Rhaglen, Penderfyniadau a Chofnodion.

Pwyllgor Gwaith, Ystafell Bwyllgor, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni ac yn Rhithiol drwy ZOOM, Pwyllgor Gwaith - Dydd Mawrth, 25ain Tachwedd, 2025 10.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni ac yn Rhithiol drwy ZOOM

Cyswllt: Ann Holmes 

Cyfryngau

Eitemau
Rhif. Eitem

Cyhoeddodd y Cadeirydd ei fod yn bwriadu gohirio ystyried eitem 15 ar yr agenda – Ardoll Ymwelwyr. Eglurodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro eu bod yn gofyn i'r Pwyllgor Gwaith ohirio'r eitem hon, yn amodol ar dderbyn cyngor allanol ynghylch amseriad yr asesiad effaith statudol sy'n ofynnol cyn y gellir gwneud penderfyniad. Penderfynwyd gohirio eitem 15 a’i thrafod mewn cyfarfod yn y dyfodol am y rheswm a roddwyd.

 

1.

Ymddiheuriadau

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nodwyd yr ymddiheuriadau am absenoldeb.

 

2.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn datganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o ddiddordeb.

 

3.

Materion brys ardystiwyd gan y Prif Weithredwr neu ei Swyddog Apwyntiedig

Dim materion brys ar adeg anfon y rhaglen hon.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim i'w hadrodd.

 

4.

Cofnodion pdf eicon PDF 211 KB

Cyflwyno i’w cadarnhau, gofnodion drafft y cyfarfod o’r Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar 21 Hydref 2025.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar 21 Hydref 2025 i'w cadarnhau.

 

Penderfynwyd cadarnhau bod cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar 21 Hydref 2025 yn gywir.

 

5.

Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith pdf eicon PDF 285 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd.  

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Democratiaeth a oedd yn cynnwys Blaenraglen Waith y Pwyllgor Gwaith ar gyfer y cyfnod rhwng Rhagfyr, 2025 a Gorffennaf, 2026, i'w gadarnhau.

 

Diweddarodd y Pennaeth Democratiaeth y Pwyllgor Gwaith ynghylch y newidiadau canlynol i'r Blaenraglen Waith –

 

·      Cyfarfod 16 Rhagfyr 2025 – mae'r eitemau newydd yn cynnwys Premiwm y Dreth Gyngor, Datblygiad Tai Newydd ar safle Plas Penlan, Llangefni a'r Ymgynghoriad ar Gasglu ac Ailgylchu Gwastraff. Mae'r Cynllun Strategol Digidol Addysg yn eitem sydd wedi'i haildrefnu o'r cyfarfod ar 25 Tachwedd

·      Cyfarfod 27 Ionawr 2026 – mae'r Cynllun Strategol Tuag at Sero Net yn eitem newydd ac mae Cyllideb Refeniw Ddrafft 2026/27 yn eitem sydd wedi'i haildrefnu o gyfarfod 25 Tachwedd ac mae'n amodol ar amserlen gosod cyllideb Llywodraeth Cymru.

·      Cyfarfod Gorffennaf 2026 – eitem newydd yw'r Cynllun Datblygu Lleol – Ymgynghoriad ar y Strategaeth a Ffefrir.

·      Penderfyniadau a Ddirprwywyd i Ddeiliad y Portffolio - Adroddiad Cydraddoldeb Blynyddol 2024/25 i'w gyhoeddi ym mis Mawrth 2026 ac Adroddiad Blynyddol Safonau'r Gymraeg 2025/26 i'w gyhoeddi ym mis Mehefin 2026 .

 

Penderfynwyd cadarnhau Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith wedi’i diweddaru am y cyfnod rhwng Rhagfyr 2025 a Gorffennaf 2026, gyda’r newidiadau y cyfeiriwyd atynt yn y cyfarfod.

 

6.

Diwygio'r Cyfansoddiad - Rhoi Cymeradwyaeth Derfynol i Gyfrifon Blynyddol y Cyngor pdf eicon PDF 170 KB

Cyflwyno adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro a oedd yn gofyn am farn y Pwyllgor Gwaith ar ddiwygiad arfaethedig i'r Cyfansoddiad i gael  cymeradwyaeth derfynol i Gyfrifon Blynyddol y Cyngor gan y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio yn lle'r Cyngor, i'w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith.

