Rhaglen, Penderfyniadau a Chofnodion.

Pwyllgor Gwaith - Dydd Llun, 19eg Rhagfyr, 2016 10.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Council Chamber, Council Offices, Llangefni

Cyswllt: Ann Holmes 01248 752518 

Cyfryngau

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Datganiad o ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiadau o ddiddordeb gan Aeldod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem ar y rhaglen.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorydd Richard Dew ddiddordeb personol a diddordeb a oedd yn rhagfarnu mewn perthynas ag eitem 9 ar y rhaglen.

2.

Materion brys a ardystiwyd gan y Prif Weithredwr neu swyddog a benodwyd ganddo

Dim materion brys ar adeg anfon y rhaglen hon.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw faterion brys i adrodd arnynt.

3.

Cofnodion pdf eicon PDF 98 KB

Cyflwyno i’w cadarnhau, gofnodion y cyfarfod o’r Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar 28 Tachwedd, 2016.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod blaenorol o'r Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar 28 Tachwedd, 2016 i'w cadarnhau.

 

Penderfynwyd cadarnhau fel rhai cywir, gofnodion y cyfarfod diwethaf o’r Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar 28 Tachwedd, 2016.

4.

Blaenraglen Waith y Pwyllgor Gwaith pdf eicon PDF 506 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd i’w ystyried gan y Pwyllgor, adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd  yn ymgorffori Blaenraglen Waith y Pwyllgor Gwaith am y cyfnod o Ionawr i Awst, 2017.

 

Dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd fod eitem 26 (Strategaeth Ddigartrefedd Dros Dro) y trefnwyd i’w hystyried gan gyfarfod o’r Pwyllgor Gwaith a gynhelir ar 20 Mawrth, 2017 yn newydd i'r Flaenraglen Waith. Mae eitem 18 (Adroddiad Cydraddoldeb Blynyddol 2015/16) ac eitem 31 (Adroddiad Blynyddol ar y Safonau Iaith Gymraeg) wedi eu cynnwys fel eitemau ychwanegol ar y Rhaglen Waith ac fe’u dirprwyir i'r Aelodau Portffolio perthnasol i’w penderfynu; rhaglennwyd y bydd y penderfyniadau hynny’n cael eu gwneud ym Mawrth a Mehefin, 2017 yn y drefn honno.

 

Penderfynwyd cadarnhau Blaenraglen Waith ddiweddaredig y Pwyllgor Gwaith ar gyfer y cyfnod o fis Ionawr i Awst, 2017 fel y’i cyflwynwyd.

5.

Datganiad ar y Strategaeth Rheoli Trysorlys 2017/18 pdf eicon PDF 804 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd i sylw’r Pwyllgor Gwaith, adroddiad y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) a'r Swyddog Adran 151 yn ymgorffori Datganiad ar y Strategaeth Rheoli Trysorlys ar gyfer 2017/18.

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio ar gyfer Cyllid fod y Datganiad ar y Strategaeth Rheoli Trysorlys wedi ei ystyried gan y Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 6 Rhagfyr 2016. Dywedodd yr Aelod Portffolio nad oedd y Strategaeth RhT ar gyfer 2017/18 wedi newid rhyw lawer o gymharu â’r un a oedd mewn grym yn ystod 2016/17 a’i bod yn argymell dull tebyg o weithredu sy'n debygol o sicrhau’r gwerth gorau yn yr hinsawdd economaidd sydd ohoni, a hynny’n seiliedig ar ddefnyddio balansau arian mewnol i osgoi benthyca allanol newydd oherwydd bod disgwyl i gyfraddau buddsoddi tymor canol barhau i fod yn is na'r cyfraddau benthyca tymor hir.

 

Penderfynwyd -

 

  Nodi cynnwys yr adroddiad.

