Rhaglen, Penderfyniadau a Chofnodion.

Pwyllgor Gwaith - Dydd Llun, 19eg Medi, 2016 10.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Council Chamber, Council Offices, Llangefni

Cyswllt: Ann Holmes / Mairwen Hughes 

Cyfryngau

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Datganiadau o ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gwnaeth y Cynghorydd H. Eifion Jones ddatganiad o ddiddordeb personol nad oedd yn rhagfarnu mewn perthynas ag eitem 15 ar y rhaglen.

2.

Materion brys a ardystiwyd gan y Prif Weithredwr neu swyddog a benodwyd ganddo.

Dim materion brys ar adeg anfon y rhaglen hon.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim i’w hadrodd.

3.

Cofnodion pdf eicon PDF 184 KB

Cyflwyno i’w cadarnhau, gofnodion drafft y cyfarfodydd o’r Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar y dyddiadau a ganlyn:-

 

  18 Gorffennaf , 2016

  25 Gorffennaf, 2016 (Arbennig)

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd, ar gyfer eu cymeradwyo gan y Pwyllgor Gwaith, gofnodion y cyfarfod diwethaf o’r Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar 18 Gorffennaf a’r cyfarfod arbennig a gynhaliwyd ar 25 Gorffennaf, 2016.

 

Penderfynwyd cadarnhau fel rhai cywir, gofnodion y cyfarfod diwethaf o’r Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar 18 Gorffennaf a’r cyfarfod arbennig a gynhaliwyd ar 25 Gorffennaf.

4.

Cofnodion er gwybodaeth pdf eicon PDF 186 KB

Cyflwyno, er gwybodaeth, gofnodion drafft y cyfarfod o Bwyllgor Cyswllt y Sector Gwirfoddol a gynhaliwyd ar 8 Gorffennaf, 2016.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd er gwybodaeth i’r Pwyllgor Gwaith, gofnodion drafft Pwyllgor Cyswllt y Sector Gwirfoddol a gynhaliwyd ar 8 Gorffennaf, 2016.

 

Penderfynwyd nodi er gwybodaeth, gofnodion y cyfarfod o Bwyllgor Cyswllt y Sector Gwirfoddol a gynhaliwyd ar 8 Gorffennaf 2016.

 

5.

Blaenraglen Waith y Pwyllgor Gwaith pdf eicon PDF 514 KB

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd, a oedd yn cynnwys blaen raglen Waith y Pwyllgor Gwaith ar gyfer y cyfnod Hydref 2016 i Mai 2017, ar gyfer cymeradwyaeth y Pwyllgor Gwaith.

 

Tynnodd y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd sylw at y newidiadau i’r blaen raglen waith ers y cyfnod adrodd diwethaf fel a ganlyn -

 

  Eitemau newydd i’r blaen raglen Waith:

 

  Eitem 2 (Premiymau’r Dreth Gyngor) ac eitem 5 (Protocol Gogledd Cymru ar gyfer y Gymuned Sipsiwn a Theithwyr) sydd i’w hystyried gan y Pwyllgor Gwaith yn ei gyfarfod ar 17 Hydref, 2016.

  Eitem 8 (Sylfaen y Dreth Gyngor), eitem 9 (Cynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor 2017/18) ac eitem 13 (Polisi Ymddygiad Gwrthgymdeithasol Tai) i gael eu hystyried gan y Pwyllgor Gwaith yn ei gyfarfod ar 28 Tachwedd, 2016.

  Eitem 16 (Garejys Tai Cyngor) i gael ei hystyried gan y Pwyllgor Gwaith yn ei gyfarfod ar 19 Rhagfyr.

  Eitem 19 (Asesiad Digonolrwydd Gofal Plant) i’w hystyried gan y Pwyllgor Gwaith yn ei gyfarfod ar 19 Rhagfyr, 2016.

  Eitem 25 (Polisi Gostyngiadau Dewisol Trethi Busnes ar gyfer 2017/18) ac eitem 30 (Cynllun Busnes y Cyfrif Refeniw Tai a Chyllideb Ddrafft 2017/18) i gael eu hystyried gan y Pwyllgor

Gwaith yn ei gyfarfod ar 13 Chwefror, 2017.

  Eitem 33 (Polisi Taliadau Tai Dewisol ar gyfer 2017/18) i gael ei hystyried gan y Pwyllgor Gwaith yn ei gyfarfod ar 20 Mawrth, 2017.

 

  Eitemau ychwanegol nad ydynt ar Flaen Raglen Waith fel y’i cyflwynwyd:

 

  Adroddiad gan y Panel Canlyniad Sgriwtini mewn perthynas â Diogelu Corfforaethol ac adroddiad gan y Panel Canlyniad Sgriwtini mewn perthynas â Gosod Tai Awdurdodau Lleol (Tai Gwag) sydd i’w cyflwyno i’r Pwyllgor Gwaith yn ei gyfarfod ar 17 Hydref, 2016.