 

Cyflwynodd y Cynghorydd Robin Williams, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Portffolio Cyllid, Busnes Corfforaethol a Phrofiad Cwsmeriaid yr adroddiad gan nodi bod y Swyddog Adran 151 wedi gofyn am y diwygiad ar ôl ymgynghori ag Archwilio Cymru i sicrhau bod trefniadau'r Cyngor yn gyson â'r rhai sydd bellach yn weithredol mewn prif gynghorau yng Nghymru. Mae gan Gynllun Blynyddol Archwilio Cymru nod clir i ddwyn ymlaen amserlen archwilio llywodraeth leol, gyda'r dyddiad awdurdodi’r cyfrifon ar gyfer 2025/26 wedi’i osod ar 30 Medi 2026, sef mis yn gynt nag yn 2024/25. Os bydd cymeradwyaeth yn fater sy’n parhau dan ofal y Cyngor Llawn, byddai angen aildrefnu cyfarfod Medi 2026 neu gynnull cyfarfod arbennig. Byddai dirprwyo awdurdod i'r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio yn broses gymeradwyo fwy effeithlon gan osgoi'r gost a'r anghyfleustra o gynnal cyfarfod arbennig o'r Cyngor Llawn heb effeithio ar y cynghorwyr na'r cyhoedd gan y byddai'r cyfrifon yn dal i fod ar gael i'w harchwilio yn yr un modd. Tynnodd y Cynghorydd Robin Williams sylw at y ffaith y byddai'r gwelliant arfaethedig ond yn dileu cam olaf y broses bresennol h.y. cymeradwyaeth gan y Cyngor Llawn.

 

Penderfynwyd argymell i’r Cyngor Llawn ei fod yn cymeradwyo’r newid arfaethedig i’r Cyfansoddiad er mwyn rhoi’r hawl i Bwyllgor Llywodraethu ac Archwilio’r Cyngor, yn hytrach na’r Cyngor, roi cymeradwyaeth derfynol i Gyfrifon Blynyddol y Cyngor.

 

7.

Monitro'r Cerdyn Sgorio – Chwarter 2, 2025/26 pdf eicon PDF 552 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Proffesiwn – AD a Thrawsnewid.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Proffesiwn (AD) a Thrawsnewid a oedd yn cynnwys y Cerdyn Sgorio Corfforaethol ar gyfer Chwarter 2 2025/26, i'w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith.

 

Cyflwynodd y Cynghorydd Robin Williams, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Portffolio Cyllid, Busnes Corfforaethol a Phrofiad Cwsmeriaid yr adroddiad a ddangosodd fod 87% o'r dangosyddion oedd â thargedau a gafodd eu monitro yn ystod y chwarter wedi perfformio'n dda yn erbyn y targedau hynny a'u bod yn Wyrdd neu'n Felyn. Tynnodd sylw at berfformiad da sydd wedi’i gynnwys yn adran 2.3 o'r adroddiad cerdyn sgorio a nododd hefyd y meysydd y mae'r Tîm Arweinyddiaeth a'r gwasanaethau perthnasol yn ymchwilio iddynt i sicrhau gwelliannau yn y dyfodol. Mae'r meysydd hynny, y manylir arnynt yn adran 2.2 o'r adroddiad ynghyd â mesurau lliniaru cysylltiedig, yn ymwneud â dangosyddion o dan yr adran Tai, Economi, Newid Hinsawdd ac Iechyd y Cyngor Cyfan. Daeth i'r casgliad bod y cerdyn sgorio yn cyflwyno darlun cadarnhaol o berfformiad ar ddiwedd yr ail chwarter.

 

Adroddodd y Cynghorydd Jeff Evans, Cadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol, yn ôl o gyfarfod y pwyllgor ar 18 Tachwedd 2025, a oedd wedi ystyried adroddiad cerdyn sgorio Ch2. Roedd y pwyllgor wedi trafod yr adroddiad yn fanwl ac wedi myfyrio ar berfformiad cadarnhaol cyffredinol y Cyngor yn erbyn amcanion strategol Cynllun y Cyngor yn y cyfnod. Gofynnodd y pwyllgor am sicrwydd ynghylch cynnydd mewn perthynas â dangosyddion sy'n is na'r targed neu sy’n galw am ymyrraeth bellach a nodwyd y meysydd lle mae'r Tîm Arweinyddiaeth a'r gwasanaethau perthnasol yn gweithio i sicrhau gwelliannau. Roedd y pwyllgor wedi argymell yr adroddiad a'r mesurau lliniaru a amlinellir ynddo i'r Pwyllgor Gwaith.

 

Cydnabu'r Pwyllgor Gwaith y drafodaeth fanwl a'r cwestiynu trylwyr ynghylch tanberfformiad gan y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol. Nodwyd bod y dangosyddion Tai isod bellach yn dangos gwelliant, gyda'r grŵp tasg a gorffen Sgriwtini a'r Gwasanaeth Tai wedi gweithio'n galed i sicrhau cynnydd. Dywedodd y Cynghorydd Robin Williams, fel y cyn Aelod Portffolio Tai, fod materion yn ymwneud â'r amser a gymerwyd i ailosod eiddo'r cyngor wedi cael eu nodi beth amser yn ôl a bod camau i wella hyn yn parhau i fynd rhagddynt. Bydd y mater yn parhau i dderbyn sylw gan y gwasanaeth a'r aelod portffolio presennol.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Alun Roberts, Aelod Portffolio Hamdden, Morwrol, Twristiaeth ac Eiddo at ddangosydd Economi 04 sy’n tanberfformio - cyfanswm y cwsmeriaid â chytundeb angori blynyddol ac esboniodd ei fod wedi dweud wrth y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol y gallai'r targed o 65 fod yn afrealistig o ystyried y newid o ran arferion a pherchnogaeth cychod, disgwyliadau cynyddol a hwylustod ac apêl gynyddol cyfleusterau’r marina.

