Rhaglen, Penderfyniadau a Chofnodion.

Pwyllgor Gwaith, Ystafell Bwyllgor, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni ac yn Rhithiol drwy ZOOM, Pwyllgor Gwaith - Dydd Mawrth, 27ain Ionawr, 2026 10.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni ac yn Rhithiol drwy ZOOM

Cyswllt: Ann Holmes 

Cyfryngau

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Ymddiheuriadau

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nodwyd yr ymddiheuriad am absenoldeb.

 

2.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn datganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu i’r Cynghorydd Dafydd Roberts a Mr Marc Jones, Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 ddatgan buddiant personol a oedd yn rhagfarnu mewn perthynas ag eitem 8 ar yr agenda a gadawodd y ddau y cyfarfod pan drafodwyd yr eitem.

 

3.

Materion brys ardystiwyd gan y Prif Weithredwr neu ei Swyddog Apwyntiedig

Dim materion brys ar adeg anfon y rhaglen hon.                                                                                   

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim i'w adrodd.

 

4.

Cofnodion pdf eicon PDF 181 KB

Cyflwyno i’w cadarnhau, gofnodion drafft cyfarfodydd y Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar y dyddiadau canlynol: -

 

·     16 Rhagfyr 2025

·      6 Ionawr 2026 (Arbennig)

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfodydd blaenorol y Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar y dyddiadau a nodir isod i'w cadarnhau:-

 

·      16 Rhagfyr 2025

·      6 Ionawr 2026 (arbennig)

 

Penderfynwyd cadarnhau bod cofnodion cyfarfodydd blaenorol y Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar y dyddiadau isod yn gywir –

 

·      16 Rhagfyr 2025

·      6 Ionawr 2026 (arbennig)

 

5.

Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith pdf eicon PDF 266 KB

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Democratiaeth a oedd yn cynnwys Blaenraglen Waith y Pwyllgor Gwaith ar gyfer y cyfnod rhwng Chwefror a Medi, 2026 i'w gadarnhau.

 

Diweddarodd y Pennaeth Democratiaeth y Pwyllgor Gwaith ar y newidiadau canlynol i'r Blaenraglen Waith –

 

·           Newid i'r Cyfansoddiad – Cymeradwyaeth derfynol i Ddatganiad Llywodraethu Blynyddol y Cyngor, a Maes Parcio Biwmares yn eitemau newydd ar gyfer cyfarfod 24 Chwefror 2026.  

·           Mae ffioedd Cartrefi Gofal y Sector Annibynnol ar gyfer 2026/27 a'r Ardoll Ymwelwyr yn eitemau a aildrefnwyd i gyfarfod 24 Chwefror 2026.

 

Penderfynwyd cadarnhau Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith wedi’i diweddaru ar gyfer y cyfnod rhwng Chwefror a Medi 2026 gyda’r newidiadau y cyfeiriwyd atynt yn y cyfarfod.

 

6.

Cyllideb Refeniw Ddrafft 2026/27 pdf eicon PDF 422 KB

Cyflwyno adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 a oedd yn nodi cyllideb refeniw dros dro y Pwyllgor Gwaith ar gyfer 2026/27 i'w ystyried.

 

Cyflwynodd y Cynghorydd Robin Williams, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Portffolio Cyllid, Busnes Corfforaethol a Phrofiad Cwsmeriaid yr adroddiad gan nodi bod y cynigion ar gyfer y gyllideb ddrafft gychwynnol wedi'u trafod yn llawn yng nghyfarfod y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol yr wythnos diwethaf. Y cynnydd mewn cyllid ar gyfer Ynys Môn ar gyfer 2026/27 yw 4.2%. Fodd bynnag, oherwydd y setiau data y mae'r fformiwla dyrannu wedi'i seilio arnynt, mae hwn yn cynrychioli un o'r setliadau isaf o blith y cynghorau yng Nghymru. Mae'n is na'r cynnydd cyfartalog o 4.5% gyda'r uchaf - Cyngor Casnewydd, yn derbyn 6.1%.

