Rhaglen, Penderfyniadau a Chofnodion.

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Cyfarfod Hybrid - yn Siambr y Cyngor, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni ac yn Rhithiol drwy ZOOM

Cyswllt: Ann Holmes 

Cyfryngau

Eitemau
Rhif. Eitem

Cyn dechrau busnes y cyfarfod, dywedodd y Cadeirydd y byddai hi'n amrywio'r drefn i gyflwyno eitemau 12, 13, 14 a 15 ar yr agenda gan fod angen iddi hi, y Prif Weithredwr a'r Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd fynd i gyfarfod ganol y bore gyda Gweinidog Llywodraeth Cymru a alwyd ar ôl cyhoeddi'r agenda.

 

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu i’r Cynghorydd Carwyn Jones ddatgan diddordeb personol yn eitem 9 ar yr agenda fel un o weithwyr Grŵp Llandrillo Menai (fel un o'r ymgyngoreion ar y Strategaeth Moderneiddio Cymunedau Dysgu a Datblygu’r Gymraeg).

 

2.

Materion brys ardystiwyd gan y Prif Weithredwr neu ei Swyddog Apwyntiedig

Dim materion brys ar adeg anfon y rhaglen hon.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim materion i'w hadrodd.

 

3.

Cofnodion pdf eicon PDF 184 KB

Cyflwyno i’w cadarnhau, gofnodion drafft cyfarfod y Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar 27 Mehefin 2023.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar 27 Mehefin, 2023 i'w cadarnhau.

 

Penderfynwyd cadarnhau fod cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar 27 Mehefin 2023 yn gywir.

 

4.

Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith pdf eicon PDF 262 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Democratiaeth.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Democratiaeth oedd yn cynnwys Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith ar gyfer y cyfnod rhwng mis Gorffennaf 2023 a mis Chwefror 2024 i'w gadarnhau.

 

Diweddarodd y Pennaeth Democratiaeth y Pwyllgor Gwaith ynghylch newidiadau i'r Blaen Raglen Waith a nodwyd y canlynol –

 

  • Eitem 31 (Cerdyn Sgorio Corfforaethol Chwarter 3 2023/24) fel eitem newydd ar gyfer cyfarfod y Pwyllgor Gwaith ar 19 Mawrth 2024.
  • Sefydlu Awdurdod Iechyd Porthladd newydd fel eitem ychwanegol ar gyfer cyfarfod y Pwyllgor Gwaith ar 26 Medi 2023 yn dilyn yr adroddiad a gyflwynwyd i'r Pwyllgor Gwaith ym mis Rhagfyr 2021.

 

Penderfynwyd cadarnhau Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith wedi ei diweddaru am y cyfnod Medi 2023 – Ebrill 2024 gyda’r newidiadau a nodwyd yn y cyfarfod.

 

5.

Cyfrifon Terfynol Drafft 2022/23 a Defnyddio Cronfeydd Wrth Gefn a Balansau pdf eicon PDF 349 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 oedd yn cynnwys y Datganiad Incwm a Gwariant Cynhwysfawr drafft ar gyfer 2022/23 a'r Fantolen ddrafft ar 31 Mawrth 2023 i'w hystyried gan y Pwyllgor Gwaith. Roedd yr adroddiad hefyd yn darparu gwybodaeth fanylach am falansau cyffredinol y Cyngor a chronfeydd a glustnodwyd gan gynnwys y defnydd arfaethedig o gronfeydd wrth gefn a balansau yn 2023/24 a'r blynyddoedd dilynol.

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cynghorydd Robin Williams, Aelod Portffolio Cyllid. Ynddo amlinellir lefel y balansau cyffredinol a'r cronfeydd wrth gefn a glustnodwyd sydd, ym marn broffesiynol Swyddog Adran 151 y Cyngor, yn lefel sy'n ofynnol i dalu am unrhyw risgiau ariannol sy'n wynebu'r Cyngor, i fodloni'r ymrwymiadau cyllido presennol a wneir gan ystyried unrhyw gyfyngiadau penodol ar ddefnyddio cyllid. Gall lefel y risg a wynebir gan y Cyngor newid a bydd lefel y balansau cyffredinol a'r cronfeydd wrth gefn a glustnodwyd yn cael eu hadolygu dros y misoedd nesaf.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Robin Williams at yr anawsterau ariannol y mae rhai cynghorau yng Nghymru yn eu hwynebu bellach a phwysleisiodd fod y Cyngor, oherwydd ei fod wedi bod yn ddarbodus yn y ffordd y mae wedi rheoli ei gyllid, mewn sefyllfa well yn ariannol. Er bod y Cyngor fel llawer o rai eraill yn dal i wynebu heriau sylweddol yn ystod y blynyddoedd nesaf gyda'r ansicrwydd ynghylch setliad ariannol 2024/25 yn un o’r heriau hynny, bydd y cronfeydd wrth gefn a grëwyd yn rhoi sicrwydd yn erbyn yr heriau a'r risgiau y mae’n debygol o’u hwynebu.

