Rhaglen, Penderfyniadau a Chofnodion.

Cyllideb, Pwyllgor Gwaith - Dydd Mawrth, 14eg Chwefror, 2017 10.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Council Chamber, Council Offices, Llangefni

Cyswllt: Ann Holmes / Mairwen Hughes 

Cyfryngau

Eitemau
Rhif. Eitem

Croesawodd y Cadeirydd y sawl a oedd yn bresennol i’r cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Gwaith.  Dywedodd y byddai sesiwn y bore yn rhoi sylw’n bennaf i faterion ariannol yn cynnwys cymeradwyo’r cynigion terfynol ar gyfer Cyllideb 2017/18 ar gyfer cyflwyno argymhelliad i’r Cyngor llawn yn ei gyfarfod ar 28 Chwefror 2017 i osod Cyllideb y Cyngor am 2017/18 yn ffurfiol.  Eglurodd y Cadeirydd bod y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Gwiath, o ran y gyllideb, yn benllanw misoedd o drafodaethau, her a sgriwtini ymysg Aelodau, Swyddogion, y cyhoedd a chydranddeiliaid eraill a bod eu mewnbwn nhw wedi helpu i siapio’r cynigion sydd dan ystyriaeth yn y cyfarod heddiw a bod hynny’n cael ei werthfawrogi’n arw. 

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn datganiad o ddiddordeb gan Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gwnaed y datganiadau o ddiddordeb isod –

 

Gwnaeth y Cynghorydd Richard Dew dddatganiad o ddiddordeb personol a rhagfarnus mewn perthynas ag eitem 10 ar y rhaglen.

 

Gnwaeth y Cynghorydd H. Eifion Jones dddatganiad o ddiddordeb personol a rhagfarnus yn eitem 8 ar y rhaglen a datganiad o ddiddordeb personol yn unig yn eitem 25.

 

Gwnaeth y Cynghorydd Aled Morris Jones ddatganiad o ddiddordeb personol a rhagfarnus yn eitemau 13 a 22 ar y rhaglen.

 

Gwnaeth y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) a’r Swyddog Adran 151 ddatganiad o ddiddordeb mewn perthynas ag eitem 13 ar y rhaglen.

2.

Materion brys a ardystiwyd gan y Prif Weithredwr neu ei Swyddog a benodwyd ganddo

Dim materion brys ar adeg anfon y rhaglen hon.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim i’w hadrodd.

3.

Cofnodion pdf eicon PDF 249 KB

Cyflwyno i’w cadarnhau, gofnodion drafft y Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar 23 Ionawr, 2017.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd ar gyfer eu cadarnhau, gofnodion y cyfarfod diwethaf o’r Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar 23 Ionawr, 2017.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Gwaith a gafwyd ar 23 Ionawr, 2017 fel rhai cywir.

 

4.

Monitro’r Gyllideb 2016/17 Ch 3 - Refeniw pdf eicon PDF 460 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd er sylw’r Pwyllgor Gwaith – adroddiad y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) a’r Swyddog Adran 151 yn nodi perfformiad ariannol gwasanaethau’r Cyngor ar gyfer y trydydd chwarter o 1 Ebrill, 2016 i 31 Rhagfyr, 2016 ynghyd â’r sefyllfa a ragamcenir ar gyfer y flwyddyn gyfan.

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio Cyllid mai’r sefyllfa ariannol gyffredinol a ragamcenir yn Chwarter 3 ar gyfer blwyddyn ariannol 2016/17, yn cynnwys Cyllid Corfforaethol a Chronfa’r Dreth Gyngor yw gorwariant o £16k, neu 0.01% o gyllideb net y Cyngor am 2016/17. Mae hyn yn well o lawer na’r gorwariant o £660k a ragwelwyd yn ystod Chwarter 2; gellir priodoli’r gostyngiad yn y gorwariant a ragwelwyd i’r tanwariant yn y gyllideb Cyllid yn bennaf. Dywedodd yr Aelod Portffolio ei fod yn gobeithio y bydd modd cynnal y sefyllfa hon hyd ddiwedd y flwyddyn ariannol; o brofiad y blynyddoedd diwethaf, pur anaml y ceir unrhyw syrpreis yn Chwarter 4.

 

Roedd y Pwyllgor Gwaith, tra’n derbyn bod cyfanswm y gwariant cyfalaf yn adlewyrchu sefyllfa gytbwys, yn nodi bod amrywiadau amlwg yng nghyllidebau’r gwasanaethau unigol gyda nifer o enghreifftiau o orwariant a thanwariant; gofynnodd am esboniad o’r modd y cawsant eu ffactora i mewn i gynlluniau’r flwyddyn nesaf.

 

Dywedodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) a’r Swyddog Adran 151 mai’r gwasanaethau sy’n dioddef pwysau ariannol ac sydd, o’r herwydd, yn gorwario, yw Dysgu Gydol Oes a’r Gwasanaethau Plant. O ran yr ail wasanaeth, mae’r Pwyllgor Gwaith wedi cymeradwyo rhyddhau cyllid i sefydlu Tîm Trothwy Gofal fel mesur ymyrraeth gynnar i gefnogi teuluoedd a thrwy hynny, gostwng nifer y plant sy’n cael eu cymryd i ofal yr Awdurdod, sy’n arwain at gostau. Mae dwy elfen o’r gyllideb Dysgu Gydol Oes yn gorwario, sef Cludiant Ysgol a’r gyllideb Addysg All-sirol sy’n cwrdd â chost darpariaeth addysg ar gyfer plant sydd, oherwydd eu hanghenion, mewn lleoliadau y tu allan i Ynys Môn. Mae cynlluniau cyllidebol y flwyddyn nesaf yn cydnabod y pwysau ar y gyllideb benodol hon ac yn darparu arian ychwanegol i’r Gwasanaeth Addysg er mwyn cwrdd â’r costau cynyddol yn y maes hwn. Mae’n gyllideb anodd i’w rheoli oherwydd mae’n cael ei harwain gan y galw am y gwasanaeth; gall cost cwrdd ag anghenion un plentyn mewn lleoliad all-sirol fod yn sylweddol ac achosi gorwariant.

 

Penderfynwyd –

 

·           Nodi’r sefyllfa mewn perthynas â’r perfformiad ariannol hyd yma.

 

·           Caniatáu trosglwyddo unrhyw danwariant ar ddiwedd y flwyddyn yn y gyllideb graeanu ffyrdd i gronfa wrth gefn a glustnodwyd i gynorthwyo i gyllido costau ychwanegol yn y dyfodol yn sgil tywydd garw dros y gaeaf.

 

5.

Monitro’r Gyllideb 2016/17 Ch 3 - Cyfalaf pdf eicon PDF 392 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd er sylw’r Pwyllgor Gwaith – adroddiad y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) a’r Swyddog Adran 161 yn nodi perfformiad ariannol y gyllideb gyfalaf ar gyfer trydydd chwarter blwyddyn ariannol 2016/17.

