Rhaglen, Penderfyniadau a Chofnodion.

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol

Cyswllt: Ann Holmes 

Cyfryngau

Eitemau
Rhif. Eitem

Croesawodd y Cadeirydd Mr Rhys Hughes i’r cyfarfod, sydd wedi cael ei benodi’n Gyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro Dros Dro.

 

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn datganiad o ddiddordeb gan Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd yr un datganiad o ddiddordeb yn ystod y cyfarfod.

 

2.

Materion Brys a Ardystiwyd gan y Prif Weithredwr neu Swyddog a Benodwyd Ganddi

Dim materion brys ar adeg anfon y rhaglen hon.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim i’w adrodd.

 

3.

Cofnodion pdf eicon PDF 269 KB

Cyflwyno i’w cadarnhau, cofnodion drafft cyfarfod y Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar 25 Hydref 2021.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar 25 Hydref 2021 i’w cymeradwyo.

 

Cadarnhawyd bod cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar 25 Hydref 2021 yn gywir.

 

 

 

4.

Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith pdf eicon PDF 384 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd, i’r Pwyllgor Gwaith ei ystyried, adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd yn ymgorffori Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith wedi’i diweddaru ar gyfer y cyfnod o fis Rhagfyr 2021 i fis Gorffennaf 2022. Amlygodd y Rheolwr Polisi'r newidiadau a ganlyn :-

 

·      Eitemau newydd ar y Flaen Raglen Waith

 

·         Eitem 4 – Strategaeth Ddigidol Ysgolion ar gyfer cyfarfod y Pwyllgor Gwaith ar 13 Rhagfyr 2021.

·         Eitem 9 – Rhenti Tai y CRT a Thaliadau’r Gwasanaethau Tai 2022/23 ar gyfer cyfarfod y Pwyllgor Gwaith ar 14 Chwefror 2022.

 

Eitemau Cyllideb 2022/23 (dyddiadau i’w cadarnhau, yn ddibynnol ar amserlen Llywodraeth Cymru):-

 

·         Eitem 17 – Datganiad ar y Strategaeth Rheoli Trysorlys 2022/23

·         Eitemau 18 i 21 – Eitemau’n ymwneud â Ffioedd a Thaliadau

·         Eitem 23 – Strategaeth Cyfalaf a Rhaglen Gyfalaf

·         Eitem 24 – Cyllideb Gyfalaf 2022/2023

·         Eitem 4 - Strategaeth Ddigidol Ysgolion ar gyfer cyfarfod y Pwyllgor Gwaith ar 13 Rhagfyr 2021.

 

Eitemau sydd wedi cael eu haildrefnu

 

·         Eitem 12 – Polisi Cynnal Ffyrdd a Rheoli Asedau – wedi ei symud o fis Rhagfyr 2021 i gyfarfod y Pwyllgor Gwaith ar 14 Chwefror 2022.

 

Eitem newydd i’w gynnwys ar Flaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith

 

·        Sefydlu Cyd-bwyllgor Corfforedig Rhanbarth Gogledd Cymru ar gyfer cyfarfod y Pwyllgor Gwaith ar 13 Rhagfyr 2021.

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r flaen raglen waith wedi’i diweddaru ar gyfer y cyfnod o fis Rhagfyr 2021 i fis Gorffennaf 2022, fel y’i cyflwynwyd, gan nodi bod y Flaen Raglen Waith yn cael ei diweddaru’n fisol a’i chyflwyno fel eitem sefydlog yn fisol i’r Pwyllgor Gwaith.

 

5.

Adroddiad Monitro'r Cerdyn Sgorio – Chwarter 2, 2021/22 pdf eicon PDF 795 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Proffesiwn, AD a Thrawsnewid.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd, i’r Pwyllgor Gwaith ei ystyried, adroddiad y Pennaeth Proffesiwn (Adnoddau Dynol) a Thrawsnewid yn ymgorffori’r Cerdyn Monitro Corfforaethol ar gyfer Chwarter 2 2021/22.

