Rhaglen, Penderfyniadau a Chofnodion.

Pwyllgor Gwaith - Dydd Llun, 18fed Mehefin, 2018 10.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau

Cyswllt: Ann Holmes 01248 752518 

Cyfryngau

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem ar y rhaglen.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafwyd yr un datganiad o ddiddordeb.

2.

Materion brys ardystiwyd gan y Prif Weithredwr neu ei Swyddog Apwyntiedig

Dim materion brys ar adeg anfon allan y rhaglen hon.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim i’w hadrodd.

3.

Cofnodion pdf eicon PDF 277 KB

Cyflwyno i’w cadarnhau, gofnodion drafft y cyfarfod o’r Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar 21 Mai, 2018.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith eu cadarnhau, gofnodion y cyfarfod o’r Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar 21 Mai, 2018.

 

Penderfynwyd cymeradwyo cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar 21 Mai, 2018 fel rhai cywir.

4.

Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith pdf eicon PDF 749 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ei gymeradwyoadroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd yn cynnwys Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith am y cyfnod rhwng Gorffennaf 2018 a Chwefror 2019.

 

Dywedodd y Rheolwr Sgriwtini bod dau newid i’r Flaen Raglen Waith ers y cyfnod adrodd diwethaf, sef

 

  Eitem 16 - Mae Protocol Cyfarwyddwr Statudol y Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cael ei ail-raglennu o gyfarfod y Pwyllgor Gwaith a gynhelir ar 16 Gorffennaf, 2018 a bydd yn cael ei ystyried yn awr yn y cyfarfod ar 17 Medi, 2018.

  Eitem 28 – Mae Cyllideb 2019/20 yn newydd i’r Flaen Raglen Waith ac fe’i hystyrir gan y Pwyllgor Gwaith yn y cyfarfod ar 18 Chwefror, 2019.

 

Yn ychwanegol at hyn, dywedodd y Rheolwr Sgriwtini y bydd angen trefnu cyfarfod arbennig o’r Pwyllgor Gwaith yn fuan er mwyn ystyried Bid Bargen Twf Gogledd Cymru.

 

Penderfynwyd cadarnhau Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith am y cyfnod Gorffennaf, 2018 i Chwefror, 2019 wedi ei diweddaru fel y’i cyflwynwyd.

5.

Adroddiad Cynnydd ar y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd pdf eicon PDF 1 MB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Plant.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd er sylw’r Pwyllgor Gwaithadroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Plant a Theuluoedd yn nodi’r cynnydd a wnaed hyd yma o ran gweithredu Cynllun Gwella’r Gwasanaeth.

 

Dywedodd yr Arweinydd a’r Aelod Portffolio Gwasanaethau Cymdeithasol bod y Gwasanaeth, yn ystod y cyfnod ers arolygiad AGC o’r Gwasanaethau Plant wedi bod yn brysur yn sefydlu cyfres o newidiadau pwysig a fydd, fe dybir, yn darparu gwasanaethau a fydd yn cydymffurfio’n well â deddfwriaeth. Disgrifir y rhain yn yr adroddiad gyda phwyslais penodol ar ailstrwythuro’r Gwasanaeth yn canolbwyntio ar Ymyrraeth Gynnar ac Atal ac Ymyrraeth Ddwys; datblygu Strategaeth Atal gyda’r nod o leihau angen ar bob lefel; datblygu systemau a phrosesau ac ansawdd a chysondeb Ymarfer. Mae’r Panel Gwella Gwasanaethau Plant yn cyfarfod yn fisol ac wedi bod yn craffu yn ofalus y cynnydd a wnaed o ran gweithredu’r Cynllun Gwella Gwasanaeth.

 

Cadarnhaodd y Pennaeth Gwasanaethau Plant a Theuluoedd y gwnaed llawer iawn o waith ar bob lefel o’r Gwasanaeth, mae’r gwaith yn mynd rhagddo ac yn dechrau dwyn ffrwyth. Mae’r Gwasanaeth angen cyfnod yn awr i ganolbwyntio ar agweddau ymarferol Gwaith Cymdeithasol er mwyn bwrw ymlaen â chynlluniau; at ei gilydd, mae’r Gwasanaeth ar y trywydd iawn ac yn symud i’r cyfeiriad iawn.