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio Cyllid na fu unrhyw newidiadau mawr o ran y prif risgiau i’r gyllideb gyfalaf yr adroddwyd arnynt ar ddiwedd yr ail chwarter.Y gwariant a broffiliwyd hyd at ddiwedd y trydydd chwarter ar gyfer y Gronfa Gyffredinol oedd 100%, serch hynny, dim ond 51% o’r gyllideb flynyddol sydd wedi ei wario hyd yma a hynny oherwydd bod gwariant ar nifer o gynlluniau’n digwydd tuag at chwarter olaf y flwyddyn ariannol. Mae’r sefyllfa o ran derbyniadau cyfalaf wedi gwella a gobeithir y bydd modd sicrhau’r cyfanswm o £8m a ragamcanwyd erbyn diwedd Mawrth 2017. Bydd hyn yn cyfrannu at y gost o gwrdd â rhaglen gyfalaf 2017/18 sy’n rhaglen uchelgeisiol a bydd yn gostwng anghenion y Cyngor o safbwynt benthyciadau.

 

Soniodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) a’r Swyddog Adran 151 am y sefyllfa mewn perthynas â llithriad ar y Cyfrif Refeniw Tai, y gwelliannau i’r briffordd ar gyfer prosiect Wylfa Newydd a Phrosiect Seilwaith Strategol Caergybi a Llangefni. Y rhain yw cynlluniau pwysicaf y Cyngor ac er bod rhywfaint o lithriad ar y cynlluniau hyn yn debygol, bydd cyllid o’r Cyfrif Refeniw Tai ar gael y flwyddyn nesaf a’r gyfer cynlluniau’r CRT a bydd cyllid grant hefyd ar gael Horizon a SCEC yn achos y ddau gynllun arall gan olygu na fydd y Cyngor yn colli unrhyw arian.

 

Penderfynwyd nodi’r gwariant a’r derbyniadau yn erbyn y gyllideb gyfalaf.

 

 

6.

Arian Wrth Gefn pdf eicon PDF 571 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd er sylw’r Pwyllgor Gwaith – adroddiad y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) a’r Swyddog Adran 151 ar y defnydd o arian wrth gefn a balansau.

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio Cyllid mai bod £8.886m yn y balansau cyffredinol ar 31 Mawrth 2016. Yng nghyllideb 2016/17, crëwyd cronfa o £1m o’r balansau cyffredinol er mwyn ariannu prosiectau unigol oedd â’r modd i greu arbedion effeithlonrwydd i’r Awdurdod. Mae sefyllfa ariannol gyffredinol y Cyngor yn dda ar hyn o bryd gyda lefel iach o falansau cyffredinol a chronfeydd sydd wedi eu clustnodi. Fodd bynnag, mae yna nifer o risgiau y bydd angen eu hasesu wrth benderfynu ar lefel y balansau cyffredinol y bydd eu hangen yn y dyfodol a sonnir am y rhain yn adran 3.3 yr adroddiad.  Ers 2011/12, mae balansau cyffredinol y Cyngor wedi codi o £5.796m yn 2012 i £8.86m yn 2016. Yr argymhelliad ar sail asesiad y Swyddog Adran 151 yw y dylai’r Cyngor geisio cadw o leiaf £6m yn ei falansau cyffredinol.

 

Gofynnodd y Pwyllgor Gwaith am gadarnhad bod y gwariant mewn perthynas â chronfeydd sydd wedi eu clustnodi yn cydymffurfio gyda’r gwariant a broffiliwyd ar gyfer pob cronfa.

 

Dywedodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) a’r Swyddog Adran 151 fod cronfeydd wedi eu clustnodi yn cael eu monitro er mwyn sicrhau bod y gwariant yn unol â’r dibenion y cafodd yr arian wrth gefn ei neilltuo ar eu cyfer; mae cyfyngiadau ar rai o’r cronfeydd sydd wedi eu clustnodi a bydd eu hangen i gyllido costau posibl yn y dyfodol;  cyfyngir eu defnydd i ddibenion penodol. Mae cronfeydd eraill yn rhai dal grantiau - cronfeydd sy’n dal swm unrhyw grant a dderbyniwyd nad yw wedi cael ei ddefnyddio. Felly mae nifer o’r balansau a gedwir mewn cronfeydd wrth gefn yn falansau y mae’n rhaid i’r Cyngor eu dal yn ychwanegol at y Gronfa Gyffredinol.  

 

Penderfynwyd –

 

·           Nodi'r polisi cyffredinol ynglŷn â chronfeydd a balansau a fabwysiadwyd ar 1 Mawrth 2016, fel y nodir hynny yn Atodiad A.

·           Pennu isafswm balansau cyffredinol o £6m ar gyfer 2017/18 yn unol ag asesiad y Swyddog Adran 151.

·           Cadarnhau parhad y cronfeydd presennol a glustnodwyd.

 

7.

Ffioedd a Thaliadau 2017/18 pdf eicon PDF 833 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd er sylw’r Pwyllgor Gwaith – adroddiad y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) a’r Swyddog Adran 151 ar lefel y ffioedd a thaliadau ar gyfer 2017/18.

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio Cyllid bod y Pwyllgor Gwaith wedi gosod amcan y dylai’r holl ffioedd a thaliadau anstatudol gael eu cynyddu 3% ar gyfartaledd ar draws pob gwasanaeth unigol. Er bod hyn wedi caniatáu i’r Penaethiaid Gwasanaeth gynyddu ffioedd unigol gan fwy neu lai na 3%, mae’r cynnydd cynnydd cyfartalog ar draws y gwasanaeth yn cyfateb i 3%. Mae’r adroddiad yn mabwysiadu ymagwedd at yr adolygiad o ffioedd a thaliadau lle mae’r rhai sy’n berthnasol i bob gwasanaeth (ac eithrio ffioedd ar gyfer Gofal Cymdeithasol sy’n cael eu hystyried ar wahân) yn cael eu dwyn ynghyd mewn un rhestr gyfansawdd. Dywedodd yr Aelod Portffolio bod ystyried codi ffioedd a thaliadau’n incrementaidd bob blwyddyn yn beth synhwyrol i’w wneud er mwyn cadw i fyny gyda chwyddiant ac fel nad yw’r Cyngor yn canfod ei hun mewn sefyllfa lle mae ar ei hôl hi o gymharu ag awdurdodau eraill ac yn gorfod ceisio dal i fyny. Hefyd, mae’n sicrhau ei fod yn deg gyda’r rheiny sy’n derbyn y gwasanaeth a threthdalwyr fel ei gilydd.

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r rhestr o ffioedd a thaliadau ar gyfer 2017/18.

8.

Y Tâl Safonol ar gyfer Gartrefi Gofal y Cyngor 2017/18 pdf eicon PDF 254 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd er sylw’r Pwyllgor Gwaith – adroddiad y Pennaeth Gwasanaeth Oedolion yn gofyn am ganiatâd y Pwyllgor Gwaith i bennu lefel Tâl Safonol yr Awdurdod ar gyfer cartrefi gofal yr awdurdod am y cyfnod rhwng Ebrill 2017 a Mawrth 2018.

 

Wedi datgan diddordeb a oedd yn rhagfarnu yn y mater hwn, gadawodd y Cynghorydd H. Eifion Jones y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a’r penderfyniad arno.

 

Dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion mai’r tâl safonol yw’r ffi y mae’n rhaid i’r Awdurdod ei chodi ar y preswylwyr hynny sydd â’r modd ariannol i dalu am gost lawn eu gofal preswyl. Cyfeiriodd at ddull yr Awdurdod hwn o bennu’r tâl safonol a’r ffactorau a gymerwyd i ystyriaeth wrth gyfrifo’r ffi ar gyfer  2017/18. Fel y nodir yn nhabl A yr adroddiad, ystyriwyd cynyddu’r tâl i gost lawn y ddarpariaeth ond gwrthodwyd hynny oherwydd y byddai’n arwain at gynnydd sylweddol ac anghymesur i breswylwyr.