 

Hefyd cydnabu'r Pwyllgor Gwaith berfformiad cryf parhaus Môn Actif gyda ffigurau cyfranogiad eto yn uwch na'r targed.  Er bod y Cyngor yn mesur perfformiad Môn Actif o dan ddangosydd lleol Gofal Cymdeithasol a Lles DP12, nid yw'r dangosydd statudol a ragnodwyd gan Lywodraeth Cymru – DP11, sy'n cofnodi nifer yr ymweliadau â chanolfannau hamdden, yn cofnodi’r data hwn. Nododd y Cadeirydd fod sylwadau wedi'u gwneud  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 7.

8.

Adroddiad Hunanasesiad, Perfformiad a Llesiant 2024/25 pdf eicon PDF 2 MB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Proffesiwn – AD a Thrawsnewid.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Proffesiwn (AD) a Thrawsnewid a oedd yn cynnwys Adroddiad Hunanasesiad a Pherfformiad (Llesiant) 2024/25, i'w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith.

 

Cyflwynodd y Cynghorydd Robin Williams, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Portffolio Cyllid, Busnes Corfforaethol a Phrofiad Cwsmeriaid yr adroddiad statudol sydd am y tro cyntaf yn cyfuno adroddiad hunanasesiad, perfformiad (llesiant) y Cyngor ar gyfer 2024/25. Mae'r adroddiad yn nodi pa mor effeithiol ac effeithlon mae'r Cyngor wedi cyflawni ei gyfrifoldebau dros y flwyddyn. Mae'n crynhoi canlyniad y broses adolygu gwasanaeth a oedd yn archwilio cynllunio a pherfformiad gwasanaethau, cynllunio ariannol, cynllunio a llywodraethu'r gweithlu gan gynnwys caffael, rheoli contractau, risg ac archwilio. Mae'r adroddiad yn adlewyrchu allbynnau a pherfformiad y Cyngor yn erbyn ei gynlluniau penodol a'i ymrwymiadau ond nid yw o reidrwydd yn adlewyrchu effaith lawn ei waith ar ganlyniadau cymunedol y gall ffactorau ehangach y tu hwnt i reolaeth y Cyngor ddylanwadu arnynt.  Mae hefyd yn nodi meysydd i'w gwella. Mae ail ran yr adroddiad yn canolbwyntio ar gynnydd yn erbyn amcanion llesiant y Cyngor, Cynllun y Cyngor a'i ganlyniadau tymor hir ar gyfer 2028.

 

Adroddodd y Cynghorydd Jeff Evans, Cadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol o gyfarfod y pwyllgor ar 18 Tachwedd 2025, a oedd wedi adolygu'r adroddiad hunanasesiad. Nododd fod y pwyllgor yn cydnabod y casgliadau cadarnhaol ynghylch perfformiad a'i gais am sicrwydd bod y Cyngor yn parhau i fod ar y trywydd iawn i gyflawni amcanion Cynllun y Cyngor erbyn 2028. Roedd y pwyllgor hefyd wedi gofyn am sicrwydd ynghylch y cynnydd yn erbyn yr amcanion llesiant, yn enwedig y strategaeth gofal dydd a'r cynlluniau i arfogi pobl ifanc â sgiliau i elwa o ddatblygiadau economaidd yn y dyfodol. Roedd y pwyllgor wedi pwysleisio ei bod yn bwysig eu bod yn parhau i gyfathrebu llwyddiannau a straeon cadarnhaol y Cyngor a thrafodwyd y canfyddiadau sy'n ymwneud ag ymddiriedaeth preswylwyr a phrosesau ymgynghori. Roedd y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol wedi cymeradwyo'r adroddiad a'i argymell i'r Pwyllgor Gwaith.

 

Tynnodd y Pwyllgor Gwaith sylw at y gwaith sylweddol sy'n sail i'r adroddiad hunanasesiad sy'n cynnwys proses drylwyr i herio ac archwilio ar draws pob gwasanaeth i ddod i'w gasgliadau. Nododd y Pwyllgor Gwaith hefyd mai un o'r prif negeseuon o adolygiad y pwyllgor Sgriwtini o'r adroddiad oedd ei bod yn bwysig bod y Cyngor yn cyfathrebu'n gliriach ehangder ei waith a'r hyn y mae'n ei gyflawni. Nododd y Cadeirydd fod y Cyngor yn aml yn cael ei gydnabod mewn fforymau rhanbarthol a chenedlaethol fel arloeswr a’i fod yn dangos arweinyddiaeth ar draws sawl maes portffolio, a bod y llwyddiannau hyn yn dyst i ymroddiad a phroffesiynoldeb ei staff.

 

Penderfynwyd mabwysiadu Adroddiad Hunanasesiad Pherfformiad (Llesiant) 2024/25.

 

9.

Monitro Cyllideb Refeniw - Chwarter 2, 2025/26 pdf eicon PDF 895 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adain 151.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 a oedd yn nodi perfformiad ariannol gwasanaethau'r Cyngor ar ddiwedd Chwarter 2 i 30 Medi 2025, i'w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith.

