Rhaglen, Penderfyniadau a Chofnodion.

Cyfarfod Hybrid - yn Ystafell Bwyllgor 1, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni ac yn Rhithiol drwy ZOOM, Pwyllgor Gwaith - Dydd Mawrth, 26ain Medi, 2023 10.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Cyfarfod Hybrid - yn Siambr y Cyngor, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni ac yn Rhithiol drwy ZOOM

Cyswllt: Ann Holmes 

Cyfryngau

Eitemau
Rhif. Eitem

Cyn dechrau busnes y cyfarfod, dywedodd y Cadeirydd y byddai'n amrywio'r drefn ar gais y Prif Weithredwr a gyda chytundeb y Pwyllgor Gwaith er mwyn ystyried eitem 12 yn gynt gan fod yn rhaid i'r Prif Weithredwr adael ganol bore i fynd i gyfarfod gyda Gweinidog Llywodraeth Cymru a oedd wedi'i alw ar fyr rybudd. Cytunodd y Pwyllgor Gwaith i newid y drefn

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafodd yr un datganiad o ddiddordeb ei dderbyn.

 

2.

Materion brys ardystiwyd gan y Prif Weithredwr neu Swyddog a benodwyd ganddo

Dim materion brys ar adeg anfon y rhaglen hon.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim materion i'w hadrodd.

 

3.

Cofnodion pdf eicon PDF 227 KB

Cyflwyno i’w cadarnhau, gofnodion drafft cyfarfod y Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar 18 Gorffennaf 2023.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar 18 Gorffennaf 2023 i’w cadarnhau.

 

Penderfynwyd cadarnhau fod cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar 18 Gorffennaf 2023 yn gywir.

 

4.

Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith pdf eicon PDF 259 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Democratiaeth.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Democratiaeth a oedd yn cynnwys Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith ar gyfer y cyfnod rhwng mis Hydref, 2023 a Mai, 2024 i’w gadarnhau.

 

Diweddarodd y Pennaeth Democratiaeth y Pwyllgor Gwaith ynghylch newidiadau i'r Blaen Raglen Waith a nodwyd y canlynol –

 

  • Eitem 1 (Cynllun Rheoli Asedau Priffyrdd) ac Eitem 2 (Cynllun Trawsnewid Cerbydau Fflyd) sy'n benderfyniadau dirprwyedig - mae’r dyddiad cyhoeddi wedi'i newid i’r cyfnod rhwng Medi a Hydref 2023.
  • Eitem 4 (Adroddiad Blynyddol Rheoli'r Trysorlys 2022/23) fel eitem newydd ar gyfer cyfarfod 24 Hydref 2023 y Pwyllgor Gwaith.
  • Aildrefnwyd Eitem 5 (Strategaeth Cyfranogiad y Cyhoedd 2023-28) o gyfarfod 26 Medi 2023 y Pwyllgor Gwaith i'w gyfarfod ar 24 Hydref 2023.
  • Eitem 6 (Cais awyr dywyll rhyngwladol ar gyfer rhan dde-orllewinol Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Ynys Môn (AHNE) fel eitem newydd ar gyfer cyfarfod 24 Hydref y Pwyllgor Gwaith.
  • Eitem 12 (Sylfaen y Dreth Gyngor 2024/25) fel eitem newydd ar gyfer cyfarfod y Pwyllgor Gwaith ar 28 Tachwedd 2023.
  • Eitem 14 (Moderneiddio Cyfleoedd Dydd: Anableddau Dysgu – Ardal Caergybi) fel eitem newydd ar gyfer cyfarfod y Pwyllgor Gwaith ar 28 Tachwedd 2023.
  • Eitem 26 (Moderneiddio Cyfleoedd Dydd: Anableddau) fel eitem newydd ar gyfer cyfarfod y Pwyllgor Gwaith ar 20 Chwefror 2024 (Cadarnhawyd gan Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol fod yr eitem hon yn berthnasol i’r Ynys gyfan yn hytrach nag eitem 14 sy'n benodol i Gaergybi)
  • Eitem 29 (Cynllun Busnes Cyfrif Refeniw Tai 2024-2054) fel eitem newydd ar gyfer cyfarfod 19 Mawrth 2024 y Pwyllgor Gwaith.

 

Penderfynwyd cadarnhau Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith wedi ei diweddaru am y cyfnod Hydref 2023 – Mai 2024 gyda’r newidiadau a amlinellwyd yn y cyfarfod.

 

5.

Monitro'r Cerdyn Sgorio - Chwarter 1, 2023/24 pdf eicon PDF 344 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Proffesiwn – AD a Thrawsnewid.               

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Proffesiwn a Thrawsnewid oedd yn cynnwys y Cerdyn Sgorio Corfforaethol ar gyfer Chwarter 1 2023/24 i'w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith.

 