 

Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 fod y datganiadau ariannol drafft ar gyfer 2022/23 wedi'u llofnodi gan Swyddog Ariannol Cyfrifol y Cyngor ar 30 Mehefin 2023, a bydd y gwaith o archwilio’r cyfrifon yn dechrau ym mis Awst 2023. Y bwriad yw cwblhau’r gwaith dros yr haf a chymeradwyo’r cyfrifon archwiliedig terfynol erbyn 30 Tachwedd 2023. Mae'r datganiadau yn ddogfennau technegol a chymhleth ac maent yn cynnwys y Datganiad Incwm a Gwariant Cynhwysfawr drafft (CIES yn Atodiad 2 yr adroddiad) sy'n dangos cost darparu gwasanaethau yn 2022/23 yn unol â gofynion cyfrifo statudol ac mae'n cynnwys Cronfa’r Cyngor a'r Cyfrif Refeniw Tai. Mae'r CIES yn cynnwys costau cyfrifo statudol fel dibrisiant ac addasiadau ar gyfer pensiwn, na chodir amdanynt yn erbyn y Dreth Gyngor ac, felly, maent yn cael eu canslo allan cyn penderfynu ar y sefyllfa derfynol mewn perthynas â balansau cyffredinol, cronfeydd wrth gefn clustnodedig, balans cyfrif y CRT a balansau ysgolion. Mae'r CIES yn dangos mai cost net gwasanaethau oedd £179.599m gyda diffyg o £16.237m ar ddarparu gwasanaethau. Pan wneir addasiadau ar gyfer ailbrisio asedau ac ar gyfer ail-fesur rhwymedigaethau pensiwn, y gwarged net terfynol ar gyfer y flwyddyn yw £132.79m. Yna gwneir addasiadau fel y dangosir yn Nhabl 1 yr adroddiad i benderfynu ar y symudiadau i gronfeydd wrth gefn a balansau gan nodi na ddylai'r ffigwr o £3.258m yn y tabl ymddangos mewn cromfachau gan ei fod yn cynrychioli cyfraniad o gronfeydd wrth gefn a balansau y gellir eu  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 5.

6.

Polisi a Strategaeth Rheoli Risg pdf eicon PDF 2 MB

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 a oedd yn cynnwys y Polisi a'r Strategaeth Rheoli Risg i'w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith.

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cynghorydd Robin Williams, Aelod Portffolio Cyllid. Mae'r polisi rheoli risg, y strategaeth a'r canllawiau cysylltiedig yn amlinellu egwyddorion a dull Cyngor Sir Ynys Môn o reoli risg a'r nod yw darparu proses gyson sy'n sail i'r gwaith o reoli risg ledled y Cyngor, sy'n adlewyrchu lefel a natur ei wahanol swyddogaethau, a defnyddio  sgiliau a gallu i'r eithaf. Mae'r polisi a'r strategaeth yn berthnasol i holl weithwyr ac aelodau'r Cyngor. Dylid annog unrhyw sefydliadau partner i groesawu'r egwyddorion sydd yn y dogfennau. Cafodd y polisi a'r strategaeth rheoli risg eu hadolygu gan y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio yn ei gyfarfod ym mis Ebrill, 2023.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 fod yr adroddiad yn diweddaru polisi a strategaeth rheoli risg y Cyngor a chadarnhaodd nad oedd y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio wedi argymell unrhyw newidiadau i'r polisi na'r strategaeth yn sgil adolygu'r dogfennau. Mae rheoli risg yn rhan annatod o swyddogaethau'r Cyngor ac mae'n berthnasol i bob rhan o fusnes y Cyngor. Mae'r Gofrestr Risg Strategol yn cael ei hadolygu'n rheolaidd gan y Tîm Arweinyddiaeth.

 

Penderfynwyd derbyn a chymeradwyo’r Polisi a Strategaeth Rheoli Risg.

 

7.

Ymestyn Cylch Gorchwyl y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd pdf eicon PDF 930 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro a oedd yn gofyn am farn y Pwyllgor Gwaith ar gynnig i ymestyn cylch gorchwyl y Gwasanaethau Democrataidd.

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cynghorydd Carwyn Jones, Aelod Portffolio Busnes Corfforaethol a Phrofiad y Cwsmer. Yn achos rhai materion, a allai arwain at newidiadau cyfansoddiadol a fydd yn cael eu cymeradwyo gan y Cyngor llawn, mae angen i’r opsiynau, y manteision a’r anfanteision gael eu trafod yn fanwl cyn y gwneir penderfyniad. Gyda’r trefniant presennol, nid yw’n bosib trafod materion mewn llawer o fanylder yng nghyfarfodydd y Cyngor llawn. Yn yr amgylchiadau hyn, cynigir bod y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd yn gwneud y gwaith ar ran y Cyngor a'i fod hefyd yn llunio ymatebion i ymgynghoriadau sy'n ymwneud â materion cyfansoddiadol. Mae opsiynau eraill yn cynnwys sefydlu grŵp gorchwyl a gorffen unigol ar gyfer pob darn o waith, neu sefydlu is-bwyllgor sefydlog o’r Cyngor. Fodd bynnag, o ystyried bod y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd yn ofyniad statudol a'i fod eisoes wedi'i sefydlu, ei fod yn bwyllgor â chydbwysedd gwleidyddol ac y byddai'r cynnig yn cyd-fynd yn dda â'i rôl statudol, ystyrir mai newid ei gylch gorchwyl i gynnwys y cynnig yw'r ateb mwyaf pragmatig ac effeithiol. Ni fydd angen ystyried na thrafod pob newid cyfansoddiadol gan y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd; bydd hynny’n digwydd dim ond pan fydd angen trafodaeth neu benderfyniad ar ddewis lleol neu er mwyn cytuno ar ymateb i unrhyw ymgynghoriad ar faterion sy’n effeithio ar Gyfansoddiad y Cyngor. Y Swyddog Monitro, gyda chytundeb Cadeirydd y Pwyllgor, fydd yn penderfynu p’un ai a fydd mater penodol yn cael ei adolygu gan y Pwyllgor. Bydd y penderfyniad ynghylch a fydd y Pwyllgor yn adolygu mater penodol yn cael ei wneud gan y Swyddog Monitro mewn cytundeb â Chadeirydd y Pwyllgor. Bydd gan y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd y pŵer i wneud argymhellion i'r Cyngor ar y materion hyn yn unig, ni fydd ganddo unrhyw bŵer cyfreithiol ei hun i wneud y newidiadau hynny.

 

Cadarnhaodd y Cynghorydd Carwyn Jones fod y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd wedi ystyried yr adroddiad a'i fod wedi cefnogi'r newidiadau arfaethedig, yn ogystal ag Arweinwyr Grwpiau Gwleidyddol a swyddogion perthnasol yr ymgynghorwyd â nhw hefyd.