 

Nododd y Pwyllgor Gwaith y diweddariad ar gynnydd a gofynnodd am sicrwydd ynglŷn â’r pwyntiau canlynol -

 

  Nododd y Pwyllgor Gwaith y bu’n flaenoriaeth i’r Gwasanaeth ddatblygu Strategaethau Atal ac Ymyrraeth Gynnar a bod gweithredu’r strategaethau hyn yn arwain at welliannau. O’r herwydd, gofynnodd y Pwyllgor Gwaith am eglurhad ar effaith y gwaith hwn o ran nifer yr achosion lle cymerwyd camau ymyrraeth gynnar yn ystod y chwe mis diwethaf ac a oedd hynny wedi arwain at well canlyniadau i’r Gwasanaeth ac i blant a theuluoedd.

 

Dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Plant a Theuluoedd, er bod nifer y cyfeiriadau i’r Gwasanaeth wedi aros yn gyson, mae’r Gwasanaeth wedi medru ymateb mewn gwahanol ffyrdd yn dilyn cyfeiriad, e.e. drwy wneud defnydd cynyddol o ymatebion y Tîm o Amgylch y Teulu (TAT). Mae capasiti’r TAT wedi cael ei gynyddu o dri i chwe swyddog sydd, y cyfan ohonynt, â baich achosion llawn. Drwy ymyrryd yn y modd hwn, mae anghenion teuluoedd yr ystyrir eu bod yn fregus ac a fyddai fel arall yn cael sylw drwy’r system Gwaith Cymdeithasol, yn cael eu lleihau cyn iddynt ddod yn fwy difrifol. Mae’r Tîm Teuluoedd Gwydn hefyd wedi bod yn gweithio gyda phump o deuluoedd mewn modd rhagweithiol a hynny wedi arwain at ddelio gydag anghenion 8 o blant heb iddynt orfod mynd i mewn i’r system ofal. Yn ychwanegol at hyn, mae’r Gwasanaeth wedi bod yn adolygu achosion a lle mae’n briodol, wedi bod yn rhyddhau Gorchmynion Gofal fel y gall plant ddychwelyd i fyw gyda’u teuluoedd heb gael eu rhoi mewn gofal.

 

  Gofynnodd y Pwyllgor Gwaith am eglurhad ynghylch a yw’r Gwasanaethau  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 5.

6.

Adroddiad Monitro'r Cerdyn Sgorio - Chwarter 4, 2017/18 pdf eicon PDF 2 MB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Trawsnewid Corfforaethol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd er sylw’r Pwyllgor Gwaithadroddiad y Pennaeth Proffesiwn (Adnoddau Dynol a Thrawsnewid) yn amlinellu sefyllfa’r Cyngor yn erbyn ei amcanion gweithredol ar gyfer chwarter olaf blwyddyn ariannol 2017/18.

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio ar gyfer Gwasanaethau Corfforaethol nad oedd unrhyw bethau annisgwyl ar ddiwedd y flwyddyn gyda’r rhan fwyaf o’r dangosyddion yn perfformio’n dda yn erbyn eu targedau. Cafwyd heriau yn y Gwasanaeth Dysgu; y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd a’r Gwasanaethau Oedolion lle yr oedd rhai meysydd yn tanberfformio fel y nodwyd yn yr adroddiad. Mae camau lliniaru, a amlinellwyd yn yr adroddiad, yn cael eu cymryd mewn perthynas â’r rhain. Ar y llaw arall, mae datblygiadau newydd cyffrous yn digwydd yn y Gwasanaethau Oedolion a disgwylir i’r rheiny arwain at welliannau; mae’r rhain yn ymwneud â dyfarnu Contract Gofal Cartref newydd a diwygiedig; cynyddu capasiti yn Garreglwyd i gymryd unigolion a chanddynt broblemau dementia a datblygu darpariaeth Gofal Ychwanegol Hafan Cefni. 

