Rhaglen, Penderfyniadau a Chofnodion.

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol

Cyswllt: Ann Holmes 

Cyfryngau

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Datganiadau o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafwyd datganiadau o ddiddordeb o dan eitem 8 isod.

 

2.

Materion Brys a Ardystiwyd gan y Prif Weithredwr neu Swyddog a Benodwyd Ganddi

Dim materion brys ar adeg anfon y rhaglen hon.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim materion i'w hadrodd.

 

3.

Cofnodion pdf eicon PDF 254 KB

Cyflwyno i’w cadarnhau, cofnodion drafft cyfarfod y Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar 24 Ionawr 2022.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar 24 Ionawr, 2022 i'w cymeradwyo gan y Pwyllgor Gwaith.

 

Penderfynwyd cymeradwyo cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar 24 Ionawr 2022.

 

4.

Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith pdf eicon PDF 393 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Proffesiwn – Adnoddau Dynol a Thrawsnewid (a Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd Dros Dro). 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd Dros Dro sy'n cynnwys Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith wedi'i diweddaru ar gyfer y cyfnod rhwng mis Mawrth a mis Hydref, 2022 i'w hystyried gan y Pwyllgor Gwaith a thynnwyd sylw at y newidiadau canlynol –

 

·         Eitem 13 – Polisi Rhyddhad Dewisol y Dreth Gyngor sy'n eitem newydd ar gyfer cyfarfod y Pwyllgor Gwaith ar 3 Mawrth, 2022

·         Eitem 15 – Cymeradwyo prosiect yr Ynys a gyflwynwyd i'r Gronfa Codi'r Gwastad sydd hefyd yn eitem newydd ar gyfer cyfarfod y Pwyllgor Gwaith ar 3 Mawrth, 2022

·         Eitemau 16 – 20 i'w hystyried mewn cyfarfod arbennig a gadarnhawyd bellach o'r Pwyllgor Gwaith ar 9 Mawrth, 2022

·         Ers cyhoeddi'r agenda bydd eitem 14 – Estyniad i ddarparu Gwasanaeth Polisi Cynllunio ar y Cyd rhwng Cyngor Sir Ynys Môn a Chyngor Gwynedd – i’w ail-drefnu o gyfarfod y Pwyllgor Gwaith ar 3 Mawrth, 2022 i ddyddiad sydd eto i'w gadarnhau.

 

Penderfynwyd cymeradwyo'r Flaen Raglen Waith wedi'i diweddaru ar gyfer y cyfnod rhwng mis Mawrth a mis Hydref 2022 gyda'r newid ychwanegol a amlinellwyd yn y cyfarfod.

 

5.

Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2020/21 Ymddiriedolaeth Addysg Bellach Ynys Môn pdf eicon PDF 787 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Robin Williams, Aelod Portffolio Cyllid yr adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 yn cynnwys Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon Ymddiriedolaeth Addysg Bellach Ynys Môn ar gyfer y flwyddyn 2020/21 fel y nodir yn Atodiad A ac adroddodd ar sut y defnyddiwyd y Gronfa yn ystod 2020/21.

 

