Rhaglen, Penderfyniadau a Chofnodion.

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol

Cyswllt: Ann Holmes 

Cyfryngau

Eitemau
Rhif. Eitem

Estynnodd y Cadeirydd groeso cynnes i bawb a oedd yn bresennol yn y cyfarfod rhithwir hwn o'r Pwyllgor Gwaith.

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni wnaed yr un datganiad o ddiddordeb.

2.

Materion brys a ardystiwyd gan y Prif Weithredwr neu swyddog a benodwyd ganddi.

Dim materion brys ar adeg anfon y rhaglen hon.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nid oedd dim materion brys i adrodd arnynt.

3.

Cofnodion pdf eicon PDF 336 KB

Cyflwyno, i'w cadarnhau, gofnodion drafft cyfarfod y Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar 26 Hydref 2020.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Gwaith a  gynhaliwyd ar 26 Hydref, 2020 i'w cymeradwyo gan y Pwyllgor Gwaith.

 

Penderfynwyd cadarnhau bod cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar 26 Hydref, 2020 yn gywir.

4.

Blaenraglen Waith y Pwyllgor Gwaith pdf eicon PDF 381 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd i'w ystyried, adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd yn ymgorffori Blaenraglen Waith y Pwyllgor Gwaith am y cyfnod rhwng mis Rhagfyr, 2020 a mis Gorffennaf, 2021 a nodwyd y newidiadau canlynol - 

 

           Eitem 4 - Achos Busnes Chwaraeon Gogledd Cymru - eitem newydd ar gyfer cyfarfod 14 Rhagfyr, 2020

           Eitem 9 - Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon Ymddiriedolaeth Addysg Bellach Ynys Môn 2019/20 - eitem wedi'i hailraglennu ar gyfer cyfarfod 25 Ionawr, 2021

           Eitem 10 - Cwrs Golff Llangefni - yn amodol ar gadarnhad - eitem wedi'i hailraglennu ar gyfer cyfarfod 25 Ionawr 2021.

           Eitem 27 - Cyflwyno Galw Gofal - Taliadau Cyswllt Gofal ar gyfer Tenantiaid Tai Cyngor - eitem wedi'i hailraglennu ar gyfer cyfarfod 22 Mawrth, 2021

           Cyfarfod arbennig o'r Pwyllgor Gwaith wedi ei gadarnhau ar gyfer 17 Rhagfyr, 2020 i ystyried Moderneiddio Ysgolion yn Ardal Llangefni.

 

Yn ogystal, bydd y trefniadau ar gyfer galw cyfarfodydd o'r Pwyllgor Gwaith i ddelio â phroses gosod Cyllideb 2021/22 rhwng Ionawr a Mawrth, 2021 yn cael eu cadarnhau yn y cyfarfod nesaf.

 

Penderfynwyd cadarnhau'r Flaenraglen Waith wedi'i diweddaru am y cyfnod rhwng mis Rhagfyr, 2020 a mis Gorffennaf, 2021 fel y'i cyflwynwyd.

5.

Cerdyn Sgorio Corfforaethol - Chwarter 2, 2020/21 pdf eicon PDF 759 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Proffesiwn, AD a Thrawsnewid.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd i'w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith, adroddiad y Pennaeth Proffesiwn (Adnoddau Dynol) a Thrawsnewid yn ymgorffori'r Cerdyn Sgorio Corfforaethol ar gyfer Chwarter 2 2020/21.

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan yr Aelod Portffolio ar gyfer Busnes y Cyngor a rhoddodd drosolwg o berfformiad yn ystod y chwarter. Er gwaethaf yr amgylchiadau heriol a grëwyd gan y pandemig Coronafeirws a welodd y Cyngor yn addasu'r ffordd y mae'n gweithio i ymateb i'r argyfwng, gan gynnwys darparu gwasanaethau newydd tra hefyd yn cynnal gwasanaethau rheng flaen allweddol, cynnal busnes fel arfer lle bo modd, a sicrhau iechyd a diogelwch, roedd mwyafrif (88%) y  dangosyddion perfformiad sy'n cael eu monitro yn parhau i berfformio'n dda yn erbyn targedau (Gwyrdd neu Felyn dan y Cynllun CAG). Mae hwn yn ganlyniad calonogol yng nghyd-destun blwyddyn sydd wedi bod ymhell o fod yn un normal.