Cyflwynodd y Cynghorydd Carwyn Jones, Aelod Portffolio Busnes Corfforaethol a Phrofiad Cwsmeriaid yr adroddiad a oedd yn portreadu sefyllfa'r Cyngor yn erbyn ei amcanion llesiant ar ddiwedd Chwarter 1 2023/24.  Roedd yn galonogol nodi bod 89% o'r dangosyddion perfformiad yn perfformio uwchlaw neu o fewn 5% o oddefgarwch i'w targedau ar gyfer y chwarter. Mae'r adroddiad yn tynnu sylw at nifer o straeon cadarnhaol mewn perthynas â dangosyddion NERS, nifer y cartrefi gwag sy'n cael eu defnyddio unwaith eto, Gwasanaethau Oedolion, rheoli gwastraff, digartrefedd, addasiadau drwy’r grant cyfleusterau i'r anabl a chynllunio, yn benodol dangosyddion 35 a 37 (canran y ceisiadau cynllunio a benderfynir ar amser a chanran yr achosion gorfodi yr ymchwiliwyd iddynt o fewn 84 diwrnod yn y drefn honno). Mae'r dangosyddion Perfformiad Iechyd Corfforaethol a'r dangosyddion gwasanaeth cwsmeriaid hefyd yn perfformio'n dda, ac ar ddiwedd y chwarter cyntaf mae'r Cyngor yn Wyrdd ac ar y targed o ran rheoli presenoldeb gyda 2.1 diwrnod wedi eu colli i absenoldeb fesul FTE yn y cyfnod. Mae nifer fach o ddangosyddion yn tangyflawni sy’n cynnwys Dangosydd 09 (canran y ceisiadau Rhyddid Gwybodaeth yr ymatebwyd iddynt ar amser) lle mae'r perfformiad yn erbyn y targed yn 84%. Er bod hyn yn welliant ar y perfformiad ar gyfer yr un chwarter y llynedd, mae'r targed wedi cael ei godi o 80% i 90% ac felly'r sgôr yw Ambr ar gyfer chwarter cyntaf 2023/24. Bydd y perfformiad ar gyfer hyn a dangosyddion 29 a 30 mewn perthynas â Gwasanaethau Tai (newid unedau gosod a rhent a gollwyd oherwydd bod eiddo’n wag) a dangosydd 36 mewn perthynas â'r Gwasanaeth Cynllunio (nifer yr apeliadau cynllunio a wrthodwyd) sy’n is na'r targed yn parhau i gael eu monitro gan y Tîm Arweinyddiaeth i sicrhau gwelliannau i'r dyfodol. Mae adran rheoli ariannol y cerdyn sgorio yn rhagweld gorwariant o ran y gyllideb am y flwyddyn wrth i rai cyllidebau ddod dan bwysau cynyddol oherwydd effeithiau'r argyfwng costau byw. Bydd y sefyllfa ariannol yn cael ei hadolygu'n fanwl.  Y gobaith yw bod y data a gyflwynir yn rhoi sicrwydd i'r Pwyllgor Gwaith am aeddfedrwydd y trafodaethau ynghylch perfformiad o ran cydnabod meysydd sy’n perfformio’n dda a nodi a lliniaru meysydd sydd heb berfformio cystal. Mae'r ffocws yn parhau i fod ar gynnal perfformiad wrth symud ymlaen a sicrhau y gwneir cynnydd a gwelliannau yn y meysydd a nodwyd.

Rhoddodd y Cynghorydd Douglas Fowlie, Cadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol adborth o gyfarfod 19 Medi, 2023 y Pwyllgor lle craffwyd ar adroddiad cerdyn sgorio Chwarter 1 2023/24. Roedd aelodau'r Pwyllgor wedi croesawu'r perfformiad cadarnhaol yn gyffredinol ond gofynnwyd am sicrwydd y byddai'r dangosyddion lle nodwyd tanberfformiad yn gwella. Gan nodi y rhagwelir gorwariant o ran y gyllideb ar gyfer blwyddyn ariannol 2023/24, gofynnodd y Pwyllgor sut mae pwysau cyllidebol yn cael eu lliniaru a'u monitro. Gofynnodd yr Aelodau gwestiynau hefyd am y newidiadau i'r cerdyn  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 5.

6.

Adroddiad Perfformiad / Llesiant Blynyddol 2022/23 Drafft pdf eicon PDF 1 MB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Proffesiwn – AD a Thrawsnewid.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Proffesiwn a Thrawsnewid oedd yn cynnwys yr Adroddiad Perfformiad / Lles Blynyddol ar gyfer 2022/23 i'w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith.

 

Cyflwynodd y Cynghorydd Carwyn Jones, Aelod Portffolio Busnes Corfforaethol a Phrofiad Cwsmer yr adroddiad sy'n dadansoddi perfformiad dros y flwyddyn ariannol flaenorol yn erbyn y gwelliannau a'r blaenoriaethau a amlinellwyd gan y Cyngor. Mae'r adroddiad yn dangos bod 54% o'r blaenoriaethau a nodwyd yn y Cynllun Trosiannol, sef y cynllun gwaith manwl ar gyfer 2022/23 wedi'u cwblhau, mae 29% yn parhau i gael eu cwblhau yn 2023/24, mae 13% ar ei hôl hi, ond gyda mesurau lliniaru byddant yn debygol o ddal i fyny ac mae 4% wedi'u canslo.  Mae'r adroddiad hefyd yn amlinellu'r camau a gefnogwyd gan y Cyngor yn ystod y flwyddyn fel rhan o'i ymateb i’r argyfwng costau byw. At ei gilydd, mae'r Cyngor wedi dangos cynnydd da ac ymrwymiad mewn gwahanol feysydd dros y flwyddyn ddiwethaf fel yr adlewyrchir gan yr adroddiad a chofnodir nifer o lwyddiannau arbennig.  Dangosodd canlyniadau'r Cerdyn Sgorio am y flwyddyn berfformiad da hefyd gyda 71% o'r dangosyddion yn wyrdd yn erbyn targedau ac 20% o ddangosyddion eraill o fewn 5% i’w targedau. Bydd gwaith pellach yn cael ei wneud i fynd i'r afael â'r nifer fach o ddangosyddion sy’n Ambr neu’n Goch yn ogystal â'r rhai sy'n dangos dirywiad o ran perfformiad o flwyddyn i flwyddyn.  Mae'r Ddogfen Gyflawni Flynyddol yn nodi'r gwaith y bydd y Cyngor yn ei wneud yn ystod 2023/24 i gyflawni dyheadau Cynllun y Cyngor 2023-2028. Rhaid llongyfarch staff y Cyngor nid yn unig am eu gwaith caled ar hyd y flwyddyn ond hefyd am eu hymrwymiad i gyflawni prosiectau a ffrydiau gwaith sy'n ychwanegol at eu dyletswyddau o ddydd i ddydd..