 

Penderfynwyd argymell i’r Cyngor Llawn bod cylch gorchwyl y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd yn cael ei ymestyn i gynnwys y cynnig a nodwyd yn yr adroddiad, a bod Cyfansoddiad y Cyngor yn cael ei ddiwygio o ganlyniad i’r newid.

 

8.

Mabwysiadu Cynllun Deisebau Drafft pdf eicon PDF 817 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfawyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro a oedd yn gofyn am farn y Pwyllgor Gwaith ar Gynllun Deisebau drafft.

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cynghorydd Carwyn Jones, Aelod Portffolio Busnes Corfforaethol a Phrofiad y Cwsmer. Mae adran 42 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 yn gosod dyletswydd ar brif gynghorau i lunio a chyhoeddi Cynllun Deisebau. Mae'r Cynllun hwn yn ychwanegol at drefniadau presennol Rheolau Gweithdrefnau’r Cyngor sy’n galluogi aelodau etholedig i gyflwyno deisebau yng nghyfarfodydd y Cyngor. Nid yw’r Cynllun yn disodli’r trefniadau. Mae'r Cynllun fel y nodir yn Atodiad 1 i'r adroddiad yn bodloni'r gofynion statudol newydd ond mae hefyd yn cynnwys elfennau sy'n fater o ddewis lleol. Trafodwyd y rheini gyda'r Tîm Arweinyddiaeth, Penaethiaid Gwasanaethau a swyddogion perthnasol eraill a gyda'r Arweinwyr Grwpiau Gwleidyddol.  Bydd deisebau dilys yn cael eu cyhoeddi ar wefan y Cyngor ond bydd deisebau electronig hefyd yn cael eu rhoi ar wefan y Cyngor gan ddefnyddio'r feddalwedd Modern.Gov sy'n cefnogi system y pwyllgor. Ni fydd y Cynllun yn berthnasol pan fydd proses ymgynghori statudol eisoes yn cael ei dilyn e.e. cynllunio, trwyddedu, moderneiddio ysgolion. Mae'r cynllun yn cynnwys y broses ar gyfer cyflwyno deisebau i'r Cyngor a sut yr ymdrinnir â nhw ac yn amlinellu’r amgylchiadau lle na dderbynnir deisebau. Bydd y cynllun yn cael ei weithredu a'i reoli gan y Gwasanaethau Democrataidd a gyda chytundeb y Cyngor, bydd yn cael ei adolygu gan y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd ar ôl iddo fod yn weithredol am 12 mis.

 

Penderfynwyd argymell bod y Cyngor Llawn yn mabwysiadu’r Cynllun Deisebau drafft yn Atodiad 1.

 

Ar y pwynt hwn (11.45 y. b.) gohiriwyd y cyfarfod am egwyl fer, gan fod eitemau 12, 13, 14 a 15 wedi cael eu dwyn ymlaen i'w hystyried yn nhrefn busnes y cyfarfod.

 

9.

Strategaeth Moderneiddio Cymunedau Dysgu a Datblygu’r Gymraeg pdf eicon PDF 1016 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc oedd yn cynnwys Strategaeth Moderneiddio Cymunedau Dysgu a Datblygu'r Gymraeg i'w hystyried gan y Pwyllgor Gwaith. Roedd yr adroddiad hefyd yn nodi canlyniad yr ymgynghoriad ar y strategaeth a gynhaliwyd rhwng 31 Mawrth a 18 Mai 2023.

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cynghorydd Dafydd Roberts, Aelod Portffolio Addysg a'r Gymraeg a ddywedodd fod sicrhau darpariaeth addysg effeithiol ar gyfer cenedlaethau'r presennol a'r dyfodol yn un o amcanion strategol y Cynllun Corfforaethol. Ffrwd waith allweddol sy'n gysylltiedig â chyflawni'r amcan hwn yw mabwysiadu a chyflwyno strategaeth newydd ar gyfer moderneiddio cymunedau dysgu a datblygu'r Gymraeg.

 

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc yr adroddiad a rhoddodd grynodeb o'r ymatebion i'r ymgynghoriad, sef cyfanswm o tua 300. Mae'r materion a godwyd gan randdeiliaid a phartïon â diddordeb ac ymatebwyr eraill yn cael eu hamlinellu yn yr Adroddiad Ymgynghori. Ymgynghorwyd â dros 150 o blant a phobl ifanc o 28 ysgol a chynhaliwyd nifer o sesiynau briffio ar gyfer Penaethiaid, llywodraethwyr ysgolion ac aelodau etholedig. Mewn ymateb i'r adborth a gafwyd yn ystod y broses ymgynghori, mae Swyddogion wedi ystyried y pwyntiau a godwyd ac wedi gwneud y newidiadau a nodwyd yn yr adroddiad i'r strategaeth ddrafft. Mae'r rhain yn ymwneud â diwygio'r amserlen weithredu o ran darpariaeth Ôl-16, ychwanegu adran newydd ar ddiwedd y strategaeth i gydnabod y ffynonellau gwybodaeth a ddefnyddiwyd ar gyfer y data o fewn y strategaeth a diweddaru'r model llywodraethu a'r adran i adlewyrchu newidiadau llywodraethu. Mae'r data a ddefnyddiwyd yn y strategaeth hefyd wedi'i ddiweddaru i adlewyrchu'r data diweddaraf a ddaeth i'r amlwg yn ystod y broses ymgynghori.

 

Diolchodd y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc i bawb a oedd wedi cymryd rhan yn yr ymgynghoriad ac ymateb iddo.