 

Penderfynwyd -

·           Er bod y Cyngor yn cydnabod y costau sy’n gysylltiedig â gofal preswyl, nid yw cost wirioneddol darparu’r gwasanaeth wedi cael ei adlewyrchu yn y tâl a godir ar drigolion.

·           Bod y cynnydd ar gyfer y rheini sy’n cyfrannu tuag at gost eu gofal yn gyson gyda’r canllawiau ar gyfer gwasanaethau’r Cyngor, sef 3%, a bod ffi o £584.29 yn cael ei gosod.

 

9.

Ffioedd Preswyl a Chartrefi Nyrsio'r Sector Annibynnol 2017/18 pdf eicon PDF 189 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd i’w ystyried – adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion yn gofyn am ganiatâd y Pwyllgor Gwaith i bennu ffioedd cartrefi gofal y sector annibynnol am 2017/18.

 

Dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion bod rhaid i ni, wrth bennu ffioedd ar gyfer cartrefi gofal yn y sector annibynnol, ddangos ein bod wedi rhoi ystyriaeth lawn i gostau’r ddarpariaeth wrth benderfynu ar y ffioedd gofal safonol. Gwneir hyn mewn cydweithrediad ag Awdurdodau eraill yng Ngogledd Cymru a’r Bwrdd Iechyd drwy ddefnyddio methodoleg ffioedd ranbarthol (Atodiad 1). Caiff argymhellion Methodoleg Gogledd Cymru eu nodi yn Nhabl 1 yr adroddiad. Mae’r Awdurdod yn bwriadu defnyddio’r fethodoleg ar gyfer yr holl gategorïau yn Nhabl 1 ac eithrio Gofal Preswyl (Oedolion) am y sail na fyddai gweithredu’r model yn llawn ar draws pob sector yn fforddiadwy. Yr argymhelliad felly oedd gweithredu’r cyfraddau a nodir yn Nhabl 2 yr adroddiad. Fel rhan o’r broses o ymgynghori ar y ffioedd gyda darparwyr lleol, dywedodd y Swyddog y bydd efallai angen ystyried achosion unigol. Os ceir tystiolaeth glir nad yw’r ffi a bennwyd yn ddigonol mewn unrhyw achos unigol, bydd angen i’r Cyngor ystyried eithriadau i’r cyfraddau.

 

Penderfynwyd -

·         Cydnabod Methodoleg Ffioedd Gogledd Cymru fel y cafodd ei gweithredu hyd yma gan yr Awdurdodau yng Ngogledd Cymru fel sylfaen ar gyfer pennu ffioedd yn Ynys Môn yn ystod 2017/18 fel y nodir hynny yn Atodiad 1 yr adroddiad.

·         Cymeradwyo’r argymhelliad i gynyddu’r lefelau ffioedd  fel y nodwyd yn Nhabl 2 yr adroddiad.

·         Yn yr un modd ag Awdurdodau eraill, rhoi’r awdurdod i’r Adrannau Gwasanaethau Cymdeithasol a Chyllid ymateb i unrhyw geisiadau gan gartrefi i edrych ar eu cyfrifon penodol a defnyddio’r ymarfer fel sylfaen i ystyried unrhyw eithriadau i’r ffioedd y cytunwyd arnynt. Rhaid i unrhyw eithriadau gael eu cytuno gyda’r Deilydd Portffolio, Pennaeth Cyllid a’r Pennaeth Gofal Cymdeithasol i Oedolion o’r cyllidebau cyfredol. Oni cheir cytundeb, bydd y mater yn cael ei gyfeirio i’r Pwyllgor Gwaith i’w benderfynu arno.

 

10.

Ffioedd a Thaliadau ar gyfer Gwasanaethau Di-breswyl 2017/18 pdf eicon PDF 295 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd i’w ystyried – adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion yn gofyn am ganiatâd y Pwyllgor Gwaith i bennu’r ffioedd a’r taliadau ar gyfer Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol di-breswyl sy’n seiliedig yn y gymuned am 2017/18.

 

Wedi datgan diddordeb a oedd yn rhagfarnu yn y mater hwn, gadawodd y Cynghorydd Richard Dew y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a’r penderfyniad arno.

 

Dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion ei bod yn arferol i adolygu'r ffioedd a godir mewn perthynas â gwasanaethau cartref bob blwyddyn i gyd-fynd ag adolygiad y Llywodraeth Ganolog o lefelau budd-daliadau a phensiwn a ddaw i rym eleni ar 01/04/17 1.2 Mae'r adroddiad yn nodi taliadau a ffioedd a godir am ofal cymdeithasol di-breswyl yn y gymuned yn 2017/18 yn unol â Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Cyfeiriodd y Swyddog yn benodol at y ddau faes y cynhaliwyd ymgynghoriad cyhoeddus yn eu cylch, sef taliadau Gofal Cartref a Thele-ofal a chanlyniadau’r ymgynghori hwnnw. Y nod yn y ddau achos oedd cytuno ar drefniadau codi ffioedd sy’n gyson, yn deg ac yn hawdd i’w deall.

 

Penderfynwyd -

·         Cymeradwyo’r ffioedd Gofal Cartref a amlinellir yn Nhabl 2 yr adroddiad.

·         Mabwysiadu’r argymhelliad fel yr amlinellwyd yn 2.13 i weithredu’r trefniadau bandio newydd ar gyfer gofal cartref yn 2017/18.

·         Cymeradwyo’r ffioedd ar gyfer prydau mewn gwasanaethau dydd a amlinellir yn Nhabl 3 yr adroddiad h.y.

 

Prydau mewn Gwasanaeth Dydd i oedolion (ac eithrio pobl ag Anabledd Dysgu) - £5.70

Byrbryd canol dydd mewn gwasanaethau dydd  i bobl ag anableddau dysgu - £2.30

Lluniaeth arall (te / coffi / teisen) mewn gwasanaethau dydd - £1.30

 

  • Cymeradwyo’r ffioedd ar gyfer gwasanaethau Teleofal fel yr amlinellwyd yn Nhabl 4 yr adroddiad h.y.

 

Haen 1 – bydd pawb yn talu £45.24

Haen 2 a 3 – bydd pawb yn talu £90.22

 

  • Mabwysiadu’r argymhelliad fel yr amlinellwyd yn 4.7 i weithredu’r codiadau y cytunwyd arnynt o dan argymhelliad 4 ar sail raddol, sef 50% dros ddwy flynedd.
  • Cymeradwyo’r gyfradd o £10.50/awr ar gyfer Taliadau Uniongyrchol fel yr amlinellir ym mharagraff 5.2 yr adroddiad.
  • Cynnal ffi o £10.00 ar gyfer costau gweinyddu mewn perthynas â cheisiadau am Fathodyn Glas ac i ddarparu bathodynnau glas newydd yn lle rhai a gollwyd neu a gafodd eu dwyn fel yr amlinellir ym mharagraff 6.1 yr adroddiad.
  • Cyflwyno cynnydd o 3% yn y ffi am brynu gwasanaethau gofal dydd mewn cartrefi preswyl annibynnol i £31.28.
  • Cynyddu’r ffioedd a delir ar gyfer gofal cartref a gomisiynwyd o £15.50 i £15.90 yr awr.
  • Cynnig cyfradd sylfaenol o £14.50 i’r holl ddarparwyr am becynnau Anabledd Dysgu a chytuno pecynnau ar sail unigol ar gyfer 2017/18.