Amlinellodd y Cynghorydd Douglas Fowlie y pwyntiau trafod gan y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol wrth iddo ystyried yr Adroddiad Perfformiad Blynyddol yn ei gyfarfod ar 19 Medi 2023. Roeddent yn cynnwys y trefniadau ar gyfer codi ymwybyddiaeth o lwyddiannau'r Cyngor; y mesurau a roddwyd ar waith a gafodd yr effaith gadarnhaol hon ar berfformiad a ph’un ai y gellid dysgu unrhyw wersi o'r broses honno i'w rhannu ar draws y sefydliad; effaith yr argyfwng costau byw ar allu'r Cyngor i wasanaethu pobl Ynys Môn, a'r meysydd perfformiad y mae angen eu blaenoriaethu yn seiliedig ar risg yn ystod 2023/24. Ar ôl ystyried y materion hyn a'r sicrwydd a ddarparwyd gan Swyddogion ac Aelodau Portffolio, penderfynodd y Pwyllgor argymell yr Adroddiad Perfformiad a Lles Blynyddol ar gyfer 2022/23 i'r Pwyllgor Gwaith fel adlewyrchiad teg a chyflawn o waith yr Awdurdod dros y cyfnod.

Dywedodd y Prif Weithredwr fod llawer o resymau dros fod yn falch o'r Adroddiad Perfformiad Blynyddol ar gyfer 2022/23 a bod yr adroddiad hefyd yn dangos ymrwymiad cryf y Cyngor i weithredu’n unol ag egwyddorion Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol wrth ystyried lles trigolion yr Ynys yn awr ac yn y dyfodol wrth wneud penderfyniadau neu gymryd camau gweithredu. Mae llwyddiannau'r Cyngor, fel y'u cofnodwyd yn yr adroddiad, yn fwy  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 6.

7.

Monitro Cyllideb Refeniw 2023/24 - Chwarter 1 pdf eicon PDF 497 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 oedd yn nodi perfformiad ariannol gwasanaethau'r Cyngor ar ddiwedd Chwarter 1, 2023/24 i'w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith.

 

Cyflwynodd y Cynghorydd Robin Williams, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Portffolio Cyllid yr adroddiad gan ddweud bod y Cyngor, ar 9 Mawrth 2023, wedi gosod cyllideb net ar gyfer 2023/24 gyda gwariant gwasanaeth net o £174.569m i'w ariannu o incwm y Dreth Gyngor, NDR a grantiau cyffredinol yn ogystal â £3.780m o gronfeydd wrth gefn cyffredinol. Mae hyn yn cynnwys cyfanswm ar gyfer argyfyngau cyffredinol ac eraill sy'n dod i gyfanswm o £3.109m. Cafodd y gyllideb ar gyfer y Premiwm Treth Cyngor ei chynyddu £0.943m, i £2.893m. Gosodwyd cyllideb gytbwys gyda chynnydd y cytunwyd ar y Dreth Gyngor o 5%. O ran y flwyddyn flaenorol, nid yw'r gyllideb ar gyfer 2023/24 yn cynnwys unrhyw ofynion ar wasanaethau i wneud arbedion. Yn seiliedig ar ddata diwedd Chwarter 1, rhagwelir mai'r sefyllfa ariannol gyffredinol ar gyfer 2023/24 gan gynnwys Cyllid Corfforaethol a chronfa’r Dreth Gyngor fydd gorwariant o £0.744m sy'n cynrychioli 0.43% o gyllideb net y Cyngor ar gyfer 2023/24. Cyfeiriodd yr Aelod Portffolio Cyllid at nifer o heriau sy'n wynebu'r Cyngor ar hyn o bryd nad ydynt yn amlwg ar unwaith o'r ffigur pennawd, mae'r rhain yn cynnwys pwysau cyllidebol yng Ngwasanaethau Plant a Gofal Cymdeithasol Oedolion, ansicrwydd ynghylch y cynnig cyflog ar gyfer 2023/24 nad yw wedi'i setlo eto a'r argyfwng costau byw parhaus sy'n debygol o arwain at gynnydd yn y galw am wasanaethau'r Cyngor. Fodd bynnag, mae'n anodd rhagweld ffigurau terfynol diwedd y flwyddyn yn gywir yn seiliedig ar ffigurau un chwarter yn unig, ac wrth i weddill y flwyddyn ariannol fynd rhagddi, bydd effaith yr uchod yn cael ei gynnwys mewn adroddiadau monitro yn y dyfodol wrth i bethau ddod yn gliriach.

 

Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 y gall llawer ddigwydd yn y naw mis hyd at ddiwedd y flwyddyn ariannol a fydd yn effeithio ar y gyllideb. Dywedodd ei bod yn bwysig bod y Cyngor yn lleihau'r gorwariant ac yn ceisio aros o fewn y gyllideb ar ddiwedd y flwyddyn er mwyn diogelu'r lefel bresennol o gronfeydd wrth gefn a glustnodwyd a'r balansau cyffredinol. Bydd hyn yn rhoi mwy o opsiynau i'r Cyngor pan ddaw’n amser pennu cyllideb 2024/25. Ar ôl cael trafodaethau ar lefel uchel ynghylch a oes angen unrhyw gamau unioni i leihau gwariant ac a ddylid rhoi unrhyw gyfarwyddyd i wasanaethau i'r perwyl hwnnw, y casgliad yw nad yw hynny'n angenrheidiol ar hyn o bryd. Fodd bynnag, mae trafodaethau'n parhau gyda Chyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol a Phennaeth Gwasanaethau Oedolion ynglŷn â rheoli gwariant yn y gwasanaethau hynny gan mai nhw yw’r gwasanaethau sydd dan bwysau mwyaf ac sy'n achosi'r gorwariant cyffredinol. Mae'r opsiynau ar gyfer lleihau costau yn gyfyngedig oherwydd bod y rhan fwyaf o gostau'r Cyngor yn gysylltiedig â chontractau a rhwymedigaethau y disgwylir i'r Cyngor eu hanrhydeddu ac a fyddai'n anodd eu newid yn ystod y flwyddyn. Bydd y rheolwyr yn parhau i adolygu'r  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 7.

