Rhaglen, Penderfyniadau a Chofnodion.

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol

Cyswllt: Ann Holmes 

Cyfryngau

Eitemau
Rhif. Eitem

Croesawodd y Cadeirydd bawb a oedd yn bresennol i'r cyfarfod hwn o'r Pwyllgor Gwaith; estynnodd ddymuniadau gorau ar ei rhan ei hun a'r Pwyllgor Gwaith i'r Cynghorydd Jeff Evans a oedd yn yr ysbyty ar hyn o bryd.

 

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn datganiad o ddiddordeb gan Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni fu i unrhyw un ddatgan diddordeb yn y cyfarfod.

 

2.

Materion Brys a Ardystiwyd gan y Prif Weithredwr neu Swyddog a Benodwyd Ganddi

Dim materion brys ar adeg anfon y rhaglen hon.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim materion i'w hadrodd.

 

3.

Cofnodion pdf eicon PDF 372 KB

Cyflwyno i’w cadarnhau, cofnodion drafft cyfarfod y Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar 27 Medi 2021.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar 27 Medi 2021 i'w cymeradwyo gan y Pwyllgor Gwaith.

 

Penderfynwyd cadarnhau fod cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar 27 Medi, 2021 yn gywir.

 

 

4.

Panel Rhiant Corfforaethol pdf eicon PDF 358 KB

Cyflwyno i’w mabwysiadu, cofnodion drafft y Panel Rhiantu Corfforaethol a gynhaliwyd ar 7 Medi 2021.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion drafft cyfarfod y Panel Rhianta Corfforaethol a gynhaliwyd ar 7 Medi 2021 i'w mabwysiadu gan y Pwyllgor Gwaith.

 

Penderfynwyd mabwysiadu cofnodion drafft cyfarfod y Panel Rhiantu Corfforaethol a gynhaliwyd ar 7 Medi, 2021.

 

5.

Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith pdf eicon PDF 398 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd yn cynnwys Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith wedi'i diweddaru ar gyfer y cyfnod rhwng mis Tachwedd, 2021 a mis Mehefin, 2022 i'w hystyried gan y Pwyllgor Gwaith a thynnwyd sylw at y newidiadau canlynol –

 

·         Eitemau newydd ar y Flaen Raglen Waith

 

·         Eitem 3 – Strategaeth Hybu'r Gymraeg 2021-26 ar gyfer cyfarfod y Pwyllgor Gwaith ar 29 Tachwedd, 2021

·         Eitem 4 - Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg 2022-32 ar gyfer cyfarfod y Pwyllgor Gwaith ar 29 Tachwedd, 2021

·         Eitem 10 – Cynllun Trosiannol: Ynys Môn (ar ôl y pandemig) yn amodol ar gadarnhad ar gyfer cyfarfod y Pwyllgor Gwaith ar 29 Tachwedd, 2021

·         Eitem 12 – Datganiad o Bolisi Gamblo 2022-25 ar gyfer cyfarfod y Pwyllgor Gwaith ar 29 Tachwedd, 2021

·         Eitem 14 – Polisi Rheoli Asedau Gwasanaeth 2021-31:Ystâd Mân-ddaliadau ar gyfer cyfarfod y Pwyllgor Gwaith ar 29 Tachwedd, 2021

·         Eitem 15 – Polisi Rheoli Asedau Corfforaethol 2021-26 ar gyfer cyfarfod y Pwyllgor Gwaith ar 29 Tachwedd, 2021

·         Eitem 20 – Polisi Ecwiti a Rennir - ar gyfer cyfarfod y Pwyllgor Gwaith ar 13 Rhagfyr, 2021

·         Eitem 28 – Asesiad o Anghenion y Boblogaeth: Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014

·         Eitemau 39 i 42 – Adroddiadau monitro perfformiad a chyllideb ar gyfer cyfarfod y Pwyllgor Gwaith ym mis Mehefin, 2022

 

·         Eitemau wedi'u haildrefnu

 

·         Eitem 13 – Strategaeth Cyfraniadau Budd Cymunedol wedi'i haildrefnu o fis Hydref, 2021 i gyfarfod y Pwyllgor Gwaith ar 29 Tachwedd, 2021

·         Eitem 22 – Strategaeth Tai Lleol 2022-27 wedi'i haildrefnu o fis Rhagfyr, 2021 i gyfarfod y Pwyllgor Gwaith ar 24 Ionawr, 2022

