Rhaglen, Penderfyniadau a Chofnodion.

Pwyllgor Gwaith - Dydd Llun, 28ain Tachwedd, 2016 10.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau

Cyswllt: Ann Holmes / Mairwen Hughes 

Cyfryngau

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn datganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gwnaeth y Cynghorydd Alwyn Rowlands ddatganiad o ddiddordeb sy’n rhagfarnu mewn perthynas ag Eitem 16 a gadawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a’r pleidleisio.

2.

Materion brys a ardystiwyd gan y Prif Weithrdwr neu swyddog a benodwyd ganddo.

Dim materion brys ar adeg anfon y rhaglen hon.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni oedd unrhyw faterion brys i adrodd arnynt.

3.

Cofnodion pdf eicon PDF 215 KB

Cyflwyno i’w cadarnhau, gofnodion drafft y cyfarfodydd o’r Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar y dyddiadau canlynol:-

 

  17Hydref, 2016

  7Tachwedd, 2016 (Cyllideb) 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod o'r Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar 17 Hydref, 2016 a 7 Tachwedd 2016 (Cyllideb) i’w cymeradwyo.

 

Penderfynwyd cadarnhau fel rhai cywir, gofnodion y cyfarfod diwethaf o’r Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar y dyddiadau isod:-

 

·           17 Hydref 2016

·           7 Tachwedd 2016 (Y Gyllideb)

 

4.

Blaenraglen Waith y Pwyllgor Gwaith pdf eicon PDF 517 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd, i’w gymeradwyo gan y Pwyllgor Gwaith, adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd a oedd yn ymgorffori Blaenraglen Waith y Pwyllgor Gwaith am y cyfnod rhwng Rhagfyr 2016 a Gorffennaf 2017. 

 

Amlygodd y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd newidiadau i'r Flaenaglen Waith fel a ganlyn: -

 

Eitemau sy’n newydd i'r Flaenraglen Waith

 

·           Eitem 3 - Moderneiddio Ysgolionrhaglennwyd y bydd adroddiad ar ardal Llangefni yn cael ei ystyried gan y Pwyllgor Gwaith yn ei gyfarfod ar 19 Rhagfyr, 2016;

·           Eitem 6 – rhaglennwyd y bydd adroddiad ar y gwaith gwella ar y briffordd rhwng Cyffordd 3 yr A55 a Wylfa Newydd ar hyd yr A5 a'r A5025 yn cael ei ystyried gan y Pwyllgor Gwaith yn ei gyfarfod ar 19 Rhagfyr, 2016;

·           Eitem 8 – rhaglennwyd y bydd yr adroddiad ar yr ymgynghoriad statudol ar ostwng yr oed mynediad i Ysgol Brynsiencyn yn cael ei ystyried gan y Pwyllgor Gwaith yn ei gyfarfod ar 23 Ionawr, 2017;

·           Eitem 9 - Moderneiddio Ysgolionrhaglennwyd y bydd ardaloedd Caergybi a Llanfaethlu yn cael eu hystyried gan y Pwyllgor Gwaith yn ei gyfarfod ar 23 Ionawr, 2017;

·           Eitem 30 – rhaglennwyd y bydd Arolygiad AGGCC o’r Gwasanaethau Plant yn Ynys Môn yn cael ei ystyried gan y Pwyllgor Gwaith yn ei gyfarfod ar 20 Mawrth, 2017.

·           Eitem 31 – rhaglennwyd y bydd adroddiad ar Drawsnewid y Gwasanaethau Diwylliant - Asedau Treftadaeth yn cael ei ystyried gan y Pwyllgor Gwaith yn ei gyfarfod ar 20 Mawrth, 2017.

 

Eitemau a aildrefnwyd ar gyfer ystyriaeth

 

·           Eitem 23 - Achos Busnes Llawn ar gyfer Ysgol Newydd ym Mro Rhosyr / Bro Aberffraw wedi ei aildrefnu i gael ei ystyried gan y Pwyllgor Gwaith ar 13 Chwefror, 2017 yn hytrach na 23 Ionawr, 2017.