 

  Llithriant ar y Blaen Raglen Waith:

 

  Eitem 4 (Llawr y Dref, Llangefni - Achos Busnes) wedi’i ail-drefnu i’w ystyried gan y Pwyllgor ar 17 Hydref, 2016 yn lle 19 Medi.

 

Dywedodd y Cadeirydd y byddai’n ymgynghori â Chadeiryddion y Pwyllgorau Sgriwtini mewn perthynas ag unrhyw eitemau a allai fod angen eu sgriwtineiddio cyn gwneud penderfyniad.

 

Penderfynwyd cadarnhau blaen raglen Waith y Pwyllgor Gwaith fel y’i diweddarwyd am y cyfnod rhwng Hydref 2016 a Mai 2017 yn amodol ar y ddau newid ychwanegol a amlinellwyd yn y cyfarfod.

6.

Strategaeth Iaith Gymraeg pdf eicon PDF 2 MB

Cyflwyno adroddiad gan y Prif Weithredwr CynorthwyolGwella Partneriaethau, Cymunedau a Gwasanaethau.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd y Strategaeth Iaith Ddrafft ar gyfer 2016 i 2021ar gyfer ystyriaeth y Pwyllgor Gwaith cyn ei chyflwyno i’w chymeradwyo gan y Cyngor Sir.

 

Cafwyd crynodeb o’r ddeddfwriaeth a’r cyd-destun polisi a thynnwyd sylw at y ffaith bod Cynllun Gweithredu ar gyfer y flwyddyn gyntaf yn cyd-fynd â’r Strategaeth Iaith Gymraeg ar gyfer 2016 i 2021ac y bydd ei gweithrediad yn cael ei fonitro’n ofalus. Mae’r Fforwm Iaith Strategol wedi cyfrannu’n sylweddol at lunio’r strategaeth o ran adnabod blaenoriaethau ac mae’r strategaeth wedi’i rhannu’n dri maes blaenoriaeth sef Plant a Phobl Ifanc/Y Teulu; y Gweithle, Gwasanaethau Iaith

 

Gymraeg ac Isadeiledd a’r Gymuned. Dywedodd y Cadeirydd fod llawer o waith golygu’r Strategaeth bellach wedi’i gwblhau ar gyfer ei gyflwyno i’r Cyngor Sir.

 

Penderfynwyd argymell i’r Cyngor Sir ei fod yn cymeradwyo’r Strategaeth Iaith Gymraeg (ddrafft) ar gyfer 2016-2021 ac yn rhoi’r awdurdod i’r swyddogion perthnasol, mewn ymgynghoriad gyda’r Aelod Portffolio i gwblhau unrhyw waith golygu pellach y bydd angen ei wneud efallai ar y strategaeth cyn ei chyflwyno i’r Cyngor.

7.

Cerdyn Sgorio Corfforaethol, Chwarter 1, 2016/17 pdf eicon PDF 823 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Trawsnewid Corfforaethol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Trawsnewid Corfforaethol yn cynnwys y Cerdyn Sgorio Corfforaethol ar gyfer Chwarter 1 2016/17 i’w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith.

 

Nododd yr Aelod Portffolio bod cerdyn sgorio cyntaf blwyddyn ariannol 2016/17 yn dangos perfformiad y Cyngor yn erbyn y targedau y cytunwyd arnynt. Eleni, rhoddir mwy o bwyslais ar berfformiad gan fod gwella perfformiad yn dylanwadu ar feysydd eraill a bydd sylw penodol yn cael ei roi i berfformiad sy’n berthnasol i berfformiad awdurdodau lleol eraill. I’r diben hwn, bydd mwy o sgriwtini ar ddangosyddion cenedlaethol a osodir gan Lywodraeth Cymru a bydd gwaith pellach yn cael ei wneud ar feysydd sy’n ymddangos yn Ambr neu’n Goch yn erbyn eu targedau ar gyfer y flwyddyn. Er y gwelliant rhannol mewn ffigyrau salwch, bydd y gwaith o reoli a lleihau lefelau absenoldeb salwch yn parhau i gael eu monitro fel rhan o’r ymdrech barhaus i wella ffigyrau absenoldebau salwch er mwyn bodloni'r targed corfforaethol o 10 niwrnod ar gyfer pob swydd amser llawn (FTE) ac i fynd i’r afael ag achosion salwch hirdymor penodol.