 

Rhoddodd y Cynghorydd Douglas Fowlie, Cadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol drosolwg o'r materion a drafodwyd gan y Pwyllgor pan gyflwynwyd y Strategaeth Moderneiddio Cymunedau Dysgu a Datblygu’r Gymraeg i’r aelodau yn ei gyfarfod ar 20 Mehefin, 2023. Roedd y materion yn y crynodeb yn cynnwys cadernid y broses ymgynghori a chymharu ag ymgynghoriadau blaenorol o ran ymgysylltu â rhanddeiliaid,  sut mae allbwn yr ymgynghoriad wedi dylanwadu ar y strategaeth, sut mae'r strategaeth yn helpu'r Cyngor i gyflawni amcanion strategol Cynllun y Cyngor, y ffordd y mae'r strategaeth yn ceisio mynd i'r afael â'r nod o ddarparu adeiladau addysg ac addysgol o'r safonau uchaf i ddysgwyr Ynys Môn, yr heriau a'r risgiau wrth geisio gwireddu'r strategaeth a'r modd y byddai gweithredu'r strategaeth yn cael ei fonitro. Codwyd pwynt hefyd ynghylch i ba raddau yr oedd digon o ardaloedd chwarae ar draws yr Ynys yn ffactor. Ar ôl ystyried yr holl wybodaeth a gyflwynwyd penderfynodd y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol argymell y Strategaeth a'r gwelliannau a gynigiwyd o ganlyniad i'r adborth o'r ymgynghoriad i'r Pwyllgor Gwaith.

 

Wrth ystyried yr adroddiad, croesawodd aelodau'r Pwyllgor Gwaith yr adborth gan blant a phobl ifanc gan nodi aeddfedrwydd yr ymatebion hynny. Ni ellid gorbwysleisio pwysigrwydd cael barn plant ysgol yr Ynys ar y strategaeth ddrafft  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 9.

10.

Moderneiddio Ysgolion Môn – Adolygu Dalgylchoedd Ysgol y Graig ac Ysgol Talwrn pdf eicon PDF 2 MB

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc a oedd yn cynnwys adolygiad o ddalgylchoedd Ysgol Talwrn ac Ysgol y Graig i'w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith.

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cynghorydd Dafydd Roberts, Aelod Portffolio Addysg a'r Gymraeg. Roedd yr adolygiad o ddalgylchoedd Ysgol Talwrn ac Ysgol y Graig yn rhan o'r cynnig a gytunwyd gan y Pwyllgor Gwaith ym mis Rhagfyr, 2020 i gynyddu capasiti Ysgol Y Graig i gymryd disgyblion o Ysgol Talwrn a chau Ysgol Talwrn.

 

Amlinellodd y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc y ddau opsiwn posibl, hynny yw, trosglwyddo rhan yng ngogledd a de dalgylch presennol Ysgol Talwrn i ddalgylchoedd Ysgol Llanbedrgoch ac Ysgol Pentraeth yn y drefn honno a chyfuno'r gweddill â dalgylch Ysgol y Graig (opsiwn 1), a'r opsiwn arall fyddai cyfuno'r cyfan o ddalgylch presennol Ysgol Talwrn â dalgylch Ysgol y Graig (opsiwn 2). Yn seiliedig ar ddadansoddiad o fanteision ac anfanteision pob opsiwn fel y nodir yn yr adroddiad, yr opsiwn a ffefrir yw opsiwn 2 ar sail y rhesymeg bod Ysgol y Graig yn yr un dalgylch uwchradd ag Ysgol Talwrn, bydd disgyblion yn trosglwyddo i'r un ysgol uwchradd efo'u ffrindiau ac o bosibl eu brodyr a’u chwiorydd hŷn. Mae Opsiwn 2 hefyd yn fwy cost effeithlon i'r Cyngor a bydd yn lleihau allyriadau carbon.

 

Penderfynwyd cymeradwyo Opsiwn 2 sef cyfuno dalgylch presennol Ysgol Talwrn gyda dalgylch Ysgol y Graig.

 

 

11.

Darpariaeth Cinio am Ddim - Ysgol Bodffordd pdf eicon PDF 121 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc yn gofyn am gymeradwyaeth y Pwyllgor Gwaith ar gyfer cynllun i adleoli caban sydd ar hen safle Ysgol

Corn Hir i Ysgol Bodffordd i'w ystyried.

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cynghorydd Dafydd Roberts, Aelod Portffolio Addysg a'r Gymraeg. Byddai'r cynllun y ceisir cymeradwyaeth y Pwyllgor Gwaith ar ei gyfer yn galluogi Ysgol Bodffordd i ddarparu prydau ysgol am ddim yn unol â chynllun Llywodraeth Cymru i ddarparu prydau ysgol am ddim i bob plentyn mewn ysgolion cynradd.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc, ers cyflwyno prydau ysgol am ddim i bob plentyn mewn Dosbarth Derbyn a Blwyddyn 1 a 2, fod y nifer wedi cynyddu, fel y gwelir yn yr adroddiad, a rhagwelir cynnydd tebyg yn y galw wrth i'r cynllun gael ei ymestyn i gynnwys darpariaeth ar gyfer Blynyddoedd 3, 4,  5 a 6. Mae'r Awdurdod nawr yn bwriadu sicrhau bod ysgolion yn barod i ddarparu prydau ysgol am ddim i bob plentyn ysgol gynradd yn Ynys Môn erbyn 2024. Lle bo angen, mae mwy o staff yn cael eu recriwtio ac mae gwaith addasu adeiladau yn cael ei wneud. Mae'r heriau o ran hwyluso darpariaeth hyfyw yn Ysgol Bodffordd yn fwy sylweddol ac maent yn risg i allu'r Cyngor i gyflawni'r cynllun. Nid yw'r trefniadau presennol yn yr ysgol fel y disgrifir yn yr adroddiad yn addas ar gyfer y galw presennol am brydau ysgol ac nid yw ymestyn y trefniadau i ddarparu ar gyfer mwy o

blant yn ymarferol yn y tymor hir, yn enwedig gan y rhagwelir erbyn mis Medi 2023, y bydd 74 o blant yn mynychu'r ysgol a bydd pob un yn cael cynnig prydau ysgol am ddim a fydd yn golygu cynnydd posibl o rhwng 15 a 30 o brydau ychwanegol y dydd.