·         Eitem 29 – Aildrefnwyd Cynllun Rheoli AHNE o fis Rhagfyr, 2021 i gyfarfod y Pwyllgor Gwaith ar 14 Chwefror, 2022

 

·         Eitemau wedi'u dirprwyo i Aelod Portffolio benderfynu arnynt

 

·         Eitem 30 – Adroddiad Cydraddoldeb Blynyddol (Aelod Portffolio Gwasanaethau Cymdeithasol) i'w gyhoeddi ym mis Mawrth, 2022

·         Eitem 37 – Adroddiad Blynyddol Safonau'r Gymraeg 2021/22 (Aelod Portffolio sy'n gyfrifol am y Gymraeg) i'w gyhoeddi ym mis Mehefin, 2022

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r raglen waith wedi’i diweddaru am y cyfnod rhwng Tachwedd, 2021 a Mehefin 2022 fel y’i cyflwynwyd gan nodi fod y Blaen Raglen Waith yn cael ei diweddaru’n fisol a’i chyflwyno fel eitem safonol yn fisol i’r Pwyllgor Gwaith.

 

6.

Ymgynghoriad ar lefel Premiwm y Dreth Gyngor ar gyfer ail-gartrefi pdf eicon PDF 429 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 yn nodi canlyniadau ymarfer ymgynghori cyhoeddus ar y bwriad i gynyddu premiwm y dreth gyngor ar eiddo a feddiennir o bryd i'w gilydd (ail gartrefi) i'r Pwyllgor Gwaith ei ystyried.

 

Adroddodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) a Swyddog Adran 151 fod y pŵer i godi'r premiwm wedi dod i rym ar 1 Ebrill, 2017 a bod y Cyngor wedi gosod y premiwm i ddechrau ar 25%; yn dilyn ymgynghoriad ym mis Chwefror, 2019, penderfynodd y Cyngor gynyddu'r premiwm i'w lefel bresennol o 35% o 1 Ebrill, 2019. Ar 1 Medi, 2021, mae 2,670 o eiddo yn gorfod talu’r premiwm o 35%. Ar hyn o bryd mae 10 awdurdod lleol yng Nghymru gan gynnwys Ynys Môn yn defnyddio'r premiwm, sy'n amrywio o 25% (2 awdurdod), 35% (Ynys Môn), 50% (5 awdurdod) a 100% (2 awdurdod). Er nad yw'r defnydd y dylid ei wneud o'r refeniw a gynhyrchir gan y premiwm wedi'i nodi yn y ddeddfwriaeth, mae canllawiau Llywodraeth Cymru yn nodi y bwriedir ei ddefnyddio fel dull o sicrhau bod cartrefi gwag hirdymor yn cael eu hail-ddefnyddio ac i helpu awdurdodau lleol i gynyddu'r cyflenwad o dai fforddiadwy a thrwy hynny wella cynaliadwyedd cymunedau lleol.

 

Yn Rhagfyr 2020 penderfynodd y Pwyllgor Gwaith gynnal ymgynghoriad llawn ar ei fwriad i gynyddu premiwm ail gartrefi i 50%; agorodd yr ymgynghoriad ar 14 Mehefin, 2021 a daeth i ben ar 6 Awst, 2021 a chafwyd cyfanswm o 1,434 o ymatebion. Darperir gwybodaeth am leoliad yr ymatebwyr ac a oeddent yn berchnogion ail gartref, uned hunanarlwyo neu dalwyr y dreth gyngor yn unig yn adran 2 o'r adroddiad (paragraffau 2.3 a 2.4) fel y mae gwybodaeth am y safbwyntiau a fynegwyd ynghylch effaith ail gartrefi ar gymunedau lleol, yr economi lleol a'r Gymraeg (paragraffau 2.5 a 2.6) yn ogystal â lefel y premiwm a ph’un ai y dylid ei gynyddu ai peidio ac os felly i ba lefel y dylid ei godi (paragraffau 2.7 a 2.8). Amlinellir yr ymateb o ran barn pobl ynghylch sut y dylid defnyddio'r incwm o'r premiwm ym mharagraff 2.9. Ceir crynodeb o'r holl bwyntiau cyffredinol a godwyd yn yr ymgynghoriad yn Nhabl 3 yr adroddiad.