 

Dywedodd y Rheolwr Trawsnewid Corfforaethol a’r Rheolwr Rhaglen bod y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol wrth sgriwtineiddio’r Cerdyn Sgorio ar gyfer Chwarter 1 yn ei gyfarfod ar 12 Medi, 2016 wedi nodi. mewn perthynas ag 1.3.1. y dylai dangosyddion lle mae’r perfformiad wedi llithro ynghyd â lle mae angen i berfformiad wella, gael eu hamlygu; ei fod o’r farn na ddylai argymhelliad 1.3.2 (targedau salwch cyraeddadwy ar gyfer yr holl wasanaethau yn cael eu derbyn yn seiliedig ar ddata hanesyddol), gael ei weithredu hyd nes bydd gwaith Swyddfa Archwilio Cymru mewn perthynas â salwch wedi cael ei gwblhau a’i gyflwyno i’r Pwyllgor Sgriwtini; ac wrth dderbyn y mesurau lliniaru a amlinellir, penderfynodd y Pwyllgor nad oedd angen i’r Penaethiaid Gwasanaeth fynychu’r cyfarfod er mwyn rhoi cyfrif am berfformiad oherwydd ystyriwyd ei bod yn rhy fuan yn y flwyddyn ariannol i unrhyw batrymau penodol ddod i’r amlwg. Fodd bynnag, penderfynodd y Pwyllgor y dylid gofyn i’r Pennaeth Gwasanaethau Plant fynychu ar ddiwedd cyfnod adrodd yr ail chwarter er mwyn sgriwtineiddio perfformiad yn y maes hwn.

 

Cafwyd mwy o fanylion gan y Cynghorydd R.Meirion Jones, Cadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol, am y pwyntiau a godwyd yn y cyfarfod dyddiedig 12 Medi a gofynnodd i adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru gael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol cyn iddo gael ei adrodd yn ôl arno i’r Pwyllgor Gwaith a bod argymhellion y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol, o’i gyfarfod 12 Medi, yn cael eu cyflwyno yn llawn i’r Pwyllgor Gwaith.

 

Dywedodd y Cadeirydd y bydd yr amserlen ar gyfer cyflwyno adroddiadau’n cael ei hystyried fel y gellir cyflwyno adborth y Pwyllgor Sgriwtini i’r Pwyllgor Gwaith yn ysgrifenedig yn y dyfodol. Yn y cyfamser, ystyriodd y Pwyllgor Gwaith sylwadau’r Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol yn llawn yn dilyn ei gyfarfod ar 12 Medi.

 

Penderfynwyd:

 

  nodi’r meysydd y mae’r Uwch Dîm Arweinyddiaeth yn eu  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 7.

8.

Adroddiad Perfformiad Blynyddol 2015/16 pdf eicon PDF 2 MB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Trawsnewid Corfforaethol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Trawsnewid Corfforaethol, yn cynnwys yr Adroddiad Perfformiad Blynyddol drafft ar gyfer 2015/16, i’r Pwyllgor Gwaith ar gyfer ystyriaeth cyn ei gyflwyno i’r Cyngor Sir llawn.

 

Hysbyswyd y Pwyllgor Gwaith gan y Rheolwr Rhaglen a Thrawsnewid Corfforaethol fod y gwaith pellach sydd angen ei wneud ar yr Adroddiad Perfformiad cyn iddo gael ei gyflwyno i’r Cyngor llawn yn cynnwys dadansoddi data cymharol gydag awdurdodau eraill, fodd bynnag, dim ond yn ystod y mis hwn y rhyddhawyd yr wybodaeth.

 

Penderfynwyd bod y fersiwn derfynol o’r Adroddiad Perfformiad Blynyddol ar gyfer 2015/16 yn cael ei chyhoeddi erbyn y dyddiad statudol ym mis Hydref a’i bod yn cael ei chwblhau i’r perwyl hwnnw gan y Swyddogion mewn ymgynghoriad gyda’r Aelod Portffolio.

9.

Cynllun Ariannol ar gyfer y Tymor Canol 2017/18 i 2019/20 pdf eicon PDF 280 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/ Swyddog Adran 151.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) a’r Swyddog Adran 151 yn cynnwys y Cynllun Ariannol Tymor Canol am 2017/18 i 2019/20 ar gyfer ystyriaeth y Pwyllgor Gwaith.

 

Nododd yr Aelod Portffolio ar gyfer Cyllid fod y Cynllun Ariannol Tymor Canol (CATC) yn ddadansoddiad clir a phroffesiynol o’r sefyllfa ariannol debygol yn y tymor canol a’i fod yn gosod strategaeth cyllideb ar gyfer y tair blynedd nesaf ynghyd â’r rhagdybiaethau a fydd yn cael eu cario drosodd i’r broses o osod y gyllideb flynyddol. O ran y bwlch cyllidol rhwng y gyllideb ddigyfnewid (fel yn Nhabl 6 yr adroddiad), a’r rhagamcan o’r arian a fydd ar gael (fel yn Nhabl 8 yr adroddiad) rhagwelir y bydd angen arbedion o tua £8.13 miliwn dros y 3 blynedd nesaf yn y cyllidebau gwasanaeth, sy’n dod i gyfanswm o £104.5 miliwn (cyllideb 2016/17) sydd gyfwerth ag arbedion o 7.8% dros dair blynedd (Tabl 9 yr adroddiad). Rhagwelir y bydd y sefyllfa yn dod yn gliriach unwaith y bydd setliad llywodraeth leol yn cael ei gyhoeddi gan Lywodraeth Cymru yn ystod yr wythnosau  nesaf.