 

11.

Strategaeth Ariannol ar gyfer y Tymor Canol a'r Gyllideb 2017/18 pdf eicon PDF 1 MB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd i’w ystyried – adroddiad y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) a’r Swyddog Adran 151 yn cynnwys y cynigion manwl ar gyfer cyllideb refeniw 2017/18 ac effaith hynny ar gyllideb refeniw Cyngor Sir Ynys Môn. Yn yr adroddiad hefyd, cafwyd diweddariad ar y Cynllun Ariannol ar gyfer y Tymor Canol sy’n darparu cyd-destun ar gyfer gweithio ar gyllidebau’r Cyngor yn y dyfodol. Gofynnwyd i’r Pwyllgor Gwaith wneud argymhellion terfynol i’r Cyngor Sir sydd yn gyfrifol am gymeradwyo’r Gyllideb swyddogol ar gyfer y flwyddyn nesaf.

 

Rhoes yr Aelod Portffolio Cyllid adroddiad ar y broses a oedd wedi arwain at y cynigion manwl ar gyfer y gyllideb refeniw, yn cynnwys cyfraniadau gan Aelodau, Swyddogion, y cyhoedd a grwpiau a chydranddeiliaid eraill a oedd â diddordeb. Cafodd y cynigion cychwynnol drafft ar gyfer Cyllideb 2017/18 eu cymeradwyo gan y Pwyllgor Gwaith ym mis Tachwedd 2016 ac fe’u cyhoeddwyd wedyn ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus. Roedd y rhain yn seiliedig ar gynnydd 0.3% yn setliad grant cymorth refeniw drafft Llywodraeth Cymru (sy’n cyfrif am oddeutu 80% o gyllid y Cyngor) a oedd, er yn well na’r disgwyliad, yn annigonol i bontio’r bwlch cyllido.  Gwnaed cyhoeddiad terfynol Llywodraeth Cymru ym mis Rhagfyr 2016 ac er bod y cynnydd o 0.5% yn y setliad yn well hyd yn oed, roedd yn parhau i fod yn is na chyfradd chwyddiant ac yn gadael y Cyngor gyda diffyg cyllidol. Mae’r rhan fwyaf o wariant y Cyngor yn gysylltiedig â chostau staffio; mae’r dyfarniad tâl i staff ar gyfer 2017/18 yn 1%.  Mae gwasanaethau ar draws y Cyngor yn teimlo’r pwysau ariannol; mae’r pwysau mwyaf dwys ar gyllidebau’r Gwasanaethau Plant a’r Gwasanaethau Oedolion a’r gyllideb Addysg All-sirol. Yn ogystal, mae newidiadau mawr ar y gweill yn y sector ysgolion yn Ynys Môn ac efallai y bydd angen i rywfaint o gost y benthyciadau ar gyfer rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif ddod o’r gyllideb refeniw. Ar adeg lansio’r ymgynghoriad cyhoeddus ym mis Tachwedd, nodwyd bod angen gwneud arbedion oddeutu £2.9m. Ar ôl derbyn ymatebion y cyhoedd ac ystyried y materion a godwyd ganddynt, mae’r cynigion ar gyfer y gyllideb wedi cael eu diwygio yn y modd a nodir ym mharagraff 10 Atodiad 1 gyda’r cynigion diwygiedig yn rhoi sylw i’r prif bryderon a fynegwyd drwy’r ymgynghoriad cyhoeddus. Mae’r newidiadau i’r cynigion ar gyfer y gyllideb wedi gostwng cyfanswm gwerth yr arbedion a gynigiwyd i £2.444m (Atodiad 3) ac mae’r rhain yn ymwneud yn bennaf â gweithio’n gallach ac ni fydd hyn yn cael bron dim effaith wasanaethau. Er gwaethaf y newidiadau a gynigiwyd, mae sefyllfa ariannol gyffredinol y Cyngor yn parhau i fod yn gadarn.

 

Dyweodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) a’r Swyddog Adran 151 bod raid iddo sicrhau, i’r graddau y mae hynny’n bosibl, bod y broses a ddefnyddiwyd i lunio’r Gyllideb a’r rhagdybiaethau a’r rhagamcanion y mae’n seiliedig arnynt yn gadarn. Dywedodd ei fod yn fodlon yn hyn o beth a bod modd cyflawni’r cyllidebau. Caiff y gwahanol risgiau i’r gyllideb eu cydnabod a’u nodi yn adran 8 yr adroddiad ac oherwydd  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 11.

12.

Cyllideb Cyfalaf 2017/18 pdf eicon PDF 807 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynd i sylw’r Pwyllgor Gwaith ac ar gyfer ei argymell i’r Cyngor llawn ar 28 Chwefror, 2017 – adroddiad y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) a’r Swyddog Adran 151 yn nodi’r cynigion terfynol ar gyfer Rhaglen Gyfalaf 2017/18.

 

Argymhellodd yr Aelod Portffolio Cyllid bod y Pwyllgor Gwaith yn derbyn y rhaglen gyfalaf.

 

Dywedodd y Cynghorydd R. Meirion Jones, Cadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol, bod y Pwyllgor, fel rhan o’r broses o sgriwtineiddio’r cynigion ar gyfer Cyllideb 2017/18, wedi ystyried y Rhaglen Gyfalaf. Roedd y Pwyllgor wedi gofyn am, ac wedi derbyn sicrwydd, ei bod yn fforddiadwy. 

 

Penderfynwyd argymell y rhaglen gyfalaf isod i’r Cyngor Llawn:

·         Cynlluniau yr ymrwymwyd iddynt ac a ddygwyd

 ymlaen o 2016/17                                                                           £8.826m

·         Buddsoddi yn ein hasedau cyfredol (gan gynnwys Grantiau Cyfleusterau i’r Anabl)                                                                        £2.301m

·         Prosiectau Buddsoddi i Arbed                                                   £0.186m

·         Cynnal a Chadw Priffyrdd                                                           £0.761m

·         Cynlluniau cyfalaf mawr newydd                                              £11.675m

·         Ysgolion yr Unfed Ganrif ar Hugain                                          £6.865m

 

Cyfanswm Cynlluniau Cyfalaf y Gronfa Gyffredinol                  £30.614m

 

Cynlluniau Cyfalaf CRT                                                                          £9.889m

 

Cyfanswm y Gyllideb Gyfalaf Arfaethedig ar gyfer 2017/18          £40.503m

           

 

13.

Trethi Cenedlaethol Annomestig – Polisi ar gyfer Cymorth Dewisol tuag at Drethi Busnes am 2017/18 pdf eicon PDF 296 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd er sylw’r Pwyllgor Gwaithadroddiad y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) a’r Swyddog Adran 151 yn gofyn am ganiatâd y Pwyllgor Gwaith I ymestyn y Polisi ar Gymorth Dewisol tuag at Drethi Busnes ar gyfer Elusennau a Sefydliadau Dielw yn 2017/18.