·           Eitem 25 – adroddiad ar Drawsnewid y Gwasanaeth Ieuenctid wedi ei aildrefnu i'w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith ar 13 Chwefror, 2017 yn hytrach na 28 Tachwedd, 2016

 

Penderfynwyd cadarnhau Blaenraglen Waith y Pwyllgor Gwaith fel y’i diweddarwyd am y cyfnod rhwng Rhagfyr 2016 a Gorffennaf 2017.

 

5.

Sylfaen y Dreth Gyngor am 2017/18 pdf eicon PDF 265 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 mewn perthynas â'r cyfrifiad ar gyfer nodi Sylfaen y Dreth Gyngor ar gyfer y cyfan o’r ardal a rhannau ohoni am y flwyddyn 2017/18.

 

Penderfynwyd cymeradwyo:-

 

·           Cyfrifiad sylfaen y Dreth Gyngor gan y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) a’r Swyddog Adran 151, fydd yn cael ei ddefnyddio gan Lywodraeth Cymru ar gyfer cyfrifo’r Grant Cynnal Refeniw i Gyngor Sir Ynys Môn am y flwyddyn 2017/18, sef 30,735.70;

·           Cyfrifiad y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) a’r Swyddog Adran 151 at ddiben pennu Sylfaen y Dreth Gyngor am y cyfan o'r ardal ac am rannau ohoni dros y flwyddyn 2017/18;

·           Yn unol â Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 a Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyfrifo Sylfaen y Dreth Gyngor) (Cymru) 1995 (OS19956/2561) fel y cawsant eu diwygio gan OS1999/2935 a Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyfrifo Sylfaen y Dreth Gyngor) a’r Dreth Gyngor (Dosbarthiadau Rhagnodedig o Anheddau) (Cymru) (Diwygiad) 2004 a Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyfrifo Sylfaen y Dreth Gyngor) (Cymru) (Diwygiad) 2016, bydd y symiau y mae y mae Cyngor Sir Ynys Môn wedi eu cyfrifo fel Sylfaen y Dreth am 2017/18 yn  30,794.83 ac fel sydd wedi eu rhestru yn yr adroddiad ar gyfer y Trefi/Cymunedau unigol.

 

6.

Cynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor ar gyfer 2017/18 pdf eicon PDF 494 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 mewn perthynas â'r Cynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor ar gyfer 2017/18 sy'n gyson â'r cynlluniau a gymeradwyir yn flynyddol gan y Cyngor llawn mewn perthynas â Chynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor sydd wedi bod mewn grym ers blwyddyn ariannol 2014/15.

 

PENDERFYNWYD argymell i’r Cyngor Sir:-

 

·           Na ddylai’r Cynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor cyfredol gael ei adolygu na’i ddisodli gyda chynllun arall.

·           Bod y Cynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor cyfredol ar gyfer y flwyddyn ariannol 2017/18 yn cael ei fabwysiadu’n ffurfiol.

·           Ei fod yn rhoi awdurdod i’r Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) (Swyddog Adran 151) wneud trefniadau gweinyddol fel bod pob newid blynyddol ar gyfer uwchraddio ffigyrau ariannol neu adolygiad technegol mewn unrhyw reoliad/reoliadau sy’n diwygio yn cael eu hadlewyrchu yng Nghynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor ac am bob blwyddyn ddilynol.

 

7.

Cerdyn Sgorio Corfforaethol - Chwarter 2, 2016/17 pdf eicon PDF 936 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Trawsnewid Corfforaethol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Trawsnewid Corfforaethol mewn perthynas â'r sefyllfa ar ddiwedd chwarter 2.

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio (Busnes y Pwyllgor Gwaith, Trawsnewid Perfformiad, y  Cynllun Corfforaethol ac Adnoddau Dynol) bod lefelau salwch wedi gwella ychydig yn chwarter 2. Dywedodd y bydd yr Uwch Dîm Arweinyddiaeth yn parhau i fonitro lefelau salwch.

 

PENDERFYNWYD nodi’r meysydd y mae’r Uwch Dîm Arweinyddiaeth yn eu rheoli i sicrhau gwelliannau i’r dyfodol yn unol ag adran 1.3 yr adroddiad ynghyd â’r mesurau lliniaru a amlinellwyd.