8.

Monitro Cyllideb Gyfalaf 2023/24 - Chwarter 1 pdf eicon PDF 493 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 a oedd yn nodi perfformiad ariannol cyllideb gyfalaf y Cyngor ar ddiwedd Chwarter 1, 2023/24 i'w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith.

 

Cyflwynodd y Cynghorydd Robin Williams, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Portffolio Cyllid yr adroddiad gan gadarnhau mai cyfanswm y gyllideb gyfalaf ar gyfer 2023/24 oedd £58.141m sy'n cynnwys y CRT, llithriad o 2022/23, cynlluniau ychwanegol a ariannwyd gan grantiau a ychwanegwyd at y rhaglen a rhai newidiadau cyllido. Er mai'r gwariant a broffiliwyd hyd at 30 Mehefin 2023 oedd £7.177m, y gwariant gwirioneddol yw £6.255m neu £7.016m pan fydd gwariant a ymrwymwyd gwerth £761k yn cael ei ystyried. Y rheswm am hyn yw bod nifer o gynlluniau cyfalaf yn gwario tuag at ddiwedd y flwyddyn ariannol. Mewn achosion lle mae llithriad yn digwydd, bydd y cyllid hefyd yn llithro i'r flwyddyn ariannol nesaf ac ni fydd unrhyw gyllid yn cael ei golli.

 

Pwysleisiodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 nifer y cynlluniau cyfalaf sydd bellach yn cael eu hariannu gan grantiau fel y nodir yn Atodiad C i'r adroddiad. Gan fod cyllid cyfalaf craidd wedi lleihau mewn termau real, sy’n golygu ei bod yn fwy o her fyth buddsoddi yn asedau presennol y Cyngor, mae'r Cyngor yn dibynnu fwyfwy ar grantiau i ariannu ei weithgareddau cyfalaf.

 

Tra bod aelodau'r Pwyllgor Gwaith yn cydnabod gwerth grantiau i gefnogi prosiectau cyfalaf y Cyngor, roeddent hefyd yn cydnabod y gall grantiau hefyd greu eu heriau eu hunain o ran amseru, a bod amodau ynghlwm wrthynt sy'n clymu gwariant i feysydd nad ydynt efallai'n flaenoriaeth i'r Cyngor ac yn aml yn cael eu dyrannu yn gystadleuol. Cyfeiriodd y Cynghorydd Dafydd Roberts, Aelod Portffolio Addysg a'r Iaith Gymraeg at faterion diweddar gyda choncrit Raac mewn ysgolion sy'n destun pryder o ran gwariant cyfalaf. Gofynnodd a fyddai unrhyw gyllid ychwanegol ar gael i helpu gyda'r gwaith adfer.

 

Dywedodd y Dirprwy Brif Weithredwr nad oes cadarnhad swyddogol o gyllid ychwanegol wedi'i dderbyn ond bod trafodaethau gyda Llywodraeth Cymru yn parhau.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 fod y gwaith i ddelio â mater concrit Racc wedi codi'n annisgwyl ac felly nad oedd wedi’i gynnwys yn y rhaglen sy’n golygu ei fod yn defnyddio staff a fyddai fel arall yn gweithio ar gynlluniau  a raglennwyd gan y Cyngor. Mae capasiti mewnol i gyflawni'r rhaglen gyfalaf yn ffactor o ran llithriant, yn enwedig pan fydd materion annisgwyl yn codi a bod angen delio â nhw gan arwain at ohirio’r broses o fwrw ymlaen â phrosiectau cyfalaf a gymeradwywyd.

 

Manteisiodd y Cynghorydd Robin Williams ar y cyfle i ddiolch i bawb a fu'n rhan o'r ymateb i'r mater concrit Raac mewn dwy o ysgolion yr Ynys ac am addasu i sicrhau bod addysg yn dal i gael ei ddarparu mewn amgylchiadau anodd.

 

Penderfynwyd –

·      Nodi cynnydd y gwariant a’r derbyniadau yn erbyn cyllideb gyfalaf 2023/24 yn ystod chwarter 1.

·       Cymeradwyo'r cynlluniau ychwanegol sy'n dod i gyfanswm o £5.442m i'r rhaglen gyfalaf a diwygiadau i gyllid yn unol ag Atodiad C  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 8.

9.

Monitro Cyllideb y Cyfrif Refeniw Tai 2023/24 - Chwarter 1 pdf eicon PDF 215 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 a oedd yn nodi perfformiad ariannol y cyfrif Refeniw Tai ar gyfer Chwarter 1 2023/24 i'w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith.

