Rhaglen, Penderfyniadau a Chofnodion.

Cyfarfod Hybrid - yn Ystafell Bwyllgor 1, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni ac yn Rhithiol drwy ZOOM, Pwyllgor Gwaith - Dydd Mawrth, 24ain Hydref, 2023 10.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Cyfarfod Hybrid - yn Siambr y Cyngor, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni ac yn Rhithiol drwy ZOOM

Cyswllt: Ann Holmes 

Cyfryngau

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd yr un datganiad o ddiddordeb.

 

2.

Materion brys ardystiwyd gan y Prif Weithredwr neu ei Swyddog Apwyntiedig

Dim materion brys ar adeg anfon y rhaglen hon.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nid oedd dim i’w adrodd.

 

3.

Cofnodion pdf eicon PDF 232 KB

Cyflwyno i’w cadarnhau, gofnodion drafft cyfarfod y Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar 26 Medi 2023.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod diwethaf y Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar 26 Medi 2023 i’w cadarnhau.

 

Penderfynwyd cadarnhau bod cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar 26 Medi 2023 yn gywir.

 

4.

Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith pdf eicon PDF 271 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Democratiaeth.                

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd, i’w gadarnhau, adroddiad y Pennaeth Democratiaeth a oedd yn cynnwys Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith am y cyfnod rhwng Tachwedd 2023 a Mehefin 2024.

 

Rhoddodd y Pennaeth Democratiaeth ddiweddariad i’r Pwyllgor Gwaith ynglŷn â’r newidiadau i’r Flaen Raglen Waith a nodwyd y canlynol :-

 

·         Eitem 8 – (Porthladd Rhydd – Diweddariad) sef eitem newydd ar gyfer cyfarfod y Pwyllgor Gwaith ar 28 Tachwedd 2023.

·         Eitem 9 – (Porthladd Rhydd – Cymeradwyo’r Achos Busnes Amlinellol [eitem gyfrinachol]) sef eitem newydd ar gyfer cyfarfod y Pwyllgor Gwaith ar 28 Tachwedd 2023.

·         Eitem 13 – (Rheoli Trysorlys 2023/2024 – adolygiad 6 mis) fel eitem newydd ar gyfer cyfarfod y Pwyllgor Gwaith ar 23 Ionawr 2024.

·         Eitem 14 – (Cyllideb Refeniw Ddrafft 2024/2025) sef eitem newydd ar gyfer cyfarfod y Pwyllgor Gwaith ar 23 Ionawr 2024.

·         Eitem 15 – (Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol Di-breswyl yn y Gymuned – Ffioedd a Thaliadau 2024/2025) sef eitem newydd ar gyfer cyfarfod y Pwyllgor Gwaith ar 23 Ionawr 2024.

·         Eitem 16 – (Ffioedd Cartrefi Gofal y Sector Annibynnol 2024/2025) sef eitem newydd ar gyfer cyfarfod y Pwyllgor Gwaith ar 23 Ionawr 2024.

·         Eitem 17 – (Ffioedd a Thaliadau 2024/25) sef eitem newydd ar gyfer cyfarfod y Pwyllgor Gwaith ar 23 Ionawr 2024.

·         Eitem 18 – (Rhenti Tai y CRT a Thaliadau’r Gwasanaeth Tai 2024/2025) sef eitem newydd ar gyfer cyfarfod y Pwyllgor Gwaith ar 23 Ionawr 2024.

·         Eitem 20 – (Moderneiddio Cyfleoedd Dydd: Anableddau Dysgu [Ardal Caergybi]) sef eitem a symudwyd o gyfarfod 28 Tachwedd 2023 i gyfarfod y Pwyllgor Gwaith ar 23 Ionawr 2024.

·         Eitem 22 – (Datganiad ar y Strategaeth Rheoli Trysorlys 2024/2025) sef eitem newydd ar gyfer cyfarfod y Pwyllgor Gwaith ar 20 Chwefror 2024.

·         Eitem 23 – (Cartrefi Henoed yr Awdurdod Lleol – Gosod y Tâl Safonol ar gyfer 2024/2025) sef eitem newydd ar gyfer cyfarfod y Pwyllgor Gwaith ar 20 Chwefror 2024.

