Rhaglen, Penderfyniadau a Chofnodion.

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol

Cyswllt: Ann Holmes 

Cyfryngau

Eitemau
Rhif. Eitem

Croesawodd y Cadeirydd bawb oedd yn bresennol i’r cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Gwaith.

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni wnaed unrhyw ddatganiad o ddiddordeb.

2.

Materion brys a ardystiwyd gan y Prif Weithredwr neu Swyddog a benodwyd ganddi

Dim materion brys ar adeg anfon allan y rhaglen hon.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim i’w hadrodd.

3.

Cofnodion pdf eicon PDF 281 KB

Cyflwyno i’w cadarnhau, gofnodion drafft y cyfarfod rhithiol o’r Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar 13 Gorffennaf 2020.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd i’w cadarnhau, gofnodion drafft y cyfarfod blaenorol o’r Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar 13 Gorffennaf 2020.

 

Penderfynwyd cymeradwyo cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar 13 Gorffennaf, 2020 fel rhai cywir.

 

4.

Y Sefyllfa Ddiweddaraf ar Gynllunio a Chyflawni Adferiad o’r Coronafeirws pdf eicon PDF 114 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Prif Weithredwr.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Dirprwy Brif Weithredwr yn nodi'r cynnydd hyd yma o ran cynllunio a chyflawni adferiad lleol i'w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith.

 

Cyflwynodd y Prif Weithredwr yr adroddiad yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Pwyllgor Gwaith am gynnydd o ran adferiad lleol a rhanbarthol a nododd, yn dilyn cymeradwyaeth y Pwyllgor Gwaith yn ei gyfarfod ar 13 Gorffennaf o'r strwythurau a'r cyfrifoldebau mewnol i oruchwylio datblygiad ac adferiad pellach y Cyngor Sir a'r Ynys yn sgil argyfwng y Coronafeirws, fod y flaenoriaeth a'r ffocws wedi parhau ar lacio ymhellach y cyfyngiadau, cynnal diogelwch swyddogion a thrigolion a sicrhau canlyniadau cadarnhaol gan gydweithio'n ystyrlon â phartneriaid a rhanddeiliaid perthnasol.

 

Arweiniodd y Dirprwy Brif Weithredwr y Pwyllgor Gwaith drwy brif bwyntiau'r adroddiad fel a ganlyn –

 

           Dywedodd ei fod yn parhau i fod yn gyfnod heriol ac ansicr i drigolion, cymunedau a busnesau gyda newidiadau sy'n effeithio ar adferiad yr Ynys yn economaidd ac o ran y gymuned bob wythnos. Mae gan y Cyngor rôl i'w chwarae i arwain ar gamau tuag at adferiad ac mae'r adroddiad yn rhoi trosolwg o'r cynnydd a wnaed hyd yma a'r camau i'w cymryd wrth i'r adferiad fynd rhagddo.

           Amlinellodd y newidiadau cenedlaethol a wnaed gan Lywodraeth Cymru yn ystod mis Gorffennaf a mis Awst i lacio’r cyfyngiadau ynghyd â'r penderfyniadau lleol a wnaed gan y Cyngor i sicrhau cydymffurfiaeth a galluogi'r sefydliad, swyddogion, trigolion a busnesau lleol i symud i'r "normal nesaf" yn ddiogel a phwysleisiodd fod Swyddogion yn gwneud llawer iawn o waith yn y cefndir cyn i bob penderfyniad gael ei weithredu.

           Cyfeiriodd at gynnydd o ran adferiad rhanbarthol a'r rhan a chwaraeir gan y Cyngor mewn ymdrechion cydweithredol. Tynnodd sylw at y ffaith, er bod blaenoriaethau a ffocws y Cyngor yn parhau ar alluogi a hwyluso adferiad lleol, ei fod yn ceisio gwneud hynny mewn partneriaeth a dysgu o'r hyn y mae awdurdodau a sefydliadau eraill yn ei wneud o ran dulliau gweithio ac ymarfer. Mae'r rôl ranbarthol yn datblygu i fod yn un sy’n cydgysylltu a chynllunio ar gyfer y tymor canolig i'r hirdymor gyda chamau gweithredu a phenderfyniadau uniongyrchol o ddydd i ddydd yn digwydd ar lefel leol.

           Manylodd ar wahanol elfennau'r broses adfer leol gan gadarnhau bod gwaith wedi dechrau ar baratoi 4 cynllun adfer lleol yn seiliedig ar yr Economi; Gwasanaethau Twristiaeth a Chyrchfannau sy'n cynnwys agweddau cymunedol ac amgylcheddol; Gwasanaethau Cymdeithasol a Chymunedol a Dylunio a Diwylliant Sefydliadol (Gweithio'n Wahanol).