 

Cadarnhaodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) a’r Swyddog Adran 151 sylwadau’r Aelod Portffolio gan ddweud ei bod hi’n anodd rhagweld y sefyllfa ariannol dros y tair blynedd nesaf gydag unrhyw sicrwydd, fodd bynnag, gobeithir y bydd cyhoeddiad y setliad llywodraeth leol cyn hir yn cadarnhau’r sefyllfa ariannol ar gyfer y flwyddyn ariannol sydd i ddod ac yn darparu arweiniad ar gyfer y ddwy flynedd nesaf. Tra bydd y CATC yn cael ei adolygu o ganlyniad i’r wybodaeth newydd a geir, mae’n dangos y sefyllfa y mae’r Awdurdod yn ei rhagweld ar gyfer y tymor canol ar hyn o bryd, y rhagdybiaethau a wnaed a’r sail drostynt.

 

Penderfynwyd nodi cynnwys y cynllun a chymeradwyo’r rhagdybiaethau a wnaed.

10.

Adroddiad Monitro Cyllideb Refeniw 2016/17 – Chwarter 1 pdf eicon PDF 329 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/ Swyddog Adran 151.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) a’r Swyddog Adran 151 yn nodi perfformiad ariannol gwasanaethau’r Cyngor ar gyfer chwarter 1 blwyddyn ariannol 2016/17 ynghyd â chrynodeb o’r sefyllfa arfaethedig ar gyfer y flwyddyn gyfan, i’r Pwyllgor Gwaith ar gyfer ystyriaeth.

 

Nododd yr Aelod Portffolio Cyllid fod y sefyllfa ariannol gyffredinol arfaethedig ar gyfer 2016/17, yn cynnwys y gronfa cyllid corfforaethol a’r Dreth Gyngor ar ddiwedd Chwarter 1, yn orwariant o £366k sy’n 0.3% o gyllideb net y Cyngor ar gyfer 2016/17. Fodd bynnag, er bod yr adroddiad yn dangos gorwariant mewn rhai meysydd fe’i ystyrir yn rhy fuan yn y flwyddyn ariannol i ddod i unrhyw ganlyniadau pendant mewn perthynas â chanlyniadau gwariant ar y gwasanaeth ac mae profiad yn dangos y gall y sefyllfa newid erbyn diwedd yr ail chwarter.

 

Dywedodd y Cynghorydd R. Meirion Jones, Cadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol, fod y Pwyllgor wrth ystyried adroddiad monitro’r gyllideb refeniw yn ei gyfarfod ar 12 Medi, 2016 wedi codi pwyntiau i gael eglurhad penodol mewn perthynas ag incwm parcio ond daethpwyd i gasgliad ei bod hi’n rhy fuan i ddod i unrhyw gasgliadau penodol o’r data a gyflwynwyd ar hyn o bryd.

 

Penderfynwyd:

 

  Nodi’r sefyllfa mewn perthynas â pherfformiad ariannol hyd yma

  Bod unrhyw incwm dros ben o ddatblygiadau cynllunio mawr yn cael ei drosglwyddo i gronfa wrth gefn glustnodedig ar ddiwedd y flwyddyn er mwyn

cyllido cefnogaeth yr awdurdod i ddatblygiadau mawr yn y dyfodol

 

 

11.

Adroddiad Monitro Cyllideb Gyfalaf 2016/17 – Chwarter 1 pdf eicon PDF 424 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/ Swyddog Adran 151.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) a’r Swyddog Adran 151 yn nodi perfformiad ariannol y Gyllideb Gyfalaf ar gyfer chwarter cyntaf blwyddyn ariannol 2016/17 er ystyriaeth y Pwyllgor Gwaith.

 

Nododd yr Aelod Portffolio Cyllid bod yr adroddiad yn darparu adlewyrchiad teg o sefyllfa’r gyllideb gyfalaf ar ddiwedd Chwarter 1 ac yn ychwanegol, ei fod yn amlygu newid yn y cynllun cyfalaf mewn perthynas â rheoli gwastraff, rhywbeth y gofynnir am gymeradwyaeth y Pwyllgor Gwaith yn ei gylch.