 

Eitemau a drefnwyd ar gyfer cyfarfod arbennig o’r Pwyllgor Gwaith (Cyllideb) – Mawrth 2024 (dyddiad i’w gadarnhau)

 

Eitem 28 – (Adroddiad Monitro’r Gyllideb Refeniw – Chwarter 3, 2023/24) sef eitem a symudwyd o’r cyfarfod i’w gynnal ar 20 Chwefror 2024.

Eitem 29 – (Adroddiad Monitro’r Gyllideb Gyfalaf – Chwarter 3, 2023/2024) sef eitem a symudwyd o’r cyfarfod i’w gynnal ar 20 Chwefror 2024.

Eitem 30 – (Adroddiad Monitro Cyllideb y Cyfrif Refeniw Tai – Chwarter 3, 2023/2024) sef eitem a symudwyd o’r cyfarfod i’w gynnal ar 20 Chwefror 2024.

Eitem 31 – Cyllideb Refeniw 2024/2025 – eitem newydd

Eitem 32 – Cyllideb Gyfalaf 2024/2025 – eitem newydd

 

PENDERFYNWYD cadarnhau Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith a ddiweddarwyd ar gyfer y cyfnod Tachwedd 2023 i Fehefin 2024 gyda’r newidiadau y cyfeiriwyd atynt yn y cyfarfod.

 

5.

Adroddiad Blynyddol Rheoli Trysorlys 2022/23 pdf eicon PDF 283 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 yn ymgorffori’r Adolygiad Rheoli Trysorlys Blynyddol ar gyfer 2022/2023 i’r Pwyllgor Gwaith ei ystyried.

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cynghorydd Robin Williams, y Dirprwy Arweinydd ac Aelod Portffolio Cyllid, a dywedodd bod rhaid i’r Cyngor, yn unol â rheoliadau a gyhoeddwyd o dan Ddeddf Llywodraeth Leol 2003, lunio adolygiad rheoli trysorlys blynyddol o’i weithgareddau a’r dangosyddion darbodus a thrysorlys gwirioneddol ar gyfer 2022/23. Mae’r adroddiad hwn yn bodloni gofynion Cod Ymarfer CIPFA ar Reoli Trysorlys (y Cod) a Chod Darbodus CIPFA ar gyfer Cyllid Cyfalaf mewn Awdurdodau Lleol (y Cod Darbodus). Mae’r adroddiad yn darparu manylion am y sefyllfa alldro ar gyfer gweithgareddau trysorlys ac mae’n amlygu cydymffurfiaeth y Cyngor â pholisïau a gymeradwywyd yn flaenorol gan Aelodau.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 fod yr adroddiad yn nodi perfformiad y Cyngor yn erbyn y Strategaeth Rheoli Trysorlys a fabwysiadwyd gan y Cyngor Llawn ym mis Mawrth 2022. Fodd bynnag, mae’r hinsawdd ariannol wedi newid yn gyfan gwbl ers cyhoeddi’r Strategaeth a gwelwyd cynnydd sylweddol mewn chwyddiant a chyfraddau llog, ac mae hynny wedi effeithio ar gost benthyca ac enillion ar fuddsoddiadau. Nododd fod y Cyngor wedi benthyca £20.3m yn llai nag y gallai ei fenthyca yn ystod 2022/2023 trwy ddefnyddio balansau arian parod y Cyngor ei hun i ariannu gwariant cyfalaf. Roedd hyn yn golygu nad oedd yr angen i fenthyca arian cyfalaf wedi’i gyllido’n llawn gan ddyled benthyciadau gan fod arian a oedd yn cynnal cronfeydd, balansau a llif arian y Cyngor wedi cael ei ddefnyddio fel mesur tymor byr. Roedd dyledion allanol £1.5m yn is yn ystod y flwyddyn, ac roedd balans y dyledion yn £123.8m ar ddiwedd y flwyddyn ariannol. I’r gwrthwyneb, roedd gostyngiad o £3m, i £59.8m, ym malansau cronfeydd a darpariaethau. Roedd yr holl benderfyniadau rheoli trysorlys a wnaed yn ystod y flwyddyn yn unol â’r strategaeth Rheoli Trysorlys a ni thorrwyd yr un o’r dangosyddion darbodus yn ystod y flwyddyn. Ychwanegodd fod y Polisi MRP (Darpariaeth Isafswm Refeniw) wedi cael ei adolygu yn ystod 2022/2023 ac arweiniodd hynny, ynghyd ag enillion gwell na’r disgwyl ar fuddsoddiadau, at ostyngiad sylweddol yn y costau refeniw.

