Rhaglen, Penderfyniadau a Chofnodion.

Cyfarfod Hybrid - yn Ystafell Bwyllgor 1, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni ac yn Rhithiol drwy ZOOM, Pwyllgor Gwaith - Dydd Mawrth, 23ain Ionawr, 2024 10.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Cyfarfod Hybrid - yn Siambr y Cyngor, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni ac yn Rhithiol drwy ZOOM

Cyswllt: Ann Holmes 

Cyfryngau

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ddaeth yr un datganiad o ddiddordeb i law.

 

2.

Materion brys ardystiwyd gan y Prif Weithredwr neu Swyddog a benodwyd ganddo

Dim materion brys ar adeg anfon y rhaglen hon.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim i’w adrodd.

 

3.

Cofnodion pdf eicon PDF 177 KB

Cyflwyno i’w cadarnhau, gofnodion drafft cyfarfodydd y Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar y dyddiadau canlynol:-

 

  28 Tachwedd 2023

  12 Rhagfyr 2023

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwydcofnodion cyfarfodydd blaenorol y Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar y dyddiadau a ganlyn, i’w cadarnhau

 

·           28 Tachwedd 2023

·           12 Rhagfyr 2023

 

Penderfynwyd cadarnhau cofnodion cyfarfodydd blaenorol y Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar y dyddiadau canlynol fel rhai cywir

 

·      28 Tachwedd, 2023

·      12 Rhagfyr, 2023

 

4.

Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith pdf eicon PDF 229 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Democratiaeth.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd i’w gadarnhau adroddiad y Pennaeth Democratiaeth yn ymgorffori Rhaglen Gwaith Cychwynnol y Pwyllgor Gwaith am y cyfnod o Chwefror i Fedi 2024.

 

Rhoddodd y Pennaeth Democratiaeth wybod i’r Pwyllgor Gwaith am y sefyllfa bresennol ynghylch newidiadau i’r Blaen Raglen Waith a nodwyd yr isod

 

  • Eitem 3 (Rheoli'r Trysorlys 2023/24 – adolygiad chwe mis), eitem 4 (Strategaeth Gyfalaf) ac eitem 5 (Ffïoedd a Thaliadau 2024/25) yn eitemau newydd i gyfarfod 20 Chwefror 2024 o'r Pwyllgor Gwaith.
  • Eitem 10 (Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2024-25) yn eitem newydd i gyfarfod y Pwyllgor Gwaith ar 20 Chwefror 2024 gydag eitem 17 cysylltiedig (Adroddiad Cydraddoldeb Blynyddol 203/24) yn dod yn benderfyniad dirprwyedig gan yr Aelod Portffolio i’w gyhoeddi ym mis Mawrth 2024.
  • Eitem 21 (Cynllun Rheoli Asedau Corfforaethol 2024-2029) yn eitem newydd i gyfarfod 19 Mawrth 2024 o'r Pwyllgor Gwaith.
  • Eitemau 32-36 (Monitro Perfformiad a'r Gyllideb) yn eitemau newydd i gyfarfod mis Medi 2024 o'r Pwyllgor Gwaith.
  • Cyfarfod ychwanegol o'r Pwyllgor Gwaith wedi'i drefnu ar gyfer 29 Chwefror, 2024 i ystyried cynigion terfynol y Gyllideb ddrafft am 2024/25.

 

Penderfynwyd cadarnhau Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith wedi’i diweddaru am y cyfnod Chwefror i Fedi 2024 gyda’r newidiadau a amlinellwyd yn y cyfarfod.

 

5.

Cylldeb Refeniw Ddrafft 2024/25 pdf eicon PDF 302 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd i sylw’r Pwyllgor Gwaith adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 yn ymgorffori cynigion drafft cychwynnol y Gyllideb Refeniw am 2024/25.