  Cymeradwyo cynnwys, a’r rhagdybiaethau a’r cynigion ynddo, y Datganiad  Strategaeth Rheoli Trysorlys (yn cynnwys y Dangosyddion Pwyllog a rhai Rheoli Trysorlys ) ar gyfer 2017/18 fel yn Atodiad A i’r adroddiad.

  Anfon y Datganiad i'r Cyngor Sir heb sylwadau pellach.

6.

Adroddiad Adolygiad Canol Blwyddyn – Rheoli Trysorlys 2016/17 pdf eicon PDF 594 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd i sylw'r Pwyllgor Gwaith, adroddiad y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) a'r Swyddog Adran 151 yn cynnwys adroddiad yr adolygiad canol blwyddyn o’r gweithgarwch rheoli trysorlys ar gyfer 2016/17.

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio ar gyfer Cyllid fod yr adroddiad ar yr adolygiad canol blwyddyn wedi cael sylw gan y Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 6 Rhagfyr 2016. Dywedodd yr Aelod Portffolio fod y rhagolygon yn awgrymu y bydd cyfraddau llog yn parhau i fod yn isel ac nad yw’r sefyllfa wedi newid llawer o gymharu â chwe mis yn ôl. Er bod ystyriaeth wedi ei rhoi i'r posibilrwydd o aildrefnu dyledion, diystyriwyd cymryd y fath gamau am y tro oherwydd bod y gost o ad-dalu dyledion yn fwy na fyddai’r Cyngor yn ei arbed mewn llog oherwydd y premiymau ad-dalu cynnar a osodir gan y Bwrdd Benthyciadau Gwaith Cyhoeddus.

 

Penderfynwyd derbyn yr Adroddiad Canol Blwyddyn ar Reoli’r Trysorlys 2016/17 a’i anfon ymlaen i’r Cyngor Sir heb sylw pellach.

7.

Garejis Tai Cyngor pdf eicon PDF 576 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Tai.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd i’w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith, adroddiad y Pennaeth Gwasanaeth Tai ynghylch trin stoc garejis y Cyngor.

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio ar gyfer Tai a Gwasanaethau Cymdeithasol fod y Gwasanaeth Tai yn rheoli stoc o 764 o garejis. Cynhaliwyd adolygiad o'r garejis yn ystod hanner cyntaf y flwyddyn ariannol hon ac roedd arolwg manwl a wnaed o’r holl garejis yr ystyriwyd eu bod mewn cyflwr gweddol neu wael wedi dangos bod cyflwr y garejis concrit parod yn gyffredinol wedi dirywio’n sylweddol o gymharu â’r rhai cerrig traddodiadol ac felly argymhellir eu dymchwel. Yn ogystal, argymhellir dymchwel nifer o’r garejis mwy traddodiadol hefyd oherwydd gwendidau  strwythurol neu am eu bod wedi dadfeilio’n sylweddol.

 

Er ei fod yn rhagweld y bydd y tir a ryddheir yn sgil dymchwel y garejis yn cael ei ddefnyddio’n bennaf i wella’r ddarpariaeth ar gyfer parcio, llwybrau a llecynnau mwynderau ar stadau’r Cyngor, dywedodd Rheolwr Gwasanaethau Technegol y Gwasanaethau Tai y rhoddir sylw gofalus, fel  rhan o'r broses ddymchwel, i gyfleoedd posib i wneud defnydd amgen o’r tir megis ar gyfer datblygiadau tai fforddiadwy. Mae'r Gwasanaeth Cyllid wedi cadarnhau bod y cynllun a gyflwynwyd yn fforddiadwy.

 

Croesawodd y Pwyllgor Gwaith y bwriad i ailwampio stoc garejis y Cyngor gan nodi bod gan y cynllun botensial ar gyfer datblygu tai fforddiadwy.  Nododd y Pwyllgor Gwaith hefyd y bydd yr holl anghenion buddsoddi sy'n gysylltiedig â'r cynnig hwn yn cael eu cyllido o’r Cyfrif Refeniw Tai. Ceisiodd y Pwyllgor Gwaith sicrwydd yr ymgynghorir â thrigolion lleol yn ogystal â’r Aelodau Lleol perthnasol ynghylch y gwaith y bwriedir ei wneud i ddymchwel  33 o flociau ac y cymerir i ystyriaeth yr atborth a geir pan wneir penderfyniadau ynghylch y defnydd o'r tir.

