Rhaglen, Penderfyniadau a Chofnodion.

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Council Chamber, Council Offices, Llangefni

Cyswllt: Ann Holmes 

Cyfryngau

Eitemau
Rhif. Eitem

Croesawodd y Cadeirydd bawb a oedd yn bresennol i'r cyfarfod; cyn dechrau busnes y cyfarfod, cyfeiriodd gyda thristwch mawr at y sefyllfa sy'n datblygu yn yr Wcráin gan ddweud bod meddyliau pawb gyda'r rhai yr effeithiwyd arnynt gan y rhyfel.

 

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn datganiad o ddiddordeb gan Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu i’r Cynghorydd Richard Dew ddatgan diddordeb personol oedd yn rhagfarnu mewn perthynas ag eitem 13 ar yr agenda.

 

2.

Materion Brys a Ardystiwyd gan y Prif Weithredwr neu Swyddog a Benodwyd Ganddi

Dim materion brys ar adeg anfon y rhaglen hon.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim materion i'w hadrodd.

 

3.

Cofnodion pdf eicon PDF 329 KB

Cyflwyno, i’w cadarnhau, cofnodion drafft cyfarfod y Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar 14 Chwefror, 2022.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar 14 Chwefror 2022 i'w cadarnhau.

 

Penderfynwyd bod cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar 14 Chwefror 2022 yn cael eu cymeradwyo fel rhai cywir.

 

4.

Monitro Cyllideb Refeniw – Chwarter 3, 2021/22 pdf eicon PDF 850 KB

I gyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 yn nodi perfformiad ariannol gwasanaethau'r Cyngor ar ddiwedd Chwarter 3 blwyddyn ariannol 2021/22 i'r Pwyllgor Gwaith ei ystyried.

 

Adroddodd y Cynghorydd Robin Williams, Aelod Portffolio Cyllid, fod y Cyngor, ar 9 Mawrth 2021, wedi pennu cyllideb ar gyfer 2021/22 gyda gwariant gwasanaeth net o £147.420m, i'w ariannu o incwm y Dreth Gyngor, Ardrethi Annomestig a grantiau cyffredinol. Yn wahanol i flynyddoedd blaenorol, nid yw'r gyllideb ar gyfer 2021/22 yn cynnwys unrhyw ofynion ar y gwasanaethau i wneud arbedion. Roedd y cynnydd o 3.4% mewn cyllid gan Lywodraeth Cymru yn gynnydd i'w groesawu. Mae'r sefyllfa ariannol gyffredinol a ragwelir ar gyfer 2021/22 gan gynnwys Cyllid Corfforaethol a chronfa'r Dreth Gyngor yn danwariant o £3.528m, sef 2.4% o gyllideb net y Cyngor ar gyfer 2021/22. Er bod mwy o sicrwydd wrth i ddiwedd y flwyddyn ariannol agosáu, dylid nodi y gall y sefyllfa newid yn gyflym yn yr argyfwng presennol wrth i'r Cyngor barhau i ymateb i'r pandemig. Hefyd, gall costau cynyddol a'r potensial ar gyfer galw cynyddol am wasanaethau yn ystod y chwarter olaf leihau'r sefyllfa refeniw derfynol ar ddiwedd y flwyddyn ariannol. Fodd bynnag, yng ngoleuni'r gwarged a ragwelir ar y gyllideb refeniw ar gyfer 2021/22, roedd yn cynnig buddsoddi £500k ychwanegol mewn cynnal a chadw Priffyrdd er budd holl ddefnyddwyr ffyrdd yr Ynys.

 

Croesawodd y Cynghorydd R.G. Parry, OBE, FRAgS, Aelod Portffolio Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo y cynnig gan ddweud, er bod adroddiad cenedlaethol yn dangos bod priffyrdd Ynys Môn yn cymharu'n dda iawn â rhai cynghorau eraill yng Nghymru, y gellir gwneud mwy i wella rhwydwaith ffyrdd yr Ynys a'u codi i safon yr hoffai'r Cyngor ei gweld.

 

Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 fod blwyddyn ariannol 2021/22 yn eithriadol. Cafodd cyllid ei gynnwys yn y gyllideb i fynd i'r afael â chynnydd posibl yn y galw wrth i'r Cyngor ddod allan o'r pandemig ac mae pwysau Covid 19 wedi'u talu gan arian grant ychwanegol gan Lywodraeth Cymru sydd wedi cyfrannu at y sefyllfa gadarnhaol y mae'r Cyngor ynddi. Nid yw cyfnod y gaeaf, sydd bob amser yn creu ansicrwydd ynglŷn â’r galw am wasanaethau, wedi bod yn arw o ran y tywydd ar y cyfan ac mae hynny hefyd wedi helpu o ran rheoli costau. Mae un o'r risgiau a nodwyd yn ystod ail ran y flwyddyn ar ffurf dyfarniad cyflog staff nad ydynt yn addysgu bellach wedi'i ddileu gyda chynnydd cyflog o 1.75% yn cael ei dderbyn. Cyfeiriodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 at y sefyllfa o ran cyllidebau gwasanaeth a thynnodd sylw at y prif amrywiadau yn y sefyllfa hon. I orffen, nodwyd, er bod risg o hyd na fydd y sefyllfa derfynol ar ddiwedd y flwyddyn ariannol mor gadarnhaol â'r hyn a ragwelir, bod y risg yn lleihau wrth i ddiwedd y flwyddyn agosáu. 

 

Penderfynwyd –

 

·         Nodi’r sefyllfa a amlinellir yn Atodiadau A a B mewn perthynas â pherfformiad ariannol yr Awdurdod hyd yma a’r alldro disgwyliedig ar gyfer 2021/22. Mae’r sefyllfa hon  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 4.

5.

Monitro Cyllideb Cyfalaf – Chwarter 3, 2021/22 pdf eicon PDF 444 KB

I gyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

nodi perfformiad ariannol y Gyllideb Gyfalaf ar ddiwedd Chwarter 3 blwyddyn ariannol 2021/22 i'r Pwyllgor Gwaith ei ystyried.

