Rhaglen, Penderfyniadau a Chofnodion.

Cyfarfod Hybrid - yn Ystafell Bwyllgor 1, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni ac yn Rhithiol drwy ZOOM, Pwyllgor Gwaith - Dydd Mawrth, 12fed Rhagfyr, 2023 10.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Cyfarfod Hybrid - yn Siambr y Cyngor, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni ac yn Rhithiol drwy ZOOM

Cyswllt: Ann Holmes 

Cyfryngau

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd yr un datganiad o ddiddordeb.

 

2.

Materion brys ardystiwyd gan y Prif Weithredwr neu ei Swyddog Apwyntiedig

Dim materion brys ar adeg anfon y rhaglen hon.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim i’w adrodd.

 

3.

Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith pdf eicon PDF 264 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Democratiaeth.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd i’w gadarnhau, adroddiad y Pennaeth Democratiaeth a oedd yn cynnwys Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith ar gyfer y cyfnod rhwng Ionawr 2024 ac Awst 2024.

 

Derbyniodd y Pwyllgor Gwaith ddiweddariad gan y Pennaeth Democratiaeth ynglŷn â’r newidiadau i’r Flaen Raglen Waith, a nodwyd y canlynol –

 

·           Eitem 16 (Cynllun Bioamrywiaeth – Adroddiad Cynnydd Blynyddol) – wedi cael ei symud o gyfarfod y Pwyllgor Gwaith ar 12 Rhagfyr 2023 i’r cyfarfod ar 20 Chwefror 2024.

·           Eitem 26 (Asesiad o’r Farchnad Dai Leol) – wedi cael ei symud o gyfarfod y Pwyllgor Gwaith ar 12 Mawrth 2024 i’r cyfarfod ar 23 Ebrill 2024.

 

PENDERFYNWYD cadarnhau Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith ar gyfer y cyfnod rhwng Ionawr 2024 ac Awst 2024 gyda’r newidiadau y cyfeiriwyd atynt yn y cyfarfod.

 

4.

Rhenti a Thaliadau Gwasanaethau Tai 2024/25 pdf eicon PDF 192 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Tai.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Tai, a oedd yn ymgorffori Rhenti Tai a Thaliadau Gwasanaeth y CRT ar gyfer 2024/2025, ei gyflwyno i’r Pwyllgor Gwaith ei ystyried.

 

Dywedodd y Dirprwy Arweinydd a’r Aelod Portffolio ar gyfer Plant, Ieuenctid a Gwasanaethau Tai nad yw’r codiad rhent blynyddol cyfredol o MPD +1% yn gymwys gan fod y mynegai prisiau defnyddwyr (MPD) yn 6.7% ym mis Medi 2023 ac mae hynny tu allan i’r amrediad o 0% i 3%. Oherwydd hynny bydd y Gweinidog dros Newid Hinsawdd yn Llywodraeth Cymru’n penderfynu ar y cynnydd priodol ar gyfer Rhenti Tai Cymdeithasol ar gyfer 2024/25. Mae’r Gweinidog wedi penderfynu mai’r codiad rhent uchaf ar draws yr holl stoc dai fydd hyd at 6.7%.

 

Dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Tai fod Llywodraeth Cymru’n disgwyl i’r Awdurdod ymrwymo i gwrdd â Safonau Ansawdd Tai Cymru 2 (SATC2) a lansiwyd yn ddiweddar erbyn 2033 os yw’r Cyngor yn cytuno i godiad o 6.7% yn y rhent blynyddol. Mae disgwyl hefyd i bob Landlord Cymdeithasol Cofrestredig yng Nghymru barhau i gynyddu niferoedd tai cymdeithasol fforddiadwy er mwyn cyflawni eu huchelgais o greu 20,000 o gartrefi newydd. Yn ystod y 3 blynedd diwethaf, mae’r Gwasanaeth Tai wedi cwblhau 131 o unedau newydd ac mae gwaith yn mynd rhagddo ar 39 o gartrefi newydd, yn ogystal â chynlluniau ar gyfer Cynllun Tai Gofal Ychwanegol ym Mhorthaethwy. Serch hynny, wrth ystyried cynyddu’r rhent blynyddol mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno sawl ymrwymiad a chynllun newydd, gan gynnwys gwahardd troi tenantiaid allan oherwydd caledi ariannol yn ystod tymor y setliad cyn belled â bod tenantiaid yn cadw mewn cysylltiad â landlordiaid; targedu cefnogaeth i bobl sy’n profi caledi ariannol er mwyn iddynt dderbyn cymorth. Mae’n ofynnol hefyd gwneud y defnydd gorau o’r holl stoc tai cymdeithasol addas. Cyfeiriodd y Pennaeth Gwasanaethau Tai hefyd at y gofyn i asesu fforddiadwyedd cyfartalog presennol rhenti i denantiaid ac mae’r adroddiad yn cyfeirio at hynny. Anfonwyd holiadur at yr holl denantiaid i ganfod a ydynt o’r farn fod eu rhenti’n deg, yn fforddiadwy a bod y gwasanaeth y maent yn ei dderbyn yn cynnig gwerth am arian. Cafodd 779 o holiaduron eu dychwelyd a’r bwriad oedd cyrraedd cymaint â phosib o denantiaid nad ydynt yn derbyn unrhyw fudd-daliadau sy’n cyfrannu tuag at dalu eu rhenti gan y byddai unrhyw gynnydd posib yn y rhenti’n debygol o effeithio arnynt. Roedd 82% o denantiaid yn cytuno fod y rhenti’n fforddiadwy ac roedd 18% yn anghytuno. Yn ogystal â hynny roedd mwy na 61% o’r holiaduron wedi cael eu cwblhau gan denantiaid sy’n gweithio’n llawn amser sy’n dangos fod yr arolwg wedi targedu tenantiaid nad oeddent o bosib yn gymwys i dderbyn budd-dal tai neu gredyd cynhwysol. Dywedodd hefyd fod Tîm Cynhwysiant Ariannol yn y Gwasanaethau Tai sydd ar gael i ddarparu cyngor a chefnogaeth i denantiaid.

 

Pwysleisiodd y Pwyllgor Gwaith bwysigrwydd annog tenantiaid nad ydynt yn gymwys i dderbyn budd-dal tai a chymorth ariannol ar hyn i bryd i gysylltu â’r Cyngor os ydynt yn wynebu caledi ariannol.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo:-

·           cynnydd  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 4.

5.

Cau Allan y Wasg a'r Cyhoedd pdf eicon PDF 94 KB

Ystyried mabwysiadau’r canlynol –

 

“Dan Adran 100 (A)(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, mae modd cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol, oherwydd y posibilrwydd y caiff gwybodaeth ei rhyddhau a honno’n wybodaeth y gwna Atodlen 12A y Ddeddf a’r Prawf Budd y Cyhoedd eithriad ohoni.”

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD, o dan Adran 100 (A) (4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol, oherwydd y posibilrwydd y caiff gwybodaeth ei rhyddhau a honno’n wybodaeth y gwna Atodlen 12A y Ddeddf a’r Prawf Budd y Cyhoedd eithriad ohoni.

 

6.

Gofal Ychwanegol a Chartref Preswyl Aethwy - Achosion Busnes

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol.

Cofnodion:

Cyflwynwyd i’w ystyried, adroddiad y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol a oedd yn ceisio cymeradwyaeth y Pwyllgor Gwaith i’r Achos Strategol Amlinellol (ASA) / Achos Busnes Amlinellol (ABA) ar gyfer cyfleuster Gofal Ychwanegol a Chartref Gofal Preswyl Aethwy.

 

 

Mynegodd aelodau’r Pwyllgor Gwaith eu diolch i Swyddogion a fu’n ymwneud â’r camau i ddatblygu cyfleuster Gofal Ychwanegol a Chartref Gofal Preswyl Aethwy a nododd y byddai datblygiad o’r fath yn cyfrannu at yr amcan strategol o sicrhau fod gan bob person yr hawl i alw rhywle’n gartref ac i fyw’n annibynnol cyhyd â phosib.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo:-

·         Yr ASA/ABA ar gyfer y cynllun Gofal Ychwanegol/Cartref Gofal Preswyl Aethwy;

·         Cyflwyno’r ASA/ABA i Lywodraeth Cymru;

·         Dirprwyo awdurdod i’r Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol, mewn ymgynghoriad â’r Dirprwy Arweinydd a’r Aelod Portffolio ar gyfer Gwasanaethau Plant, Ieuenctid a Thai, Y Dirprwy Arweinydd a’r Aelod Portffolio Cyllid, yr Aelod Portffolio ar gyfer Gwasanaethau Oedolion a Diogelwch Cymunedol, y Prif Weithredwr, y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 a’r Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro i ddiwygio’r ASA/ABA os bydd angen, ar yr amod nad yw’r newidiadau’n arwain at newidiadau sylweddol (o ran polisi, egwyddorion, cyfraniad ariannol, risgiau a niwed i drydydd parti);

·         Ymrwymo i ariannu gofynion Cyfalaf y Cyngor tuag at gostau’r prosiect, trwy’r Cyfrif Refeniw Tai.