Uwchradd Caergybi;

  dirprwyo awdurdod i’r Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc

   mewn ymgynghoriad â’r Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) a

   Swyddog Adran 151 a Chyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y

   Cyngor)/Swyddog Monitro i ddiwygio’r Achos Amlinellol Strategol os

   oes angen - oni bai bod y newidiadau’n achosi newidiadau sylweddol

   (o ran polisi, egwyddorion, cyfraniad ariannol, risgiau a niwed i

   drydydd bartïon).