 

Mewn perthynas â Rheoli Pobl, dywedodd yr Aelod Portffolio er bod y canlyniadau ar ddiwedd y flwyddyn o ran salwch wedi methu’r targed corfforaethol oherwydd cynnydd mewn absenoldebau salwch yn Chwarter 4 – sefyllfa a oedd yn gyffredin ar lefel genedlaethol - mae perfformiad yn parhau i fod yn Felyn ar y Cerdyn Sgorio oherwydd bod y cyfraddau yn Chwarteri 1, 2 a 3 of 2017/18 wedi bod ar y blaen i’r targed a’r gorau mewn tair blynedd. Mae’r gostyngiad yn nifer y Cyfweliadau Dychwelyd i’r Gwaith a gynhaliwyd o fewn yr amserlen (73% o gymharu â 78% yn 2016/17) yn siomedig ac i’w briodoli i’r perfformiad gwael yn Chwarter 1 sydd wedi cael effaith ar y perfformiad cronnol ar gyfer y flwyddyn gyfan. Mae cyfanswm y Cyfweliadau Dychwelyd i’r Gwaith a gynhaliwyd (o fewn yr amserlen a’r tu allan i amserlen) yn 85% sydd ymhell islaw’r targed o 95%.

 

Mae’r perfformiad yn erbyn y DP Gwasanaeth Cwsmer wedi gwella gyda chynnydd nodedig yn y defnydd o’r cyfryngau cymdeithasol i ymgysylltu gyda’r Cyngor. Mae perfformiad o ran ymateb i Geisiadau Rhyddid Gwybodaeth o fewn yr amserlen yn 78% sy’n welliant o gymharu â’r 77% yn 2016/17 yn arbennig felly o ystyried y cynnydd yn nifer y ceisiadau a dderbyniwyd - 7,527 yn 2017/18 o gymharu â 5,700 yn 2016/17.

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio fod rhaid cynnal y momentwm o welliant parhaus ar draws y Cyngor ac y gellir gwneud hyn wrth i’r holl wasanaethau weithio gyda’i gilydd i roi sylw i’r meysydd hynny ble mae tanberfformiad.

 

Nododd y Pwyllgor Gwaith y wybodaeth a gyflwynwyd a gwnaed y pwyntiau canlynol -

 

  Nododd y Pwyllgor Gwaith y dirywiad mewn perfformiad o ran cynnal Cyfweliadau Dychwelyd i’r Gwaith. Oherwydd eu bod yn declyn rheoli pwysig i reoli absenoldeb salwch, nododd y Pwyllgor Gwaith ymhellach y dylid gwneud ymdrech o’r newydd i wella nifer y Cyfweliadau Dychwelyd i’r Gwaith a gynhelir er mwyn codi perfformiad yn agosach at y lefel darged.

 

Dywedodd y  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 6.

7.

Dogfen Gyflawni Flynyddol 2018/19 pdf eicon PDF 1 MB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Trawsnewid Corfforaethol. 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd er sylw’r Pwyllgor Gwaithadroddiad y Pennaeth Proffesiwn (AD a Thrawsnewid) yn cynnwys y Ddogfen Gyflawni Flynyddol ar gyfer 2018/19. 

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio ar gyfer Gwasanaethau Corfforaethol bod y Ddogfen Gyflawni Flynyddol yn nodi’r modd y bydd y Cyngor yn cyflawni ei flaenoriaethau allweddol dros y 12 mis nesaf a bod hynny â chyswllt â’r dyheadau a’r amcanion a nodir yng Nghynllun y Cyngor Sir ar gyfer 2017-22.

 

Nododd y Pwyllgor Gwaith y Ddogfen Gyflawni Flynyddol a bod ei gweledigaeth a’i chynnwys yn dangos bod yr Awdurdod yn Gyngor blaengar, egnïol sy’n ymrwymedig i fuddsoddi yn, a gwella ei wasanaethau mewn modd arloesol. Cydnabu’r Pwyllgor Gwaith bawbyn Aelodau a Swyddogiona oedd wedi cyfrannu at gynhyrchu’r ddogfen uchelgeisiol hon.  