Ym mis Hydref, 2019, penderfynodd y Pwyllgor Gwaith ddyrannu swm untro o £55,000 i bob ysgol uwchradd i ariannu costau Anogwyr Dysgu ym mhob ysgol. Byddai'r Anogwyr Dysgu yn cefnogi uwch ddisgyblion sy'n dilyn cyrsiau TGAU a Lefel A. Mater i bob ysgol fyddai penderfynu dros ba gyfnod y byddai'r cyllid yn cael ei ddefnyddio. Roedd hyn i'w ariannu o Gronfa Ymddiriedolaeth Addysg Bellach 1/3 Ynys Môn a'i diben yw rhoi cymorth ariannol i uwch ddisgyblion y 5 ysgol uwchradd i gwblhau eu cwrs. Nodir manylion y gwariant gan bob ysgol yn y tabl ym mharagraff 5.2 o'r adroddiad.  Penderfynodd y Pwyllgor Gwaith hefyd ddyrannu £8,000 ychwanegol fesul ysgol uwchradd i ddarparu grantiau i gynorthwyo myfyrwyr sydd o dan anfantais ariannol i gael lleoedd mewn colegau a phrifysgolion a/neu i helpu gyda phrynu llyfrau ac offer sydd eu hangen i ddilyn cyrsiau yn y flwyddyn gyntaf. Roedd cyfanswm y gost o £40,000 i'w ariannu o Gronfa Gyfyngedig 2/3 Ymddiriedolaeth Addysg Bellach Ynys Môn a oedd â balans o £151, 216 ar 1 Ebrill, 2020. Byddai'r ysgolion eu hunain yn gweinyddu’r gwaith o ddyfarnu'r grantiau; fodd bynnag, oherwydd y pandemig, nid oedd ysgolion mewn sefyllfa i wahodd ceisiadau yn ystod blwyddyn ysgol 2020/21 ac o ganlyniad ni ddyfarnwyd unrhyw grantiau.

 

Yn ystod 2020/21 dyfarnwyd yr ychydig ysgoloriaethau newydd a gynigir drwy'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol gyda phedwar cyn-ddisgybl yr un yn derbyn £500. Rhoddwyd grant o £7,452 hefyd i gyn-ddisgybl er mwyn gallu cwblhau ei (h)addysg uwch. Mae'r balans o £172,729 ar gael i'w ddosbarthu naill ai drwy'r ysgolion neu drwy'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

 

Cyfeiriodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 at gyfansoddiad Ymddiriedolaeth Addysg Bellach Ynys Môn sy'n cynnwys tair cronfa – Cronfa Waddol David Hughes, Cronfa Addysg Bellach Ynys Môn 1/3 a Chronfa Addysg Bellach Ynys Môn 2/3 y mae'r ddwy ohonynt yn cynnig budd addysgol penodol. Telir chwarter unrhyw incwm dros ben net ar y Gronfa Waddol i Elusen David Hughes ar gyfer y Tlodion sydd heb gysylltiad â'r Cyngor ac yna trosglwyddir gweddill yr incwm i Gronfa Addysg Bellach Ynys Môn (a rennir i’r ddwy gronfa uchod). Gwerth Ystâd Elusennol David Hughes (Cronfa Waddol) ar 31 Mawrth, 2021 oedd £4.276m sy'n cynnwys gwerth eiddo, buddsoddiadau ac asedau cyfredol net. Mae hyn yn gynnydd o £26,194 ar y gwerth ar 21 Mawrth, 2020. Y Gronfa Ymddiriedolaeth Addysg Bellach ar 31 Mawrth, 2021 oedd £339,347 gyda gwerth y Gronfa 1/3 yn £166,618 a gwerth y Gronfa 2/3 yn £172,729. Defnyddiwyd £108, 173 at ddibenion elusennol.

 

Croesawodd y Cynghorydd R. Meirion Jones, Aelod Portffolio Addysg, Llyfrgelloedd, Ieuenctid a Diwylliant yr adroddiad a'r defnydd cadarnhaol o Gronfa'r Ymddiriedolaeth er budd myfyrwyr Ynys Môn sy’n cael ei gydnabod. Diolchodd i bawb a fu'n  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 5.

6.

Rhent Tai CRT a Thaliadau Gwasanaethau Tai 2021/22 pdf eicon PDF 710 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Tai.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Alun Mummery, Aelod Portffolio Tai a Chefnogi Cymunedau yr adroddiad gan Bennaeth Gwasanaethau Tai yn gofyn i’r Pwyllgor Gwaith gymeradwyo’r cynnydd mewn rhent a thaliadau gwasanaeth ar gyfer 2022/23.