 

Cyflwynodd y Cynghorydd Robin Williams, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Portffolio Cyllid yr adroddiad sy'n amlinellu perfformiad refeniw a chyllideb gyfalaf y Cyfrif Refeniw Tai am y cyfnod a'r alldro a ragwelir ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar 1 Mawrth 2024. Mae'r adroddiad yn dangos y gyllideb refeniw sydd â gwarged a gynlluniwyd o £8,044k. Y gyllideb cyfalaf gros ar gyfer 2023/24 yw £19,988k. Mae grantiau, a chyllid arall gwerth

£6,898k, wedi gostwng y gyllideb net i £13,090k. Roedd cyfuniad o’r gyllideb refeniw a’r gyllideb gyfalaf wedi’i haddasu yn rhoi diffyg a gynlluniwyd o £5,046k, a fyddai’n cael ei gyllido o gronfa wrth gefn y CRT. Mae cyllideb refeniw CRT yn dangos gorwariant o £8k o'i gymharu â'r gyllideb a broffiliwyd fel y manylir yn Atodiad A i'r adroddiad. Mae gwariant cyfalaf £25k yn is na'r gyllideb a broffiliwyd. Mae’r tanwariant hwn a ragwelir yn golygu gostyngiad o’r un swm yn y swm sydd i’w gyllido o’r cyfrif refeniw CRT. Mae’r balans ar gael wedyn i gyllido prosiectau sydd wedi eu gohirio tan y flwyddyn nesaf. Y diffyg a ragwelir gan gyfuno refeniw a chyfalaf bellach yw £4,278k, sydd £768 yn llai na'r gyllideb.

 

Balans agoriadol cronfa wrth gefn y CRT oedd £12,107k. Roedd y gyllideb ddiwygiedig

yn caniatáu defnyddio £5,046k o’r balans hwn. Fodd bynnag, bydd y rhagolygon

diwygiedig a nodir uchod yn defnyddio £4,278k yn unig. Bydd hyn yn rhoi balans o £7,829k

yn y gronfa wrth gefn ar ddiwedd y flwyddyn ariannol. Mae’r balans hwn wedi’i glustnodi ar

gyfer dibenion penodol, felly, nid yw ond ar gael i gyllido gwariant y CRT yn y dyfodol.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 fod y gwarged ar gyllideb refeniw y CRT yn cael ei ail-fuddsoddi i gynnal y stoc tai presennol i Safonau Ansawdd Tai Cymru ac i ddatblygu stoc tai newydd. Mae Atodiad C i'r adroddiad yn rhoi trosolwg o'r gyllideb ddatblygu newydd ar gyfer 2023/24 a chynlluniau ar gyfer tai newydd ar draws yr Ynys y bwriedir iddi eu hariannu.

 

Roedd y Pwyllgor Gwaith yn falch o nodi'r cynlluniau a gynlluniwyd/oedd ar waith a restrir yn Atodiad C sy'n barhad o ddull y Cyngor o gynyddu'r stoc tai ar yr Ynys o flwyddyn i flwyddyn.  Cyfeiriodd y Cynghorydd Gary Pritchard, Aelod Portffolio Gwasanaethau Plant, Ieuenctid a Thai at y chwe uned ychwanegol ym Miwmares ar y rhestr yn Atodiad C a oedd bellach wedi'u cwblhau a'u neilltuo i unigolion lleol - roedd wedi ymweld â nhw’n ddiweddar. Canmolodd y fflatiau gan ddweud eu bod o ansawdd uchel ac yn gaffaeliad gwerthfawr i'r dref yn ogystal â bod yn welliant amlwg o gymharu â’r safle fel yr oedd cynt.

 

Penderfynwyd nodi’r canlynol –

 

·      Y sefyllfa a nodir mewn perthynas â pherfformiad ariannol y Cyfrif Refeniw Tai (CRT) ar gyfer chwarter 1 2023/24.

·      Yr alldro a  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 9.

10.

Cynllun Ariannol Tymor Canolig 2024/25 - 2025/26 pdf eicon PDF 477 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 oedd yn cynnwys y Cynllun Ariannol Tymor Canolig ar gyfer 204/25 i 2025/26 i'w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith.

 

Cyflwynodd y Cynghorydd Robin Williams yr adroddiad oedd yn nodi’r adnoddau tebygol y bydd eu hangen ar y Cyngor ar gyfer y ddwy flynedd ariannol nesaf ynghyd â manylion am sut mae'r Cyngor yn bwriadu cydbwyso'r adnoddau hynny â'r cyllid sydd ar gael.

 

Tynnodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/ Swyddog Adran 151 sylw at wybodaeth yn yr adroddiad. Roedd yn cynnwys sefyllfa ariannol gyfredol y Cyngor o ran y gyllideb a osodwyd ym mis Mawrth 2023 a sut y cafodd ei hariannu, cymhariaeth â blynyddoedd blaenorol yn dyddio'n ôl i 2018/19 o ran yr amrywiad yn y bwlch cyllido dros y cyfnod o chwe blynedd,  y cyd-destun ehangach mewn perthynas â'r rhagolygon economaidd cenedlaethol a'r gyllideb a'r newidiadau yng nghyllid Llywodraeth Cymru dros y degawd diwethaf. Nodwyd bod pwysau ar gyllideb Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd yn golygu bod y posibilrwydd i ddarparu cyllid ychwanegol ar gyfer llywodraeth leol yn ystod y ddwy flynedd nesaf yn gyfyngedig ac ar gyfer pob gostyngiad o 1% yng nghyllid Llywodraeth Cymru byddai’n rhaid i'r Dreth Gyngor gynyddu 3 i 4% i wneud iawn am y gwahaniaeth. Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi setliad cyllid dangosol o 3% ar gyfer llywodraeth leol Cymru gyfan ar gyfer 2024/25 ond nid oes unrhyw wybodaeth ar gyfer 2025/26. Mae hyn yn seiliedig ar adolygiad gwariant Llywodraeth y DU yn 2021 nad oedd yn cynnwys y cynnydd sylweddol mewn chwyddiant a welwyd yn 2022 a 2023.

