Rhaglen, Penderfyniadau a Chofnodion.

Pwyllgor Gwaith - Dydd Llun, 16eg Rhagfyr, 2019 10.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau

Cyswllt: Ann Holmes 

Cyfryngau

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn datganiadau o ddiddordeb gan Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem ar y rhaglen.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw ddatganiadau o ddiddordeb.

2.

Materion brys a ardystiwyd gan y Prif Weithredwr neu Swyddog a benodwyd ganddi

Dim materion brys ar adeg anfon allan y rhaglen hon.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim i’w hadrodd.

3.

Cofnodion pdf eicon PDF 278 KB

Cyflwyno i’w cadarnhau, gofnodion drafft y cyfarfod o’r Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar 25 Tachwedd 2019.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd i’w cymeradwyo gan y Pwyllgor Gwaithcofnodion y cyfarfod blaenorol o’r Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar 25 Tachwedd, 2019.

 

Penderfynwyd cadarnhau cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar 25 Tachwedd, 2019 fel rhai cywir yn amodol ar nodi bod y Cynghorydd Carwyn Jones yn bresennol yn y cyfarfod.

 

4.

Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith pdf eicon PDF 798 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ar gyfer ei ystyried adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd yn ymgorffori Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith am y cyfnod rhwng Ionawr ac Awst 2020 a nodwyd y newidiadau a ganlyn: 

 

           Eitemau Newydd 

 

           Eitem 6 - Adroddiad Blynyddol ar Gydraddoldeb 2018/19 -  penderfyniad dirprwyedig ar gyfer yr Aelod Portffolio Gwasanaethau Cymdeithasol i’w gyhoeddi ym Mawrth 2020.

           Eitem 23 – Polisi Taliadau Tai Dewisol (ar gyfer cyfarfod 23 Mawrth, 2020 y Pwyllgor Gwaith)

           Eitem 28 – Adroddiad Blynyddol Safonau’r Gymraeg (ar gyfer cyfarfod Mehefin, 2020 y Pwyllgor Gwaith)

           Eitem 30 - Cerdyn Sgorio Corfforaethol (Ch4 2019/20) (ar gyfer cyfarfod Mehefin, 2020 y Pwyllgor Gwaith)

           Eitem 31 – Adroddiad Monitro Cyllideb Refeniw 2019/20 (Ch4 2019/20) (ar gyfer cyfarfod Mehefin, 2020 y Pwyllgor Gwaith)

           Eitem 32 - Adroddiad Monitro Cyllideb Gyfalaf 2019/20 (Ch4 2019/20) (ar gyfer cyfarfod Mehefin, 2020 y Pwyllgor Gwaith)

           Eitem 33 – Adroddiad Monitro Cyllideb y Cyfrif Refeniw Tai 2019/20 (Ch4 2019/20) (ar gyfer cyfarfod Mehefin, 2020 y Pwyllgor Gwaith)   

 

           Eitemau Ychwanegol a Chyfarfodydd na Chyhoeddwyd ar y Rhaglen Waith

 

           Gwasanaeth Casglu Gwastraff a Glanhau Strydoeddar gyfer cyfarfod 27 Ionawr, 2020. 

           20 Ionawr 2020 - cyfarfod arbennig o’r Pwyllgor Gwaith er mwyn ystyried Moderneiddio Ysgolion (cyfarfod Sgriwtini cyn y penderfyniad wedi’i raglennu ar gyfer 14 Ionawr, 2020)

 

Penderfynwyd cadarnhau Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith wedi’i diweddaru am y cyfnod Ionawr hyd at Awst, 2020 gyda’r newidiadau ychwanegol a amlinellwyd yn y cyfarfod.

5.

Adolygiad Canol Blwyddyn Rheoli Trysorlys 2019/20 pdf eicon PDF 1 MB

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151. 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ar gyfer ei ystyried adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog 151 yn cynnwys yr Adolygiad Canol Blwyddyn Rheoli Trysorlys.