 

Roedd y rhan fwyaf o drigolion Ynys Môn a ymatebodd i'r ymgynghoriad o'r farn bod y nifer bresennol o ail gartrefi ar yr Ynys yn cael effaith andwyol ar gymunedau lleol a'r Gymraeg ac i raddau llai, ar yr economi leol. Roeddent hefyd o'r farn bod y nifer uchel o ail gartrefi yn codi prisiau tai ac yn eu gwneud yn anfforddiadwy i bobl leol. Roedd y rhan fwyaf o'r bobl a ymatebodd i'r ymgynghoriad yn cefnogi cynnydd yn y premiwm ar ail gartrefi gyda 45% o blaid cynyddu'r premiwm i 100%. Mae'r rhan fwyaf o'r ymatebwyr am weld y Cyngor yn defnyddio unrhyw arian ychwanegol a gynhyrchir i helpu pobl leol i brynu neu rentu eu cartref cyntaf.

 

Mae Adran 3 yr adroddiad yn nodi effaith ariannol cynyddu'r premiwm tra bod adrannau 4 a 5 yn  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 6.

7.

Llythyr Blynyddol yr Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus 2020/21 pdf eicon PDF 520 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro yn cynnwys Llythyr Blynyddol yr Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus ar gyfer 2020/21 i'r Pwyllgor Gwaith ei ystyried.

 

Dywedodd y Cynghorydd Dafydd Rhys Thomas, Aelod Portffolio Busnes Corfforaethol, fod Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi adroddiad blynyddol ar y gwaith a wnaed gan ei swyddfa ers 2006. Mae Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru hefyd yn cyhoeddi crynodeb blynyddol ar wahân o berfformiad pob cyngor ar ffurf llythyr blynyddol sydd ynghlwm yn Atodiad 1 i'r adroddiad. Ar gyfer Cyngor Sir Ynys Môn

(CSYM) y prif negeseuon ar gyfer 2020/21 yw bod 18 o gwynion wedi'u cyflwyno yn erbyn y Cyngor yn ystod y flwyddyn, i lawr o 26 yn 2019/20; o'r 18 cwyn hynny, barnwyd nad oedd angen i Swyddfa Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru ymchwilio iddynt. Ni chofnodwyd unrhyw gwynion Cod Ymddygiad yn erbyn aelodau etholedig yn ystod y flwyddyn. Gellir gweld perfformiad CSYM o'i gymharu â chynghorau eraill Cymru o dan nifer o benawdau yn y tablau a ddarperir gyda'r llythyr. Yn ogystal â hyn, yn unol â chais yr Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, darparwyd hyfforddiant i staff sy'n delio â chwynion gyda chwe sesiwn i gyd wedi'u cynnal gan y Tîm Safonau Cwynion rhwng 23 Hydref, 2020 a 27 Tachwedd, 2020; roedd nifer dda’n bresennol yn y rhain ac roedd yr adborth a gafwyd yn gadarnhaol. Yn unol â chais Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, bydd llythyr yn awr yn cael ei anfon at ei Swyddfa i'w hysbysu o ganlyniad ystyriaeth y Cyngor o'r llythyr blynyddol a'r camau y mae'n bwriadu eu cymryd mewn ymateb iddo.

 

Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro fod y prif negeseuon ar gyfer CSYM o adolygiad Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru o'r flwyddyn wedi'u crynhoi ym mharagraff 3 o'r adroddiad.

 

Penderfynwyd nodi a derbyn Llythyr Blynyddol yr Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus ar gyfer 2020/21 a dirprwyo’r Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor) i ysgrifennu at Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru erbyn 15 Tachwedd, 2021 i gadarnhau’r un peth ac i ddatgan y bydd y Cyngor yn parhau i fonitro cwynion a thrwy hynny’n rhoi'r wybodaeth ofynnol i'r Aelodau er mwyn craffu ar berfformiad.

 

8.

Adroddiad Perfformiad Blynyddol 2020/21 pdf eicon PDF 2 MB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Proffesiwn, AD a Thrawsnewid.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad Pennaeth y Proffesiwn (AD) a Thrawsnewid sy'n cynnwys Adroddiad Perfformiad Blynyddol y Cyngor ar gyfer 2020/21 i'w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith.