 

Dywedodd y Cynghorydd R. Meirion Jones, Cadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol fod y Pwyllgor, wrth ystyried adroddiad monitro'r gyllideb gyfalaf ar gyfer Chwarter 1, yn ei gyfarfod ar 12 Medi, wedi nodi’r risgiau cysylltiedig â’r cynlluniau grant cyfalaf a amlinellwyd yn yr adroddiad a hefyd wedi codi’r mater o ddod o hyd i ffordd arall o gael Telehandler newydd ar gyfer yr Adain Rheoli Gwastraff heb orfod prynu peiriant newydd e.e. drwy brydles. Nododd y Pwyllgor ymhellach y  byddai’n beth doeth i’r Awdurdod fod yn ymwybodol ynghylch pryd y bydd ei asedau yn dod i ddiwedd eu hoes er mwyn iddynt allu cynllunio ar gyfer hynny yn y ffordd briodol.

 

Cadarnhaodd y Pennaeth Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo fod y telehandler wedi cyflawni miloedd o oriau o wasanaeth a bod costau cynnal a chadw’r peiriant a llogi peiriant arall pan fydd y telehandler presennol wedi torri bellach yn eithafol. Cadarnhaodd y Cadeirydd hefyd y cafwyd cais am restr o asedau’r Cyngor a phryd mae hi’n debygol y byddant angen eu hadnewyddu .

 

Penderfynwyd:

 

  Nodi’r cynnydd o ran gwariant a derbynebion yn erbyn y gyllideb gyfalaf.

  Cymeradwyo’r newid yn y prosiect cyfalaf ar gyfer y cynllun rheoli gwastraff er mwyn prynu ‘telehandler’ a phont bwyso newydd.

12.

Adolygiad Rheoli Trysorlys 2015/16 pdf eicon PDF 833 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/ Swyddog Adran 151 fel y’i cyflwynwyd i’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio a gynhaliwyd ar 25 Gorffennaf, 2016.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) a’r Swyddog Adran 151, a oedd yn cynnwys adolygiad o weithgareddau Rheoli Trysorlys yn 2015/16 i’r Pwyllgor Gwaith ar gyfer ystyriaeth cyn iddo gael ei gyflwyno i’r Cyngor llawn.

 

Nododd yr aelod portffolio cyllid fod yr adroddiad Adolygiad Rheoli Trysorlys wedi cael ei sgriwtineiddio gan y Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu yn ei gyfarfod ar 25 Gorffennaf, 2016 ac fe’i derbyniwyd gan y Pwyllgor heb unrhyw sylwadau ychwanegol.

 

Penderfynwyd:

 

  Nodi y bydd y ffigyrau canlyniad yn yr adroddiad hwn yn parhau i fod yn rhai dros dro hyd nes bydd yr archwiliad o’r Datganiad Cyfrifon 2015/16 wedi ei gwblhau a’i lofnodi; adroddir fel sy’n briodol ar unrhyw addasiadau arwyddocaol i’r ffigyrau sydd wedi eu cynnwys yn yr adroddiad hwn;

  Nodi’r dangosyddion pwyllog a thrysorlys dros dro ar gyfer 2015/16 yn yr adroddiad hwn;

  Nodi’r adroddiad rheoli trysorlys blynyddol am 2015/16 a’i gyflwyno i’r Cyngor llawn heb unrhyw sylwadau.

13.

Adroddiad Terfynol y Panel Canlyniad Sgriwtini: Rheoli Dyledion pdf eicon PDF 286 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/ Swyddog Adran 151.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) a’r Swyddog Adran 151 ar y cynnydd a wnaed er mwyn gweithredu argymhellion y Panel Sgriwtini i’r Pwyllgor Gwaith ar gyfer ystyriaeth.

 

Yn unol â’r cais, rhoddodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) a’r Swyddog Adran 151 ddiweddariad i’r Pwyllgor Gwaith am y cynnydd hyd yma o ran gweithredu’r argymhellion a wnaed gan y Panel Canlyniad Sgriwtini a gafodd y dasg o adolygu’r modd y rheolir dyledion o fewn yr Awdurdod. Cododd yr angen am adolygiad o bryder y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol am y lefel o ddyledion a nifer yr anfonebau a godwyd am wasanaethau a ddarperir pan ddylai’r Cyngor fod yn gofyn am daliadau ymlaen llaw am ddarparu’r gwasanaeth. Cadarnhaodd y Swyddog bod lefel dyled yr Awdurdod yn lleihau a bod y broses o newid dulliau casglu incwm er mwyn gallu cynnig ffyrdd amgen i gwsmeriaid o dalu wedi dechrau, fel y nodir yn adran 3 yr adroddiad. Mae polisi Rheoli Dyledion Drafft wedi bod yn ei le ers peth amser ond mae angen ei gysylltu â Strategaeth Taclo Tlodi’r Cyngor er mwyn sicrhau bod y ddau yn cyd-fynd â’i gilydd. Mae’r gwaith o geisio sicrhau hyn wedi dechrau a’r gobaith yw y bydd y Strategaeth Taclo Tlodi wedi’i chymeradwyo erbyn mis Chwefror 2017. Yn dilyn hynny, cynhelir adolygiad terfynol o’r polisi rheoli dyledion corfforaethol a bydd yn ystyried canlyniadau’r ymarfer meincnodi yn unol ag argymhelliad 3.1 y Panel Sgriwtini. Nid yw argymhelliad 2.1 y panel wedi’i ddatblygu hyd yma oherwydd disgwylir am arweiniad y Pwyllgor Gwaith o ran pa gamau y gellid eu cymryd mewn perthynas â’r mater hwn.