 

Mae ymweliadau ar y cyd wedi’u cynnal â'r ysgol rhwng swyddogion y Gwasanaeth Dysgu ac Eiddo a Swyddogion Chartwell ac mae trafodaethau wedi'u cynnal gyda staff y gegin a'r Pennaeth. Penderfynwyd mai’r unig opsiwn hyfyw o ganlyniad i gynllun yr adeilad a’r safle ehangach yw addasu un o’r dosbarthiadau wrth ymyl y gegin i fod yn gantîn, ac adleoli'r ystafell ddosbarth. Gan nad oes lle addas o fewn yr adeilad presennol bydd angen creu lle newydd, a gan fod cynllun a lefelau tir yr ysgol yn golygu y byddai datblygu estyniad yn her cynigir mai gosod caban ar safle'r ysgol sydd ar wahân i'r prif adeilad i'w ddefnyddio fel ystafell ddosbarth yw'r ateb mwyaf priodol. Mae’r ffaith bod caban mewn cyflwr da ar gael ar hen safle Ysgol Corn Hir yn golygu y gellir ei ailddefnyddio a thrwy hynny gynyddu gwerth am arian i'r eithaf. Bydd y gwaith o osod y caban, gan gynnwys sicrhau caniatâd cynllunio yn ogystal â gwneud newidiadau i'r gegin ar safle gweithredol, yn cael ei raglennu dros gyfnod o flwyddyn er mwyn rheoli risgiau a tharfu cyn lleied â phosibl yn unol â'r cynllun amlinellol a'r amserlen a nodir yn yr adroddiad. Rhagwelir y  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 11.

12.

Cynllun Rheoli Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE) – Drafft Terfynol pdf eicon PDF 3 MB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd a oedd yn cynnwys drafft terfynol y Cynllun Rheoli Ardal o Harddwch Eithriadol i'w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith.

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cynghorydd Neville Evans, Aelod Portffolio Hamdden, Twristiaeth a Morwrol a amlinellodd gefndir a gofynion statudol awdurdodau lleol sy'n gweinyddu AHNE gan gynnwys paratoi, cyhoeddi ac adolygu cynlluniau rheoli ar gyfer eu hardaloedd bob pum mlynedd. Mae'r Cynllun Rheoli AHNE drafft wedi bod yn destun proses ymgynghori chwe wythnos ac amlinellir crynodeb o'r ymatebion a dderbyniwyd a'r newidiadau dilynol i'r cynllun terfynol yn yr Adroddiad Ymgynghori yn Atodiad B. Mae'r Cynllun Rheoli AHNE yn ddogfen drawsbynciol ac mae'n cyd-fynd yn llawn â Chynllun newydd y Cyngor a'i chwe amcan strategol, y bydd yn helpu i'w cyflawni. Mae hefyd yn ganolog i’r bobl, y cymunedau a'r busnesau yn yr AHNE sydd, yn ogystal â bod yn ardal o harddwch naturiol eithriadol a rhinweddau arbennig, hefyd yn dirwedd ddeinamig a gweithredol.

 

Dywedodd y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd y bydd y Cynllun Rheoli AHNE drafft terfynol, os caiff ei gymeradwyo gan y Pwyllgor Gwaith, yn cael ei gyflwyno i'r Cyngor Llawn ei gymeradwyo ac y bydd hefyd yn cael ei gyflwyno i Gydbwyllgor Cynghori AHNE fel y fforwm sy'n goruchwylio'r AHNE ac yn cyflawni'r cynllun. Mae’r aelodaeth yn adlewyrchu'r sbectrwm eang o fuddiannau sy'n gysylltiedig â'r AHNE a'i reolaeth. Diolchodd i bawb a oedd wedi neilltuo amser i ymateb i'r ymgynghoriad cyhoeddus a chadarnhaodd fod yr holl ymatebion wedi cael ystyriaeth ofalus.

 

Crynhodd y Cynghorydd Douglas Fowlie, Cadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol drafodaethau'r Pwyllgor mewn perthynas â'r Cynllun Rheoli AHNE drafft o'i gyfarfod a gynhaliwyd ar 20 Mehefin, 2023. Roedd y pwyntiau a godwyd gan y Pwyllgor yn cynnwys cadernid y broses ymgynghori ac i ba raddau roedd yr ymatebion wedi dylanwadu ar y cynllun terfynol. Gofynnwyd cwestiynau am bwrpas Cynllun Rheoli'r AHNE a sut mae'n cyd-fynd â Chynllun newydd y Cyngor. Trafodwyd y risgiau a'r heriau i gyflawni blaenoriaethau'r Cynllun yn ogystal â'r dulliau ar gyfer monitro’r modd y caiff ei gyflawni. Gofynnwyd am sicrwydd ynghylch rôl y Cynllun yn y broses caniatâd cynllunio a rhoddwyd ystyriaeth i'r gwaith partneriaeth sy'n angenrheidiol i gyflawni'r cynllun. Ystyrid bod cyfathrebu yn hanfodol yn hyn o beth. Ar ôl craffu ar y Cynllun drafft a'r wybodaeth bellach a ddarparwyd yn y cyfarfod penderfynodd y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol argymell y Cynllun Rheoli AHNE drafft i'r Pwyllgor Gwaith.

 

Nododd aelodau'r Pwyllgor Gwaith yr ymateb i'r ymgynghoriad gan ystyried, er y gallai nifer yr ymatebion fod wedi bod yn uwch, fod y rhai a gyflwynwyd yn addysgiadol ac yn adeiladol a'u bod wedi cydnabod pa mor gynhwysfawr ydi’r cynllun. Roedd yr Aelodau'n edrych ymlaen at y cynllun gweithredu a’r camau gweithredu.