 

Dywedodd y Cynghorydd Dafydd R Thomas, Aelod Portffolio ar gyfer Busnes Corfforaethol, bod y mwyafrif (70%) o’r dangosyddion perfformiad Iechyd Corfforaethol sy’n cael eu monitro yn perfformio’n dda yn erbyn eu targedau (statws RAG Gwyrdd neu Felyn). Er bod y perfformiad mewn perthynas â phresenoldeb yn y gwaith yn dangos bod 4.09 diwrnod wedi eu colli oherwydd absenoldeb am bob gweithiwr cyfwerth ag amser llawn (CALl), a’i fod yn Ambr ar ddiwedd Chwarter 2, mae’r targed a osodwyd ar gyfer y flwyddyn yn fwy heriol a byddai’r perfformiad wedi cael statws gwyrdd oni bai bod y targed wedi cael ei newid. Dywedodd ei fod yn falch o’r perfformiad gan i’r cyfnod fod yn un heriol oherwydd y pandemig. Cyfeiriodd hefyd at y ffigyrau ar gyfer salwch tymor hir sydd wedi gostwng yn ystod y tair blynedd diwethaf. Cyfeiriodd yr Aelod Portffolio at Ddangosydd 32 hefyd – Canran y gwastraff sy’n cael ei ailddefnyddio, ei ailgylchu neu ei gompostio - sydd yn GOCH gyda pherfformiad o 60.88% yn erbyn targed o 70% ar gyfer y chwarter. Mae’r pandemig yn parhau i gael effaith ar ddeunyddiau sy’n cael eu hailddefnyddio, eu hailgylchu neu eu compostio ar draws Cymru ac yn ystod Chwarter 1 sefydlwyd Grŵp Llywio i oruchwylio’r materion hyn. Mae’r Grŵp Llywio’n cynnwys cynrychiolwyr o WRAP Cymru, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ac aelod etholedig o’r Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol. Ar hyn o bryd, mae’r Grŵp yn dadansoddi’r data sydd ar gael ac yn datblygu opsiynau ar y ffordd orau i gyrraedd y targed o 70% erbyn 2025. Blaenoriaeth gyntaf y Cyngor yw cyrraedd y targed ailgylchu presennol o 64% yn 2021/22.

 

Dywedodd y Rheolwr Rhaglen, Cynllunio Busnes a Pherfformiad bod yr adroddiad Chwarter 2 yn dangos fod dau o dri dangosydd perfformiad llesiant yr Awdurdod wedi’u cyflawni. Fodd bynnag, bydd mesurau lliniaru a roddwyd ar waith gan yr Uwch Dîm Arweinyddiaeth yn cymryd amser i ddwyn ffrwyth.

 

Yn absenoldeb Cadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol, dywedodd yr Is-gadeirydd fod y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol wedi trafod Cerdyn Sgorio Corfforaethol Chwarter 2 ac y mynegwyd pryderon ynghylch y dirywiad ym mherfformiad y ganran o wastraff sy’n cael ei ailddefnyddio, ei ailgylchu neu ei gompostio – yn benodol y gostyngiad yn y tunelli o wastraff gwyrdd a gasglwyd o gymharu â’r un cyfnod yn 2020/21. Mynegodd y Pwyllgor bryder hefyd ynghylch ymatebolrwydd system ffôn y Cyngor a’r oblygiadau i foddhad y cwsmer wrth iddynt gysylltu â’r Cyngor. Cyfeiriodd y Pwyllgor hefyd at alw cynyddol a phwysau yn y Gwasanaethau Plant ar drothwy cyfnod y Gaeaf, ynghyd â risg parhaus y pandemig. Serch hynny, ar ôl ystyried adroddiad y cerdyn sgorio ar gyfer Chwarter 2 2021/22 a’r diweddariadau a roddwyd gan Swyddogion, penderfynodd y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol dderbyn yr adroddiad, nodi’r meysydd y mae’r Uwch Dîm Arweinyddiaeth yn eu rheoli i sicrhau gwelliannau i’r dyfodol ac argymell y mesurau lliniaru  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 5.

6.

Strategaeth Hybu’r Gymraeg 2021-2026 pdf eicon PDF 3 MB

Cyflwyno adroddiad gan y Prif Weithredwr.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd yn ymgorffori Strategaeth Hybu’r Gymraeg 2021-2026 i’r Pwyllgor Gwaith ei ystyried.