 

Wedi datgan diddordeb a oedd yn rhagfarnu yn y mater hwn, gadawodd y Cynghorydd Aled Morris Jones y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a’r penderfyniad arno.

 

Penderfynwyd -

·           Mabwysiadu’r Polisi cyfredol ar Gymorth Dewisol tuag at Drethi Busnes – Elusennau a Sefydliadau Dielw fel y manylir arno yn Atodiad A yr adroddiad ar gyfer blwyddyn ariannol 2017/18 yn unig a’i fod yn rhoi cyfarwyddyd i’r Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) a Swyddog Adran 151 i sicrhau bod y gweithdrefnau gweinyddol cyn 31 Mawrth 2017 yn rhoi gwybod i’r elusennau a’r sefydliadau dielw perthnasol y bydd y polisi mewn grym ar gyfer 2017/18 yn unig ac y bydd yn dod i ben ar 31 Mawrth 2018.

·           Gohirio’r ymgynghoriad cyhoeddus ar y polisi yn ystod 2016/17 ac i’r Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) a Swyddog Adran 151 i adrodd yn ôl i’r Pwyllgor Gwaith parthed datblygiad y polisi hwn i’r dyfodol, ar ôl cymryd i ystyriaeth adolygiad Llywodraeth Cymru o’i gynllun rhyddhad i fusnesau bach ac effaith yr ail brisiad ar gost y polisi presennol, yn ystod 2017/18.

 

14.

Blaenraglen Waith y Pwyllgor Gwaith pdf eicon PDF 751 KB

Cyflwyno adroddiad gan Bennaeth y Gwasanaethau Democrataidd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd er sylw’r Pwyllgor Gwaith – adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Democratiadd yn nodi Blaenraglen Waith y Pwyllgor Gwaith am y cyfnod rhwng Mawrth a Hydrefn 2017.

 

Dygodd y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd sylw ar y newidiadau isod i’r Flaenraglen Waith :-

 

Eitem 4 – Adroddiad Monitro Cyllideb Refeniw a Chyfalaf – Chwarter 3 ac Eitem 9 – Bid Twf Rhanbarthol Gogledd CymruLlywodraethiant wedi cael eu trafod yn y cyfarfod hwn.

 

Eitem 7 – Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru – angen tynnu’r eitem hon oddi ar y Flaenraglen waith oherwydd mae’r un fath ag Eitem 9 uchod.

 

Eitemau newydd ar y Flaenraglen Waith

 

Eitem 15 – Strategaeth Ynni – wedi ei rhaglennu i’w thrafod gan y Pwyllgor Gwaith yn ei gyfarfod ar 20 Mawrth, 2017;

Eitem 16 – Polisi Archwilio Priffyrdd - wedi ei rhaglennu i’w thrafod gan y Pwyllgor Gwaith yn ei gyfarfod ar 20 Mawrth, 2017;

Eitem 17 – Camau Gorfodaeth mewn perthynas â Sbwriel a Baw Ci - wedi ei rhaglennu i’w thrafod gan y Pwyllgor Gwaith yn ei gyfarfod ar 20 Mawrth, 2017.

 

Eitemau sydd wedi cael eu hailraglennu

 

Eitem 12 – Cymraeg mewn Addysg – Cynllun Strategol 2017 – 2020; wedi ei ailraglennu o’r Pwyllgor Gwaith ar 14 Chwefror, 2017 i’r cyfarfod a gynhelir ar 20 Mawrth, 2017. 

 

Eitem Newydd i’w hystyried nad yw wedi ei chynnwys ar y Flaenraglen Waith:-

 

Bydd Darpariaeth Gofal Plant am hyd at 30 awr yr wythnos yn cael ei hystyried fel eitem i’w dirprwyo i’r Aelod Portffolio perthnasol.

 

PENDERFYNWYD cadarnhau Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith ar gyfer y cyfnod Mawrth – Hydref 2017 yn amodol ar y newidiadau ychwanegol a amlinellwyd yn y cyfarfod.

 

15.

Gwelliant i’r Cyfansoddiad pdf eicon PDF 229 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd er sylw’r Pwyllgor Gwaith – adroddiad gan y Pennaeth Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro ynghylch diwygio Cyfansoddiad y Cyngor. 

 

PENDERFYNWYD argymell i’r Cyngor Sir roi awdurdod i’r Swyddog Monitro i wneud y newidiadau a ganlyn i Gyfansoddiad y Cyngor a’u cyhoeddi:

·           Bydd paragraff 2.2.2 bellach yn darllen ‘Cynhelir etholiad rheolaidd Cynghorwyr ar ddyddiad ac ar gyfnodau i’w penderfynu arnynt gan Weinidogion Cymru. Bydd tymor Cynghorwyr yn eu swydd yn dechrau ar y pedwerydd diwrnod ar ôl cael eu hethol a bydd yn diweddu ar y pedwerydd diwrnod ar ôl dyddiad yr etholiad rheolaidd canlynol.’

·           Bydd paragraff 2.7.3.1 bellach yn darllen ‘Bydd tymor yr Arweinydd yn ei swydd yn parhau am dymor y Cyngor, yn amodol ar baragraff 2.7.3.3 isod.’

·           Unrhyw ddiwygiadau sy’n dilyn ac sy’n berthnasol i 1 a 2 uchod gan gynnwys y rhai hynny sy’n codi o Fesur Llywodraeth Cymru neu weithredu pwerau Gweinidog Cymru dan Ddeddf Llywodraeth Leol 2000.

 

16.

Asesiad Anghenion Poblogaeth pdf eicon PDF 8 MB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion yn cyfeirio at yr angen i ddiwygio Cyfansoddiad y Cyngori gynnwys yr Asesiad Anghenion Poblogaeth yn unol â Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (2014).

 

Dywedodd y Prif Weithredwr Cynorthwyol (Llywodraethiant a Thrawsnewid Prosesau Busnes) bod rhaid paratoi un adroddiad ar gyfer Rhanbarth Gogledd Cymru a fydd yn cael ei gymetadwyo gan y chwe Chyngor Sir a Bwrdd y Gwasanaeth Iechyd Lleol erbyn 1 Ebrill, 2017.  Nododd bod rhaid i Awdurdodau Lleol a Byrddau Iechyd Lleol, yn unol â Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (2014), baratoi adroddiad asesiad poblogaeth bob cylch etholiadol o bum mlynedd ac, yn ogystal, adolygu’r asesiad ar ôl dwy flynedd. Nodwyd y bydd yr Asesiad Anghenion Poblogaeth yn cael ei gyflwyno i’r Cyngor llawn i’w gymeradwyo yn y cyfarfod a gynhelir ar 28 Chwefror, 2017. 

 

Rhoes Is-gadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini ac Adfywio grynodeb o argymhellion y Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio a gynhaliwyd ar 24 Ionawr 2017, a chyfeiriodd yn benodol at y pryderon a fynegwyd gan y Pwyllgor ynghylch lefel y cyllid sydd ar gael i weithredu’r Cynllun Ardal Leol a fydd yn dilyn ymlaen o’r Asesiad Poblogaeth Gogledd Cymru ac na ddylai unrhyw un o’r grwpiau a effeithir orfod talu unrhyw gostau ychwanegol. Roedd y Cadeirydd yn derbyn argymhellion y Pwyllgor Sgriwtini ac yn cytuno gyda’i bryderon ond nododd ei bod yn amhosib darogan a fydd y costau i’r cyrff sy’n gysylltiedig â’r Asesiad hwn yn codi mewn gwirionedd.  