 

Penderfynwyd argymell y Cynllun Rheoli Ardal o Harddwch Naturiol (2023-2028) newydd i’w gymeradwyo gan y Cyngor Llawn.

 

13.

Cynllun Rheoli Cyrchfan 2023-2028 pdf eicon PDF 2 MB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd a oedd yn cynnwys Cynllun Rheoli Cyrchfan 2023-28 i'w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith.

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cynghorydd Neville Evans, Aelod Portffolio Hamdden, Twristiaeth a Morwrol. Mae'r Cynllun yn amlinellu uchelgeisiau'r Cyngor ar gyfer rheoli cyrchfan dros y pum mlynedd nesaf ac yn ystyried strategaethau lleol a chenedlaethol. Mae'n darparu strategaeth ar gyfer rheoli pob agwedd ar Ynys Môn fel cyrchfan sy'n cyfrannu at ac yn dylanwadu ar brofiad ymwelwyr a bydd yn sicrhau bod rhinweddau arbennig yr Ynys wrth wraidd y ddarpariaeth i dwristiaid ond na fydd yn cael effaith andwyol o ganlyniad. Er bod Twristiaeth yn un o ddiwydiannau pwysicaf Ynys Môn ac yn cyfrannu'n sylweddol at yr economi leol mae angen rheoli ei heffeithiau. Ystyrir bod y Cynllun yn cyflawni'r cydbwysedd hwn wrth groesawu'r ffaith bod Ynys Môn yn gyrchfan boblogaidd i dwristiaid gan hefyd geisio mynd i'r afael â'r effeithiau negyddol posibl sy’n gallu deillio o niferoedd uchel o ymwelwyr â'r Ynys. Bydd cyflwyno'r Cynllun yn cael ei gefnogi gan gynllun gweithredu a grŵp cyflawni (y Sefydliad Rheoli Cyrchfannau) a chroesewir cyfraniad rhanddeiliaid o gymunedau lleol yn ogystal â'r diwydiant twristiaeth a busnesau at gyflawni’r Cynllun.

 

Dywedodd y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd er nad yw'r Cynllun Rheoli Cyrchfan yn ddogfen statudol, ei bod yn ddogfen bwysig i'r Cyngor o ystyried gwerth y diwydiant twristiaeth i'r Ynys. Daeth y pandemig â phwysau ychwanegol ar yr Ynys fel adnodd a sylweddolwyd bod yn rhaid ei reoli'n fwy cynaliadwy wrth symud ymlaen, sy'n golygu gwneud y mwyaf o'r manteision a ddaw yn sgil twristiaeth i'r Ynys fel cyrchfan ond gan leihau'r effeithiau. Mae’r un mor bwysig sicrhau cefnogaeth cymunedau ar yr Ynys gan sicrhau eu bod yn deall gwerth y sector twristiaeth yn lleol ac fel y sector economaidd mwyaf ar Ynys Môn.

 

Rhoddodd y Cynghorydd Dylan Rees, Cadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini Partneriaethau ac Adfywio adroddiad o gyfarfod 21 Mehefin, 2023 y Pwyllgor lle ystyriwyd y Cynllun Rheoli Cyrchfan. Codwyd cwestiynau ynghylch cadernid y broses ymgynghori a sut roedd ei allbwn wedi dylanwadu ar y cynllun diwygiedig. Roedd y Pwyllgor wedi gofyn pam fod Cynllun Rheoli Cyrchfan yn cael ei baratoi a sut mae'n cyd-fynd â Chynllun y Cyngor a dogfennau strategol eraill megis Strategaeth Gwella Canol Trefi Ynys Môn. Ystyriodd yr Aelodau y risgiau a'r heriau wrth gyflawni'r cynllun yn llawn a sut y byddai'n cael ei weithredu drwy'r Sefydliad Rheoli Cyrchfan arfaethedig. Gofynnodd yr Aelodau hefyd sut oedd y Cyngor yn bwriadu gweithio'n effeithiol ar draws gwasanaethau i reoli’r effeithiau a’r cyfleoedd i’r economi ymwelwyr i'r Ynys gan gyfeirio at Niwbwrch a Thraeth Llanddwyn fel enghreifftiau. Ar ôl ystyried y materion hyn a'r ymatebion iddynt, penderfynodd y Pwyllgor argymell y Cynllun Rheoli Cyrchfan a’i fod yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Gwaith ei gymeradwyo. Hefyd gofynnwyd i'r fforwm Cadeiryddion ac Is-gadeiryddion Sgriwtini ystyried priodoldeb rhaglennu eitem ar effaith twristiaeth ar gymunedau lleol ar gyfer cyfarfod o'r Pwyllgor yn y dyfodol.

 

Diolchodd y Pwyllgor Gwaith i’r  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 13.

14.

Gwella Dibynadwyedd a Chydnerthedd ar draws y Fenai pdf eicon PDF 3 MB

Cyflwyno adroddiad ar y cyd gan y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd a’r Pennaeth Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd a oedd yn cynnwys y sylfaen dystiolaeth fanwl a phrif ganfyddiadau adroddiad a gomisiynwyd gan y Cyngor mewn perthynas â gwella dibynadwyedd a chydnerthedd ar draws y Fenai i'w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith. Paratowyd y sylfaen dystiolaeth fanwl a'r prif ganfyddiadau gan Quod, ymgynghoriaeth arbenigol ym maes economeg a chynllunio ar ran Cyngor Sir Ynys Môn i gefnogi cyflwyniad y Cyngor i Gomisiwn Trafnidiaeth Gogledd Cymru ynghylch yr angen am groesfan aml-ddull well dros y Fenai.