 

Wrth gydnabod ei bod yn anodd cynnig cynnydd mewn rhent yn yr hinsawdd economaidd bresennol, tynnodd yr Aelod Portffolio sylw at y ffaith ei bod yn ofynnol i bob awdurdod lleol, yn unol â chyfarwyddyd Llywodraeth Cymru, weithredu'r Polisi Rhenti. Byddai gwrthod y polisi hwn yn y pen draw yn golygu colli incwm i'r Awdurdod a byddai’n anochel yn effeithio ar y gwasanaethau a ddarperir.  Gallai gwrthod y polisi hefyd beryglu'r Lwfans Atgyweiriadau Mawr blynyddol o £2.66m gan Lywodraeth Cymru oherwydd y gellid ystyried nad ydym yn gwneud y mwyaf o'n cyfleoedd i gynhyrchu incwm.

 

Cadarnhaodd Pennaeth Gwasanaethau Tai y derbyniwyd llythyr gan Lywodraeth Cymru yn

cadarnhau, gan fod mynegai prisiau defnyddwyr (MPD) am fis Medi 2021 yn syrthio tu allan i’r ystod o 0% i 3%, y Gweinidog sy’n gyfrifol am Dai fydd yn penderfynu ar y newid priodol ar gyfer Rhenti Tai Cymdeithasol ar gyfer 2022/23. Mae’r Gweinidog wedi penderfynu y dylai pob Awdurdod Lleol ddefnyddio’r mynegai prisiau defnyddwyr (MPD) yn unig gyda gwerth MDP ym mis Medi 2021 yn 3.1%. Unwaith eto, mae Llywodraeth Cymru wedi penderfynu atal y Bandiau Rhent Targed ar gyfer 2022/23 a byddai'r cynnydd cyffredinol o 3.1% yn cynhyrchu tua £574,000 o incwm rhent ychwanegol i'r Awdurdod. Eglurodd Pennaeth Gwasanaethau Tai sut y byddai'r cynnydd blynyddol mewn rhent yn cael ei gymhwyso i sicrhau tegwch a chydraddoldeb ymhlith tenantiaid heb fynd yn uwch na’r trothwy cynnydd blynyddol wrth barhau i weithio tuag at gyflawni cydgyfeiriant rhent gyda darparwyr

tai cymdeithasol eraill fel yr amlinellir o dan baragraff 2.4 o'r adroddiad. Ar gyfer tenantiaid a allai wynebu caledi ariannol o ganlyniad i'r cynnydd yn eu costau rhent wythnosol, mae Swyddogion Cynhwysiant Ariannol y Gwasanaeth ar gael i ddarparu gwybodaeth, cyngor a chymorth. Dylid nodi hefyd na fydd y 2,765 o denantiaid Cyngor sydd ar hyn o bryd yn derbyn Budd-dal Tai llawn neu ran ohono neu Gredyd Cynhwysol yn wynebu unrhyw galedi ychwanegol o ganlyniad i'r cynnydd arfaethedig mewn rhent a thaliadau gwasanaeth.

 

Mewn ymateb i gwestiwn am oblygiadau peidio â gweithredu'r cynnydd arfaethedig mewn rhent, dywedodd Pennaeth Gwasanaethau Tai fod lefel y cynnydd mewn rhent yn cael ei ddefnyddio fel y model sylfaenol ar gyfer y Cynllun Busnes Tai. Os na ddilynir y dull hwn, efallai y bydd angen dulliau eraill o ariannu'r cynllun busnes. Hefyd, disgwylir i'r Awdurdod gynnal ei stoc tai i Safon Tai Ansawdd Cymru (a gyflawnodd yn 2012) yn barhaus ac mae'n cael lwfans atgyweiriadau mawr gan Lywodraeth Cymru i helpu gyda'i dai cyngor. Gallai peidio â gweithredu'r cynnydd mewn rhent godi cwestiynau am angen yr Awdurdod am y lwfans ychwanegol hwn. Mae'r Awdurdod hefyd yn gweithio tuag at ddatgarboneiddio ei stoc tai erbyn 2030 sy'n golygu bod cynhyrchu incwm rhent ychwanegol yn bwysicach fyth.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 fod y fformiwla cynyddu rhent  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 6.

7.

