Rhaglen, Penderfyniadau a Chofnodion.

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol

Cyswllt: Ann Holmes 

Cyfryngau

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd yr un datganiad o ddiddordeb.

 

2.

Materion brys a ardystiwyd gan y Prif Weithredwr neu Swyddog a Benodwyd Ganddi

Dim materion brys ar adeg anfon y rhaglen hon.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim i’w hadrodd.

3.

Cofnodion y Cyfarfodydd Blaenorol pdf eicon PDF 273 KB

Cyflwyno i’w cadarnhau, cofnodion cyfarfodydd blaenorol y Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar y dyddiadau canlynol -

 

·         12 Gorffennaf 2021

·         13 Medi, 2021 (arbennig)

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfodydd blaenorol y Pwyllgor Gwaith i’w cymeradwyo gan y Pwyllgor Gwaith fel a ganlyn:-

 

·           12 Gorffennaf, 2021

·           13 Medir, 2021 (Arbennig)

 

PENDERFYNWYD cadarnhau bod cofnodion cyfarfodydd blaenorol y Pwyllgor Gwaith yn gywir:-

 

·           12 Gorffennaf, 2021

·           13 Medi, 2021 (Arbennig)

 

4.

Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith pdf eicon PDF 406 KB

Cyflwyno adroddiad Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd a oedd yn cynnwys Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith ar gyfer y cyfnod rhwng Hydref, 2021 i Mai, 2022 a nodwyd y newidiadau canlynol:-

 

·           Eitem 2 – Ymgynghoriad ar lefel Premiwm y Dreth Cyngor ar gyfer ail gartrefi – eitem wedi’i haildrefnu o 27 Medi, 2021 i gyfarfod y Pwyllgor Gwaith ar 25 Hydref, 2021.

·           Eitem 3 –Strategaeth Cyfraniadau Buddion Cymunedol – eitem wedi’i haildrefnu o 27 Medi, 2021 i gyfarfod y Pwyllgor Gwaith ar 25 Hydref,2021.

·           Eitem 5 – Erlyniad Difrod Ffyrdd – eitem wedi’i haildrefnu o 27 Medi, 2021 i gyfarfod y Pwyllgor Gwaith ar 25 Hydref,2021.

·           Eitem 13 – Safle Peboc – eitem newydd wedi’i threfnu ar gyfer cyfarfod y Pwyllgor Gwaith ar 29 Tachwedd, 2021.

·           Eitem 18 – Her Tai: Ymateb CSYM i’r sefyllfa dai lleol – eitem wedi’i haildrefnu o 13 Rhagfyr, 2021 i gyfarfod y Pwyllgor Gwaith ar 24 Ionawr, 2022.

·           Eitem 16 –  Sefydlu Awdurdod Iechyd Porthladd ar gyfer Porthladd Caergybi – eitem newydd wedi’i threfnu ar gyfer cyfarfod y Pwyllgor Gwaith ar 13 Rhagfyr, 2021. 

·           Eitem 17 – Polisi Cynnal Ffyrdd a Rheoli Asedau Priffyrdd - eitem newydd wedi’i threfnu ar gyfer cyfarfod y Pwyllgor Gwaith ar 13 Rhagfyr, 2021. 

·           Eitem 19 – Strategaeth Dai Lleol 2022-2027 – eitem newydd wedi’i threfnu ar gyfer cyfarfod y Pwyllgor Gwaith ar 13 Rhagfyr, 2021. 

·           Eitem 28 – Strategaeth Digartrefedd a Grant Cymorth Tai – eitem wedi’i threfnu  newydd ar gyfer cyfarfod y Pwyllgor Gwaith 21 Mawrth, 2022.

·           Eitem 29 – Adroddiad Cynnydd: Rhaglen Wella’r Gwasanaethau Cymdeithasol – eitem newydd wedi’i threfnu ar gyfer cyfarfod y Pwyllgor Gwaith ar 21 Mawrth, 2022.

 

PENDERFYNWYD cadarnhau Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith wedi’i diweddaru am y cyfnod rhwng mis Hydref 2021 a mis Mai 2022, fel y’i cyflwynwyd.