 

Ar ddiwedd blwyddyn ariannol 2022/23 nododd y Cyngor danwariant net o £1.212m (2.37%) gyda'r holl wasanaethau ac eithrio Gofal Cymdeithasol Plant ac Oedolion a Thai a nododd danwariant yn erbyn eu cyllideb. Arweiniodd hyn at gynnydd ym malansau cyffredinol y Cyngor i £13.966m. Gan fod £3.789m o'r cronfeydd wrth gefn hyn wedi'u neilltuo fel cyllid ar gyfer cyllideb 2023/24, lefel y cronfeydd wrth gefn wrth symud ymlaen yw £10.186m sy'n cyfateb i 5.83% o'r gyllideb refeniw net ar gyfer 2023/24. Mae hyn yn cymharu â'r ffigur targed o £8.7m (5%) a gymeradwywyd gan y Pwyllgor Gwaith.

 

Aeth y Swyddog Adran 151 drwy adran 5 o'r adroddiad gydag Aelodau’r Pwyllgor Gwaith. Roedd yr adran yn nodi'n fanwl y meysydd a ystyrir fel y prif bwysau cyllidebol sy'n wynebu'r Cyngor yn ystod cyfnod y Cynllun a'u heffaith bosibl ar gyllideb y Cyngor wrth symud ymlaen. Mae'r rhain yn cynnwys codiadau cyflog, costau ynni, y galw ar wasanaethau Plant ac Oedolion, cynnydd mewn digartrefedd a chwyddiant cyffredinol yn ogystal â nifer o benawdau eraill lle mae pwysau ar ffurf costau cynyddol, ymrwymiadau a/neu angen am wasanaethau. Gan ystyried yr holl faterion a ddisgrifir yn adran 5 a sefyllfa incwm y Cyngor y cyfeirir ati yn adran 6 gan ddefnyddio'r rhagdybiaethau a nodir yn Atodiad 2 i'r adroddiad, amcangyfrifir y bydd cyllideb gwariant refeniw net y Cyngor yn cynyddu £13.072m yn 2024/25 (i £187.641m) a £5.368m yn 2025/26 (i £193.082m),  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 10.

11.

Llythyr Blynyddol gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru ar gyfer 2022/2023 pdf eicon PDF 682 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro oedd yn cynnwys y Llythyr Blynyddol gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru ar gyfer 2022/23 i'w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith. Mae'r Llythyr yn crynhoi perfformiad y Cyngor mewn perthynas â'r cwynion gwasanaeth a dderbyniwyd a'u canlyniadau yn ystod y flwyddyn dan sylw yn ogystal ag achosion yn ymwneud ag ymyrraeth yr Ombwdsmon. Mae adran ar gwynion a wnaed o dan y Cod Ymddygiad i Aelodau hefyd wedi'i chynnwys.

 

Cyflwynwyd y negeseuon pennawd fel yr oeddent wedi’u cynnwys yn y Llythyr Blynyddol gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro, sef 25 o gwynion gwasanaeth i OGCC yn erbyn y Cyngor gostyngiad o 29 o gymharu â’r flwyddyn flaenorol. O'r rheini, nid oedd angen i Swyddfa'r Ombwdsmon ymchwilio i 20 ohonynt. Ymdriniwyd â'r 5 arall trwy ddatrysiad cynnar. Gwnaed un gŵyn Cod Ymddygiad yn erbyn aelod o'r Cyngor Sir ond ni ymchwiliwyd iddi, a gwnaed un gŵyn hefyd yn erbyn Cynghorydd Tref / Cymuned yn ystod 2022/23 ond cafodd ei datrys cyn ymchwilio iddi. Yn ei Llythyr Blynyddol mae Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru yn gofyn i'r Cyngor ddwyn y llythyr i sylw'r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio a'r Pwyllgor Gwaith, gan barhau i ymwneud â gwaith safonau cwynion OGCC, rhoi hyfforddiant i staff, gweithredu'r polisi enghreifftiol a darparu data cwynion cywir ac amserol. Rhoddodd y Swyddog Monitro sicrwydd bod y camau hynny ar y gweill a chadarnhaodd fod y Cyngor yn darparu data cwynion chwarterol yn unol â'r amserlen a bennir gan yr Asiantaeth Safonau Cwynion. Bydd cadarnhad o'r uchod yn cael ei anfon at OGCC yn dilyn y cyfarfod hwn.

 

Penderfynwyd –

·      Nodi a derbyn y Llythyr Blynyddol gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru (OGCC) 2022/23

·      Cefnogi’r dasg o weithredu Polisi Enghreifftiol OGCC

·      Cefnogi’r dasg o ddatblygu strategaeth hyfforddi

·      Cefnogi’r dasg o ddatblygu asesiad anghenion hyfforddi a chyflwyno hyfforddiant addas yn ôl yr angen

·      Awdurdodi'r Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor) / Swyddog Monitro i ysgrifennu at OGCC er mwyn cadarnhau bod y Pwyllgor Gwaith wedi rhoi ystyriaeth ffurfiol i’w Llythyr Blynyddol ac yn cytuno i weithredu’r elfennau y cyfeirir atynt yn ei Llythyr Blynyddol

·      Rhoi sicrwydd y bydd y Cyngor yn parhau i fonitro cwynion a thrwy hynny roi'r wybodaeth sydd ei hangen ar yr Aelodau i graffu ar berfformiad y Cyngor.

 

12.