 

Cadarnhaodd y Rheolwr Gwasanaethau Technegol yr ymgynghorir gyda phreswylwyr ac Aelodau Lleol gyda golwg ar gytuno ar gynlluniau ar gyfer sut i ddefnyddio’r tir a ryddheir. Yn yr un modd, dywedodd yr Aelod Portffolio ar gyfer Tai a Gwasanaethau Cymdeithasol y ceisir  barn tenantiaid ac Aelodau Lleol ac y bydd y cynllun hefyd yn ceisio cydbwyso'r angen am ddarpariaeth ar gyfer parcio a mwynderau yn erbyn yr angen am dai fforddiadwy.

 

Penderfynwyd

 

  Cymeradwyo dymchwel 33 bloc o garejis a’r gwariant sy’n gysylltiedig.

  Dirprwyo awdurdod i’r Pennaeth Gwasanaeth Tai i ystyried cael gwared â garejis pan ddyfernir mai hwnnw yw’r peth mwyaf addas i’w wneud.

8.

Safleoedd Sipsiwn a Theithwyr pdf eicon PDF 310 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Tai.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd i’w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith, adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Tai yn amlinellu'r cynnydd hyd yma mewn perthynas â datblygu safleoedd sipsiwn a theithwyr.

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio ar gyfer Tai a Gwasanaethau Cymdeithasol fod yr adroddiad yn egluro'r gwaith a wnaed ers i'r Pwyllgor Gwaith roi cymeradwyaeth i fwrw ymlaen i gynnal  archwiliadau rhagarweiniol o safleoedd ym Mhenhesgyn a Star yn ei gyfarfodydd ar 31 Mai a 25 Gorffennaf, 2016 yn y drefn honno.  Mae'r adroddiad hefyd yn rhoi diweddariad ar y sefyllfa o ran caffael tir ac yn gofyn am gymeradwyaeth mewn egwyddor i ddefnyddio Gorchmynion Prynu Gorfodol mewn amgylchiadau lle na ellir caffael trwy drafodaeth y tir sydd raid wrtho i ddatblygu safle i sipsiwn a theithwyr. Amlygodd yr Aelod Portffolio bod raid i'r Cyngor nodi safleoedd addas ar gyfer lletya sipsiwn a theithwyr yn unol â’r gyfraith.

 

Dywedodd y Rheolwr Gwasanaethau Technegol Tai fod Capita wedi eu penodi fel ymgynghorwyr ar gyfer sicrhau’r safleoedd i sipsiwn a theithwyr; mae’r gwasanaeth ymgynghorol a ddarperir yn cynnwys amrywiaeth o ymrwymiadau fel y cyfeirir atynt ym mharagraff 2.4 yr adroddiad, gan gynnwys paratoi dyluniad y safle a cheisiadau cynllunio.  Nodwyd cerrig milltir allweddol ar gyfer y prosiect a bydd y prosiect yn cael ei rannu'n bum prif gam fel ym mharagraff 2.5 o'r adroddiad.

 

Cadarnhaodd y Prif Weithredwr Cynorthwyol (Llywodraethu a Thrawsnewid Prosesau Busnes) fod Llywodraeth Cymru wedi cymeradwyo’r Asesiad o Anghenion Llety Sipsiwn a Theithwyr a gynhaliwyd ar y cyd gan Ynys Môn a Gwynedd yn 2016 ac a gyflwynwyd i'r Pwyllgor Gwaith ym mis Chwefror 2016.

