Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Ystafell Bwyllgor, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni ac yn Rhithiol drwy ZOOM
Cyswllt: Ann Holmes
| Rhif. | Eitem |
|---|---|
|
Ymddiheuriadau Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Nodwyd yr ymddiheuriad.
|
|
|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn datganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Fe wnaeth y Cynghorwyr Dafydd Roberts a Robin Williams ddatgan buddiant rhagfarnus yn gysylltiedig ag eitem 11 ar y rhaglen gan eu bod yn aelodau o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion. Gadawodd y ddau aelod y cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar y mater hwn.
|
|
|
Materion brys ardystiwyd gan y Prif Weithredwr neu ei Swyddog Apwyntiedig Dim materion brys ar adeg anfon y rhaglen hon. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dim i’w adrodd.
|
|
|
Cyflwyno i’w cadarnhau, gofnodion drafft y cyfarfod o’r Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar 25 Tachwedd 2025.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar 25 Tachwedd 2025 i’w cadarnhau.
Penderfynwyd cadarnhau cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar 25 Tachwedd 2025, fel rhai cywir.
|
|
|
Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd, i’w gadarnhau, adroddiad y Pennaeth Democratiaeth a oedd yn cynnwys Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith ar gyfer y cyfnod rhwng Ionawr ac Awst 2026.
Rhoddodd y Pennaeth Democratiaeth ddiweddariad i’r Pwyllgor Gwaith ar y newidiadau canlynol i’r Blaen Raglen Waith -
· 6 Ionawr 2026 - cyfarfod arbennig o’r Pwyllgor Gwaith i ystyried yr adroddiad ar y gwrthwynebiadau a’r penderfyniad terfynol yn gysylltiedig ag Ysgol Uwchradd Caergybi yn amodol ar dderbyn cadarnhad gan Lywodraeth Cymru ynglŷn â’r amserlen. · Y cyfarfod ar 27 Ionawr 2026 – mae’r eitem ar Bremiwm y Dreth Gyngor a’r Ardoll Ymwelwyr wedi cael eu haildrefnu. · Y cyfarfod ym mis Gorffennaf 2026 - eitem newydd, sef Cyfrifon Terfynol Drafft 2025/26 a Defnyddio Cronfeydd Wrth Gefn a Balansau. · Penderfyniad wedi’i ddirprwyo i’r Aelod Portffolio - Adroddiad Blynyddol ar y Cynllun Bioamrywiaeth a fydd yn cael ei gyhoeddi ym mis Chwefror.
Penderfynwyd cadarnhau Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith wedi’i diweddaru am y cyfnod Ionawr i Awst 2026 gyda’r newidiadau y cyfeiriwyd atynt yn y cyfarfod.
|
|
|
Rheoli'r Trysorlys - Adolygiad Canol Blwyddyn 2025/26 Cyflwyno adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 a oedd yn nodi perfformiad y Cyngor ar ganol y flwyddyn yn gysylltiedig â strategaeth rheoli trysorlys 2025/26 i’w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith.
Cyflwynodd y Cynghorydd Robin Williams, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Portffolio Cyllid, Busnes Corfforaethol a Phrofiad y Cwsmer yr adroddiad fel sy’n ofynnol yn unol â Chòd Ymarfer CIPFA ar Reoli Trysorlys 2021 a Chòd Darbodus CIPFA 2021. Mae’r adroddiad yn darparu diweddariad economaidd, nodi’r sefyllfa bresennol o ran benthyca a pherfformiad buddsoddiadau a mesur sefyllfa bresennol y Cyngor yn erbyn y dangosyddion perfformiad a nodir yn y Strategaeth Rheoli Trysorlys.
Adroddodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) bod gwariant cyfalaf yn unol â’r targed fwy neu lai ar ddiwedd y chwe mis cyntaf. Mae’r Cyngor wedi parhau â’i strategaeth i ddefnyddio ei falansau arian parod i ariannu prosiectau cyfalaf ac mae wedi osgoi benthyca yn ystod hanner cyntaf y flwyddyn. Fodd bynnag, mae’r balansau hyn wedi lleihau gan eu bod wedi cael eu defnyddio i gefnogi gwariant cyfalaf a’r gyllideb refeniw.
Mae buddsoddiadau’r Cyngor yn cael eu cadw mewn cyfrifon tymor penodol, byr gyda phrif fanciau ac awdurdodau lleol eraill. Mae’r rhain ar fin aeddfedu ac mae’n annhebygol y bydd unrhyw fuddsoddiadau pellach yn cael eu gwneud yn ystod chwarter pedwar. Fodd bynnag, mae Tabl 4 yn yr adroddiad yn dangos bod y llog ar fuddsoddiadau’n uwch na’r hyn a gyllidwyd ar ei gyfer gan fod cyfraddau llog yn uwch na’r hyn a ragwelwyd pan osodwyd y gyllideb.
Wrth gadarnhau bod perfformiad rheoli trysorlys y Cyngor yn dal i fod yn unol â’r dangosyddion darbodus a gymeradwywyd ganddo, nododd y Swyddog Adran 151 fân achos technegol o fynd yn groes i arferion rheoli trysorlys fel yr amlinellir ym mharagraff 8 yn yr adroddiad. Roedd hyn oherwydd bod cyfrif galw yn uwch na’r terfynau sydd wedi eu nodi yn y strategaeth rheoli trysorlys am gyfnod byr wedi i log wedi cael ei ychwanegu i’r cyfrif.
Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch a oedd peidio â gwneud unrhyw fuddsoddiadau yn ystod chwarter pedwar yn arferol aeth y swyddog Adran 151 ymlaen i egluro bod balansau’r Cyngor wedi bod yn iach ers y pandemig oherwydd y grantiau a dderbyniodd yn gysylltiedig â Covid, ac yr oedd modd iddo eu buddsoddi. Mae’r balansau hyn wedi cael eu defnyddio yn y blynyddoedd ers hynny, ac mae’r £5m olaf y mae’r Cyngor wedi’i fuddsoddi wrthi’n aeddfedu. Mae’n debyg y bydd yn rhaid i’r Cyngor fenthyca yn ystod hanner cyntaf y flwyddyn newydd. Bydd y benthyciadau hyn am gyfnod byr o oddeutu blwyddyn gan fod disgwyl i gyfraddau llog ostwng, a fyddai’n galluogi’r Cyngor i ail-fuddsoddi am gyfnod hwy ar gyfradd is.
Penderfynwyd nodi cynnwys yr Adroddiad Adolygiad Canol Blwyddyn ar Reoli’r Trysorlys ar gyfer 2025/26.
|
|
|
Cynllun Strategol Digidol Addysg 2026-2031 Cyflwyno adroddiad y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc a oedd yn cynnwys y Cynllun Strategol Digidol Addysg i’w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith.
Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cynghorydd Dafydd Roberts, yr Aelod Portffolio Addysg a’r Gymraeg, a ddywedodd bod y strategaeth yn gam pwysig ymlaen i sicrhau bod gan ysgolion yr ynys yr offer digidol angenrheidiol ar gyfer y dyfodol.
Adroddodd yr Arweinydd Strategol Addysg (Sector Cynradd) bod y Cynllun Strategol Digidol Addysg yn cefnogi datblygu system addysg fodern a’i fod yn canolbwyntio ar bum maes allweddol - cynaliadwyedd, cysylltedd, cydweithio, dysgu proffesiynol, a diogelu data a gwydnwch digidol. Mae’r Cynllun yn adlewyrchu gwerthoedd y Cyngor ac mae’n gyson â Chynllun y Cyngor a Chynllun Strategol Digidol y Cyngor. Mae hefyd yn cyd-fynd â’r blaenoriaethau a osodwyd gan Lywodraeth Cymru yn y Cwricwlwm i Gymru. Mae’r Cynllun yn pwysleisio sicrhau bod pob disgybl, waeth beth fo’i gefndir neu leoliad, yn cael mynediad at yr un adnoddau digidol. Y nod yw lleihau’r bwlch digidol rhwng dysgwyr a chefnogi pob dysgwr i gael mynediad at adnoddau addysgol ar-lein, drwy roi’r un cyfle i bob dysgwr lwyddo yn yr ysgol.