 

Nododd y Pwyllgor Gwaith y byddai’n dymuno gweld adroddiad terfynol ar y Polisi Rheoli Dyledion yn cael ei gyflwyno erbyn Mawrth, 2017.

 

Penderfynwyd nodi cynnwys yr adroddiad.

 

14.

Gwahodd Tendrau ar gyfer Gwasanaeth Gofal Cartref yn Ynys Môn pdf eicon PDF 250 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion, yn nodi’r ymagwedd arfaethedig ar gyfer darparu gofal cartref ar Ynys Môn yn y dyfodol, ar gyfer ystyriaeth y Pwyllgor Gwaith.

 

Nododd yr Aelod Portffolio ar gyfer Tai a Gwasanaethau Cymdeithasol mai amcan yr adroddiad yw ceisio cymeradwyaeth ar gyfer model darpariaeth sy’n cynnig cymorth cyson o safon ar gyfer defnyddwyr gwasanaeth sydd angen gofal a chefnogaeth ledled yr Ynys. I’r diben hwnnw, yr opsiwn a ffefrir ar gyfer darparu gwasanaeth gofal cartref ar Ynys Môn yw Opsiwn 3 - comisiynu ar sail ardaloedd - a fydd yn cynnwys mynd allan i dendr ar gyfer tair rhan; bydd y rhannau hyn yn cael eu rhannu yn dair ardal ddaearyddol (Gogledd, Canol a De’r Ynys) gydag un darparwr craidd ar gyfer

pob ardal. Cafwyd ymgynghoriad parhaus â defnyddwyr gwasanaeth a rhanddeiliaid mewn perthynas â’r prosiect sydd wedi cyfrannu at y fanyleb ar gyfer y gwasanaeth a’r bwriad yw cynnal digwyddiad Cyfarfod y Prynwr gyda defnyddwyr gwasanaeth cyn dechrau ar y broses dendro.

 

Eglurodd y Pennaeth Gwasanaeth Oedolion y manteision y dull comisiynu ar sail ardaloedd a’r rheswm dros wneud hynny. Dywedodd y Swyddog y gofynnir am gymeradwyaeth y Pwyllgor Gwaith i symud tuag at broses dendro ar gyfer gwasanaethau gofal cartref yn seiliedig ar dair ardal; i sicrhau bod contract newydd yn ei le erbyn Mai/Mehefin 2017; i ymgysylltu gyda defnyddwyr gwasanaeth a’u hysbysu yn ystod y ddau fis nesaf; i godi ymwybyddiaeth am Daliadau Uniongyrchol ac i ddefnyddio’r adborth a gafwyd er mwyn hysbysu’r opsiwn sydd ar gael fel rhan o’r broses Taliadau Uniongyrchol.

 

Penderfynwyd:

 

  Cefnogi’r broses i wahodd tendrau ar gyfer gofal cartref yn Ynys Môn yn seiliedig ar dair ardal gydag un darparwr craidd ym mhob ardal (sef Opsiwn 3 yn yr adroddiad).

  Sicrhau bod contract newydd ar gyfer y rhaglen yn ei le erbyn mis Mai/Mehefin 2017.

  Ymgysylltu gyda defnyddwyr gwasanaeth yn ystod y ddau fis nesaf er mwyn rhoi gwybod iddynt am y newidiadau.

  Defnyddio’r cyfle i godi ymwybyddiaeth o’r opsiynau sydd ar gael i ddefnyddwyr gwasanaeth mewn perthynas â Thaliadau Uniongyrchol.

  Defnyddio’r adborth i hysbysu’r opsiwn sydd ar gael fel rhan o’r broses Taliadau Uniongyrchol.

 

 

15.

Moderneiddio Ysgolion - Bro Rhosyr a Bro Aberffraw pdf eicon PDF 683 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Dysgu.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Dysgu yn dilyn cyhoeddi’r rhybudd statudol ar gyfer (a) ysgol gynradd newydd yn Aberffraw a (b) Ysgol Parc y Bont i ddod yn ysgol gymunedol ac i ffederaleiddio Ysgol Brynsiencyn i’r Pwyllgor Gwaith ar gyfer ystyriaeth. Roedd yr adroddiad yn cynnwys adroddiad gwrthwynebu fel y’i gwelir Atodiad A yn dilyn derbyn un argymhelliad i wrthod (a) uchod.