 

5.

Monitro Perfformiad: Cerdyn Sgorio Corfforaethol - Chwarter 1 2021/22 pdf eicon PDF 1 MB

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Proffesiwn (AD) a Thrawsnewid.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Proffesiwn (Adnoddau Dynol) a Thrawsnewid a oedd yn cynnwys y Cerdyn Sgorio ar gyfer Chwarter 1, 2021/2022 i’w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith.

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cynghorydd Dafydd Rhys Thomas, Deilydd y Portffolio Busnes Corfforaethol. Hwn yw’r cerdyn sgorio cyntaf ar gyfer y flwyddyn ariannol 2021/22  a chaiff ei ystyried o fewn y cyd-destun sydd yn cydnabod yr heriau ehangach oedd ar ofyn y Cyngor yn Chwarter 1 yn sgil effaith y pandemig. Ar ddiwedd Ch1 mae’n galonogol bod mwyafrif y dangosyddion perfformiad sy’n cael eu monitro, 85%, yn dal i berfformio’n dda yn erbyn eu targedau neu o fewn 5% i’w targedau. Cyfeiriodd at y ffaith bod y gwasanaeth Gwarchod y Cyhoedd wedi bod dan bwysau sylweddol yn ystod y pandemig a nodwyd bod yr Asiantaeth Safonau Bwyd wedi cyhoeddi canllawiau i’w gweithredu o ran diogelwch bwyd a blaenoriaethu busnesau newydd. Hyd yma, ni dderbyniwyd cadarnhad ar y modd y dylid blaenoriaethu arolygon wedi’r pandemig o bersbectif cenedlaethol ac felly argymhellir bod y dangosydd hwn yn cael ei dynnu o’r Cerdyn Sgorio ar gyfer y flwyddyn 2021/22 a’i fonitro’n fewnol. Mae’r dangosydd perfformiad mewn perthynas ag ymatebion ysgrifenedig i gwynion cyn pen 15 diwrnod gan y Gwasanaethau Cymdeithasol yn parhau i fod yn GOCH. Eglurodd y Deilydd Portffolio bod ymatebion llafar wedi cael eu rhoi oddi mewn i’r targed penodol ond bod ymatebion ysgrifenedig i gwynion yn ddibynnol ar ymatebion gan sefydliadau allanol. Cyfeiriodd y Deilydd Portffolio at ddangosydd 35 - canran yr holl geisiadau cynllunio a benderfynwyd mewn pryd - sydd yn GOCH, gyda chanran o 73% yn erbyn targed o 82%. Nododd bod materion yn ymwneud â chapasiti wedi effeithio ar y gwasanaeth yn yr Adran Gynllunio a’u bod wedi’u nodi yn yr adroddiad. Fodd bynnag, dywedodd bod gwelliannau wedi bod yn y Tîm Gorfodi yn yr Adran Gynllunio.

 

Aeth y Deilydd Portffolio ar gyfer Busnes Corfforaethol ymlaen i gyfeirio at ddangosydd 32 - canran y gwastraff a gafodd ei ailddefnyddio, ailgylchu neu gompostio - sydd yn GOCH, gyda pherfformiad o 64.55% yn erbyn targed o 70% ar gyfer y chwarter hwn. Mae’r perfformiad yn is na’r 67.07% a welwyd yn Ch1 2020/21 a’r 72.79% a welwyd yn Ch1 2019/20.  Y pandemig yw un o’r rhesymau dros y gostyngiadau gan fod llai o bobl wedi gallu defnyddio’r Canolfannau Ailgylchu Gwastraff Cartref a’r cynnydd mewn gwastraff cartref bin du oherwydd bod mwy o bobl yn gweithio o’r cartref.  Mae’r ffactorau eraill yn cynnwys anawsterau o ran dod o hyd i allfeydd i ailgylchu rhai defnyddiau fel y nodir yn yr adroddiad. Nodwyd bod awdurdodau lleol eraill yn wynebu’r un problemau o ran ailgylchu gwastraff penodol. Cyfeiriodd y Deilydd Portffolio hefyd at y ffaith bod gostyngiad wedi bod yn nifer y tunelli o wastraff gwyrdd a gesglir yn dilyn cyflwyno tâl am gasglu Gwastraff Gwyrdd yn Ebrill 2021. I liniaru’r tanberfformiad presennol, mae  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 5.