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cynghorydd Dafydd Rhys Thomas, Aelod Portffolio Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo. Mae Comisiwn Trafnidiaeth Gogledd Cymru (CTGC) a sefydlwyd gan Lywodraeth Cymru yn cydnabod mewn Datganiad Cynnydd ym mis Ionawr 2023 fod Gogledd Cymru yn dibynnu ar gerbydau preifat a bod diffyg dewisiadau trafnidiaeth deniadol neu realistig yn cyfrannu tuag at ddibynnu ar gerbydau preifat ac yn cyfyngu ar gysylltiadau cymdeithasol, economaidd a diwylliannol. Yn achos Ynys Môn mae'r sefyllfa'n waeth gyda thagfeydd a diffyg cydnerthedd o ran croesfannau’r Fenai yn cael effaith ddifrifol o ran y modd y mae’n cyfyngu ar gysylltiadau cymdeithasol, economaidd a diwylliannol â gweddill y wlad. Yn waeth na hynny, mae’n rhwystro gallu’r ynys i ddenu’r busnesau a’r gweithgarwch economaidd y mae eu hangen arni i leihau cylch o golli swyddi, llai o gyflogaeth ar yr ynys, ynghyd â chynyddu dibyniaeth ar swyddi oddi ar yr ynys. Yn ystod y misoedd diwethaf, mae gwaith atgyweirio i Bont Menai ynghyd â damweiniau ar Bont Britannia wedi achosi tarfu difrifol. Gallai rhwydwaith ffyrdd annibynadwy hefyd effeithio ar sefyllfa Ynys Môn fel y lleoliad gorau posibl ar gyfer buddsoddi yn y diwydiant niwclear yn ogystal â gallu Porthladd Caergybi, a ddynodwyd yn ddiweddar fel Porthladd Rhydd, i gystadlu. Mae perygl gwirioneddol na all y porthladd rhydd wneud y mwyaf o'i effeithiolrwydd oherwydd ansicrwydd a diffyg cydnerthedd y rhwydwaith trafnidiaeth i'r Ynys. Bydd penderfyniad Llywodraeth Cymru, fel yr argymhellwyd gan y Panel Adolygu Ffyrdd i ganslo'r cynnig arfaethedig ar gyfer trydedd groesfan dros y Fenai, yn dwysáu’r heriau a wynebir

gan economi’r ynys ac yn atal camau i roi polisïau allweddol ar waith yn llwyddiannus, sy’n

ceisio ailadeiladu ei sylfaen gyflogaeth a lleihau’r angen i’w thrigolion orfod gadael yr ynys i weithio.

 

Rhyddhaodd CTGC adroddiad interim ym mis Mehefin 2023 ond mae'n croesawu tystiolaeth bellach tan 28 Gorffennaf 2023 cyn cyhoeddi ei argymhellion terfynol. Mae'n hanfodol bod y Cyngor yn cyfrannu at ganlyniad yr adroddiad, ac yn dylanwadu arno.  I'r perwyl hwnnw comisiynwyd Quod gan y Cyngor i baratoi sylfaen dystiolaeth fanwl i gefnogi ei gyflwyniad i'r CTGC am yr angen am groesfan aml-ddull gwell dros y Fenai. Mae'r sylfaen dystiolaeth a'r prif ganfyddiadau sy'n deillio ohono wedi'u cynnwys fel Atodiadau A a B i'r adroddiad yn y drefn honno ac maent yn cadarnhau'r pryderon ynghylch diffyg dibynadwyedd y rhwydwaith ffyrdd a'r pontydd a'i effaith ehangach a'r ffaith ei fod yn ymestyn y tu hwnt i arbedion effeithlonrwydd syml o ran amseroedd teithio. Mae canlyniad adroddiad interim CTGC  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 14.

15.

Porthladd Rhydd Ynys Môn – Diweddariad pdf eicon PDF 251 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd a oedd yn cynnwys crynodeb ar gynnydd a’r penderfyniadau a wnaed mewn perthynas â Rhaglen Porthladd Rhydd Ynys Môn i'w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith.

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cynghorydd Llinos Medi, Cadeirydd ac Aelod Portffolio Datblygu Economaidd a thynnwyd sylw gan y Rheolwr Datblygu Economaidd at y prif bwyntiau i'w hystyried. Mae'r adroddiad yn crynhoi'r datblygiadau hyd yma ac yn amlinellu'r broses i'w dilyn i gyflwyno Achos Busnes Amlinellol yn y cam nesaf yn Rhaglen Porthladd Rhydd Ynys Môn gan gynnwys yr awdurdod dirprwyedig y mae swyddogion yn gofyn amdano i gyfrannu at y gwaith hwn.

 

Mae porthladdoedd rhydd yn bartneriaeth rhwng porthladdoedd gweithredol a'u hawdurdodau lleol lletyol. Maent yn cynnwys dynodi safleoedd penodol lle bydd

busnesau’n derbyn y buddion hyn o fewn ffin allanol nad yw fwy na 45km o’r

porthladd. Yn y cam ymgeisio, mae'r adroddiad yn nodi’r safleoedd penodol a fyddai’n gallu manteisio ar wahanol reolau tollau, trethi a rheoleiddio. Partneriaeth gyhoeddus/preifat rhwng CSYM fel yr awdurdod lletyol a'r corff atebol a Stena Line, gweithredwr Porthladd Caergybi yw Porthladd Rhydd Môn. Mae’n cael ei gefnogi gan randdeiliaid eraill, gan gynnwys perchnogion tir, Prifysgol Bangor a M-Sparc, Grŵp Llandrillo Menai, Uchelgais Gogledd Cymru, yn ogystal â busnesau sector preifat amrywiol, gan gynnwys buddsoddwyr posibl.Mae’r Porthladd Rhydd yn cynnig cyfle i ddenu buddsoddiad sector preifat newydd

sylweddol ar Ynys Môn ar ôl colli cyflogwyr mawr yn ddiweddar.