 

Rhoddodd y Cynghorydd Aled Morris Jones, Cadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol, atborth o drafodaethau'r Pwyllgor ar y Cerdyn Sgorio Corfforaethol ar gyfer Chwarter 2 yn ei gyfarfod ar 17 Tachwedd, 2020. Ar ôl cydnabod a mynegi gwerthfawrogiad o ymdrechion ac ymrwymiad gweithlu'r Cyngor yn ystod y cyfnod, roedd y Pwyllgor wedi canolbwyntio ar bocedi o danberfformiad yn y Gwasanaethau Tai, Cynllunio a Phlant a Theuluoedd a cheisiodd  sicrwydd bod y materion penodol a godwyd yn cael sylw. Roedd y Pwyllgor yn fodlon â'r camau  lliniaru a gyflwynwyd ac fel yr eglurwyd hwy gan yr aelodau Portffolio a Swyddogion yn y cyfarfod ac roedd yn hapus felly i argymell adroddiad Cerdyn Sgorio Chwarter 2 i'r Pwyllgor Gwaith.

 

Cadarnhaodd y Rheolwr Rhaglen, Cynllunio Busnes a Pherfformiad yr agweddau cadarnhaol niferus yr oedd y Cerdyn Sgorio ar gyfer Chwarter 2 yn eu hadlewyrchu ac amlygodd strategaeth ddigidol y Cyngor fel maes sydd wedi bod yn hollbwysig yn ystod y pandemig oherwydd cau swyddfeydd y Cyngor ac ailagor agor rhai gwasanaethau'n ofalus ar ôl y cyfnod clo. Mae'r holl ddangosyddion o dan yr is-bennawdnewid i wasanaeth digidolyn dangos perfformiad gwell nag yn y blynyddoedd blaenorol. At hynny, ni fu unrhyw gwynion corfforaethol mewn perthynas â materion gwasanaethau cwsmer ac roedd nifer y cwynion ar ddiwedd Chwarter 2 (17) yn hanner yr hyn a gofnodwyd ar gyfer yr un cyfnod yn 2019/20 (35). Mae hyn yn arbennig o gadarnhaol ar adeg pan ddarparwyd llawer o wasanaethau i drigolion Ynys Môn mewn ffordd wahanol i'r arfer ac mae'n dangos hefyd bod darparu gwasanaeth da i gwsmeriaid yn parhau i fod yn flaenoriaeth yn ystod yr amseroedd anodd hyn.

 

Gan gytuno bod yr adroddiad yn galonogol o ystyried y cyd-destun, ychwanegodd y Pwyllgor Gwaith ei ddiolchiadau i holl staff y Cyngor am eu gwaith caled yn cynnal lefelau perfformiad yn gyffredinol. Gan gyfeirio at Ddangosydd 35 (nifer y dyddiau calendr a gymerwyd ar gyfartaledd i osod unedau llety yr oedd modd eu gosod (ac eithrio rhai anodd eu gosod) a Dangosydd  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 5.

6.

Mabwysiadu'r Ddogfen Cyflawni Blynyddol 2020-22 pdf eicon PDF 1 MB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Proffesiwn, AD a Thrawsnewid.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Proffesiwn (AD) a Thrawsnewid yn ymgorffori'r Ddogfen Gyflawni  Flynyddol am y deunaw 18 mis rhwng Hydref, 2020 a Mawrth, 2022 i'w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith.  Mae'r Ddogfen Gyflawni Flynyddol yn canolbwyntio ar y gwaith y bydd yr Awdurdod yn ei wneud i gyflawni dyheadau a osodwyd yng Nghynllun y Cyngor Sir am y  cyfnod 2017-22.

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan yr Aelod Portffolio ar gyfer Busnes y Cyngor gan dynnu sylw at y ffaith bod y Ddogfen yn ymwneud â chyfnod o 18 mis yn hytrach na'r 12 mis arferol. Er bod drafftio’r ddogfen mewn cyfnod o newid ac ansicrwydd wedi bod yn heriol, y nod fu datblygu rhaglen waith sy’n uchelgeisiol, yn realistig ac yn gyraeddadwy. Gan roi ei bersbectif personol, nododd yr Aelod Portffolio bod hyrwyddo economi'r Ynys trwy Fwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru, cynyddu'r cyflenwad tai, moderneiddio ysgolion a datblygu cynllun gweithredu ar gyfer newid yn yr hinsawdd yn feysydd allweddol yn ei farn ef. Mae'r Ddogfen Gyflawni hefyd yn cynnwys pedair rhaglen adfer thematig a fydd yn arwain y ffordd allan o'r pandemig ar gyfer adferiad economaidd, adfer cyrchfannau, adferiad cymdeithasol a chymunedol ac adferiad sefydliadol; bydd y rhaglenni manwl ar gael yn y Flwyddyn Newydd.