 

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd cynnal y ‘status quo’ yn ystod y cyfnod hwn o lymder yn opsiwn ac y byddai’n rhaid i’r Cyngor drawsnewid er mwyn gwasanaethu trigolion Ynys Môn yn y ffordd orau bosibl. Mae’r Ddogfen Gyflawni’n dangos fod y Cyngor yn barod i fynd i’r afael â’r her hon wrth iddo foderneiddio ei wasanaethau.

 

Penderfynwyd

 

  Derbyn y Ddogfen Gyflawni Flynyddol am 2018/19.

  Rhoi’r hawl i’r Swyddogion drwy law'r Aelod Portffolio i ymgymryd â’r dasg o orffen drafft terfynol y Ddogfen Gyflawni am 2018/19 ac argymell ei bod yn cael ei mabwysiadu gan y Cyngor Llawn yn ei gyfarfod ar 16 Gorffennaf, 2018.

  Cadarnhau bod modd gwireddu’r ddogfen fel cynllun sydd yn cydnabod y meysydd hynny o waith sydd wedi’i amserlennu ar gyfer y flwyddyn gyfredol o dan flaenoriaethau Cynllun y Cyngor.

8.

Adroddiad Alldro Cyfalaf 2017/18 pdf eicon PDF 645 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd er sylw’r Pwyllgor Gwaithadroddiad y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) a’r Swyddog Adran 151 yn nodi perfformiad ariannol y Gyllideb Gyfalaf ar gyfer blwyddyn ariannol 2017/18.

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio Cyllid fod y Cyngor ym mis Chwefror, 2017, wedi cymeradwyo Rhaglen Gyfalaf o £30.614m am 2017/18 ar gyfer gwasanaethau nad oeddynt yn ymwneud â thai a Rhaglen Gyfalaf o £9.889m ar gyfer y Cyfrif Refeniw Tai. Mae’r tabl ym mharagraff 1.3 yr adroddiad yn rhoi manylion am y rhaglen gyfalaf a gymeradwywyd ar gyfer 2017/18 ynghyd â’r ymrwymiadau a ddygwyd ymlaen o 2016/17. Y gyllideb ar gyfer y Gronfa Gyffredinol oedd £39.800m a dim ond £20.064m oedd wedi ei wario ar 31 Mawrth, 2018 sy’n cyfateb i 50% o’r gyllideb. Y prif reswm am y tanwariant cyffredinol oedd y tanwariant mawr yn erbyn y saith prosiect mawr a restrwyd ym mharagraff 2.2 yr adroddiad. Bydd cyfan o’r cynlluniau cyfalaf hyn yn cario drosodd i 2018/19 ynghyd â’r cyllid ar eu cyfer.

 

Cadarnhaodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) a’r Swyddog Adran 151 nad oedd unrhyw gyllid wedi cael ei golli oherwydd llithriad a bod yr arian yr oedd angen i’r Cyngor ei wario erbyn diwedd y flwyddyn ariannol wedi cael ei wario.

 

Penderfynwyd

 

 Nodi sefyllfa alldro ddrafft Rhaglen Gyfalaf 2017/18 yn amodol ar archwiliad, a

  Chymeradwyo cario £9.348m drosodd i 2018/19 ar gyfer tanwariant ar y rhaglen oherwydd llithriad. Bydd y cyllid ar gyfer hyn hefyd yn cael ei gario drosodd i 2018/19.

9.

Moderneiddio Ysgolion ar Ynys Môn –Symud dyddiad gweithredu'r rhybuddion statudol ar gyfer Ysgol Santes Dwynwen, Ysgol Parc y Bont ac Ysgol Brynsiencyn pdf eicon PDF 362 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Dysgu.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Dysgu yn gofyn am gymeradwyaeth y Pwyllgor Gwaith i ohirio dyddiadau gweithredu’r rhybudd statudol i gwblhau Ysgol Santes Dwynwen a’r rhybudd statudol i newid statws Ysgol Parc y Bont i 1 Ebrill 2019.