 

Adroddodd yr Aelod Portffolio Cyllid y cyflwynir yr Adolygiad Canol Blwyddyn Rheoli Trysorlys yn unol â gofynion Cod Ymarfer CIPFA ar Reoli Trysorlys a’i fod yn darparu diweddariad canol blwyddyn ar y sefyllfa economaidd, sefyllfa’r Cyngor o ran gwariant cyfalaf a chydymffurfiad â dangosyddion darbodus a’i weithgaredd buddsoddi a benthyca hanner ffordd drwy’r flwyddyn ariannol ac mae’n ystyried os, o ganlyniad i’r rhain, a oes angen adolygu’r Strategaeth Rheoli Trysorlys. Bydd yr adroddiad yn cael ei gyflwyno i’r Cyngor Llawn gan gymryd i ystyriaeth unrhyw sylwadau a wneir yn dilyn hynny gan y Pwyllgor Gwaith.   

 

Bu i’r Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 dynnu sylw at y canlynol

 

           Bod y Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu wedi craffu ar yr adolygiad canol blwyddyn a'i fod wedi’i dderbyn heb unrhyw sylwadau ychwanegol gan y Pwyllgor hwnnw.

           Bod y Bwrdd Benthyciadau Gwaith Cyhoeddus y mae’r Awdurdod wedi dibynnu arno yn y gorffennol fel ei brif ffynhonnell cyllid wedi cyhoeddi ar fyr rybudd bod cynnydd o 1% yn y gyfradd fenthyca ar 9 Hydref, 2019 gan olygu bod yn rhaid i’r Awdurdod bellach ystyried ffyrdd amgen, rhatach o fenthyca.  

           Bod amcanion buddsoddi’r Cyngor yn unol â’r Strategaeth Rheoli Trysorlys a fabwysiadwyd gan y Cyngor ar 27 Chwefror, 2019 a’u bod yn parhau i fod yn ddiogelwch y cyfalaf a fuddsoddwyd, argaeledd y cyllid pan fydd ei angen ac enillion ar fuddsoddiadau. Fel ar 30 Medi, 2019 roedd gan y Cyngor £8.5 miliwn o fuddsoddiadau gyda banciau gyda mynediad parod i’r arian hwnnw a rhai buddsoddiadau tymor ychydig yn hirach gydag awdurdodau lleol (fel y cyfeirir ato ym mharagraff 5.7 yr adroddiad). Gwelir hyn fel y ffordd fwyaf diogel o fuddsoddi arian ac mae’n rhoi gwell adenillion na’r rhan fwyaf o gyfrifon galw mewn banciau.

           Nid yw’r Cyngor wedi benthyca i’r lefelau a ragwelwyd ar ddechrau’r flwyddyn a hynny yn bennaf o ganlyniad i’r oedi yn y Rhaglen Moderneiddio Ysgolion gan olygu fod llai o wariant na’r disgwyl.

           Bod y Cyngor yn cydymffurfio â’r holl Ddangosyddion Darbodus a osodwyd ac a gymeradwywyd fel rhan o’r Strategaeth Rheoli Trysorlys 2019/20.

           Nad oes unrhyw newidiadau polisi i’r Datganiad Strategaeth Rheoli Trysorlys.  

 

Penderfynwyd nodi cynnwys yr adroddiad ac anfon yr adroddiad ymlaen i’r Cyngor Llawn heb unrhyw sylw pellach.

6.

Ffioedd a Thaliadau 2020/21 pdf eicon PDF 1 MB

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151. 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog 151 yn cynnwys rhestr o ffioedd a thaliadau ar gyfer 2020/21 i’r Pwyllgor Gwaith ar gyfer ystyriaeth.

 

Adroddodd yr Aelod Portffolio Cyllid y byddai ffioedd a thaliadau diwygiedig, yn draddodiadol, yn cael eu gweithredu o’r 1af o Ebrill yn y flwyddyn ariannol nesaf. Fodd bynnag, fel rhan o nifer o fesurau angenrheidiol er mwyn gallu ymateb i’r sefyllfa ariannol heriol bresennol, gofynnir i’r Pwyllgor Gwaith gymeradwyo gweithrediad buan nifer o’r ffioedd a thaliadau hyn o 1 Chwefror, 2020. Cafodd y rhan fwyaf o’r ffioedd a thaliadau lle mae cynnig i’w cynyddu hefyd eu gweithredu ar 1 Chwefror, 2019 y llynedd gan olygu felly eu bod wedi bod yn eu lle am flwyddyn gyfan. Lle mae cynnydd mewn ffioedd a thaliadau am resymau statudol, bydd y ffioedd a thaliadau hynny yn parhau i gael eu gweithredu ar 1 Ebrill yn unol â’r flwyddyn ariannol. Mae cyllidebau incwm ar gyfer ffioedd a thaliadau anstatudol ar gyfer 2020/21 wedi eu cynyddu 3% ar gyfartaledd ar draws pob gwasanaeth unigol.  