 

Mae'r Cyngor yn parhau i wynebu galw cynyddol, yn enwedig ym maes gofal cymdeithasol i Oedolion a Phlant yn ogystal â phwysau cyflogau sy'n gysylltiedig â'r Cyflog Byw Cenedlaethol a'r Cyflog Byw Gwirioneddol, y ddau ohonynt yn cynyddu ar gyfradd uwch na chwyddiant CPI. Mae'r gyllideb ddrafft yn cynnig cyfanswm cyllideb gychwynnol o £207.023 miliwn, cynnydd o 4.8% yn y Dreth Gyngor ynghyd â 0.3% ar gyfer Ardoll y Gwasanaeth Tân, gan arwain at gynnydd o 5.1%, gan fynd â thâl Band D i £1,792.98. Mae hefyd yn cynnig cadw'r premiwm ail gartrefi a chartrefi gwag ar 100% a rhyddhau £1.685m o falansau cyffredinol y Cyngor a chronfeydd wrth gefn a glustnodwyd i sicrhau cyllideb gytbwys ar gyfer 2026/27. Ni ddisgwylir unrhyw newidiadau sylweddol i'r ffigurau hyn cyn i'r gyllideb derfynol gael ei chyflwyno i'r Cyngor Llawn ar 5 Mawrth 2026.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 fod y setliad terfynol a dderbyniwyd yr wythnos diwethaf £5,962 yn uwch na'r ffigur a ddyfynnwyd yn yr adroddiad a bydd y gyllideb derfynol a gynigir yn cael ei haddasu yn unol â hynny. Nid yw'r cynnydd yn y dreth gyngor yn cynnwys praeseptau Heddlu Gogledd Cymru na Chyngor Tref a Chymuned, a fydd yn cael eu hychwanegu ar wahân. 

 

Rhoddodd y Cynghorydd Jeff Evans, Cadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol adroddiad ar gyfarfod y pwyllgor ar 21 Ionawr 2026 lle bu aelodau'n ystyried yr adroddiad a'r cynigion ar gyfer y gyllideb refeniw ddrafft. Cynhaliodd y pwyllgor drafodaeth lawn a gonest ar gyllid y Cyngor a sut i gydbwyso'r gyllideb a gwahoddwyd cyfraniadau gan aelodau nad ydynt yn aelodau o'r pwyllgor. Rhoddwyd sylw arbennig i gronfeydd wrth gefn y Cyngor, y premiwm ar gartrefi gwag ac ail gartrefi, a'r cynnydd arfaethedig yn y Dreth Gyngor. Ar ôl ceisio sicrwydd ynghylch nifer o gwestiynau ac ystyried yr ymatebion a ddarparwyd gan yr Aelod Portffolio a'r swyddogion, penderfynodd y pwyllgor gefnogi'r cynigion cychwynnol ar gyfer y gyllideb ddrafft ar gyfer 2026/27 fel y'u cyflwynwyd a'u hargymell i'r Pwyllgor Gwaith.

 

Diolchodd y Pwyllgor Gwaith i'r Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol am y drafodaeth fanwl yng nghyfarfod yr wythnos diwethaf. Cydnabu aelodau’r pwyllgor gwaith y gwaith sylweddol sy'n gysylltiedig â pharatoi’r gyllideb, gan nodi ei bod yn broses hir sy'n cynnwys nifer o gyfarfodydd a heriau, gan ddechrau  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 6.

7.

Strategaeth Gyfalaf 2026 – 2031 pdf eicon PDF 1 MB

Cyflwyno adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 a oedd yn cynnwys Strategaeth Gyfalaf 2026-2031 i'w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith.

 

Cyflwynodd y Cynghorydd Robin Williams, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Portffolio Cyllid, Busnes Corfforaethol a Phrofiad Cwsmeriaid yr adroddiad, gan nodi bod Cod Darbodus CIPFA diwygiedig yn ei gwneud yn ofynnol i bob awdurdod lleol baratoi strategaeth gyfalaf. Mae'r strategaeth yn nodi gofynion buddsoddi hirdymor y Cyngor sy'n deillio o Gynllun y Cyngor a strategaethau cysylltiedig eraill ynghyd â'r buddsoddiad cyfalaf sy'n ofynnol i gyflawni'r amcanion hynny.

 

Mae'r gofyniad gwariant cyfalaf dros y pum mlynedd nesaf yn cael ei gyflwyno trwy dri senario -

 

·                Achos sylfaenol sy'n defnyddio’r cyllid sydd wedi’i sicrhau

·                Achos uchelgeisiol sy'n defnyddio lefel o fenthyca heb gymorth a allai fod yn fforddiadwy os bydd sefyllfa cyllideb refeniw y Cyngor yn gwella

·                Achos delfrydol sef y buddsoddiad sydd ei angen i gyflawni holl amcanion y Cyngor a dod â'r holl asedau presennol i gyflwr derbyniol

 

Cydnabu'r Cynghorydd Robin Williams fod llawer o adeiladau'r Cyngor yn heneiddio a bod angen buddsoddiad sylweddol ar rai. Er y byddai buddsoddiad o'r fath yn ddymunol, mae'n dibynnu ar lefel cyllid cyfalaf Llywodraeth Cymru yn y dyfodol. Bydd yr elw o werthu asedau yn parhau i gael ei ail-fuddsoddi yn yr ystâd.