 

Dywedodd y Cynghorydd Robin Williams, Aelod Portffolio Cyllid, fod y Cyngor wedi cymeradwyo Rhaglen Gyfalaf ar gyfer gwasanaethau nad ydynt yn dai o £15.842m ar gyfer 2021/22 a Rhaglen Gyfalaf o £20.313m ar gyfer y Cyfrif Refeniw Tai (CRT). Hefyd, ym mis Mehefin 2021, cymeradwyodd y Pwyllgor Gwaith lithriad cyfalaf o £11.898m i'w ddwyn ymlaen o 2020/21 gan ddod â'r Rhaglen Gyfalaf ar gyfer gwasanaethau nad ydynt yn dai i £25.492m a £22.561m ar gyfer y CRT. Ers llunio’r gyllideb, mae cynlluniau wedi'u hychwanegu at y rhaglen, mae'r rhan fwyaf ohonynt yn cael eu hariannu gan grant sy'n dod i £11.895m sy’n golygu bod cyfanswm y gyllideb gyfalaf ar gyfer 2021/22 yn dod i £59.948m. Y gyllideb a broffiliwyd a wariwyd hyd at ddiwedd Chwarter 3 yw £26.546m tra bod y gwariant gwirioneddol hyd yma yn £19.309m gyda gwariant pellach o £992k wedi'i ymrwymo. Er gwaethaf lefel y llithriad, mae'r rhan fwyaf o'r rhaglen gyfalaf yn mynd rhagddi ac mae disgwyl i brosiectau a ohiriwyd fynd rhagddynt. Ni ragwelir y bydd y Cyngor yn colli unrhyw arian allanol.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Adran 151 fod y rhesymau dros danwario yn amrywio o brosiect i brosiect. Mae cyflwr presennol y sector adeiladu wedi gwaethygu'r sefyllfa eleni gyda chynnydd sylweddol mewn prisiau, prinder defnyddiau a chyfyngiadau Covid yn ei gwneud yn anos datblygu prosiectau yn ôl y bwriad.

 

Penderfynwyd nodi cynnydd gwariant a derbyniadau yn erbyn cyllideb gyfalaf 2021/22 yn Chwarter 3.

 

6.

Monitro Cyllideb y Cyfrif Refeniw Tai – Chwarter 3, 2021/22 pdf eicon PDF 323 KB

I gyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 yn nodi perfformiad ariannol Cyllideb y Cyfrif Refeniw Tai ar gyfer Chwarter 3 2021/22 i'r Pwyllgor Gwaith ei ystyried.

Cyflwynodd y Cynghorydd Robin Williams, Aelod Portffolio Cyllid yr adroddiad a oedd yn nodi perfformiad ariannol y Cyfrif Refeniw Tai (CRT) ar gyfer y cyfnod rhwng 1 Ebrill, 2021 a 31 Rhagfyr, 2021 yn cynnwys refeniw a chyfalaf. Tynnodd sylw at y ffaith bod y CRT wedi'i neilltuo ac na ellir defnyddio ei gronfeydd wrth gefn at ddibenion heblaw am ariannu costau sy'n ymwneud â stoc tai'r Cyngor; ni ellir defnyddio balansau'r Gronfa Gyffredinol ychwaith i ariannu'r CRT.

Mae gwarged/diffyg y CRT ar ddiwedd Chwarter 3 yn dangos gorwariant o £639k o'i gymharu â'r gyllideb a broffiliwyd. Mae'r gwariant cyfalaf £3,384k yn is na'r gyllideb a broffiliwyd. Mae'r gwariant a ragwelir £12,169k yn is na'r gyllideb. Mae'r gwarged a ragwelir sy'n cyfuno refeniw a chyfalaf bellach yn £759k, £9,875k yn well na'r gyllideb yn bennaf oherwydd bod y gwariant cyfalaf yn is na'r gyllideb.

Cyfeiriodd Cyfarwyddwr Swyddogaeth| (Adnoddau)/ Swyddog Adran 151 at yr amrywiadau yn y gyllideb a dywedodd fod incwm rhent yr CRT yn is na'r hyn a ragwelwyd o ganlyniad i oedi cyn i stoc newydd fod ar gael; mae gwariant nad yw'n waith trwsio a chynnal a chadw hefyd yn is na'r gyllideb a broffiliwyd tra bod yr uned Cynnal a Chadw Tai wedi'i gorwario'n bennaf o ganlyniad i fwy o waith trwsio a chynnal a chadw wrth fynd i’r afael â’r gwaith na chafodd ei wneud oherwydd cyfyngiadau Covid 19. Rhagwelir tanwariant sylweddol ar yr ochr gyfalaf a gellir ei briodoli i nifer o resymau gan gynnwys llai o gynnydd na'r disgwyl o ran datblygiadau tai y rhagwelwyd a fyddai’n dechrau yn y flwyddyn ariannol gyfredol. Mae pandemig Covid hefyd wedi effeithio ar fuddsoddiad arfaethedig yn y stoc bresennol. Mae’r tanwariant ar wariant cyfalaf yn golygu bod gostyngiad tebyg yn y swm a gyllidir o gyfrif refeniw’r CRT Mae'r balans ar gael wedyn i ariannu prosiectau sydd wedi'u gohirio tan y flwyddyn nesaf.

Penderfynwyd nodi'r canlynol –

 

·         Y sefyllfa a nodir mewn perthynas â pherfformiad ariannol y Cyfrif Refeniw Tai ar gyfer Chwarter 3 2021/22.

·         Yr alldro a ragwelir ar gyfer 2021/22.

 

7.

Alldro Rheoli Trysorlys 2020/21 pdf eicon PDF 379 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 yn cynnwys Adolygiad Rheoli Blynyddol y Trysorlys ar gyfer 2020/21 i'w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith.

