Rhaglen a Phenderfyniadau

(Cyllideb) - Cyfarfod Hybrid - yn Siambr y Cyngor, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni ac yn Rhithiol drwy ZOOM, Pwyllgor Gwaith - Dydd Iau, 2ail Mawrth, 2023 10.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Cyfarfod Arbennig Hybrid - yn Siambr y Cyngor, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni ac yn Rhithiol drwy ZOOM

Cyswllt: Ann Holmes 

Cyfryngau

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes.

Dogfennau ychwanegol:

2.

Materion brys ardystiwyd gan y Prif Weithredwr neu ei Swyddog Apwyntiedig

Dim materion brys ar adeg anfon y rhaglen hon.

Dogfennau ychwanegol:

3.

Cofnodion pdf eicon PDF 410 KB

Cyflwyno i’w cadarnhau, gofnodion drafft cyfarfod y Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar 14 Chwefror 2023.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Penderfynwyd cadarnhau fod cofnodion drafft cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar 14 Chwefror, 2023 yn gywir. 

 

4.

Monitro Cyllideb Refeniw - Chwarter 3, 2022/23 pdf eicon PDF 1 MB

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Penderfynwyd –

 

·      Nodi’r sefyllfa a amlinellir yn Atodiadau A a B yr adroddiad mewn perthynas â pherfformiad ariannol yr Awdurdod hyd yma a’r alldro disgwyliedig ar gyfer 2022/23.

·      Nodi’r crynodeb o’r cyllidebau wrth gefn ar gyfer 2022/23 y manylir arnynt yn Atodiad C.

·      Nodi’r modd y caiff costau asiantaethau ac ymgynghorwyr eu monitro yn 2022/23 yn Atodiadau CH, D a DD.

·      Argymell i Gyngor Sir Ynys Môn y dylai’r Cyngor llawn gymeradwyo symud £1.074m o falansau cyffredinol Cronfa’r Cyngor i gyllideb datganoledig ysgolion, i gwrdd â chostau cyflogau sy’n uwch nag a ganiatawyd yn wreiddiol yn y gyllideb refeniw ar gyfer 2022/23.

·      Cymeradwyo trosglwyddo’r tanwariant net ar ddigartrefedd ac atal digartrefedd, sef amcangyfrif o £260k, i gronfa wrth gefn glustnodedig ar gyfer digartrefedd ac atal digartrefedd mewn blynyddoedd i ddod. Y rheswm am y tanwariant yw bod Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cynnydd sylweddol o £273k yn y grant Neb Heb Help.

 

5.

Monitro Cyllideb Gyfalaf - Chwarter 3, 2022/23 pdf eicon PDF 563 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Penderfynwyd nodi cynnydd y gwariant a’r derbyniadau yn erbyn cyllideb gyfalaf 2022/23 yn ystod Chwarter 3.

 

6.

Monitro Cyllideb y Cyfrif Refeniw Tai - Chwarter 3, 2022/23 pdf eicon PDF 710 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Penderfynwyd nodi’r canlynol –

 

·      Y sefyllfa a nodir mewn perthynas â pherfformiad ariannol y Cyfrif Refeniw Tai (CRT) ar gyfer Chwarter 3 2022/23.

·      Yr alldro a ragwelir ar gyfer 2022/23.

7.

Adolygiad Canol Blwyddyn ar Reoli'r Trysorlys 2022/23 pdf eicon PDF 926 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Penderfynwyd –

 

·      Argymell i’r Cyngor llawn gymeradwyo’r newid yn y terfyn gwrthbarti i awdurdodau lleol eraill yn unol ag adain 5.3 yr adroddiad.

·      Nodi cynnwys yr adroddiad ac anfon yr adroddiad ymlaen i’r Cyngor Llawn heb unrhyw sylwadau pellach.

8.