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio ar gyfer Addysg, Llyfrgelloedd, Diwylliant a’r Gwasanaethau Ieuenctid bod yr Awdurdod ac Esgobaeth Bangor (Yr Eglwys yng Nghymru), ar 17 Mehefin 2016, wedi cyhoeddi dau rybudd statudol o’u bwriad i (1) gyfuno Ysgol Bodorgan, Ysgol Dwyran, Ysgol Llangaffo ac Ysgol Niwbwrch yn ysgol newydd dan reolaeth wirfoddol yr Eglwys yng Nghymru ar safle yn Niwbwrch, a (2) i beidio â chefnogi Ysgol Parc y Bont fel ysgol yr Eglwys yng Nghymru, i sefydlu ysgol gynradd gymunedol cyfrwng Cymraeg newydd i’w chynnal gan Gyngor Sir Ynys Môn ar gyfer bechgyn a genethod 3-11 oed ac i ffederaleiddio Ysgol Brynsiencyn gydag ysgol arall. Roedd y cynigion hyn i gael eu gweithredu ar 1 Medi, 2018. Fodd bynnag, oherwydd y ffactorau a nodir yn yr adroddiad, sef materion yn ymwneud â phrynu’r tir a phrosesau caniatâd cynllunio’n cymryd mwy o amser na’r disgwyl ac yna’r oedi cyn yr Etholiad Llywodraeth Leol ym mis Mai 2017 ac yna’r Etholiad cyffredinol ym mis Mehefin 2017, bu’n rhaid gwthio dyddiad cychwyn y ddau gynnig yn ôl ac o’r herwydd, gofynnir i’r Pwyllgor Gwaith ystyried cymeradwyo ymestyn yr amserlen am gyfnod o 8 mis hyd at 1 Ebrill, 2019. Fel yr un a gynigiodd y bwriad yn y rhybuddion statudol gwreiddiol, rhaid i’r Pwyllgor Gwaith ganiatáu unrhyw newidiadau i’r amserlen.

 

Cadarnhaodd y Pennaeth Dysgu mai 4 Mawrth 2019 yw’r dyddiad targed o hyd ar gyfer agor yr ysgol newydd.

 

Siaradodd y Cynghorydd Peter Rogers fel Aelod Lleol a dywedodd ei fod, er yn cefnogi’r ysgol newydd ac yn gweithio’n galed i sicrhau ei llwyddiant, yn siomedig gyda’r oedi ac yn arbennig y sgil-effeithiau posibl ar niferoedd disgyblion yn yr ysgol newydd gyda rhai disgyblion yn trosglwyddo i ysgolion y tu allan i’r ardal ac, yn fwy arwyddocaol, yr effaith bosib ar y rhagamcanion mewn perthynas â niferoedd disgyblion yn ysgol uwchradd y dalgylch, sef Llangefni, gyda hynny efallai’n cael effaith ar ariannu.

 

Diolchodd y Cadeirydd i’r Aelod Lleol am ei sylwadau a dywedodd ei bod hi a’r Pwyllgor gwaith yn rhannu ei ymrwymiad i wneud yr ysgol newydd yn llwyddiant ar gyfer yr ardal a phlant yr ardal. Roedd heriau ychwanegol wedi bod ynghlwm wrth yr ysgol ond fel y disgrifir yn yr adroddiad, roedd y rheiny’n anffodus y tu draw i reolaeth yr Awdurdod.

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio Addysg bod newid y status quo yn anorfod yn mynd i fod yn heriol. Fodd bynnag, mae profiadau’r gorffennol o agor ysgolion newydd wedi profi bod y negeseuon, ar ôl goresgyn yr heriau cychwynnol, wedi bod yn gadarnhaol.

 

Penderfynwyd oedi gyda’r canlynol tan 1 Ebrill, 2019  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 9.

10.

Strategaeth Digartrefedd Rhanbarthol pdf eicon PDF 654 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Tai.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd er sylw’r Pwyllgor Gwaithadroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Tai yn amlinellu’r ymagwedd y bwriedir ei mabwysiadu ar gyfer datblygu Strategaeth Ddigartrefedd ddrafft ar sail ranbarthol ynghyd â’r cynllun cyfathrebu arfaethedig.