Adroddodd y Cynghorydd Robin Williams, Aelod Portffolio Cyllid, fod adolygiad Blynyddol Rheoli'r Trysorlys yn cael ei gyflwyno i gydymffurfio â rheoliadau a gyhoeddwyd o dan Ddeddf Llywodraeth Leol 2003 a gyda Chynllun Dirprwyo Rheoli Trysorlys y Cyngor ar gyfer 2020/21. Yn unol â'r Cynllun Dirprwyo, bu'r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio yn craffu ar yr adroddiad ym mis Gorffennaf 2021. Mae adroddiad yr adolygiad yn rhan o driawd o adroddiadau y mae'n ofynnol i'r Cyngor eu derbyn o ran rheoli'r trysorlys. Y lleill yw’r datganiad ar y strategaeth rheoli’r trysorlys cyn y flwyddyn ariannol ac adolygiad canol blwyddyn.

Eglurodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 fod cyflwyno adroddiad adolygiad rheoli'r trysorlys ar gyfer 2020/21 i'r Pwyllgor Gwaith wedi'i ohirio gan na ddaeth y gwaith o archwilio'r cyfrifon i ben tan fis Tachwedd 2021. Mae'r adolygiad yn cadarnhau bod perfformiad Rheoli Trysorlys y Cyngor yn ystod y flwyddyn yn gyson â'r strategaeth o risg isel, enillion isel ar fuddsoddiadau a dull benthyca wedi'i gynllunio er mwyn lleihau taliadau llog. Mae'r perfformiad yn erbyn y Dangosyddion Darbodus a bennwyd gan y Cyngor yn dangos bod gweithgareddau rheoli'r trysorlys yn cael eu cynnal mewn ffordd reoledig sy'n sicrhau diogelwch ariannol y Cyngor ac nad ydynt yn rhoi'r Cyngor mewn unrhyw berygl ariannol sylweddol o ran benthyca anfforddiadwy neu ormodol.

Penderfynwyd derbyn Adroddiad Rheoli Blynyddol y Trysorlys ar gyfer 2020/21 a chyfeirio’r adroddiad i sylw’r Cyngor Llawn.

 

8.

Datganiad ar Strategaeth Rheoli Trysorlys 2022/23 pdf eicon PDF 1 MB

I gyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 yn cynnwys y Datganiad ar y Strategaeth Rheoli'r Trysorlys ar gyfer 2022/23 i'r Pwyllgor Gwaith ei ystyried.

 

Adroddodd yr Aelod Portffolio Cyllid fod y Datganiad yn cael ei gyflwyno i sicrhau bod y Cyngor yn gweithredu arfer gorau o ran ei weithrediadau rheoli trysorlys yn unol â Chod Ymarfer CIPFA ar gyfer Rheoli'r Trysorlys. O ran diweddariadau i Ddatganiad Strategaeth Rheoli'r Trysorlys, nid oes unrhyw ddiwygiadau arfaethedig i egwyddorion a pholisïau craidd Datganiad 2021/22.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 fod yr adroddiad yn nodi strategaeth fenthyca a buddsoddi'r Cyngor ar gyfer 2022/23 ac yn cadarnhau bod y Cyngor yn dal i fenthyca’n unig yn ôl yr angen ac yn unol â'r strategaeth gyfalaf, o beidio ag ad-dalu dyledion yn gynnar gan fod y gost o wneud hynny yn drech na'r manteision a buddsoddi ar sail diogelwch yn gyntaf,  hylifedd yn ail ac yna'r elw (enillion).  Mae’r enillion ar fuddsoddiadau wedi gwella'n ddiweddar a bydd y Cyngor yn parhau i chwilio am yr enillion gorau sy'n gyson â risgiau cyfatebol. Fodd bynnag, mae ansicrwydd y sefyllfa economaidd, yn enwedig o ran chwyddiant a chyfraddau llog a'r cyfeiriad y byddant yn mynd iddo yn y dyfodol, yn cael dylanwad sylweddol ar reoli'r trysorlys a bydd angen eu monitro'n ofalus yn ystod y flwyddyn gan y bydd unrhyw gynnydd sydyn mewn cyfraddau llog yn cael effaith fawr ar y strategaeth ac efallai y bydd angen ei hadolygu.  Mae'r strategaeth hefyd yn nodi'r Dangosyddion Darbodus sy'n gosod terfynau ar weithgarwch rheoli trysorlys a bydd y rhain yn cael eu monitro yn ystod y flwyddyn.

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch y ffurf y byddai adolygiad o'r strategaeth yn ei gymryd, eglurodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 y byddai unrhyw ddiwygiadau i'r Strategaeth yn cael eu hadrodd yn unol â Chynllun Dirprwyo Rheoli'r Trysorlys.

 

Penderfynwyd derbyn y Datganiad ar y Strategaeth Rheoli'r Trysorlys ar gyfer 2022/23 ac argymell y Datganiad i'r Cyngor Llawn.

 

 

9.

Adolygiad Canol Blwyddyn ar Reoli'r Trysorlys 2021/22 pdf eicon PDF 1 MB

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog 151.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 yn cynnwys Adolygiad Canol Blwyddyn ar Reoli'r Trysorlys i'r Pwyllgor Gwaith ei ystyried.

 

Adroddodd y Cynghorydd Robin Williams, Aelod Portffolio Cyllid, fod yr adolygiad canol blwyddyn yn rhan o ofynion adrodd rheoli'r trysorlys o dan God Ymarfer CIPFA a'i fod yn unol â Chynllun Dirprwyo'r Cyngor. Bu'r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio yn craffu ar yr adroddiad yn ei gyfarfod ym mis Rhagfyr 2021.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 fod yr adroddiad yn nodi gweithgarwch Rheoli'r Trysorlys yn ystod hanner cyntaf 2021/22 ac yn cadarnhau bod tanwariant yn y rhaglen gyfalaf wedi arwain at rai newidiadau i ariannu'r rhaglen gyda benthyca wedi'i ddiwygio i lefel is o ganlyniad. Disgwylir i weithgarwch benthyca aros o fewn y ffin weithredol. Mae cyfraddau llog gwell yn golygu bod y Cyngor wedi bod yn ceisio sicrhau'r elw gorau posibl ar fuddsoddiadau gan roi sylw i ddiogelwch a hylifedd ac archwaeth risg y Cyngor. Ni ragwelir unrhyw ddiwygiadau i'r strategaeth ar hyn o bryd.

