Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Cyfarfod Hybrid - yn Siambr y Cyngor, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni ac yn Rhithiol drwy ZOOM
Cyswllt: Ann Holmes
Rhif. | Eitem |
---|---|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes. Dogfennau ychwanegol: |
|
Materion brys ardystiwyd gan y Prif Weithredwr neu ei Swyddog Apwyntiedig Dim materion brys ar adeg anfon y rhaglen hon. Dogfennau ychwanegol: |
|
Cyflwyno i’w cadarnhau, gofnodion drafft cyfarfod y Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar 24 Hydref 2023.
Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Penderfynwyd cadarnhau fod cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar 24 Hydref 2023 yn gywir.
|
|
Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Democratiaeth. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Penderfynwyd cadarnhau Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith wedi’i diweddaru am y cyfnod Rhagfyr 2023 – Gorffennaf 2024 gyda’r newidiadau a amlinellwyd yn y cyfarfod.
|
|
Monitro'r Cerdyn Sgorio - Chwarter 2, 2023/24 Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Proffesiwn – AD a Thrawsnewid. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Penderfynwyd derbyn yr adroddiad Monitro’r Cerdyn Sgorio ar gyfer Chwarter 2 2023/24 a nodi’r meysydd y mae’r Tîm Arweinyddiaeth yn eu harchwilio er mwyn eu rheoli a sicrhau gwelliannau yn y dyfodol fel yr amlinellir yn yr adroddiad.
|
|
Monitro'r Gyllideb Refeniw - Chwarter 2, 2023/24 Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Penderfynwyd – · Nodi’r sefyllfa a amlinellir yn Atodiadau A a B yr adroddiad mewn perthynas â pherfformiad ariannol yr Awdurdod hyd yma a’r alldro a ddisgwylir ar gyfer 2023/24; · Nodi’r crynodeb o gyllidebau wrth gefn ar gyfer 2023/24, y manylir arnynt yn Atodiad C; · Nodi’r modd y caiff costau asiantaeth ac ymgynghorwyr eu monitro ar gyfer 2023/24 yn Atodiadau CH a D.
|
|
Monitro Cyllideb Gyfalaf - Chwarter 2, 2023/24 Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Penderfynwyd – · Nodi cynnydd y gwariant a’r derbyniadau yn erbyn y gyllideb gyfalaf ar gyfer 2023/24 yn Chwarter 2. · Cymeradwyo’r cynlluniau ychwanegol gwerth £7.319m a ychwanegwyd i’r rhaglen gyfalaf a’r cyllid diwygiedig, yn unol ag Atodiad C yr adroddiad, a fydd yn rhoi cyllideb gyfalaf o £60.018m ar gyfer 2023/24
|
|
Monitro Cyllideb y Cyfrif Refeniw Tai - Chwarter 2, 2023/24 Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.
Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Penderfynwyd nodi’r canlynol – · Y sefyllfa a nodir mewn perthynas â pherfformiad ariannol y Cyfrif Refeniw Tai (CRT) ar gyfer Chwarter 2 2023/24. · Yr alldro a ragwelir ar gyfer 2023/24
|
|
Sylfaen y Dreth Gyngor 2024/25 Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Penderfynwyd – · Nodi cyfrifiad Sylfaen y Dreth Gyngor gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151, fydd yn cael ei ddefnyddio gan Lywodraeth Cymru ar gyfer cyfrifo’r Grant Cynnal Refeniw i Gyngor Sir Ynys Môn am y flwyddyn ariannol 2024/25, sef 31,241.64 (Rhan E6 o Atodiad A yn yr adroddiad) · Cymeradwyo’r cyfrifiad at ddiben pennu Sylfaen y Dreth Gyngor gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 am y cyfan o'r ardal ac am rannau ohoni am y flwyddyn 2024/25 (Rhan E6 o Atodiad A yn yr adroddiad) · Yn unol â Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 a Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyfrifo Sylfaen y Dreth Gyngor) (Cymru) 1995 (SI19956/2561), fel y cawsant eu diwygio gan SI1999/2935 a Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyfrifo Sylfaen y Dreth Gyngor) a’r Dreth Gyngor (Dosbarthiadau Rhagnodedig o Anheddau) (Cymru) (Diwygiad) 2004 a Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyfrifo Sylfaen y Dreth Gyngor) (Cymru) (Diwygiad) 2016, y rhain yw'r cyfansymiau y mae Cyngor Sir Ynys Môn wedi eu cyfrif fel Sylfaen y Dreth am 2024/25 sef 33,170.03, ac am y rhannau hynny o'r ardal fel sydd wedi eu rhestru yn y tabl o dan argymhelliad 3 yn yr adroddiad.
|
|
Strategaeth Tai Gwag 2023-2028 Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Tai. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: |
|
Porthladd Rhydd Ynys Môn – Diweddariad ar baratoi’r Achos Busnes Amlinellol Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Penderfynwyd – · Awdurdodi swyddogion i gwblhau’r Achos Busnes Amlinellol drafft. · Dirprwyo awdurdod i’r Prif Weithredwr, mewn ymgynghoriad â’r Arweinydd ac Aelod Portffolio Datblygu Economaidd, y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro a’r Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151, i gymeradwyo a chyflwyno’r Achos Busnes Amlinellol i’w gymeradwyo gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru. · Cytuno i eithrio’r penderfyniad rhag cael ei alw i mewn (gyda chytundeb Cadeirydd y Cyngor) gan y gallai hynny danseilio’r gwaith o gyflwyno’r Achos Busnes Amlinellol i’r naill Lywodraeth.
|
|
Cau Allan y Wasg a'r Cyhoedd Ystyried mabwysiadau’r canlynol –
“Dan Adran 100 (A)(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, mae modd cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol, oherwydd y posibilrwydd y caiff gwybodaeth ei rhyddhau a honno’n wybodaeth y gwna Atodlen 12A y Ddeddf a’r Prawf Budd y Cyhoedd eithriad ohoni.”
Dogfennau ychwanegol: |
|
Porthladd Rhydd - Trefniadau Llywodraethiant a Gweithredol Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd. Penderfyniad: Penderfynwyd - · Cytuno y bydd Cyngor Ynys Môn yn gweithredu fel corff cyfrifol gyda’r cyfrifoldebau a amlinellir yn yr adroddiad. · Dirprwyo’r awdurdod i’r Prif Weithredwr mewn ymgynghoriad â’r Arweinydd ac Aelod Portffolio Datblygu Economaidd, y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro a’r Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog 151 er mwyn symud ymlaen â’r trefniadau gyda phartneriaid eraill ar gyfer creu strwythur llywodraethu ar gyfer Porthladd Rhydd Ynys Môn a sicrhau cydymffurfiaeth lawn â gofynion llywodraethu priodol y Cyngor. · Bod y Pwyllgor Gwaith yn derbyn adroddiad pellach ar y trefniadau llywodraethu a fydd yn nodi rôl y Cyngor o fewn strwythur llywodraethu Porthladd Rhydd Ynys Môn unwaith y bydd cynnydd pellach o ran y materion a amlinellir yn yr adroddiad.
|