Ymateb Cyngor Sir Ynys Môn i'r Adolygiad Darpariaeth Brys - Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru pdf eicon PDF 10 MB

Cyflwyno adroddiad gan y Prif Weithredwr.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Prif Weithredwr oedd yn cynnwys ymateb y Cyngor i Wasanaethau Tân ac Achub Gogledd Cymru – Adolygiad o Ddarpariaeth Frys i'w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith. Cafodd dogfennau a gyhoeddwyd fel rhan o'r ymgynghoriad eu cynnwys yn Atodiad B i'r adroddiad ynghyd ag adborth y Cyngor i'r opsiynau a gyflwynwyd o dan Atodiad A.

 

Cyflwynodd y Prif Weithredwr yr adroddiad a chyfeiriodd at bwysigrwydd yr ymgynghoriad o ystyried y gallai ei ganlyniad ddylanwadu ar natur y gwasanaeth ar yr Ynys, yn benodol amseroedd ymateb brys. Mae'r rhan fwyaf o gyllid Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn deillio o ardoll sy'n cael ei osod yn flynyddol ac sydd wedyn yn cael ei rannu rhwng chwe awdurdod Gogledd Cymru ar sail poblogaeth. Daw cyfraniad y Cyngor i'r ardoll o'i gyllideb refeniw net ond nid yw manylion yr ardoll wedi'u cynnwys ar ddatganiad y Dreth Gyngor. Cyfeiriodd y Prif Weithredwr at y pwysau ariannol y mae gwasanaethau cyhoeddus yn gweithredu oddi tanynt ar hyn o bryd ac y gallai'r ymgynghoriad fod yn arwydd o bethau i ddod o ran y wasgfa ar gyllideb y Gwasanaeth Tân a’r posibilrwydd o ad-drefnu’r ddarpariaeth a allai olygu bod rhai ardaloedd yn talu mwy am lai. Safbwynt y Cyngor yw ei fod yn dymuno derbyn y gwasanaeth gorau posibl heb unrhyw gynnydd mewn costau os yw’n bosibl, ac mae’n gwrthwynebu unrhyw ostyngiad yn lefel y gwasanaeth ar yr Ynys. Mae'r Cyngor hefyd yn awyddus i weld bod gwasanaethau rheng flaen yn cael eu diogelu a bod ystyriaeth yn cael ei rhoi i nodi arbedion effeithlonrwydd mewn meysydd eraill o fewn strwythur gweithredu ac arferion gwaith Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru e.e. costau canolog a hyfforddiant.

 

Cadarnhaodd y Rheolwr Gweithredol (Tîm Arweinyddiaeth) fod y ddogfen ymateb ddrafft yn Atodiad A yn crynhoi safbwynt y Cyngor a'r prif bryderon a godwyd. Mae'r Prif Swyddog Tân wedi darparu ymateb i sawl cwestiwn ac mae'r ddogfen wedi'i diwygio'n unol â hynny.

 

Dywedodd y Cynghorwyr, Carwyn Jones a Gary Pritchard, eu bod yn cefnogi gwrthwynebiad y Cyngor i Opsiwn 3 a fyddai'n golygu cau un Orsaf Ar Alw ar yr Ynys, sef yr un ym Miwmares. Mynegwyd eu pryderon am yr effaith ar ardal dde-ddwyrain yr Ynys y byddai gweithredu'r opsiwn hwn yn ei chael o ran amseroedd ymateb ynghyd â diogelwch cymunedau’r ardal yn sgil hynny. Byddai’r ddarpariaeth agosaf o bosibl yn gorfod dod o’r ochr draw i’r Fenai a oedd yn golygu cymhlethdod ychwanegol pe bai tagfeydd ar y pontydd dros y Fenai.  Mae hyn yn cynrychioli lefel is o wasanaeth sy'n cynyddu'r bygythiad i fywyd. Gwnaed pwyntiau pellach am yr angen am fwy o dryloywder wrth adrodd am gostau'r Gwasanaeth Tân ac Achub gan gynnwys costau canolog a bod gwybodaeth am ardoll y Gwasanaeth yn cael ei chynnwys ar filiau'r Dreth Gyngor er gwybodaeth y cyhoedd a'r trethdalwr. Gwnaed awgrym y byddai adolygiad lleol o'r gwasanaeth yn ddefnyddiol i weld p’un ai a yw'r Cyngor yn cael gwerth am arian am ei gyfraniad.  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 12.

13.

Cymeradwyo Strategaeth Gwella Canol Trefi Ynys Môn pdf eicon PDF 2 MB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd ar ganlyniad y broses ymgynghori ar y cynllun strategol ar gyfer gwella Canol Tref Ynys Môn i'w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith, ynghyd â Strategaeth Gwella Canol Trefi Ynys Môn.

 

Cyflwynodd y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd yr adroddiad gan ddweud bod y strategaeth ddrafft wedi'i chymeradwyo ar gyfer ymgynghoriad gan y Pwyllgor Gwaith ym mis Ebrill 2023. Yn dilyn hynny, cynhaliwyd proses o ymgynghori â'r cyhoedd a rhanddeiliaid eraill yn ystod mis Mehefin a mis Gorffennaf 2023 i gasglu barn a chael cefnogaeth i’r strategaeth arfaethedig. Mae'r strategaeth derfynol bellach yn cael ei chyflwyno i'w mabwysiadu ac ystyriwyd y sylwadau a dderbyniwyd mewn ymateb i'r ymarfer ymgynghori. Yn gyffredinol, cydnabyddir pwysigrwydd canol trefi yn economaidd, yn gymdeithasol ac yn ddiwylliannol ac felly mae'r strategaeth yn cynnig camau i gefnogi canol trefi i ddod yn ganolfannau hyfyw a ffyniannus. Ystyrir bod y camau hyn yn briodol ac yn gyraeddadwy ac yn ymateb i bryderon lleol gan gofio hefyd bod rhai materion y tu hwnt i reolaeth y Cyngor. Er y bydd gwireddu'r strategaeth yn llawn yn dibynnu a fydd cyllid allanol ar gael ai peidio, y ffordd orau ymlaen at gyflawni ei hamcanion fydd drwy weithio mewn partneriaeth â rhanddeiliaid lleol a phobl leol.