6.

Cynllun Ariannol Tymor Canolig 2022/23 i 2024/25 pdf eicon PDF 670 KB

Cyflwyno adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog 151 i’w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith a oedd yn cynnwys y gofyniad ar y Cyngor i sefydlu system gadarn ar gyfer monitro a rheoli ei gyllideb refeniw ac elfen allweddol o’r system honno yw’r Cynllun Ariannol Tymor Canolig.

 

Adroddodd Deilydd y Portffolio Cyllid bod y Cynllun yn nodi strategaeth cyllideb y Cyngor dros y tair blynedd nesaf ac yn nodi’r rhagdybiaethau a fydd yn cael eu cynnwys yn y broses o osod y gyllideb yn flynyddol. Dywedodd ei bod hi’n anodd darogan sefyllfa ariannol y Cyngor ac yn enwedig y setliad ariannol gan Lywodraeth Cymru dros y tair blynedd nesaf.

 

Ategodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 sylwadau’r Deilydd Portffolio ei bod hi’n anodd darogan sefyllfa ariannol y Cyngor ac y disgwylir y bydd LlC ond yn darparu setliad ariannol i’r awdurdodau lleol ar gyfer y flwyddyn nesaf pan fydd yn cyhoeddi’r setliad dros dro yn hwyrach eleni a’i bod hi’n anodd iawn penderfynu beth fydd y bwlch cyllido posib ar gyfer y blynyddoedd nesaf. Mae’r Cynllun Ariannol Tymor Canolig yn ystyried yr holl newidiadau y gwyddys amdanynt y mae’n rhaid eu hymgorffori yn y gyllideb sylfaenol ar gyfer 2022/23, ac mae’n gwneud rhagdybiaethau mewn perthynas â’r prif ffactorau sy’n effeithio ar gyllideb refeniw’r Cyngor (cynnydd o ran costau cyflog, cynnydd mewn cyfraniadau Yswiriant Gwladol, pensiynau, cynnydd mewn costau ynni,  chwyddiant cyffredinol ac ati). Cyfeiriodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 at y prif bwysau cyllidebol a’r risgiau a wynebir gan y Cyngor sef y Codiadau Cyflog (Cyflogau staff nad ydynt yn athrawon) gyda chynnig o gynnydd o 1.75% ar hyn o bryd; Codiadau Cyflog (Cyflogau Athrawon); y cynnydd o 1.25% mewn cyfraniadau Yswiriant Gwladol i ariannu’r cynnydd mewn gofal cymdeithasol; Gwasanaethau Plant - cynnydd posib yn nifer y plant a gaiff eu rhoi mewn gofal; Gwasanaethau Oedolion (yr henoed, iechyd meddwl, anableddau dysgu at ati) - cynnydd yn y galw am wasanaeth; Ffioedd Gofal Nyrsio a Phreswyl i’r Henoed; Lleoliadau Ysgol All-sirol; y Cynllun Gostyngiadau Treth Cyngor (wrth i’r cynllun ffyrlo ddirwyn i ben fe all effeithio ar nifer y bobl a fydd yn gwneud cais am gymorth â’u taliadau Treth Cyngor).

 

Cyfeiriodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 at Dabl 3 yn yr adroddiad sy’n adlewyrchu effaith y Newidiadau Cyllid Allanol Cyfun (AEF) a Threth Cyngor 2022/23 ar gyllid y Cyngor. Byddai gostyngiad yn y Cyllid Allanol Cyfun yn 2022/22 yn gofyn am gynnydd o rhwng 4% a 5% yn y  Dreth Cyngor dim ond er mwyn cynnal y gyllideb bresennol mewn termau arian parod.  Er mwyn  llenwi’r bwlch cyllido ar gyfer 2022/23 yn llawn, byddai angen cynnydd o 5% yn y Cyllid Allanol Cyfun, ynghyd â chynnydd o 3% yn y Dreth Cyngor, i gyllido’r gwariant net ychwanegol yn llawn.