 

Adroddodd yr Aelod Portffolio Addysg ar gefndir yr argymhellion mewn perthynas ag aildrefnu ysgolion yn ardaloedd Bro Rhosyr a Bro Aberffraw a’r ymgynghoriad wedi hynny a’r cyhoeddiad dilynol o rybuddion statudol mewn perthynas â gweithredu’r cynigion.

 

Cyfeiriodd y Pennaeth Dysgu at y broses y mae’r Awdurdod wedi’i mabwysiadu er mwyn delio â gwrthwynebiad i benderfyniad gan y Pwyllgor Gwaith i roi rhybudd statudol i gau ysgol gynradd o dan y Cod Trefniadaeth Ysgolion newydd a fydd yn weithredol o 1 Hydref, 2013 a dywedodd fod y broses hon yn golygu y bydd y mater yn cael ei gyfeirio’n ôl i’r Pwyllgor Gwaith er mwyn penderfynu a ddylai’r cynigion gael eu cymeradwyo, eu gwrthod neu eu cymeradwyo gyda gwelliannau. Amlinellodd y Swyddog natur yr un gwrthwynebiad a gafwyd i’r cynnig yn (a) (yn benodol i gyfuno’r pedair ysgol - Ysgol Bodorgan, Ysgol Dwyran, Ysgol Niwbwrch ac Ysgol Llangaffo mewn un ysgol newydd ar safle yn Niwbwrch a fyddai o dan reolaeth wirfoddol yr Eglwys yng Nghymru) a’r tri mater penodol a

godwyd ynddo ac fe amlinellodd ymateb yr Awdurdod i bob un o’r materion hynny.

 

Penderfynwyd:

 

  Cymeradwyo’r cynigion gwreiddiol sef:

 

  cynnig peidio â chefnogi Ysgol Bodorgan (Bodorgan, Ynys Môn LL62 5AB), Ysgol Dwyran (Dwyran, Ynys Môn LL61 6AQ), Ysgol Niwbwrch (Niwbwrch, Ynys Môn LL61 6TE) ac Ysgol Llangaffo (Llangaffo, Ynys Môn LL60 6LT) sydd ar hyn o bryd yn cael eu cynnal gan Gyngor Sir Ynys Môn ac i sefydlu ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg newydd dan reolaeth wirfoddol yr Eglwys yng Nghymru i'w chynnal gan Gyngor Sir Ynys Môn ar safle yn Niwbwrch ar dir ger Morawelon, Niwbwrch, LL61 6TH ar gyfer bechgyn a merched 3-11 oed.

 

  i beidio â chefnogi Ysgol Parc y Bont (Llanddaniel, Ynys Môn LL60 6HB), sydd ar hyn o bryd yn cael ei chynnal gan Gyngor Sir Ynys Môn fel ysgol dan reolaeth wirfoddol yr Eglwys yng Nghymru ac i sefydlu ysgol gynradd gymunedol cyfrwng Cymraeg newydd i'w chynnal gan Gyngor Sir Ynys Môn ar safle Ysgol Parc y Bont ar gyfer bechgyn a merched 3-11 oed. Bydd Ysgol Brynsiencyn yn cael ei ffederaleiddio gydag ysgol arall.

 

  Rhoi’r awdurdod i swyddogion barhau gyda’r broses i -

 

  adeiladu ysgol gynradd newydd yn Niwbwrch (ar yr amod fod y safle’n addas);

  addasu Ysgol Parc y Bont a newid ei statws ac

  addasu Ysgol Brynsiencyn a’i ffederaleiddio hi gydag ysgol gynradd arall.

16.

Partneriaeth Anghenion Dysgu Ychwanegol Ynys Môn a Gwynedd pdf eicon PDF 6 MB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Dysgu.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Dysgu yn nodi’r trefniadau newydd ar gyfer y ddarpariaeth o Anghenion Dysgu Ychwanegol a Gwasanaeth Cynhwysol yng Ngwynedd a Môn ar gyfer ystyriaeth y Pwyllgor Gwaith.

 

Cyflwynodd yr Aelod Portffolio Addysg yr argymhellion ar gyfer sefydlu trefniadau newydd ar gyfer Anghenion Dysgu Ychwanegol a Gwasanaeth Cynhwysol yng Ngwynedd ac Ynys Môn a’u cymeradwyo i’r Pwyllgor Gwaith.