 

Gan ei fod wedi gofyn i gael siarad ar y mater, cyfeiriodd y Cynghorydd R. Meirion Jones at y penderfyniad a wnaed gan y Cyngor yn ei gyfarfod ar 25 Gorffennaf, 2016 i gynnal ymchwiliad pellach o Safle 1 (stribedyn o dir rhwng yr A55 / A5 rhwng Llanfairpwll a Chroesffordd Star) i gadarnhau ei addasrwydd ac i asesu ymhellach unrhyw risgiau diogelwch neu dechnegol ar y safle. Tynnodd sylw at y ffaith nad oedd y fanyleb rheoli prosiect a’r amserlen ym mharagraff 2.5 yn cymryd i ystyriaeth unrhyw benderfyniadau a all godi neu y gall bod angen eu gwneud yn sgil ymchwilio i’r materion hyn. Mae cofnodion y cyfarfod o’r Cyngor a gynhaliwyd ar 25 Gorffennaf, 2016 yn cyfeirio at nifer o bryderon a godwyd yn ystod y drafodaeth ar y mater hwn, gan gynnwys, er enghraifft, broblemau llifogydd posibl, iechyd a diogelwch a'r effaith ar dwristiaeth yn yr ardal. Dywedodd y Cynghorydd R. Meirion Jones ei fod yn awyddus i sicrhau bod pryderon a godir yn cael sylw priodol ac y cynhelir asesiad llawn cyn i'r prosiect fynd yn ei flaen i'r cam nesaf, a bod costau wedi eu dogfennu'n glir ar bob cam o'r prosiect, a bod Aelod Lleol yn cael gwahoddiad i wasanaethu ar y Bwrdd Prosiect.

 

Cadarnhaodd y Rheolwr Gwasanaethau Technegol  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 8.

9.

Moderneiddio Ysgolion - Ardal Llangefni pdf eicon PDF 3 MB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Dysgu.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd i’w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith, adroddiad y Pennaeth Dysgu yn nodi canlyniad yr ymgynghoriad anstatudol ar ailwampio’r ddarpariaeth addysg gynradd yn ardal Llangefni,

 

Gan ei fod wedi datgan diddordeb yn y mater hwn, gadawodd y Cynghorydd Richard Dew y cyfarfod ar gyfer y drafodaeth a’r penderfyniad yn ei gylch.

 

Adroddodd yr Aelod Portffolio Addysg ar gefndir y mater, y digwyddiadau ymgynghori a gynhaliwyd ar gyfer rhanddeiliad a'r argymhelliad ar gyfer symud ymlaen yn seiliedig ar ddadansoddiad manwl o ystod o opsiynau a gyflwynwyd fel posibiliadau. Cymeradwyodd yr Aelod Portffolio yr adroddiad i'r Pwyllgor Gwaith.

 

Adroddodd y Pennaeth Dysgu y cynhaliwyd proses ymgynghori anffurfiol gyda rhieni, llywodraethwyr a staff o'r chwe ysgol yr effeithir arnynt yn ardal Llangefni yn y cyfnod o 3 Hydref - 13 Tachwedd, 2016.  Ymgynghorwyd hefyd gyda Chynghorwyr lleol, Llywodraeth Cymru a rhanddeiliaid eraill.  Mae’r prif yrwyr ar gyfer newid i’w gweld yn rhan 2 o'r adroddiad ar yr ymgynghoriad anstatudol ac er bod lleihau nifer y lleoedd gwag mewn ysgolion cynradd wedi bod yn ffactor blaenllaw ar gyfer ysgolion mewn ardaloedd eraill o'r Ynys sydd wedi bod trwy’r broses foderneiddio eisoes neu sy’n mynd trwyddi ar hyn o bryd, nid dyna’r achos ar gyfer Llangefni lle mae prinder o leoedd mewn ysgolion cynradd. Dyna pam y cafwyd caniatâd i roi  Llangefni ym Mand A yn hytrach nag ym Mandiau B neu C o'r Cynllun Ysgolion yr Unfed Ganrif ar Hugain. Cyfeiriodd y Swyddog at sylwedd yr ymatebion gan bob un o'r chwe ysgol ac ‘roedd y ganran uchaf wedi dod o Ysgol Bodffordd ac Ysgol Talwrn. Cafwyd deiseb hefyd gan rieni disgyblion yn Ysgol Talwrn drwy’r Cyngor llawn ar 15 Rhagfyr, 2016. Ymhlith y materion a amlygwyd yn yr ymateb gan y rhanddeiliaid oedd manteision ysgolion llai; rôl  ganolog ysgolion llai ym mywyd y gymuned; pwysigrwydd yr ysgolion i'r iaith Gymraeg yn yr ardal a'r defnydd cymunedol o adeiladau ysgol. Yn ogystal, rhoddwyd cyfle i bobl ifanc o ardal Llangefni roi eu barn ar y cynigion i foderneiddio ysgolion yn yr ardal a gwnaethant hynny mewn sesiwn awr ar 24 Tachwedd, 2016. Ceir crynodeb o'u sylwadau yn rhan 11 o'r adroddiad.