 

Dywedodd y Cynghorydd Carwyn Jones bod y pandemig, y cynllun ffyrlo a Brexit wedi achosi pwysau ariannol sylweddol a bod disgwyl i chwyddiant gynyddu i 4%.  Roedd y Cynghorydd Jones yn dymuno  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 6.

7.

Monitro'r Gyllideb Refeniw - Chwarter 1, 2021/22 pdf eicon PDF 747 KB

Cyflwyno adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 i’w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith a oedd yn nodi perfformiad ariannol gwasanaethau’r Cyngor ar ddiwedd Chwarter 1 blwyddyn ariannol 2021/22.

 

Adroddodd y Deilydd Portffolio Cyllid bod y Cyngor wedi gosod cyllideb net ar gyfer 2021/22 gyda swm net gwariant y gwasanaethau o £147.420m.  Y sefyllfa ariannol gyffredinol a ragamcenir ar gyfer 2021/22 yw tanwariant o £2.540m.  Fodd bynnag, dywedodd y Deilydd Portffolio er y rhagwelir tanwariant yn y gyllideb eleni y rhagwelir bwlch cyllido sylweddol yn 2022/23.  Adroddodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 bod yr adroddiad yn nodi perfformiad ariannol gwasanaethu’r Cyngor ar ddiwedd Chwarter 1, 30 Mehefin, 2021. Nododd ei bod hi’n anodd darogan beth fydd y sefyllfa ar ddiwedd y flwyddyn gan nad oes sicrwydd ynglŷn â’r pwysau a fydd yn wynebu’r Gwasanaethau Oedolion a’r Gwasanaethau Plant ac nid yw’n glir eto pryd y bydd rhai o wasanaethau’r Cyngor yn dychwelyd i normalrwydd a beth fydd y costau ychwanegol o ran darparu’r gwasanaethau hynny.

 

Mae Llywodraeth Cymru wedi datgan y bydd yn rhyddhau cyllid ychwanegol ar gyfer yr incwm a gollwyd, ond ni roddwyd ystyriaeth i hyn yn y rhagolwg. Aeth y Cyfarwyddwr ymlaen i ddweud y gallai’r costau dros y gaeaf effeithio ar yr amcangyfrifiadau alldro ar gyfer yr awdurdod priffyrdd ynghyd â’r pwysau ar ysbytai gyda phobl yn cael eu rhyddhau o’r ysbyty a mynd ar ofyn gwasanaethau a ddarperir gan y Cyngor.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog 151 bod disgwyl cynnydd mewn chwyddiant ac y bydd hyn yn effeithio ar gostau’r Cyngor. Nid yw’r codiad cyflog i staff wedi’i gytuno eto ac ar hyn o bryd mae codiad o 1.75% wedi’i gynnig. Dywedodd y Cyfarwyddwr bod arian wedi’i glustnodi yn y gyllideb. Nododd bod tuedd o hyd i drosglwyddo tai i ardrethi busnes a bod modd ôl-ddyddio ad-daliadau hyd at ddwy/dair blynedd sydd yn rhoi ychwaneg o bwysau ar gyllideb y Cyngor.  Nododd bod cyflwyno’r prosiect Cartrefi Clyd, y cynnydd mewn Gofalwyr Maeth a lleoli disgyblion yn all-sirol a chyflwyniad y contract cinio ysgol newydd wedi cyfrannu at y tanwariant.  Mae cyflwyno tâl am wastraff gwyrdd wedi cynyddu’r gyllideb yn ôl y disgwyl.  Nododd hefyd bod y ffaith bod staff yn gweithio o’r cartref a bod mwy o gyfarfodydd yn cael eu cynnal yn rhithiol wedi lleihau costau teithio ac offer swyddfa a chostau ynni.