 

Adroddodd y Cynghorydd Aled Morris Jones, Cadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol o gyfarfod y Pwyllgor ar 17 Tachwedd, 2020 lle craffwyd ar Ddogfen Gyflawni 2020-22. Roedd y Pwyllgor wedi nodi amserlen estynedig y Ddogfen ac wrth gydnabod y cyd-destun ariannol heriol, roedd wedi trafod a cheisio sicrwydd ynghylch pa mor gyraeddadwy oedd y dyheadau a oedd ynddi. Roedd y Pwyllgor hefyd wedi ceisio deall y berthynas rhwng y Ddogfen Gyflawni a'r pedair rhaglen adfer o ran gweithredu ac amserlenni. Ar ôl clywed y wybodaeth ychwanegol a ddarparwyd gan Aelodau Portffolio a Swyddogion yn y cyfarfod, penderfynodd y Pwyllgor argymell y Ddogfen Gyflawni i'r Pwyllgor Gwaith.

 

Penderfynwyd awdurdodi Swyddogion trwy'r Aelod Portffolio ar gyfer Busnes y Cyngor i gyflawni'r dasg o gwblhau drafft terfynol y Ddogfen Gyflawni Flynyddol ar gyfer 2020/22 ac argymell bod y Cyngor Llawn yn ei mabwysiadu yn ei gyfarfod ar 8 Rhagfyr, 2020.

7.

Monitro’r Gyllideb Refeniw - Chwarter 2, 2020/21 pdf eicon PDF 811 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd i'w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith, adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 yn nodi perfformiad ariannol gwasanaethau'r Cyngor ar ddiwedd Chwarter 2 blwyddyn ariannol 2020/21.

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio ar gyfer Cyllid, yn seiliedig ar wybodaeth hyd yma, fod y sefyllfa ariannol a ragwelir yn gyffredinol ar gyfer 2020/21, gan gynnwys Cyllid Corfforaethol a chronfa'r Dreth Gyngor, yn danwariant o £1.156m sef 0.81% o gyllideb net y Cyngor ar gyfer 2020/21. Er iddo groesawu'r perfformiad y mae'r prognosis wedi'i seilio arno, rhybuddiodd yr Aelod Portffolio y gall y sefyllfa newid yn sylweddol erbyn diwedd y flwyddyn, yn enwedig o gofio effeithiau parhaus y pandemig Coronafeirws, ac yn enwedig yr ansicrwydd ynghylch pa bryd y bydd gwasanaethau'r Cyngor yn dychwelyd i'r drefn arferol. Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu £232m hyd yma i gynghorau yng Nghymru gwrdd â chostau ychwanegol sy'n gysylltiedig â delio â'r pandemig a'r incwm a gollwyd yn sgil cau gwasanaethau.

 

Dywedodd y Cynghorydd Dafydd Roberts, Cadeirydd y Panel Sgriwtini Cyllid, fod y Panel, wrth ystyried yr adroddiad, yn teimlo ei fod yn darparu datganiad clir a hunanesboniadol o’r sefyllfa yn Chwarter 2 a nododd a chroesawodd y Panel y perfformiad cadarnhaol. Fodd bynnag, roedd y Panel yn pryderu am yr ansicrwydd i'r dyfodol gan gynnwys y diffyg eglurder ynghylch cyllid y flwyddyn nesaf a’r blynyddoedd i ddod.

 