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio ar gyfer Tai a Chefnogi Cymunedau bod raid i awdurdodau lleol, yn unol â’r gyfraith, fabwysiadu Strategaeth Ddigartrefedd yn 2018 er mwyn cyflawni’r amcanion a nodwyd yn yr adroddiad. Mae Penaethiaid Gwasanaeth Gogledd Cymru wedi cytuno y bydd Strategaeth Ddigartrefedd Ranbarthol yn cael ei chynhyrchu yn seiliedig ar y farn y byddai sefydlu dealltwriaeth ac ymagwedd ranbarthol ar y cyd tuag at atal digartrefedd yn dod â’r manteision penodol a ddisgrifiwyd yn yr adroddiad.  Amlinellir yn yr adroddiad y modd y bydd bwriedir cyfathrebu gyda phartneriaid ynghylch datblygiad y cynllun gweithredu.

 

Roedd y Pwyllgor Gwaith yn cydnabod pwysigrwydd y Strategaeth yng nghyd-destun adroddiadau  cynyddol yn y cyfryngau ynghylch cynnydd mewn lefelau digartrefedd, yn arbennig ymysg pobl ifanc. Nododd y Pwyllgor Gwaith ei bod yn iawn i’r Awdurdod ystyried dulliau newydd a rhagweithiol o fynd i’r afael â’r mater hwn a gwneud y mwyaf o’r holl gyfleoedd gyda phartneriaid i gefnogi’r sawl sydd wedi eu heffeithio ac i ddatblygu datrysiadau ar gyfer achosion sylfaenol digartrefedd.

 

Penderfynwyd cymeradwyo

 

  Y dull o ddatblygu’r Strategaeth Ranbarthol gyda phwyslais ar ganlyniad wrth ddatblygu’r cynllun gwaith ar lefel rhanbarthol a lleol (Rhan 2 a 3 o’r adroddiad)

  Y dull o gyfathrebu wrth ddatblygu’r cynllun gwaith gyda phartneriaid sydd yn arwain at gyfnod ymgynghori a chymeradwyaeth terfynol.

11.

Cau Allan y Wasg a'r Cyhoedd pdf eicon PDF 243 KB

Ystyried mabwysiadu’r isod:-

 

“Dan Adran 100(A)(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, gyrru’r wasg a’r cyhoedd allan o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol oherwydd y tebygrwydd y caiff gwybodaeth ei rhyddhau a honno’n wybodaeth y gwneir eithriad ohoni yn Atodlen 12A y Ddeddf ac yn y Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm”.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dan Adran 100(A)(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, penderfynwyd gyrru’r wasg a’r cyhoedd allan o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem isod oherwydd y tebygrwydd y câi gwybodaeth ei datgelu a honno’n wybodaeth y gwneir eithriad ohono yn Atodlen 12A y Ddeddf ac yn y Prawf Budd y Cyhoedd a gyflwynwyd.

12.

Rhaglen Ailsefydlu Ffoaduriaid o Syria

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Tai.

Cofnodion:

Cyflwynwyd er sylw’r Pwyllgor Gwaithadroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Tai yn amlinellu’r cam nesaf o’r Rhaglen ar gyfer Ailsefydlu Ffoaduriaid o Syria. Yn yr adroddiad, amlinellwyd yr hyn a oedd wedi ei gyflawni dan y Rhaglen Ailsefydlu hyd yma o ran y tri theulu cyntaf i gael eu hailsefydlu ynghyd â’r ystyriaethau mewn perthynas ag ailsefydlu’r teuluoedd nesaf y bydd yr Awdurdod yn eu croesawu fel rhan o’r rhaglen.

 

Penderfynwyd

 

  Bydd y Pennaeth Gwasanaeth yn rhoi diweddariadau rheolaidd mewn perthynas â’r rhaglen hon i’r Aelod Portffolio ar sail anffurfiol ac ni fydd adroddiadau yn cael eu cyflwyno i’r Pwyllgor Gwaith oni bai bod raid gwneud penderfyniadau ynghylch polisi neu gyllid neu mewn amgylchiadau lle mae’r Pennaeth Gwasanaeth a/neu’r Aelod Portffolio yn gofyn am i adroddiad/ penderfyniad gael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Gwaith.

  Fel rhan o’r rhaglen, bydd y 4ydd, 5ed a’r 6ed teulu yn cael eu hail-sefydlu mewn ardaloedd yn seiliedig ar y ffactorau sy’n cael eu hamlinellu yn yr adroddiad.