 

Adroddodd Cadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini Cyllid bod y Panel o’r farn ei bod hi’n rhy gynnar dod i unrhyw gasgliadau ynglŷn â pherfformiad gwasanaethau ar sail data Ch1 oherwydd y gallai llawer newid dros y misoedd nesaf.  Mae’r elfennau sy’n debygol o gynhyrchu arbedion yn ystod y flwyddyn yn cynnwys lleoliadau all-sirol; incwm gwastraff gwyrdd. Nododd bod y Panel o’r farn bod angen monitro’r pwysau cyllidebol ar gyllideb y Gwasanaethau Oedolion a’r Gwasanaeth Plant a  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 7.

8.

Monitro'r Gyllideb Gyfalaf - Chwarter 1, 2021/22 pdf eicon PDF 425 KB

Cyflwyno adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 a oedd yn nodi perfformiad ariannol y Gyllideb Gyfalaf ar gyfer chwarter cyntaf y flwyddyn ariannol i’w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith.

 

Adroddodd y Deilydd Portffolio Cyllid bod yr adroddiad yn monitro’r Gyllideb Gyfalaf ar gyfer chwarter cyntaf y flwyddyn ariannol. £54.253m yw cyfanswm y Gyllideb Gyfalaf ar gyfer 2021/22. Nododd mai’r disgwyliad erbyn diwedd Ch1 oedd y byddai cyfanswm o £6.396m wedi cael ei wario ond mai £5.262m a wariwyd o’r gyllideb flynyddol mewn gwirionedd gyda £706k wedi’i ymrwymo.  Gweithredir nifer o gynlluniau cyfalaf tuag at ran olaf y flwyddyn ariannol.

 

Fe ategodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 sylwadau’r Deilyddd Portffolio a nododd bod y Panel Sgriwtini Cyllid wedi codi’r tebygolrwydd o newid amserlen y gyllideb gyfalaf  fel y gellid gosod y gyllideb yn gynharach yn y flwyddyn er mwy galluogi i brosiectau gychwyn yn gynt ac felly osgoi tanwariant sylweddol erbyn diwedd y flwyddyn.  Nododd y byddai gosod y gyllideb gyfalaf yn gynharach yn y flwyddyn yn galluogi i brosesau tendro contractau gael eu cyflawni’n gynt ac y gellid rhoi hyn ar waith yn ystod blwyddyn ariannol 2023/24.  Amlygodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 nifer o gynlluniau Grant Cyfalaf yn y Rhaglen Cyfalaf fel y nodir ym Mharagraff 3 sydd yn dangos bod cynlluniau cyfalaf yn ddibynnol ar arian grant allanol ar gyfer grantiau LlC a pharhad grantiau’r UE.  Nododd bod ffactorau risg mewn perthynas â’r gyllideb gyfalaf yn cynnwys y pandemig ac absenoldeb staff oherwydd eu bod yn gorfod hunan-ynysu. Y mae hefyd risgiau yn gysylltiedig â phrosiectau sydd wedi’u tendro i gontractwyr gan fod deunyddiau’n brin a phrisiau deunyddiau wedi cynyddu’n sylweddol. Aeth y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 ymlaen i ddweud y daw’r rhagolygon ar gyfer y gyllideb gyfalaf yn fwy eglur yn yr adroddiad ar gyfer Ch2. 

 

Dywedodd y Cynghorydd Dafydd Roberts, Cadeirydd y Panel Sgriwtini Cyllid bod y Panel wedi cael cyflwyniad llafar gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 a nodwyd bod perfformiad y gyllideb gyfalaf yn Ch1 yn adlewyrchu’r patrwm tanwariant blaenorol a bod llithriadau’n debygol o dan y penawdau canlynol yn fwy na thebyg:-

 

Rhaglen datblygu tai’r Cyngor

Rhaglenni moderneiddio tai cyngor SATC

Addasiadau anabledd mewn ysgolion

Y rhaglen moderneiddio ysgolion

Cynlluniau atal llifogydd

 

Mae’r Panel yn nodi’r tanwariant yng Nghyllideb Cyfalaf 2021/22 yn Chwarter 1, nododd hefyd y tebygolrwydd y gellid gweithredu’r gyllideb gyfalaf ar wahanol amserlen yn y dyfodol er mwyn gosod y gyllideb yn gynharach yn y flwyddyn a galluogi i brosiectau gael eu rhoi ar waith yn gynt ac osgoi tanwariant sylweddol erbyn diwedd y flwyddyn.