 

Cadarnhaodd y Pennaeth Dysgu'r model llywodraethu arfaethedig ar gyfer yr ALN newydd a Gwasanaeth Cynhwysiant fel yn Atodiad 1 yr adroddiad a chafwyd manylion am sut y byddai’r model yn gweithio o ran sgriwtini, atebolrwydd a’r gwaith o fonitro’r amrywiaeth o wasanaethau i’w darparu ar draws dau faes y Cyngor.

 

Penderfynwyd:

 

  Mabwysiadu un Strategaeth Anghenion Dysgu Ychwanegol a Chynhwysiad Gyffredin ar gyfer Gwynedd ac Ynys Môn a fydd yn cyfarch anghenion y disgyblion a’r bobl ifanc mewn modd effeithiol ac effeithlon i fod yn weithredol erbyn Medi 2017.

  Ymuno mewn partneriaeth ffurfiol efo Cyngor Gwynedd i weithredu’r Strategaeth a mabwysiadu’r drefn llywodraethu newydd y cyfeirir ati yn yr adroddiad hwn, a fydd yn disodli’r Cydbwyllgor Anghenion Addysgol Arbennig (CBAAA).

  Dirprwyo’r hawl i’r Pennaeth Addysg mewn ymgynghoriad â Phennaeth Busnes y Cyngor a’r Pennaeth Adnoddau  i gwblhau Cytundeb Ffurfiol gyda Chyngor Sir Gwynedd ar gyfer y bartneriaeth.

  Dirprwyo’r hawl i’r Pennaeth Addysg mewn ymgynghoriad â Phennaeth Busnes y Cyngor a’r Pennaeth Adnoddau i gwblhau Cytundeb/ memorandwm o ddealltwriaeth ar gyfer y cyfnod interim cyn arwyddo’r Cytundeb ffurfiol, fydd yn datgan ymrwymiad y ddau awdurdod i weithredu’r drefn newydd, ac yn caniatáu gwneud y gwaith sydd ei angen er mwyn cyrraedd y pwynt hwnnw.

17.

Adolygu Polisi Hapchwarae’r Awdurdod pdf eicon PDF 859 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygiad Economaidd a oedd yn ymgorffori Polisi Gamblo diwygiedig ar gyfer ystyriaeth y Pwyllgor Gwaith.

 

Penderfynwyd derbyn yr adroddiad a chyflwyno’r Polisi Gamblo diwygiedig fel y cafodd ei gyflwyno, ar gyfer ei fabwysiadu gan y Cyngor Sir.

18.

Gweledigaeth Twf ar gyfer Economi Gogledd Cymru pdf eicon PDF 1 MB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygiad Economaidd yn cynnwys strategaeth "Gweledigaeth Twf ar gyfer Economi Gogledd Cymru" a gynhyrchwyd gan Fwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru (BUEGC) ar gyfer ystyriaeth a chymeradwyaeth y Pwyllgor Gwaith.

 

Nododd y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygiad Economaidd fod yr Awdurdod, dros y 10 i 15 mlynedd diwethaf, wedi cyflwyno nifer o geisiadau am grantiau i Lywodraeth Cymry ar gyfer cyllid craidd a chyllid Ewropeaidd er mwyn datblygu’r economi. Wrth i adnoddau brinhau mae newidiadau wedi eu cyflwyno gyda’r ffocws yn symud i agwedd mwy rhanbarthol. Mae’r adroddiad yn ceisio tracio’r broses ranbarthol ar gyfer cystadlu am gyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru a San Steffan er mwyn hyrwyddo economi’r ardal. Mae Llywodraeth San Steffan wedi awgrymu y bydd yn datblygu strategaeth ddiwydiannol ar gyfer y DU ar gyfer y deng mlynedd nesaf yn seiliedig ar brosiectau isadeiledd sylweddol ac o gofio bod y prosiect isadeiledd mwyaf o ran arwyddocâd cenedlaethol yn Ynys Môn ar ffurf Wylfa Newydd, mae’n hanfodol bod yr Awdurdod yn ymgysylltu ag ymdrechion rhanbarthol er mwyn ceisio dylanwadu ar ddatblygiadau er mwyn cael y gorau i Fôn a’i thrigolion a’i busnesau.

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r strategaeth "Gweledigaeth Twf ar gyfer Economi Gogledd Cymru" a gynhyrchwyd gan Fwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru (BUEGC) fel sail ar gyfer cychwyn trafodaethau gyda Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru ynghylch Cais Twf ar gyfer y rhanbarth.

19.

Polisi Cydymffurfiaeth â Safonau Ansawdd Tai Cymru pdf eicon PDF 678 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Tai.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Tai yn cynnwys y Polisi Cydymffurfiaeth â Safonau Ansawdd Tai Cymru ar gyfer ystyriaeth y Pwyllgor Gwaith.

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r drafft o’r Polisi Cydymffurfiaeth â Safon Ansawdd Tai Cymru (SATC).