Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Council Chamber, Council Offices, Llangefni
Cyswllt: Ann Holmes / Mairwen Hughes
Rhif. | Eitem |
---|---|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn datganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o ddiddordeb. |
|
Materion brys ardystiwyd gan y Prif Weithredwr neu ei Swyddog Apwyntiedig Dim materion brys ar adeg anfon y rhaglen hon. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dim. |
|
Cyllideb Refeniw Ddrafft 2017/18 PDF 571 KB Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) a Swyddog Adran 151 yn ymgorffori’r cynigion cychwynnol ar gyfer Cyllideb Refeniw ddrafft 2017/18 er ystyriaeth gan y Pwyllgor Gwaith.
Adroddodd y Deilydd Portffolio Cyllid fod cyhoeddi’r cynigion drafft cychwynnol ar gyfer Cyllideb 2017/18 yn dod â’r cam cyntaf yn y broses o benderfynu ar y Gyllideb derfynol i ben, proses a gynhaliwyd yn fewnol yn y Cyngor ac sydd wedi golygu derbyn mewnbwn sylweddol gan Swyddogion ac Aelodau Etholedig mewn cyfarfodydd adolygu gwasanaeth a gweithdai cyllideb. Mae’r gwaith wedi profi’n heriol ac mae bwlch cyllido o bron i £3m yn y gyllideb wreiddiol a’r hyn sydd ei angen ar y Cyngor er mwyn cynnal ei sefyllfa bresennol, gan gymryd i ystyriaeth y pwysau ychwanegol y mae’n ei wynebu. Mae’r rhestr ddrafft o argymhellion ar gyfer arbedion yn un sylweddol ond mae’n cynnwys opsiynau hefyd, sy’n golygu bod elfen o hyblygrwydd o ran y penderfyniadau sydd angen eu gwneud. Pwysleisiodd yr Aelod Portffolio Cyllid ei bod yn bwysig bod y Cyngor yn cyflwyno cyllideb gytbwys ar gyfer 2017/18 er mwyn sicrhau ei fod yn parhau i fod yn wydn er mwyn ymateb i heriau yn y blynyddoedd ariannol sy’n dilyn. Roedd y setliad dros dro ar gyfer llywodraeth leol a gyhoeddwyd gan Llywodraeth Cymru yn well na’r disgwyl gydag adolygu’r fformiwla ariannu’n fanteisiol i gynghorau gwledig, ac mae Ynys Môn wedi gweld cynnydd o 0.3% yn y dyraniad. Fodd bynnag, bydd y cynnydd hwn yn cael ei lyncu mewn gwirionedd gan bwysau arall ar y gyllideb, e.e. yr Ardoll Prentisiaethau, felly bydd rhaid i’r Cyngor gwrdd â’r holl anghenion eraill a gwelliannau yn y gwasanaethau oddi mewn i’r adnoddau sydd ganddo unai drwy wneud toriadau neu gynyddu’r Dreth Gyngor. Roedd setliad Llywodraeth Cymru hefyd yn cyfeirio at £25m yn ychwanegol yn benodol ar gyfer y Gwasanaethau Cymdeithasol yng Nghymru, er na dderbyniwyd manylion am y dyraniad hwn hyd yma.
Dywedodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) a Swyddog Adran 151, er bod y cynnydd yn y setliad i’w groesawu gyda chyllid ychwanegol (£54m) wedi’i gynnwys yn y setliad sy’n cynrychioli’r swm y mae Llywodraeth Cymru’n rhagweld y bydd awdurdodau lleol yng Nghymru yn ei wario ar wasanaethau'r flwyddyn nesaf, mae Llywodraeth Cymru ar yr un pryd wedi rhagweld y bydd sail y Dreth Gyngor yn cynyddu 3.5% fydd felly’n erydu’r £54m a ddynodwyd fel gwariant ychwanegol ar gynghorau. Effaith hyn yw’r lleihau’r cyllid ychwanegol i £6m, ac ar ôl cynnwys grantiau a chyfrifoldebau newydd y mae’n rhaid i gynghorau eu hystyried, y canlyniad net mewn gwirionedd yw na fydd cynghorau’n derbyn cynnydd yn eu cyllidebau ar gyfer 2017/18. Mae Ynys Môn ar ei hennill o £300k, ond prin fod y ffigwr hwnnw’n ddigon i dalu’r Ardoll Brentisiaethau a bydd rhaid i’r Cyngor gwrdd â chostau chwyddiant, galw am wasanaethau a phwysau eraill. Dywedodd y Swyddog bod y diffyg yn y gyllideb ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 3. |
|
Cyllideb Gyfalaf Ddrafft 2017/18 PDF 649 KB Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) a Swyddog Adran 151 yn ymgorffori’r gyllideb gyfalaf ddrafft ar gyfer 2017/18 er sylw’r Pwyllgor Gwaith.
Adroddodd y Deilydd Portffolio Cyllid bod y rhaglen gyfalaf arfaethedig yn un uchelgeisiol a’i bod o’r herwydd yn golygu mwy o gostau. Fodd bynnag, gellir dweud bod y sefyllfa bresennol o ran llogau isel yn golygu bod yr hinsawdd yn ffafriol ar gyfer ymgymryd â buddsoddiad cyfalaf. Fodd bynnag, er bod y buddsoddiad arfaethedig yn sylweddol, mae’n parhau i fod o fewn terfynau benthyg y Cyngor. Bydd y gyllideb gyfalaf, yn yr un modd â’r gyllideb refeniw, yn mynd trwy broses ymgynghori gyhoeddus.
Dywedodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) a’r Swyddog Adran 151 bod yr adroddiad wedi’i ddrafftio’n unol â’r Strategaeth Cyfalaf gan rannu’r cynigion i dair adran: cynigion cyffredinol, cynigion Ysgolion yr 21ain Ganrif a chynlluniau Grant Refeniw Tai. Yr amcan wrth lunio’r cynigion ar gyfer y gyllideb gyfalaf oedd ceisio sicrhau eu bod yn symud blaenoriaethau o fewn y Cynllun Corfforaethol yn eu blaen heb greu pwysau ychwanegol ar y cyfrif refeniw drwy orfod cyllido benthyca ychwanegol a’r costau llog sy’n gysylltiedig â hynny. Cyflwynir adroddiad pellach i’r Pwyllgor Gwaith ym mis Ionawr 2017 mewn perthynas â fforddiadwyedd y rhaglen gyfalaf ar gyfer Ysgolion yr 21ain Ganrif. Dywedodd y Swyddog, er bod y rhaglen arfaethedig yn ymrwymo’r Cyngor i ariannu lefel uwch o fenthyca, mae’r lefel yn parhau o fewn y terfynau a osodir yn y Strategaeth Rheoli Trysorlys ac o ganlyniad nid yw’n gosod baich annioddefol ar y Cyngor.
Rhoddodd Aelodau’r Pwyllgor Gwaith eu barn ar y cynigion drafft ar gyfer cyllideb gyfalaf 2017/18.
Penderfynwyd -
• Parhau i ariannu'r cynlluniau y gwnaed ymrwymiad iddynt fel y nodir ym mharagraff 3.2 yr adroddiad ar gost o £8.826m, gyda £647k ohono yn dod o gyllid craidd y Cyngor. • Ariannu gwariant ar grantiau cyfleusterau i'r anabl, ailwampio adeiladau cyfredol, asedau TG a cherbydau fel y nodir ym mharagraff 3.3. yr adroddiad ar gost o £2.301m. • Cymeradwyo cyllido’r ddau brosiect Buddsoddi i Arbed sy’n sgorio uchaf fel y nodir ym mharagraff 3.4 yr adroddiad ar gost o £0.186m. • Cymeradwyo ariannu cynlluniau cyfalaf newydd fel y nodir ym mharagraff 3.6. yr adroddiad ar gost o £11.675m, gyda £2.531m ohono’n cael ei ariannu o gyllid craidd y Cyngor. • Cymeradwyo cyllid o £0.76m ar gyfer Cynnal a Chadw Priffyrdd yn unol â pharagraff 3.5. yr adroddiad. • Bod angen gwneud gwaith pellach i asesu dichonoldeb ariannu'r ddau gynllun a nodir ym mharagraff 3.7 yr adroddiad drwy fenthyca digymorth. • Cymeradwyo'r rhaglen gyfalaf ar gyfer Ysgolion yr 21ain Ganrif, yn amodol ar gyflwyno adroddiad pellach i'r Pwyllgor Gwaith ar ariannu’r elfen benthyca digefnogaeth o’r rhaglen. • Cymeradwyo cynnwys cynlluniau’r Cyfrif Refeniw Tai, fel y nodir ym mharagraff 5 yr adroddiad, yn y rhaglen gyfalaf derfynol am gyfanswm cost o ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 4. |
|
Cynllun Ymgynghori Cyllideb 2017/18 PDF 595 KB Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Trawsnewid Corfforaethol. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Trawsnewid yn ymgorffori’r Cynllun Ymgynghori/Cyfathrebu ar Gyllideb 2017/18 i’r Pwyllgor Gwaith er ystyriaeth.
Cymeradwyodd Aelod Portffolio Busnes y Cyngor y Cynllun i’r Pwyllgor Gwaith fel disgrifiad lefel uchel o’r cynllun ymgynghori i’w wireddu yn ystod y cyfnod o 7 Tachwedd hyd at 16 Rhagfyr 2016.
Rhoes Gwilym O. Jones, Is-Gadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol, farn y Pwyllgor Sgriwtini ar y cynllun ymgynghori yn dilyn cyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 19 Hydref 2016 gan bwysleisio pwysigrwydd sicrhau bod yr wybodaeth a gyflwynir i’r cyhoedd yn eglur fel bod dealltwriaeth o’r hyn sy’n cael ei gynnig a pham, a hefyd pwysigrwydd sicrhau bod y Cyngor yn gwrando ar yr hyn sydd gan y cyhoedd i’w ddweud am y cynigion. Roedd y Pwyllgor Sgriwtini’n awyddus i sicrhau bod yr ymgynghoriad ar y gyllideb yn fwy nag ymarfer ticio blychau ac y bydd y Cyngor yn creu deialog ystyrlon gyda’r cyhoedd a budd-ddeiliaid eraill. Awgrymodd y Pwyllgor hefyd bod y broses yn cael ei hadolygu unwaith y bydd cyllideb 2017/18 wedi’i gosod er mwyn sefydlu a oes modd gwneud unrhyw welliannau.
Roedd y Cadeirydd yn cydnabod sylwadau’r Pwyllgor Sgriwtini, yn arbennig mewn perthynas â barn y cyhoedd ac adborth. Fodd bynnag, gan bod gofyn statudol ar y Cyngor i gynhyrchu cyllideb gytbwys, mae toriadau’n anochel.
PENDERFYNWYD cadarnhau’r Cynllun Ymgynghori ar Gyllideb 2017/18. |