 

Penderfynwyd derbyn yr Adroddiad ar Adolygiad Canol Blwyddyn Rheoli'r Trysorlys ar gyfer 2021/22 a chyfeirio’r adroddiad at y Cyngor Llawn.

 

10.

Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol Cymunedol nad ydynt yn rhai Preswyl - 2022/23 Ffioedd a Thaliadau pdf eicon PDF 318 KB

I gyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion yn gofyn am gymeradwyaeth y Pwyllgor Gwaith ar gyfer ffioedd a thaliadau arfaethedig am wasanaethau gofal cymdeithasol dibreswyl yn y gymuned ar gyfer 2022/23 i'w ystyried.

 

Adroddodd y Cadeirydd a'r Aelod Portffolio Gwasanaethau Cymdeithasol ei bod yn arferol adolygu'r taliadau mewn perthynas â gwasanaethau cartref yn flynyddol i gyd-fynd â'r adolygiad gan y Llywodraeth Ganolog o lefelau budd-daliadau a phensiwn. Mae'r adroddiad yn nodi'r ffioedd a'r taliadau gofal cymdeithasol dibreswyl arfaethedig yn y gymuned ar gyfer 2022/23 yn unol â Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.

 

Penderfynwyd cymeradwyo'r canlynol –

 

·      Y taliadau am wasanaethau Teleofal fel yr amlinellir yn Nhabl A yr adroddiad

 

Haen 1 – bydd pawb yn talu £50.83 y chwarter

Haen 2 a 3 – bydd pawb yn talu £101.27 y chwarter

 

·      Y Taliadau Blynyddol Teleofal fel yr amlinellir yn Nhabl B yr adroddiad

 

Gwasanaethau a chynnal a chadw £121.07

Gwasanaethau yn unig £78.25

Costau gosod untro £48.41

 

·      Cyfradd o £13.10 yr awr ar gyfer Taliadau Uniongyrchol

 

·      Cadw’r taliad o £10.00 ar gyfer costau gweinyddu mewn perthynas â cheisiadau am Fathodyn Glas a darparu bathodynnau newydd fel yr amlinellir yn yr adroddiad

 

·      Cynnydd o 6.73% i £37.58 yn y ffi am brynu gwasanaethau gofal dydd mewn cartrefi preswyl annibynnol

 

·      Cynnydd o £1.36 yr awr yn y ffioedd Gofal Cartref i gydymffurfio â deddfwriaeth newydd

 

·      Y taliadau am Brydau mewn Gwasanaethau Dydd fel yr amlinellir yn Nhabl C yr adroddiad

 

Prydau mewn Gwasanaethau Dydd i oedolion (ac eithrio pobl ag anableddau dysgu) £6.60

Byrbryd canol dydd yn y Gwasanaethau Dydd i bobl ag anableddau dysgu £2.80

Lluniaeth arall (te/coffi/cacen) yn y Gwasanaethau Dydd £1.55

 

11.

Cartrefi Pobl Hŷn yr Awdurdod Lleol – Gosod y Ffioedd Safonol ar gyfer 2022/23 pdf eicon PDF 369 KB

I gyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad Pennaeth Gwasanaeth Oedolion o ran pennu lefel Ffi Safonol yr Awdurdod ar gyfer cartrefi gofal yr awdurdod lleol ar gyfer y flwyddyn Ebrill, 2022 i Fawrth, 2023 i'r Pwyllgor Gwaith ei ystyried.

Adroddodd y Cadeirydd a'r Aelod Portffolio Gwasanaethau Cymdeithasol ei bod yn ofynnol i Awdurdodau Lleol, o dan Adran 22 o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948, bennu'r Ffi Safonol ar gyfer eu cartrefi. Cyfeiriodd at y sail ar gyfer cyfrifo'r Ffi Safonol fel yr amlinellir yn yr adroddiad a thynnodd sylw at y ffaith mai'r gost amcangyfrifedig fesul preswylydd yr wythnos ar gyfer y flwyddyn hyd at 31 Mawrth 2023 yw £801.53. Penderfynodd y Pwyllgor Gwaith gynyddu'r ffioedd yn unol â chost wirioneddol darparu'r gwasanaeth yn raddol dros gyfnod o ddwy flynedd ac o ganlyniad i'r penderfyniad hwn roedd y ffioedd ar gyfer 2021/22 yn is na chost gofal.  O ystyried mai 2022/23 yw blwyddyn olaf y cynllun 2 flynedd i gynyddu'r ffioedd, cynigir bod y gost lawn yn cael ei chodi am ddarparu'r gwasanaeth ar gyfer 2022/23, sef £801.53 yr wythnos.

Cadarnhaodd Pennaeth Gwasanaethau Oedolion mai'r ffi safonol yw'r ffi y mae'n ofynnol i'r Awdurdod ei chodi ar y preswylwyr hynny yn ei chartrefi sydd â'r modd ariannol i dalu cost lawn eu gofal preswyl ac felly dim ond i gyfran gymharol fach o breswylwyr y mae'n berthnasol.

Penderfynwyd –

 

·         Bod y ffi safonol ar gyfer cartrefi gofal yr Awdurdod ar gyfer y flwyddyn ariannol 1 Ebrill 2022 i 31 Mawrth 2023 yn cael ei phennu ar £801.53 yr wythnos.

 

·         Bod y ffi lawn wythnosol fesul preswylydd ar gyfer cartrefi’r Awdurdod yn cael ei phennu ar lefel sy’n cyfateb i gost lawn y gwasanaeth, sef £801.53 yr wythnos.

 

12.

