Rhaglen, Penderfyniadau a Chofnodion.

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol

Cyswllt: Ann Holmes 

Cyfryngau

Eitemau
Rhif. Eitem

Croesawodd y Cadeirydd bawb a oedd yn bresennol i gyfarfod olaf y Pwyllgor Gwaith o dan y Weinyddiaeth bresennol. Diolchodd i’r holl Swyddogion am eu gwaith a’u cymorth yn ystod y pum mlynedd diwethaf ac, yn yr un modd, diolchodd i’r Aelodau am eu cyfraniadau. Diolchodd y Cadeirydd yn arbennig i ddau aelod o’r Pwyllgor Gwaith sydd yn ymddeol cyn yr etholiadau cyngor lleol ym mis Mai, sef y Cynghorwyr R. Meirion Jones ac R. G. Parry, OBE, FRAgs.

 

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd yr un datganiad o ddiddordeb.

 

2.

Materion Brys a Ardystiwyd gan y Prif Weithredwr neu Swyddog a Benodwyd Ganddo

Dim materion brys ar adeg anfon y rhaglen hon.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim i’w adrodd.

 

3.

Cofnodion pdf eicon PDF 252 KB

Cyflwyno i’w cadarnhau, cofnodion drafft cyfarfodydd y Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar y dyddiadau canlynol:-

 

   9 Mawrth 2022

   21 Mawrth 2022

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd, i’w cadarnhau, cofnodion cyfarfodydd blaenorol y Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar y dyddiadau a ganlyn –

 

·         9 Mawrth, 2022 (arbennig)

·         21 Mawrth, 2022

 

 

Penderfynwyd cymeradwyo fel rhai cywir, cofnodion cyfarfodydd blaenorol y Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar –

 

9 Mawrth, 2022 (arbennig)

21 Mawrth, 2022

 

4.

Panel Rhiantu Corfforaethol pdf eicon PDF 324 KB

Cyflwyno i’w mabwysiadu, cofnodion drafft y Panel Rhiantu Corfforaethol a gynhaliwyd ar 15 Mawrth 2022.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd, i’w mabwysiadu, cofnodion drafft y Panel Rhiant Corfforaethol a gynhaliwyd ar 15 Mawrth 2022.

 

Penderfynwyd mabwysiadu cofnodion drafft cyfarfod y Panel Rhiant Corfforaethol a gynhaliwyd ar 15 Mawrth 2022.

 

5.

Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith pdf eicon PDF 368 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd Dros Dro.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd, i’w ystyried, adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd Dros Dro, yn ymgorffori Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith ar gyfer y cyfnod o fis Mai i fis Rhagfyr 2022, a nodwyd y newidiadau a ganlyn –

 

·         Eitem 7 – Adroddiad Blynyddol y Cyfarwyddwr Statudol ar effeithiolrwydd y Gwasanaethau Cymdeithasol: eitem newydd ar gyfer cyfarfod y Pwyllgor Gwaith ym mis Mehefin 2022.

·         Eitem 16 – Adroddiad Perfformiad Blynyddol 2021/22: eitem newydd ar gyfer cyfarfod y Pwyllgor Gwaith ym mis Hydref 2022.

 

Penderfynwyd cadarnhau Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith wedi’i diweddaru ar gyfer y cyfnod o fis Mai i fis Rhagfyr 2022, fel y’i cyflwynwyd.

 

6.

Newidiadau i'r Cyfansoddiad pdf eicon PDF 602 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth Dros Dro (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth Dros Dro (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro ynghylch y newidiadau arfaethedig i Gyfansoddiad y Cyngor o ganlyniad i Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021. Gofynnwyd i’r Pwyllgor Gwaith argymell y newidiadau i gyfarfod o’r Cyngor Llawn a oedd i’w gynnal yn syth ar ôl cyfarfod y Pwyllgor Gwaith.

 

Cyflwynodd y Cynghorydd Dafydd Rhys Thomas, Aelod Portffolio ar gyfer Busnes y Cyngor, yr adroddiad gan grynhoi beth oedd y newidiadau arfaethedig yn ei olygu a phwysigrwydd y Cyfansoddiad o ran darparu fframwaith ar gyfer penderfyniadau’r Cyngor, ac argymhellodd y newidiadau i’r Pwyllgor Gwaith.

 

Dywedodd y Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol wrth y Pwyllgor Gwaith bod Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 yn cyflwyno newidiadau i gylch gorchwyl rhai pwyllgorau, ac yn bennaf y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio a’r Pwyllgor Safonau. Diwygiwyd y Cyfansoddiad i adlewyrchu’r newidiadau hyn ac mae’r prif newidiadau sydd yn ymwneud â’r Pwyllgor Safonau a’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio yn cael eu nodi yn Atodiadau 1 a 2 yr adroddiad.

 

Yn ogystal, bydd yr adolygiad ffiniau diweddar yn arwain at gynyddu nifer y cynghorwyr ar y Cyngor o 30 i 35 ar ôl yr etholiadau, gan olygu y bydd angen cynyddu maint rhai pwyllgorau.

Lle ceir dewis, cynigir bod nifer y seddi ar bwyllgorau’n cael eu cynyddu yn gymesur â’r cynnydd yng nghyfanswm yr aelodau etholedig, gyda’r nifer yn ei dalgrynnu i fyny lle bo angen. Nodir y newidiadau hyn yn y tabl a gynhwysir yn yr adroddiad.

 

Penderfynwyd argymell i’r Cyngor -

 

·         Ei fod yn mabwysiadu’r newidiadau i’r Cyfansoddiad a nodir yn yr adroddiad.

·         Ei fod yn cytuno i wneud y newidiadau a argymhellir ac yn dirprwyo pŵer i’r Swyddog Monitro wneud y newidiadau sy’n cael eu hargymell i’r Cyfansoddiad ynghyd ag unrhyw newidiadau ategol neu ganlyniadol sy’n codi.