Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau
Cyswllt: Ann Holmes / Mairwen Hughes
Rhif. | Eitem |
---|---|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni dderbyniwyd yr un datganiad o ddiddordeb. |
|
Safleoedd Sipsiwn a Theithwyr Dros Dro - Canol yr Ynys PDF 5 MB Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Tai mewn perthynas â’r uchod. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd - adroddiad y Pennaeth Gwasanaeth Tai mewn
perthynas â'r uchod.
Yn dilyn ymgynghoriad helaeth fel y nodwyd gan yr
Aelod Portffolio, nododd yr ystyrir bod y safle ym Mryngwran yn
anaddas oherwydd materion nad oedd modd eu goresgyn a godwyd gan yr
Awdurdod Priffyrdd ynglŷn â'r ffaith nad yw’r
fynedfa i'r safle yn cwrdd â gofynion diogelwch sylfaenol o ran
gwelededd. ‘Roedd safleoedd 1 a 2 ar ôl i’w
hystyried fel mannau aros dros dro ar gyfer Sipsiwn a Theithwyr.
Mae llai o bryderon technegol am y safle ar Groesfordd Star, ac
mae’r adroddiad gan Wasanaeth Archeolegol Gwynedd yn codi
cwestiynau am addasrwydd y safle yn y Gaerwen a gall gymryd amser
i'w datrys. Fodd bynnag, os ystyrir y dylid ymchwilio ymhellach
i’r safle yn y Gaerwen, dywedodd y byddai angen gwneud gwaith
pellach mewn perthynas â'r safle o ran y materion archeolegol
sy'n gysylltiedig â’r heneb. Bydd angen cynnal asesiad
risg ar gyfer y ddau safle mewn perthynas â materion
technegol, dyluniad y safleoedd a materion iechyd a diogelwch. Bydd
angen penodi Ymgynghorydd priodol i baratoi dyluniad y safleoedd i
ganiatáu ar gyfer costio cynllun o’r fath, a byddai
hynny’n golygu y gellid cyfrifo’r costau. Nododd y
byddai’n haws darparu safle addas yn Star o fewn amserlen
resymol, ond y gellid cynnal astudiaethau pellach ar y naill safle
neu'r llall, neu’r ddau yn y Gaerwen a Star a bod y
penderfyniad yn un i’r Pwyllgor Gwaith ei wneud. |
|
Safleoedd Sipsiwn a Theithwyr Dros Dro - Ardal Caergybi PDF 2 MB Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Tai mewn perthynas â’r uchod. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd - adroddiad y Pennaeth Gwasanaeth Tai mewn
perthynas â'r uchod.
PENDERFYNWYD:-
· Na ddylid bwrw ymlaen gyda’r naill na'r llall o'r ddau safle a gafodd eu cynnwys yn yr ymgynghoriad fel man aros dros dro yng nghyffiniau Caergybi ac na ddylid cynnwys yr un ohonynt yn y Cynllun Datblygu Lleol.
· Dylid gwneud gwaith pellach i ddod o hyd i safleoedd amgen i gwrdd â'r angen am le aros dros dro yn ardal Caergybi fel y nodir yn yr Asesiad o Anghenion Llety Sipsiwn a Theithwyr a gynhaliwyd gan y Cyngor yn 2016 er mwyn cydymffurfio â dyletswyddau’r Cyngor o dan Ran 3 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014.
· Dylid gwneud gwaith pellach i ddeall yn well faint o ddefnydd a wneir o borthladd Caergybi gan Sipsiwn a Theithwyr a nifer y gwersylloedd anawdurdodedig sy’n digwydd o ganlyniad i deithio i’r Porthladd ac oddi yno. Hyn i gynnwys trafodaethau pellach gyda'r Heddlu, Awdurdodau Porthladd, Llywodraeth Cymru a chydranddeiliaid allweddol eraill.
· Fel datrysiad tymor byr, ystyried gosod biniau mewn lleoliad addas i ostwng nifer yr achosion o adael gwastraff domestig yn anghyfreithlon a oedd yn gysylltiedig â gwersylloedd anawdurdodedig yng Nghaergybi.
· Yr Awdurdod i barhau i gyflawni ei rôl i hyrwyddo cydlyniant cymunedol. Rhaid i hyn gydbwyso anghenion cymunedau lleol a Sipsiwn a Theithwyr sy’n ymweld er mwyn iddynt deimlo'n ddiogel, a dylid ymgynghori â nhw ar faterion datblygu, gan gydnabod bod yn rhaid i'r Cyngor weithredu yn erbyn agweddau hiliol a herio sylwadau ymfflamychol.
|
|
Trothwy Gofal - Teuluoedd Gwydn PDF 525 KB Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Plant. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd - adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Plant
mewn perthynas â'r uchod.
PENDERFYNWYD:-
· Rhyddhau cyllid o arian wrth gefn cyffredinol y Cyngor ar gyfer 2016/17 er mwyn ariannu costau’r Tîm Trothwy Gofal.
· Cymeradwyo bod cyllid ar gyfer y ddwy flynedd ddilynol yn cael ei gynnwys yng nghyllideb y gwasanaeth am y ddwy flynedd.
|