Datganiad ar Strategaeth Rheoli Trysorlys 2023/24 pdf eicon PDF 1001 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Penderfynwyd nodi’r Datganiad ar Strategaeth Rheoli Trysorlys 2023/24 ac i anfon yr adroddiad ymlaen i’r Cyngor Llawn heb sylwadau pellach.

 

9.

Polisi Darpariaeth Refeniw Isaf pdf eicon PDF 1 MB

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Penderfynwyd argymell i’r Cyngor Llawn ei fod yn cymeradwyo’r newidiadau canlynol i’r Polisi Darpariaeth Refeniw Isaf am y flwyddyn ariannol gyfredol 2022/23 a thu hwnt  

 

·      Nodi’r adroddiad yn Atodiad 1 ac Adroddiad Grŵp Link Asset sydd wedi’i atodi yn Atodiad 3 ar yr opsiynau Darpariaeth Refeniw Isaf (MRP).

·      Newid tâl MRP y Cyfrif Refeniw Tai (CRT) ar fenthyciadau gyda chefnogaeth gofyniad cyllido cyfalaf (CFR) o 2% o CFR y CRT i ddull Oes Ased – Blwydd-dal ar gyfer 60 mlynedd ar gyfradd llog gyfartaledig y Cyngor sy’n daladwy ar ei fenthyciadau (Opsiwn 1ch yn Nhabl 2 Atodiad 1) o 1 Ebrill 2022.

·      Newid MRP y CRT ar fenthyciadau digefnogaeth CFR o 2% CFR y CRT i ddull Oes Ased – Blwydd-dal ar gyfer 60 mlynedd ar gyfradd llog gyfartaledig y Cyngor sy’n daladwy ar ei fenthyciadau (Opsiwn 2ch yn Nhabl 2 Atodiad 1) o 1 Ebrill 2022.

·      Newid MRP Cronfa’r Cyngor ar fenthyciadau gyda chefnogaeth CFR o ddull Oes Ased – Rhandaliad Cyfartal i ddull Oes Ased – Blwydd-dal ar gyfer 46 mlynedd ar gyfradd llog arferol y Cyngor sy’n daladwy ar ei fenthyciadau (Opsiwn 3ch yn Nhabl 2 Atodiad 1) o 1 Ebrill 2022.

·      Newid MRP Cronfa’r Cyngor ar fenthyciadau digefnogaeth CFR o ddull Oes Ased – Rhandaliad Cyfartal i ddull Oes Ased – Blwydd-dal ar gyfer 27.5 mlynedd ar gyfradd llog gyfartaledig y Cyngor sy’n daladwy ar ei fenthyciadau o 1 Ebrill 2022.

·      Cymeradwyo’r Datganiad Polisi MRP diwygiedig ar gyfer 2022/23 a thu hwnt yn Atodiad 2, sy’n seiliedig ar yr opsiynau yn y pwyntiau bwled uchod.

10.

Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol Di-breswyl yn y Gymuned - Ffioedd a Thaliadau 2023/24 pdf eicon PDF 654 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Penderfynwyd cymeradwyo’r canlynol –

·         Y taliadau ar gyfer gwasanaethau Teleofal, fel yr amlinellir yn Nhabl A yr adroddiad, sef :-

Haen 1 Analog – bydd pawb yn talu £55.90 y chwarter;

Haen 2 a 3 Analog – bydd pawb yn talu £111.41 y chwarter;

Haen 1 Digidol – bydd pawb yn talu £71.50 y chwarter;

Haen 2 a 3 Digidol – bydd pawb yn talu £142.48 y chwarter.

·         Y Taliadau Teleofal Blynyddol, fel yr amlinellir yn Nhabl B, sef:-

Gwasanaethau a Chynnal a Chadw £133.18;

Gwasanaethau’n unig £86.08;

Costau gosod unwaith ac am byth £53.25.

·         Cyfradd o £14.50 yr awr ar gyfer Taliadau Uniongyrchol.

·         Cadw’r taliad o £10.00 ar gyfer gweinyddu ceisiadau am Fathodynnau Glas a darparu bathodynnau newydd fel yr amlinellwyd ym mharagraff 5.