 

Dywedodd y Cynghorydd Dafydd Rhys Thomas, Aelod Portffolio Busnes Corfforaethol fod yr Adroddiad Perfformiad Blynyddol yn rhoi gwerthusiad o ba mor dda y cyflawnodd y Cyngor yn erbyn ei dri amcan llesiant allweddol yn ystod 2020/21 fel yr adlewyrchir yn y data dangosyddion perfformiad a'r dadansoddiad a geir ynddo mewn blwyddyn heriol iawn oherwydd y pandemig byd-eang. Er mai prif nod y Cyngor oedd cadw ei weithlu a phobl Ynys Môn yn ddiogel ac yn iach yn ystod y cyfnod anodd hwn a sicrhau bod gwasanaethau statudol yn cael eu cynnal - manylir ar y camau penodol a gymerwyd i'r perwyl hwn yn yr adroddiad - llwyddodd y Cyngor hefyd i wneud cynnydd mewn nifer o feysydd ar draws gwasanaethau gan ddatblygu mentrau a phrosiectau arfaethedig fel y disgrifir yn adrannau naratif yr adroddiad. Llwyddodd y Cyngor i gyflawni cymaint ag y gwnaeth oherwydd ymdrechion diflino a gwaith caled ei staff, ei bartneriaid a'r rhai sydd wedi'u contractio i ymgymryd â gwaith ar ei gyfer, ac er ei fod yn galonogol nodi cynnydd y rhaglen brechlynnau atgyfnerthu, disgwylir y bydd y Cyngor yn dal i wynebu heriau pellach wrth iddo ddechrau ar gyfnod y gaeaf sy'n draddodiadol anodd.

 

Cadarnhaodd Pennaeth Proffesiwn (AD) a Thrawsnewid ei bod yn statudol ofynnol i’r Cyngor gyhoeddi Adroddiad Perfformiad Blynyddol erbyn diwedd mis Hydref bob blwyddyn. 2020/21 yw’r flwyddyn olaf y mae angen gwneud hyn gan fod trefniadau newydd ar gyfer adrodd ar berfformiad yn cael eu cyflwyno o dan ddarpariaethau Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau Cymru 2021. Er ei bod wedi bod yn dasg heriol i geisio adlewyrchu ehangder y gweithgarwch sydd wedi digwydd mewn blwyddyn eithriadol, y gobaith yw y bydd yr adroddiad blynyddol yn rhoi adlewyrchiad teg o berfformiad dros y cyfnod.

 

Cyflwynodd y Cynghorydd Aled Morris Jones, Cadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol, adroddiad o gyfarfod y Pwyllgor ar 18 Hydref, 2021 y cyflwynwyd yr Adroddiad Perfformiad Blynyddol ar gyfer 2020/21 iddo a lle cydnabuwyd ac y diolchwyd am gyfraniad staff tuag at yr ymdrech pandemig a thuag at sicrhau parhad gwasanaethau hanfodol ar adeg anodd iawn. Wrth ystyried yr adroddiad, roedd y Pwyllgor wedi mynegi rhywfaint o bryder ynghylch y cynnydd yn y gyfradd Covid ar Ynys Môn ac yn ehangach yng Nghymru; roedd y Pwyllgor eisiau gwybod yn benodol sut yr oedd y pandemig parhaus wedi effeithio ar y sector busnes a gofynnodd am wybodaeth am nifer y busnesau ar Ynys Môn a oedd wedi dod i ben o ganlyniad y pandemig. Roedd y Pwyllgor wedi argymell bod yr adroddiad yn mynd gerbron y Pwyllgor Gwaith i gael ei gymeradwyo a'i gyhoeddi wedyn erbyn y dyddiad cau ar 31 Hydref.

 

Tynnodd y Cynghorydd R. Meirion Jones, Aelod Portffolio Addysg, Llyfrgelloedd, Ieuenctid a Diwylliant sylw at welliant i baragraff olaf adran Addysg a Sgiliau'r Adroddiad Perfformiad Blynyddol ar dudalen 14 lle mae'n cyfeirio at gau pob adeilad  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 8.

9.

Cau Allan y Wasg a'r Cyhoedd

Ystyried mabwysiadu'r isod:-

 

"Dan Adran 100 (A)(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a'r cyhoedd o'r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitemau a ganlyn, oherwydd y posibilrwydd y caiff gwybodaeth eithriedig ei rhyddhau fel y diffinnir hi yn Atodlen 12A (Paragraff 16) y Ddeddf.”

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

O dan Adran 100 (A) (4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, penderfynwyd gwahardd y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol ar y sail y golygai ddatgelu gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff  16 o  Atodlen 12A o’r Ddeddf honno.

 

10.