 

8.

Monitro Cyllideb Refeniw - Chwarter 2, 2016/17 pdf eicon PDF 364 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 yn nodi perfformiad ariannol gwasanaethau'r Cyngor ar gyfer ail chwarter y flwyddyn ariannol, sy'n ymwneud â'r cyfnod 1 Gorffennaf, 2016 hyd at 30 Medi, 2016. 

 

Cyfeiriodd yr Aelod Portffolio (Cyllid) at y perfformiad ariannol a ragwelir gan bob gwasanaeth a’r gorwariannau a’r tanwariannau a ragwelir yng ngwasanaethau'r CyngorY cyfanswm refeniw a ragwelir ar gyfer 2016/17 yw gorwariant o £600k.  Rhagwelir gorwariant yn  y Gwasanaethau Plant o £683k.  Achosir y gorwariant gan bwysau ar y gwasanaeth oherwydd cynnydd yn nifer y plant ag anghenion cymhleth sydd yn derbyn gofal

 

PENDERFYNWYD:-

 

·           Nodi’r sefyllfa mewn perthynas â pherfformiad ariannol hyd yma;

·           Rhoi awdurdod i’r Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) Swyddog Adran 151 gyfalafu costau tâl cyfartal os bydd Llywodraeth Cymru yn cymeradwyo cyfarwyddyd cyfalafu ar gyfer tâl cyfartal.

 

9.

Monitro Cyllideb Gyfalaf - Chwarter 2, 2016/17 pdf eicon PDF 383 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd i sylw’r Pwyllgor Gwaith, adroddiad y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 yn nodi perfformiad ariannol y gyllideb gyfalaf ar gyfer ail chwarter y flwyddyn ariannol

 

PENDERFYNWYD monitro cynnydd o ran gwariant a derbyniadau yn erbyn y gyllideb gyfalaf.

 

10.

Mabwysiadu pwerau gan y Cyngor a Dirprwyo i Swyddogion pdf eicon PDF 486 KB

Cyflwyno adroddiad ar y cyd gan y Pennaeth Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro a’r Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad ar y cyd mewn perthynas â'r uchod gan y Pennaeth Swyddogaeth (Busnes y Cyngor) / Swyddog Monitro a’r Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd  .

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio (Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Datblygu Economaidd) fod yr adroddiad yn cynnig diwygio'r Cynllun Dirprwyo, sy'n rhan o'r Cyfansoddiad, ac yna bydd raid i’r Pwyllgor Gwaith ystyried yr adroddiad cyn i’r Cyngor llawn wneud penderfyniad terfynol.

 

PENDERFYNWYD argymell i’r Cyngor Sir:-

 

·           Y dylid mabwysiadu’r pwerau a restrir yn Atodiad 1, yr adroddiad;

·           Diwygio’r Cynllun Dirprwyo yn y Cyfansoddiad i ddirprwyo awdurdod i’r Pennaeth Gwasanaeth (Rheoleiddio a Datblygu Economaidd) ddefnyddio’r pwerau hyn;

·           Rhoi’r Awdurdod i’r Pennaeth Swyddogaeth (Busnes y Cyngor) / Swyddog Monitro wneud y newidiadau angenrheidiol i'r Cynllun Dirprwyo, ac unrhyw newidiadau canlyniadol, i adlewyrchu mabwysiadu a dirprwyo’r pwerau hyn.

 

11.

Eitem Rhanbarthol Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru - Growth Track 360 pdf eicon PDF 1 MB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd i’w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith, adroddiad y Pennaeth Gwasanaeth (Adfywio Economaidd a Chymunedol) ar Fwrdd Uchelgais Economaidd Rhanbarthol Gogledd Cymru - Twf Trac 360.

 

Tynnodd Arweinydd y Cyngor sylw at fanylion a chostau gwelliannau a flaenoriaethwyd i'r rhwydwaith rheilffyrdd a nodwyd yn yr adroddiadMynegodd ei siom nad oedd trydaneiddio’r lein reilffordd o Crewe i Gaergybi wedi cael ei gynnwys yn y tabl o waith gwella a flaenoriaethwyd ar gyfer y rhwydwaith.