 

Adroddodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 mai prif bwrpas y strategaeth yw rheoli lefelau gwariant a benthyca. Mae goblygiadau benthyca a refeniw pob senario wedi'u nodi yn y strategaeth - mae'r achos sylfaen yn cadw costau’n sefydlog, tra bod yr achos delfrydol yn arwain at gostau sylweddol uwch ac anfforddiadwy. Mae'r achos uchelgeisiol yn cynrychioli'r sefyllfa a ffefrir ond mae'n dibynnu ar sicrhau grantiau ychwanegol gan Lywodraeth Cymru. Mae benthyca heb gymorth yn parhau i fod yn opsiwn, ond byddai'r costau cysylltiedig yn disgyn ar drethdalwyr Ynys Môn. Felly, mae angen i'r Cyngor anelu at lefel o wariant rhwng yr achos sylfaenol a'r achos uchelgeisiol, gan nad yw gwariant achos sylfaen yn unig yn ddigon i gynnal asedau presennol.

 

Cydnabu'r Pwyllgor Gwaith y gall rheoli asedau fod yn gymhleth a nododd, er y gellir ymestyn oes asedau, mewn rhai achosion, rhaid cynnal adeiladau er mwyn osgoi costau uwch yn y tymor hir. Gyda chyllid cyfalaf a grantiau yn lleihau, mae benthyca yn fwyfwy angenrheidiol. Croesawodd Aelodau’r pwyllgor gwaith lefel y manylder yn y strategaeth, yn enwedig y tri model senario achos, sy'n dangos yn glir yr heriau sy'n wynebu'r Cyngor o safbwynt gwariant cyfalaf.

 

Tynnodd y Prif Weithredwr sylw at y rhyngberthynas rhwng y strategaeth gyfalaf, Cynllun y Cyngor a chynlluniau strategol eraill. Eglurodd fod gwaith ar y gweill i nodi'r cyllid blynyddol sydd ei angen i gynnal y gwasanaethau sy'n gysylltiedig â'r cynlluniau hynny. Mae bwlch yn parhau rhwng yr adnoddau sydd ar gael a'r hyn sydd ei angen. Er bod y Cyngor wedi llwyddo i sicrhau grantiau, bydd angen ystyried adolygu ystâd y Cyngor i leihau nifer yr adeiladau a'r lleoliadau. Mae'r rhain yn benderfyniadau hirdymor, wedi'u cymhlethu gan amodau sy'n gysylltiedig â llawer o adeiladau,  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 7.

8.

Premiwm y Dreth Gyngor pdf eicon PDF 475 KB

Cyflwyno adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151. 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad gan y Rheolwr Gwasanaeth Refeniw a Budd-daliadau yn nodi canlyniad yr ymgynghoriad ar opsiynau mewn perthynas â'r premiwm ar gartrefi gwag hirdymor i'w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith. Dechreuodd yr ymgynghoriad ar 29 Medi 2025 a daeth i ben ar 7 Tachwedd 2025 ac roedd yn agored i drigolion Ynys Môn yn ogystal â pherchnogion eiddo gwag hirdymor.

 

Cyflwynodd y Cynghorydd Robin Williams, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Portffolio Cyllid, Busnes Corfforaethol a Phrofiad Cwsmeriaid yr adroddiad, gan nodi bod sawl opsiwn wedi'u hystyried fel rhan o'r ymgynghoriad fel y manylir yn yr adroddiad. Derbyniwyd cyfanswm o 449 o ymatebion, o’r rheini roedd 136 wedi'u cwblhau'n rhannol a 313 wedi'u cwblhau'n llawn. Ar ôl ystyried yr ymatebion, yr opsiwn a argymhellir gan y Pwyllgor Gwaith yw Opsiwn 5 – i osod lefel y premiwm yn seiliedig ar faint o amser y mae'r eiddo wedi bod yn wag:

 

·      llai na 5 mlynedd – 100%.

·      rhwng 5 a 6 blynedd – 125%.

·      rhwng 6 a 7 mlynedd – 150%.