Ffioedd a Thaliadau 2022/23 pdf eicon PDF 1 MB

I gyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 yn nodi rhestr arfaethedig o ffioedd a thaliadau ar gyfer 2022/23 i'r Pwyllgor Gwaith ei ystyried.

 

Dywedodd y Cynghorydd Robin Williams, Aelod Portffolio Cyllid, fod holl ffioedd a thaliadau'r Cyngor yn cael eu hadolygu fel rhan o'r broses o bennu'r gyllideb. Mae'r Pwyllgor Gwaith wedi gosod amcan bod yr holl ffioedd a thaliadau anstatudol yn cynyddu 3% ar gyfartaledd ar draws pob gwasanaeth unigol. Mae hyn wedi caniatáu i Benaethiaid Gwasanaethau gynyddu ffioedd unigol o fwy neu lai na 3%, ond yn gyffredinol, mae'r cynnydd ar draws y gwasanaeth yn cyfateb i gynnydd o 3%. Mae'r holl ffioedd statudol wedi'u cynyddu yn ôl y swm a bennwyd gan y corff cymeradwyo, lle mae'r cynnydd wedi'i gyhoeddi. Os nad yw'r ffi ddiwygiedig yn hysbys, dangosir y caiff y ffi ei chadarnhau (i'w chadarnhau) a chaiff ei diweddaru unwaith y bydd gwybodaeth am y ffi newydd yn cael ei derbyn. Mae cynnydd mewn ffioedd mewn perthynas â Gofal Cymdeithasol yn destun adroddiadau ar wahân.

 

Tynnodd yr Aelod Portffolio sylw at y ffaith nad yw'r holl ffioedd yn codi yn 2022/23 gyda phrydau ysgol a thaliadau casglu gwastraff gwyrdd yn aros yr un fath.

 

Penderfynwyd cymeradwyo'r atodlen Ffioedd a Thaliadau ar gyfer 2022/23 fel yr amlinellir yn y llyfryn a gyflwynwyd.

 

 

13.

Ffioedd Cartrefi Gofal y Sector Annibynnol 2022/23 pdf eicon PDF 579 KB

I gyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad Pennaeth Gwasanaethau Oedolion mewn perthynas â lefel arfaethedig ffioedd cartrefi gofal yn y sector annibynnol ar gyfer 2022/23 i'w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith.

 

Ar ôl datgan diddordeb personol sy’n rhagfarnu yn y mater hwn, gadawodd y Cynghorydd Richard Dew y cyfarfod tra bod y mater yn cael ei drafod ac aelodau’n bwrw pleidlais arno.

 

Cyflwynodd y Cadeirydd ac Aelod Portffolio Gwasanaethau Cymdeithasol yr adroddiad a'r argymhellion ynddo i'r Pwyllgor Gwaith yn datgan ei bod yn ofynnol i'r Awdurdod Lleol adolygu ffioedd cartrefi gofal y sector annibynnol yn flynyddol i gyd-fynd â newidiadau'r Llywodraeth Ganolog i fudd-daliadau a lefelau pensiwn. Wrth bennu lefelau ar gyfer cartrefi gofal y sector annibynnol, mae angen i'r Cyngor ddangos ei fod wedi ystyried costau'r ddarpariaeth yn llawn wrth bennu ei ffioedd gofal safonol. Gwneir hyn mewn cydweithrediad â'r Awdurdodau eraill yng Ngogledd Cymru a'r Bwrdd Iechyd drwy ddefnyddio Methodoleg Ffioedd Ranbarthol fel y gwnaed mewn blynyddoedd blaenorol.  Bydd yr Awdurdod yn parhau i ddefnyddio'r model hwn ar gyfer 2022/23 sydd wedi adlewyrchu newidiadau mewn deddfwriaeth o ran pensiynau, cyflog byw cenedlaethol a chwyddiant. Dangosir argymhellion Methodoleg Ffioedd Gogledd Cymru yn Nhabl 1 yr adroddiad.

 

Dywedodd Pennaeth Gwasanaethau Oedolion fod yr Awdurdod, yn dilyn trafodaeth gyda'r Swyddog Adran 151, yn bwriadu defnyddio'r fethodoleg Ranbarthol ar gyfer Gofal Preswyl ac ar gyfer yr elfen Gofal Nyrsio (Gofal Cymdeithasol). Mae'r Gwasanaeth yn argymell y dylid cynyddu’r ffioedd ar gyfer Gofal Preswyl Pobl Hŷn bregus eu meddwl (EMI) a Nyrsio EMI 12% gan ei fod wedi'i nodi fel maes lle mae galw a dymuna’r Awdurdod annog darpariaeth bellach. Mae’r gwasanaeth yn argymell bod y ROI ar gyfer lleoliadau EMI Nyrsio yn aros ar 12%, tra bod y ROI ar gyfer EMI Preswyl yn aros ar 10%, mae hyn yn cydnabod y pwysau yn y maes hwn. Yn gyson gyda’r cyfeiriad strategol mae’r Cyngor yn ei gymryd wrth ddatblygu opsiynau amgen i ofal preswyl ar ffurf Tai Gofal Ychwanegol a gofal yn y cartref, a gan roi ystyriaeth ddyledus i fforddiadwyedd y cynnydd arfaethedig ar gyfer Cartrefi Gofal Preswyl, rydym yn cynnig cadw adenillion buddsoddiad is o 9%, fel yn y blynyddoedd blaenorol. Nodir ffioedd arfaethedig Ynys Môn ar gyfer 2022/23 yn Nhabl 2 yr adroddiad ond nid ydynt yn cynnwys yr elfen Gofal Nyrsio am Ddim yr Awdurdod Lleol ar ffioedd nyrsio gan nad yw'r cynnydd canrannol wedi'i gytuno eto.