Adroddodd y Cynghorydd Dylan Rees, Cadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio bod y pwyllgor wedi adolygu’r Cynllun Strategol Digidol Addysg yn ei gyfarfod ar 10 Rhagfyr 2025. Roedd y pwyllgor wedi nodi pwysigrwydd y cynllun o ran datblygu system addysg fodern sy’n cwrdd ag anghenion dysgwyr nawr ac yn y dyfodol. Mynegwyd pryder ynglŷn â’r risgiau posib yn gysylltiedig â diogelwch seiber a rheoli data yn ogystal â’r heriau’n gysylltiedig â’r gyllideb ar gyfer gweithredu’r cynllun. Gofynnodd y pwyllgor am sicrwydd ynglŷn â’r materion hyn ac ar ddarparu cymorth a hyfforddiant digonol i staff ar ôl cyflwyno’r cynllun. Ar ôl adolygu’r cynllun, fe wnaeth y pwyllgor argymell bod y Pwyllgor Gwaith yn ei dderbyn.
Cadarnhaodd y Cadeirydd bod y Pwyllgor Gwaith wedi ymrwymo i glustnodi cronfa flynyddol ar gyfer offer digidol mewn ysgolion, er mwyn sicrhau na fydd y Cyngor yn wynebu baich ariannol sylweddol pan fydd angen adnewyddu dyfeisiadau.
Amlygodd y Cynghorydd Ieuan Williams, yr Aelod Portffolio Priffyrdd, Gwastraff a Newid Hinsawdd yr elfennau yr hoffai eu gweld yn cael eu cynnwys yn y Cynllun Strategol Digidol Addysg, megis y gymhareb dyfeisiadau a dysgwyr i adlewyrchu dyheadau’r Cyngor, a’r disgwyliadau o ran cyfran y staff sydd â chymwysterau Microsoft a Google. Cynigodd hefyd y dylid cael cynllun gweithredu manwl i gyd-fynd â’r strategaeth lefel uchel sy’n amlinellu sut y bydd yr amcanion yn cael eu cyflawni, ar gyfer y flwyddyn gyntaf o leiaf. Hefyd, awgrymodd y dylid darparu gwybodaeth, yn ystod y chwe mis nesaf, ar y dyraniad ar gyfer pob ysgol - boed yn ariannol neu o ran dyfeisiadau - ynghyd â chytundeb lefel gwasanaeth sy’n nodi’r gwasanaeth y gall ysgolion ddisgwyl ei dderbyn. Gan nodi bod yr ystâd caledwedd digidol addysg yn fwy na’r ystâd gorfforaethol, argymhellodd y Cynghorydd Ieuan Williams y dylid creu swydd ddynodedig i sicrhau bod y cynllun strategol yn cael ei ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 7. |
|
|
Ymgynghoriad Casglu ac Ailgylchu Gwastraff Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo i’w gymeradwyo gan y Pwyllgor Gwaith fel y gellir cynnal proses ymgynghori ar y newidiadau posib i’r gwasanaeth casglu gwastraff ac ailgylchu fel rhan o’r strategaeth i gwrdd â’r targedau statudol.
Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cynghorydd Ieuan Williams, yr Aelod Portffolio Priffyrdd, Gwastraff a Newid Hinsawdd a nododd bod gan y Cyngor rwymedigaeth statudol i gyflawni cyfradd ailgylchu o 70% erbyn 2024/25. Gall methu â chyrraedd targedau ailgylchu arwain at ddirwy gan Lywodraeth Cymru. Yn seiliedig ar y gyfradd ailgylchu bresennol o tua 65%, amcangyfrifir y bydd y Cyngor yn wynebu dirwy flynyddol o £361k. Ym mis Mehefin 2025, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru eu Glasbrint Casgliadau 2025. Mae'r ddogfen yn amlinellu'r hyn maen nhw'n ei argymell ar gyfer casglu gwastraff ac mae’r Cyngor eisoes yn bodloni'r rhan fwyaf ohonynt. Derbyniwyd cefnogaeth ar sut i gynyddu cyfraddau ailgylchu gan WRAP Cymru. Eu prif argymhelliad oedd lleihau'r capasiti gwastraff gweddilliol wythnosol i 60l, yn unol â'r hyn a argymhellir yn y Glasbrint. Gellid cyflawni hyn drwy gasglu gwastraff gweddilliol yn llai aml a/neu leihau maint y bin. Byddai hyn yn cynyddu cyfradd ailgylchu'r Cyngor 5%, ond byddai cost sylweddol ynghlwm â newid y biniau.
Rhaid ymgynghori cyn cyflwyno unrhyw newid i’r gwasanaeth yn enwedig pan fo’r newid hwnnw’n golygu casglu gwastraff yn llai aml, a chan bod casgliadau gwastraff yn effeithio ar bob preswylydd, rhaid cynnal ymgynghoriad cyhoeddus llawn. Mae’r cwestiynau arfaethedig a gafodd eu datblygu gan y tîm cyfreithiol a chyfathrebu ar gael yn Atodiad 1 yn yr adroddiad. Os bydd newid yn cael ei gyflwyno yn dilyn yr ymgynghoriad, bydd angen buddsoddiad ariannol sylweddol. Bydd Llywodraeth Cymru yn darparu cyllid dim ond os gall y Cyngor ddangos fod ganddo gynllun credadwy i gyflawni 70% neu fwy. Heb gynllun o’r fath gall y risg o ddirwy gynyddu a gall hefyd effeithio ar gostau busnes arferol.
Cynghorodd y Pennaeth Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo bod y dystiolaeth genedlaethol yn awgrymu na ellir cyrraedd y targed ailgylchu o 70% drwy addysg a gorfodaeth yn unig a bod rhaid newid dull yn sylweddol. Byddai’r cynllun hirdymor, os caiff ei gymeradwyo, yn diogelu gweithrediadau busnes fel arfer gan fod angen buddsoddi’n sylweddol yn y ddwy ganolfan ailgylchu er mwyn moderneiddio offer a chynnal y gwasanaeth presennol. Nododd hefyd bod mân addasiadau wedi cael eu gwneud i’r holiadur fel ei fod yn haws i’w gwblhau’n ddigidol a bydd cwestiwn yn cael ei gynnwys ar yr effaith ar y Gymraeg yn ogystal yn unol â’r ddyletswydd statudol.
Adroddodd y Cynghorydd Dylan Rees, Cadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio bod y pwyllgor wedi adolygu’r ymgynghoriad arfaethedig yn ei gyfarfod ar 10 Rhagfyr 2025. Pwysleisiodd y pwyllgor bwysigrwydd ymgynghori â chymaint o drigolion â phosib a defnyddio amrywiaeth o ddulliau. Nododd yr aelodau’r prif heriau yn gysylltiedig â chyfraddau ymateb isel a diffyg dealltwriaeth ymysg y cyhoedd o’r angen i newid y trefniadau ar gyfer casglu gwastraff ac ailgylchu i gwrdd â thargedau statudol. Fe wnaethant ofyn am sicrwydd y byddai ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 8. |
|
|
Rhenti a Thaliadau Gwasanaethau Tai 2026/27 Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Tai. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Tai a oedd yn nodi’r rhenti a thaliadau gwasanaethau tai arfaethedig ar gyfer 2026/27 i’w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith.
Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cynghorydd Carwyn Jones, yr Aelod Portffolio Tai a Diogelwch Cymunedol a ddywedodd mai blwyddyn rhent 2026/27 fydd y flwyddyn gyntaf fel rhan o fframwaith Rhenti a Thâl Gwasanaeth newydd Llywodraeth Cymru a fydd yn weithredol rhwng 1 Ebrill 2026 a 31 Mawrth 2036. Ar 24 Hydref, 2025, cadarnhaodd Llywodraeth Cymru ei bod wedi cytuno ar y polisi ar gyfer rhenti tai cymdeithasol ar gyfer 2026/27, a’i bod yn cynghori pob awdurdod lleol i ddefnyddio’r fformiwla Mynegai Prisiau Defnyddwyr + 0.5%, (roedd y Mynegai Prisiau Defnyddwyr yn 3.8% ym mis Medi 2025), a fydd yn golygu cynnydd o ddim mwy na 4.3% ar draws yr holl stoc.
Mae’r Cyngor yn bwriadu defnyddio’r cynnydd uchaf posib er mwyn -
· Cwrdd â Safon Ansawdd Tai Cymru 2023 erbyn 2033 a fydd yn golygu buddsoddiad sylweddol a fydd yn cael ei ariannu drwy’r CRT. · Sicrhau lwfans o £2.7m ar gyfer gwaith atgyweirio mawr sydd heb gynyddu i gwrdd â’r safonau newydd. · Cefnogi’r gwaith o ddarparu cartrefi cymdeithasol fforddiadwy a chyfrannu at darged Llywodraeth Cymru i greu 20,000 o gartrefi newydd.
Er mwyn asesu'r fforddiadwyedd rhent cyfartalog presennol ar gyfer tenantiaid y Cyngor, defnyddiwyd methodoleg Rhentu Byw Sefydliad Joseph Rowntree (JRF) sy’n cadarnhau y bydd y rhent a'r tâl gwasanaeth cyfartalog ar gyfer pob math a maint o eiddo yn dal i fod yn fforddiadwy i denantiaid ar Ynys Môn ar ôl cymhwyso’r cynnydd o 4.3%. Hefyd, ni fydd 77% o denantiaid y Cyngor yn wynebu caledi ychwanegol gan eu bod yn derbyn Budd-dal Tai llawn neu ran ohono neu’n derbyn Credyd Cynhwysol. Mae’r Tîm Cynhwysiant Ariannol hefyd ar gael i ddarparu cyngor a chymorth i unrhyw denantiaid sy’n wynebu caledi ariannol o ganlyniad i’r cynnydd.
Bydd taliadau am wasanaethau yn ystod 2026/27 yn seiliedig ar gostau gwirioneddol a gafwyd yn ystod 2024/25, a byddant yn cael eu rhannu’n gyfartal ymhlith tenantiaid a lesddeiliaid sy’n defnyddio’r gwasanaethau. Mae mwyafrif y costau hyn yn gymwys am Fudd-dal Tai neu Gredyd Cynhwysol. Bydd yr incwm ychwanegol a gynhyrchir yn sgil cynyddu’r rhent ar gyfer garejis yn cael ei ddefnyddio i ddatblygu cynllun strategol ar gyfer y garejis.
Pwysleisiodd y Pwyllgor Gwaith bod gallu’r Cyngor i fuddsoddi yn ei stoc dai i gwrdd â SATC yn ddibynnol ar gyllideb y CRT, a gefnogir gan yr incwm rhenti. Nododd yr aelodau bod rhenti’n dal i fod yn fforddiadwy o dan fethodoleg y JRF, ond roeddent yn annog tenantiaid i droi at Dîm Cynhwysiant Ariannol y Gwasanaethau Tai, y Ganolfan Cyngor ar Bopeth neu Canolfan J. E. O’Toole, i gael cyngor ar fudd-daliadau os ydynt yn wynebu caled ariannol.