 

Cyfeiriodd y Swyddog at y fethodoleg a ddefnyddiwyd i werthuso ystod o opsiynau ac  amlinellodd y meini prawf a ddefnyddiwyd i asesu a sgorio’r opsiynau hynny. Mae dau brif opsiwnsef Opsiynau A a B yn yr adroddiad wedi dod i'r amlwg o'r broses dadansoddi opsiynau ac mae'r rhain yn cael eu cynnig fel y sail ar gyfer cynnal proses ymgynghori ffurfiol, statudol ar ad-drefnu addysg gynradd yn ardal Llangefni.

 

Anerchodd y Cynghorwyr Dylan Rees a Nicola Roberts y Pwyllgor Gwaith fel Aelodau Lleol. Cyfeiriodd y Cynghorydd Rees at yr angen i ostwng nifer y lleoedd gwag fel un o brif yrwyr y broses i ad-drefnu ysgolion cynradd ar yr Ynys ond pwysleisiodd nad yw gormod  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 9.

10.

Gwaith Gwella i’r Briffordd rhwng C3 yr A55 a Wylfa Newydd ar hyd yr A5 a’r A5025 pdf eicon PDF 13 MB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd i’w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith, adroddiad y Pennaeth Gwasanaeth (Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo) ar waith gwella i'r briffordd rhwng cyffordd 3 ar yr A55 a Wylfa Newydd ar hyd yr A5 a'r A5025.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Prosiect (Prosiectau Mawr) fod y Pwyllgor Gwaith wedi awdurdodi camau paratoadol eisoes mewn perthynas â gwneud a chyflwyno Gorchmynion Prynu Gorfodol (GPG) i fwrw ymlaen gyda gwaith gwella priffyrdd fel rhan o ddatblygu Wylfa Newydd, a bod yr adroddiad hwn yn awr yn gofyn am ganiatâd y Pwyllgor Gwaith i wneud, cyflwyno a gweithredu Gorchmynion o'r fath i symud ymlaen â'r gwaith ar yr A5025. Cyn hynny, mae angen cwblhau Cytundeb Indemnio.  Cyfeiriodd y Swyddog at y cynlluniau GPG a oedd ynghlwm wrth yr adroddiad ac a oedd yn dangos maint y tir sydd ei angen, a thynnodd sylw'r Pwyllgor Gwaith at y ffaith y gall bod angen gwneud mân-newidiadau i’r cynlluniau hyn wrth i'r prosiect fynd yn ei flaen. Roedd y Pwyllgor Gwaith yn cydnabod ac yn derbyn hyn.