 

Cynghorodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151, er bod y targed incwm wedi’i osod ar 3% ar draws y Gwasanaethau, bod gan Benaethiaid Gwasanaeth y rhyddid i gynyddu ffioedd unigol fwy neu lai na 3% er mwyn adlewyrchu gofynion y gwasanaeth a’r galw. Bydd ffioedd a thaliadau sy’n berthnasol i ysgolion yn cael eu gweithredu ar 1 Medi, 2020.   

 

Nododd y Cadeirydd fod y Panel Sgriwtini Cyllid yn bwriadu ymgymryd â darn o waith craffu ar ffioedd a thaliadau ac yr adroddir ar ganlyniadau adolygiad y Panel yn y man. 

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r atodlen Ffioedd a Thaliadau am 2020/21 fel yr amlinellir yn y llyfryn o dan Atodiad A i’r adroddiad.

7.

Newidiadau i’r Cyfansoddiad i adlewyrchu Ailstrwythuro Mewnol pdf eicon PDF 983 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/ Swyddog Monitro.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ar gyfer ystyriaeth, adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor) / Swyddog Monitro yn nodi’r diwygiadau sydd i’w gwneud i Gyfansoddiad y Cyngor er mwyn adlewyrchu’r newidiadau i strwythur staffio’r Uwch Dîm Arweinyddiaeth a’r Penaethiaid Gwasanaeth.

 

Adroddodd Aelod Portffolio Busnes y Cyngor bod newidiadau gan y Prif Weithredwr i strwythurau staffio’r Uwch Dîm Arweinyddiaeth (UDA) a’r Penaethiaid Gwasanaeth i gael eu hadlewyrchu yng nghyfansoddiad y Cyngor ac y bydd yr awdurdod dirprwyedig a roddwyd i bob aelod o’r UDA yn cael ei ddiweddaru yn unol â hynny (Strwythur staffio diwygiedig i’w weld yn Atodiad 2 o’r adroddiad). Mae’r ailstrwythuro presennol yn cynrychioli arbediad i Gyngor Sir Ynys Môn gan leihau costau’r Tîm Rheoli Corfforaethol o £682k i £568k. Gofynnir i’r Pwyllgor Gwaith ystyried y newidiadau a gwneud argymhellion yn dilyn hynny i’r Cyngor Llawn.     

 

Penderfynwyd argymell i’r Cyngor Llawn ei fod yn 

 

           Nodi’r newidiadau ac yn cadarnhau ei fod yn cytuno â’r strwythur newydd fel yn Atodiad 2 yr adroddiad sy’n dangos:

 

           Newid i deitlau swyddi a manylebau aelodau o’r Uwch Dîm Arweinyddiaeth/Penaethiaid Gwasanaeth.

           Diddymu dwy rôl y Prif Weithredwyr Cynorthwyol.

           Creu un rôl Dirprwy Brif Weithredwr.

           Diddymu dwy rôl Pennaeth Swyddogaeth.

           Creu pum rôl Cyfarwyddwr newydd, a

           Newid llinellau adrodd ar gyfer aelodau o’r Uwch Dîm Arweinyddiaeth a’r Penaethiaid Gwasanaeth.

 

           Cadarnhau ei fod yn cymeradwyo cynnwys Atodiad 2 yng Nghyfansoddiad y Cyngor.

 

           Cadarnhau ei fod yn cymeradwyo’r newidiadau i’r awdurdod dirprwyedig yn Atodiad 3.

 

           Cadarnhau ei fod yn cymeradwyo unrhyw benodiadau i swydd Cyfarwyddwr yn y dyfodol gael eu gwneud gan y Pwyllgor Penodiadau, a

 

           Chadarnhau ei fod yn cymeradwyo i unrhyw newidiadau ôl-ddilynol eraill gael eu gwneud i’r Cyfansoddiad er mwyn adlewyrchu’r argymhellion uchod.                  

 

Wrth gau’r cyfarfod, diolchodd y Cadeirydd i Staff y Cyngor a’r Aelodau Etholedig am eu gwaith a’u hymrwymiad dros y flwyddyn ddiwethaf a dymunodd Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i bawb.