Rhaglen, Penderfyniadau a Chofnodion.

Pwyllgor Gwaith - Dydd Llun, 23ain Ionawr, 2017 10.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Council Chamber, Council Offices, Llangefni

Cyswllt: Ann Holmes / Mairwen Hughes 

Cyfryngau

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn datganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniwyd datganiadau o ddiddordeb gan :-

 

Datganodd y Cynghorydd K. P. Hughes ddiddordeb personol mewn perthynas ag eitem 7.

 

Datganodd y Cynghorydd H. Eifion Jones ddatganiad personol mewn perthynas ag eitem 6.

 

Datganodd y Cynghorydd J. Arwel Roberts ddiddordeb personol mewn perthynas ag eitem 7 a 8.

 

2.

Materion brys ardystiwyd gan y Prif Weithredwr neu ei Swyddog Apwyntiedig

Dim materion brys ar adeg anfon y rhaglen hon.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw fater brys.

3.

Cofnodion pdf eicon PDF 237 KB

Cyflwyno i’w cadarnhau, gofnodion drafft y Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar 19 Rhagfyr, 2016.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd i’w cadarnhau, gofnodion cyfarfod blaenorol o’r Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar 19 Rhagfyr, 2016.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo cofnodion y cyfarfod o’r Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar 19 Rhagfyr, 2016 fel rhai cywir.

4.

Cofnodion – Panel Rhiant Corfforaethol pdf eicon PDF 216 KB

Cyflwyno i’w mabwysiadu, gofnodion drafft y Panel Rhiant Corfforaethol a gynhaliwyd ar 5 Rhagfyr, 2016. 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd, i’w mabwysiadu gan y Pwyllgor Gwaith, gofnodion cyfarfod y Panel Rhiantu Corfforaethol a gynhaliwyd ar 5 Rhagfyr, 2016.

 

PENDERFYNWYD cadarnhau cofnodion y cyfarfod o’r Panel Rhiant Corfforaethol a gynhaliwyd ar 5 Rhagfyr, 2016 fel rhai cywir.

5.

Blaenraglen Waith y Pwyllgor Gwaith pdf eicon PDF 783 KB

Cyflwyno adroddiad gan Bennaeth y Gwasanaethau Democrataidd.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd er ystyriaeth gan y Pwyllgor Gwaith, adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd a oedd yn cynnwys Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith ar gyfer y cyfnod Chwefror – Medi 2017.

 

Tynnodd y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd sylw at y newidiadau i’r Blaen Raglen Waith fel a ganlyn :-

 

·           Eitem 2 – Rhent Tai Cyngor a Garejis yn ystod 2017/18 – gwneir penderfyniad dirprwyedig ar y mater hwn ym mis Chwefror 2017.

 

Eitemau newydd i’r Blaen Raglen Waith

 

·           Eitem 17 – bydd Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg 2017 – 2020 yn cael ei ystyried gan y Pwyllgor Gwaith yn ei gyfarfod ar 14 Chwefror 2017;

·           Eitem 18 – bydd Cynllun Comisiynu Cefnogi pobl yn cael ei ystyried gan y Pwyllgor Gwaith yn ei gyfarfod ar 14 Chwefror 2017;

·           Eitem 19 – bydd Defnydd Premiwm Treth Gyngor ar ail gartrefi a thai gwag tymor hir yn cael ei ystyried gan y Pwyllgor Gwaith yn ei gyfarfod ar 14 Chwefror 2017;

·           Eitem 20 – bydd Safleoedd ar Ynys Môn i Sipsiwn a Theithwyr yn cael ei ystyried gan y Pwyllgor Gwaith yn ei gyfarfod ar 14 Chwefror 2017;

·           Eitem 38 – bydd yr Adroddiad Perfformiad Blynyddol (Cynllun Gwella) 2016/17 yn cael ei ystyried gan y Pwyllgor Gwaith yn ei gyfarfod ym mis Medi 2017;

·           Eitem 39 – bydd y Cynllun Corfforaethol 2017 – 2022 yn cael ei ystyried gan y Pwyllgor Gwaith yn ei gyfarfod ym mis Medi 2017.

