Rhaglen, Penderfyniadau a Chofnodion.

Pwyllgor Gwaith - Dydd Llun, 17eg Hydref, 2016 10.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Council Chamber, Council Offices, Llangefni

Cyswllt: Ann Holmes / Mairwen Hughes 

Cyfryngau

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn datganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd yr un datganiad o ddiddordeb.

2.

Materion brys a ardystiwyd gan y Prif Weithredwr neu ei Swyddog Apwyntiedig

Dim materion brys ar adeg anfon y rhaglen hon.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim.

3.

Cofnodion pdf eicon PDF 228 KB

Cyflwyno i’w cadarnhau, cofnodion drafft y Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar 19 Medi 2016. 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd, ar gyfer eu cymeradwyo gan y Pwyllgor Gwaith, gofnodion y cyfarfod diwethaf a gynhaliwyd ar 19 Medi, 2016.

 

PENDERFYNWYD cadarnhau cofnodion y cyfarfod blaenorol o’r Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar 19 Medi, 2016 fel rhai cywir.

4.

Cofnodion er gwybodaeth pdf eicon PDF 214 KB

Cyflwyno, er gwybodaeth, gofnodion cyfarfod y Panel Rhiantu Corfforaethol a gynhaliwyd ar 5 Medi, 2016.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd ar gyfer eu cymeradwyo gan y Pwyllgor Gwaith, gofnodion y Panel Rhiantu Corfforaethol a gynhaliwyd ar 5 Medi, 2016.

 

PENDERFYNWYD cadarnhau cofnodion y cyfarfod o’r Panel Rhaiant Corfforaethol a gynhaliwyd ar 5 Medi, 2016 fel rhai cywir.

5.

Blaenraglen Waith y Pwyllgor Gwaith pdf eicon PDF 515 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd, a oedd yn cynnwys blaen raglen Waith y Pwyllgor Gwaith ar gyfer y cyfnod Tachwedd 2016 i Fehefin 2017, ar gyfer cymeradwyaeth y Pwyllgor Gwaith.  

 

Tynnodd y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd sylw at y newidiadau i’r blaen raglen waith ers y cyfnod adrodd diwethaf fel a ganlyn - 

 

Eitemau newydd i’r Blaen Raglen Waith

 

·      Eitem 9 – Mabwysiadu pwerau gan y Cyngor a dirprwyaeth i Swyddogion wedi’i drefnu i gael ei ystyried gan y Pwyllgor Gwaith yn ei gyfarfod 28 Tachwedd, 2016;

·      Eitem 10 – Rhaglen gwelliannau mân-ddaliadau – bydd diweddariad yn cael ei ystyried gan y Pwyllgor Gwaith yn ei gyfarfod 28 Tachwedd, 2016;

·      Eitem 14 – Safleoedd Sipsiwn a Theithwyr i gael ei ystyried gan y Pwyllgor Gwaith yn ei gyfarfod ar 19 Rhagfyr, 2016;

·      Eitem 30 – Trawsnewid y Gwasanaeth Llyfrgelloedd i’w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith yn ei gyfarfod ar 13 Chwefror, 2017.

 

PENDERFYNWYD cadarnhau Blaen Raglen Waith ddiweddaredig y Pwyllgor Gwaith ar gyfer y cyfnod o fis Tachwedd 2016 i fis Mehefin 2017.

 

6.

Cynllun Strategol Cyllideb Gyfalaf pdf eicon PDF 301 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 ar gyfer ystyriaeth y Pwyllgor Gwaith mewn perthynas â’r uchod. 

 

Rhoddodd y Cadeirydd grynodeb o’r gwariant cyfalaf posibl yn y dyfodol ac effaith yr elfen arian cyfalaf o’r cyfrif refeniw. Nododd fod y Prosiect Ysgolion 21 Ganrif yn rhaglen hirdymor heriol a fydd angen cyllid cyfalaf o £120 miliwn. Cyfeiriodd at brosiectau bach o fewn yr adroddiad a ystyrir yn sylfaenol ac nad ydynt yn rhoi pwysau gormesol ar y gyllideb. Awgrymir y dylid rhoi rhaglen adnewyddu asedau yn ei lle ar gyfer y prosiectau bach hyn.