·         Cynnydd o 10.57% i £41.55 yn y ffi ar gyfer prynu gwasanaethau gofal dydd mewn cartrefi preswyl annibynnol.

·         Cynnydd o £1.55 yr awr mewn ffioedd Gofal Cartref i gydymffurfio â deddfwriaeth newydd.

·         Taliadau am Brydau mewn Gwasanaethau Dydd fel yr amlinellir yn Nhabl C, sef :-

Prydau mewn Gwasanaethau Dydd i oedolion (ac eithrio pobl ag anableddau dysgu) - £7.25;

Byrbryd ganol dydd mewn Gwasanaethau Dydd ar gyfer pobl ag anableddau dysgu - £3.05;

Lluniaeth arall (te / coffi / teisen) mewn Gwasanaethau Dydd - £1.70

 

11.

Cartrefi'r Awdurdod Lleol ar gyfer Pobl Hyn - Pennu Ffi Safonol 2023/24 pdf eicon PDF 291 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Penderfynwyd codi am gost lawn y gwasanaeth, sef £863.30 yr wythnos

 

12.

Ffiioedd a Thaliadau 2023/24 pdf eicon PDF 1 MB

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Penderfynwyd cymeradwyo’r Ffioedd a Thaliadau ar gyfer 2023/24, fel yr amlinellir yn y llyfryn atodol i’r adroddiad.

 

13.

Strategaeth Ariannol Tymor Canolig a Chyllideb 2023/24 pdf eicon PDF 514 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Penderfynwyd –

·         Gytuno ar fanylion terfynol cyllideb arfaethedig y Cyngor, fel y dangosir yn Adran 4 Atodiad 1 ac Atodiad 2 yr adroddiad.

·         Nodi argymhelliad y Swyddog Adran 151 y dylai'r Cyngor gadw o leiaf £8.6m o falansau cyffredinol.

·         Nodi sylwadau’r Swyddog Adran 151 ar gadernid yr amcangyfrifon a wnaed, fel y nodir yn Adran 5 Atodiad 1.

·         Argymell i'r Cyngor llawn gyllideb net o £174.569m i'r Cyngor Sir a chynnydd, yn sgil hynny, o 5.00% (£68.40 – Band D) yn y Dreth Gyngor, gan nodi y câi penderfyniad ffurfiol, yn cynnwys praeseptau Heddlu Gogledd Cymru a’r Cynghorau Cymuned, ei gyflwyno i'r Cyngor 9 Mawrth 2023.

·         Y bydd unrhyw wahaniaethau rhwng y setliad amodol a'r setliad terfynol yn cael eu haddasu drwy ddefnyddio'r arian wrth gefn cyffredinol sydd wedi ei gynnwys yng nghyllideb 2023/24, neu drwy gyfrannu i / o gronfeydd wrth gefn cyffredinol y Cyngor er mwyn gosod cyllideb gytbwys.

·         Awdurdodi'r Swyddog Adran 151 i wneud unrhyw newidiadau angenrheidiol cyn cyflwyno'r cynigion terfynol i'r Cyngor;

·         Cytuno y byddir yn gallu tynnu cyllid o'r gyllideb wrth gefn gyffredinol yn sgil unrhyw bwysau, na chawsant eu rhagweld, ar gyllidebau seiliedig ar alw yn ystod y flwyddyn ariannol.

·         Gofyn i'r Cyngor awdurdodi'r Pwyllgor Gwaith i ryddhau hyd at £250k o'r balansau cyffredinol os yw'r gyllideb wrth gefn gyffredinol wedi'i hymrwymo'n llawn yn ystod y flwyddyn.

·         Dirprwyo i'r Swyddog Adran 151 yr hawl i ryddhau cyllid o hyd at £50k o'r gronfa wrth gefn gyffredinol ar gyfer unrhyw eitem unigol. Ni ddylid caniatáu unrhyw eitem dros £50k heb ganiatâd o flaen llaw y Pwyllgor Gwaith.