 

PENDERFYNWYD:-

 

·         Nodi y bydd y ffigyrau alldro yn yr adroddiad yn parhau yn rhai dros dro hyd nes bod yr archwiliad o’r Datganiad o Gyfrifon 2022/23 wedi’i gwblhau a’i gymeradwyo; adroddir fel y bo’n briodol ar unrhyw addasiadau sylweddol i’r ffigyrau a gynhwysir yn yr adroddiad;

·         Nodi dangosyddion darbodus a thrysorlys dros dro 2022/23 a gynhwysir yn yr adroddiad;

·         Anfon Adroddiad yr Adolygiad Rheoli Trysorlys Blynyddol ar gyfer 2022/2023 ymlaen i’r Cyngor Llawn heb wneud unrhyw sylwadau pellach.

 

6.

Rheoli'r Trysorlys - Chwarter 1, 2023/24 pdf eicon PDF 345 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 a oedd yn nodi’r gweithgareddau Rheoli Trysorlys yn ystod Chwarter 1 2023/24 i’r Pwyllgor Gwaith ei ystyried.

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cynghorydd Robin Williams, y Dirprwy Arweinydd ac Aelod Portffolio Cyllid, a dywedodd bod rhaid adrodd ar y dangosyddion darbodus bob chwarter bellach, yn hytrach na dwywaith y flwyddyn, yn unol â gofynion Cod Ymarfer CIPFA ar gyfer Rheoli Trysorlys a Chod Darbodus CIPFA 2021. Yn dilyn trafodaethau rhwng yr Aelod Portffolio a’r Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151, cytunwyd y byddai’r Aelod Portffolio Cyllid yn ystyried a derbyn adroddiad chwarterol ar gyfer Chwarter 1 a Chwarter 3 cyn eu cyflwyno i’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio er gwybodaeth yn unig, ac y byddai’r adroddiad canol blwyddyn a’r adroddiad blynyddol yn unig yn cael eu cyflwyno i’r Pwyllgor Gwaith a’r Cyngor Llawn.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 fod balansau mewnol yn parhau i ariannu gwariant cyfalaf a chan fod cyfraddau llog yn uchel, nid yw’n ddarbodus ymrwymo i fenthyciadau tymor hir pe cyfyd yr angen er mwyn osgoi cyfraddau llog uchel. Rhagwelir y bydd cyfraddau llog yn parhau i fod yn uchel am beth amser. Nododd fod y cronfeydd ariannol yn gostwng ac, ar ddiwedd Chwarter 1, roedd y cyfanswm a fuddsoddwyd yn £53.097m, fel y dangosir yn Nhabl 5.6. Rhwng 1 Ebrill 2023 a 30 Mehefin 2023, roedd yr enillion ar y buddsoddiadau hyn yn £0.457m ac mae disgwyl y bydd cyfanswm y llog a dderbynnir yn 2023/2024 yn £1.287m. Serch hynny, mae balansau arian parod yn gostwng wrth i’r flwyddyn ariannol fynd rhagddi felly ni fydd yn ymarferol adnewyddu’r holl fuddsoddiadau hyn pan fyddant yn aeddfedu. Ychwanegodd fod y Cyngor wedi gweithredu o fewn y dangosyddion trysorlys a darbodus a nodir yn y Datganiad ar y Strategaeth Rheoli Trysorlys ar gyfer 2023/2024.

 

PENDERFYNWYD:-

 

·         Nodi’r adroddiad, y gweithgareddau rheoli trysorlys a’r dangosyddion darbodus ar 30 Mehefin 2023;

·         Bod adroddiadau Rheoli Trysorlys Chwarter 1 a Chwarter 3 yn cael eu hadolygu a’u derbyn gan yr Aelod Portffolio Cyllid o hyn ymlaen a’u cyflwyno i’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio er gwybodaeth yn unig. Bydd yr adroddiadau canol blwyddyn yn dilyn yr un broses h.y. adroddiad i’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio, y Pwyllgor Gwaith a’r Cyngor llawn.

 

7.

Strategaeth Cyfranogiad Cyhoeddus 2023-28 pdf eicon PDF 470 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Proffesiwn – AD a Thrawsnewid.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Proffesiwn (Adnoddau Dynol) a Thrawsnewid yn ymgorffori’r Strategaeth Cyfranogiad y Cyhoedd 2023 – 2028 i’r Pwyllgor Gwaith ei ystyried.