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio ar gyfer yr Iaith Gymraeg ei bod yn ofynnol i’r Awdurdod baratoi strategaeth hybu’r Gymraeg. Pwrpas strategaeth o’r fath yw amlinellu sut mae’r Cyngor yn bwriadu hybu’r iaith a hwyluso ei defnydd ehangach ar Ynys Môn. Ychwanegodd ei bod yn bwysig nodi mai strategaeth dros dro yw Strategaeth Hybu’r Gymraeg 2021-2026 a bod paratoi dogfen o’r fath yn her oherwydd diffyg data cyfredol ynghylch sefyllfa’r iaith Gymraeg ar Ynys Môn. Dywedodd hefyd fod y Strategaeth Hybu’r Gymraeg 2021-2026 (drafft) yn adeiladu ar sylfeini’r strategaeth gyntaf a’i bod yn mabwysiadu meysydd targed a blaenoriaethau cyson h.y. plant, pobl ifanc a’r teulu; y gweithle, gwasanaethau Cymraeg a’r seilwaith; a’r gymuned.  Dywedodd yr Aelod Portffolio ar gyfer yr Iaith Gymraeg bod cynllun gweithredu ar gyfer y flwyddyn gyntaf wedi’i ymgorffori yn y Strategaeth a bydd Fforwm Iaith Ynys Môn yn gyfrifol am fonitro cynnydd y cynllun gweithredu. Bydd crynodeb o weithrediad y strategaeth yn cael ei gynnwys hefyd yn yr adroddiad blynyddol ar y Safonau Iaith Gymraeg. Nododd bod y Strategaeth Hybu’r Iaith Gymraeg wedi’i gyflwyno i’r Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio yn ddiweddar ac ymgynghorwyd ar y Strategaeth gan dderbyn 30 o ymatebion.

 

Yn absenoldeb Cadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio, dywedodd y Rheolwr Sgriwtini fod y Pwyllgor, yn y cyfarfod a gynhaliwyd ar 9 Tachwedd 2021, wedi gofyn a oedd unrhyw risgiau neu bryderon penodol ynghylch sefyllfa’r iaith Gymraeg ar Ynys Môn. Cafwyd rhai sylwadau yn nodi bod craffu ar y Strategaeth yn her a gofynnwyd a fyddai’r strategaeth yn llwyddiannus ai peidio oherwydd diffyg data cyfredol. Gofynnwyd a fyddai modd i’r Strategaeth annog ac ymgorffori defnydd o’r iaith Gymraeg yn y sector preifat. Mynegwyd pryderon bod canran y siaradwyr Cymraeg ar yr Ynys wedi gostwng a bod y niferoedd yn parhau i fod ar yr un lefel ag yr oeddent yn y 1950au, ynghyd â’r effaith y gallai hynny ei gael ar y gymuned ac ar ddyfodol yr iaith Gymraeg. Nododd fod y Pwyllgor Partneriaeth ac Adfywio’n cefnogi’r argymhellion yn yr adroddiad.

 

Penderfynwyd –

 

·        Cymeradwyo cyhoeddi’r ddogfen Strategaeth Iaith Gymraeg 2016-21: Adroddiad Asesu (drafft) ar y wefan gorfforaethol.

·        Argymell i’r Cyngor Llawn y dylid cymeradwyo’r Strategaeth Hybu’r Gymraeg 2021-26 (drafft) ac awdurdodi’r swyddogion perthnasol i wneud unrhyw adolygiadau pellach o’r strategaeth ddrafft cyn ei chyhoeddi ar wefan y Cyngor erbyn dim hwyrach na 31 Rhagfyr 2021.

 

7.

Monitro Cyllideb Refeniw - Chwarter 2, 2021/22 pdf eicon PDF 850 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd, i’r Pwyllgor Gwaith ei ystyried, adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 yn nodi perfformiad ariannol gwasanaethau’r Cyngor ar ddiwedd Chwarter 2 blwyddyn ariannol 2021/22.