 

Cyflwynodd y Cynghorydd Robin Williams, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Portffolio Cyllid, Busnes Corfforaethol a Phrofiad Cwsmeriaid yr adroddiad a oedd yn rhagweld tanwariant diwedd blwyddyn o £1,707k (0.88%) ar y gyllideb refeniw. Er bod y chwe mis hyd at ddiwedd Chwarter 2 yn rhoi mwy o sicrwydd ynghylch patrymau a thueddiadau sy'n dod i'r amlwg, gall cyfnod y gaeaf ddod â’i heriau, gan gynnwys galw cynyddol am nifer o wasanaethau a allai arwain at gostau uwch i'r Cyngor.

 

Adroddodd y Cyfarwyddwr Swyddogaethau (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 fod dadansoddiad o sefyllfa’r gyllideb a ragwelir yn ôl gwasanaethau fel y nodir yn Nhabl 4 yr adroddiad yn dangos gorwariant cyffredinol o £404k. Y prif faes sy'n peri pryder yw Gwasanaethau Plant lle rhagwelir, yn seiliedig ar ffigurau Ch2, y bydd gorwariant o £1.462m ar ddiwedd y flwyddyn oherwydd costau cynyddol lleoliadau y tu allan i'r sir, a hynny er bod cyllideb y gwasanaeth ar gyfer 2025/26 wedi cynyddu £2m ynghyd â chwyddiant. Mae problemau recriwtio mewn rhai gwasanaethau hefyd yn cyfrannu at wariant uwch ar staff asiantaeth. Tynnodd y Swyddog Adran 151 sylw ymhellach at y gorwariant o £3,032k sy'n deillio o’r newid yn y galw am wasanaethau (gweler Tabl 5) gan nodi bod hyn yn adlewyrchu'r pwysau ariannol parhaus ar y Cyngor. Er bod ffactorau fel swyddi gwag, cynhyrchu incwm a grantiau ychwanegol yn helpu i liniaru'r gorwariant yn 2025/26, efallai na fydd y rhain yn cael eu hailadrodd yn y blynyddoedd nesaf. Bydd angen ystyried hyn wrth osod y gyllideb ar gyfer 2026/27.

 

Mae cyllidebau corfforaethol yn perfformio’n unol â’r targed gyda chostau benthyca is ac enillion buddsoddi uwch yn arwain at danwariant. Mae cyllideb y Dreth Gyngor hefyd yn perfformio'n well na'r hyn a broffiliwyd oherwydd y newid yn y rheolau cymhwysedd ar gyfer ardrethi busnes ar lety hunanarlwyo. Mae hyn wedi arwain at drosglwyddo nifer o eiddo yn ôl o ardrethi busnes i'r Dreth Gyngor gan olygu y bydd raid iddynt dalu premiwm ar y Dreth Gyngor. Fodd bynnag, rhagwelir y bydd apeliadau yn erbyn yr ailddosbarthiad hwn ac os byddant yn llwyddiannus, byddai gofyn i'r eiddo hynny gael eu tynnu oddi ar gofrestr y Dreth Gyngor, gan leihau incwm a bydd angen ad-dalu'r Dreth Gyngor sydd eisoes wedi'i thalu. Mae cyllid wedi'i neilltuo i fynd i'r afael â'r risg hon. Daeth y Swyddog Adran 151 â’i sylwadau i ben trwy gadarnhau mai'r prif risg ar y cam hwn yw cyfnod y gaeaf a allai arwain at gostau uwch i'r Cyngor.

 

Cydnabu'r Pwyllgor Gwaith fod Chwarter 3 yn gyfnod allweddol ar gyfer rheoli’r gyllideb, o ystyried y pwysau posibl ym misoedd y gaeaf, yn enwedig y galw cynyddol am wasanaethau fel cymorth digartrefedd a gofal cymdeithasol sydd â'r potensial i newid y rhagolygon ariannol. Nododd y Pwyllgor Gwaith hefyd fod y Cyngor mewn sefyllfa dda ar hyn o bryd  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 9.

10.

Monitro Cyllideb Gyfalaf - Chwarter 2, 2025/26 pdf eicon PDF 518 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adain 151.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 a oedd yn nodi perfformiad ariannol y gyllideb gyfalaf ar ddiwedd Chwarter 2 blwyddyn ariannol 2025/26, i'w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith.