Ymateb i'r Her Dai Lleol - Strategaeth Tai 2022-27 pdf eicon PDF 2 MB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Tai. 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Alun Mummery, Aelod Portffolio Tai a Chefnogi Cymunedau, yr adroddiad gan Bennaeth y Gwasanaethau Tai yn cynnwys y Strategaeth Dai ar gyfer 2022/27 fel rhan o ymateb y Gwasanaeth i'r her tai lleol.

 

Canmolodd Aelod Portffolio Tai a Chefnogi Cymunedau y ddogfen fel ymateb cadarnhaol i'r her tai lleol gan ganolbwyntio ar chwe thema allweddol a fydd yn sail ar gyfer nodi beth yw'r materion a sut y mae'r Strategaeth yn bwriadu mynd i'r afael â'r materion hynny yn y tymor byr o 1 i 2 flynedd a'r tymor canolig i'r tymor hir yn ystod oes y Strategaeth. Diolchodd i'r holl Swyddogion sydd wedi bod yn rhan o'r gwaith o ddatblygu'r Strategaeth ar gyfer y gwaith a wnaed i baratoi dogfen ystyriol a phellgyrhaeddol. Roedd yn falch o ddweud ei bod wedi dal sylw'r wasg leol gan adlewyrchu'r mesurau sydd wedi ac sy'n cael eu cymryd gan yr Awdurdod i ymateb i'r her tai lleol.

 

Dywedodd Swyddog Comisiynu a Pholisi'r Strategaeth Dai fod y Strategaeth Dai wedi'i chyflwyno i'r Pwyllgor Gwaith i'w chymeradwyo ar ôl cyfnod o ymgynghori a chydweithredu; mae'n cyflwyno chwe thema sy'n dangos yr hyn y mae'r Awdurdod yn mynd i'w wneud o dan bob thema a sut y bydd yn ei wneud. Bydd yr Awdurdod yn awr yn ystyried sut y bydd yn monitro’r gwaith o gyflawni amcanion y Strategaeth ac yn cynnwys ei bartneriaid yn y broses honno.

 

Cyflwynodd y Cynghorydd Aled Morris Jones, Cadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol safbwynt Sgriwtini ar y Strategaeth Dai o'i gyfarfod ar 24 Ionawr, 2022 a nododd fod y Pwyllgor wedi nodi bod materion ail gartrefi a phwysau'r farchnad dai wedi bod yn amlwg yn yr ymatebion i'r ymgynghoriad. Roedd y Pwyllgor hefyd yn nodi bod grŵp gorchwyl a gorffen mewnol wedi'i sefydlu i ymateb i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar fater ail gartrefi, gan gydnabod bod angen ymyrraeth a chamau cadarnhaol gan Lywodraeth Cymru i helpu i sicrhau bod cartrefi lleol ar gael i bobl leol. Cododd y Pwyllgor bryderon hefyd am effaith costau ynni cynyddol ar gartrefi wrth yrru mwy o bobl i dlodi tanwydd.  Ar ôl ystyried y dogfennau a gyflwynwyd a'r ymatebion i faterion a godwyd, cadarnhaodd y Cynghorydd Aled Morris Jones fod y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol yn gefnogol i'r Strategaeth Dai ac wedi argymell ei chymeradwyo i'r Pwyllgor Gwaith.

 

Croesawodd y Pwyllgor Gwaith y strategaeth fel elfen allweddol o'r dull o ymateb i'r her tai lleol a mynd i'r afael â materion tai ar yr Ynys gan gydnabod hefyd y cyswllt â'r Cynllun Datblygu Lleol a'r Cynllun Siapio Lle a phwysigrwydd cael y tai priodol yn y llefydd priodol. Ystyrid hefyd bod y ffaith bod y strategaeth yn ystyried mewnbwn y cyhoedd ehangach yn bwysig a chydnabuwyd y broses ymgynghori. Dywedodd y Cadeirydd fod y Strategaeth yn y pen draw yn ymwneud â rhoi to uwch ben pennau pobl ac oherwydd ei bod yn bellgyrhaeddol, mae'r strategaeth yn ceisio helpu pobl mewn amryw o amgylchiadau yn ogystal â chydnabod bod pobl  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 7.