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio Cyllid y dylid nodi bod darogan y sefyllfa ar ddiwedd y flwyddyn ar ddiwedd Chwarter 2 yn anodd a gall y sefyllfa newid yn sylweddol wrth i weddill y flwyddyn fynd rhagddi. Y sefyllfa ariannol gyffredinol a ragwelir ar gyfer 2021/22, gan gynnwys Cyllid Corfforaethol a chronfa’r Dreth Gyngor, yw tanwariant o £1.529m, sydd yn cyfateb i 1.04% o gyllideb net y Cyngor ar gyfer 2021/22. Fodd bynnag, gallai cynnydd mewn costau, gan gynnwys dyfarniad cyflog posib o fwy na’r 1.75% a gynhwyswyd yn y rhagolwg, a chynnydd posib yn y galw am wasanaethau yn ystod ail hanner y flwyddyn, ostwng y sefyllfa refeniw derfynol ar ddiwedd y flwyddyn ariannol. Dywedodd yr Aelod Portffolio Cyllid ei fod yn dymuno rhoi sicrwydd na fydd yr Awdurdod yn gorfodi ysgolion i gyllido cynnydd yng nghyflogau athrawon o’u cyllidebau fel y gwelwyd mewn awdurdodau lleol eraill. Esboniodd i’r Pwyllgor Gwaith beth yw’r risgiau ariannol yn ystod ail hanner y flwyddyn ariannol fel y nodwyd ym mharagraff 10 yr atodiad i’r adroddiad.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 bod ansicrwydd ynghylch y sefyllfa ariannol yn ystod yr ail chwarter eleni oherwydd y pandemig, chwyddiant a chodiadau cyflog, ynghyd â’r gwasanaethau plant a digartrefedd. Cyfeiriodd at Dabl 9 yn yr adroddiad – Cyllid Grant Covid-19 Llywodraeth Cymru – hawliwyd £2.7m hyd at fis Hydref 2021 ac mae LlC wedi talu dros £2m. Hawliwyd swm ychwanegol o £700m hefyd a disgwylir penderfyniad gan LlC ynghylch y swm hwn.

 

Dywedodd y Cynghorydd Dafydd Roberts, Cadeirydd y Panel Sgriwtini Cyllid, bod y Panel, wrth ystyried yr adroddiad, yn teimlo ei fod yn ddatganiad clir a hunanesboniadol o’r sefyllfa yn Chwarter 2 ac roedd y Panel yn nodi ac yn croesawu’r perfformiad cadarnhaol.

 

Penderfynwyd –

 

·        Nodi’r sefyllfa a amlinellir yn Atodiadau A a B mewn perthynas â pherfformiad ariannol yr Awdurdod hyd yma a’r alldro disgwyliedig ar gyfer 2021/22. Mae’r sefyllfa’n ddibynnol ar gymorth parhaus gan Lywodraeth Cymru i gyllido’r golled ariannol a’r costau ychwanegol sy’n wynebu’r Cyngor yn ystod gweddill y flwyddyn ariannol o ganlyniad i’r Coronafeirws.

·        Nodi’r crynodeb o’r cyllidebau wrth gefn ar gyfer 2021/22 fel y manylir arnynt yn Atodiad C yr adroddiad.

·        Nodi’r sefyllfa mewn perthynas â’r rhaglenni buddsoddi i arbed yn Atodiad CH yr adroddiad.

·        Nodi’r modd y caiff costau asiantaeth ac ymgynghorwyr eu monitro yn 2021/22 yn Atodiadau D a DD.

 

8.