 

Cyfeiriodd aelodau'r Pwyllgor Gwaith at Ddatganiad Hydref gan Ganghellor y Trysorlysaoedd yn cyfeirio at fuddsoddiad sylweddol dros y 5 mlynedd nesaf o fewn y sector rhwydwaith. Awgrymwyd bod angen cynnal trafodaethau eto ym Mwrdd Uchelgais Gogledd Cymru ynghylch trydaneiddio'r rheilffordd o Crewe i Gaergybi. Dywedodd Aelodau'r Pwyllgor Gwaith ymhellach bod angen rhoi blaenoriaeth i welliannau i rhwydwaith ffordd yr A55. 

 

PENDERFYNWYD:-

 

·           Mabwysiadu Growth Track 360 fel Rhaglen Gwella Rheilffyrdd y Cyngor;

·           Ysgrifennu at Ysgrifenyddion Gwladol Llywodraeth y DU dros Swyddfa Cymru a Thrafnidiaeth gan roi cefnogaeth y Cyngor i Growth Tack 360;

·           Ysgrifennu at y Canghellor y Trysorlys gyda chopἰau at yr Adran Drafnidiaeth a Swyddfa Cymru i ofyn am ddarparu £130m i weithredu Rhaglen Tymor Byr Growth Track 360 yn Natganiad yr Hydref 2016 a Chyllideb 2017;

·           Ysgrifennu at Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth yn Llywodraeth Cymru ynghylch pennu’r Patrwm Gwasanaeth ar gyfer Gogledd Cymru a gynigir gan Growth Track 360 ym Masnachfraint newydd Cymru a’r Gororau.

 

12.

Trawsnewid y Gwasanaeth Llyfrgelloedd pdf eicon PDF 235 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Dysgu.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd i’w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith, adroddiad diweddaru gan y  Pennaeth Dysgu ar y cynllun trawsnewid ar gyfer y Gwasanaeth Llyfrgelloedd.

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio (Addysg) yr ymgynghorwyd yn helaeth gyda’r cyhoedd ers mis Hydref 2015 i drafod yr opsiynau sydd wedi eu nodi ar gyfer dyfodol y gwasanaeth llyfrgell ar yr Ynys.  Mae'r amserlen ar gyfer cwblhau'r adolygiad o'r gwasanaeth wedi llithro ymhellach oherwydd bod gwahanol gymunedau wedi mynegi nad oedd amserlen yr awdurdod yn realistig.

 

Dywedodd y Pennaeth Dysgu fod gwaith yn parhau ar y Strategaeth Gwasanaeth Llyfrgelloedd ac at fodelu a chostio’r opsiynau, gan gymryd i ystyriaeth ganfyddiadau'r ymgynghoriad cyhoeddus a thrafodaethau gyda phartïon sydd â diddordeb.  Mae'r Grŵp 5 Tref (Cynghorau Tref) wedi comisiynu astudiaeth ffurfiol drwy Menter Môn i edrych ar y materion ymarferol o ran darparu gwasanaeth llyfrgell, mewn partneriaeth gyda'r cymunedau lleol.  Mae’r gwaith o fapio a chostio’r opsiynau wedi bod yn mynd rhagddo er mwyn gweld yr effaith ar safonau’r Awdurdod a hefyd i asesu unrhyw effaith ar drigolion Ynys Môn.  Mae cyfle wedi codi i gaffael gwasanaeth llyfrgell deithiol newydd a all drawsnewid y Gwasanaeth Llyfrgell Deithiol a’r Gwasanaeth ar gyfer Pobl sy’n Gaeth i'r Tŷ, drwy adolygu'r atodlen a’r llwybrau i’r gwasanaeth.

 

PENDERFYNWYD :-

 

·           Parhau i drafod ffyrdd o weithio gydag eraill i gynnig gwasanaeth cynaliadwy â ffocws, gan gynnwys model cyfraniad gwirfoddol ar gyfer gweithgareddau gwerth ychwanegol.