 

Cyflwynodd y Cynghorydd Robin Williams, y Dirprwy Arweinydd a’r Aelod Portffolio Cyllid, yr adroddiad, gan ddweud bod setliad dros dro Llywodraeth Cymru yn dangos cynnydd o £169.8m yn lefel gyffredinol y cyllid i Gymru, sy’n cyfateb i gynnydd o 3.1% mewn arian parod. Mae’r setliad drafft wedi arwain at gynnydd o 2.5% i Ynys Môn (0.6% yn is na chyfartaledd Cymru a’r 17eg cynnydd uchaf o’r 22 awdurdod) sydd, ar ôl i’r prif newidiadau cyllidebol gael eu hystyried, yn gadael diffyg ariannu o £14.391m cyn unrhyw newid yn Nhreth y Cyngor. Byddai pontio'r bwlch hwn drwy Dreth y Cyngor yn unig yn golygu codi Treth y Cyngor 30%, sy'n annerbyniol ac afrealistig ym marn y Pwyllgor Gwaith. Mae'r Pwyllgor Gwaith, felly, yn cynnig gwneud iawn am y diffyg trwy gyfuniad o arbedion yn y gyllideb o £4.773m (cyllid i ysgolion 2.5% yn is na chwyddiant, gostyngiadau yn y gweithlu, arbedion eraill yn y gyllideb, yn unol â Thabl 4 ac Atodiad 3 yr adroddiad a defnyddio Premiwm Treth y Cyngor i gefnogi costau gwasanaeth), defnyddio £4.425m o gronfeydd wrth gefn (£1.6m o’r Balansau Cyffredinol a £2.825m o’r Cronfeydd Wrth Gefn a Glustnodwyd) a chynnydd o 9.78% yn Nhreth y Cyngor ynghyd ag 1.12% ychwanegol i ariannu’r cynnydd yn Ardoll y Gwasanaeth Tân (gan nodi y gallai hyn newid yn seiliedig ar y wybodaeth ddiweddaraf) gan wneud cyfanswm cynnydd o 10.9%. Byddai hyn yn mynd â thâl Band D (ac eithrio praeseptau’r Heddlu a Chynghorau Tref/Cymuned) i £1,592.37, cynnydd o £156.51 neu £3.01 yr wythnos.

 

Er pwysleisio nad oedd lefel y cynnydd yn Nhreth y Cyngor yn rhywbeth y mae'r Pwyllgor Gwaith yn gyfforddus ag o, cyfeiriodd y Cynghorydd Robin Williams at y cyd-destun ariannol anodd a'r hinsawdd ariannol ansicr sydd wedi gwneud paratoi'r gyllideb refeniw dros dro 2024/25 yn dasg heriol. Mae’n ofynnol yn gyfreithiol i’r Cyngor ddarparu cyllideb fantoledig ac, er gwaethaf y cynnydd arfaethedig yn Nhreth y Cyngor, sydd ar lefel debyg i gynnydd dangosol gan awdurdodau eraill, mae Ynys Môn yn parhau i fod yn un o’r awdurdodau sy’n codi’r dreth isaf yng Nghymru, wedi iddo reoli arian yn ddarbodus yn y blynyddoedd blaenorol. Mae hyn wedi cryfhau ei sefyllfa ariannol ac yn ei helpu i ymdrin yn y tymor byr â’r heriau y mae’n eu hwynebu. Os caiff cynigion y Gyllideb ddrafft eu cymeradwyo, byddir yn ymgynghori â’r cyhoedd yn eu cylch am bythefnos.

 

Manteisiodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 ar y cyfle i egluro’r broses o osod y gyllideb a’r opsiynau sydd ar gael i’r Cyngor o ran pennu cyllideb fantoledig, sy’n ofyn cyfreithiol, a thynnodd sylw at y terfynau a’r cyfyngiadau ar y ffynonellau cyllid sydd  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 5.

6.

Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol Di-breswyl yn y Gymuned - Ffioedd a Thaliadau 2024/25 pdf eicon PDF 141 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd i’w ystyried adroddiad Pennaeth y Gwasanaethau Oedolion yn gofyn am gymeradwyaeth y Pwyllgor Gwaith i osod cyfradd ffïoedd a thaliadau gwasanaethau gofal cymdeithasol dibreswyl yn y gymuned am 2024/25.

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cynghorydd Alun Roberts, Aelod Portffolio Gwasanaethau Oedolion, oedd yn nodi’r ffïoedd a’r taliadau arfaethedig am wasanaethau gofal cymdeithasol dibreswyl yn y gymuned am flwyddyn ariannol 2024/25, yn unol â Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Mae'n arferol adolygu'r taliadau mewn perthynas â gwasanaethau cartref yn flynyddol i gyd-fynd ag adolygiad y Llywodraeth Ganolog o lefelau pensiwn a budd-daliadau.

 

Rhoddodd Pennaeth y Gwasanaethau Oedolion y cyd-destun ar gyfer pob categori o ffïoedd a thaliadau ac esboniodd y rhesymeg dros lefel y ffïoedd a gynigiwyd ym mhob achos.

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r canlynol -

 

·      Codi’r uchafswm a ganiateir gan Lywodraeth Cymru ar gyfer gwasanaethau gofal cartref.

·      Y taliadau ar gyfer gwasanaethau Teleofal fel yr amlinellir yn Nhabl A yr adroddiad:

 

Haen 1 – pawb yn talu £75.14 y chwarter

Haen 2 – pawb yn talu 149.63 y chwarter

 

·      Y taliadau Teleofal blynyddol fel yr amlinellir yn Nhabl B:

 

Gwasanaethau a Chynnal a Chadw £140.00

Gwasanaethau’n unig £90.00

Costau gosod unwaith ac am byth £56.00

 

·      Cyfradd o £15.95 yr awr ar gyfer Taliadau Uniongyrchol

 

·      Gweithredu tâl o £17.00 yr awr ar gyfer Micro Ofalwyr.

 

·      Cadw’r taliad o £10.00 ar gyfer gweinyddu ceisiadau am Fathodynnau Glas a darparu bathodynnau newydd fel yr amlnellwyd.

 

·      Bod y ffi ar gyfer prynu gwasanaethu gofal dydd mewn cartrefi preswyl annibynnol yn cynyddu o 6.7% i £44.33 y dydd.

 

·      Bod ffioedd Gofal Cartref yn cynyddu o £1.72 yr awr i gydymffurfio â deddfwriaeth newydd.

 

·      Taliadau am Brydau mewn Gwasanaethau Dydd fel yr amlinellir yn Nhabl C:

 

Prydau mewn Gwasanaethau Dydd i oedolion (ac eithrio pobl ag anableddau dysgu) - £7.65

    Byrbryd ganol dydd mewn Gwasanaethau Dydd ar gyfer pobl ag anableddau dysgu - £3.25

    Lluniaeth arall (te/coffi/teisen) mewn Gwasanaethau Dydd - £1.80

 

 

7.

Ffioedd Cartrefi Gofal y Sector Annibynnol 2024/25 pdf eicon PDF 143 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion yn gofyn am gymeradwyaeth y Pwyllgor Gwaith i osod y gyfradd ar gyfer ffïoedd cartrefi gofal y sector annibynnol am 2024/25, yn unol â gofynion Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cynghorydd Alun Roberts, Aelod Portffolio Gwasanaethau Oedolion oedd yn nodi’r ffïoedd arfaethedig ar gyfer gofal Preswyl, gofal Preswyl yr Henoed Bregus eu Meddwl, gofal Nyrsio a gofal Nyrsio Henoed Bregus eu Meddwl, am y flwyddyn ariannol 2024/25. Mae’n ofynnol i’r Awdurdod Lleol adolygu ffïoedd cartrefi gofal y sector annibynnol yn flynyddol i gyd-fynd â newidiadau’r Llywodraeth Ganolog i lefelau budd-daliadau a phensiynau.