Monitro Cyllideb Gyfalaf – Chwarter 2, 2021/22 pdf eicon PDF 427 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd, i’r Pwyllgor Gwaith ei ystyried, adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 ar Fonitro’r Gyllideb Gyfalaf – Chwarter 2, 2021/22 y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio Cyllid bod cyllideb gyfalaf o £56.947m wedi’i gosod ar gyfer 2021/22, fel y gwelir yn Nhabl 2.1 yr adroddiad. Gwariwyd 95% o’r gyllideb a broffiliwyd ar gyfer y gronfa gyffredinol hyd at ddiwedd yr ail chwarter. Serch hynny, 25% o’r gyllideb flynyddol a wariwyd hyd yma, sef cyfanswm o £12.7m. Y rheswm am hyn yw bod nifer o’r cynlluniau cyfalaf yn gwario tuag at ran olaf y flwyddyn ariannol, fel y nodir yn yr adroddiad.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 ei bod yn anodd rhagweld y gyllideb gyfalaf wrth fonitro Chwarter 2 gan fod cynlluniau yn ddibynnol ar gyllid grant ar gyfer gwahanol brosiectau. Cyfeiriodd at gyllideb y Gronfa Refeniw Tai (CRT) a nododd y gallai cynnydd mewn costau deunyddiau adeiladu a phrinder contractwyr arwain at oedi mewn rhai prosiectau. Ychwanegodd mai’r gobaith yw y bydd y Gyllideb Gyfalaf yn cael ei chymeradwyo’n gynharach yn y flwyddyn yn y dyfodol er mwyn caniatáu i staff ymgymryd â phrosesau tendro ar gyfer prosiectau.

 

Dywedodd y Cynghorydd Dafydd Roberts, Cadeirydd y Panel Sgriwtini Cyllid, fod y Panel, wrth ystyried yr adroddiad, wedi mynegi pryderon am brinder a chostau deunyddiau a chontractwyr i wneud gwaith adeiladu.

 

Penderfynwyd nodi cynnydd y gwariant a’r derbyniadau yn erbyn cyllideb gyfalaf 2021/22 yn Chwarter 2.

 

 

9.

Monitro Cyllideb y Cyfrif Refeniw Tai – Chwarter 2, 2021/22 pdf eicon PDF 316 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd, i’r Pwyllgor Gwaith ei ystyried, adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 yn nodi perfformiad ariannol y Cyfrif Refeniw Tai (CRT) ar gyfer Chwarter 2 2021/22.

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio Cyllid ei bod yn bwysig nodi bod y CRT wedi’i glustnodi ac ni ellir trosglwyddo ei gronfeydd wrth gefn i’r Gronfa Gyffredinol.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 fod y pandemig wedi effeithio ar allu’r Cyngor i brynu hen dai cyngor ac wedi arwain at oedi yn y rhaglen adeiladu tai newydd oherwydd oedi a phrinder deunyddiau. Ar ddiwedd Chwarter 2, roedd gorwariant o £363k yn y CRT o gymharu â’r gyllideb a broffiliwyd. Mae gwariant cyfalaf £1,518k yn is na’r gyllideb a broffiliwyd.

 

Penderfynwyd nodi’r canlynol –

 

·        Y sefyllfa a nodir mewn perthynas â pherfformiad ariannol y Cyfrif Refeniw Tai (CRT) ar gyfer Chwarter 2 2021/22.

·        Yr alldro a ragwelir ar gyfer 2021/22.

 

 

10.

Sylfaen y Dreth Gyngor ar gyfer 2022/23 pdf eicon PDF 383 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd, i’r Pwyllgor Gwaith ei ystyried, adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 mewn perthynas â chyfrifo sylfaen y dreth ar gyfer 2021/22.

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio Cyllid fod y cyfrifiadau wedi’u gwneud yn unol â Chanllawiau Llywodraeth Cymru ar gyfer Anheddau’r Dreth Gyngor (CT1v.1.0) 2022/23 yn seiliedig ar nifer yr eiddo yn y gwahanol fandiau ar y rhestr brisio ar 31 Hydref 2021 ac a grynhoir gan yr Awdurdod o dan Adran 22b (7) Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992. Mae’r cyfrifiadau yn cymryd i ystyriaeth gostyngiadau, eithriadau a phremiymau, yn ogystal â newidiadau i’r rhestr brisio sy’n debygol yn 2022/23. Cyfanswm y sylfaen arfaethedig ar gyfer 2022/23 at ddiben pennu’r dreth yw 31,079.93. Mae hyn yn cymharu â 30,880.22 ar gyfer 2021/22 ac mae’n gynnydd o 0.65%.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 bod y cyfrifiadau yn Atodiad A yr adroddiad yn seiliedig ar gadarnhau gostyngiad o ddim ar gyfer Dosbarthiadau A, B ac C; premiwm o 100% ar dai gwag tymor hir a phremiwm o 50% ar ail gartrefi ar gyfer 2022/23, yn unol â phenderfyniad y Pwyllgor Gwaith ar 25 Hydref 2021 i gynyddu’r premiwm ar ail gartrefi.