 

Cyflwynodd y Cynghorydd Robin Williams, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Portffolio Cyllid, Busnes Corfforaethol a Phrofiad Cwsmeriaid yr adroddiad gan nodi, ym mis Mawrth 2025, fod y Cyngor wedi cymeradwyo rhaglen gyfalaf o £23.7m ar gyfer gwasanaethau nad ydynt yn ymwneud â thai a £20.594m ar gyfer y Cyfrif Refeniw Tai (CRT) ar gyfer blwyddyn ariannol 2025/26. Ym mis Gorffennaf 2025, cymeradwyodd y Pwyllgor Gwaith i lithriad cyfalaf o £2.529m gael ei ddwyn ymlaen o 2024/25 gan ddod â'r rhaglen gyfalaf ar gyfer gwasanaethau nad ydynt yn ymwneud â thai i £25.929m a £20.894m ar gyfer y CRT. Ers y broses o osod y gyllideb, mae cynlluniau ychwanegol, a ariennir gan grant yn bennaf, wedi'u hychwanegu at y rhaglen ynghyd ag addasiadau i'r cyllid sy'n dod i gyfanswm o £12.846m. Mae hyn yn dod â'r gyllideb gyfalaf gyffredinol ar gyfer 2025/26 i £59.669m. Dywedodd y Cynghorydd Robin Williams, ar 30 Medi 2025, fod £17.480 miliwn o'r gyllideb wedi'i wario gyda £2.096 miliwn arall wedi'i ymrwymo gan arwain at gyfanswm o £19.576 miliwn (33%). Mae nifer o gynlluniau cyfalaf yn cael eu pwysoli tuag at ran olaf y flwyddyn ariannol, ac mae rhai yn cymryd mwy o amser i'w cwblhau gan arwain at lithriad, nid yw hyn yn anarferol. Ni fydd unrhyw gyllid yn cael ei golli o ganlyniad i hyn.

 

Tynnodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 sylw at y ffaith bod y Cyngor yn dibynnu i raddau helaeth ar gyllid grant ar gyfer ei wariant cyfalaf gyda 60% o'r gyllideb gyfalaf yn deillio o ffynonellau grant. Y tanwariant a ragwelir ar y rhaglen gyfalaf ar gyfer 2025/26 yw £4.502m ac mae tua £1m ohono yn ymwneud â chyllid grant. Mae'r Cyngor wedi cael sicrwydd na fydd y cyllid hwn yn cael ei golli.  Mae'r tanwariant sy'n weddill yn ymwneud â phrosiectau a ariennir gan y Cyngor, gan sicrhau nad oes unrhyw risg o golli cyllid.

 

Penderfynwyd –

 

·      Nodi cynnydd y gwariant a’r derbyniadau yn erbyn cyllideb gyfalaf 2025/26 yn ystod chwarter2.

·      Cymeradwyo’r cynlluniau ychwanegol gwerth £3.483m a ychwanegwyd i’r rhaglen gyfalaf, a newidiadau mewn cyllid, yn unol ag Atodiad C, fydd yn rhoi cyllideb gyfalaf ddiwygiedig o £59.669m ar gyfer 2025/26.

 

 

11.

Monitro Cyllideb y Cyfrif Refeniw Tai - Chwarter 2, 2025/26 pdf eicon PDF 257 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adain 151.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 a oedd yn nodi perfformiad ariannol y Cyfrif Refeniw Tai ar gyfer y cyfnod rhwng 1 Ebrill a 30 Mehefin 2025, i'w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith.

 

Cyflwynodd y Cynghorydd Robin Williams, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Portffolio Cyllid, Busnes Corfforaethol a Phrofiad Cwsmeriaid yr adroddiad gan nodi bod y gyllideb refeniw wedi'i gosod gyda gwarged cyllidebol o £6,291k. Y gyllideb cyfalaf gros ar gyfer 2025/26 yw £24,521k. Mae cyllid grant gwerth £9,173k yn gostwng y gyllideb net i £15,348k. Roedd cyfuniad o’r gyllideb refeniw a’r gyllideb gyfalaf wedi’i haddasu yn rhoi diffyg a gynlluniwyd o £9,057k. Bydd £6,820k yn cael ei gyllido o gronfa wrth gefn y CRT, a bydd y balans o £2,237k yn cael ei gyllido gan fenthyca allanol. Mae cyllideb refeniw y CRT ar ddiwedd yr ail chwarter yn £276k, sy’n well o'i gymharu â'r gyllideb a broffiliwyd a rhagwelir y bydd tanwariant o £404k ar ddiwedd y flwyddyn.  Mae cynnydd o £1,492k yn y gwariant cyfalaf, i £24,521k, a rhagwelir tanwariant o £2,465k ar ddiwedd y flwyddyn. Mae incwm grantiau wedi cynyddu i £9,173k, ac mae disgwyl i’r cyllid gael ei wario’n llawn. Mae’r diffyg a ragwelir trwy gyfuno’r cyllidebau refeniw a chyfalaf bellach yn £6,188k, £2,869k yn llai na’r gyllideb. Mae’r CRT wedi’i glustnodi i’w ddefnyddio ar gyfer dibenion penodol ac ni ellir trosglwyddo arian o’i gronfeydd wrth gefn i’r Gronfa Gyffredinol ac ni ellir defnyddio’r Gronfa Wrth Gefn Gyffredinol i gyllido’r CRT.