8.

Effaith Rheoliadau ‘Public Service Vehicle Accessibility Regulations 2000’ ar werthu seddi gwag ar drafnidiaeth ysgol / coleg pdf eicon PDF 236 KB

Cyflwyno adroddiad ar y cyd gan y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc a’r Pennaeth Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd R.G.Parry, OBE, FRAgS, Aelod Portffolio Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo yr adroddiad gan y Pennaeth Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo ynghylch effaith Rheoliadau Hygyrchedd Cerbydau Gwasanaeth Cyhoeddus 2000 (PSVAR) ar werthu seddi gwag ar drafnidiaeth i'r ysgol a'r coleg. Mae'r adroddiad yn nodi sut y mae'r Awdurdod yn bwriadu mynd i'r afael ag effaith y rheoliadau ar y cludiant a ddarperir o'r cartref i'r ysgol.

 

Mae Adran 40 o Ddeddf Gwahaniaethu (DDA) 1995 yn rhoi’r hawl i’r Ysgrifennydd Gwladol

wneud rheoliadau i sicrhau bod Cerbydau Gwasanaeth Cyhoeddus yn hygyrch i bobl

anabl. Defnyddiodd y Llywodraeth Genedlaethol y pwerau hyn i sefydlu ‘Rheoliadau Hygyrchedd Cerbydau Gwasanaethau Cyhoeddus 2000 (PSVAR). O 1 Ionawr 2020 ymlaen mae PSVAR wedi bod yn berthnasol i fysys gyda mwy na 22 o seddi ac roedd angen i’r cerbyd fod yn hygyrch i bobl anabl. Fodd bynnag, roedd yr Adran Drafnidiaeth yn cynnig tystysgrif eithrio sy'n cynnig eithriad o’r rheoliadau hyn tan 1 Ionawr 2022. Mae'r rhan fwyaf o gytundebau presennol yr Awdurdod ar gyfer cludiant i'r ysgol gyda chwmnïau bysys lleol ac nid yw eu cerbydau'n bodloni'r manylebau newydd. Yn flaenorol, cymeradwyodd y Pwyllgor Gwaith y penderfyniad i beidio â chodi tâl ar ddisgyblion anstatudol Ynys Môn a myfyrwyr addysg bellach ar gyfer blwyddyn academaidd 2021/22 a olygai nad oedd y rheoliadau'n gymwys ar ôl 1 Ionawr, 2022; y cynnig yw parhau â'r trefniant hwn. Byddai ei gwneud yn ofynnol i weithredwyr ddarparu cerbydau o'r fath yn rhoi'r dewis i ddisgyblion ag anableddau deithio ar fws, ond mewn sefyllfaoedd tebyg mae'r Awdurdod hwn ac awdurdodau eraill ledled Cymru darparu trafnidiaeth addas drwy dacsi beth bynnag a hynny o ddrws cartref y disgyblion i iard y sefydliad addysgol. Mae cynnig cludiant bws am ddim hefyd yn cyd-fynd â gweledigaeth trafnidiaeth y Llywodraeth - Y Llwybr Newydd - gan y bydd yn arwain at lai o gerbydau ar ffyrdd ac yn gwneud cludiant bws ysgol yn opsiwn mwy deniadol. Er y gallai peidio â chodi ffi olygu bod mwy o ddisgyblion am ddefnyddio'r ddarpariaeth, ychydig iawn o gynnydd a fu yn y galw ym mlwyddyn academaidd 2021/22 ac mae camau ar waith i reoli'r risg o gamddefnyddio.