 

Efallai y bydd angen ystyried ceisiadau unigol gan ddarparwyr ynghylch y ffioedd arfaethedig. Os bydd tystiolaeth glir i ddangos nad yw'r ffi a osodwyd yn ddigonol mewn unrhyw achos unigol, bydd angen i'r Cyngor ystyried eithriadau i'r cyfraddau ffioedd. Cynigir bod unrhyw benderfyniadau o'r fath yn cael eu dirprwyo i'r Aelod Portffolio, y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 a Phennaeth Gofal Cymdeithasol Oedolion.

 

Penderfynwyd –

 

·         Cydnabod Methodoleg Ffioedd Gogledd Cymru fel y'i gweithredwyd hyd yma gan yr Awdurdodau yng Ngogledd Cymru fel sail ar gyfer pennu ffioedd yn Ynys Môn yn ystod  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 13.

14.

Y Strategaeth Ariannol Tymor Canol a Chyllideb 2022/23 pdf eicon PDF 498 KB

I gyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 yn nodi cynigion manwl y gyllideb refeniw ar gyfer 2022/23 i’w adolygu gan y Pwyllgor Gwaith, a chytuno arno.

 

Dywedodd y Cynghorydd Robin Williams, Aelod Portffolio Cyllid, ei bod yn ofynnol i'r Pwyllgor Gwaith gytuno ar nifer o faterion allweddol mewn perthynas â chyllideb 2022/23. Bydd hyn wedyn yn caniatáu i'r argymhellion terfynol gael eu cyflwyno i'r Cyngor Llawn yn ei gyfarfod ar 10 Mawrth, 2022. Y materion y mae angen cytuno arnynt yw Cyllideb Refeniw'r Cyngor a'r Dreth Gyngor sy'n deillio ohoni ar gyfer 2022/23; Strategaeth Ariannol Tymor Canolig y Cyngor wedi iddi gael ei diweddaru a'r defnydd o unrhyw arian untro i gefnogi'r gyllideb.

 

Cyhoeddodd y Cyngor ei gynigion cyllideb ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus ar 26 Ionawr, 2022 a daeth y cyfnod ymgynghori i ben ar 9 Chwefror 2022. Amlinellir y broses ymgynghori â'r cyhoedd a'i chanlyniad yn adran 3 yr adroddiad. Ceir crynodeb o fewnbwn sgriwtini i'r broses o bennu'r gyllideb yn adran 4 o'r adroddiad. Cyfeiriodd Aelod Portffolio Cyllid at rai mân newidiadau yn y ffigurau yn dilyn cadarnhad o'r setliad terfynol a grant ychwanegol o £2,254 i Ynys Môn sy'n mynd â'r gyllideb net i £158.367m. Y cynnydd arfaethedig o 2% yn y Dreth Gyngor i bennu cyllideb gytbwys yw'r isaf yng Ngogledd Cymru ac mae'n adfer y Cyngor i'r sefyllfa yr oedd ynddi ar ddechrau'r Weinyddiaeth hon pan oedd yn ddeunawfed allan o'r ddau awdurdod lleol ar hugain yng Nghymru ar gyfer y dreth gyngor.

 

Tynnodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 sylw at y risgiau i'r gyllideb fel y nodir yn adran 5 o'r adroddiad ac esboniodd eu goblygiadau gyda'r prif risg yn deillio o'r ansicrwydd ynghylch chwyddiant cyflog a phrisiau. Mae'r risgiau eraill yn cynnwys symudiad mewn cyfraddau llog; parhad neu ddiffyg incwm grant ar y lefelau presennol; cyflawni targedau incwm neu beidio; incwm o bremiwm Treth y Cyngor ac o'r Dreth Gyngor safonol a lefel y galw am wasanaethau. Ar ôl ystyried yr holl risgiau fel y'u cofnodwyd a'r camau lliniaru, cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/ Swyddog Adran 151 ei fod o'r farn bod y cyllidebau'n gadarn a bod modd eu cyflawni.

 

Ar ddechrau blwyddyn ariannol 2021/22 pennwyd lefel y balansau cyffredinol ar £9m er mwyn lliniaru'r risg sy'n deillio o ansicrwydd ynghylch lefel y galw am wasanaethau wrth i'r Cyngor ddod allan o bandemig Covid-19. Ers hynny, mae'r risg hon wedi gwella ac yn seiliedig ar y sefyllfa ariannol bresennol, argymhellir y dylid cynnal y balansau cyffredinol ar gyfer 2022/23 ar 5% o'r gyllideb refeniw net, sef tua £8m. Nodir newidiadau i lefel y balansau cyffredinol yn ystod 2021/22 oherwydd penderfyniadau a wnaed i'w defnyddio a/neu resymau eraill yn adran 6 o'r adroddiad.

 

Mae'r sefyllfa economaidd wedi newid yn sylweddol ers i'r Cyngor gymeradwyo'r Strategaeth Ariannol Tymor Canolig (SATC) ym mis Medi 2021. Hefyd, mae'r setliad llywodraeth leol ar gyfer 2022/23 hefyd yn newid y strategaeth yn sylweddol. Mae’r cynnydd a ragwelir yn yr AEF yn rhoi tipyn mwy o sicrwydd yngl  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 14.

15.

Strategaeth Gyfalaf pdf eicon PDF 3 MB

I gyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 yn cynnwys y Strategaeth Gyfalaf a Rhaglen Gyfalaf arfaethedig ddrafft 2022/23 i'r Pwyllgor Gwaith ei ystyried.