 

Penderfynwyd awdurdodi'r Pennaeth Gwasanaeth (Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo) -

 

  Ar ôl cwblhau’r Cytundeb Indemniad, i wneud a chyflwyno Gorchymyn/Gorchmynion Prynu Gorfodol(GPG) yn unol ag adrannau 239, 240, 246, 250 a 260 o Ddeddf Priffyrdd 1980 a Deddf Caffael Tir 1981 a’r holl bwerau eraill y mae’r Pennaeth Gwasanaeth  yn ystyried eu bod yn angenrheidiol mewn perthynas â gwneud a chyflwyno GPG mewn perthynas â’r cyfan neu ran o’r tir a amlinellir mewn coch ar y Cynlluniau GPG yn Atodiad 1 yr adroddiad ac unrhyw dir arall y gellir ystyried ei fod yn angenrheidiol i wneud y gwaith ar yr A5025 gan gynnwys unrhyw gamau lliniaru.

  Ar ôl cwblhau’r Cytundeb Indemniad, i wneud a chyflwyno unrhyw Orchmynion Ffyrdd Ochr (GFfO) ac unrhyw orchmynion priffyrdd eraill sy’n angenrheidiol i alluogi cyflawni’r gwaith ar yr A5025.

  Ar ôl cwblhau’r Cytundeb Indemniad, i gymryd pob cam angenrheidiol i sicrhau y gellir gwneud, cadarnhau a gweithredu’r GPG, unrhyw GFfO ac unrhyw orchmynion priffyrdd eraill, gan gynnwys cyhoeddi a chyflwyno’r holl hysbysiadau, ceisiadau am wybodaeth a datganiadau o resymau, ynghyd â pharatoi a chyflwyno  achos y Cyngor mewn unrhyw ymchwiliad cyhoeddus i sicrhau cadarnhau’r GPG a’r GFfO gan yr Ysgrifennydd Gwladol.

  Ar ôl cael cadarnhad o’r Gorchymyn/Gorchmynion Prynu Gorfodol, i ddefnyddio’r pwerau a roddwyd gan y Gorchymyn Prynu Gorfodol perthnasol i gaffael tir a/neu hawliau trwy gytundeb.

  Ar ôl cwblhau’r Cytundeb Indemniad, i wneud cytundebau y mae’r Pennaeth Gwasanaeth yn ystyried eu bod yn briodol gyda thirfeddianwyr a phobl eraill sydd â diddordeb yn y tir sy’n destun y Gorchymyn/Gorchmynion Prynu Gorfodol i gaffael tir/hawliau a/neu i sicrhau y tynnir yn ôl wrthwynebiadau i’r GPG a’r GFfO.

  Ar ôl cwblhau’r Cytundeb Indemniad, i wneud unrhyw daliadau iawndal angenrheidiol  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 10.

11.

Cau Allan y Wasg a'r Cyhoedd pdf eicon PDF 66 KB

"Dan Adran 100 (A)(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a'r cyhoedd o'r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn, oherwydd y posibilrwydd y caiff gwybodaeth eithriedig ei rhyddhau fel y diffinnir hi yn Atodlen 12A y Ddeddf a'r Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm".

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ystyriwyd a phenderfynwyd Dan Adran 100 (A) (4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, gau allan y wasg a'r cyhoedd o'r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn ar y sail ei bod yn golygu datgelu gwybodaeth eithriedig fel y'i diffinnir yn Atodlen 12A y Ddeddf honno ac yn y Prawf Budd y Cyhoedd fel y'i cyflwynwyd.

12.

Ailddatblygu Neuadd y Farchnad

Cyflwyno adroddiad ar y cyd gan y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog 151, y Pennaeth Dysgu a’r Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd.

Cofnodion:

Cyflwynwyd i’w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith, adroddiad y Pennaeth Dysgu a’r Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) a'r Swyddog Adran 151 mewn perthynas â materion yn ymwneud ag ailddatblygu Hyb Neuadd y Farchnad yng Nghaergybi.

 

Penderfynwyd cymeradwyo argymhelliad yr adroddiad mewn perthynas ag ailddatblygu Hyb Neuadd y Farchnad, Caergybi.