 

Penderfynwyd –

 

·                    Nodi cyfrifiad Sylfaen y Dreth Gyngor gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) a Swyddog Adran 151, fydd yn cael ei ddefnyddio gan Lywodraeth Cymru i gyfrifo’r Grant Cynnal Refeniw ar gyfer Cyngor Sir Ynys Môn am y flwyddyn ariannol 2022/23, sef 31,079.93 (Rhan E6 yn Atodiad A yr adroddiad).

·                    Cymeradwyo’r cyfrifiad at ddiben pennu Sylfaen y Dreth Gyngor gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 am y cyfan o’r ardal ac am rannau ohoni am y flwyddyn 2022/23 (Rhan E5 yn Atodiad A yr adroddiad).

·                    Yn unol â Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 a Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyfrifo Sylfaen y Dreth Gyngor) (Cymru) 1995 (SI19956/2561) fel y’u diwygiwyd gan SI1999/2935 a Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyfrifo Sylfaen y Dreth Gyngor) a Rheoliadau’r Dreth Gyngor (Dosbarthiadau Rhagnodedig o Anheddau) (Cymru) (Diwygiad) 2004 a Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyfrifo Sylfaen y Dreth Gyngor) (Cymru) (Diwygiad) 2016, y cyfansymiau y mae Cyngor Sir Ynys Môn wedi eu cyfrif fel Sylfaen y Dreth am 2022/23 yw 32,042.00 ac fel y nodir yn nhabl 3 yr adroddiad am y rhannau hynny o’r ardal a restrir ynddo.

 

11.

Cynllun Trosiannol pdf eicon PDF 268 KB

Cyflwyno adroddiad gan Y Dirprwy Brif Weithredwr.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd, i’r Pwyllgor Gwaith ei ystyried, adroddiad y Dirprwy Brif Weithredwr mewn perthynas â’r Cynllun Trosiannol ar gyfer y Cyngor Sir.

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio ar gyfer Busnes y Cyngor fod y Cynllun Trosiannol yn darparu fframwaith gweithredol i Swyddogion gyflawni amcanion strategol allweddol trwy gamau gweithredu diffiniedig yn ystod cyfnod adfer yr Ynys yn union ar ôl y pandemig. Mae’r Cynllun yn esblygu o Gynllun Cyflawni Blynyddol 2020-22.

 

Dywedodd y Dirprwy Brif Weithredwr fod y Cynllun Trosiannol yn darparu sicrwydd a chyfeiriad yn ystod y cyfnod adfer yn union ar ôl y pandemig trwy adolygu a mireinio amcanion i’w cyflawni yn ystod y cyfnod o 12 mis cyn mabwysiadu Cynllun y Cyngor newydd o dan y weinyddiaeth newydd ar ôl mis Mai 2022. Amcanion strategol y cynllun yw:-

 

·      Adfywio’r economi leol a gwreiddio newidiadau economaidd cadarnhaol;

·      Galluogi’r sector ymwelwyr a lletygarwch i fanteisio ar boblogrwydd cynyddol yr Ynys ac amddiffyn ein hasedau a’n cymunedau ar yr un pryd;

·      Cynnal a moderneiddio gwasanaethau cymunedol hanfodol bwysig megis Gofal ac Addysg ledled yr Ynys.

 

Bydd yr amcanion uchod yn cael eu llywio gan yr angen i drawsnewid i fod yn Awdurdod Lleol carbon niwtral erbyn 2030 ac ymateb yn effeithiol i’r argyfwng newid hinsawdd, deddfwriaeth llywodraeth leol newydd a Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.