 

Adroddodd y Cynghorydd Robin Williams, Aelod Portffolio Cyllid fod Cod Darbodus diwygiedig CIPFA, Medi 2017 yn ei gwneud yn ofynnol i bob awdurdod lunio strategaeth gyfalaf sy'n nodi'r cyd-destun hirdymor ar gyfer gwneud penderfyniadau gwariant cyfalaf a buddsoddi. Nod y gofyniad hwn yw sicrhau bod awdurdodau'n gwneud penderfyniadau cyfalaf a buddsoddi yn unol ag amcanion y gwasanaeth ac yn rhoi ystyriaeth briodol i stiwardiaeth, gwerth am arian, cynaliadwyedd a fforddiadwyedd. Mae CIPFA wedi cyhoeddi canllawiau ychwanegol ar Strategaethau Cyfalaf yn 2021 y mae'r Strategaeth Gyfalaf wedi ceisio eu cynnwys o fewn yr amserlen fer cyn y dyddiad cau ar gyfer Strategaeth Gyfalaf 2022/23. Mae'r canllawiau'n cydnabod efallai na fydd gan Gynghorau'r gallu i fodloni'r canllawiau'n llawn ac mae'n annog awdurdodau lleol i ddatblygu eu strategaethau cyfalaf wrth i amser fynd yn ei flaen. Mae'r Rheolwr Gweithredol yn arwain ar ddull diwygiedig o ymdrin â'r Strategaeth Gyfalaf ar gyfer y cyfnod 2023/24 ymlaen.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 fod y Strategaeth Gyfalaf wedi'i diweddaru i adlewyrchu'r penderfyniadau a wnaed gan gynnwys mabwysiadu'r Cynllun Trosiannol a gwariant cyfalaf arfaethedig ar gyfer 2022/23. Mae cysylltiadau uniongyrchol rhwng y strategaeth â dogfennau strategol a pholisi allweddol eraill gan gynnwys Cynllun y Cyngor, Strategaeth Rheoli'r Trysorlys, Cynllun Ariannol Tymor Canolig, Cynllun Newid yn yr Hinsawdd a Chynllun Busnes CRT. Mae'r broses o greu'r Strategaeth Gyfalaf yn cael ei hadolygu a gallai hynny olygu newidiadau i'w strwythur a'i fformat erbyn iddi gael ei chyflwyno ar gyfer 2023/24 gan gynnwys pwyslais cryfach ar sut mae'n ategu strategaethau a chynlluniau allweddol eraill y Cyngor.

 

Penderfynwyd cymeradwyo ac argymell bod y Cyngor Llawn yn cymeradwyo'r Strategaeth Gyfalaf ar gyfer 2022/23 fel y nodir yn Atodiadau 1 a 2 yn yr adroddiad.

 

16.

Cyllideb Gyfalaf Derfynol 2022/23 pdf eicon PDF 389 KB

I gyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 yn cynnwys y gyllideb gyfalaf arfaethedig derfynol ar gyfer 2022/23 i'r Pwyllgor Gwaith ei hystyried a'i gymeradwyo.

 

Dywedodd y Cynghorydd Robin Williams, Aelod Portffolio Cyllid, fod Cyllideb Gyfalaf o £35.961m yn cael ei chynnig ar gyfer 2022/23. Fel gyda'r cynigion drafft ar gyfer Cyllideb Refeniw 2022/23, roedd y Rhaglen Gyfalaf ddrafft ar gyfer 2022/23 yn destun ymgynghoriad cyhoeddus a cheir crynodeb o’r ymatebion a gafwyd yn adran 2 o'r adroddiad. Mae'n debygol y bydd llithriant ar y Rhaglen Gyfalaf bresennol ar gyfer cynlluniau 2021/22; bydd unrhyw symiau sydd wedi llithro y gofynnir iddynt gael eu dwyn ymlaen i 2022/23 yn amodol ar gymeradwyaeth y Pwyllgor Gwaith.  Cynigir bod diffyg yn y gyllideb gyfalaf yn cael ei dalu o Falansau'r Gronfa Gyffredinol i helpu i gefnogi'r Rhaglen Gyfalaf ar gyfer 2022/23.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran151 fod cyllid cyfalaf ar ffurf y Grant Cyfalaf Cyffredinol a ddarperir fel rhan o'r setliad blynyddol yn mynd yn dynnach gyda mwy o bwyslais yn cael ei roi ar gyllid grant penodol lle dyfernir grantiau i ariannu prosiectau cyfalaf penodol.  Mae'r posibilrwydd o ddefnyddio derbyniadau cyfalaf hefyd yn dod yn fwy cyfyngedig gan fod llai o asedau ar gael i'w gwerthu. Mae'r cyllid grant cyffredinol wedi'i leihau ar gyfer 2022/23 a bydd £1.168m yn cael ei dynnu o'r Balansau Cyffredinol fel mesur tymor byr i wneud iawn am y gwahaniaeth a helpu i ariannu'r rhaglen gyfalaf arfaethedig.

 

Darparwyd adborth o’r pwyllgor sgriwtini gan y Rheolwr Sgriwtini a gyflwynodd adroddiad o gyfarfod y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol ar 28 Chwefror, 2022 lle cyflwynwyd cynigion terfynol y gyllideb gyfalaf ddrafft ar gyfer 2022/23. Cadarnhaodd fod y Pwyllgor wedi cymeradwyo ac argymell cynigion terfynol y gyllideb gyfalaf ddrafft ar gyfer 2022/23 heb unrhyw sylw pellach gyda dau aelod yn ymatal.

 

Adroddodd y Cynghorydd Dafydd Roberts, Cadeirydd Panel Sgriwtini Cyllid fod y Panel, wrth graffu ar y gyllideb gyfalaf arfaethedig ar gyfer 2022/23, wedi archwilio'r prosiectau cyfalaf untro i'w hariannu yn 2022/23 ac wedi bod yn fodlon bod y cyfiawnhad dros y gwariant yn cefnogi'r cynigion a'r gyllideb ar gyfer 2022/23.