·         Cadarnhau bod lefel Premiwm y Dreth Gyngor ar gyfer ail gartrefi yn cynyddu i 75%, ac yn aros ar 100% ar gyfer cartrefi gwag.

 

14.

Strategaeth Gyfalaf pdf eicon PDF 2 MB

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Penderfynwyd cefnogi’r Strategaeth Gyfalaf ar gyfer 2023/24 a’i hargymell i’r Cyngor Llawn.

15.

Cyllideb Gyfalaf 2023/24 pdf eicon PDF 587 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Penderfynwyd argymell i’r Cyngor Llawn y

Rhaglen Gyfalaf ganlynol ar gyfer 2023/24:

 

                                                              £’000

 

Cynlluniau 2022/23 a

Ddygwyd Ymlaen                                12,373

Adnewyddu / Amnewid Asedau           5,682

Prosiectau Cyfalaf Un Tro Newydd        386

Ysgolion yr 21ain Ganrif                         5,964

Cyfrif Refeniw Tai                                 13,557

 

Cyfanswm y Rhaglen Gyfalaf a

Argymhellir 2023/24                              37,962

                                                           

 

Cyllidir Drwy:

 

Grant Cyfalaf Cyffredinol                      3,410

Benthyca â Chefnogaeth Cyffredinol   2,158

Benthyca â Chefnogaeth Ysgolion

21ain Ganrif                                               919

Benthyca Digefnogaeth Ysgolion

Yr 21ain Ganrif                                        2,797

Arian Wrth Gefn y CRT a’r Gwarged                                        

yn ystod y flwyddyn                               9,221

Benthyca Digefnogaeth CRT                       0

Derbyniadau Cyfalaf                                 500

Grantiau Allanol                                     6,584

Cyllid 2022/23 a Ddygwyd Ymlaen     12,373

 

Cyfanswm Cyllid Cyfalaf                     37,962

16.

Cynllun y Cyngor 2023-2028 pdf eicon PDF 2 MB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Proffesiwn – AD a Thrawsnewid.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Penderfynwyd argymell bod Cyngor Sir Ynys Môn yn cymeradwyo Cynllun drafft y Cyngor ar gyfer 2023-2028 yn ei gyfarfod ar 9 Mawrth, 2023, yn amodol ar flaenoriaethu’r Iaith Gymraeg yn y rhestr o flaenoriaethau strategol yn yr adroddiad.

 

 

17.

Rhannu Swydd ar y Pwyllgor Gwaith pdf eicon PDF 672 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Penderfynwyd argymell bod y Cyngor yn cytuno i newid y Cyfansoddiad er mwyn:

 

·      Caniatáu i un neu ragor o aelodau rannu swydd fel arweinydd, dirprwy arweinydd ac fel aelodau portffolio o’r Pwyllgor Gwaith;

·      Caniatáu i’r uchafswm o aelodau a ganiateir ar y Pwyllgor Gwaith gael ei ddiwygio i adlewyrchu’r uchafswm statudol pan fydd aelodau o’r Pwyllgor Gwaith yn rhannu swydd; a

·      Nodi’r trefniadau mewn perthynas â chworwm a phleidleisio pan fydd aelodau o’r Pwyllgor Gwaith yn rhannu swydd

(a) yn unol â’r geiriad yn Atodiad 1 yn yr adroddiad,

a

(b) unrhyw newidiadau sydd eu hangen o ganlyniad i’r penderfyniad hwn.

·      Os bydd unrhyw newidiadau i’r trefniadau rhannu swydd a / neu nifer yr unigolion sy’n derbyn cyflog uwch o ganlyniad i’r trefniadau rhannu swydd, bydd y Cyngor yn rhoi gwybod i Banel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol ac yn mynd ati i roi cyhoeddusrwydd i hynny ar unwaith.