 

Yn absenoldeb Cadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol, dywedodd Is-gadeirydd y Pwyllgor hwnnw bod y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol wedi trafod y Cynllun Trosiannol a’i fod wedi nodi pryderon ynglŷn â’r angen i ganiatáu i’r sector ymwelwyr a lletygarwch fanteisio ar boblogrwydd cynyddol yr Ynys wrth warchod ei hasedau mewn cymunedau, yr angen i reoli twristiaeth er budd yr ynys a’i heconomi a chryfhau adran dwristiaeth y Cyngor.  Nododd y Pwyllgor yr angen i foderneiddio gwasanaethau cymunedol holl bwysig megis gofal ac addysg ledled yr Ynys a chyfeiriodd hefyd y risg mewn perthynas â darparu gofal mewn cartrefi gofal pe byddai Llywodraeth Cymru’n penderfynu dilyn yr un trywydd â Lloegr a’i gwneud yn ofyn cyfreithiol i weithwyr cartrefi gofal gael eu brechu’n llawn. Gofynnodd y Pwyllgor hefyd a oedd y Cynllun Trosiannol yn cymryd lle’r Cynllun Corfforaethol ac a yw’r cyfnod o 12 mis yn ymrwymo neu’n clymu’r Cyngor newydd i’r amcanion a gynhwysir yn y cynllun. Argymhellodd y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol fod y Pwyllgor Gwaith yn mabwysiadu’r Cynllun Trosiannol.

 

Dywedodd y Cynghorydd Carwyn Jones fod gweithio ar y cyd ac mewn partneriaeth ar bob lefel yn bwysig er mwyn gwneud y mwyaf o ganlyniadau ac ymateb i anghenion, gofynion a chyfleoedd sy’n newid. Wrth gyflawni amcanion y Cynllun, mae angen i’r Ynys adfywio’r economi leol a gwreiddio newidiadau economaidd cadarnhaol. Tynnodd sylw’r Pwyllgor Gwaith at y prosiectau a nodir ym mharagraff 6 yr adroddiad. Ychwanegodd fod adfywio’r economi leol i sicrhau mwy o wydnwch a thwf posib yn y dyfodol yn holl bwysig a bydd angen gwireddu adferiad gwyrdd sydd yn rhoi blaenoriaeth i dwf economaidd, yn mynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd ac yn parchu’r amgylchedd naturiol.

 

Penderfynwyd argymell i’r Cyngor Sir ei fod yn  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 11.

12.

Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg 2022-2032 pdf eicon PDF 2 MB

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Phobl Ifanc yn ymgorffori Cynllun Strategol y Gymraeg Mewn Addysg.

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio Addysg, Llyfrgelloedd, Ieuenctid a Diwylliant bod Adran 84 Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol baratoi Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg (CSGA). Pwrpas y rheoliadau hyn yw gwella cyfleoedd i awdurdodau lleol gynllunio darpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg er mwyn cefnogi disgwyliadau o ran twf mewn addysg cyfrwng Cymraeg yn awr ac yn y dyfodol. Bydd gwella’r ffordd y caiff addysg cyfrwng Cymraeg ei chynllunio hefyd yn cyfrannu at gyflawni’r uchelgais genedlaethol hirdymor i gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc mai’r cynllun yw’r weledigaeth ar gyfer addysg Gymraeg ac addysg ddwyieithog dros y deg mlynedd nesaf. Mae’r cynllun yn rhoi lle canolog i’r dysgwr ac yn ystyried taith a phrofiad yr holl ddysgwyr yn ystod eu taith addysgol. Mae Cynllun y Gymraeg mewn Addysg Ynys Môn yn ategu ac yn cefnogi strategaeth Llywodraeth Cymru i sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 trwy weithio’n strategol ag ysgolion, partneriaid a strwythurau CSGA i sicrhau bob pob unigolyn yn derbyn cyfleoedd yn ystod eu haddysg i ddysgu a defnyddio’r iaith Gymraeg.

 

Yn absenoldeb Cadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio, dywedodd y Rheolwr Sgriwtini bod y Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio wedi gofyn, yn y cyfarfod a gynhaliwyd ar 9 Tachwedd 2021, a fyddai modd addasu’r CSGA gan ei fod yn gynllun 10 mlynedd. Cyfeiriwyd at yr her yn y sector uwchradd i ddenu athrawon sy’n gallu addysgu pynciau trwy gyfrwng y Gymraeg a mynegwyd pryderon bod canran y pynciau a addysgir trwy gyfrwng y Gymraeg yn 34.8%. Gofynnwyd hefyd beth oedd y prif heriau yn y dyfodol o ran sefyllfa’r iaith Gymraeg mewn addysg ar lefel leol. Nododd bod y Pwyllgor Sgriwtini a Phartneriaeth yn argymell cymeradwyo Cynllun y Gymraeg mewn Addysg 2022-2032. 