Aeth y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 â'r Pwyllgor Gwaith trwy'r amrywiadau gwasanaeth sylweddol yn Chwarter 2, gan nodi bod disgwyl tanwariant o £1,595k yn y cyllidebau gwasanaeth oherwydd llai o alw am Wasanaethau Plant ac effaith cau ysgolion yn ystod y cyfnod Ebrill i Orffennaf, 2020 ar gyllidebau addysg ganolog. Mae cyllid grant gan Lywodraeth Cymru I ddigolledu am   incwm a gollwyd wedi'i gynnwys yng nghyfrifiadau Chwarter 2 ac mae hyn wedi cyfrannu at y sefyllfa well, yn enwedig o ran y Gwasanaeth Hamdden. Roedd disgwyl i nifer yr hawliadau am gymorth dan y Cynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor godi'n sylweddol o ganlyniad i'r dirywiad economaidd yn sgil Covid - 19 ac er i'r haf weld cynnydd yn nifer yr hawlwyr mae'r sefyllfa wedi sefydlogi ers hynny ac mae nifer yr hawliadau wedi gostwng. Er y credir bod estyn y Cynllun Ffyrlo wedi helpu i leddfu'r pwysau mwyaf ar y cynllun, mae nifer yr hawliadau 2.7% yn uwch nag ar ddiwedd mis Mawrth, 2020 a bydd cost cwrdd â'r cynnydd yn nifer yr hawliadau  yn disgyn ar y Cyngor. Mae incwm o'r Dreth Gyngor i lawr oddeutu 2% o'i gymharu â'r un cyfnod y llynedd; mae'r broses orfodaeth wedi ailddechrau ers hynny ond ni fydd effaith lawn peidio â thalu i'w gweld nes bod y broses casglu dyledion wedi'i chwblhau a hyd nes y bydd asesiad o ddyledion drwg wedi ei wneud. 

 

O ran gwariant sy'n gysylltiedig â Covid-19 rhwng Ebrill a Medi, 2020 a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 7.

8.

Monitro’r Gyllideb Gyfalaf - Chwarter 2, 2020/21 pdf eicon PDF 396 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd i'w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith, adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 yn nodi perfformiad y Gyllideb Gyfalaf ar gyfer ail chwarter blwyddyn ariannol 2020/21.

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio ar gyfer Cyllid fod y gwariant gwirioneddol hyd at 30 Medi, 2020 yn £10.521m yn erbyn gwariant a broffiliwyd o £13.688m, a hynny, i raddau helaeth, oherwydd effaith Covid-19 a'r cyfyngiadau cysylltiedig ar gynnydd a'r gallu i gwblhau rhai cynlluniau. Fodd bynnag, mae mwyafrif y prosiectau ar darged i gael eu cwblhau o fewn y gyllideb. Gan gyfeirio at y broses aildendro ddiweddar ar gyfer y contract Gwastraff a ddyfarnwyd i Biffa, eglurodd yr Aelod Portffolio ar gyfer Cyllid y cytunwyd fel rhan o'r trafodaethau contract y byddai'r Cyngor yn ariannu costau cyfalaf y cerbydau newydd, sef cyfanswm o £4.449m. Bydd hyn yn cael ei ariannu trwy Fenthyca Digymorth y ceisir cymeradwyaeth y Pwyllgor Gwaith ar ei gyfer, a bydd yn cynhyrchu cost refeniw blynyddol rhwng £550k a £650k (yn dibynnu ar hyd y benthyciad) y bydd yn rhaid ei chymryd i ystyriaeth yng nghyllideb 2021/ 22. Mae manteision defnyddio'r dull hwn yn ddeublyg. Yn gyntaf, y Cyngor a fyddai'n parhau i fod yn berchen ar y cerbydau pe bai methiant i gwrdd â’r  contract ac felly byddai modd parhau i'w defnyddio i gynnal y gwasanaeth casglu gwastraff. Yn ail, gall y Cyngor ariannu prynu cerbydau ar gyfradd log is na'r contractwr sy'n golygu na fydd y costau benthyca yn cael eu trosglwyddo i'r trethdalwr.

 

Dywedodd y Cynghorydd Dafydd Roberts, Cadeirydd y Panel Sgriwtini Cyllid fod y Panel, wrth iddo ystyried sefyllfa gyfalaf Chwarter 2, wedi ymholi a fyddai'r oedi wrth symud ymlaen â Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif yn arwain at golli cyllid grant; roedd y Panel wedi ei fodloni gan sicrwydd nad dyna fyddai’r achos.

 

Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 fod y rhan fwyaf o'r tanwariant ar y rhaglen gyfalaf yn gysylltiedig â'r Rhaglen Moderneiddio Ysgolion sydd wedi'i seibio hyd nes y ceir penderfyniad terfynol ar gyfluniad ysgolion yn ardal Llangefni, a'r Cyfrif Refeniw Tai lle mae'r pandemig wedi effeithio ar weithgareddau sy'n gysylltiedig â thai. O ran y gweithgareddau tai, bydd y tanwariant ar wariant cyfalaf yn cario drosodd i'r flwyddyn nesaf ac yn achos y rhaglen moderneiddio ysgolion,  mae llywodraeth Cymru wedi cadarnhau y caniateir i gyllid nas defnyddiwyd ar gyfer rhaglen Band A lle mae un cynllun yn weddill, gael ei gario drosodd i'r rhaglen Band B. Yn ogystal â'r oedi a achosir gan y pandemig, gall tywydd gwael dros y gaeaf hefyd rwystro cynnydd ar brosiectau cyfalaf.