 

Nododd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 ei fod yn cytuno bod y prosiect Ysgolion 21 Ganrif yn sylweddol ac y bydd yn cael effaith ar y gyllideb addysg a’r gyllideb ysgolion; bydd hefyd yn cynyddu costau refeniw o hyd at £5 miliwn. Os bydd y prosiect yn cael ei ariannu o gyllideb ganolog y Cyngor, byddai’n cael effaith ar wasanaethau eraill o fewn y Cyngor.

 

PENDERFYNWYD

·           Cyflwyno adroddiad pellach i’r cyfarfod o’r Pwyllgor Gwaith yn Ionawr 2017 ynghylch effaith bosib  prosiectau mawr Rhaglen Ysgolion yr Unfed Ganrif ar Hugain ar gyllideb y Cyngor;

·           Bod y cyllid ar gyfer rhaglen gyfalaf 2017/18 yn cael ei gyfyngu i werth y grant cyfalaf cyffredinol, lefel y benthyca â chymorth, gwerth y cyllid ar gyfer prosiectau a gytunwyd yn flaenorol ond nad oes ei angen mwyach, ynghyd â gwerth unrhyw dderbyniadau cyfalaf a gynhyrchwyd ond sydd heb eu dyrannu;

·           Sefydlu’r egwyddor bod yr eitemau a nodir ym mharagraff 6.1. yr adroddiad yn cael eu cynnwys yn y rhaglen gyfalaf bob blwyddyn. Bydd y swm a ddyrennir i bob pennawd yn cael ei gytuno fel rhan o'r broses ar gyfer pennu'r gyllideb gyfalaf bob blwyddyn, gan ddibynnu ar lefel y cyllid sydd ar gael;

·           Ni fydd prosiectau sy'n cael eu hariannu o fenthyca digefnogaeth ond yn cael eu gweithredu os bydd y gostyngiad yn y costau refeniw neu’r cynnydd yn yr incwm a gynhyrchir yn ddigon i gwrdd â'r costau cyllido cyfalaf ychwanegol;

·           Bod rhywfaint o waith arwynebu ffyrdd yn cael ei ariannu o’r rhaglen gyfalaf bob blwyddyn. Bydd y swm a ddyrennir yn dibynnu ar faint o gyllid sydd ei angen i gwrdd ag unrhyw warantau ynghylch isafswm gwerth contractau, y lefel o arian sydd ar gael ac asesiad o gyflwr ffyrdd yr Awdurdod.

·           Ychwanegu prosiectau a ariennir gan grant at raglen gyfalaf 2017/18 unwaith y bydd lefel y cyllid yn hysbys.

·           Bod prosiectau sydd angen rhywfaint o arian cyfatebol i allu denu arian grant yn cael eu hasesu ar sail achos wrth achos gan y Pwyllgor Gwaith. Bydd y penderfyniad ynghylch a ddylid ymrwymo cyllid ai peidio yn dibynnu ar y prosiect, sut mae’n cydweddu â blaenoriaethau corfforaethol y Cyngor a’r gymhareb o ran faint y byddai angen i’r Cyngor ei gyfrannu a faint fyddai’n arian grant.

·           Bydd ceisiadau ar gyfer prosiectau newydd yn cael eu hasesu yn unol â'r matrics sgorio a oedd mewn grym yn 2016/17, h.y. rhoddir blaenoriaeth i brosiectau sy'n cynorthwyo'r Cyngor  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 6.

7.

Premiymau’r Dreth Gyngor pdf eicon PDF 281 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad cynnydd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 i’r Pwyllgor Gwaith mewn perthynas â gweithrediad Premiymau Treth Gyngor o 1 Ebrill, 2017.