 

Dywedodd y Cadeirydd y dylai Llywodraeth Cymru ystyried modd o ddadansoddi’r cyfan o’r data sy’n gysylltiedig â’r Asesiad Anghenion Poblogaeth oherwydd mae’r wybodaeth sydd wedi ei chynnwys yn y ddogfen yn cael ei diweddaru’n rheolaidd. Dywedodd y Prif Weithredwr Cynorthwyol (Llywodraethiant a Thrawsnewid Prosesau Busnes) bod Bwrdd Rhanbarthol Gogledd Cymru wedi gorfod dadansoddi nifer anferthol o setiau data mewn perthynas â’r Asesiad hwn  sy’n orchwyl gymhleth sy’n cymryd llawer iawn o amser. Nododd y byddai o fantais petai system gyfrifiaduol yn cael ei datblygu i ddadansoddi’r cyfan o’r data; dywedodd y byddai’n codi’r mater ym Mwrdd Rhanbarthol Gogledd Cymru a chyda Llywodraeth Cymru yn y man.    

 

PENDERFYNWYD argymell i’r Cyngor Sir llawn :-

 

·           Gymeradwyo’r adroddiad;

·           Bod Adran 3.2 y Cyfansoddiad yn cael ei ddiwygio i gynnwys cymeradwyo Asesiad Anghenion Poblogaeth dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) (2014) fel swyddogaeth y mae’n rhaid i’r Cyngor Llawn ei chyflawni.

·           Awdurdodi’r Pennaeth Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro i wneud y newidiadau angenrheidiol i’r materion sydd wedi eu neilltuo fel swyddogaethau y mae’n rhaid i’r Cyngor llawn eu cymeradwyo yn y Cyfansoddiad ynghyd ag unrhyw newidiadau y mae’n rhaid eu gwneud o ganlyniad i adlewyrchu hynny.

 

17.

Cynllun Comisiynu Cefnogi Pobl pdf eicon PDF 2 MB

Cyflwyno Adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Tai.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd er sylw’r Pwyllgor Gwaith – adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Tai mewn perthynas â’r Rhaglen Cefnogi Pobl, sef menter polisi a fframwaith cyllido gan Lywodraeth Cymru sy’n darparu cymorth sy’n gysylltiedig â thai.

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio (Tai a Gwasanaethau Cymdeithasol) y derbyniwyd gohebiaeth oddi wrth Lywodraeth Cymru ym mis Rhagfyr 2016, yn dweud mai oddeutu £2,643,866 fyddai’r dyraniad i Ynys Môn ar gyfer 2017-2018. Mae’r grant hwn yn grant pwysig i’r Rhaglen Cefnogi Pobl sy’n canolbwyntio ar gynllunio, comisiynu a monitro llety â chefnogaeth a gwasanaethau cymorth a ddarperir gan wahanol ddarparwyr ar draws amrywiaeth o ddeiliadaethau sy’n cynnwys llety hygyrch a fforddiadwy, stoc tai cyngor, stoc cymdeithasau tai, rhentu preifat, tai gwarchod, perchen ddeiliaid, byw â chymorth, tenantiaethau â chymorth a thai gofal ychwanegol.

 

Dywedodd y Prif Swyddog Datblygu (Cefnoi Pobl) bod y grant hwn yn bwysig i gefnogi 800 o bobl fregus er mwyn osgoi digartrefedd a helpu pobl i fyw’n annibynnol.

 

PENDERFYNWYD :-

 

·           Cymeradwyo argymhellion y Cynllun Comisiynu Cefnogi Pobl 2017-20;

·           Cymeradwyo’r dyraniad o gyllid ar gyfer pob maes Gwasanaeth, fel yr argymhellir ar dudalen 47 o’r Cynllun Comisiynu Cefnogi Pobl.

 

18.

Defnydd o’r Premiwm Treth Gyngor ar Ail Gartrefi ac Eiddo Gwag hirdymor pdf eicon PDF 487 KB

Cyflwyno Adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Tai.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd er sylw’r Pwyllgor Gwaithadroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Tai yn gofyn i’r Pwyllgor Gwaith gymeradwyo polisi ar gyfer benthyciadau Ecwiti ar gyfer prynwyr tro a grantiau ar gyfer tai gwag i’w cyllido o’r premiwm Treth Gyngor a godir ar ail gartrefi a chartrefi gwag.

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio (Tai a Gwasanaethau Cymdeithasol) y bydd y ddau gynllun hyn yn defnyddio rhan o’r refeniw ychwanegol o £170k a gyllidir o’r premiwm Treth Cyngor a godir ar ail gartrefi a chartrefi gwag ar yr Ynys o Ebrill 2017. Bydd y polisi yn weithredol yn yr ardaloedd cyngor cymuned penodol sydd â’r nifer uchaf o ail gartrefi a/neu’r lefelau isaf o gartrefi sydd â phrisiau tai ar y chwartel isaf.

 

Dywedodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) a’r Swyddog Adran 151, mai’r risg sy’n gysylltiedig â’r cynllun hwn yw’r ansicrwydd ynghylch lefel yr incwm a gynhyrchir o gasglu’r Premiwm Treth Cyngor a godir ar ail gartrefi a chartrefi gwag oherwydd mai hon yw blwyddyn gyntaf y cynllun. Nododd y bydd perchenogion ail gartrefi a thai gwag yn cael eu sbarduno efallai i rentio eu heiddo allan pan fyddant yn derbyn biliau Treth Gyngor uwch; gall lefel yr incwm o’r cynllun ostwng oherwydd y camau a gymerir gan berchenogion ail gartrefi a thai gwag.    

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r polisi ar gyfer gweithredu’r ddau gynllun canlynol i’w hariannu o’r premiwm Treth Gyngor a godir ar ail gartrefi a chartrefi gwag ar Ynys Môn o Ebrill 2017 ymlaen :-

 

·     Grant i helpu prynwyr tro cyntaf brynu ac ailwamio tai gwag;

·     Benthyciadau ecwiti er mwyn helpu prynwyr tro cyntaf.

 

19.

Safleoedd Sipsiwn a Theithwyr ar Ynys Môn pdf eicon PDF 19 MB

Cyflwyno Adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Tai.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd er sylw’r Pwyllgor Gwaith – adroddiad gan y Pennaeth Gwasaethau tai mewn perthynas â’r posibilrwydd o sefydlu safleodd parhaol a dros dro ar gyfer sipsiwn a theithwyr ym Mhenhesgyn a Star.  

 

Dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Tai mai Capita enillodd y tendr ar gyfer paratoi Adroddiad Arfarnu Rhagarweiniol ar safleodd Penhesgyn a Star.  Roedd Mr. Jon Stoddard o Capita yn bresennol yn y cyfarfod.  Dywedodd mai’r camau nesaf ar gyfer y ddau safle y paratoi dyluniadau amlinellol yn unol â chanllawiau arfer dda ac ar gyfer eu trafod gyda chydranddeiliaid allweddol er mwyn sicrhau bod gofynion eraill o safbwynt technegol ac iechyd a diogelwch yn cael eu hymgorffori yn y cynllun yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru. Efallai y bydd angen cynnal asesiadau technegol ac amgylcheddol pellach er mwyn sicrhau bod yr holl wybodaeth angenrheidiol yn cael ei darparu. Roedd copi drafft o’r Asesiad Effaith ar Iechyd mewn perthynas â safleoedd Star a Phenhesgyn ynghlwm wrth yr adroddiad i’r Pwyllgor. Bydd angen paratoi costau ar gyfer y ddau gynllun a byddant yn cael eu cyflwyno i’r Pwyllgor Gwaith yn ystod Haf 2017. Fodd bynnag, dywedodd y Swyddog bod y ddau gynllun yn dibynnu ar sicrhau caniatâd cynllunio.