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r canlynol –

 

·        Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg 2022-2032.

·        Diffiniad o rôl y Cydlynwyr Iaith Dalgylchol.

·        Awdurdodi Swyddogion Perthnasol, mewn ymgynghoriad â’r Aelod Portffolio, i gwblhau unrhyw adolygiadau pellach o’r strategaeth ddrafft.

 

13.

Datganiad Polisi Gamblo 2022-2025 pdf eicon PDF 757 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd, i’r Pwyllgor ei fabwysiadu, adroddiad y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd, yn ymgorffori’r Datganiad o Bolisi Gamblo 2022-2025.

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd bod rhaid i’r Cyngor, o dan Ddeddf Gamblo 2005, fabwysiadu Datganiad o Bolisi Gamblo bob tair blynedd. Mae’r Polisi hwn yn nodi sut fydd y Cyngor yn cyflawni ei swyddogaethau mewn perthynas â rheoleiddio sefydliadau gamblo.

 

Penderfynwyd argymell i’r Cyngor Llawn ei fod yn mabwysiadu’r Datganiad o Bolisi Gamblo.

 

14.

Strategaeth Cyfraniadau Buddion Cymunedol pdf eicon PDF 1 MB

Cyflwyno adroddiad gan y Dirprwy Brif Weithredwr.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd, i’r Pwyllgor Gwaith ei ystyried, adroddiad y Dirprwy Brif Weithredwr ar y Strategaeth Cyfraniadau Buddion Cymunedol.

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio ar gyfer Prosiectau Mawr a Datblygu Economaidd y bu rhai newidiadau arwyddocaol mewn prosiectau, polisïau a deddfwriaeth mewn perthynas â phrosiectau mawr ers mabwysiadu Strategaeth Cyfraniadau Buddion Cymunedol (CBC) gwreiddiol y Cyngor Sir ym mis Mawrth 2014, ac yn arbennig o safbwynt prosiectau ynni a’r ymgyrch i gyflawni sero-net. O’r herwydd, roedd y Cyngor yn teimlo ei bod yn amserol i ddiweddaru’r Strategaeth CBC i sicrhau ei fod yn parhau yn addas i bwrpas a’i fod yn adlewyrchu sefyllfa ddiweddaraf polisi a deddfwriaeth ynghylch yr angen i ddatblygiadau mawr ddarparu buddion cymdeithasol, amgylcheddol, diwylliannol ac economaidd i gymunedau lleol. Gyda chynlluniau ar gyfer sawl datblygiad mawr ar yr Ynys yn ystod y ddegawd nesaf mae cyfle i’r Ynys barhau i dyfu a ffynnu wrth gyfrannu at amcanion cenedlaethol, gan gynnwys symud tuag at economi carbon isel a chyflawni sero-net erbyn 2050. Mae nifer o ddatblygiadau ffermydd solar, cynigion ynni llanw, cynlluniau gwynt ar y môr ac ar y tir a datblygiadau hydrogen ar y gweill.

 

Dywedodd y Dirprwy Brif Weithredwr ei bod yn bwysig bod y Cyngor Sir yn parhau i negodi a sicrhau buddion cymunedol gwirfoddol ar gyfer Ynys Môn ac i gyfathrebu i ddatblygwyr bod disgwyl iddynt gyfrannu buddion cymunedol gwirfoddol am letya datblygiadau mawr. Ychwanegodd bod alinio’r Strategaeth CBC gyda pholisi, deddfwriaeth a chanllawiau diweddaraf (gan gynnwys Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, Cymru’r Dyfodol a’r ymgyrch tuag at sero-net 2050) yn bwysig i’r Ynys yn y dyfodol.

 

Penderfynwyd cefnogi a mabwysiadu’r Strategaeth Cyfraniadau Buddion Cymunedol diwygiedig.