 

Eitemau a aildrefnwyd ar gyfer ystyriaeth

 

·           Eitem 13 – Asesiad Llesiant – Bwrdd Gwasanaethau Lleol wedi ei aildrefnu i gael ei ystyried gan y Pwyllgor Gwaith ar 20 Mawrth 2017 yn hytrach na 14 Chwefror 2017;

·           Eitem 28 – Asesiad Digonolrwydd Gofal Plant wedi ei aildrefnu i gael ei ystyried gan y Pwyllgor Gwaith ar 24 Ebrill 2017 yn hytrach na 20 Mawrth 2017;

·           Eitem 29 – Cynllun Busnes a Chyllideb Ddrafft y Cyfrif Refeniw Tai 2017-2018 i gael ei ystyried gan y Pwyllgor Gwaith ar 20 Mawrth 2017 yn hytrach na 14 Chwefror 2017;

 

Eitemau newydd i’w hystyried nad ydynt ar y Blaen Raglen Waith ar hyn o bryd :-

 

·           Newid i’r Cyfansoddiad wedi ei raglennu i gael ei ystyried gan y Pwyllgor Gwaith yn ei gyfarfod ar 14 Chwefror 2017 ac yna gan y Cyngor Sir ar yn ei gyfarfod ar 28 Chwefror 2017;

·           Cwrs Golff, Llangefni wedi ei raglennu i gael ei ystyried gan y Pwyllgor Gwaith yn ei gyfarfod ar 14 Chwefror 2017;

·           Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru wedi ei raglennu i gael ei ystyried gan y Pwyllgor Gwaith yn ei gyfarfod ar 20 Mawrth 2017;

·           Gwasanaeth Polisi Cynllunio ar y Cyd (Gwynedd ac Ynys Môn) wedi ei raglennu i gael ei ystyried gan y Pwyllgor Gwaith yn ei gyfarfod ar 20 Mawrth 2017;

·           Llywodraethiant Gwasanaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru wedi ei raglennu i gael ei ystyried gan y Pwyllgor Gwaith yn ei gyfarfod ar 20 Mawrth 2017.

 

PENDERFYNWYD cadarnhau Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith wedi ei diweddaru am y cyfnod o fis Chwefror i fis Medi 2017 yn amodol  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 5.

6.

Adroddiad ar yr Ymgynghoriad Statudol ar ostwng yr oedran mynediad ar gyfer Ysgol Brynsiencyn pdf eicon PDF 619 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Dysgu.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd er ystyriaeth y Pwyllgor Gwaith – adroddiad gan y Pennaeth Dysgu mewn perthynas â chais gan Gorff Llywodraethu Ysgol Brynsiencyn i’r Awdurdod ystyried gostwng oed mynediad yr ysgol i dderbyn disgyblion yn rhan-amser o’r Medi yn dilyn eu pen-blwydd yn 3 oed.

 

Wedi datgan diddordeb personol, dywedodd y Cynghorydd H. Eifion Jones ei fod wedi derbyn cyngor cyfreithiol a bod hawl ganddo i gymryd rhan a phleidleisio mewn perthynas â’r eitem hon.

 

Adroddodd yr Aelod Portffolio Addysg bod y Pwyllgor Gwaith wedi cytuno i ddechrau’r broses ymgynghori ym mis Mehefin 2016. Cynhaliwyd cyfarfod agored yn yr ysgol ar 13 Medi 2016 i drafod y Ddogfen Ymgynghori drafft. Paratowyd y ddogfen derfynol a chynhaliwyd ymgynghoriad rhwng 24 Hydref a 4 Rhagfyr 2016.

 

PENDERFYNWYD parhau gyda’r broses drwy gyhoeddi gorchymyn statudol ynghylch gostwng oed mynediad i Ysgol Brynsiencyn fel y gellir derbyn disgyblion ar sail rhan amser yn y mis Medi yn dilyn eu pen-blwydd yn 3 oed.

 

7.

Moderneiddio Ysgolion – Caergybi a Llanfaethlu pdf eicon PDF 372 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Dysgu.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd er ystyriaeth y Pwyllgor Gwaith – adroddiad gan y Pennaeth Dysgu mewn perthynas â symud dyddiad gweithredu’r rhybuddion statudol ar gyfer Ysgol Rhyd y Llan ac Ysgol Cybi.