 

PENDERFYNWYD nodi cynnydd y gwariant a’r derbyniadau yn erbyn cyllideb gyfalaf 2021/22 yn Chwarter 1.

 

 

9.

Monitro Cyllideb y Cyfrif Refeniw Tai - Chwarter 1, 2021/22 pdf eicon PDF 472 KB

Cyflwyno adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 a oedd yn nodi perfformiad ariannol y Cyfrif Refeniw Tai (CRT) ar gyfer Chwarter 1 2021/22 i’w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith.

 

Adroddodd y Deilydd Portffolio Cyllid bod y CRT wedi’i glustnodi ac na ellir trosglwyddo cyllid o’i gronfeydd wrth gefn i’r Gronfa Gyffredinol, ac ni ellir defnyddio cyllid o gronfeydd wrth gefn y Gronfa Gyffredinol i gyllido’r CRT.  Mae’r sefyllfa ariannol refeniw ar gyfer y chwarter cyntaf yn dangos gorwariant o £18k (fel y nodir yn Atodiad A) ac mae’r gwariant cyfalaf £266k yn llai na’r gyllideb a broffiliwyd.  Mae’r gwariant a ragwelir £6,293k yn is na’r gyllideb, fel y nodir yn Atodiad B.   Mae’r diffyg a ragwelir (gan gyfuno refeniw a chyfalaf) yn £4,906k, £4,209k yn llai na’r gyllideb, yn bennaf oherwydd bod y gwariant cyfalaf yn is na’r gyllideb. Aeth y Deilydd Portffolio ymlaen i ddweud bod y pwysau ychwanegol ar y gyllideb yn debygol o fod o ganlyniad i’r cynnydd mewn costau deunyddiau adeiladu.

 

Cynghorodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 mai £9.7m oedd balans agoriadol cronfa wrth gefn y CRT er mwyn talu am gostau a fydd yn codi yn ystod y flwyddyn ariannol i ddiweddaru’r stoc dai bresennol ac i adeiladu tai cymdeithasol newydd a benthyg arian i barhau â’r prosiectau yn y tymor canolig ac yn yr hir dymor. Fe nododd er y tanwariant y bydd cyllid cyfalaf o £4.8m ar gael yn ystod y flwyddyn ariannol nesaf i ddatblygu prosiectau tai cymdeithasol newydd.  Rhagwelir y bydd yr incwm refeniw rhenti yn is na’r disgwyl oherwydd yr oedi gyda’r rhaglen i adeiladu cartrefi newydd. Nodwyd mai adroddiad Ch1 yw hwn ac y rhagwelir gwariant pellach yn ystod misoedd y gaeaf.

 

Dywedodd y Deilydd Portffolio Gwasanaethau Tai y byddai caffael hen dai Cyngor ac adeiladu tai cymdeithasol newydd yn cynyddu cyllideb refeniw’r CRT yn ystod y misoedd nesaf.  

 

PENDERFYNWYD nodi:-

 

·           Y sefyllfa a nodir mewn perthynas â pherfformiad ariannol y Cyfrif Refeniw Tai (CRT) ar gyfer Chwarter 1 2021/22;

·           Yr alldro a ragwelir ar gyfer 2021/2022.

 

10.

Diweddariad o'r Panel Gwella Gwasanaethau Cymdeithasol pdf eicon PDF 507 KB

Cyflwyno adroddiad Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol a oedd yn cynnwys cynnydd y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd a’r Gwasanaethau Oedolion i’w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith.