 

Rhoddodd y Rheolwr Datblygu Economaidd drosolwg o'r ymateb i'r ymgynghoriad, sef cyfanswm o 84. Roedd y rhan fwyaf o'r ymatebwyr yn ymateb fel unigolion ond cafwyd sawl ymateb gan gynghorau tref, cynghorwyr sir a sefydliadau lleol. Roedd nifer yr ymatebion gan fusnesau lleol yn isel ond roedd yn cynnwys un gan Ffederasiwn y Busnesau Bach. Cafwyd trawstoriad da o ran diddordeb daearyddol a chofrestrwyd lefel uchel o gytundeb gyda'r cynigion allweddol yn y ddogfen. Roedd 85% o'r ymatebion yn cytuno bod angen cynllun strategol ac roedd 85% yn cytuno â nod arfaethedig y cynllun strategol cyffredinol. Os caiff y strategaeth ei chymeradwyo, bydd yn sail ar gyfer cynlluniau lleol yr ymgynghorir arnynt yn fanwl yn lleol a bydd rhai o awgrymiadau ar gyfer trefi penodol a gyflwynir fel rhan o'r ymgynghoriad ar y strategaeth yn cael eu bwydo i'r broses cynllunio creu lleoedd lleol. Ceisir cyllid gan Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU a fyddai'n darparu'r adnoddau i gyflawni ail gam y broses y flwyddyn nesaf.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr ei bod yn bwysig nodi bod y strategaeth yn ddogfen anstatudol ac o ystyried y pwysau presennol onid teg yw awgrymu bod y gwaith o baratoi adroddiadau yn gymesur a bod adnoddau'n cael eu defnyddio lle byddant yn gwneud y gwahaniaeth mwyaf h.y. drwy ganolbwyntio ar gydweithio lleol ac ar wneud gwahaniaeth gwirioneddol yn y trefi eu hunain.

 

Mae'r Pwyllgor Gwaith yn cydnabod yr angen am strategaeth i fynd i'r afael â’r newid yn anghenion a chymeriad canol trefi ar Ynys Môn ac i nodi cyfleoedd i wella a gwneud y defnydd gorau ohonynt.

 

Penderfynwyd cymeradwyo Strategaeth Gwella Canol Trefi Ynys Môn.

 

14.

Cau Allan y Wasg a'r Cyhoedd pdf eicon PDF 91 KB

Ystyried mabwysiadau’r canlynol

 

“Dan Adran 100 (A)(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, mae modd cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol, oherwydd y posibilrwydd y caiff gwybodaeth ei rhyddhau a honno’n wybodaeth y gwna Atodlen 12A y Ddeddf a’r Prawf Budd y Cyhoedd eithriad ohoni.”

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

O dan Adran 100 (A) (4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, penderfynwyd gwahardd y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol ar y sail y golygai ddatgelu gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 14, Atodlen 12A o’r Ddeddf honno ac yn y Prawf Budd y Cyhoedd a gyflwynwyd.

 

15.

Prynu Tir Gorfodol - Tir Cyflogaeth yn Llangefni

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd oedd yn gofyn am gymeradwyaeth y Pwyllgor Gwaith i Swyddogion ddechrau paratoadau i brynu tir yn orfodol o dan adran 226 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 i'w ystyried.

 

Roedd yr adroddiad yn nodi'r amgylchiadau a'r sefyllfa bresennol mewn perthynas â'r bwriad i brynu tir yn orfodol a gofynnodd am awdurdod dirprwyedig ar gyfer Swyddogion mewn ymgynghoriad ag Arweinydd y Cyngor a'r aelod perthnasol o’r Pwyllgor Gwaith i ddechrau  paratoadau a fyddai'n galluogi'r Cyngor yn ddiweddarach i ymgymryd â'r broses Gorchymyn Prynu Gorfodol (CPO) os na ellir sicrhau’r tir dan sylw drwy gytundeb. Darparwyd gwybodaeth ategol yn ymwneud â phwerau CPO y Cyngor yn Atodiad B i'r adroddiad.

 

Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor Gwaith am y broses CPO, yr amserlenni, a'r trefniadau cyllido arfaethedig a'r ystyriaethau ariannol yn yr achos hwn. Amlinellwyd y rhesymau pam fod y Cyngor yn ystyried defnyddio ei bwerau CPO o dan yr amgylchiadau a ddisgrifiwyd, a darparwyd cyfiawnhad. Mewn ymateb i gwestiynau a godwyd gan aelodau'r Pwyllgor Gwaith ynghylch risgiau posibl i'r Cyngor, rhoddodd Swyddogion sicrwydd ynghylch y mesurau sy'n cael eu cymryd i ddiogelu a sicrhau safbwynt y Cyngor yn y mater hwn.

 

Penderfynwyd awdurdodi Swyddogion i gychwyn paratoadau i brynu tir yn orfodol o dan Adran 226 Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 fel yr amlinellir yn yr adroddiad (yn cynnwys cwblhau ymarfer cyfeirio tir ffurfiol o dan Ddeddf Caffael Tir 1981 a/neu unrhyw statud berthnasol neu gysylltiedig arall ar y cyfan o’r ardal sydd ei hangen i wireddu’r datblygiad arfaethedig) ac i fwrw ymlaen yn unol â’rargymhellion ynddo.