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cynghorydd Carwyn Jones, Aelod Portffolio Busnes Corfforaethol a Phrofiad y Cwsmer, a dywedodd fod rhaid i awdurdodau lleol yng Nghymru, yn unol â gofynion Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021, lunio Strategaeth Cyfranogi sy’n nodi sut y caiff pobl leol eu hannog i gymryd rhan ym mhroses gwneud penderfyniadau’r Cyngor. Nod y strategaeth yw annog pobl i gymryd rhan ym musnes y Cyngor ac adeiladu ar y llwyddiant y mae’r Cyngor wedi’i gael wrth ymgysylltu â thrigolion, fel sy’n cael ei gydnabod gan Archwilio Cymru. Mae enghreifftiau o gyfranogi wedi’u cynnwys yn y Strategaeth a’r adroddiad. Cynhaliwyd ymarfer ymgysylltu gyda swyddogion y Cyngor dros gyfnod o bedair wythnos. Roedd cyfran uchel o’r swyddogion a ymatebodd yn cytuno â chynnwys y Strategaeth a dengys hyn fod cefnogaeth i’r Strategaeth ac mae’n fwriad adolygu’r Strategaeth yn rheolaidd. Mae’r angen i wella lefelau cyfranogiad ymysg plant a phobl ifanc ym mhenderfyniadau’r Cyngor yn cael ei gydnabod, yn ogystal ag edrych ar ddulliau newydd o gasglu a chyflwyno adborth yn ddigidol ac ystyried ffyrdd o adrodd ar lwyddiant/diffyg llwyddiant o ran cyfranogi. Yn dilyn y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Gwaith, nododd y byddai’r Strategaeth Cyfranogiad y Cyhoedd yn cael ei chyflwyno i’r Pwyllgor Llawn ei chymeradwyo ar 26 Hydref 2023.

 

Dywedodd y Pennaeth Proffesiwn (Adnoddau Dynol) a Thrawsnewid y bu gwaith yn mynd rhagddo ers nifer o flynyddoedd mewn perthyna â chyfranogiad y cyhoedd ac annog preswylwyr i ymateb i brosesau ymgynghori o fewn y Cyngor. Nododd y bydd y Strategaeth yn darparu llwyfan a sylfaen gref i’r Awdurdod wella cyfranogiad y cyhoedd. Ategodd y Rheolwr Rhaglen fod y Strategaeth yn ffurfioli llawer o’r gwaith sy’n digwydd yn barod a bod y Strategaeth yn sylfaen gref y gellir adeiladu arni i gynyddu cyfranogiad y cyhoedd yn y dyfodol.

 

Cafwyd adborth gan y Cynghorydd Gwilym O Jones, Is-gadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio, yn dilyn cyfarfod o’r Pwyllgor ar 17 Hydref 2023 pan graffwyd ar yr adroddiad ar y Strategaeth Cyfranogiad y Cyhoedd 2023-2028. Gofynnodd aelodau’r Pwyllgor hwnnw gwestiynau ynghylch sut a pham y mae angen i’r Cyngor lunio strategaeth gyfranogi a sut fydd y Strategaeth yn cynorthwyo’r Cyngor i wireddu Cynllun y Cyngor. Gofynnwyd cwestiynau pellach am y prosesau a’r trefniadau a roddir ar waith i sicrhau fod yr Awdurdod yn cydymffurfio’n llawn â gofynion y Strategaeth, yn ogystal ag unrhyw oblygiadau ariannol. Cyfeiriwyd hefyd at gyfraniad cymunedau lleol a Chynghorau Tref a Chymuned wrth hyrwyddo ymgysylltu. Cadarnhaodd y Cynghorydd Gwilym O Jones fod y Pwyllgor, ar ôl trafod y mater, wedi cytuno i nodi’r Strategaeth Cyfranogiad y Cyhoedd ac argymell i'r Pwyllgor Gwaith a’r Cyngor llawn y dylid mabwysiadu’r Strategaeth. Roedd y Pwyllgor hefyd yn argymell i’r Pwyllgor Gwaith a’r Cyngor llawn y dylid awdurdodi’r Pennaeth Proffesiwn (Adnoddau Dynol) a Thrawsnewid, mewn ymgynghoriad â’r Aelod Portffolio – Busnes Corfforaethol a Phrofiad y Cwsmer,  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 7.