·      rhwng 7 ac 8 mlynedd – 175%.

·      rhwng 8 a 9 mlynedd – 200%.

·      rhwng 9 a 10 mlynedd – 250%.

·      dros 10 mlynedd – 300%

 

Byddai hyn yn cael ei weithredu o fis Ebrill 2027. Y nod yw annog perchnogion eiddo gwag hirdymor i ddod â'u heiddo yn ôl i ddefnydd, gan helpu i ddarparu cartrefi diogel a fforddiadwy a chynyddu'r cyflenwad o dai fforddiadwy yn lleol. Tynnodd y Cynghorydd Robin Williams sylw at y ffaith bod eithriadau i'r premiwm ar eiddo gwag hirdymor, sydd wedi'u rhestru yn Atodiad 2 yr adroddiad.

 

Cadarnhaodd Rheolwr Gwasanaeth Refeniw a Budd-daliadau y byddai perchnogion eiddo gwag hirdymor yn cael eu hysbysu ynghylch unrhyw newidiadau i'r trefniadau premiwm presennol os cânt eu cymeradwyo. Cadarnhaodd ymhellach fod gan y gwasanaeth ddigon o gapasiti i ddelio ag unrhyw ymholiadau.

 

Nododd y Pwyllgor Gwaith y gallai'r 805 eiddo gwag ar yr Ynys helpu i fynd i'r afael ag anghenion tai ar hyn o bryd, o ystyried bod tua 950 o bobl, gan gynnwys teuluoedd, ar restr aros y gofrestr dai. Yr amcan yw dod â'r eiddo hwn yn ôl i ddefnydd trwy werthu neu rentu fel rhan o strategaeth ehangach i leihau nifer y cartrefi gwag a chefnogi amcan Cynllun y Cyngor i sicrhau bod gan bawb le i'w alw'n gartref.

 

Cydnabu aelodau’r pwyllgor gwaith y gallai rhai unigolion fod wedi etifeddu cartrefi mawr y mae angen gwneud gwaith uwchraddio sylweddol arnynt, gan eu gwneud yn anodd eu gwerthu. Fodd bynnag, nodwyd bod y mwyafrif o eiddo gwag hirdymor yn dod o fewn Bandiau Treth y Cyngor A i D, gyda llai na chwarter ym Mand E neu uwch (gweler Tabl 1.3). Nododd yr Aelodau hefyd fod cynlluniau ar gael i helpu i ddod ag eiddo gwag yn ôl i ddefnydd, fel Cynllun Prydlesu Cymru ac anogodd unrhyw un sy'n ansicr o'u sefyllfa i esbonio eu hamgylchiadau a gofyn am gyngor gan y Cyngor. Pwysleisiodd bwysigrwydd cyfathrebu'n glir â pherchnogion eiddo gwag i esbonio'r rhesymeg dros newid y  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 8.

9.

Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol Di-breswyl yn y Gymuned – Ffioedd a Thaliadau 2026/27 pdf eicon PDF 201 KB

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion yn gofyn am gymeradwyaeth y Pwyllgor Gwaith i osod y ffioedd a'r taliadau ar gyfer gwasanaethau gofal cymdeithasol dibreswyl yn y gymunedol ar gyfer 2026/27 i'w ystyried.

 

Yn absenoldeb Aelod Portffolio Gwasanaethau Oedolion, cyflwynodd y Cynghorydd Dyfed Wyn Jones, Aelod Portffolio Plant, Pobl Ifanc a Theuluoedd yr adroddiad a oedd yn amlinellu'r ffioedd a'r taliadau arfaethedig ar gyfer blwyddyn ariannol 2026/27 yn unol â Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Nodwyd bod ffioedd am wasanaethau gofal cartref yn cael eu hadolygu'n flynyddol i gyd-fynd ag adolygiad y Llywodraeth Ganolog o lefelau pensiwn a budd-daliadau.

 

Tynnodd y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion sylw at y ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau trwy ei setliad bod y cap wythnosol o £100 ar ofal dibreswyl yn cael ei gadw. Mynegodd y Cynghorydd Alun Roberts, fel cyn-aelod o bortffolio Gwasanaethau Oedolion, siom am y penderfyniad hwn, gan nodi bod pwysau parhaus wedi bod ar Lywodraeth Cymru i godi'r cap fel bod ffioedd yn adlewyrchu'n fwy cywir y gost wirioneddol o ddarparu gwasanaethau.