Erlyniad Difrod Ffyrdd

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Gwasanaeth (Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo) mewn perthynas ag erlyniad difrod i'r priffyrdd i'r Pwyllgor Gwaith ei ystyried.

 

Adroddodd y Cynghorydd R.G.Parry, OBE, FRAgS, Aelod Portffolio Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo ar gefndir y mater a oedd yn achosi difrod i briffordd a gynhelir yn gyhoeddus a chyfeiriodd at y sefyllfa ddiweddaraf o ran dod i benderfyniad yn y mater.

 

Amlinellodd y Pennaeth Gwasanaeth (Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo) yr opsiynau a ystyriwyd a goblygiadau pob un a rhoddodd fanylion trafodaethau, ymgysylltu a gweithgarwch hyd yma o ran parti arall yn y mater. Cyfeiriodd y Swyddog at y camau gweithredu arfaethedig ar gyfer bwrw ymlaen â'r mater ac esboniodd y rhesymeg dros yr argymhelliad.

 

Penderfynwyd cymeradwyo argymhellion yr adroddiad a symud ymlaen yn unol â hynny.

 

11.

Cau Allan y Wasg a'r Cyhoedd pdf eicon PDF 208 KB

Ystyried mabwysiadu’r canlynol –

 

“O dan Adran 100 (A) (4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y Wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol ar y sail y gall olygu datgelu gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir yn Atodlen 12A o’r Ddeddf honno ac yn y Prawf Budd y Cyhoedd amgaeëdig.”

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

O dan Adran 100 (A) (4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, penderfynwyd gwahardd y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol ar y sail y golygai ddatgelu gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym mharagraffau 12,13 a 14 o Atodlen 12A o’r Ddeddf honno ac yn y Prawf Budd y Cyhoedd a gyflwynwyd.

 

12.

Datblygiad tai dros 10 uned – Tir ger Stad Ddiwydiannol Pentraeth.

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Tai.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad Pennaeth Gwasanaethau Tai sy'n ceisio cymeradwyaeth y Pwyllgor Gwaith i symud ymlaen i ddatblygu 10 o unedau tai ar dir ger Ystâd Ddiwydiannol Pentraeth i'w ystyried.

 

Dywedwyd wrth y Pwyllgor Gwaith bod y safle wedi'i leoli ger Ystâd Ddiwydiannol Pentraeth a bod caniatâd cynllunio llawn wedi’i roi ym mis Medi, 2021 ar gyfer 23 o dai newydd fel rhan o ddatblygiad dan arweiniad Cymdeithas Tai Clwyd Alyn. Mae Clwyd Alyn yn un o dair cymdeithas dai weithredol sy'n adeiladu tai fforddiadwy ar yr Ynys. Lle bo'n bosibl, mae'r Awdurdod yn ceisio gweithio mewn partneriaeth â darparwyr tai eraill ac yn yr achos hwn mae wedi cael cynnig 10 o'r 23 eiddo ar y safle gan roi cyfle i gynnig rhai o'r eiddo newydd i'w gwerthu i brynwyr tro cyntaf lleol drwy gydberchnogaeth a/neu rentu ar rent canolraddol. Bydd y tai'n cael eu hadeiladu ar sail egwyddorion cynaliadwy a byddant yn effeithlon iawn o ran ynni. Fel rhan o'r broses gynllunio, dangosodd gwybodaeth a ddarparwyd gan y datblygwr fod 37 o ymgeiswyr am dai ym Mhentraeth ar restr aros y Cyngor ac mae 7 arall ar restr tai fforddiadwy Tai Teg. Bydd yr eiddo yma, y bydd deg ohonynt yn enw'r Cyngor, yn cyfrannu at ateb y galw am dai yn yr ardal. Caiff y datblygiad ei ariannu'n rhannol drwy grant gan Llywodraeth Cymru ac yn rhannol drwy'r Cyfrif Refeniw Tai. Mae'r model ariannol a fabwysiadwyd gan yr Awdurdod i asesu hyfywedd ariannol cynlluniau datblygu tai yn dangos bod y cynllun a'r costau cysylltiedig yn hyfyw ac yn cydymffurfio â chanllawiau'r Awdurdod ar ddatblygu tai newydd. 

 

Penderfynwyd cymeradwyo bwrw ymlaen i ddatblygu tai cyngor newydd o 10 uned ar dir ger Ystâd Ddiwydiannol Pentraeth.