 

Cynhaliwyd gweithdy yn Ionawr 2017 ar yr Asesiad o’r Effaith ar Iechyd wedi ei hwyluso gan y Rheolwr Gweithrediadau – Iechyd yr Amgylchedd ac roedd y tri aelod etholedig lleol, Mr. Bryn Hall o Unity sy’n Arbenigwr ar Ymgysylltu gyda Sipsiwn a Theithwyr, cynrychiolwyr o Capita a Swyddogion o’r Awdurdod Cynllunio Lleol a’r Uned Polisi Cynllunio ar y Cyd yn bresennol yn y gweithdy hwnnw. Mae’r Asesiad o’r Effaith ar Iechyd yn destun ymgynghoriad ar hyn o bryd gyda’r rheini a fynychodd y gweithdy. Yn gyffredinol, ystyrir bod y ddau safle’n cael effaith gadarnhaol ar iechyd a llesiant sipsiwn o’u cymharu â’r ddarparieth bresennol. 

 

Dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Tai hefyd bod y gymuned leol yn Star wedi cyflwyno Asesiad Risg o’r safle. Roedd Capita wedi ystyried y risgiau perthnasol a nodwyd yn eu Hadroddiad Gwerthuso ac wedi nodi mesurau yn eu hadroddiad ar gyfer lliniaru’r risgiau hyn. Roedd y Swyddogion yn dymuno diolch i gynrychiolwyr cymuned Star am eu gwaith. 

 

Dywedodd y Cynghorydd R. Meirion Jones, a oedd wedi gofyn am gael siarad ar y mater hwn, bod angen iddo gyfeirio at gofnodion y Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar 25 Gorffennaf 2016 a oedd yn argymell asesiad pellach o unrhyw risgiau i ddiogelwch neu risgiau technegol ar y safle; yn ei farn ef, nid oedd y Cyngor wedi delio’n briodol gyda’r risgiau hynny. Dywedodd fod cynrychiolwyr lleol o gymuned Star wedi nodi 15 o risgiau yn eu gwaith papur i’r awdurdod ond ymddengys nad yw’r gymuned leol wedi derbyn unrhyw adborth ar y casgliadau. Dywedodd y Cyngorydd Jones ymhellach y bydd y Cyngor yn cynnal gweithdy ar gyfer Swyddogion a Capita; roedd ef o’r farn y dylid yn ogystal, gynnal cyfarfod cyhoeddus yn Star er mwyn rhoddi sylw i’r materion a godwyd o ran y risgiau technegol a’r risgiau i ddiogelwch sy’n  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 19.

20.

Cwrs Golff, Llangefni pdf eicon PDF 239 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd er sylw’r Pwyllgor Gwaith – adroddiad y Pennaeth Economaidd ac Adfywio Economaidd ar gais gan Bartneriaeth Llangefni i ymestyn cytundeb Cwrs Golff Llangefni.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr Cynorthwyol (Partneriaethau, Cymuned a Gwella Gwasanaeth) bod Partneriaeth Llangefni o’r farn bod y Cwrs Golff â rhan hollbwysig yn eu huchelgais gyffredinol i adfywio Llangefni.  Byddai ymestyn y cytundeb yn fodd iddynt, gyda’r Cyngor Sir a chydranddeiliaid eraill, i symud ymlaen ymhellach gyda’r ymdrechion i sefydlu gweledigaeth a chynllun cyflawni cynhwysfawr a chadarn er mwyn gwella a chryfhau Llangefni. 

 

PENDERFYNWYD ymestyn y cytundeb presennol gyda Phartneriaeth Llangefni (Menter Gymdeithasol Llangefni) tan fis Gorffennaf 2018.

 

21.

Trawsnewid y Gwasanaeth Llyfrgelloedd pdf eicon PDF 2 MB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Dysgu.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd er sylw’r Pwyllgor Gwaith – adroddiad y Pennaeth Dysgu yn ymgorffori’r Strategaeth Ddrafft ar gyfer y Gwasanaeth Llyfrgelloedd am 2017 – 2022.

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio Addysg bod y Strategaeth Ddrafft ar gyfer y Gwasanaeth Llyfrgelloedd wedi cael ei thrafod yn y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol ar 6 Chwefror, 2017.  Roedd yn dymuno diolch i’r Swyddogion am eu gwaith yn hyn o beth ac yn dymuno nodi y bydd y gwasanaeth yn parhau i drafod ac ymgynghori gyda phartïon yn y gymuned sydd â diddordeb cyn gwneud unrhyw benderfyniad terfynol i drawsnewid y Gwasanaeth Llyfrgelloedd.

 

Dywedodd y Pennaeth Dysgu mai pwrpas y Strategaeth yw ceisio sicrhau bod y Gwasanaeth Llyfrgelloedd ar Ynys Môn yn cwrdd ag anghenion trigolion yr Ynys ac yn diwallu’r gofynion statudol dros y blynyddoedd nesaf. Nododd y cynhaliwyd ymarfer ymgynghori gyda’r cyhoedd a chydranddeiliaid yn ystod Hydref 2015 er mwyn casglu sylwadau ar yr opsiynau a nodwyd a gwahodd unrhyw syniadau eraill. Cafwyd bron i 2,000 o ymatebion i’r ymgynghori ond nid oedd unrhyw opsiwn pendant yn cael ei ffafrio. Fodd bynnag, roedd tystiolaeth i awgrymu y byddai’n fuddiol ymchwilio i gynigion ar gyfer modelau ‘cymorth cymunedol’. Mae’r Gwasanaeth Llyfrgelloedd yn awr yn gwneud cynlluniau i gynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar y Strategaeth Ddrafft ac i symud ymlaen i drafod gyda phartïon â diddordeb. Yn dilyn yr ymgynghoriad cyhoeddus, bydd Strategaeth derfynol ar gyfer y Gwasanaethau Llyfrgelloedd yn cael ei chyflwyno i’r Pwyllgor Gwaith ar gyfer penderfyniad terfynol yn yr hydref 2017.

 

Cyflwynodd Cadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol adroddiad i’r Pwyllgor Gwaith ar drafodaethau ac argymhellion y Pwyllgor Sgriwtini.

 

PENDERFYNWYD :-

·           Nodi’r broses a ddilynwyd o ran datblygu’r strategaeth, ynghyd â’r rhesymeg y tu ôl i’r hyn a gynigir o fewn Strategaeth Ddrafft y Gwasanaeth Llyfrgell;

·           Cymeradwyo’r Asesiad Effaith ar Gydraddoldeb a’r Asesiad Anghenion;

·           Awdurdodi Swyddogion i fwrw ymlaen â’r gwaith o gynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar Strategaeth Ddrafft y Gwasanaeth Llyfrgell, yn unol â’r amserlen a amlinellir yn yr adroddiad;

·           Nodi y bydd y gwasanaeth yn parhau i drafod ac ymgynghori â phartïon sydd â diddordeb ac y bydd adroddiad pellach yn cael ei gyflwyno   yn nghyfarfod y Pwyllgor Gwaith ym mis Hydref ar yr opsiynau gafodd eu hadnabod ar gyfer trawsnewid y Gwasanaeth Llyfrgell.