 

Nododd y Cadeirydd y cafwyd trafodaethau mewn peerthynas â defnyddio’r cyllid sydd wedi’i greu o ganlyniad i’r premiymau ar dai gwag ac ail gartrefi ar gyfer cynorthwyo’r ddarpariaeth o dai fforddiadwy ar Ynys Môn.  Ystyriwyd y dylid rhoi cymorth i brynwyr tro cyntaf o’r Premiymau Treth Cyngor er mwyn iddynt allu prynu eu tai cyntaf neu adnewyddu eiddo.

 

PENDERFYNWYD:

 

·           Nodi’r cynnydd a wnaed o ran gweithredu’r cynllun a’r incwm ychwanegol a ddisgwylir yn sgil cyflwyno Premiymau’r Dreth Gyngor o 1 Ebrill 2017.

·           Cyflwyno adroddiad pellach i’r Pwyllgor Gwaith ym mis Ionawr 2017 yn amlinellu cynigion ynghylch sut orau i ddefnyddio’r swm  i ddarparu tai fforddiadwy yn Ynys Môn.

·           Cymeradwyo defnyddio arian wrth gefn y Cyngor i gwrdd â chost ychwanegol cyflogi swyddog clercyddol dros dro hyd at 31 Mawrth 2017;

·           Cymeradwyo penodi swyddog Ymholiadau/Refeniw ychwanegol ar sail barhaol a chwrdd â’r gost o’r incwm ychwanegol a gesglir dan gynllun Premiymau’r Dreth Gyngor.

 

8.

Ffoaduriaid Syria pdf eicon PDF 299 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Tai.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth y Gwasanaethau Tai i’r Prif Weithredwr mewn perthynas â darparu’r rhaglen adsefydlu a chymorth ar gyfer Ffoaduriaid Syria. 

 

Nododd y Deilydd Portffolio (Tai a Gwasanaethau Cymdeithasol) fod y Pwyllgor Gwaith wedi cytuno yn Ebrill 2016 i gymryd rhan yn y Cynllun Adsefydlu ar gyfer Unigolion Bregus Syria a chroesawu ffoaduriaid i Ynys Môn o ganlyniad i sefyllfa arswydus dinas Aleppo yn Syria.

 

Rhoddodd y Rheolwr Opsiynau Tai grynodeb byr am lwyddiant y teulu cyntaf sydd wedi derbyn cartref gan landlord sector rhent preifat yn ardal Porthaethwy. Nododd fod y plant bellach wedi setlo’n dda mewn ysgol leol ac maent yn gwneud cynnydd da. Mae Gweithiwr Cymorth wedi bod yn mynd gyda’r teulu ar ddyddiau allan er mwyn ymweld â’r ynys gan eu cyflwyno i’r diwylliant lleol a’r iaith Gymraeg ac maent yn awyddus iawn i gymryd rhan mewn gweithgareddau cymunedol lleol. Nododd y Swyddog fod trefniadau ar y gweill i groesawu ail deulu i’r Ynys.

 

Nodwyd fod y Swyddfa Gartref wedi gofyn i awdurdodau lleol ledled y Deyrnas Unedig i adsefydlu plant sydd ar eu pen eu hunain o dan y Cynllun Trosglwyddo Cenedlaethol ar gyfer y rhaglen plant ar eu pen eu hunain sy’n ceisio lloches (UASC) a’r Rhaglen Adsefydlu (VCRP). Ystyriwyd na ddylai’r Cyngor gymryd rhan mewn rhaglenni UASC a VCRP ar hyn o bryd a hynny am y rhesymau a nodwyd yn yr adroddiad.  

 

PENDERFYNWYD:-

 

·           Nodi’r cynnydd a wnaed hyd yn hyn;

·           Cymeradwyo'r camau nesaf i groesawu ail deulu o Syria cyn y Nadolig;

·           Peidio â chymryd rhan yn y Cynllun Trosglwyddo Cenedlaethol ar gyfer Plant ar eu Pennau eu Hunain sy’n Ceisio Lloches ac adolygu’r mater ymhen 12 mis.

 

9.

Llawr y Dref, Llangefni – Achos Busnes pdf eicon PDF 404 KB

Derbyn adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Tai.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Tai i’r Pwyllgor Gwaith mewn perthynas ag ailwampio Llawr y Dref, Llangefni. 