 

Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 fod perfformiad cyllideb refeniw y CRT wedi aros yn sefydlog, gan gynhyrchu gwarged diwedd blwyddyn bob blwyddyn sy'n cael ei ail-fuddsoddi mewn stoc bresennol neu ddatblygiadau tai newydd. Mae'r Cyngor wedi defnyddio cronfa’r CRT o'r blaen i gefnogi buddsoddiad wrth iddo barhau i ddatblygu a phrynu tai newydd, gan gyrraedd uchafbwynt yn 2025/26. O ganlyniad, mae balans wrth gefn y CRT wedi gostwng a disgwylir iddo fod yn oddeutu £1.7m erbyn diwedd y flwyddyn, sy'n cael ei ystyried fel yr isafswm lefel sy'n dderbyniol o dan Gynllun Busnes y CRT. Felly, bydd angen ariannu datblygiadau tai yn y dyfodol drwy fenthyciadau a fydd yn cynhyrchu costau refeniw. Efallai y bydd angen i'r Cyngor adolygu ei gynlluniau datblygu tai yn y dyfodol yng ngoleuni hyn a ffactorau eraill megis Polisi Rhent Llywodraeth Cymru a lefel yr incwm rhent a sicrhawyd.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr fod y Cyngor wedi llwyddo i gynyddu nifer y tai lleol sydd ar gael dros y blynyddoedd. Fodd bynnag, nid yw'r broses ariannu bresennol yn cael ei hystyried yn addas i'r diben ac os na fydd newid, mae risg y bydd mwy o ddigartrefedd, gan roi pwysau pellach ar gyllideb refeniw y Cyngor. Nid yw rhagamcanion ar gyfer y gyllideb hon yn gwella, gan wneud y mater hwn yn fwy nag ystyriaethau cyfalaf yn unig. Mae'r Cyngor yn gweithio i ddylanwadu ar newid ac i sicrhau bod polisïau Llywodraeth Cymru yn adlewyrchu'n well anghenion awdurdodau lleol sy'n cadw eu stoc dai yn ogystal â'r  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 11.

12.

Sylfaen y Dreth Gyngor ar gyfer 2026/27 pdf eicon PDF 229 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adain 151.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 at ddibenion gosod sylfaen y dreth gyngor ar gyfer 2026/27, i'w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith.

 

Cyflwynodd y Cynghorydd Robin Williams, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Portffolio Cyllid, Busnes Corfforaethol a Phrofiad Cwsmeriaid yr adroddiad a oedd yn nodi'r cyfrifiadau ar gyfer gosod sylfaen y Dreth Gyngor ar gyfer 2026/27. Rhaid i Gyngor Sir Ynys Môn, fel awdurdod bilio, gyfrifo Sylfaen y Dreth Gyngor ar gyfer ei ardal ac ar gyfer gwahanol rannau o’i ardal a rhaid rhoi gwybod am y symiau hyn i’r cyrff sy’n codi praeseptau ac ardollau erbyn 31 Rhagfyr 2025. Eleni, mae Llywodraeth Cymru wedi gofyn am y wybodaeth i bwrpas gosod y Grant Cynnal Refeniw erbyn 14 Tachwedd 2025, ac i bwrpas gosod y dreth (gyda chymeradwyaeth y Pwyllgor Gwaith) erbyn 9 Ionawr 2026. Y ffigur a gyfrifwyd ar gyfer sylfaen y Dreth Gyngor i'w ddefnyddio gan Lywodraeth Cymru i osod y Grant Cynnal Refeniw ar gyfer y Cyngor ar gyfer 2026/27 yw 31,705.675, sy'n gynnydd o 0.80% ar y flwyddyn flaenorol. Nid yw’r ffigur hwn yn cynnwys addasiadau ar gyfer premiymau a gostyngiadau a roddir gan rai awdurdodau mewn perthynas â Dosbarthiadau A, B a C (nid yw hyn yn effeithio ar y Cyngor yn Ynys Môn gan nad oes gostyngiadau o'r fath yn cael eu rhoi). Cyfanswm y sylfaen dreth a gynigir ar gyfer 2026/27 at ddibenion gosod y dreth sy'n cynnwys addasiadau ar gyfer premiymau yw 33,887.44 ac mae'n gynnydd o 1.24% ar y flwyddyn flaenorol.

 

Esboniodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnodd)/Swyddog Adran 151 y broses lle cyfrifir Sail y Dreth Gyngor at ddibenion Llywodraeth Cymru wrth bennu lefel y Grant Cynnal Refeniw a hefyd at ddibenion gosod treth leol a'r ffactorau dan sylw.

 

Gofynnodd y Cadeirydd a oedd sylfaen y Dreth Gyngor a ddefnyddiwyd ar gyfer gosod y Dreth Gyngor wedi newid yn sylweddol yn dilyn penderfyniad y Prisiwr Dosbarth i ailddosbarthu eiddo penodol o ardrethi busnes i'r Dreth Gyngor oherwydd newid yn y rheolau cymhwysedd ar gyfer llety hunanarlwyo.