 

Dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion fod angen i’r Cyngor, wrth osod lefelau ffïoedd i gartrefi gofal y sector annibynnol, ddangos ei fod wedi rhoi ystyriaeth lawn i gost y ddarpariaeth wrth bennu ffïoedd gofal safonol. Gwneir hyn mewn cydweithrediad ag awdurdodau lleol eraill Gogledd Cymru a'r Bwrdd Iechyd trwy ddefnyddio Methodoleg Ffïoedd Ranbarthol yn feincnod. Mae’r model hwn wedi’i ddefnyddio’n feincnod am 2024/25 ac mae’r pecyn cymorth methodoleg ranbarthol wedi’i addasu i gynnwys atodiad marchnad ar gyfer darpariaeth yr Henoed Bregus eu Meddwl eto eleni. Ar hyn o bryd nid oes cadarnhad y bydd pob awdurdod yng Ngogledd Cymru’n defnyddio'r fethodoleg ranbarthol yn sail i osod eu ffïoedd am 2024/25. Mae gwaith yn mynd rhagddo gyda chymheiriaid y Cyngor yn y rhanbarth i sicrhau bod ffïoedd Ynys Môn yn gymaradwy. O ystyried amgylchiadau lleol, argaeledd y ddarpariaeth, pwysau galw yn ogystal â’r fformiwla ranbarthol, mae Ynys Môn yn cynnig cynyddu ei ffïoedd 8.8% am 2024/25 i gydnabod y pwysau ariannol a wynebir gan ddarparwyr. Mae hyn yn fwy na’r codiadau chwyddiant a gyfrifwyd gan ddefnyddio’r fethodoleg ranbarthol ac mae ymhell uwchlaw’r cynnydd o 2.5% yn setliad y Cyngor gan Lywodraeth Cymru. Mae ffïoedd arfaethedig Ynys Môn am 2024/25 wedi’u nodi yn Nhabl 2 o’r adroddiad. Os caiff y cynnydd o 8.8% ei gymeradwyo, bydd yn berthnasol i gartrefi sy’n derbyn cyfraddau safonol y Cyngor. Gofynnir i unrhyw un sy'n derbyn ffioedd uwch na'r gyfradd ddangosol ar hyn o bryd rannu gwybodaeth ariannol a byddir yn ystyried codiad ariannol. Bydd yr Awdurdod yn ystyried cyflwyniadau unigol gan ddarparwyr ynghylch ffioedd ac, os gellir dangos nad yw'r ffi a osodwyd yn ddigonol mewn unrhyw achos unigol, bydd yr Awdurdod yn ystyried eithriadau i'r cyfraddau ffioedd, yn unol â'r broses a amlinellir yn yr adroddiad.

 

Penderfynwyd

 

·      Cymeradwyo’r argymhelliad i gynyddu’r lefelau ffioedd fel a ganlyn

 

GofalPreswyl (Oedolion) - £774.47 yr wythnos

Preswyl (Pobl Hŷn Bregus eu Meddwl) - £865.46 yr wythnos

GofalNyrsio (Elfen Gofal Cymdeithasol) - £851.81 yr wythnos

GofalNyrsio (Pobl Hŷn Bregus eu Meddwl) (Elfen Gofal Cymdeithasol) - £1,005.03 yr wythnos

 

·      Awdurdodi’r Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Gwasanaeth Cyllid ymateb i unrhyw geisiadau gan gartrefi  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 7.

8.

Moderneiddio a Thrawsnewid Gweithgareddau Dydd yn Ardal Caergybi pdf eicon PDF 522 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd, i’w ystyried, adroddiad Pennaeth y Gwasanaethau Oedolion yn gofyn am gymeradwyaeth y Pwyllgor Gwaith i gynnig i foderneiddio a thrawsnewid gwasanaethau dydd i oedolion ag anableddau dysgu yn ardal Caergybi.