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r canlynol –

 

·      Codi’r uchafswm a ganiateir gan Lywodraeth Cymru ar gyfer gwasanaethau gofal cartref.

 

·      Y taliadau ar gyfer gwasanaethau Teleofal, fel yr amlinellir yn Nhabl A yr adroddiad:

 

  • Haen 1 – bydd pawb yn talu £81.25 y chwarter
  • Haen 2 – bydd pawb yn talu £159.25 y chwarter

 

·      Y taliadau blynyddol ar gyfer gwasanaethau Teleofal, fel yr amlinellir yn Nhabl B yr adroddiad:

 

  • Gwasanaethau a Chynnal a Chadw £147.95
  • Gwasanaethau yn unig £95.00
  • Costau gosod unwaith ac am byth £59.20

 

·      Cyfradd o £17.85 yr awr ar gyfer Taliadau Uniongyrchol

·      Gweithredu tâl o £20.00 yr awr ar gyfer Micro Ofalwyr

·      Cadw’r taliad o £10.00 ar gyfer gweinyddu ceisiadau am Fathodynnau Glas a darparu bathodynnau newydd fel yr amlinellwyd

·      Cynnydd o 3.8%, i £46.85 y dydd, yn y ffi ar gyfer prynu gwasanaethau gofal dydd mewn cartrefi preswyl annibynnol

·      Cynnydd o £1.38 yr awr yn y ffioedd Gofal Cartref, i gyd-fynd â’r cynnydd yn y Cyflog Byw Gwirioneddol

 

·      Y taliadau ar gyfer Prydau Bwyd mewn Gwasanaethau Dydd, fel yr amlinellir yn Nhabl C yr adroddiad:

 

  • Prydau mewn Gwasanaethau Dydd ar gyfer oedolion (ac eithrio pobl ag anableddau dysgu) - £8.10
  • Byrbryd ganol dydd mewn Gwasanaethau Dydd ar gyfer pobl ag anableddau dysgu - £3.45
  • Lluniaeth arall (te / coffi / teisen) mewn Gwasanaethau Dydd - £1.95

 

10.

Cartrefi'r Awdurdod Lleol i Bobl Hyn - Pennu'r Ffi Safonol 2026/27 pdf eicon PDF 198 KB

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion. 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion yn gofyn am gymeradwyaeth y Pwyllgor Gwaith i osod y tâl safonol ar gyfer cartrefi gofal y Cyngor ar gyfer 2026/27.

 

Yn absenoldeb Aelod Portffolio Gwasanaethau Oedolion, cyflwynodd y Cynghorydd Dyfed Wyn Jones, Aelod Portffolio Plant, Pobl Ifanc a Theuluoedd yr adroddiad, gan nodi bod gosod y tâl blynyddol yn ofyniad o dan Adran 22 o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948.

 

Mewn ymateb i gais gan aelod o’r pwyllgor gwaith am ddiweddariad ynghylch y galw am ofal dementia a gallu'r gwasanaeth i ymateb, cadarnhaodd Pennaeth Gwasanaethau Oedolion fod y sefyllfa’n parhau i fod yn heriol. Mae rhestr aros ar gyfer unigolion sydd angen gofal dementia, gyda'r galw yn cynyddu, yn enwedig am ofal nyrsio dementia nad yw'r Cyngor yn ei ddarparu. Mae'r rhain yn feysydd lle mae'n anodd sicrhau lleoliadau. Mae'r gofyniad am ddarparwyr posibl hefyd yn fwy llym o ran lefelau staffio a'r amgylchedd ffisegol. Er y byddai twf yn y ddarpariaeth yn y meysydd hyn yn ddymunol, mae cyflawni hyn yn parhau i fod yn her ar hyn o bryd.

 

Cydnabu'r Pwyllgor Gwaith ymrwymiad ac ymroddiad staff sy'n gofalu am unigolion sy'n byw gyda dementia. 

 

Penderfynwyd -

 

·      Mai’r ffi safonol ar gyfer cartrefi preswyl yw £1,026.52 yr wythnos, sef y gost lawn am y gwasanaeth.

·      Oherwydd y cytunwyd yn 2025/26 fod cost lawn y gwasanaeth yn cael ei gyflwyno dros gyfnod o 3 blynedd, caiff cost lawn y gwasanaeth gofal preswyl dementia ei ostwng i £1,150.99 yr wythnos yn 2026/27.

 

11.