 

22.

Trawsnewid y Gwasaneth Ieuenctid pdf eicon PDF 2 MB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Dysgu.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd er sylw’r Pwyllgor Gwaith – adroddiad gan y Pennaeth Dysgu ar yr opsiynau ar gyfer ailfodelu’r Gwasanaeth Ieuenctid.

 

Wedi datgan diddordeb a oedd yn rhagfarnu yn y mater hwn, gadawodd y Cynghorydd Aled Morris Jones y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a’r penderfyniad arno.

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio Addysg yr ymgynghorwyd yn eang ar yr opsiynau ar gyfer ailfodelu’r Gwasanaeth Ieuenctid. Yn ystod yr ail ymgynghoriad, nododd y bobl ifanc eu blaenoriaeth. Mae’r blaenoriaethau hyn wedi’u nodi yn yr adorddiad. 

 

Dywedodd y Pennaeth Dysgu bod y Tîm Gwasanaeth Ieuenctid wedi treulio cryn dipyn o amser ar y broses ymgynghori ac wedi asesu’r holl ymatebion a dderbyniwyd mewn perthynas ag ailfodelu’r Gwasanaeth Ieuenctid. Yn 2013/14 rhoddwyd i’r Gwasanaeth Dysgu Gydol Oes yr orchwyl o ddod o hyd i arbedion posibl rhwng 10% a 60% yng nghyllideb y gwasanaeth ieuenctid; nodwyd 5 o fodelau darparu gwasanaeth i sicrhau’r arbedion hynny.

 

Rhoes Is-gadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio amlinelliad o’r drafodaeth a gafwyd ar yr opsiynau ar gyfer ailfodelu’r Gwasanaeth Ieuenctid. Roedd copi o’r trafodaeth a’r argymhelliad wedi’i gynnwys gyda’r adroddiad i’r Pwyllgor Gwaith. 

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio Cyllid bod angen i’r opsiynau a gyflwynir fod yn gynaliadwy yn y tymor canol; yn ei farn ef, Opsiwn 2 fyddai orau ar gyfer y gwasanaeth.

 

Holodd y Cadeirydd am effaith Opsiynau 1 a 2 ar y gwasanaeth. Dywedodd y Prif Swyddog Ieuenctiad y bydd y ddau opsiwn yn golygu ailfodelu’r gwasanaeth ond y bydd Opsiwn 2 yn caniatáu i’r gwasanaeth barhau i gyflogi Gweithiwr Ieuenctid yn nalgylchoedd yr ysgolion uwchradd; byddai’r ddau glwb sy’n darparu ar gyfer y rhai a chanddynt anghenion addysgol arbennig yn parhau i fod ar agor fel y maent ar hyn o bryd. Mae’r strwythur yn caniatáu i’r rhan fwyaf o’r clybiau gwledig barhau ond byddai angen cau’r clybiau hynny nad oes llawer yn eu mynychu.

 

PENDERFYNWYD gweithredu Opsiwn 2 yn yr adroddiad er mwyn trawsnewid y Gwasanaeth Ieuenctid.

 

23.

Strategaeth a Gweledigaeth Twf ar gyfer Economi Gogledd Cymru pdf eicon PDF 94 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Prif Weithredwr.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd er sylw’r Pwyllgor Gwaith – adroddiad y Prif Weithredwr mewn perthynas â’r Weledigaeth a’r Strategaeth Dwf ar gyfer Economi Gogledd Cymru.

 

Dywedodd Arweinydd y Cyngor bod y weledigaeth ar gyfer twf yn nodi uchelgais strategol glir ar gyfer datblygu seilwaith, sgiliau a chyflogaeth a thwf busnes yng Ngogledd Cymru. Mae Gogledd Cymru wedi cael gwahoddiad ffurfiol i ddatblygu’r strategaeth yn ‘Fid Dwf’ ar gyfer buddsoddiad cenedlaethol a rhoi pwerau i’r rhanbarthol gan Lywodraethau’r DU a Chymru. Mae gwaith yn mynd rhagddo i flaenoriaethu cynnwys y strategaeth ar gyfer ei gynnwys mewn bid ffurfiol. Mae’r chwe chyngor wedi dod i gytundeb amlinellol ar fodel llywodraethiant ar gyfer y strategaeth economaidd ranbarthol.

 

Dywedodd y Pwyllgor Gwaith ei bod yn bwysig cydweithio a chefnogi’r Weledigaeth a’r Strategaeth ar gyfer Twf yr Economi yng Ngogledd Cymru.

 

PENDERFYNWYD :-

·           Cymeradwyo’r model llywodraethu rhanbarthol a ffefrir, sef cyd-bwyllgor statudol ar gyfer datblygiad pellach;

·           Gwahodd y Cyngor newydd i ymrwymo i fodel Cydbwyllgor statudol gyda’r pum cyngor partner, o fewn tri mis cyntaf y Cyngor newydd, unwaith y bydd cyfansoddiad manwl a chytundeb rhyng-awdurdod ar gael.

 

24.

Gwahardd y Wasg a’r Cyhoedd pdf eicon PDF 164 KB

Ystyried mabwysiadu’r canlynol:

 

“Dan Adran 100 (A)(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a'r cyhoedd o'r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar eitem 8 isod, oherwydd y posibilrwydd y caiff gwybodaeth eithriedig ei rhyddhau fel y diffinnir hi yn Atodlen 12A y Ddeddf a'r Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm”.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD mabwysiadu’r canlynol:-

 

“Dan Adran 100(A)(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganolyn oherwydd y tebygrwydd y byddai gwybodaeth yn cael ei rhyddhau a honno’n wybodaeth y gwneir eithriad ohoni yn Atodlen 12A y Ddeddf ac yn y Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.”

 

25.

Achos Busnes Llawn Newydd am Ysgol Newydd ym Mro Rhosyr/Aberffraw

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Dysgu.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd er sylw’r Pwyllgor Gwaith – adroddiad gan y Pennaeth Dysgu mewn perthynas â’r Achos Busnes llawn ar gyfer yr ysgol gynradd newydd yn Niwbwrch ac ar gyfer adnewyddu Ysgol Brynsiencyn ac Ysgol Parc y Bont.

 

PENDERFYNWYD :-

·           Cymeradwyo’r Achos Busnes Llawn ar gyfer ysgol gynradd newydd yn ardaloedd Bro Rhosyr a Bro Aberffraw;

·           Cymeradwyo cyflwyno’r Achos Busnes Llawn i Lywodraeth Cymru;

·           Cymeradwyo gwerthu Ysgol Bodorgan a Thŷ’r Ysgol, Ysgol Dwyran, Ysgol Niwbwrch ac Ysgol Llangaffo unwaith y byddant yn wag, ac i’r derbyniadau cyfalaf hynny gael eu neilltuo i ariannu adeiladu’r ysgol gynradd newydd, ar yr amod na fydd unrhyw broblemau’n codi efo gwerthu’r safleoedd.