 

Mae Rhaglen Porthladd Rhydd Ynys Môn bellach yn symud ymlaen i'r cam achos busnes gan gynnwys datblygu a chyflwyno Achos Busnes Amlinellol (ABA) yn ystod y chwech i naw mis nesaf cyn paratoi Achos Busnes Llawn (Abl) sy'n debygol o gymryd hyd at ddeuddeg mis. Nid yw Llywodraethau Cymru a'r DU wedi cyhoeddi'r canllawiau penodol eto ar gyfer Rhaglen Porthladdoedd Rhydd Cymru ond maent wedi nodi y dylai Porthladd Rhydd Ynys Môn fynd rhagddo gan ddefnyddio'r hyn sydd wedi'i gyhoeddi. Pan gyhoeddir canllawiau Cymru, bydd y Cyngor yn ystyried a oes angen newid ei ffordd o weithio. Mae gofynion y broses sydd angen sylw ar unwaith yn cael eu nodi yn yr adroddiad. Er mwyn cefnogi ei gyfraniad i'r broses o ddatblygu'r ABA, mae'r Cyngor wedi penodi Cyfarwyddwr Bid Porthladd Rhydd dros dro drwy Gytundeb Fframwaith y Gwasanaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd ar gyfer materion economaidd. Mae cyllid ar gyfer y rôl hon ar gael gan Lywodraeth y DU.

 

Fel yr awdurdod lletyol caiff CSYM ei ystyried yn Gorff Atebol ar gyfer Porthladd Rhydd Ynys Môn ac yn y rôl honno, bydd yn gyfrifol am amrywiaeth o faterion llywodraethu ac ariannol gan gynnwys rheoli hyd at £26m o gyllid y Llywodraeth os cymeradwyir yr ABA a'r ABLl, yn ogystal â dyletswyddau eraill fel y rhestrir yn yr adroddiad. Bydd angen capasiti ychwanegol i gefnogi'r rôl hon yn bennaf o ran swyddogaethau ariannol a chyfreithiol a Datblygu Economaidd. Bydd ymrwymiad amser hefyd ar gyfer yr uwch swyddogion sydd eu hangen i gymryd rhan yn y strwythurau llywodraethu.  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 15.

16.

Cau Allan y Wasg a'r Cyhoedd pdf eicon PDF 92 KB

Ystyried mabwysiadau’r canlynol

“Dan Adran 100 (A)(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, mae modd cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol, oherwydd y posibilrwydd y caiff gwybodaeth ei rhyddhau a honno’n wybodaeth y gwna Atodlen 12A y Ddeddf a’r Prawf Budd y Cyhoedd eithriad ohoni.”

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

O dan Adran 100 (A) (4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, penderfynwyd gwahardd y wasg a'r cyhoedd o'r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol ar y sail ei bod yn datgelu gwybodaeth eithriedig fel y'i diffinnir ym mharagraffau 12 a 13 o Atodlen 12A i'r Ddeddf honno ac yn y Prawf Budd Cyhoeddus a gyflwynwyd.

 

17.

Porthladd Rhydd Ynys Môn –Llywodraethiant, sefydlu a rhaglen waith

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd a oedd yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am Raglen Porthladd Rhydd Ynys Môn mewn perthynas â'r trefniadau cyfreithiol a masnachol gyda Stena Line i'w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith. Roedd yr adroddiad yn Atodiad 1 yn cynnwys Cytundeb Cydweithio Cychwynnol rhwng Cyngor Sir Ynys Môn a Stena Line.

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Economaidd fod y cytundeb hwnnw’n gytundeb dros dro i sefydlu'r berthynas ffurfiol rhwng CSYM a Stena Line i'w galluogi i oruchwylio'r gwaith sydd ei angen i ddatblygu'r Achos Busnes Amlinellol a'r Achos Busnes Llawn ar gyfer Porthladd Rhydd Môn. O dan y Cytundeb, bydd y Cyngor a Stena Line yn datblygu eu dull o lunio a strwythuro’r berthynas ar gyfer cam gweithredol y Porthladd Rhydd. Bydd hyn yn cynnwys ystyriaeth gan y Cyngor o'i rôl fel awdurdod lleol a threfniadau llywodraethu. Bydd y rhain yn helpu i bennu natur a chynnwys y trefniadau tymor hir rhwng y Cyngor a Stena Line ar gyfer sefydlu a darparu Porthladd Rhydd Môn.  Gofynnir am awdurdod i ymrwymo i'r Cytundeb Cydweithio Cychwynnol rhwng CSYM a Stena Line.

 

Pwysleisiodd y Rheolwr Datblygu Economaidd fod rhai agweddau o'r trefniadau yn amodol ar gyhoeddi canllawiau Cymru ac y byddant yn cael eu hadolygu pan gânt eu cyhoeddi.

 

Wrth ystyried yr adroddiad, trafododd y Pwyllgor Gwaith y trefniadau llywodraethu a sut y byddai cynrychiolaeth ar y Corff Llywodraethu Porthladd Rhydd yn cael ei benderfynu, y safleoedd a allai elwa o'r Porthladd Rhydd fel safleoedd treth /neu dollau dynodedig a'r ffactorau dan sylw, a'r cyfyngiadau o ran gwneud penderfyniadau ar hyn o bryd oherwydd y diffyg arweiniad. Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor Gwaith fod y cytundeb y ceisir awdurdod ar ei gyfer yn gytundeb cychwynnol i allu bwrw ymlaen â materion i gamau ABA ac ABLl ac y byddai'r Pwyllgor Gwaith yn cael ei ddiweddaru wrth i faterion eraill godi a datblygu.

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r cam o ymrwymo i’r Cytundeb Cydweithio Cychwynnol rhwng CSYM a Stena Line yn Atodiad 1 yn yr adroddiad.