           Pwysleisiodd bwysigrwydd cynlluniau cyfalaf i adferiad economaidd. Mae'r awdurdodau yng Ngogledd Cymru wedi ceisio tynnu sylw at rôl hollbwysig awdurdodau lleol wrth hyrwyddo prosiectau cyfalaf gydag amserlen o gynlluniau posibl wedi'u paratoi yn barod ar gyfer rhyddhau cyllid cyfalaf ychwanegol. Fodd bynnag, er mwyn manteisio'n llawn, mae angen datblygu cynlluniau'n llawn ac 'yn barod i’w gweithredu" felly argymhellir yn yr adroddiad y dylid rhyddhau cyllid i ddatblygu cynlluniau cyfalaf â blaenoriaeth.

           Cyfeiriodd at gydweithrediad parhaus y Cyngor a chyflawni'r Strategaeth Profi, Olrhain a Diogelu leol sy'n hanfodol wrth reoli achosion  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 4.

5.

Y Polisi Gosod ar gyfer Tai Cymdeithasol a Covid-19 pdf eicon PDF 317 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Tai. 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad Pennaeth y Gwasanaethau Tai yn gofyn am gymeradwyaeth y Pwyllgor Gwaith ar gyfer newid rhannol dros dro i'r Polisi Gosod Cyffredin ar gyfer tai mewn ymateb i effaith Covid-19 ar lety brys/dros dro i aelwydydd digartref yn dilyn argymhelliad Llywodraeth Cymru mewn perthynas â digartrefedd.

 

Cyflwynodd yr Aelod Portffolio dros Dai a Chymorth Cymunedol yr adroddiad gan nodi bod Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau y bydd dyletswydd lawn i ail-letya’n barhaol unrhyw aelwydydd y darperir llety brys iddynt yn ystod y cyfyngiadau. Er mwyn cyflawni hyn, bydd angen dull hyblyg ar y Gwasanaethau Tai i allu symud aelwydydd o lety brys neu lety dros dro i lety sefydlog, ac felly cynigir newid dros dro arfaethedig i'r Polisi Gosod Cyffredin am gyfnod o hyd at 6 mis. Drwy gymeradwyo'r argymhelliad, bydd y dull gosod uniongyrchol yn cael ei wneud ar gyfer hyd at 50% o'r achosion a dderbyniwyd yn ystod y cyfnod hwn.

 

Wrth gefnogi'r cynnig, gofynnodd y Cadeirydd am ddiweddariad ymhen blwyddyn ynglŷn ag effeithiau'r newid polisi rhannol dros dro.

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r canlynol

 

           Newid rhannol dros dro i’r Polisi Gosod Cyffredin ar gyfer tai mewn ymateb i effaith Covid-19 ar lety brys/dros dro i aelwydydd digartref am gyfnod o hyd at 6 mis yn dilyn argymhelliad Llywodraeth Cymru mewn perthynas â digartrefedd.

           Bod achosion o osod llety yn ystod y cyfnod hwn i Aelwydydd Digartref yn cael eu cymeradwyo gan Reolwr y Tîm Opsiynau Tai.

           Bod y Pwyllgor Gwaith yn derbyn diweddariad ymhen blwyddyn ar effaith y newid rhannol dros dro i’r Polisi Gosod Tai Cyffredin.

6.

Cau Allan y Wasg a'r Cyhoedd pdf eicon PDF 208 KB

Ystyried mabwysiadu’r canlynol

 

“O dan Adran 100 (A) (4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y Wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol ar y sail y gall olygu datgelu gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir yn Atodlen 12A o’r Ddeddf honno ac yn y Prawf Budd y Cyhoedd amgaeëdig.”

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Penderfynwyd

 

“O dan Adran 100 (A) (4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a'r cyhoedd o'r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol ar y sail y gallai olygu datgelu gwybodaeth eithriedig fel y'i diffinnir yn Atodlen 12A y Ddeddf a’r Prawf Budd y Cyhoedd fel y cyflwynwyd nhw.”

7.

Datblygiadau Tai Ychwanegol

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Tai.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad Pennaeth y Gwasanaethau Tai yn gofyn am gymeradwyaeth y Pwyllgor Gwaith i ddatblygu 5 uned dai ychwanegol ar safle Marquis, Rhosybol.

 

Cyflwynodd yr Aelod Portffolio dros Dai a Chymorth Cymunedol yr adroddiad yn tynnu sylw at y ffaith bod y Pwyllgor Gwaith, ar 15 Gorffennaf 2019, wedi cymeradwyo adeiladu 10 uned ar y safle sydd â chaniatâd cynllunio ar gyfer 15 uned. Penderfynwyd yn wreiddiol y dylid bwrw ymlaen â 10 uned yn unol â lefel yr angen a nodwyd am dai yn y pentref. Mae'r ffigurau presennol yn dangos bod yr angen am dai wedi cynyddu ac y gellir cynnig rhai eiddo drwy gynllun cydberchnogaeth. Dywedodd yr Aelod Portffolio mai’r argymhellir bellach yw y dylid adeiladu'r 5 uned arall ar y safle a chynigiodd yr argymhelliad i'r Pwyllgor Gwaith.

 

Penderfynwyd bwrw ymlaen i adeiladu pum uned ychwanegol ar safle’r Marcwis, Rhosybol.