 

Penderfynwyd argymell y rhaglen gyfalaf a ganlyn ar gyfer 2022/23 i’r Cyngor Llawn –

 

 

£’000

Cynlluniau 2021/22 a ddygwyd ymlaen

 

1,322

Adnewyddu/Amnewid Asedau

5,042

Prosiectau Cyfalaf Untro Newydd

1,432

Prosiectau Cyfalaf Untro Newydd (i’w hariannu o Gronfeydd Wrth Gefn a Benthyca Digymorth)

  783

Ysgolion yr 21ain Ganrif

8,598

Cyfrif Refeniw Tai

18,784

 

Cyfanswm Rhaglen Gyfalaf a argymhellir ar gyfer 2022/23

 

35,961

 

Cyllidir gan –

 

 

Grant Cyfalaf Cyffredinol

1,486

Benthyca â Chymorth Cyffredinol

2,157

Balansau Cyffredinol

1,681

Ysgolion yr 21ain Ganrif – Benthyca â Chymorth

1,168

Ysgolion yr 21ain Ganrif – Benthyca heb Gymorth

5,261

Cronfa Wrth Gefn y CRT a Gwarged yn ystod y flwyddyn

 10,099

CRT – Benthyca heb Gymorth

6,000

Derbyniadau Cyfalaf

600

Grantiau Allanol

4,854

Cronfeydd Wrth Gefn Clustnodedig

1,195

Benthyca heb Gymorth y Gronfa Gyffredinol

138

Cyllid 2021/22 a Ddygwyd Ymlaen

1,322

           

 

Cyfanswm Cyllid Cyfalaf 2022/23

 

35,961

                                                           

 

17.

Polisi Rhyddhad Disgreswin y Dreth Gyngor pdf eicon PDF 863 KB

I gyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 yn nodi diwygiadau arfaethedig i Bolisi Rhyddhad Dewisol y Dreth Gyngor i'w hystyried gan y Pwyllgor Gwaith.

 

Dywedodd y Cynghorydd Robin Williams, Aelod Portffolio Cyllid, er bod nifer o welliannau'n cael eu cynnig i'r polisi, fod y prif newid yn Adran 13A (1) (c) rhyddhad dewisol ar gyfer dosbarthiadau o anheddau lle cynigir diwygio'r polisi i gefnogi prynwyr tro cyntaf sydd â chysylltiad ag Ynys Môn os ydynt yn prynu annedd sydd wedi bod yn wag yn y tymor hir a bod gwaith atgyweirio neu strwythurol yn cael ei wneud i’r annedd fel y gall pobl fyw ynddi. A. Mae'r newid yn cynnig mewnosod cymal ychwanegol sy'n benodol i brynwyr tro cyntaf sy'n caniatáu i brynwyr tro cyntaf eithrio rhag talu Treth y Cyngor ar yr eiddo am y 12 mis cyntaf o'r dyddiad prynu ac eithriad pellach o'r premiwm eiddo gwag am hyd at 24 mis arall ar yr amod bod y gwaith i adnewyddu'r eiddo a'i ddefnyddio unwaith eto yn parhau, yn symud ymlaen a heb ei gwblhau.

 

Cefnogodd y Pwyllgor Gwaith y diwygiadau arfaethedig i'r Polisi a chroesawodd pawb y cymorth ychwanegol i brynwyr tro cyntaf sydd â chysylltiad ag Ynys Môn.

 

Penderfynwyd argymell i'r Cyngor Llawn y dylid gwneud y diwygiadau fel y'u nodir i Bolisi Rhyddhad Dewisol y Dreth Gyngor fel y nodir yn Atodiad A o 1 Ebrill 2022/23.

 

18.

Cais Posibl y Cyngor Sir i Gronfa Codi’r Gwastad Llywodraeth y DU pdf eicon PDF 231 KB

I gyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygiad Economaidd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd yn gofyn am gymeradwyaeth y Pwyllgor Gwaith i gais posibl y Cyngor i Gronfa Codi’r Gwastad Llywodraeth y DU i'w ystyried.

 

Cyflwynodd y Cynghorydd Carwyn Jones, Aelod Portffolio Datblygu Economaidd a Phrosiectau Mawr yr adroddiad a oedd yn cynnig cyflwyniad posibl i'r Gronfa Codir Gwastad yn canolbwyntio ar becyn o brosiectau Caergybi. Yn seiliedig ar y ffactorau a nodir yn yr adroddiad, ystyrir mai'r dull hwn yw'r cyfle gorau posibl i gael cymeradwyaeth am gyllid. Gwnaed galwad agored am Ddatganiadau o Ddiddordeb (EOI) ar draws Ynys Môn gan y Cyngor ym mis Awst, 2021 a derbyniwyd cyfanswm o 11 Datganiad o Ddiddordeb o Gaergybi. Aseswyd y rhain gan Swyddogion o'r Swyddogaeth Datblygu Economaidd ac yn dilyn hynny daeth yn amlwg y gellid cyflwyno cais cryf yn seiliedig ar Gaergybi. Yn dilyn cymeradwyaeth yr Uwch Arweinwyr, mae Swyddogion, gyda chymorth ymgynghorwyr allanol, wedi bod wrthi’n datblygu cais posibl sy'n canolbwyntio ar Gaergybi. Mae hyn wedi cynnwys sicrhau rhagor o wybodaeth gan bob un o’r 5 Datganiad o Ddiddordeb  a chynnal trafodaethau manwl gyda nhw i asesu aeddfedrwydd, hyfywedd ac aliniad pob prosiect ag egwyddorion a gofynion y Gronfa Codi’r Gwastad.

 

Mae'r broses o ddatblygu a chwblhau'r cais posibl yn parhau ac ni chaiff ei chwblhau tan fis Mawrth. Felly, nid yw'n bosibl rhoi manylion am gwmpas, gwerth, risgiau a rhwymedigaethau posibl ar hyn o bryd. Fodd bynnag, gofynnir am gefnogaeth y Pwyllgor Gwaith fel y gall Swyddogion barhau i ddatblygu'r cais.

 

Penderfynwyd –

 

·         Cymeradwyo'r gwaith parhaus o baratoi cais Cronfa Codi’r Gwastad (LUF) sy'n canolbwyntio ar Gaergybi.

·         Oherwydd ansicrwydd ynghylch y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau, bod y Pwyllgor Gwaith yn dirprwyo’r awdurdod i awdurdodi’r cyflwyniad terfynol i’r Uwch Dîm Arweinyddiaeth (mewn ymgynghoriad â’r Arweinydd).