 

Dywedodd y Cynghorwyr K. P. Hughes a J. Arwel Roberts eu bod wedi datgan diddordeb personol mewn perthynas â’r eitem hon ac nad oedd hawl ganddynt i siarad na phleidleisio ar y mater hwn.

 

Adroddodd y Deilydd Portffolio Addysg bod oedi wedi digwydd yn y gwaith o adeiladu Ysgol Rhyd y Llan oherwydd bod gweddillion archeolegol wedi eu canfod ar y safle a bod nifer o faterion cadwraeth wedi codi fel rhan o’r broses gynllunio mewn perthynas ag Ysgol Cybi, gan fod yr adeilad yn un rhestredig.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo oedi o ran dyddiad gweithredu’r ddau gynnig i gwblhau Ysgol Rhyd y Llan ac Ysgol Caergybi tan 1 Medi 2017 ar yr amod bod y swyddogion yn rhoi gwybod i’r “partïon perthnasol”.

 

8.

Trefniadau Ariannu ar gyfer Ysgolion Newydd pdf eicon PDF 240 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd er ystyriaeth y Pwyllgor Gwaith adroddiad y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 mewn perthynas â threfniadau cyllido ar gyfer ysgolion newydd.

 

Dywedodd y Cynghorydd J. Arwel Roberts ei fod wedi datgan diddordeb personol mewn perthynas â’r eitem hon ac nad oedd ganddo hawl i siarad na phleidleisio.

 

Adroddodd y Deilydd Portffolio Cyllid nad yw’r Polisi Ariannu Teg wedi cael ei ddiweddaru ers y 1990au cynnar a nododd bod angen rhoi polisi cadarn yn ei le er mwyn cyllido ysgolion pan fyddant yn cael eu huno.

 

PENDERFYNWYD:-

 

·           Yn y flwyddyn gyllido gyntaf, gosod cyllidebau ar gyfer unrhyw ysgolion sy'n cau neu ysgolion newydd sy’n eu holynu, a hynny’n seiliedig ar ddyraniad cyllidebol yr ysgolion cyfredol ar gyfer blwyddyn lawn, ac yna rhannu’r cyfanswm rhwng yr ysgolion sy'n cau a’r ysgolion newydd sy’n cymryd eu lle, yn seiliedig ar ddyddiadau cau neu agor pob ysgol;

 

·           Diwygio'r Polisi Ariannu Teg, er mwyn caniatáu trosglwyddo unrhyw warged cyfun sydd gan yr ysgolion sy’n cau i’r ysgol newydd sy’n cymryd eu lle, hyd at y trothwy o £50,000 ar gyfer y sector Cynradd / £100,000 ar gyfer y sectorau Uwchradd ac Arbennig neu 5% o ddyraniad cyllidebol yr ysgol sy’n olynu;

 

·           Trosglwyddo i’r gyllideb Addysg Ganolog unrhyw warged sydd dros £ 50,000 / £ 100,000 yn yr ysgolion sy’n cau, neu sy’n uwch na 5% o ddyraniad cyllidebol yr ysgol newydd, a hynny er mwyn talu am gostau trosiannol yn y flwyddyn gyntaf;

 

·           Pan geir arbedion refeniw yn sgil cau ysgolion a sefydlu un ysgol newydd arall yn eu lle, bydd unrhyw arbediad refeniw yn cael ei dynnu o gyllideb ddirprwyedig gyffredinol yr ysgol fel cyfraniad i’r cynnydd yn y costau cyllido cyfalaf sy'n deillio o'r buddsoddiad yn yr ysgolion newydd;

 

·           Bydd unrhyw bwysau Diogelu Cyflog yn cael eu tynnu o’r arbediad refeniw uchod (pwynt 4). Dylai'r cyflog cyfartalog ar gyfer yr ysgol newydd gynnwys unrhyw bwysau o ran diogelu cyflogau.  Bydd yr ysgol newydd yn gyfrifol am dalu'r costau diogelu cyflogau. Unwaith y bydd y diogelwch cyflog wedi dod i ben, bydd yr arbediad hwn hefyd yn cael ei dynnu o'r Gyllideb a Ddirprwywyd i Ysgolion.