 

Y rheswm am yr adroddiad oedd er mwyn ymateb i ddyheadau defnyddwyr gwasanaeth a chynnig profiad gwell a mwy amrywiol a gwireddu gweledigaeth y gwasanaethau Oedolion bod cymaint o weithgareddau dydd â phosibl yn cael eu darparu o leoliadau cymunedol, gan roi cyfleoedd i bobl ag anableddau dysgu fynd i weithgareddau prif ffrwd ac integreiddio i fywyd bob dydd a gweithgaredd eu cymunedau. Holwyd defnyddwyr gweithgareddau dydd i ganfod eu barn am weithgareddau a ddarperir o leoliadau cymunedol ym mis Awst a mis Medi 2023 a cheir croestoriad o ymatebion i’r ymarfer yn Atodiad 1 yr adroddiad. Cynhaliwyd ymgynghoriad ffurfiol ar ddyfodol gweithgareddau dydd yng Nghanolfan Morswyn yng Nghaergybi rhwng 23 Hydref a 1 Rhagfyr 2023 a cheir crynodeb o’r ymatebion yn Atodiad 2 i’r adroddiad.

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cynghorydd Alun Roberts, Aelod Portffolio Gwasanaethau Oedolion, gan ddweud y byddai gwireddu’r weledigaeth hon yn fodd i bobl ag anableddau dysgu ddewis lle a phryd y dymunant fynd am weithgareddau. Disgrifiodd ei ymgysylltiad ei hun â phobl ag anableddau dysgu sydd, ynghyd â’r ymatebion i’r ymgynghoriad, wedi dangos eu bod yn glir ynghylch yr hyn y maent yn ei hoffi ac yn ei fwynhau a’r hyn sydd ei eisiau arnynt o ran profiadau, bywyd llawnach, a mwy o reolaeth dros yr hyn y maent yn ei wneud a nhw sy'n llywio'r newidiadau. Cydnabyddir bod gan unigolion anghenion gwahanol ac y bydd angen mwy o gefnogaeth ar rai unigolion nag ar eraill. Bydd y Gwasanaeth yn edrych ar gefnogaeth sy'n ymateb i anghenion unigolion.

 

Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Oedolion fod gweithgareddau dydd i bobl ag anableddau dysgu, yn draddodiadol, wedi’u darparu o adeilad dynodedig. Mae gan y Cyngor bedwar safle penodol sy'n darparu gweithgareddau ar gyfer tua 110 o bobl, gan gynnwys Canolfan Ddydd Morswyn yng Nghaergybi. Er bod mynd i’r canolfannau yn ymateb i anghenion nifer o bobl ac yn cadw pobl yn ddiogel, mae’r model yn canolbwyntio ar fynd i leoliad a chyflawni gweithgareddau ffurfiol a all gyfyngu ar y dewisiadau sydd ar gael i unigolion a chyfyngu ar eu rheolaeth bersonol dros eu bywydau eu hunain. Gan mai ar gyfer pobl ag anableddau dysgu’n unig y mae'r canolfannau'n darparu, nid ydynt bob amser yn hyrwyddo'r nod o wella hyder ac annibyniaeth pobl ag anableddau dysgu nac yn rhoi cyfleoedd i bobl ag anableddau dysgu integreiddio i fywyd bob dydd eu cymunedau. Yn ardal Caergybi mae’r Adran wedi edrych ar ddull amgen o ddiwallu anghenion defnyddwyr, lle darperir gweithgareddau dydd o adeiladau/lleoliadau cymunedol. Roedd yr ymateb wedi bod yn gadarnhaol fel y tystiwyd gan yr ymatebion o’r ymgysylltu a’r ymgynghoriad ffurfiol. Lle mynegwyd pryder ynghylch cefnogi pobl  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 8.