Cynllun Tuag at Sero Net 2026-2031 pdf eicon PDF 1 MB

Cyflwyno adroddiad y Prif Weithredwr.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Dirprwy Brif Weithredwr a oedd yn cynnwys y Cynllun Strategol Tuag at Sero Net 2026-2031 i'w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith.

 

Cyflwynodd y Cynghorydd Ieuan Williams, Aelod Portffolio Priffyrdd, Gwastraff a Newid Hinsawdd yr adroddiad gan nodi y bydd y Cynllun arfaethedig yn parhau i hyrwyddo nod y Cyngor o ddod yn sefydliad sero net. Mae'n adeiladu ar y cynnydd a'r gwersi o'r Cynllun Strategol Tuag at Sero Net blaenorol 2022-2025 fel yr amlinellwyd yn yr Adroddiad Pwynt Diwedd. Mae'r cynllun newydd yn cydnabod nad yw targed 2030 y Cyngor ar gyfer cyrraedd statws sero net yn ymarferol o fewn yr adnoddau presennol, yr amser sydd ar gael neu raddfa'r datgarboneiddio sydd ei angen. Felly, mae'n cynnig gosod targed sy’n gyson â tharged carbon sero net Cymru erbyn 2050 a osodwyd gan Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016.

 

Mae'r cynllun yn amlinellu sut y bydd y Cyngor yn parhau i drawsnewid y fflyd trwy leihau allyriadau carbon, cynyddu’r carbon a amsugnir a chryfhau gwytnwch sefydliadol i hinsawdd sy'n newid. Mae'n nodi chwe maes blaenoriaeth allweddol sy'n cynnwys asedau ac allyriadau tai, allyriadau trafnidiaeth y Cyngor, allyriadau’r gadwyn gyflenwi, defnydd tir, adfer natur a bioamrywiaeth, datblygu sefydliadol, a phrosiectau strategol a gwytnwch hinsawdd.

 

Tynnodd y Cynghorydd Ieuan Williams sylw at oblygiadau ariannol gweithio tuag at sero net a nododd nad yw cyllid Llywodraeth Cymru wedi'i gynnwys yn y setliad, er bod grantiau ar gael ac y gall y Cyngor gael mynediad at fenthyciadau di-log ar gyfer rhai gweithgareddau. Esboniodd hefyd y trefniadau monitro a llywodraethu ac argymhellodd fod y Rheolwr Newid Hinsawdd yn goruchwylio'r holl gynlluniau gweithredu sero net lefel gwasanaeth a'u cydgrynhoi mewn un cynllun. Cynigiodd ymhellach y dylid penodi aelod etholedig naill ai o'r Pwyllgor Gwaith neu'r Pwyllgor Sgriwtini i'r Grŵp Llywio Sero Net.

 

Rhoddodd y Cynghorydd Jeff Evans, Cadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol adroddiad ar gyfarfod y pwyllgor ar 21 Ionawr 2026 lle bu aelodau'n ystyried y Cynllun Strategol Tuag at Sero Net 2026-31. Cafodd y pwyllgor ei ddiweddaru ynghylch yr hyn a gyflawnwyd o dan y  cynllun blaenorol a blaenoriaethau'r Cyngor o dan y cynllun newydd. Cafodd yr aelodau eu sicrhau hefyd ynglŷn â'r trefniadau monitro a llywodraethu sydd ar waith i sicrhau cynnydd. Roedd y pwyllgor wedi ceisio sicrwydd pellach ar faterion sy'n ymwneud ag asedau a thrafnidiaeth y Cyngor, yn ogystal â'r prif risgiau a'r heriau wrth leihau allyriadau carbon. Ar ôl adolygu'r cynllun, penderfynodd y pwyllgor argymell y Cynllun Strategol Tuag at Sero Net 2026-31 i'r Pwyllgor Gwaith i'w gymeradwyo.

 

Croesawodd y Pwyllgor Gwaith y cynllun a chydnabu’r cynnydd sylweddol a wnaed o dan y cynllun blaenorol. Roedd yr Aelodau yn cydnabod yr heriau sy'n gysylltiedig â chyflawni sero net ond pwysleisiodd ei bwysigrwydd i les cenedlaethau'r dyfodol a'r amgylchedd ehangach.

 

Cydnabu'r Prif Weithredwr hefyd y gwaith a wnaed i ddod â phob rhan o'r Cyngor at ei gilydd ar yr agenda sero net. Pwysleisiodd fod hon yn daith hirdymor, yn enwedig o ystyried nifer o ddyletswyddau a chyfrifoldebau eraill  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 11.