 

Cadarnhaodd y Swyddog Adran 15 fod eiddo a drosglwyddwyd yn ôl i'r Dreth Gyngor o ardrethi busnes bellach yn gorfod talu’r Dreth Gyngor safonol sy'n cyfrannu at gyfrifiadau'r Cyngor a Llywodraeth Cymru. Yn ogystal â hyn, mae'r eiddo hwn yn gorfod talu’r premiwm ar ail gartrefi sy'n cyfrannu i gyfrifiadau'r Cyngor yn unig. Byddai apeliadau llwyddiannus yn erbyn ailddosbarthu yn arwain at dynnu'r eiddo hynny oddi ar gofrestr y Dreth Gyngor a thrwy hynny leihau sylfaen y Dreth Gyngor y flwyddyn nesaf. Er y byddai Llywodraeth Cymru yn darparu grant cymorth refeniw ychwanegol i wrthbwyso'r gostyngiad hwn, byddai'r Cyngor yn colli'r incwm ychwanegol a gynhyrchir gan y premiwm. Yn hanesyddol, mae sylfaen y Dreth Gyngor wedi cynyddu flwyddyn ar ôl blwyddyn wrth i ddatblygiadau tai newydd ymddangos.

 

Pwysleisiodd y Cadeirydd ymhellach, er bod data eiddo a ddefnyddir i gyfrifo sylfaen y Dreth Gyngor a'r grant cynnal refeniw yn cael ei ddiweddaru'n flynyddol, nid yw data poblogaeth sef y prif ffactor wrth benderfynu ar setliad llywodraeth  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 12.

13.

Rhaglen Cysylltu â Gwaith 2025-2030 pdf eicon PDF 2 MB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd a oedd yn cynnwys y trefniadau arfaethedig ar gyfer cyflwyno'r Rhaglen Cysylltu â Gwaith ar Ynys Môn, i'w hystyried gan y Pwyllgor Gwaith.

 

Cyflwynodd y Cynghorydd Gary Pritchard, Arweinydd ac Aelod Portffolio Datblygu Economaidd, yr adroddiad gan nodi bod y rhaglen Cysylltu â Gwaith yn rhaglen genedlaethol ac yn rhan o agenda Get Britain Working y DU. Nod y rhaglen yw cael mwy o bobl yn ôl i waith cynaliadwy, yn enwedig y rhai sydd ag anabledd a chyflyrau iechyd, ac unigolion sy'n wynebu rhwystrau cymhleth i weithio, gan weithio mewn ffordd ddatganoledig gyda Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol.

 

Eglurodd y Prif Swyddog Datblygu Economaidd y bydd Cyngor Sir Ddinbych yn gweithredu fel y corff atebol ar ran awdurdodau lleol Gogledd Cymru. Sefydlwyd gweithgor o swyddogion awdurdodau lleol ac mae'n cyfarfod bob pythefnos i ddatblygu'r rhaglen gyda'r bwriad o gyflwyno Cynllun Darparu i'r Adran Gwaith a Phensiynau gyda'r nod o'i gymeradwyo erbyn diwedd mis Rhagfyr 2025. Disgwylir i'r rhaglen ddechrau ym mis Ionawr 2026 a bydd yn cael ei chynnal tan fis Mawrth 2030. Y targed ar Ynys Môn yw cefnogi 31 o gyfranogwyr erbyn mis Mawrth 2030 ac mae disgwyl y bydd 50% yn cael swydd barhaol. Mae tystiolaeth yn awgrymu y bydd hyn yn heriol oherwydd anghenion cymhleth cyfranogwyr. Er bod model cyffredinol y rhaglen yn cael ei osod yn genedlaethol gan yr Adran Gwaith a Phensiynau, mae sut mae'n cael ei chyflawni, yn ôl disgresiwn yr awdurdodau lleol i benderfynu beth fydd yn gweithio orau yn eu hardal leol eu hunain.

 

Cynigir bod y Cyngor yn ymrwymo i gytundeb gyda Môn CF i gyflawni'r rhaglen ar Ynys Môn, o ystyried hanes llwyddiannus Môn CF fel prif ddarparwr gwasanaethau cyflogaeth a chymorth busnes ar Ynys Môn. Bydd y strwythurau llywodraethu ac adrodd presennol a ddefnyddir ar gyfer y Rhaglen Cymunedau am Waith a Mwy, sydd hefyd yn cael eu darparu gan Môn CF yn cael eu defnyddio i sicrhau bod rolau a chyfrifoldebau’n glir ac i fonitro cynnydd. Bydd y Cyngor a Môn CF yn cydweithio â Chyngor Sir Ddinbych i lunio a chwblhau'r Cynllun Darparu ar gyfer Ynys Môn.

 

Mewn ymateb i gwestiwn am lywodraethu, cadarnhaodd y Prif Swyddog Datblygu Economaidd y bydd trefniadau llywodraethu yn adlewyrchu'r rhai sydd ar waith ar gyfer rhaglenni presennol Llywodraeth Cymru a weinyddir gan Môn CF, gan gynnwys cyfarfodydd rheolaidd bob pedair i chwe wythnos i fonitro cynnydd a phrosesu hawliadau.

 

Penderfynwyd –

 

·      Nodi cynnydd hyd yma o ran datblygu cynllun darparu rhanbarthol Gogledd Cymru ar gyfer y Rhaglen Cysylltu â Gwaith 2025-2030.

·      Cytuno i lunio Cytundeb Cydweithio gyda Chyngor Sir Ddinbych sy’n gweithredu fel corff arweiniol ar gyfer Gogledd Cymru.