·           Ymgynghori ar y Strategaeth Ddrafft ym mis Mai 2017 yn dilyn yr etholiad lleol.

·           Adrodd ar y Strategaeth Ddrafft, yng ngoleuni canfyddiadau'r ymgynghoriad cyhoeddus a bod penderfyniad terfynol ar gyfeiriad strategol Gwasanaeth Llyfrgell Ynys Môn yn cael ei gan y Pwyllgor Gwaith ym mis Hydref 2017.

 

 

 

13.

Trawsnewid y Gwasanaeth Diwylliant pdf eicon PDF 246 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Dysgu.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Dysgu i'r Pwyllgor Gwaith i'w ystyried mewn perthynas â thrawsnewid y Gwasanaeth Diwylliant.

 

Dywedodd y Pennaeth Dysgu fod y Bwrdd Trawsnewid Gwasanaethau Llyfrgelloedd, Diwylliant ac Ieuenctid wedi cytuno ym mis Ionawr 2016 i wahoddceisiadau ffurfiol â chynigion busnes gan bartïon sydd â diddordeb mewn rhedeg Melin Llynnon a'r safle Tai Crynion Tai a Charchar a Llys Biwmares.  Penderfynwyd hefyd y dylid comisiynu adroddiad ar sut i sicrhau bod Oriel Ynys Môn yn cynhyrchu cymaint o incwm â phosib ac i beidio â chynnwys yr Oriel yn y broses allanoli.   Gwahoddwyd ceisiadau drwy gyfleuster GwerthwchiGymru ym mis Ebrill 2016 yn gofyn i bartïon sydd â diddordeb gyflwyno cynigion busnes.  Penderfynodd y Bwrdd Trawsnewid ailagor y broses eto ym mis Medi 2016 ac mae partïon sydd â diddordeb wedi cyflwyno cynigion ar gyfer y Carchar a Llys Biwmares a safle Melin Llynnon.  Bydd y Rheolwr Busnes sydd newydd ei benodi yn Oriel Ynys Môn yn arwain ar gynllun busnes tair blynedd a fydd yn canolbwyntio ar gynhyrchu’r incwm mwyaf posib a chryfhau agweddau diwylliannol yr Oriel.  Cyfeiriodd y Pennaeth Dysgu ymhellach at rybudd 12 mis ffurfiol a roddwyd i Trinity House i ddod â phrydles Ynys Lawd i ben ym mis Mawrth 2017.    Nododd y bydd adroddiad ar y Gwasanaeth Diwylliant yn cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor Gwaith ym mis Mawrth 2017 ynghylch trawsnewid y gwasanaeth.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad ar gynnydd hyd yma.

 

14.

Polisi Ymddygiad Gwrthgymdeithasol pdf eicon PDF 1 MB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Tai.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflywnwyd adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Tai i'r Pwyllgor Gwaith i'w ystyried mewn perthynas â mabwysiadu Polisi Ymddygiad Gwrthgymdeithasol newydd yn 2016. 

 

PENDERFYNWYD mabwysiadu’r Polisi Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 2016.

 

15.

Cau Allan y Wasg a'r Cyhoedd pdf eicon PDF 110 KB

"Dan Adran 100 (A)(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a'r cyhoedd o'r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitemau a ganlyn, oherwydd y posibilrwydd y caiff gwybodaeth eithriedig ei rhyddhau fel y diffinnir hi yn Atodlen 12A y Ddeddf a'r Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm".

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD mabwysiadu’r canlynol : -

 

"Dan Adran 100 (A) (4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a'r cyhoedd o'r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol ar y sail y gallai olygu datgelu gwybodaeth eithriedig fel y'i diffinnir yn Atodlen 12A y Ddeddf honno ac yn y Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm. "

 

16.

Model ar gyfer Darparu Gwasanaethau Cynghori ar Fudd-daliadau Lles

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Tai.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Tai i'r Pwyllgor Gwaith i'w ystyried mewn perthynas â'r uchod.

 

PENDERFYNWYD yr argymhellion a nodwyd yn yr adroddiad.