 

Penderfynwyd

 

           Nodi cynnydd gwariant a derbyniadau yn erbyn cyllideb gyfalaf 2020/21 yn Chwarter 2.

           Cymeradwyo £4.449m o Fenthyca Digymorth mewn perthynas ag amodau'r Contract Gwastraff a ddyfarnwyd i Biffa yn unol â pharagraff 3.3.1 o'r adroddiad.

9.

Adroddiad Monitro Cyllideb y CRT - Chwarter 2, 2020/21 pdf eicon PDF 389 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd i'w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith, adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 yn nodi perfformiad ariannol Cyllideb y Cyfrif Refeniw Tai (CRT) ar gyfer Chwarter 2 2020/21.

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio ar gyfer Cyllid fod y sefyllfa refeniw ar gyfer yr ail chwarter yn dangos tanwariant o £324k. Mae'r incwm a ragwelwyd £100k yn is na'r gyllideb wreiddiol, a rhagwelir y bydd y gwariant £112k yn is na'r gyllideb wreiddiol. Mae gwariant cyfalaf £1,250k yn is na'r gyllideb broffiliedig ac mae'r gwariant a ragwelir £6,244k yn is na'r gyllideb. Mae'r diffyg a ragwelir felly (gan gyfuno refeniw a chyfalaf) £6,256k yn llai na'r gyllideb (gan ostwng y diffyg a gynlluniwyd i £823k) a hynny'n bennaf o ganlyniad i wariant cyfalaf is nag a gyllidebwyd. Mae'r CRT yn gyllideb sydd wedi ei chyfyngu i ddibenion penodol ac ni ellir trosglwyddo arian ohoni i'r Gronfa Gyffredinol.

 

Penderfynwyd nodi’r isod

 

           Y sefyllfa a amlinellwyd mewn perthynas â pherfformiad ariannol y Cyfrif Refeniw Tai (CRT) ar gyfer Chwarter 2 2020/21.

          Yr alldro a ragwelir ar gyfer 2020/21.

10.

Sylfaen y Dreth Gyngor 2021/22 pdf eicon PDF 372 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd i'w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith, adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 mewn perthynas â chyfrifo'r sylfaen dreth ar gyfer 2020/21.

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio ar gyfer Cyllid fod y cyfrifiadau wedi'u gwneud yn unol â Chanllawiau Llywodraeth Cymru ar gyfer Anheddau Treth Gyngor (CT1 v.1.0) 2021/22 yn seiliedig ar nifer yr eiddo mewn amrywiol fandiau ar y rhestr brisio ar 31 Hydref, 2020 a'u bod wedi eu crynhoi gan yr Awdurdod o dan Adran 22b(7) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992. Mae'r cyfrifiadau'n cymryd i ystyriaeth ostyngiadau, eithriadau a phremiymau ynghyd â newidiadau i'r rhestr brisio sy'n debygol yn ystod 2021/22. Cyfanswm y sylfaen a gynigiwyd ar gyfer 2021/22 at ddibenion gosod treth yw 31,548.20. Mae hyn yn cymharu â 31,532.53 ar gyfer 2020/21 ac mae'n gynnydd o 0.05%.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 fod dwy elfen i'r cyfrifiadau, sef Sylfaen y Dreth Gyngor ar gyfer cyfrifo'r Grant Cymorth Refeniw sy'n cynnwys yr holl eiddo Treth Gyngor safonol ond nad yw'n cynnwys addasiadau ar gyfer premiymau a gostyngiadau a roddwyd gan rai awdurdodau mewn perthynas â Dosbarthiadau A, B ac C. Cyfrifir bod y ffigwr hwn yn 30,880.22 sy'n ostyngiad o 0.15% ar ffigwr y flwyddyn flaenorol, sef  30,927.17 ac mae'r wybodaeth hon wedi'i hanfon at Lywodraeth Cymru. Yn ail, roedd cyfanswm y gostyngiad cyfwerth â band D a ddefnyddir at ddibenion gosod treth wedi'i addasu gan ddarpariaeth ar gyfer treth gyngor na fydd yn cael ei thalu, sy'n parhau i fod yn 1.5%, ac mae hefyd yn cynnwys lwfans ar gyfer eiddo'r Weinyddiaeth Amddiffyn. Cyfrifir bod y ffigwr fel y crybwyllir uchod yn 31,548.20 ac er ei fod wedi aros yn weddol sefydlog o 2020/21 mae'n gallu amrywio yn ystod y flwyddyn wrth i eiddo gael eu trosglwyddo o'r rhestr Dreth Gyngor ddomestig i'r rhestr cyfraddau busnes a hefyd wrth i anheddau gael eu prynu fel ail gartrefi lle codir premiwm ar eu cyfer. Mae nifer yr eiddo ar y rhestr Dreth Gyngor safonol wedi gostwng oherwydd cynnydd yn nifer yr ail gartrefi ac yn nifer yr eiddo gwag ac mae'r pandemig wedi cael effaith eleni ar allu pobl i osod, adnewyddu neu werthu eiddo sydd yn wag. Bydd adroddiad ar bremiwm y Dreth Gyngor ar gyfer ail gartrefi yn cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor Gwaith ym mis Rhagfyr, 2020.