·      Cytuno i gyflwyno rhan Ynys Môn o Gynllun Darparu Gogledd Cymru i Gyngor Sir Ddinbych er mwyn ei gyflwyno wedyn i’r Adran Gwaith a Phensiynau.

·      Dirprwyo hawl i’r Pennaeth Gwasanaeth a’r Swyddog Adran 151 dderbyn y cytundeb cyllido Cysylltu â Gwaith.

·      Gwneud cytundeb grant gyda Môn CF Ltd i gyflawni’r Rhaglen Cysylltu  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 13.

14.

Derbyniad o Gynigion Grant Cyllid Uchelgais Gogledd Cymru pdf eicon PDF 5 MB

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd.   

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd yn gofyn am gymeradwyaeth y Pwyllgor Gwaith i dderbyn cynigion grant gan Uchelgais Gogledd Cymru, i'w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith.

 

Cyflwynodd y Cynghorydd Gary Pritchard, Arweinydd ac Aelod Portffolio Datblygu Economaidd, yr adroddiad gan nodi, ym mis Mehefin, 2025, fod y Gwasanaeth Rheoleiddio ac Economaidd, yn dilyn proses EOI lwyddiannus, wedi'i gynnwys ar y rhestr wrth gefn a'i wahodd gan Uchelgais Gogledd Cymru (UGC) i wneud ceisiadau ffurfiol am gyllid. Datblygwyd Achosion Cyfiawnhau Busnes Manwl a dogfennau ategol ar gyfer Rhaglen Safleoedd ac Adeiladau Gogledd Ynys Môn a Phorth Peboc a'u cyflwyno i UGC ar 5 Medi 2025. Hysbyswyd y Cyngor yn ffurfiol gan UGC ar 3 Hydref 2025 bod ei gais wedi bod yn llwyddiannus am y swm llawn o £10.474m. Mae'r buddsoddiadau hyn, sydd wedi’u cynnwys  yn yr adroddiad, yn dangos ymrwymiad parhaus y Cyngor i fynd i'r afael â'r heriau economaidd cymdeithasol yng Ngogledd Ynys Môn fel yr amlinellir yng Nghynllun y Cyngor 2023-28 a Chynllun Adfywio Economaidd Gogledd Ynys Môn. Bydd y cyllid hefyd yn galluogi'r Cyngor i fynd i'r afael o'r diwedd â'r materion a'r risgiau mewn perthynas â hen safle Peboc yn Llangefni.

 

Cydnabu'r Prif Swyddog Datblygu Economaidd fod canlyniad y cais yn ardderchog gan nodi ei fod yn bodloni nifer o flaenoriaethau Cynllun y Cyngor yn ogystal â blaenoriaethau Cynllun Adfywio Economaidd Gogledd Ynys Môn. Amlinellodd y broses dau gam sy'n cynnwys cytuno ar y telerau gyda Bwrdd Uchelgais Gogledd Cymru ac yna cyflwyno llythyr i wneud cais ffurfiol am grant. Cadarnhaodd fod y cam cyntaf ar y gweill ar hyn o bryd a thrwy hynny, y cais i ddirprwyo awdurdod i dderbyn y cynnig grant yn ffurfiol.

 

Croesawodd y Pwyllgor Gwaith yr adroddiad a'r cynnig grant gan gydnabod y bydd yn fodd i sicrhau buddsoddiad mawr ei angen yng ngogledd yr ynys, ardal sydd wedi profi nifer o anawsterau economaidd yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Roedd yr aelodau'n edrych ymlaen at weithredu'r prosiectau a ariennir a diolchodd i'r tîm Datblygu Economaidd am eu gwaith wrth ddatblygu'r cynlluniau busnes a chyflwyno’r ceisiadau.

 

Tynnodd y Prif Weithredwr sylw at y ffaith nad oedd y prosiectau a gymeradwywyd yn rhan o'r Cais Twf gwreiddiol. Gwahoddwyd y Cyngor i gyflwyno cynigion newydd ac mae hyn yn dangos gwerth bod yn rhagweithiol wrth baratoi prosiectau, gyda chymeradwyaeth cynllunio a alluogodd y Cyngor i symud i frig y rhestr wrth gefn. Ychwanegodd, er gwaethaf cyfyngiadau ariannu, y byddai'r Cyngor yn dymuno gweithredu'r egwyddor hon mewn ardaloedd eraill o'r ynys - er mwyn sicrhau bod prosiectau'n barod i fanteisio ar gyfleoedd cyllido yn y dyfodol.

 

Dirprwyo awdurdod i'r Prif Weithredwr, mewn ymgynghoriad â'r Arweinydd a’r Deilydd Portffolio Datblygu Economaidd, y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/ Swyddog Monitro a’r Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151, dderbyn y cynnig o £10.474m o arian grant gan Uchelgais Gogledd Cymru.

 

 

15.

Ardoll Ymwelwyr pdf eicon PDF 241 KB

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gohiriwyd yr eitem yn unol â'r penderfyniad ar ddechrau'r cyfarfod.