 

Adroddodd yr Arweinydd a Deilydd y Portffolio Gwasanaethau Cymdeithasol bod yr adroddiad yn dyst i lwyddiant penderfyniadau a gymerwyd gan y Pwyllgor Gwaith ers 2017 i gefnogi’r gwasanaeth â chyllid pellach. Dywedodd bod yr ymgyrch barhaus i recriwtio Gofalwyr Maeth wedi cynyddu gofalwyr maeth yr Awdurdod a galluogi i fwy o blant dderbyn gofal ar Ynys Môn ac aros yn rhan o’u teulu estynedig a’u cymuned leol. Dywedodd hefyd bod awdurdodau lleol eraill nawr yn edrych ar gyflwyno model tebyg i’r un a gyflwynwyd gan yr Awdurdod hwn. Mae ymgyrch recriwtio wedi’i thargedu ar y gweill yn rhanbarthol yn 2021/22 ynghyd ag ymgyrch genedlaethol. Mae Cartrefi Clyd y Cyngor ar agor ac yn gwbl weithredol, bydd cartref arall ar gael i gynnig egwyl i blant a phobl ifanc ag anableddau dysgu ac mae’r cofrestriad wedi’i gyflwyno i Arolygiaeth Gofal Cymru. Aeth y deilydd portffolio ymlaen i ddweud bod cyllid gan Lywodraeth Cymru i gefnogi darparu gwasanaethau mewn ffordd drawsnewidiol wedi’i lansio’n ffurfiol yng Ngwynedd a Môn; mae’r prosiectau hyn yn cael eu monitro gan Medrwn Môn a Mantell Gwynedd. 

 

Mewn perthynas â Gwasanaethau Oedolion mae’r gwaith o gynllunio ar gyfer darpariaeth tai gofal ychwanegol newydd yn parhau. Mae’r pandemig Covid 19 wedi effeithio ar y rhaglen Cysylltu Bywydau i gefnogi pobl sydd yn byw â dementia a’u gofalwyr ac mae adolygiad o’r rhaglen ar y gweill ym mis Rhagfyr a bydd y cyfleoedd i bobl ag anghenion iechyd meddwl yn cynyddu wrth i’r cyfyngiadau Covid19 gael eu llacio - mae sesiynau cefnogaeth unigol wedi ailgychwyn mewn rhai achosion. Ymgymerwyd â gwaith i sefydlu tri Thîm Adnodau Cymunedol yn ystod y flwyddyn. Mae cynnydd sylweddol wedi ei wneud yn y ddau chwarter cyntaf o’r flwyddyn o ran datblygiad y Prototeip WCCIS ar yr Ynys. Mae’r Strategaeth Cyfleoedd Dydd Anableddau Dysgu Oedolion ar waith, fodd bynnag ni

fydd yr ymgynghoriad ffurfiol ar ddatblygiad ystod ehangach o gyfleoedd dyddiau o

ansawdd uchel ar gyfer unigolion a’u cymunedau yn cael ei gynnal tan Gwanwyn 2022.

Yn y cyfamser, mae opsiynau cymunedol yn cael eu harchwilio ar draws yr Ynys. Cyfeiriodd at arolwg Arolygiaeth Gofal Cymru a gynhaliwyd rhwng 14 – 18 Mehefin, 2021 fel y nodwyd yn yr adroddiad a rhoddodd sicrwydd bod gwasanaethau rhagorol wedi’u darparu yn ystod y pandemig.  Mae’r Adran Gwasanaethau Cymdeithasol wedi recriwtio Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol newydd a Phennaeth Gwasanaeth Oedolion newydd yn ystod y cyfnod hwn ac roedd yn dymuno manteisio  ar y cyfle i ddiolch Mrs Iola Richards, y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion Dros Dro,  am ei gwaith a chroesawodd Mr Arwel Owen a benodwyd yn ddiweddar fel Pennaeth Gwasanaethau Oedolion. 

 

Mae’r Panel Gwella Gwasanaethau Cymdeithasol yn cwrdd yn rheolaidd er gwaetha’r heriau a’r cyfyngiadau sy’n gysylltiedig â’r pandemeig. Mae’r Panel yn dal i dderbyn tystiolaeth o’r gwelliannau a’r datblygiadau i’r Gwasanaeth Plant a Theuluoedd a’r Gwasanaethau Oedolion. Mae’r Panel wedi bod yn  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 10.