 

Penderfynwyd

 

           Nodi cyfrifiad Sylfaen y Dreth Gyngor gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) a’r Swyddog Adran 151, fydd yn cael ei ddefnyddio gan Lywodraeth Cymru ar gyfer cyfrifo’r Grant Cynnal Refeniw i Gyngor Sir Ynys Môn am y flwyddyn ariannol 2021/22, sef 30,880.22 (Rhan E6 o Atodiad A yn yr adroddiad).

           Cymeradwyo’r cyfrifiad at ddiben pennu Sylfaen y Dreth Gyngor gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) a’r Swyddog Adran 151 am y cyfan o'r ardal ac am rannau ohoni am y flwyddyn 2021/22 (Rhan E5 o Atodiad  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 10.

11.

Cynllun Twf Terfynol pdf eicon PDF 8 MB

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro.  

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd i'w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith, adroddiad y Prif Weithredwr yn ymgorffori'r dogfennau allweddol sydd raid wrthynt i ddod i Gytundeb Terfynol ar gyfer Bargen Twf Gogledd Cymru gyda Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru.

 

Cyflwynodd yr Arweinydd yr adroddiad a dywedodd fod y cam hwn yn y Cynnig Bargen Twf ar gyfer Gogledd Cymru yn benllanw proses hir y mae Cyngor Sir Ynys Môn wedi chwarae rhan lawn ynddi. 

 

Cytunodd y Prif Weithredwr fod hon yn garreg filltir arwyddocaol yn y broses Bargen Twf sy'n ffrwyth llawer iawn o waith dros gyfnod hir ac sydd hefyd yn dangos gwerth partneriaeth gref yn seiliedig ar gydweithrediad parod a dealltwriaeth rhwng partneriaid ar draws sectorau. Dywedodd fod diolchiadau'n ddyledus i Swyddogion sydd wedi gwasanaethu ar yr ystod o fyrddau a oedd yn datblygu'r Cynnig Twf sydd wedi arwain at yr achlysur hanesyddol hwn; y gobaith yw y bydd y rhaglen hon o fuddsoddiad economaidd mawr y mae gwir angen amdano yn rhanbarth Gogledd Cymru yn cynhyrchu canlyniadau yn gyflym ar adeg pan fo pandemig Covid-19 wedi cael effaith ddifrifol ar yr economi.

 