 

Nododd y Deilydd Portffolio (Tai a Gwasanaethau Cymdeithasol) bod y rhaglen wella wedi cael ei sefydlu er mwyn gwneud gwaith gwella yn 1-4 a 6-29 Llawr y Dref, Llangefni. Bydd y lle sydd ar gael y tu mewn i’r fflatiau’n cael ei wella a bydd lifft yn cael ei osod ym mloc 6-29 Llawr y Dref. Bydd y materion Iechyd a Diogelwch hefyd yn cael eu gwella drwy uwchraddio’r system fynediad i’r adeilad a’r ardaloedd cymunedol a fydd yn cynnwys system TCC. Nododd ymhellach y bydd y dynodiad presennol ar gyfer y cynllun yn parhau am gyfnod o 6 mis yn dilyn cwblhau’r gwaith ail-fodelu. Fodd bynnag, os nad fydd modd gosod yr unedau yn dilyn y cyfnod o 6 mis fe fydd dynodiad y cynllun yn cael ei newid i fod yn llety ar gyfer pobl dros 50 oed neu rhai sydd wedi cofrestru’n anabl.     

 

Nododd y Cynghorydd Dylan Rees, Aelod Lleol, ei fod yn fodlon â’r cynllun gwella ar gyfer ailwampio Llawr y Dref, Llangefni. Fodd bynnag, nododd fod colli’r Gwasanaeth Warden yn golygu nad yw pobl eisiau byw yma gan y byddent yn teimlo’n fwy diogel yn byw yn y fflatiau, byddai pobl yn fwy parod i gael eu lletya yn Llawr y Dref petai Gwasanaeth Warden ar gael yn y fflatiau. Gofynnodd i’r Gwasanaethau Tai ystyried lleoli Warden Peripatetig yn Llawr y Dref. Ymatebodd y Pwyllgor Gwaith y bydd system TCC yn cael ei gosod er mwyn monitro gweithgaredd yn Llawr y Dref ac y byddai darparu gwasanaeth warden yn gosod cynsail ar gyfer tai tebyg sydd ym mherchnogaeth yr Awdurdod. 

 

PENDERFYNWYD

·           Bwrw ymlaen â'r rhaglen wella ar gyfer  rhifau 1 - 4 a 6 - 29 Llawr y Dref, Llangefni sy'n cynnwys sicrhau cymaint o ofod llawr mewnol â phosib o fewn y fflatiau, gan gynnal yr ôl-troed cyfredol, gosod lifft yn y bloc ar gyfer rhifau 6-29, uwchraddio'r cyfleusterau cymunedol a  gwneud gwelliannau allanol i'r adeilad;

·           Gwella trefniadau diogelwch i rifau 1 - 4 a 6 - 29 Llawr y Dref, Llangefni drwy uwchraddio'r system mynediad drws i'r adeilad a'r ardaloedd cymunedol gan gynnwys system camerâu goruchwylio, ynghyd ag uwchraddio'r system diogelwch tân o fewn y ddau floc;

·           Parhau â'r dynodiad presennol ar gyfer y cynllun am gyfnod o 6 mis ar ôl  cwblhau’r gwaith ail-fodelu. Os nad oes modd gosod yr unedau ar ôl y cyfnod hwn caiff dynodiad y cynllun  ei newid i fod ar gyfer pobl 50 oed neu  hŷn, neu bobl sydd wedi'u cofrestru'n anabl.

 

10.

Protocol Gogledd Cymru ar gyfer y Gymuned Sipsiwn a Theithwyr pdf eicon PDF 397 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Tai.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Tai i’r Pwyllgor Gwaith mewn perthynas â Phrotocol Gogledd Cymru ar gyfer y Gymuned Sipsiwn a Theithwyr.