 

Tynnodd y Pennaeth Gwasanaeth (Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo) sylw at y ffaith y dylid dod i benderfyniad amserol er mwyn sicrhau bod manylebau tendro a chontractau yn gywir cyn gweithredu contractau bysys ysgol newydd ym mis Medi, 2022. Dywedodd ei bod yn amheus a fyddai gweithredwyr lleol yn y farchnad fysys ansicr bresennol yn gallu fforddio addasu eu cerbydau presennol neu brynu cerbydau newydd i ddiwallu anghenion disgyblion ag anableddau pe bai'r Awdurdod yn ei gwneud yn ofynnol iddynt wneud hynny gyda'r risg sy'n deillio o hynny na fydd yr Awdurdod o bosibl yn gallu cynnig cludiant i ddisgyblion. Ers penderfyniad y Pwyllgor Gwaith y llynedd i beidio â chodi ffi deithio ar gyfer disgyblion anstatudol Ynys Môn a disgyblion addysg bellach am y flwyddyn academaidd gyfredol, mae'r amcangyfrifon o'r hyn y byddai'n ei gostio i uwchraddio bws gweithredwr wedi  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 8.

9.

Deddf Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Cymru) 2019: Trefniadau Gweithredu pdf eicon PDF 432 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Richard Dew, Aelod Portffolio Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd yr adroddiad gan y Pennaeth Datblygu Rheoleiddio ac Economaidd gan ofyn am gefnogaeth y Pwyllgor Gwaith i wneud argymhelliad i'r Cyngor Llawn i ddiwygio'r Cynllun Dirprwyo yn y Cyfansoddiad i sicrhau bod y pwerau gorfodi statudol perthnasol o dan y Cynllun Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Cymru) Ddeddf 2019 yn cael eu defnyddio'n briodol.

 

Mae Deddf Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Cymru) 2019 (y Ddeddf) yn ei gwneud

yn drosedd i fynnu bod tenant neu ddeiliad contract yn gwneud unrhyw daliad sydd

ddim yn cael ei nodi fel taliad a ganiateir yn y ddeddfwriaeth. Bydd gan Awdurdodau Lleol y gallu i orfodi gofynion y Ddeddf ynghyd â Rhentu Doeth Cymru - gwasanaeth a gynhelir gan Gyngor Caerdydd fel awdurdod trwyddedu dynodedig Llywodraeth Cymru ar gyfer yr ardal; mae'r ddeddfwriaeth yn awdurdodi'r awdurdod trwyddedu i'r ardal ymgymryd â gwaith gorfodi. Mae'r ddeddfwriaeth hon y tu allan i gwmpas y ddirprwyaeth bresennol ar hyn o bryd felly'r argymhelliad i ddiwygio’r cynllun dirprwyo fel y gall y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd arfer swyddogaethau’r Ddeddf sy’n arferadwy gan Gyngor Sir Ynys Môn yn ogystal â dirprwyo’r hawl hefyd i'r Pennaeth Datblygu Rheoleiddio ac Economaidd ddirprwyo ymhellach i Gyngor Caerdydd drwy ei wasanaeth a elwir Rhentu Doeth Cymru ddarpariaethau gorfodi'r Cyngor o dan y Ddeddf.  Er y rhoddwyd ystyriaeth i’r opsiwn fod y Cyngor ei hun yn gorfodi darpariaethau'r Ddeddf, teimlid bod rhannu'r ddyletswydd orfodi gyda Rhentu Doeth Cymru yn galluogi'r Cyngor i weithio'n fwy cydweithredol ac effeithlon. Mae Rhentu Doeth Cymru wedi derbyn pwerau dirprwyedig ar ran awdurdodau eraill yng Nghymru a byddai ond yn cymryd camau gorfodi ar ran yr awdurdod lleol mewn amgylchiadau cyfyngedig.

 

Penderfynwyd argymell i'r Cyngor Llawn –

 

·        Ddirprwyo awdurdod i’r Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd er mwyn awdurdodi swyddogion perthnasol i arfer, yn ôl yr angen, gweithredu’r pwerau gorfodi statudol hynny o dan Ddeddf Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Cymru) 2019 ar ran y Cyngor yma.

·         Rhoi'r hawl i'r Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd ddirprwyo swyddogion Cyngor Sir Dinas a Sir Caerdydd i gymryd camau priodol ar ran y Cyngor hwn i orfodi darpariaethau'r Ddeddf Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Cymru) 2019, drwy’r gwasanaeth a elwir yn Rhentu Doeth Cymru.