Penderfynwyd cymeradwyo’r canlynol –
· Cynnydd o 4.3% ar draws yr holl unedau rhent cyffredinol sy’n unol â pholisi rhent Llywodraeth Cymru wrth gasglu dros 51 wythnos. · Cynnydd o £1.10 yr wythnos ar gyfer rhenti pob garej. · Bod y taliadau gwasanaeth a ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 9. |
|
|
Cau Allan y Wasg a'r Cyhoedd Ystyried mabwysiadau’r canlynol –
“Dan Adran 100 (A)(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, mae modd cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol, oherwydd y posibilrwydd y caiff gwybodaeth ei rhyddhau a honno’n wybodaeth y gwna Atodlen 12A y Ddeddf a’r Prawf Budd y Cyhoedd eithriad ohoni.” Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Penderfynwyd o dan Adran 100 (A) (4) Deddf Llywodraeth Leol 1972 i gau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol ar y sail y golygai ddatgelu gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym mharagraffau 12, 13 a 14 o Atodlen 12A o’r Ddeddf honno ac yn y Prawf Budd y Cyhoedd a gyflwynwyd.
|
|
|
Ymateb i’r Her Tai Lleol - Datblygiad tai dros 10 uned: Plas Penlan, Llangefni
Cyflwyno adoddiad y Pennaeth Gwasanaethau Tai. Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Tai yn gysylltiedig â’r cynllun tai cyngor newydd arfaethedig ym Mhlas Penlan, Llangefni i’w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith.
Cyflwynwyd yr adroddiad gan Carwyn Jones, yr Aelod Portffolio Tai a Diogelwch Cymunedol a ddywedodd mai’r safle dan ystyriaeth yw safle hen gartref gofal Plas Penlan sydd wedi cau ers bron i ddegawd. Mae’r bwriad yn gyfle i ddymchwel y cartref a chlirio ac ailddatblygu’r safle i greu 12 cartref fforddiadwy ar gyfer trigolion lleol yn cynnwys byngalos un, dwy a thair ystafell wely ynghyd ag uned bwrpasol ar gyfer y Gwasanaethau Cymdeithasol i gefnogi trigolion gydag anableddau dysgu a all leihau costau refeniw yn y dyfodol drwy ddarparu darpariaeth fewnol i’r grŵp yma o gleientiaid. Bydd y datblygiad yn cael ei ariannu’n rhannol gan y Grant Tai Cymdeithasol a’r CRT. Mae’r model dichonolrwydd cychwynnol yn awgrymu y byddai’r datblygiad yn hyfyw ac y byddai’n cydymffurfio a gweithdrefnau datblygu’r Cyngor.
Mae cais cynllunio llawn wedi cael ei gyflwyno a disgwylir penderfyniad yng Ngwanwyn 2026.
Cadarnhaodd y Pennaeth Gwasanaethau Tai bod rhestr aros y Cyngor yn dangos bod galw mawr am fyngalos un a dwy ystafell wely yn Llangefni, ac y byddai’r datblygiad yn helpu i gwrdd â’r galw hwn gan mai’r bwriad yw gosod y byngalos ar rent cymdeithasol i bobl hŷn.
Roedd y Pwyllgor Gwaith yn croesawu’r bwriad gan y byddai’n gwneud defnydd cadarnhaol o hen gartref gofal gwag, a pe byddai caniatâd cynllunio’n cael ei roi, byddai’n mynd i’r afael â’r galw am fyngalos yn Llangefni a chefnogi gwaith ar y cyd â’r Gwasanaethau Cymdeithasol.
Penderfynwyd cymeradwyo symud ymlaen i ddatblygu cynllun o 12 tai newydd ym Mhlas Penlan, Llangefni* fydd ar gael i drigolion lleol fel cartrefi fforddiadwy i’w rhentu mewn ymateb i’r her tai lleol.
*Mae gwireddu’r cynllun yn amodol ar dderbyn caniatâd cynllunio iddo.
|