Dywedodd y Dirprwy Brif Weithredwr, wrth gydnabod nad yw cyflogaeth a’r economi wedi’u cyfyngu i ardaloedd awdurdodau lleol a bod pobl a busnesau yn symud ar draws ffiniau, fod cynlluniau  datblygu economaidd Llywodraeth Cymru yn cael eu cyflawni fwyfwy trwy strwythurau rhanbarthol. Mae cydweithio fel rhanbarth yn hwyluso denu cyllid ychwanegol ar lefel na fyddai'n bosib i'r chwe awdurdod lleol pe byddent yn gweithredu ar wahân ac ar eu pennau eu hunain. Cyfeiriodd y Dirprwy Brif Weithredwr at y buddion a'r buddsoddiadau economaidd a ddisgwylir  i'r Ynys a'r tir mawr yn sgil y Fargen Twf, sef y rhaglen datblygu economaidd fwyaf a mwyaf arwyddocaol y mae'r rhanbarth wedi'i gweld ers dechrau'r cyfnod o lymder. Bydd y rhaglen yn canolbwyntio ar gefnogi twf mewn sectorau gwerth uchel o ran cyflogaeth a'r farchnad lafur. Rhagwelir creu rhwng 3,000 a 4,000 o swyddi ychwanegol gan gynhyrchu dros £2b o Werth Ychwanegol  Gros ychwanegol y disgwylir iddo, yn ei dro, ddenu buddsoddiad o'r sector preifat gwerth £1b. Er bod nifer o brosiectau gweladwy iawn ar yr Ynys ar hyn o bryd ar ffurf Morlais, Porthladd Caergybi a Pharc Gwyddoniaeth Menai, mae yna ystod o brosiectau eraill yn y meysydd tai ac eiddo, TGCh, cludiant cynaliadwy ac ynni gwyrdd y gall yr ynys fanteisio arnynt i ddenu cyllid  ychwanegol. Mae'n bwysig bod yr Awdurdod yn parhau i fod yn llais cryf, cynhyrchiol a dylanwadol o fewn y model gweithio rhanbarthol hwn a'r gobaith yw y bydd y Flwyddyn Newydd yn gweld newid o'r cyfnod cynllunio a pharatoi i gyfnod lle bydd yr arian yn dechrau cael ei wireddu a'i wario.

 

Eglurodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Adran 151 oblygiadau ariannol y Fargen Twf y mae dwy elfen iddi, sef costau refeniw rhedeg y rhaglen y cytunwyd y byddant yn cael eu rhannu rhwng y chwe awdurdod lleol a'r colegau, gyda Chyngor Ynys Môn yn cyfrannu £90k ynghyd â chynnydd blynyddol ar gyfer chwyddiant.  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 11.

12.

Cynllun Peilot Cyngor Sir Ynys Môn a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr – Anableddau Dysgu Cyngor Sir Ynys Môn a Bwrdd Iechyd pdf eicon PDF 405 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Dros Dro ar gyfer Gwasanaethau Oedolion

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Oherwydd bod gan yr Arweinydd ymrwymiad arall, y Cynghorydd Ieuan Williams, yr Is-Gadeirydd, a gadeiriodd y cyfarfod am yr eitem hon a'r eitem ddilynol.

 

Cyflwynwyd adroddiad gan y Pennaeth Dros Dro ar gyfer Gwasanaethau Oedolion yn gofyn i'r Pwyllgor Gwaith gymeradwyo ymrwymo i gynllun peilot ar gyfer cronfa gyfun gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ar gyfer y gyllideb byw â chymorth i oedolion ag anableddau dysgu sy'n byw yn Ynys Môn.

 

Amlinellwyd y cefndir gan y Pennaeth Dros Dro ar gyfer Gwasanaethau Oedolion, gan nodi bod y Cyngor yn bartner allweddol yn Strategaeth Anabledd Dysgu Gogledd Cymru a Gwasanaethau Di-dor i Bobl ag Anableddau Dysgu - y Gogledd. Bydd cymeradwyo'r cynllun peilot arfaethedig yn golygu y gall y Cyngor wneud cyfraniad sylweddol at gyflawni mesurau perfformiad allweddol yn llwyddiannus ar gyfer Rhaglen Trawsnewid Anabledd Dysgu Gogledd Cymru, sef rhaglen y mae'r Strategaeth Anabledd Dysgu yn sylfaen iddi. Mae cronfeydd cyfun yn weithdrefn i sicrhau mwy o integreiddio o ran cymorth iechyd a gofal cymdeithasol ac ystyrir ei bod yn arbennig o effeithiol ar gyfer pobl ag anghenion cymhleth. Mae'r weithdrefn gyfredol ar gyfer sicrhau cyllid iechyd a gofal cymdeithasol ar y cyd i oedolion ag anableddau dysgu yn cynnwys dwy broses nad ydynt wedi'u halinio'n dda â'i gilydd. Y rhesymeg dros dreialu cronfa gyfun yw profi a gwerthuso a yw integreiddio'r prosesau hyn yn arwain at wasanaethau a chanlyniadau o ansawdd gwell i unigolion tra hefyd yn gwella effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd darpariaeth gwasanaeth.