 

Nododd y Deilydd Portffolio (Tai a Gwasanaethau Cymdeithasol) mai bwriad y Protocol yw sefydlu egwyddorion cyffredin ar gyfer delio â gwersylloedd diawdurdod sy’n lleihau tensiynau cymdeithasol lle mae gwersylloedd yn codi, lleihau costau gorfodi a glanhau a sicrhau agwedd gydlynol rhwng y gwasanaethau a fydd efallai’n ymwneud â’r mater hwn.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo Protocol Gogledd Cymru ar gyfer Rheoli Gwersylloedd Anawdurdodedig gan Sipsiwn a Theithwyr.

11.

Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol – Diogelu Corfforaethol pdf eicon PDF 338 KB

Cyflwyno’r adroddiad terfynol gan y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad Cadeirydd y Panel Canlyniad Sgriwtini a’r Rheolwr Sgriwtini i’r Pwyllgor Gwaith.

 

Tynnodd Cadeirydd y Panel Canlyniad Sgriwtini sylw at brif adolygiad gwaith y Panel mewn perthynas â chyfrifoldebau Diogelu Corfforaethol y Cyngor. Nododd y bod y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol, yn ei gyfarfod ar 6 Gorffennaf 2015, wedi ystyried ymateb y Cyngor i Adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru ar drefniadau sicrwydd ac atebolrwydd yr Awdurdod o ran Diogelu Corfforaethol ac awgrymwyd y dylid sefydlu Panel Canlyniad Sgriwtini. Nododd fod y Panel yn fodlon ar y cyfan bod y Bwrdd Diogelu Corfforaethol yn ymgymryd â’r dasg er mwyn sicrhau bod yr Awdurdod yn cyflawni eu dyletswydd ddiogelu fel y nodir ym mholisïau’r Cyngor.   

 

Diolchodd Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith i’r Panel Canlyniad Sgriwtini am eu gwaith a nododd fod y rhan fwyaf o’r argymhellion yn yr adroddiad wedi cael sylw gan yr Adran Gwasanaethau Cymdeithasol. Ystyriodd y dylid cyflwyno adroddiad cynnydd i’r Pwyllgor Gwaith yn y flwyddyn newydd mewn perthynas ag argymhellion y Panel.

 

PENDERFYNWYD

·           cymeradwyo’r adroddiad a’r argymhellion ynddo;

·           cyflwyno adroddiad ar gynnydd i’r Pwyllgor Gwaith yn y Flwyddyn Newydd mewn perthynas â’r argymhellion yn yr adroddiad.

 

12.

Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol – Gosod Tai Awdurdod Lleol (Tai Gwag) pdf eicon PDF 997 KB

Cyflwyno’r adroddiad terfynol gan y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad Cadeirydd y Panel Canlyniad Sgriwtini a’r Rheolwr Sgriwtini i’r Pwyllgor Gwaith. 

 

Cyflwynodd Cadeirydd y Panel Canlyniad Sgriwtini y prif ganfyddiadau mewn perthynas â’r dangosydd hwn ar y Cerdyn Sgorio Corfforaethol sy’n tanberfformio yn y Gwasanaethau Tai, sef Gosod Tai Awdurdod Lleol (Tai Gwag). Penderfynodd y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 17 Medi, 2015 y dylid sefydlu Panel Canlyniad Sgriwtini er mwyn edrych yn fanwl ar y dangosydd sy’n tanberfformio yn y gwasanaeth hwn. Nododd fod y Panel yn ystyried bod y Gwasanaeth Tai yn cymryd 54.3 diwrnod i osod tŷ o gymharu â’r targed o 25 diwrnod. Fodd bynnag, nododd bod angen gwneud gwaith ar rai eiddo gwag pan fyddant yn dod yn wag. Yn ystod 2015-16 gosodwyd cyfanswm o 52 cegin, 34 ystafell ymolchi ac fe ailweiriwyd 91 eiddo.  

 

Diolchodd y Deilydd Portffolio (Tai a Gwasanaethau Cymdeithasol) i’r Panel am eu gwaith a nododd y bydd y targed ar gyfer gosod eiddo yn parhau ar 25 diwrnod. 

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r adroddiad a’r argymhellion ynddo.