 

O ran goblygiadau gweithredol y cynllun peilot arfaethedig, dywedodd y Swyddog y byddai cytundeb statudol Adran 33 yn cefnogi'r gronfa gyfun, ac y byddai'r cyfryw gytundeb yn amlinellu cyfrifoldebau ar y cyd, strwythurau rheoli, mesurau sicrhau perfformiad a sicrhau ansawdd, strwythurau llywodraethu ariannol a llywodraethu prosiectau. Bydd cam cyntaf y cynllun peilot yn cyfuno ymrwymiadau ariannol presennol y ddwy asiantaeth ar gyfer gwasanaethau byw â chymorth i oedolion ag anableddau dysgu sy'n byw yn Ynys Môn - 36 achos ar hyn o bryd. Cyfanswm y gwariant cyfredol ar gyfer BIPBC a'r Cyngor yw £3,166,201.87 - sef £1,346,723.81 i Iechyd a £1,819478.06 i'r Cyngor. Bydd Rhaglen Trawsnewid Gogledd Cymru Gyda'n Gilydd yn gwneud  cyfraniad ariannol i'r gronfa gyfun unwaith y bydd y cynllun peilot yn weithredol er mwyn cynorthwyo i gyflawni yn y cyfnod cychwynnol. Er na fydd y goblygiadau ariannol i'r Cyngor a BIPBC yn cynyddu o ganlyniad i'r cynllun peilot, efallai y bydd raid cyfrannu at godiadau yn y maes byw â chymorth blynyddol a'r maes anghenion cymorth gofal iechyd i unigolion fel y byddai'n digwydd waeth beth fo'r cynllun peilot. Bydd y gronfa gyfun yn cael ei dal a'i rheoli gan Gyngor Sir Ynys Môn ar ran y partneriaid a bydd y Rheolwr Gwasanaeth ar gyfer Anabledd Dysgu ac Iechyd Meddwl yn dod yn rheolwr y gronfa gyfun sy'n gyfrifol am ddefnydd effeithiol o’r gronfa gyfun yn unol â'r Cytundeb adran  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 12.

13.

Diwygio'r Broses Gyfansoddiadol mewn perthynas â phennu Cyllideb y Cyngor pdf eicon PDF 307 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor) / Swyddog Monitro.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd i'w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith, adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor) / Swyddog Monitro mewn perthynas â diwygio'r broses Gyfansoddiadol mewn perthynas â gosod cyllideb y Cyngor

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio ar gyfer Busnes y Cyngor y cynigir  gofyn i'r Cyngor gytuno i ddiwygio'r Cyfansoddiad fel bod hyblygrwydd wedi'i ymgorffori yn yr amserlen gyfansoddiadol mewn perthynas â'r broses gosod cyllideb. Gwneir y cais yn dilyn cadarnhad y bydd y setliadau dros dro a therfynol i Lywodraeth Leol ar gyfer 2021/22 yn cael eu cyhoeddi’n hwyr eto fel yn 2020/21. Bryd hynny,  cytunodd y Cyngor i atal paragraff 4.3.2.2.8 o'r Cyfansoddiad er mwyn caniatáu i'r Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol ystyried cynigion cyllidebol cychwynnol y Pwyllgor Gwaith lai na phythefnos cyn i'r Cyngor fabwysiadu'r gyllideb flynyddol ar 10 Mawrth, 2020. Roedd yr oedi mewn perthynas â chyhoeddi'r setliad yn golygu y bydd angen diwygio'r broses gosod cyllideb unwaith eto ar gyfer cyllideb 2021/22 gan na fydd yn ymarferol bosib dilyn yr amserlen a gynhwysir yng Nghyfansoddiad y Cyngor. Mae diwygio'r Cyfansoddiad fel bod hyblygrwydd wedi'i ymgorffori yn yr amserlen gyfansoddiadol yn golygu bod yr hyblygrwydd hwn ar gael wedyn pe bai'n rhaid i'r Cyngor addasu'r broses gosod cyllideb am resymau y tu hwnt i'w reolaeth fel yn 2020/21, fel sy'n ofynnol ar gyfer 2021/22, a phe bai sefyllfa debyg yn codi yn y blynyddoedd i ddod.

 

Penderfynwyd argymell bod y Cyngor Llawn yn cytuno -

 

           Bod Cyfansoddiad y Cyngor yn cael ei ddiwygio fel y nodir yn y tabl ym mharagraff 9 yr adroddiad, a

           Bod awdurdod yn cael ei ddirprwyo i’r Swyddog Monitro wneud unrhyw newidiadau dilynol i’r Cyfansoddiad i adlewyrchu’r diwygiadau a gymeradwywyd yn y pwynt bwled uchod.